Overview

  • Roedd pobl yn pryderu ynghylch dulliau ymgyrchu camarweiniol o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol, a thuedd yn y cyfryngau, a chawsom nifer mawr o gwynion yn codi pryderon am gyflwyniad, tôn a chynnwys ymgyrchoedd etholiadol
  • Mae tryloywder ynghylch pwy sydd y tu ôl i ymgyrchoedd gwleidyddol ar-lein mewn etholiadau yn bwysig i bobl yn y DU. Yn ein gwaith ymchwil ar ôl yr etholiad, cytunodd bron i dri chwarter y bobl ei bod yn bwysig iddynt gael gwybod pwy luniodd y wybodaeth wleidyddol maent yn ei gweld ar-lein, ond llai na thraean oedd yn cytuno y gallant ganfod pwy â'i lluniodd
  • Dywedodd nifer sylweddol o ymgeiswyr a ymatebodd i'n harolwg eu bod wedi cael eu bygylu, gydag un rhan o chwech wedi wynebu lefelau sylweddol. Camdriniaeth ar-lein oedd y gweithgarwch mwyaf cyffredin a nodwyd gan y rheini a oedd wedi cael problemau
  • Aeth Llywodraeth y DU a chyrff eraill ati i fonitro yn ystod cyfnod yr etholiad am risgiau i'r prosesau democrataidd yn sgil ymyrraeth o dramor a thwyllwybodaeth gyfundrefnol, a dywedodd Llywodraeth y DU fod gwaith yn mynd rhagddo i archwilio'r agweddau hyn ar ôl yr etholiad

Campaigning at the 2019 election

Yn etholiad cyffredinol 2019, roedd pleidleiswyr yn pryderu ynghylch y defnydd o ddulliau ymgyrchu camarweiniol gan ymgyrchwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. Yn ystod y cyfnod ymgyrchu, gwnaethom atgoffa ymgyrchwyr bod gan bleidleiswyr hawl i dryloywder ac uniondeb, a gwnaethom alw ar bob ymgyrchydd i ymgymryd â'i rôl hanfodol mewn modd cyfrifol.

Voting at a polling station

A voter placing his vote into a ballot box in a polling station
A voter casting their vote in a polling station

Where voters got information

Cafodd pleidleiswyr wybodaeth am ymgeiswyr a phleidiau yn yr etholiad o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol. Dywedodd dros hanner y bobl a gymerodd ran yn ein harolwg ar ôl yr etholiad eu bod wedi gweld deunyddiau ymgyrchu gan bleidiau ac ymgeiswyr, a dywedodd tua thraean eu bod wedi cael gwybodaeth o'r dadleuon rhwng yr arweinwyr ar y teledu neu o ffynonellau ar-lein. 

  • Dywedodd 55% o'r bobl a gymerodd ran yn ein hymchwil ar ôl yr etholiad eu bod wedi cael gwybodaeth o daflenni 
  • 32% o'r dadleuon rhwng arweinwyr y pleidiau ar y teledu 
  • 29% o bapurau newydd neu wefannau newyddion 
  • 24% o negeseuon cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion gan ymgyrchwyr 

Yn ystod cyfnod yr etholiad, cododd pleidleiswyr bryderon yn uniongyrchol â ni a rheoleiddwyr eraill ynghylch deunydd digidol a deunydd wedi'i argraffu yr oedd rhai ymgyrchwyr yn ei ddefnyddio yn yr etholiad. Roeddent yn pryderu ynghylch cyflwyniad, labelu neu gynllun deunydd ymgyrchu a oedd yn gamarweiniol yn eu barn nhw, a hefyd ynghylch negeseuon a chynnwys rhai ymgyrchoedd.

