Overview

  • Roedd pobl yn fodlon iawn ar y broses cofrestru i bleidleisio a'r broses pleidleisio yn etholiad cyffredinol 2019, ac yn teimlo eu bod wedi cael digon o wybodaeth am yr etholiad a sut i gofrestru a bwrw eu pleidlais
  • Roedd nifer y ceisiadau i gofrestru a wnaed cyn y dyddiad cau yn uwch o lawer nag yn etholiad cyffredinol 2017 – gwnaeth 3.85 miliwn o bobl gais i gofrestru i bleidleisio, yn cynnwys 660,000 a wnaeth gais ar y diwrnod olaf i gofrestru
  • Mae data gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn dangos bod tua un o bob tri chais yn rhai dyblyg, wedi'u cyflwyno gan rywun a oedd wedi cofrestru’n gywir eisoes, ac mewn rhai ardaloedd, mae'r data yn awgrymu bod cyfran y ceisiadau dyblyg hyd yn oed yn uwch
  • Y pryder a nodwyd amlaf mewn adborth gan etholwyr tramor oedd nad oeddent wedi derbyn eu pleidlais bost mewn da bryd i allu ei chwblhau a'i dychwelyd
  • Dywedodd mwy na thraean y gweinyddwyr etholiadau a ymatebodd i'n harolwg eu bod nhw neu eu timau yn cael trafferth ymdopi â gofynion y rôl a'r llwyth gwaith ychwanegol yn sgil digwyddiadau etholiadol nas cynlluniwyd yn 2019

Mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol dan bwysau yn sgil y nifer mawr o geisiadau mewn digwyddiadau etholiadol mawr

A person registering to vote on their phone
Registering to vote online

Duplicate applications

Arweiniodd y nifer mawr o geisiadau dyblyg at bwysau diangen ychwanegol ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau.

EROs and duplicate applications

Mae data gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn dangos bod llawer o geisiadau wedi cael eu cyflwyno gan bobl a oedd eisoes wedi cofrestru’n gywir:

  • Roedd tua un o bob tri chais a gawsant cyn y dyddiad cau yn rhai dyblyg 
  • Mewn rhai ardaloedd, roedd cyfran y ceisiadau dyblyg hyd yn oed yn uwch 
  • Dim ond tua hanner yr holl geisiadau a arweiniodd at ychwanegu enw at y gofrestr

Cawsom adborth gan 160 o Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau neu weinyddwyr etholiadau ledled y DU. Dywedodd bron hanner (46%) y rhai a ymatebodd i'n harolwg fod nifer y ceisiadau dyblyg a gafwyd yn ystod yr etholiad wedi achosi straen ar adnoddau ac ar staff, y bu'n rhaid iddynt weithio llawer o oriau ychwanegol er mwyn eu prosesu mewn pryd, ynghyd â phrosesu ceisiadau i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy. 

Adborth gan weinyddwyr etholiadau

"Mae'r broses o ymdrin â cheisiadau dyblyg yn hunllef drwy gydol y flwyddyn, ond mae'n draenio adnoddau mewn etholiad proffil uchel."

"Mae nifer y ceisiadau dyblyg yn annerbyniol ac yn creu llwyth gwaith ychwanegol anferth heb unrhyw fudd i'r gofrestr."

Adborth gan weinyddwyr etholiadau

EROS and postal votes

Hefyd, roedd y dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais i gofrestru i bleidleisio ac i bleidleisio drwy'r post ar yr un diwrnod ym Mhrydain Fawr, ar ôl i'r Senedd newid y gyfraith; pasiodd Ddeddf Etholiad Cyffredinol Cynnar y Senedd 2019 ym mis Tachwedd, er mwyn sicrhau bod y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar yr un diwrnod ledled y DU. Dywedodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol a gweinyddwyr etholiadau wrthym eu bod dan fwy o bwysau yn yr etholiad hwn am eu bod wedi gorfod prosesu'r ddau fath o gais erbyn yr un dyddiad cau.

