Report: Rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn etholiad cyffredinol y DU ym mis Mehefin 2017
What the report includes
Mae'r adroddiad hwn yn nodi materion penodol a ddaeth i'r amlwg yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol Senedd y DU ym mis Mehefin 2017 ac yn tynnu sylw at y gwaith rhagweithiol a wnaed gennym er mwyn sicrhau y rhoddwyd gwybod i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol, ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau am y rheolau a'u bod yn cydymffurfio â nhw.
Rheoleiddio’r etholiad
Gan fod etholiad cynnar wedi'i gynnal ar fyr rybudd, cyflwynwyd heriau ymarferol i bleidiau ac ymgyrchwyr eraill, ond roeddem yn gallu gweithio'n adeiladol gyda llawer ohonynt. Gan mwyaf, mae'n bleser gennym nodi i bleidiau ac ymgyrchwyr eraill fwriadu cydymffurfio â rheolau cyllid a gwariant etholiadol, ac y gwnaethant hyn. Byddwn yn monitro'r ffurflenni gwariant sydd i'w cyflwyno'n ddiweddarach eleni er mwyn gwneud yn siŵr bod hyn yn wir.
Ymgyrchu digidol
Gwnaeth ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddefnydd sylweddol o ddulliau ymgyrchu digidol yn yr etholiad hwn. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i ymgyrchwyr ymgysylltu â phleidleiswyr. Ond mae risgiau hefyd i dryloywder a hyder i bleidleiswyr, er enghraifft, sy'n ymwneud â'r defnydd o dechnegau targedu uniongyrchol datblygedig, gan gynnwys ‘botau’, ac mae lle i wella cyfraith etholiadol yn y maes hwn.
Ymgyrchu rhai nad ydynt yn bleidiau
Mae cyfanswm y gwariant a adroddwyd hyd yn hyn gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiad cyffredinol mis Mehefin 2017 (ychydig dros £1.8 miliwn) yn tynnu sylw at y rôl sylweddol y gallant ei chwarae yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, ac yn dangos pam ei bod yn bwysig bod rheolau ynghylch eu cyllid a'u gwariant.
Edrych ymlaen: rheoleiddio etholiadau’r dyfodol
Rydym yn barod i weithio gyda llywodraethau a deddfwrfeydd y DU i gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen er mwyn rhoi rhagor o dryloywder ynghylch gwariant ar ymgyrchoedd digidol ac ar-lein. Rydym yn ailadrodd ein hargymhellion blaenorol y dylai fod yn ofynnol i ymgyrchwyr roi argraffnodau ar ddeunydd ymgyrch digidol ac ar-lein, ac y dylid rheoleiddio costau staffio ar gyfer pob math o ymgyrchwyr. Byddai'r newidiadau hyn yn cynyddu tryloywder i bleidleiswyr ynghylch pwy sy'n ceisio dylanwadu ar eu pleidlais yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, a pha dechnegau sy'n cael eu defnyddio.
Rydym hefyd yn ategu ein galwadau am gael pwerau mwy cadarn ar waith er mwyn mynd i'r afael ag achosion o dorri'r rheolau ac y dylai ein pwerau ymchwiliol a chosbi mewn etholiadau pwysig gael eu hymestyn i gynnwys troseddau sy'n ymwneud â gwariant a rhoddion ymgeiswyr. Mae'r rhan fwyaf o ymgyrchwyr yn dilyn y rheolau, ond gall methiannau i gydymffurfio leihau tryloywder i bleidleiswyr a hyder i etholiad gael ei gynnal yn dda. Felly, pan fo'r rheolau'n cael eu torri, mae'n bwysig ymdrin â hyn yn gadarn ac yn effeithiol.
Mae'r amser wedi dod i'r newidiadau hynny gael eu rhoi ar waith gan lywodraethau a deddfwrfeydd y DU, cyn yr etholiadau cenedlaethol nesaf yn 2021 a 2022.