Public concerns about misleading campaign techniques 

Pryderon y cyhoedd ynghylch dulliau ymgyrchu camarweiniol

  • Roedd rhai ymgyrchwyr wedi brandio eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd a oedd yn golygu nad oedd yn amlwg pwy oedd yn gyfrifol amdanynt, neu a oedd yn defnyddio dolenni camarweiniol i wefannau a oedd yn annog pobl i ymweld â'u gwefannau; roedd enghreifftiau eraill yn defnyddio clipiau fideo wedi'u golygu i gyflwyno eu gwrthwynebwyr mewn ffordd negyddol
  • Nid oedd gwybodaeth am bwy oedd yn gyfrifol am ddeunydd ymgyrchu wedi'i argraffu bob amser yn glir nac yn hawdd ei darllen; nid oedd rhai deunyddiau ymgyrchu digidol yn cynnwys unrhyw wybodaeth am eu ffynhonnell
  • Roedd rhai taflenni wedi'u cynllunio i edrych fel papurau newydd lleol; roedd eraill yn defnyddio lliwiau sydd fel arfer yn gysylltiedig â phleidiau eraill
  • Roedd rhai ystadegau wedi'u dyfynnu'n anghywir neu wedi'u cyflwyno mewn ffyrdd camarweiniol a heb gyd-destun pwysig

Use of imprints

Dylai ymgyrchwyr gynnwys gwybodaeth amdanynt eu hunain – sef 'argraffnod' – ar eu deunydd ymgyrchu. Mae'r gyfraith eisoes yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hyn ar gyfer deunydd a gaiff ei argraffu ym Mhrydain Fawr ond nid yng Ngogledd Iwerddon.

Yn yr etholiad hwn, roedd problemau â deunyddiau rhai ymgyrchwyr yng Ngogledd Iwerddon nad oeddent yn nodi pwy oedd yn gyfrifol amdanynt. Dylai Llywodraeth y DU ddiweddaru'r gyfraith fel bod ymgyrchwyr etholiadol yng Ngogledd Iwerddon yn gorfod rhoi argraffnodau ar eu deunyddiau sydd wedi'u hargraffu.

Cafwyd cwynion hefyd gan bleidleiswyr ym Mhrydain Fawr am fod rhai ymgyrchwyr wedi cynnwys argraffnodau nad oeddent yn glir ar lythyrau neu daflenni. Dylai pob ymgyrchydd barchu ysbryd y rheolau argraffnod a chyflwyno gwybodaeth amdanynt eu hunain y gellir ei darllen yn rhwydd.

Ceir tystiolaeth o'n gwaith ymchwil ar ôl yr etholiad sy'n ymwneud â gwirionedd a thryloywder yn effeithio ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd:

  • Roedd mwy na hanner y bobl (58%) yn cytuno â'r datganiad bod "ymgyrchu ar-lein yn anghywir neu'n gamarweiniol" yn gyffredinol 
  • Roedd cyfran debyg (60%) yn anghytuno â'r datganiad "y gellir ymddiried yn y wybodaeth sydd ar gael ar-lein am wleidyddiaeth" 
  • Yn gyffredinol, dywedodd bron i un o bob pum person (18%) nad oeddent yn hyderus bod yr etholiad wedi cael ei gynnal yn dda, ac o'r bobl hyn, dewisodd bron i'w hanner (49%) y rheswm "roedd yr ymgyrchu yn seiliedig ar wybodaeth anghywir/yn gwneud honiadau anghywir"
  • Pan wnaethom ofyn i bobl flaenoriaethu eu pryderon ynghylch yr etholiad o restr o broblemau, dywedodd dwy ran o dair o’r bobl (67%) fod “tuedd yn y cyfryngau” yn broblem a dywedodd hanner ohonynt (52%) fod “rheolaeth annigonnol o weithgarwch gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol” yn broblem

Rydym wedi tynnu sylw at ein pryderon ynghylch y materion hyn o’r blaen. Os bydd pleidleiswyr yn colli ymddiriedaeth a hyder mewn ymgyrchu gwleidyddol, bydd democratiaeth yn gyffredinol yn dioddef. Mae angen i ymgyrchwyr, ymgeiswyr a phleidiau gymryd mwy o gyfrifoldeb dros gyflwyniad a chynnwys ymgyrchoedd y maent yn eu cynnal ac effaith eu gweithgareddau ar hyder y cyhoedd mewn etholiadau.

Ni allwn fforddio colli’r cyfle rhwng nawr a’r etholiad cyffredinol arfaethedig nesaf. Mae angen newid gwirioneddol er mwyn gwarchod ymddiriedaeth a hyder mewn ymgyrchoedd mewn etholiadau yn y dyfodol ac uniondeb ein democratiaeth. Bydd angen i lywodraethau, pleidiau, ymgyrchwyr, cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a rheoleiddwyr gydweithio i gytuno ar gyfreithiau neu safonau ymddygiad newydd. Byddwn yn cefnogi’r gwaith hwn.

electoral law

A collection of five electoral law books on a shelf
Election law books

concerns about transparency

Cadarnhaodd ein hymchwil ar ôl yr etholiad fod tryloywder ynghylch pwy sydd y tu ôl i ymgyrchoedd gwleidyddol ar-lein mewn etholiadau yn bwysig i bobl yn y DU:

  • Cytunodd bron i dri chwarter y bobl (72%) ei bod yn bwysig iddynt wybod pwy luniodd y wybodaeth wleidyddol maent yn ei gweld ar-lein 
  • Llai na thraean (29%) oedd yn cytuno y gallant ganfod pwy sydd wedi llunio’r wybodaeth wleidyddol maent yn ei gweld ar-lein
  • Roedd bron i’w hanner (46%) yn cytuno eu bod yn pryderu ynghylch pam a sut roedd hysbysebion gwleidyddol yn cael eu targedu atynt

Dim ond i ddeunydd sydd wedi’i argraffu y mae’r rheolau argraffnod yn gymwys ac nid ydynt yn cwmpasu deunydd digidol. Mae hyn yn creu bwlch anferth yn y rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgyrchwyr ddarparu gwybodaeth amdanynt eu hunain ar eu deunydd ymgyrchu.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn ymgynghori ar reolau newydd ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu digidol; byddwn yn helpu i ddatblygu’r rheolau newydd hyn er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi tryloywder i bleidleiswyr a’u bod yn ymarferol i ymgyrchwyr. Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol sicrhau bod y broses o roi argraffnodau ar ddeunydd digidol y talwyd amdano a deunydd digidol nas talwyd amdano yn rhwydd i ymgyrchwyr pan fydd yn ofyniad cyfreithiol.

Dylai Llywodraeth y DU hefyd bennu cynlluniau i foderneiddio’r rheolau ar gyfer ymgyrchwyr er mwyn cyd-fynd â’r oes ddigidol. Dylai’r gyfraith ddweud wrth ymgyrchwyr a llwyfannau digidol faint o wybodaeth y mae angen iddynt ei rhoi i bleidleiswyr, y cyfryngau, ymgyrchwyr eraill a rheoleiddwyr, yn cynnwys y Comisiwn, ynghyd â’r math o wybodaeth. 

Yn yr etholiad hwn, cyhoeddodd Facebook, Google a Snapchat lyfrgelloedd ac adroddiadau ar yr hysbysebion gwleidyddol a gynhaliwyd ar eu llwyfannau a’u sianelau yn ystod yr etholiad. Gwnaethant hefyd ei gwneud yn ofynnol i hysbysebwyr gwleidyddol roi ymwadiad ‘Talwyd amdano gan ar eu hysbysebion gwleidyddol.

Mae'r mesurau hyn yn gam yn y cyfeiriad cywir ac maent yn ein galluogi i weld pwy sy'n talu i osod hysbysebion. Ond nid ydynt yn rhoi digon o wybodaeth am ymgyrchoedd digidol o hyd.