O ganlyniad i'r pwysau hyn, cafodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau drafferth i ddarparu lefel yr adnoddau oedd ei hangen i brosesu ceisiadau. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn golygu na chafodd pleidleiswyr y gwasanaeth y dylent allu ei ddisgwyl. Er enghraifft: 

  • Yn Plymouth, roedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi cynnwys 1,451 o bobl ar y gofrestr etholwyr nad oeddent wedi cwblhau cais unigol i gofrestru. Cafodd y broblem hon ei nodi a’i datrys cyn y diwrnod pleidleisio, ond arweiniodd at ddryswch ynghylch a allai rhai pobl bleidleisio yn yr etholiad. Nid oedd llawer o amser wedyn i'r bobl yr effeithiwyd arnynt wneud cais i gofrestru'n gywir cyn y dyddiad cau. Ni wnaeth y Swyddog Cofrestru Etholiadol gyrraedd ein safonau perfformiad yn llawn
  • Yng Ngogledd Iwerddon, anfonodd y Swyddfa Etholiadol lythyrau yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ofynnol gan rai pobl a oedd wedi gwneud cais i bleidleisio, ond roedd rhai o'r llythyrau yn cynnwys dyddiad cau anghywir ar gyfer ymateb. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Etholiadol y byddai cofrestriad unrhyw un a ymatebodd ar ôl y dyddiad hwn ond cyn y dyddiad cau gwirioneddol wedi cael ei brosesu'n gywir1

Dywedodd gweinyddwyr etholiadau wrthym hefyd fod y nifer mawr o geisiadau i gofrestru a cheisiadau am bleidlais absennol wedi effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio ar gynnal yr etholiad ar adeg dyngedfennol.

Adborth gan weinyddwr etholiadau

Roedd yn heriol iawn cynnal ein lefel brosesu i gwblhau'r gwaith erbyn diwedd pob diwrnod gwaith – bu sawl aelod o staff yn gweithio oriau ychwanegol bob nos ac ar benwythnosau er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r nod.Gwelsom gynnydd sydyn yn lefelau'r ceisiadau i gofrestru, ceisiadau am Bleidlais Absennol a chynnydd yr un mor sydyn yn nifer y ceisiadau gan etholwyr tramor. Hefyd, roedd 33% o'r ceisiadau yn y cyfnod cyn yr etholiad yn geisiadau dyblyg i gofrestru.

Adborth gan weinyddwr etholiadau

EROs need more support

Mae angen mwy o gymorth ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol i'w helpu i barhau i gyflawni'r lefel o wasanaeth y dylai pobl allu ei disgwyl cyn digwyddiadau etholiadol mawr. Dylai Llywodraeth y DU ystyried y model cyllido ar gyfer etholiadau Senedd y DU yn y dyfodol er mwyn sicrhau y gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol ymdopi â niferoedd mawr o geisiadau i gofrestru. Yn fwy sylfaenol, dylai hefyd ystyried ffyrdd o wella'r gwasanaeth ar-lein ar gyfer cofrestru i bleidleisio a'r systemau meddalwedd rheoli etholiadau er mwyn lleihau nifer y ceisiadau dyblyg i gofrestru a'u heffaith.

Dylai llywodraethau'r DU hefyd archwilio diwygiadau a fyddai'n ei gwneud yn haws i bobl gofrestru neu ddiweddaru eu manylion drwy gydol y flwyddyn, fel integreiddio ceisiadau mewn cysylltiadau gwasanaethau cyhoeddus eraill neu ddulliau cofrestru mwy awtomatig. Gallai hyn helpu i leihau'r angen i bobl wneud ceisiadau newydd yn y cyfnod cyn etholiad.

Overseas voters found it difficult to vote

A person counting votes at a count centre
Votes being counted

Overseas voter experience

Roedd ychydig dros 230,000 o bobl wedi cofrestru fel etholwyr tramor, sy'n cyfrif am 0.5% o gyfanswm etholwyr y DU.

Roedd gan lawer o etholwyr tramor a ddewisodd bleidleisio drwy'r post amserlen dynn i dderbyn a dychwelyd eu papurau pleidleisio drwy'r post cyn y diwrnod pleidleisio: 

  • Dim ond ar ôl y dyddiad cau ar gyfer enwebu ymgeiswyr ar 14 Tachwedd y gallai Swyddogion Canlyniadau ddechrau argraffu papurau pleidleisio
  • Roedd hyn yn golygu bod llai na phedair wythnos ganddynt i argraffu a dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post, ac i etholwyr tramor dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu papurau pleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio 
  • Dim ond pythefnos oedd gan bobl a gofrestrodd i bleidleisio neu a wnaeth gais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau i dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost

Cawsom adborth ar ôl yr etholiad gan fwy na 500 o bleidleiswyr tramor Y broblem a nodwyd amlaf ganddynt oedd nad oeddent wedi derbyn eu pleidlais bost mewn da bryd i'w chwblhau a'i dychwelyd. Roedd etholwyr tramor yn dibynnu ar gyflymder y gwasanaeth post yn y wlad lle maent yn byw.

Quote from overseas voter

"Cyrhaeddodd fy mhecyn pleidleisio drwy'r post dramor y diwrnod cyn yr etholiad. Roedd hyn yn golygu nad oedd gennyf ddigon o amser i'w ddychwelyd, felly ni allwn bleidleisio er fy mod am wneud hynny."

"Cyrhaeddodd y bleidlais brynhawn dydd Sadwrn. Talais $35 am wasanaeth postio cyflym er mwyn sicrhau ei bod yn cyrraedd y DU cyn gynted â phosibl ond nid oedd yn debygol y byddai'n cyrraedd mewn pryd (mae llythyrau yn cymryd tua wythnos i gyrraedd fel arfer). Wn i ddim pam y cyrhaeddodd mor hwyr."

"NID YW'N GWEITHIO. Cafodd fy mhost ei anfon yn rhy hwyr iddo gyrraedd mewn da bryd i mi ei ddychwelyd, felly ni fydd yn cyrraedd y DU erbyn y dyddiad cau. Nid oes gennyf bleidlais."

"Ni chyrhaeddodd fy mhleidlais bost tan 5 diwrnod gwaith cyn yr etholiad, oedd yn golygu y byddai'n amhosibl i'm pleidlais gael ei chyfrif."

Barn etholwyr tramor

Experience of postal and proxy process

Dywedodd rhai etholwyr tramor wrthym hefyd nad oeddent yn gwybod y gallent ofyn i rywun yn y DU bleidleisio ar eu rhan drwy'r post ('pleidlais ddirprwy drwy’r post'). Gallai hyn fod wedi bod yn fwy cyfleus i'r pleidleisiwr drwy ddirprwy, yn hytrach na bod yn rhaid iddo deithio i orsaf bleidleisio a allai fod yn bell o'i gartref ei hun.

Dywedodd mwy na hanner (53%) y gweinyddwyr etholiadau a ymatebodd i'n harolwg eu bod wedi treulio llawer o amser yn delio ag ymholiadau gan bleidleiswyr tramor a oedd yn cael problemau gyda'u pleidleisiau post neu ddirprwy yn ystod yr etholiad. Cawsom hefyd niferoedd mawr o ymholiadau cyn yr etholiad gan bobl sy'n byw dramor a oedd am gael gwybod a allent bleidleisio a sut i wneud hynny.

Nid dyma'r tro cyntaf i ni weld tystiolaeth o'r problemau hyn ar gyfer etholwyr tramor. Gwnaethom dynnu sylw at dystiolaeth yn ein hadroddiadau statudol ar etholiadau cyffredinol y DU yn 2015 a 2017, yn ogystal ag ar ôl refferendwm yr UE yn 2016 ac etholiad Senedd Ewrop yn 2019.

Yn etholiad cyffredinol 2019, sefydlodd Swyddfa'r Cabinet a'r Post Brenhinol system i ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post yn gyflymach i etholwyr tramor. Mae'n ymddangos bod hyn wedi gwella'r profiad i rai etholwyr, ond nid oedd digon o amser o hyd i etholwyr tramor mewn rhai gwledydd ddychwelyd eu pleidleisiau mewn pryd iddynt gael eu cyfrif.

Dylai etholwyr tramor allu disgwyl y bydd eu pleidlais yn cael ei chyfrif. Dylai Llywodraeth y DU ystyried dulliau pleidleisio newydd ac arloesol ar gyfer etholwyr tramor, gan ddefnyddio tystiolaeth o wledydd eraill. Gallai hyn gynnwys y gallu i lawrlwytho ac argraffu papurau pleidleisio drwy'r post neu bleidleisio mewn  llysgenadaethau a swyddfeydd is-genhadon.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynyddu nifer y dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor a all gofrestru i bleidleisio, drwy gael gwared ar y cyfyngiad amser presennol o 15 mlynedd ers y tro diwethaf iddynt gofrestru i bleidleisio yn y DU. Wrth i'r problemau a nodwyd o ran pleidleisio drwy’r post effeithio ar fwy o bleidleiswyr, bydd hyd yn oed yn bwysicach sicrhau bod gan etholwyr tramor ffyrdd o bleidleisio sy'n golygu y gallant fod yn hyderus y caiff eu pleidleisiau eu cyfrif mewn etholiadau Senedd y DU yn y dyfodol.

Polling station image

Polling station sign

Challenges of timing

Yn ogystal, dechreuodd y broses etholiadol pan oedd y canfasiad cofrestru etholiadol blynyddol a gynlluniwyd yn dal i fynd rhagddo ledled Prydain Fawr. Bu'n rhaid i dimau gweinyddu etholiadau gwblhau eu cyfrifoldebau cyfreithiol i brosesu ffurflenni canfasio a ddychwelwyd gan aelwydydd a gwahodd trigolion newydd i gofrestru i bleidleisio, ar yr un pryd â sefydlu'r broses o weinyddu'r etholiad.

Nododd yr adborth a gawsom gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau neu weinyddwyr etholiadau o bob cwr o'r DU rai o'r heriau cyffredin a wynebwyd ganddynt:

  • Roedd staff a oedd yn gweithio mewn timau etholiadau dan bwysau mawr a bu'n rhaid iddynt weithio oriau hir er mwyn cwblhau'r canfasiad blynyddol a chynnal yr etholiad ar yr un pryd
  • Cafodd rhai systemau meddalwedd rheoli etholiadau broblemau yn rhedeg prosesau etholiad ochr yn ochr â'r canfasiad blynyddol
  • Cafodd Swyddogion Canlyniadau fwy o drafferth i recriwtio staff dros dro, yn cynnwys staff gorsafoedd pleidleisio a staff cyfrif, ar gyfer etholiad a gynhaliwyd ychydig cyn y Nadolig
  • Roedd rhai lleoliadau y bydd Swyddogion Canlyniadau yn eu defnyddio ar gyfer gorsafoedd pleidleisio neu ar gyfer y cyfrif fel arfer eisoes yn cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau tymhorol ac nid oeddent ar gael ar gyfer yr etholiad hwn. 
  • Nodwyd bod y cynnydd yn y post dros gyfnod y Nadolig wedi arwain at oedi wrth ddosbarthu a dychwelyd pleidleisiau post mewn rhai ardaloedd 

Dywedodd mwy na thraean (38%) o’r gweinyddwyr etholiadau a ymatebodd i'n harolwg eu bod nhw neu eu timau wedi cael trafferth ymdopi â gofynion y rôl a'r llwyth gwaith ychwanegol yn sgil digwyddiadau etholiadol nas cynlluniwyd yn 2019. Cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol cynnar ym mis Rhagfyr ar ôl etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai 2019 ledled y DU a oedd wedi'u hamserlennu o hyd o dan y gyfraith ond na ddisgwyliwyd iddynt gael eu cynnal. Hefyd, cynhaliwyd etholiadau llywodraeth leol a gynlluniwyd mewn sawl rhan o Loegr a ledled Gogledd Iwerddon ym mis Mai.

