Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019
Overview
Dyma grynodeb o'n hadroddiad ar etholiad cyffredinol y DU yn 2019. Mae'r adroddiad yn parhau mewn dwy adran fanwl, sy'n ymwneud â chyflawni'r etholiad ac ymgyrchu yn yr etholiad.
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn fel PDF
Etholiad Cyffredinol Senedd y DU
Overview
Cofrestrwyd mwy na 40 miliwn o bobl i bleidleisio, a phleidleisiodd 67% o'r rhain.
Cafodd yr etholiad ei gynnal yn dda ar y cyfan, ond mae tystiolaeth newydd sy'n dangos heriau ar gyfer y dyfodol
Cynhaliwyd etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 ddydd Iau 12 Rhagfyr. Cofrestrwyd mwy na 40 miliwn o bobl i bleidleisio, a phleidleisiodd 67% o'r rhain. Roedd lefelau uchel o foddhad â'r broses cofrestru i bleidleisio a'r broses bleidleisio. Roedd y rhain yn debyg i etholiadau eraill yn y DU.
Fodd bynnag, y tu ôl i'r darlun hwn, sy'n gadarnhaol yn gyffredinol, rydym hefyd wedi gweld tystiolaeth o bryderon a phroblemau yn yr etholiad hwn. Ni chafodd rhai pobl y gwasanaeth y dylent allu bod wedi ei ddisgwyl, ac nid oedd llawer yn hyderus bod yr etholiad wedi cael ei gynnal yn dda.
Er i fwy na dwy ran o dair ddweud eu bod yn hyderus bod yr etholiad wedi cael ei gynnal yn dda, dywedodd lleiafrif sylweddol o bron i un ym mhob pum person wrthym nad oeddent yn hyderus. Dewisodd llawer o'r bobl hyn resymau oedd yn ymwneud â phryderon ynghylch ymgyrchu neu'r cyfryngau i egluro pam nad oeddent yn hyderus. Hefyd, dewisodd rai bryderon a oedd yn ymwneud â'r ffordd yr oedd y broses gofrestru neu bleidleisio yn gweithio.
Mae ein hadroddiad yn disgrifio sut mae strwythurau gweinyddu etholiadau y DU o dan straen sylweddol, ac yn dangos bod gan bobl bryderon cynyddol ynghylch rhai agweddau ar ymgyrchoedd etholiadol.
Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion ynghylch sut y gellid gwella'r broses o gynnal etholiadau. Digwyddodd hyn cyn ystyried effaith lawn y pandemig Covid-19, a oedd ond yn dechrau dod i'r amlwg adeg cyhoeddi’r adroddiad. Mae'n bosibl y bydd rhagor o argymhellion er mwyn sicrhau bod etholiadau'n cael eu cynnal yn effeithiol yn y dyfodol.
Heriau cynnal etholiadau
Heriau cynnal etholiadau
- Roedd Swyddogion Cofrestru Etholiadol dan bwysau gan fod nifer mawr o geisiadau i gofrestru i bleidleisio wedi'u gwneud yn agos at y dyddiad cau, a bu'n rhaid iddynt dreulio amser ar adeg bwysig yn delio â llawer o geisiadau dyblyg
- Ni chafodd rhai etholwyr tramor ddigon o amser i dderbyn a dychwelyd pleidleisiau post cyn y diwrnod pleidleisio, fel oedd wedi digwydd o'r blaen, a olygodd na ellid cyfrif eu pleidleisiau
- Daeth amseru'r etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr â heriau penodol i Swyddogion Canlyniadau, a gafodd fwy o drafferth i recriwtio staff a threfnu gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif
Heriau yn sgil dulliau datblygol a ddefnyddir mewn ymgyrchoedd etholiadol
Heriau yn sgil dulliau sy'n datblygu a ddefnyddir mewn ymgyrchoedd etholiadol
- Mae cynnwys a dulliau cyflwyno camarweiniol yn tanseilio ymddiriedaeth pleidleiswyr mewn ymgyrchoedd etholiadol
- Nid yw ychwaith yn amlwg pwy sydd y tu ôl i ddeunydd ymgyrchoedd etholiadol digidol yn aml, ac mae perygl y bydd pryderon sylweddol ymysg y cyhoedd ynghylch tryloywder ymgyrchoedd etholiadol digidol yn drech na'u buddiannau
- Derbyniodd rhai ymgeiswyr lefelau sylweddol ac annerbyniol o fygythiadau, camdriniaeth neu fygylu
Mynd i'r afael â'r heriau hyn cyn etholiad cyffredinol nesaf y DU
Nid yw llawer o'r heriau a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn yn rhai newydd. Rydym wedi gweld materion tebyg yn codi mewn etholiadau eraill diweddar yn y DU. Ond mae'r dystiolaeth a welwyd ar ôl yr etholiad hwn yn dangos bod gan y cyhoedd a gweinyddwyr etholiadau bryderon sylweddol.