Cyfyngiadau mesurau tryloywder y cyfryngau cymdeithasol a'r ffyrdd ymlaen

Cyfyngiadau mesurau tryloywder y cyfryngau cymdeithasol a'r ffyrdd ymlaen

  • Mae gan y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddiffiniadau gwahanol o hysbysebion gwleidyddol nad ydynt yn cyd-fynd yn llwyr â chyfraith etholiadol. Dylent sicrhau bod eu polisïau yn cyd-fynd â diffiniadau cyfreithiol ymgyrchoedd etholiadol
  • Nid yw'r ymwadiadau 'Talwyd amdano gan' bob amser yn nodi'n glir pwy sydd y tu ôl i'r hysbysebu. Dylai ymwadiadau gynnwys enw'r person neu'r sefydliad a awdurdododd yr hysbyseb ymgyrchu etholiadol, nid dim ond enw neu slogan ymgyrch
  • Nid yw polisïau'r cwmnïau yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ymgyrchoedd etholiadol nas talwyd amdano gael ei labelu fel deunydd gwleidyddol, ac mae hyn yn golygu na fydd yn ymddangos yn y llyfrgelloedd hysbysebion. Dylai eu polisïau gwmpasu ymgyrchoedd etholiadol nas talwyd amdanynt y mae ymgyrchwyr yn eu cyhoeddi i gyrraedd pleidleiswyr a chael eu rhannu gan eraill
  • Mae Facebook a Google yn cynnwys gwybodaeth eang iawn am ble y targedwyd hysbysebion. Os felly, dylent ddangos pa etholaethau a dargedwyd. Dylid cynnwys y wybodaeth hon yn yr hysbyseb ei hun ac yn y llyfrgelloedd hysbysebion
  • Mae'r llyfrgelloedd hysbysebion yn cynnwys amrediadau'r symiau y mae ymgyrchwyr yn eu gwario. Dylent ddarparu ffigurau penodol ar y symiau a wariwyd

Advert libraries

Gwirfoddol yw'r mesurau hyn, ac nid yw pob cwmni sy'n cynnal hysbysebion gwleidyddol wedi creu labeli arbennig na llyfrgelloedd hysbysebion. Dylai fod gofyniad cyfreithiol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am bwy sy'n ymgyrchu ar gael i ni a phleidleiswyr. Dylai fod yn ofynnol i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol roi data mwy manwl a chywir am ymgyrchoedd etholiadol a gwariant yn eu llyfrgelloedd hysbysebion er mwyn sicrhau bod mwy o wybodaeth am bwy sy'n ymgyrchu ar gael i ni a phleidleiswyr.

Mae'r cwmnïau eu hunain wedi dweud y byddent yn croesawu gofynion clir a chyson ynghylch sut y dylent ddelio â deunydd ymgyrchu. Dylai Llywodraeth y DU nodi ffyrdd posibl o gyflawni hyn, er enghraifft drwy'r fframwaith rheoleiddio newydd arfaethedig ar niweidiau ar-lein.

Ond nid dim ond cwmnïau cyfryngau cymdeithasol sydd angen bod yn fwy tryloyw ynghylch gwariant ar ymgyrchu mewn etholiadau; dylai ymgyrchwyr hefyd fod yn gyfrifol am wella tryloywder ynghylch eu hymgyrchoedd. Yn 2018, gwnaethom nodi y dylent roi gwybodaeth fanylach am eu gwariant ar ôl etholiad.

Rydym yn parhau i argymell hyn a byddwn yn siarad ag ymgyrchwyr am y ffyrdd y gallai hyn weithio yn ymarferol. Dylai Llywodraeth y DU gynnwys cynigion ar gyfer rhoi'r argymhelliad hwn ar waith yn ei hymgynghoriad arfaethedig ar uniondeb etholiadol er mwyn diwygio ein cyfreithiau ar gyfer yr oes ddigidol.