Adborth gan weinyddwr etholiadau

Mae'r pwysau ar weinyddwyr etholiadau yn anghynaladwy. Hwn oedd ein trydydd etholiad llawn mewn blwyddyn, yr oedd dau ohonynt heb eu cynllunio. Mae ein hiechyd meddwl yn fregus ar y gorau. Rydym wedi ymlâdd ac wedi diflasu'n llwyr.

Adborth gan weinyddwr etholiadau

Errors

Gwelsom dystiolaeth o wallau argraffu ar gardiau pleidleisio neu becynnau pleidleisio drwy'r post a achosodd ddryswch i etholwyr mewn nifer bach o etholaethau. Eglurodd rhai Swyddogion Canlyniadau eu bod o'r farn bod y risg o wallau argraffu yn uwch yn yr etholiad hwn oherwydd y terfynau amser tynn ar gyfer gwirio proflenni, ynghyd â'r pwysau ar argaeledd a chapasiti argraffwyr.

Yn Waltham Forest, ni chafodd pecynnau pleidleisio drwy'r post eu hanfon yn wreiddiol at 1,470 o bleidleiswyr post am nad oedd ffeil data wedi cael ei hanfon at yr argraffwyr. Cafodd y pleidleisiau post eu dosbarthu ar ôl i'r broblem gael ei nodi. Hysbyswyd yr ymgeiswyr a'r asiantiaid ynghylch hyn a rhoddwyd gwybodaeth ar wefan y cyngor. Fodd bynnag, am fod rhai pleidleiswyr post wedi cael eu pleidlais bost yn agos iawn at y diwrnod pleidleisio, mae'n bosibl na wnaethant lwyddo i'w llenwi a'i dychwelyd mewn pryd iddi gael ei chyfrif. Ni wnaeth y Swyddog Canlyniadau gyrraedd ein safonau perfformiad yn llawn.

Mae'r pwysau croes a'r gwallau hyn hefyd yn ganlyniad i'r heriau o gynnal etholiadau o fewn fframwaith cyfraith etholiadol cynyddol gymhleth y mae angen ei ddiweddaru, a gwelwyd problemau tebyg eisoes mewn etholiadau a gynhaliwyd ar adegau eraill o'r flwyddyn, yn enwedig lle caiff etholiadau gwahanol eu cyfuno a'u cynnal ar yr un diwrnod.

Adborth gan weinyddwr etholiadau

Anodd iawn ei ddilyn. Mae deddfwriaethau gwahanol a rhai deddfwriaethau diweddarach yn gwrthddweud deddfwriaeth gynharach ac nid ydynt yn cyd-fynd â'r cyfnod presennol a thechnoleg bresennol.

Adborth gan weinyddwr etholiadau

Modernising electoral law

Mae Comisiynau'r Gyfraith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban bellach wedi cyhoeddi'r adroddiad terfynol ar eu hadolygiad manwl o gyfraith etholiadol. Maent wedi gwneud argymhellion i symleiddio a moderneiddio'r gyfraith a fyddai'n helpu i wella'r ffordd y caiff etholiadau eu cynnal. Mae angen i lywodraethau'r DU ymrwymo adnoddau ac amser i ddiwygio cyfraith etholiadol, gan adeiladu ar yr argymhellion cynhwysfawr hyn a gefnogir.

Our voter research

Canfu ein hymchwil bod pobl yn fodlon iawn ar y broses o gofrestru i bleidleisio a'r broses bleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019:

  • Roedd 78% o'r bobl yn fodlon ar y broses o gofrestru i bleidleisio
  • Roedd 93% o'r bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad yn fodlon ar y broses bleidleisio

More research from voters

Roedd pobl hefyd yn teimlo eu bod wedi cael digon o wybodaeth am yr etholiad:

  • Dywedodd 80% o'r bobl eu bod yn gwybod llawer neu gryn dipyn am yr etholiad
  • Dywedodd 81% o'r bobl eu bod wedi gallu cael gafael ar wybodaeth am ddiben yr etholiad yn rhwydd
  • Dywedodd 88% o'r bobl eu bod wedi gallu cael gafael ar wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, a sut i fwrw eu pleidlais yn rhwydd

Mae'r rhain yn debyg i lefelau cadarnhaol o foddhad a welwyd mewn etholiadau neu refferenda eraill ledled y DU yn ddiweddar.