Opportunities
Mae cyfle rhwng nawr a'r etholiad cyffredinol arfaethedig nesaf i gyflwyno newid gwirioneddol, amddiffyn hyder yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal a gwella ymddiriedaeth mewn ymgyrchoedd.
Mae angen dechrau cymryd camau nawr, er mwyn helpu i sicrhau na fydd hyder yn lleihau ymhellach mewn etholiadau yn y dyfodol.
Areas for improvement
Mae ein hadroddiad yn nodi meysydd lle mae angen i lywodraethau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau, pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a rheoleiddwyr gydweithio er mwyn cytuno ar gyfreithiau, prosesau neu safonau ymddygiad newydd. Byddwn yn cefnogi'r gwaith hwn, er mwyn sicrhau bod y newidiadau'n ymarferol ac o fudd i bleidleiswyr ac yn gwella hyder y cyhoedd.
Action needed
Cefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau i fodloni disgwyliadau pleidleiswyr
- Mae angen i Lywodraeth y DU nodi gwelliannau i'r gwasanaeth ar-lein ar gyfer cofrestru i bleidleisio, systemau meddalwedd ar gyfer rheoli etholiadau a'r model cyllido ar gyfer etholiadau, er mwyn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i reoli niferoedd mawr o geisiadau i gofrestru mewn modd effeithiol (yn cynnwys ceisiadau dyblyg) cyn digwyddiadau etholiadol mawr
- Dylai Llywodraeth y DU hefyd archwilio diwygiadau a fyddai'n ei gwneud yn haws i bobl gofrestru neu ddiweddaru eu manylion drwy gydol y flwyddyn, fel trwy integreiddio ceisiadau i gofrestru mewn cysylltiadau gwasanaethau cyhoeddus eraill
- Mae angen i Lywodraeth y DU ystyried dulliau newydd arloesol o wella'r broses o bleidleisio ar gyfer etholwyr tramor, gan ddefnyddio tystiolaeth o wledydd eraill, yn enwedig o ystyried ei chynlluniau i gynyddu nifer y dinasyddion Prydeinig tramor sy'n gymwys i bleidleisio
- Mae angen i dair llywodraeth y DU nodi sut y byddant yn symleiddio ac yn moderneiddio cyfraith etholiadol, gan adeiladu ar yr argymhellion cynhwysfawr gan Gomisiynau'r Gyfraith sydd wedi derbyn cefnogaeth eang
Cefnogi ymddiriedaeth a hyder mewn ymgyrchoedd etholiadol
- Mae angen i ymgyrchwyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol gymryd mwy o gyfrifoldeb am gynnwys ymgyrchoedd y maent yn eu cynnal ynghyd â'r ffordd y cânt eu cyflwyno, ac effaith eu gweithgareddau ar hyder y cyhoedd mewn etholiadau
- Mae angen i Lywodraeth y DU wneud cynnydd ar ei hymgynghoriad arfaethedig ar ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod rhaid i ymgyrchwyr gynnwys gwybodaeth amdanynt eu hunain ar ddeunydd ymgyrchu digidol
- Mae angen i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol roi data mwy manwl a chywir am ymgyrchoedd etholiadol a gwariant mewn llyfrgelloedd hysbysebion ar eu llwyfannau er mwyn sicrhau bod mwy o wybodaeth am bwy sy'n ymgyrchu ar gael i ni a'r pleidleiswyr
Cefnogi pobl sydd am sefyll fel ymgeiswyr
- Dylai pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr eraill, Llywodraeth y DU a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol barhau i gymryd camau i fynd i'r afael ag achosion o fygylu er mwyn sicrhau na fydd pobl yn penderfynu peidio â sefyll etholiad neu ymgyrchu oherwydd perygl camdriniaeth, bygythiadau neu fygylu
The election in depth
Cymerwch olwg fanwl ar y prif faterion a wynebir yn yr etholiad hwn: