Gwerthusiad o gynllun peilot cofrestru awtomatig
Sefydlodd Llywodraeth Cymru gynlluniau peilot gyda phedwar awdurdod lleol (Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys) i brofi p’un a ellid defnyddio data a ddelir yn lleol i gofrestru pleidleiswyr heb gais - proses a gyfeirir ato yma fel cofrestru awtomatig. Roedd gofyn i ni werthuso’r cynlluniau peilot hyn.
Crynodeb
- Nododd y cynlluniau peilot ychydig dros 14,500 o etholwyr newydd a’u hychwanegu’n awtomatig i’r cofrestrau. Roedd hyn yn cynrychioli 2 - 8% o’r gofrestr ym mhob ardal awdurdod lleol.
- Cafodd 1,500 o gyrhaeddwyr eu cofrestru drwy’r cynllun peilot hefyd (mewn dau awdurdod lleol). Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod tua 2,700 / 2,800 o bobl rhwng 14 a 15 oed yng Ngwynedd a’r un nifer hefyd ym Mhowys. Mae’r niferoedd a ychwanegwyd yn ystod y cynlluniau peilot felly’n cynrychioli rhwng 16 - 37% o’r holl gyrhaeddwyr posibl yn yr ardaloedd hynny.
- O’r dystiolaeth sydd ar gael, mae bob un o’r ychwanegiadau hyn i’r gofrestr yn ymddangos yn gywir, h.y. mae cofnodion y gofrestr yn ymwneud â pherson sy’n byw yn y cyfeiriad hwnnw. Dim ond canran fach a gafodd eu tynnu oddi ar y gofrestr (erbyn canol mis Tachwedd 2025) yn ystod y canfasio blynyddol, gan ddangos nad oedd y person yn byw yn y cyfeiriad hwnnw mwyach.
- Data treth gyngor yw’r set data fwyaf sydd ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs) a’r un sy’n nodi’r nifer fwyaf o etholwyr posibl. Roedd setiau data ychwanegol yn bwysig o ran cyfrannu enwau unigryw pellach a darparu’r ail ganlyniad cyfatebol gofynnol. Mae setiau data addysg yn arbennig o werthfawr o ran galluogi i unigolion sydd ag un cofnod cyfatebol yn unig gael eu cofrestru a nodi cyrhaeddwyr ac etholwyr ifanc y gwyddom sy’n llai tebygol o fod wedi cofrestru. Wrth roi’r cynllun ar waith yn y dyfodol, bydd angen bod yn ofalus wrth amseru’r defnydd o ddata myfyrwyr mewn perthynas â diwedd tymhorau prifysgol pan fydd nifer sylweddol o fyfyrwyr yn newid cyfeiriad.
- Gwyddom o’n ymchwil blaenorol fod dros hanner poblogaeth Prydain yn meddwl y byddai cofrestru awtomatig yn welliant ar y system gofrestru bresennol. Yn y cynlluniau peilot hyn, ni chodwyd unrhyw bryderon sylweddol ynghylch y broses chwaith, er bod angen gofal parhaus mewn perthynas ag etholwyr sy'n dymuno cofrestru'n ddienw. Fodd bynnag, gellid gwneud gwelliannau, gan gynnwys lleihau hyd y cyfnod optio allan a symleiddio’r broses ar gyfer etholwr sydd wedi'i gofrestru'n awtomatig hefyd gofrestru, os yw'n gymwys, ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU.
- Nid oedd y broses gofrestru awtomatig yn gofyn am weithredu gan etholwyr unigol, oni bai eu bod wedi dewis optio allan. Fodd bynnag, achosodd waith ac adnoddau sylweddol ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’u timau - yn bennaf mewn perthynas â’r prosesau paru data. Ar gyfer rhoi cofrestru awtomatig ar waith yn ehangach, yn seiliedig ar ddata lleol cyfatebol, mae’n bwysig fod effeithlonrwydd y feddalwedd paru data sydd ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol y gorau y gall fod a bod ganddynt yr adnoddau priodol i reoli’r broses.
Mae’r cynlluniau peilot hyn yn awgrymu y gellid cyflwyno cofrestru awtomatig yng Nghymru a gallai gael effaith gadarnhaol ar gyflawnder cofrestrau etholiadol. Fodd bynnag, cyn gwneud penderfynu a ddylid rhoi cofrestru awtomatig ar waith rydym yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru
Rydym wedi derbyn peth data o ganfasio sy’n dangos faint o etholwyr a gofrestrwyd yn awtomatig a gafodd eu tynnu oddi ar y gofrestr yn ystod y canfasio. Fodd bynnag, ar adeg cyhoeddi nid oedd yn bosibl cynnwys data canfasio terfynol. Dylai Llywodraeth Cymru asesu'r data hwn er mwyn bodloni eu hunain fod ein casgliadau yma wedi’u cefnogi.
Gall y broses paru data fod yn hirfaith gyda gofyn am waith sylweddol â llaw yn dilyn y paru awtomatig. Yn ogystal, mae costau sy’n gysylltiedig gyda nifer y gwahoddiadau i gofrestru (ITRs) sy’n cael eu hanfon i etholwyr yn dilyn paru data. Ni fydd profiad y cynlluniau peilot hyn o reidrwydd yn gynrychioliad o bob awdurdod lleol yng Nghymru a dylai Llywodraeth Cymru ystyried pa adnoddau ychwanegol a fydd eu hangen ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled Cymru.
Ni allwn ddod i gasgliadau, o gostau’r cynlluniau peilot, ynglŷn â chyfanswm y costau ar gyfer cyflwyno cofrestru awtomatig ledled Cymru gyfan. Ni fyddai angen i rai costau, megis y Feddalwedd Rheoli Etholiadol (EMS) gael eu hailadrodd yn llawn. Gallai costau eraill, gan gynnwys y pwynt adnoddau uchod, amrywio’n sylweddol ar gyfer gwahanol awdurdodau lleol. Bydd asesiad terfynol hefyd yn dibynnu ar amseru ac amlder y prosesau sy'n cael eu rhoi ar waith.