Police in a count centre

Three police officers walking in a line through a count centre
Police officers in a count centre

Responding to intimidation of candidates

Mewn ymateb i'r pryderon hyn, gwnaethom ofyn amrywiaeth eang o gwestiynau i ymgeiswyr ynghylch a oeddent wedi cael eu bygwth, eu cam-drin neu eu bygylu, neu a oedd ganddynt bryderon ynghylch hyn. Dyma'r tro cyntaf i ni ganolbwyntio ar y mater hwn yn ein harolwg o ymgeiswyr ar ôl yr etholiad.

Dywedodd rhai wrthym eu bod wedi wynebu lefelau sylweddol ac annerbyniol o fygythiadau, camdriniaeth neu fygylu. Camdriniaeth ar-lein oedd y gweithgarwch mwyaf cyffredin a nodwyd gan y rheini a oedd wedi cael problemau.

Cawsom adborth gan 776 o ymgeiswyr, gan gynrychioli ychydig o dan chwarter o'r cyfanswm a safodd etholiad.

  • Dim ond chwarter yr ymgeiswyr hynny a ymatebodd (27%) a ddywedodd nad oeddent wedi cael unrhyw broblemau o ran bygythiadau, camdriniaeth neu fygylu
  • Dywedodd mwy na hanner (54%) yr ymgeiswyr hynny a roddodd adborth i ni fod ganddynt bryderon ynghylch sefyll etholiad a oedd yn gysylltiedig â bygythiadau, camdriniaeth neu fygylu 
  • Dywedodd tri chwarter yr ymatebwyr (73%) eu bod wedi wynebu rhywfaint o gamdriniaeth, bygythiadau neu fygylu, a dywedodd un o bob chwech eu bod wedi wynebu lefelau sylweddol. Roedd rhai ymgeiswyr o'r farn bod camdriniaeth a bygylu cydgysylltiedig gan gefnogwyr pleidiau neu achosion eraill
  • Ar-lein y gwelwyd yr achosion mwyaf cyffredin o gam-drin, bygwth neu fygylu (nodwyd hyn gan 82% o'r bobl a roddodd adborth i ni), ond clywsom adroddiadau am gamdriniaeth ar lafar ac mewn deunydd wedi'i argraffu hefyd
  • Dywedodd bron i un o bob deg o'r rheini a nododd eu bod wedi cael eu cam-drin (9%) ei fod wedi cynnwys camdriniaeth gorfforol

Dengys data a ddarparwyd gan heddluoedd yn y DU ar ôl yr etholiad fod ychydig dros hanner (54%) wedi cael adroddiadau am fygythiadau, camdriniaeth neu fygylu tuag at ymgeiswyr neu'r rheini a oedd yn ymgyrchu ar eu rhan.

Adborth gan ymgeiswyr

"Er mwyn amddiffyn ein democratiaeth, mae angen i ni fod yn llawer mwy gweladwy wrth ddelio ag achosion o fygylu a pheidio â goddef yr hyn sydd, yn y bôn, yn ymyrraeth etholiadol ac yn ymdrech i geisio dylanwadu ar ganlyniad etholiad."

"Mae'n fater mwy cymhleth na nodi bod 'rhywun' ar fai neu'n gyfrifol amdano. Mae'n broblem gymdeithasol ehangach sy'n cwmpasu democratiaeth, parch i'r broses ddemocrataidd a'r obsesiwn difrïol a chyson o geisio beio a chosbi'r rheini mewn bywyd cyhoeddus."

Adborth gan ymgeiswyr

Candidate survey responses

Dywedodd llawer o ymgeiswyr wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu plaid wleidyddol neu'r heddlu mewn perthynas â mynd i'r afael ag achosion o fygylu neu gamdriniaeth. Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan eu plaid wleidyddol (57%) ac roedd oddeutu dau o bob pump yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan yr heddlu.