Dywedodd mwy na dwy ran o dair o'r bobl (69% o bleidleiswyr a'r rheini na wnaethant bleidleisio) eu bod naill ai'n hyderus iawn neu'n gymharol hyderus bod yr etholiad wedi cael ei gynnal yn dda (dywedodd 12% nad oeddent yn gwybod). Roedd hyn yn debyg i'r lefel a welwyd yn etholiad cyffredinol y DU yn 2010, ond yn is yn gyffredinol o gymharu ag etholiadau neu refferenda eraill a gynhaliwyd ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf, a deg pwynt canran yn is na chanlyniad 2017 (lle roedd 79% yn hyderus). Fodd bynnag, ni all ein harolwg ar gyfer 2019 ddweud wrthym a yw hyder y cyhoedd yn dychwelyd i'r lefelau a welwyd yn y gorffennol neu a yw hyn yn ddechrau dirywiad mwy sylweddol.

Dywedodd lleiafrif sylweddol o bobl (18%) nad oeddent yn hyderus bod yr etholiad wedi cael ei gynnal yn dda. Gwnaethom ofyn i'r bobl hyn ddewis rhesymau pam nad oeddent yn hyderus bod yr etholiad wedi cael ei gynnal yn dda.

Roedd y rhesymau mwyaf cyffredin yn ymwneud â phryderon ynghylch ymgyrchu neu'r cyfryngau, a drafodir yn adran nesaf yr adroddiad hwn. Hefyd, dewisodd rai bryderon a oedd yn ymwneud â'r ffordd yr oedd y broses gofrestru neu bleidleisio yn gweithio:

  • Dywedodd 28% o'r rheini nad oeddent yn hyderus bod yr etholiad wedi cael ei gynnal yn dda nad oeddent yn meddwl bod rhai pobl wedi cael y cyfle i bleidleisio neu eu bod wedi'u hamddifadu o'r cyfle hwnnw
  • Dywedodd 22% nad oeddent yn hyderus am fod yr etholiad wedi cael ei gynnal ar fyr rybudd
  • Dywedodd 17% nad oeddent yn hyderus am eu bod yn meddwl bod rhai pobl wedi cael anawsterau wrth gofrestru i bleidleisio 

Dywedodd mwy na 7 allan o 10 o'r holl bleidleiswyr a'r rheini na wnaethant bleidleisio (72%) eu bod yn meddwl bod pleidleisio yn gyffredinol yn ddiogel rhag twyll a chamdriniaeth.

Dywedodd cyfran fach iawn o bobl eu bod wedi cael profiad uniongyrchol neu ail-law o dwyll etholiadol yn yr etholiad: Dywedodd 2% eu bod yn adnabod rhywun a oedd wedi cyflawni twyll etholiadol; Dywedodd 1% eu bod wedi gweld rhywun yn pleidleisio pan nad oedd ganddo hawl i wneud hynny. Er y canrannau isel hyn, dywedodd mwy na thraean o'r bobl (38%) eu bod yn meddwl bod rhyw fath o dwyll wedi digwydd yn yr etholiad.

Mae hyn yn gyson â thystiolaeth ynghylch honiadau o dwyll etholiadol yn yr etholiad. Dengys data gan heddluoedd eu bod wedi cofnodi 156 o achosion o dwyll etholiadol honedig yn ymwneud â'r etholiad. Nid oedd angen cymryd camau pellach ar gyfer mwy na hanner yr achosion hyn yn dilyn ymholiadau gan yr heddlu, a chafodd un o bob chwech ohonynt eu datrys yn lleol. Mae traean o'r achosion a gofnodwyd yn destun ymchwiliad o hyd.