Rydym hefyd gwneud argymhellion gyda’r bwriad o gefnogi rhoi cofrestru awtomatig ar waith yn llwyddiannus.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr amseru a’r amlder gorau ar gyfer proses gofrestru awtomatig - yn enwedig mewn perthynas ag elfennau eraill o waith timau etholiad, megis y canfasio blynyddol ac etholiadau wedi’u trefnu. Gellid gwneud hyn bob blwyddyn rhwng diwedd y canfasio blynyddol a chyn unrhyw etholiadau mis Mai a drefnwyd. Mewn blynyddoedd heb etholiadau wedi'u hamserlennu, byddai'n fuddiol hefyd cynnal ymarfer cyn y canfasio.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleihau’r cyfnod hysbysu o 60 diwrnod. Byddai cyfnod byrrach yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran amseru ymarfer cofrestru awtomatig. Gallai hefyd olygu llai o gyfle i etholwyr ddrysu ynghylch a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio ai peidio – yn enwedig pe bai isetholiadau’n cael eu cynnal.
Dylai fod yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon yr hysbysiad cyntaf o gofrestru awtomatig ar ffurf copi caled i gyfeiriad yr etholwr, yn hytrach na thrwy e-bost. Os bydd achos o baru data anghywir, mae manylion cyswllt â'r cyfeiriad yn cynnig cyfle i breswylwyr presennol dynnu sylw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol at hyn.
Dylid cynnwys gwahoddiad i gofrestru gyda'r llythyr hysbysu. Byddai hyn yn symleiddio’r broses, gan helpu i liniaru dryswch ymysg pleidleiswyr a gallai leihau costau. Rhaid i etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n awtomatig dderbyn gwahoddiad i gofrestru ar ryw adeg am na all y Swyddog Cofrestru Etholiadol fod yn sicr, o baru data lleol, a ddylent hefyd fod wedi’u cofrestru ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod arweiniad priodol ar ansawdd a defnydd data fel rhan o’r broses o roi cofrestru awtomatig ar waith. Gallai canllawiau roi hyder ychwanegol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynghylch pa ffynonellau data y gallant neu na ddylent eu defnyddio y tu hwnt i enghreifftiau fel y dreth gyngor.
Mae cyflawni unrhyw broses gofrestru etholiadol yn llwyddiannus yn dibynnu ar ymarferoldeb systemau meddalwedd rheoli etholiadol. Bydd angen datblygiad ar gyfer y darparwyr systemau rheoli etholiadol hynny nad ydynt yn rhan o'r cynlluniau peilot hyn ac mae gwersi i'w dysgu o'r cynlluniau peilot hefyd. Bydd angen i gynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru gytuno ar ‘arwydd’ cofrestr parhaol ar gyfer etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n awtomatig yn ogystal ag archwilio gwelliannau i’r prosesau paru data – yn enwedig mewn perthynas â sut mae canlyniadau o wahanol setiau data yn cael eu cyfuno.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut orau i roi'r math o gofrestru awtomatig a gyflwynwyd yng Nghymru ar waith er mwyn caniatáu integreiddio effeithlon yn y dyfodol ag unrhyw system ledled y DU. Dylai Llywodraeth y DU ymgysylltu â chynlluniau Llywodraeth Cymru a’u hystyried wrth iddynt ddatblygu dull ar gyfer y DU gyfan. Mae nifer o systemau cofrestru awtomatig yn y DU sy’n annhebygol o gynnig gwrth am arian, ac yn peri risg o achosi dryswch i bleidleiswyr a Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Tabl 1 Data cryno
| Sir Gâr | Gwynedd | Casnewydd | Powys | |
|---|---|---|---|---|
| Nifer yr etholwyr posibl a nodwyd drwy ddau neu'n fwy o ffynonellau data | 1,897 | 1,119 | 2,485 | 1,342* |
| Nifer yr etholwyr posibl a nodwyd drwy ddata addysg | 3,322 | 6,601 | Ddim yn berthnasol | 3,055 |
| Nifer yr hysbysiadau cofrestru awtomatig a anfonwyd | - | 7,432 | 2,485 | 5,395 |
| Nifer y bobl a ofynnodd am gael eu tynnu o'r broses gofrestru awtomatig | - | 16 | 94 | 28 |
| Nifer y bobl a gofrestrwyd yn awtomatig | - | 7,092 (8%) | 2,123 (2%) | 5,361 (5%) |
| Nifer y cyrhaeddwyr a gofrestrwyd | - | 424 | 0 | 1,052 |
| Nifer yr etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n awtomatig sydd wedi cofrestru ar gyfer etholfraint seneddol | - | 68 | 317 | 1,146 |
* Dyma'r nifer lleiaf sy'n cyfateb i ddwy ffynhonnell ddata – ychwanegwyd rhai data cyfatebol ychwanegol â llaw lle methodd y system â'u nodi yn gywir.
Noder: Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli'r sefyllfa fel ag yr oedd yn niwedd mis Hydref / canol mis Tachwedd. Gallai rhai data newid, e.e. y nifer o bobl a ofynnodd i optio allan neu’r nifer a gofrestrodd ar gyfer yr etholfraint seneddol.
Cefndir
Sefydlodd Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda phedwar awdurdod lleol, gynlluniau peilot i sefydlu'r ffordd fwyaf effeithiol a chywir o gofrestru pleidleiswyr heb gais – y cyfeirir ato yma fel cofrestru awtomatig. Bwriadwyd hefyd i'r cynlluniau peilot sefydlu'r ffordd fwyaf effeithiol o gyfathrebu ag etholwyr a sicrhau bod etholwyr bregus yn cael eu diogelu, e.e. osgoi ychwanegu etholwyr a fyddai'n well ganddynt gofrestru'n ddienw drwy'r llwybr cofrestru safonol.
Roedd tri model cynllun peilot, ac fe’u crynhoir isod.
Tabl 2 Modelau cynlluniau peilot
Cynllun Peilot 1
lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Paru data lleol â llaw, i geisio paru’r rheiny sydd eisoes ar y gofrestr ac i nodi etholwyr posibl
Cynllun Peilot 2
lleoliad: Powys, Casnewydd a Gwynedd
Paru data lleol yn awtomatig, wedi’i ategu gan wiriadau â llaw, i nodi etholwyr posibl. Lle gellid adnabod pobl drwy ddwy ffynhonnell ddata (neu un ffynhonnell ddata addysg), byddai hysbysiad cofrestru yn cael ei gyhoeddi i'r etholwr newydd. Lle nad oedd hyn yn bosibl, byddai gwahoddiad i gofrestru yn cael ei anfon i’r etholwr posibl yn unol â'r llwybr cofrestru arferol.
Cynllun Peilot 3
lleoliad: Gwynedd
Ynghyd â’r dull yng Nghynllun Peilot 2, mae'r cynllun hwn yn defnyddio allgymorth a phartneriaeth waith ffurfiol i gysylltu â grwpiau sy’n anoddach i’w cyrraedd.