Roedd cefnogaeth er mwyn helpu ymgeiswyr i gynnal ymgyrchoedd parchus ac i amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth ar-lein neu mewn digwyddiadau cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys canllawiau a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Coleg Plismona. Roedd yna hefyd nifer o fentrau a dynnodd sylw at ymddygiadau cadarnhaol lle gallai ymgeiswyr ymrwymo i gyfrannu at ymgyrch etholiadol barchus.

Hefyd, yn ystod yr etholiad, rhoddodd rhai o'r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ganllawiau i ymgeiswyr ynghylch diogelwch ar-lein a sefydlu sianel adrodd er mwyn tynnu sylw at gynnwys sy'n bygylu. Er hyn, dywedodd bron i saith o bob deg ymgeisydd (69%) nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi o gwbl gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn cytuno â chasgliadau adolygiad ar fygylu mewn bywyd cyhoeddus gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus a argymhellodd yn 2018 fod angen dull cyfannol er mwyn mynd i'r afael ag achosion o fygylu ymgeiswyr ac eraill. Mae'n gyfrifoldeb ar bawb sy'n rhan o'r broses wleidyddol i ystyried effeithiau eu hymddygiad ar ddemocratiaeth yn y DU.

  • Rhaid i bleidiau gwleidyddol barhau i gydweithio â'r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ar y Safon Ymddygiad ar y Cyd ar gyfer pleidiau a'u haelodau a ddatblygwyd gyda chymorth annibynnol gan Sefydliad Jo Cox. 
  • Dylai Llywodraeth y DU barhau â mesurau i fynd i'r afael ag ymddygiad sy'n bygylu. Dylai nodi'r ffyrdd y mae'n bwriadu creu trosedd etholiadol ar gyfer bygylu ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, a chadarnhau a fydd yn gosod dyletswydd gofal ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol drwy ei fframwaith rheoleiddio arfaethedig ar niweidiau ar-lein.
  • Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol fynd ati i gymryd camau i gyfyngu ar ymddygiad sy'n bygylu ar-lein; mae hyn yn cynnwys gweithredu'r camau ar gyfer cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a gynigiwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus

What UK Government did in 2019

  • Rhoddodd Llywodraeth y DU strwythur cydgysyllteidig ar waith i nodi ac ymateb i faterion a oedd yn dod i'r amlwg ac amddiffyn diogelwch prosesau democrataidd, ac roeddem yn rhan o'r grŵp hwn
  • Bu nifer o ymchwilwyr a grwpiau academaidd yn astudio'r ffyrdd roedd pobl yn cael gafael ar newyddion am yr etholiad ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter ac yn rhannu'r newyddion hynny; roedd hyn yn cynnwys monitro am dystiolaeth o newyddion sothach neu dwyllwybodaeth

Mae'n bwysig peidio â llaesu dwylo mewn perthynas â'r risgiau hyn ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod y gwaith yn parhau i archwilio'r agweddau hyn ar ôl yr etholiad.

Yn 2018, gwnaethom nodi meysydd lle gellid gwella cyfraith etholiadol er mwyn atgyfnerthu ffyrdd o amddiffyn rhag ymyrraeth o dramor mewn etholiadau yn y dyfodol. Dylai Llywodraeth y DU nodi sut y bydd yn datblygu'r argymhellion hyn fel rhan o'i hymgynghoriad arfaethedig ar ymyrraeth o dramor:

  • Dylai'r gyfraith egluro na chaniateir i sefydliadau nac unigolion o dramor wario arian ar ymgyrchoedd etholiadau na refferenda
  • Dylid gwella'r rheolaethau ar roddion a benthyciadau ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr, gan adeiladu ar y dulliau ar gyfer gwella diwydrwydd dyladwy ac asesu risg a ddefnyddir ym maes rheoleiddio ariannol

Byddwn yn gweithio gyda'r llywodraeth i ystyried sut y gellid gorfodi'r cyfreithiau arfaethedig hyn a sicrhau nad ydynt yn cael effaith anghymesur ar ryddid barn.