Roedd gofyn i ni werthuso’r cynlluniau peilot hyn. Mae ein gwerthusiad yn seiliedig ar y wybodaeth a’r data y gellid ei gasglu yn rhesymol ac yn ymarferol yn ystod y cynlluniau peilot. Nid mesur effaith uniongyrchol y cynlluniau peilot ar gywirdeb a chyflawnder y cofrestrau etholiadol oedd bwriad y gwerthusiad hwn - byddai hyn wedi golygu costau ychwanegol sylweddol ac amserlen hirach.
Paru data
Gallai'r awdurdodau lleol ddefnyddio data presennol a ddelir yn lleol yn y cynlluniau peilot hyn. Nid oedd ganddynt fynediad at ddata a ddelir ar lefel y DU, er enghraifft cronfa ddata’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Tabl 3 Ffynonellau data a ddefnyddiwyd gan bob ardal cynllun peilot
| Sir Gâr | Gwynedd | Casnewydd | Powys | |
|---|---|---|---|---|
| Gwasanaethau Oedolion | - | - | - | X |
| Tocynnau Rhatach | - | - | - | X |
| Treth Gyngor | X | X | X | X |
| Gweithwyr Presennol | - | X | - | X |
| Ysgolion/Colegau | X | X | - | X |
| Prifysgol | - | X | - | |
| Budd-daliadau Tai | X | - | X | X |
| Tai | X | X | - | X |
| Llyfrgell | - | - | - | X |
| Fy Nghyfrif (Sir Gâr) | X | - | - | X |
Ni wnaeth timau etholiad adrodd am unrhyw broblemau sylweddol wrth gyrchu'r data hwn. Cedwir y setiau data gan yr awdurdod lleol ac, yn y rhan fwyaf o achosion, maent wedi’u cyrchu eisoes i gefnogi prosesau paru data canfasio presennol.
Nod cynllun peilot Sir Gaerfyrddin oedd profi p’un a ellid ail-greu’r gofrestr etholiadol bresennol gyda data lleol sydd ar gael. Mae’r canlyniadau isod yn dangos y gellid dod o hyd i 60% o etholwyr presennol yn y setiau data a ddefnyddiwyd yn y cynllun peilot. Daethpwyd o hyd i bron i bob un drwy’r dreth gyngor.
Tabl 4 Ystadegau cyfatebol Sir Gaerfyrddin yn ôl set data
| % o eiddo’n cyfateb | % o etholwyr cyfredol yn cyfateb | |
|---|---|---|
| Treth Gyngor | 95% | 58% |
| Addysg | 5% | 1% |
| Budd-daliadau Tai | 5% | 3% |
| Tai | 10% | 4% |
| Fy Nghyfrif | 0% | 0% |
| Cyfanswm y pwyntiau data cyfatebol unigryw | 95% | 60% |
O’r setiau data a brofwyd, y dreth gyngor yw’r un sydd fwyaf tebygol o gynnwys y mwyafrif o’r boblogaeth. Fodd bynnag, golygai hyn nad yw llawer o unigolion yn ymddangos ynddo o hyd. Mae rhai awdurdodau lleol wedi dechrau ychwanegu manylion yr holl breswylwyr i’r cronfeydd data treth gyngor ond yn y rhan fwyaf o achosion y sawl sy'n talu’r bil a gaiff ei restru'n unig. Yn ogystal, nid yw nifer o denantiaid wedi’u cynnwys lle mae'r landlord yn talu’r dreth gyngor yn uniongyrchol.
Fel mae'r canlyniadau'n ei ddangos, nid yw'r setiau data a ddefnyddir gan yr awdurdodau cynllun peilot yn 'gyffredinol' – nid ydynt yn cynnwys manylion yr holl boblogaeth neu bron yr holl boblogaeth mewn ardal. O’r herwydd, cyfunodd pob un o’r cynlluniau peilot hyn wahanol gronfeydd data i nodi cymaint o etholwyr newydd unigryw â phosibl.
Ni fydd setiau data addysg yn cynnwys mwyafrif y boblogaeth ychwaith ond mae'r rhain yn werthfawr oherwydd eu bod yn benodol i etholwyr iau ac yn debygol o gynnwys manylion nad ydynt yn gorgyffwrdd â set ddata ehangach, fel y dreth gyngor.
Gwynedd oedd yr unig gynllun peilot i gael mynediad at ddata myfyrwyr (o Brifysgol Bangor) yn ogystal â'r data o ysgolion/colegau a ddefnyddiwyd hefyd gan Sir Gaerfyrddin a Phowys. Mae'r data yn Nhabl 5 yn dangos bod gan Wynedd ddwywaith y nifer o etholwyr posibl a ganfuwyd trwy ddata addysg. Mae hyn yn awgrymu fod data prifysgol yn arbennig o effeithiol wrth nodi etholwyr nad ydynt wedi cofrestru.
Ac eithrio data addysgol, mae’n glir fod peth gorgyffwrdd rhwng rhai setiau data (e.e. y dreth gyngor a thenantiaid tai). Fodd bynnag, mewn ardaloedd a ddefnyddiodd nifer fawr o setiau data (e.e. Powys), mae’r dystiolaeth yn dangos eu bod hefyd wedi ychwanegu gwerth drwy nodi unigolion unigryw ychwanegol. Er enghraifft:
- o’r etholwyr posibl a nodwyd i ddechrau o'r data Gwasanaethau Oedolion ym Mhowys, ni ddaethpwyd o hyd i dros 80% ohonynt yng nghronfa ddata’r dreth gyngor.
- o’r etholwyr posibl a nodwyd i ddechrau o'r data Gwasanaethau Oedolion ym Mhowys, ni ddaethpwyd o hyd i dros 96% ohonynt yng nghronfa ddata’r dreth gyngor.
Tabl 5 Data cryno data cyfatebol
| Sir Gâr | Gwynedd | Casnewydd | Powys | |
|---|---|---|---|---|
| Nifer yr etholwyr posibl a nodwyd gan ddau neu'n fwy o ffynonellau data | 1,897 | 1,119 | 2,485 | 1,342* |
| Nifer yr etholwyr posibl a nodwyd drwy ddata addysg | 3,322 | 6,601 | DDIM YN BERTHNASOL | 3,055 |
* Dyma'r nifer lleiaf sy'n cyfateb i ddwy ffynhonnell ddata – ychwanegwyd rhai data cyfatebol ychwanegol â llaw lle methodd y system â'u nodi yn gywir.
Un o briodweddau allweddol unrhyw set ddata yw pa mor gywir a chyfredol ydyw. Mae hyn yn amrywio rhwng gwahanol setiau data a rhwng yr un math o ddata (e.e. y dreth gyngor) ar draws gwahanol awdurdodau lleol.
Bydd hyn yn dibynnu’n rhannol ar bwrpas y gronfa ddata. Er enghraifft, nid yw hi mor bwysig os yw data llyfrgell yn gyfredol (e.e. cael gwared ar hen ddata) o gymharu â’r dreth gyngor neu fudd-daliadau tai. Yn eu cynllun peilot, fe wnaeth Sir Gaerfyrddin ddarganfod nad oedd eu data Fy Nghyfrif (cyfrifon gwefan y cyngor ar gyfer trigolion lleol) yn ddefnyddiol am nad oedd yn cael ei gynnal fel cronfa ddata gyfredol, h.y. nid oedd hen ddata yn cael ei ddileu.
Gall awdurdodau lleol hefyd gael gwahanol amseroedd oedi wrth brosesu data a all olygu bod set ddata treth gyngor o un ardal yn fwy tebygol o fod yn gyfredol ar unrhyw adeg benodol.
Yn achos data prifysgol, dylai amseru, ac amlder, y broses paru data fod yn un o’r prif ystyriaethau. Gallai set ddata myfyrwyr fod yn gywir iawn ar 1 Mehefin ond yn llawer llai cywir erbyn 1 Awst pan fydd myfyrwyr mewn llety prifysgol neu dai rhent tymor byr yn debygol o fod wedi gadael y cyfeiriad hwnnw.
Nid yw'r materion hyn yn cyflwyno problem sylfaenol ar gyfer cyflwyno proses gofrestru fwy awtomatig. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu y byddai angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ystyried yn ofalus pa ddata lleol fyddai fwyaf addas ar gyfer cofrestru awtomatig, gan gynnwys pryd a sut y dylid ei ddefnyddio. Gall cynnwys set ddata anaddas mewn ymarfer paru data greu gwaith sylweddol a llafurus, e.e. trefnu a glanhau'r canlyniadau.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu canllaw ar ddewis ffynonellau data lleol ar gyfer paru data yn ystod y canfasio blynyddol. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod arweiniad priodol ar ansawdd a defnydd data fel rhan o roi cofrestru awtomatig ar waith. Er enghraifft, gallai canllawiau roi hyder ychwanegol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynghylch pa ffynonellau data y gallant neu na ddylent eu defnyddio y tu hwnt i enghreifftiau fel y dreth gyngor.
Gall prosesau trin a pharu data gael eu gwella
Ar y cyfan, mae timau etholiad bellach yn gyfarwydd gyda phrosesau paru data - maent yn ei wneud yn rheolaidd fel rhan o’r canfasio blynyddol. Yn y cynlluniau peilot hyn, nid oedd unrhyw broblemau sylweddol mewn perthynas â’r prosesau paru (parodd tair ardal eu data yn uniongyrchol drwy eu system Meddalwedd Rheoli Etholiadol, defnyddiodd un system awdurdod lleol bresennol ar wahân).
Fodd bynnag, bydd gwelliannau a ellir eu gwneud i'r broses yn lleihau’r amser sydd ei angen yn ddiweddarach i reoli a dehongli'r canlyniadau.
nid yw pob data lleol yn cynnwys cyfeirnodau eiddo unigryw. Heb gyfeirnod eiddo unigryw, mae angen i’r broses paru data ddefnyddio testun cyfeiriad i baru eiddo (cyn mynd ymlaen i baru pobl i'r cyfeiriad hwnnw). Mae’r math hwn o baru ar sail testun yn fwy tebygol o fethu ac i gynhyrchu gwallau o gymharu â pharu drwy ddefnyddio codau unigryw. Mae hyn yn creu gwaith ychwanegol ar gyfer staff etholiadau o ran addasu’r canlyniadau cyfatebol â llaw.
Bydd unrhyw baru data ar sail enwau yn dod ar draws problemau gyda newid enw (e.e. ar ôl priodi), os yw pobl yn defnyddio eu henwau cyntaf a’u henwau canol yn wahanol ar wahanol setiau data (e.e. George Charles Smith a Charles Smith) ac os yw pobl yn yr un tŷ yn defnyddio'r un enw neu enwau tebyg (e.e. tadau a meibion). Mewn rhai achosion, treuliodd timau etholiadau gryn amser yn gwirio ac yn glanhau'r canlyniadau awtomatig cyn y gallant fod yn hyderus yn defnyddio’r data i gysylltu ag etholwyr. Mae rhai o achosion y problemau hyn yn anodd ei hosgoi heb fanylion ychwanegol y gellir eu defnyddio yn y broses baru (e.e. rhif unigryw neu gyfeirnod arall megis dyddiad geni). Fodd bynnag, fel rhan o gyflwyno cofrestru awtomatig, byddai’n bwysig i’r broses baru o fewn systemau meddalwedd rheoli etholiadol fod mor effeithlon â phosibl.
Yn y cynlluniau peilot hyn, dim ond os daethpwyd o hyd iddynt mewn o leiaf dwy gronfa ddata y gellid ychwanegu pobl i'r gofrestr (oni bai am bwynt data cyfatebol unigol o ddata addysg). Roedd hyn yn golygu bod angen cyfuno canlyniadau paru data yn effeithlon i adnabod unigolion unigryw. Roedd hyn yn gymhlethdod ychwanegol ar ben y problemau gyda pharu a godwyd uchod - os oedd problemau yn y paru gwreiddiol, roedd yr heriau’n cynyddu pan gyfunwyd y data.
Byddai angen i broses o gyflwyno cofrestru awtomatig yn ehangach ystyried gallu timau gwasanaethau etholiadol presennol i reoli'r gwaith ychwanegol. Efallai nad yw profiad y pedair ardal yn y cynlluniau peilot hyn yn gynrychioliadol o bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Cysylltu ag etholwyr
Mae'r data cryno isod yn nodi canlyniadau allweddol y broses hon. Mae'n dangos bod nifer gymharol fawr o etholwyr wedi'u hychwanegu at y cofrestrau o ganlyniad i gofrestru awtomatig – rhwng oddeutu 2% ac 8% o'r etholwyr cofrestredig. Dim ond nifer fach wnaeth optio allan o'r broses.
Gwyddom o ddata cyfrifiadau 2011 a 2021 fod rhwng 9 – 10% o'r boblogaeth yng Nghymru yn newid cyfeiriad mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos y byddai’n fanteisiol cynnal proses cofrestru awtomatig reolaidd a fyddai’n gallu cofrestru cyfran sylweddol o’r bobl hyn.
Tabl 6 Data cryno cofrestru awtomatig
| Gwynedd | Casnewydd | Powys | |
|---|---|---|---|
| Nifer yr hysbysiadau cofrestru awtomatig a anfonwyd | 7,432 | 2,485 | 5,395 |
| Nifer y bobl a ofynnodd am gael eu tynnu o'r broses gofrestru awtomatig | 16 | 94 | 28 |
| Nifer y bobl a gofrestrwyd yn awtomatig | 7,092 (8%) | 2,123 (2%) | 5,361 (5%) |
| Nifer y cyrhaeddwyr* a gofrestrwyd | 424 | 0 | 1,052 |
| Nifer yr etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n awtomatig sydd wedi cofrestru ar gyfer etholfraint seneddol | 68 | 317 | 1,146 |
*Mae cyrhaeddwyr yn 14 - 15 oed a gellir eu hychwanegu i’r gofrestr etholiadol cyn iddynt droi’n 16 oed a dod yn gymwys i bleidleisio.
Nid ydym yn gwybod a oedd mathau penodol o bobl yn fwy tebygol o gael eu canfod gan y broses gofrestru awtomatig. Er ei bod yn rhesymol tybio y bydd llawer yn bobl sydd wedi symud tŷ yn gymharol ddiweddar, sydd, er enghraifft, wedi cofrestru ar gyfer y dreth gyngor ond nid ar gyfer pleidleisio. Yr eithriad yw'r rhai a nodwyd drwy ddefnyddio data addysg lle bydd pobl iau yn cael eu hychwanegu at y gofrestr yn bennaf.
Mae’r ffigyrau cofrestru cyrhaeddwyr yn arbennig o nodedig. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod tua 2,700 / 2,800 o bobl rhwng 14 a 15 oed yng Ngwynedd a’r un nifer hefyd ym Mhowys. Mae’r niferoedd a ychwanegwyd yn ystod y cynlluniau peilot felly’n cynrychioli rhwng 16 - 37% o’r holl gyrhaeddwyr posibl yn yr ardaloedd hynny. Arweiniodd y cynlluniau peilot hefyd at gofrestru llawer o bobl 16 neu 17 oed gyda 366 wedi'u hychwanegu yng Ngwynedd a 245 ym Mhowys.
Ni allwn asesu cywirdeb y paru data a’r broses gofrestru awtomatig yn fanwl, e.e. pa gyfran o bobl a gysylltwyd â nhw ac a gofrestrwyd oedd yn breswylwyr yn y cyfeiriad hwnnw, ar yr adeg honno. Er bod yr angen am bwyntiau data cyfatebol mewn dwy set ddata yn amlwg yn cynyddu’r tebygolrwydd eu bod yn breswylwyr cyfredol.
Y dystiolaeth orau o'r cynlluniau peilot hyn yw cyfran yr etholwyr a gofrestrwyd yn awtomatig a gafodd eu tynnu oddi ar y gofrestr yn ddiweddarach yn ystod y canfasio blynyddol. Nid yw hyn ychwaith yn fesur manwl gywir am ei fod gofyn i rywun yn yr eiddo ymateb yn ystod y canfasio a nodi nad yw etholwr sydd wedi’i restru’n byw yn y cyfeiriad hwnnw - gwyddom nad pawb a wneir hynny. Fodd bynnag, mae'n rhoi syniad da o'r lefel gyffredinol o gywirdeb yn y paru.
Yn gadarnhaol, erbyn dechrau i ganol mis Tachwedd 2025, roedd nifer fach o etholwyr a ychwanegwyd yn ystod y cofrestru awtomatig wedi'u marcio i'w dileu o ganlyniad i'r canfasio blynyddol – 17 ym Mhowys a 66 yng Ngwynedd.
O ystyried amseru’r adroddiad hwn, nid yw hi wedi bod yn bosibl cynnwys y data terfynol ar etholwyr a dynnwyd oddi ar gofrestrai o ganlyniad i’r canfasio blynyddol. Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am y data hwn gan yr ardaloedd peilot er mwyn bodloni eu hunain fod ein casgliadau yma wedi’u cefnogi.
Anfonwyd hysbysiad cofrestru at bobl a nodwyd drwy ddefnyddio data addysg neu fwy nag un o'r setiau data eraill. Rhoddodd hyn wybod iddynt y byddent yn cael eu hychwanegu at y gofrestr ymhen 60 diwrnod ac yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol. Gofynnwyd i'r rhai a oedd am optio allan gysylltu â'r awdurdod peilot o fewn 60 diwrnod.
Cafodd y cyfathrebiadau a ddefnyddiwyd yn y cynlluniau peilot eu cynllunio a'u profi gan y Tîm Mewnwelediadau Ymddygiadol gyda'r nod o'u gwneud mor glir a dealladwy â phosibl i etholwyr.
Roedd y ddeddfwriaeth beilot yn caniatáu i'r cyfathrebiadau hyn gael eu hanfon naill ai drwy'r post neu drwy e-bost. Fodd bynnag, yn ystod y cynllun peilot anfonwyd yr holl hysbysiadau drwy'r post. Fel rhan o unrhyw broses o gyflwyno’n ehangach, rydym yn argymell ei bod yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon yr hysbysiad cyntaf ar ffurf copi caled i gyfeiriad yr etholwr, yn hytrach na thrwy e-bost. Os bydd achos o baru data anghywir, mae manylion cyswllt â'r cyfeiriad yn cynnig cyfle i breswylwyr presennol dynnu sylw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol at hyn.
Ychwanegwyd etholwyr a gofrestrwyd yn awtomatig drwy'r cynllun peilot hwn at y gofrestr ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru (Senedd a llywodraeth leol). Ni allent gael eu cofrestru'n awtomatig ar gyfer etholiadau neilltuedig (etholiadau cyffredinol y DU neu Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs)).
Roedd adborth gan awdurdodau lleol yn gymysg ynghylch ymarferoldeb rheoli'r gwahanol etholfreintiau pe bai cofrestru awtomatig yn cael ei gyflwyno. Teimlai rhai bod ychwanegu etholwyr ar gyfer un etholfraint yn unig, pan allent fod yn gymwys ar gyfer y ddwy, yn gymhlethdod annefnyddiol. Roedd eraill yn teimlo fod y cymhlethdod, o ran gwahanol etholfreintiau’n bodoli eisoes. Fodd bynnag, roeddent yn meddwl y byddai'n bwysig i'w systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol allu rheoli'r gofynion hyn yn effeithlon.
Mae hyn yn golygu bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn gallu nodi'n glir yr etholwyr sydd wedi'u cofrestru'n awtomatig ar eu cofrestrau. Mae cofrestr etholiadol ar gyfer ardal yn gronfa ddata sengl gydag ‘arwyddion' wedi'u gosod wrth ymyl etholwyr unigol i ganiatáu i wahanol etholwyr cymwys gael eu cynhyrchu, yn dibynnu ar y bleidlais dan sylw.
Mae rhai etholwyr, e.e. rhai dinasyddion yr UE, eisoes wedi'u fflagio (gydag arwydd 'B' neu 'G') i ddangos y gallant bleidleisio yn etholiadau'r Senedd, lleol a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ond nid yn etholiadau cyffredinol y DU. Fodd bynnag, cyn y cynlluniau peilot hyn, nid oedd unrhyw arwydd y gellid ei ddefnyddio i wahaniaethu'n gywir rhwng y rhai a oedd wedi'u cofrestru'n awtomatig. Achosodd yr angen i gytuno ar arwydd addas rai oedi o ran y cynlluniau peilot. Os caiff cofrestru awtomatig ei gyflwyno, dylid cytuno ar ddull parhaol. Gallai hyn olygu parhau i ddefnyddio’r arwydd ‘J’ a ddefnyddiwyd yn ystod y cynlluniau peilot.
Yn bwysig iawn, ac yn wahanol i’r arwydd dinesydd yr UE, bydd yr arwydd hwn yn dweud wrth Swyddogion Cofrestru Etholiadol y gall bod gwybodaeth ar goll ynglŷn â’r etholwr - yn benodol ei genedligrwydd ac y gallai fod yn gymwys o hyd i gofrestru ar gyfer etholiadau eraill (ac y dylid cysylltu ag ef).
Yn y pen draw, mae osgoi dryswch ymysg pleidleiswyr yn hollbwysig. Heb reoli’r gwahanol etholfreintiau’n effeithiol mae risg na fydd pleidleiswyr yn ymwybodol o’r angen i gofrestru ar gyfer yr etholiad sydd ar ddod. Mae isetholiadau hefyd yn cyflwyno her arbennig am y gallant ddigwydd unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Byddai hyn yn cael ei wneud yn waeth petai’r isetholiad yn un ar gyfer pleidlais a gedwir yn ôl lle na fyddai'r pleidleiswyr a gofrestrwyd wedi'u cofrestru’n awtomatig ar gyfer yr etholiad hwnnw (ond gallant gredu eu bod wedi cofrestru).
Roedd yr hysbysiadau a anfonwyd yn y cynlluniau peilot yn dweud yn glir wrth bleidleiswyr y byddai angen iddynt gofrestru ar wahân ar gyfer rhai etholiadau eraill ond nid oeddent yn cynnwys gwahoddiad i gofrestru. Mewn rhai ardaloedd, anfonwyd nodiadau atgoffa yn ystod y cyfnod o 60 diwrnod a oedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth i etholwyr am y posibilrwydd o gofrestru ar gyfer yr etholfraint seneddol. Ond ni anfonwyd unrhyw wahoddiadau i gofrestru i’r etholwyr hyn o fewn y cyfnod o 60 diwrnod.
Rhaid i etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n awtomatig dderbyn gwahoddiad i gofrestru ar ryw adeg am na all y Swyddog Cofrestru Etholiadol fod yn sicr a ddylent hefyd fod wedi’u cofrestru ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU. Mewn unrhyw gyflwyniad o gofrestru awtomatig yn y dyfodol, byddai cyfuno'r hysbysiad a'r gwahoddiad i gofrestru yn symleiddio'r broses hon, yn helpu i liniaru dryswch ymhlith pleidleiswyr a gallai leihau costau.
Roedd ymateb y bobl a gysylltwyd â nhw ynghylch y cofrestru awtomatig yn agwedd bwysig ar y cynllun peilot. Gwyddom o’n ymchwil blaenorol fod dros hanner poblogaeth Prydain yn meddwl y byddai cofrestru awtomatig yn welliant ar y system gofrestru bresennol. Yn gadarnhaol, derbyniodd yr awdurdodau lleol ond ychydig o ymholiadau a chwynion. Fel yr uchod, gwyddom na fydd pawb a gysylltwyd â nhw wedi ymgysylltu’n llawn gyda’r wybodaeth a ddarparwyd ac y gallai hynny fod yn un ffactor y tu ôl i’r diffyg ymateb. Fodd bynnag, mae’r ymateb cyfyngedig yn dangos diffyg pryder eang ynghylch y dull o gofrestru etholwyr heb gais.
Ar draws y tri chynllun peilot, gofynnodd rhwng 0.2% (Gwynedd) a 4% (Casnewydd) o'r rhai a anfonwyd hysbysiadau cofrestru awtomatig atynt am beidio â chael eu hychwanegu at y cofrestrau. Roedd rhai elfennau cyffredin o fewn y grŵp hwn:
- Ar gyfer y cynlluniau peilot sy’n defnyddio data addysg, ac felly’n cofrestru cyrhaeddwyr 14 - 15 oed, fe wnaethant dderbyn rhai cyfathrebiadau gan rieni/gwarcheidwaid pryderus. Mewn nifer o achosion, roedd hyn yn fater o rieni yn gwirio p’un a oedd yn gywir fod rhywun 14 - 15 oed yn cael eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol. Yn aml, yn dilyn esboniad gan y tîm gwasanaethau etholiadol, byddai'r ymholiad yn cael ei ddatrys a byddai'r etholwr yn cael ei gofrestru. Mewn achosion eraill, fe wnaethant optio allan o’r broses gofrestru awtomatig.
- Derbyniodd y cynlluniau peilot nifer fach o ymholiadau hefyd gan bobl nad oeddent yn dymuno ymddangos ar y gofrestr etholiadol am resymau diogelwch. Roeddent yn bryderus, yn ddealladwy, ynghylch y wybodaeth eu bod yn mynd i gael eu cofrestru. Roedd y timau gwasanaethau etholiadol yn gallu cynnig yr opsiwn o ddefnyddio'r broses gofrestru ddienw bresennol, yn hytrach na chael eu hychwanegu'n awtomatig. Fodd bynnag, ym mhob achos bron, nid oedd yr unigolion yn teimlo sicrwydd ynghylch y darpariaethau cofrestru dienw ac roedd yn well ganddynt aros heb eu cofrestru.
- Cododd rhai pobl bryderon mwy cyffredinol. Roeddent yn aml yn farnau cryf, e.e. lle roeddent yn bwrpasol am aros heb eu cofrestru neu nad oeddent yn hoffi'r syniad o gael eu hadnabod trwy ffynonellau data eraill. Ond dim ond cyfran o’r nifer fach ar y cyfan a ofynnodd i optio allan oedd hyn.
Er bod nifer y cysylltiadau yn gymharol isel ar y cyfan, ac nad oedd yr awdurdodau lleol wedi cynyddu eu staff fel rhan o'r cynllun peilot, roedd ymdrin â'r ymholiadau hyn yn gofyn am amser staff. Fel rhan o unrhyw broses gyflwyno, byddai angen i awdurdodau lleol asesu eu gallu i ymdrin ag ymholiadau yn dibynnu ar nifer y llythyrau cofrestru awtomatig yr oedden nhw'n eu hanfon allan a'u sefyllfa staffio bresennol.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon ffurflenni ‘gwahoddiad i gofrestru’ unigol i etholwyr posibl a nodwyd drwy, er enghraifft, gyswllt uniongyrchol gydag unigolion neu drwy baru data lleol. Nid oedd un pwynt data cyfatebol mewn set ddata yn ddigonol i gofrestru unigolyn yn awtomatig yn y cynlluniau peilot hyn ond mae’n ddigon i fod angen anfon gwahodd i gofrestru.
Yn gyfreithiol, unwaith y bydd gwahoddiad i gofrestru yn cael ei anfon, rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol hefyd gymryd camau ychwanegol i annog ymateb, gan gynnwys anfon nodiadau atgoffa drwy'r post, ymweld â'r eiddo a/neu anfon e-bost dilynol personol.
Lle cyhoeddodd ardaloedd peilot wahoddiadau i gofrestru i'r etholwyr hyn yn ystod y cyfnod peilot, fe wnaethant gadarnhau bod hwn yn weithgaredd sy'n gofyn am lawer o adnoddau o ran cyhoeddi'r gwahoddiadau ac o ran trin ymatebion. Er enghraifft, cyhoeddodd Powys bron i 7,000 o wahoddiadau i gofrestru i etholwyr posibl yn ystod y cynllun peilot. Byddai hyn wedi bod yn dros 12,000 o wahoddiadau i gofrestru ond fe wnaethant anfon llythyr cychwynnol at y grŵp hwn a anogodd lawer i gofrestru ar-lein a hefyd nodi anghywirdebau yn y paru data.
Felly mae gan hyn y potensial i fod yn ymrwymiad sylweddol o adnoddau i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol os caiff cofrestru awtomatig ei gyflwyno yng Nghymru.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y bydd unrhyw broses gofrestru awtomatig yn rhyngweithio â'r ymrwymiadau presennol hyn mewn perthynas â gwahoddiadau i gofrestru a sicrhau bod gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yr adnoddau sydd eu hangen i addasu i'r llwyth gwaith cynyddol hwn.
Dylai unrhyw broses o gyflwyno cofrestru awtomatig ystyried amseriad ac amlder paru data a chyswllt ag etholwyr, yn enwedig mewn perthynas ag agweddau eraill ar waith timau etholiad, megis y canfasio blynyddol ac etholiadau wedi'u hamserlennu. Mae hefyd yn bwysig ei bod yn glir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a yw'r broses hon i fod yn orfodol neu yn ôl eu disgresiwn nhw.
Profodd y cynlluniau peilot un broses o baru a chofrestru o fewn blwyddyn ond yn dibynnu ar argaeledd data ac effeithlonrwydd y broses, gallai ddigwydd yn amlach. Gellid cynnal proses unigol bob blwyddyn rhwng diwedd y canfasio blynyddol a chyn unrhyw etholiadau mis Mai a drefnwyd. Mewn blynyddoedd heb etholiadau wedi'u hamserlennu, byddai'n fuddiol hefyd cynnal ymarfer cyn y canfasio.
Fodd bynnag, dim ond pe bai'r prosesau paru mor effeithlon â phosibl a phe bai gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddigon o adnoddau i gwblhau'r gwaith o fewn yr amser sydd ar gael y byddai hyn yn hyfyw:
- Mae angen cwblhau gweithgaredd cofrestru awtomatig, ac ni ddylai orgyffwrdd â'r canfasio blynyddol: mae’r profiadau o'r cynlluniau peilot yn dangos bod rhedeg y broses gofrestru awtomatig i mewn i gyfnod y canfasio blynyddol yn creu problemau. Er enghraifft, a ddylid cynrychioli etholwyr sydd wedi'u cofrestru'n awtomatig ar ffurflenni canfasio'r aelwydydd a sut i wneud hynny. Mae manteision ac anfanteision i sut y gellid defnyddio'r canfasio. Byddai canfasio yn dilyn cofrestru awtomatig yn cynnig cyfle arall i ddweud wrth etholwyr sydd wedi cofrestru'n awtomatig eu bod wedi cofrestru ar gyfer etholiadau penodol a'u hannog i gofrestru'n 'llawn'. Gallai proses yn dilyn y canfasio, a chyn etholiadau wedi'u hamserlennu, ddenu etholwyr newydd a fethwyd gan y canfasio neu sydd wedi symud yn fwy diweddar.
- Rhaid i'r broses gael ei chwblhau hefyd ymhell cyn yr etholiadau a drefnwyd: Er mwyn osgoi dryswch ymhlith etholwyr ynghylch a ydynt wedi cofrestru ai peidio, dylid cwblhau'r broses (gan gynnwys y cyfnod rhwng hysbysu a chofrestru) ymhell cyn etholiad a drefnwyd. Mae angen cyfathrebu clir a dull cytunedig o ymdrin ag etholwyr mewn perthynas ag unrhyw isetholiadau heb eu trefnu hefyd.
Mae’r mater o amseru hefyd yn dibynnu ar y dull o hysbysu neu’r ‘cyfnod aros’. Yn y cynlluniau peilot hyn, roedd y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gael 60 diwrnod rhwng cyhoeddi hysbysiad cofrestru ac ychwanegu'r etholwr at y cofrestrau.
Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleihau'r cyfnod hysbysu. Byddai cyfnod byrrach yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran amseru ymarfer cofrestru awtomatig. Gallai hefyd olygu llai o gyfle i etholwyr ddrysu ynghylch a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio ai peidio – yn enwedig pe bai isetholiadau’n cael eu cynnal.
Er nad oedd y 60 diwrnod yn peri problemau sylweddol i'r ardaloedd peilot, nid oes rheswm penodol pam y dylai'r cyfnod hwn fod yn 60 diwrnod ychwaith – nid yw'n ymwneud â phrosesau cofrestru etholiadol presennol, e.e. adolygiadau cofrestru na'r cyfnodau cofrestru parhaus.
Gallai lleihau'r cyfnod gynyddu'r posibilrwydd o ychwanegu etholwyr at y cofrestrau yn anghywir (lle gellid derbyn ymateb i ddweud nad yw'r etholwr yn breswylydd) neu pan nad ydynt am fod ar y gofrestr (lle gellid derbyn ymateb optio allan). Fodd bynnag, nododd y cynlluniau peilot fod y rhan fwyaf o'r ymatebion yn tueddu i gael eu derbyn yn ystod y 2 – 3 wythnos gyntaf o'r 60 diwrnod.
Ochr yn ochr â'r penderfyniad ehangach ynghylch amserlennu prosesau cofrestru awtomatig, dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleihau'r cyfnod hysbysu. Gallai hyn ei gysoni â chyfnodau adolygu presennol (14, 28 neu 42 diwrnod yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol) a hefyd ganiatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol alinio diwedd y cyfnod â diweddariad i’r gofrestr barhaus.
Gweithgareddau allgymorth wedi’u targedu
Yng Ngwynedd, roedd elfen ychwanegol i'r cynllun peilot a oedd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl lle na fyddai'r cyngor yn debygol o ddal digon o ddata amdanynt ar gyfer cofrestru awtomatig. Gallai hyn gynnwys pobl sy'n symud yn aml, nad oes ganddynt gyfeiriadau sefydlog neu nad ydynt yn rhyngweithio llawer â'r cyngor oherwydd rhwystrau eraill.
Nod yr elfen hon o'r cynllun peilot oedd:
- Datblygu model ar gyfer partneriaeth a chydweithio rhwng cymdeithas sifil a Swyddogion Cofrestru Etholiadol
- Deall pa fylchau a allai fod yn nata'r cyngor ar gyfer cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn genedlaethol yng Nghymru
Cydlynwyd y rhan hon o'r peilot gan Small Axe, sefydliad di-elw. I ddechrau, fe wnaethon nhw gysylltu ag 86 o sefydliadau cymdeithas sifil ac yn y pen draw fe wnaethon nhw weithio'n uniongyrchol gyda 14 i ymgysylltu â chymunedau drwy sesiynau galw heibio a gyda deunyddiau (a ddosbarthwyd ar-lein ac all-lein). Mewn arolwg yn dilyn y cynllun peilot o grwpiau cymdeithas sifil, dywedodd 57% o'r ymatebwyr na chymerodd ran mai diffyg adnoddau oedd y prif reswm pam na wnaethant gymryd rhan.
Cysylltu ag etholwyr posibl
Nod cychwynnol yr ymgysylltiad hwn oedd annog unigolion i lenwi ffurflen gyswllt, gan fynegi diddordeb mewn cofrestru i bleidleisio. Cadwyd y ffurflen hon mor syml â phosibl er mwyn cael gwared ar rwystrau i ymateb. Roedd hyn yn golygu bod angen i Wynedd ddilyn i fyny gyda'r holl ymatebwyr yn ddiweddarach er mwyn casglu'r wybodaeth ychwanegol a fyddai ei hangen i'w cofrestru (e.e. rhif yswiriant gwladol).
At ei gilydd, anogwyd 65 o unigolion i fynegi diddordeb drwy’r ffurflen gychwynnol (er bod un wedi darparu rhif nad oedd yn rif yswiriant gwladol y DU):
- Ymatebodd 59 i'r cais am fanylion pellach, ac o'r rhain
- darparodd 43 fanylion ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer paru data, ac o'r rhain
- gellid paru 11 yn erbyn un ffynhonnell ddata (anfonwyd hysbysiad cofrestru awtomatig at 10 o'r rhain gan fod un person wedi'i nodi ar ôl diwedd y cyfnod peilot)
- ni ellid paru 14 yn erbyn unrhyw ddata a gedwir gan y cyngor
- canfuwyd bod 18 eisoes wedi cofrestru (roedd pump ohonynt wedi cofrestru drwy'r cynllun peilot ond cyn y cyswllt allgymorth)
- darparodd 43 fanylion ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer paru data, ac o'r rhain
Felly roedd effaith gyffredinol y cynllun peilot hwn yn gyfyngedig o ran nifer y bobl a gymerodd ran. Fodd bynnag, mae gwersi defnyddiol y dylid eu hystyried wrth feddwl am y math hwn o waith yn y dyfodol:
Ymatebodd 23% (15 o bobl) o'r rhai a gofrestrodd yn wreiddiol i'r cyswllt dilynol hefyd ond fe wnaethant wrthod darparu manylion personol pellach. Roedd hyn er gwaethaf gwaith sylweddol sefydliadau cymdeithas sifil i'w recriwtio i ddechrau. Hefyd, roedd angen nifer o negeseuon a galwadau ar y rhan fwyaf o'r rhai a ymatebodd, a darparu digon o wybodaeth ar gyfer paru data, i gyrraedd y pwynt hwnnw. Mae hyn yn tanlinellu'r her a gyflwynir gan grwpiau sy'n anodd ymgysylltu â nhw – mae ymgysylltu llwyddiannus yn aml yn gofyn am waith llafurus, cyson ac aml-gam. Efallai bod hyn hefyd wedi cael ei wneud yn anoddach yn y cynllun peilot oherwydd diffyg digwyddiad etholiadol sydd ar ddod i ganolbwyntio'r ymgysylltiad arno
Ni ellid paru 58% (25 allan o 43) o'r rhai a roddodd fanylion â digon o ddata i gael eu cofrestru'n awtomatig – er bod hwn yn ganlyniad siomedig o ran niferoedd cofrestru, mae'n mynd i'r afael ag un o nodau'r peilot wrth ddangos bod y gwaith allgymorth yn nodi pobl na fyddent fel arall yn cael eu nodi gan ddata a gedwir yn lleol.
Nid oedd llawer o bobl yn ymwybodol a oeddent wedi cofrestru ai peidio. Roedd 42% o'r cysylltiadau a lenwodd arolwg adborth Small Axe hefyd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio ond roedd dros dri chwarter ohonynt yn credu mai dyma fyddai'r tro cyntaf iddynt gofrestru i bleidleisio.
Nodir manylion costau'r cynllun peilot isod. O ran y gwaith allgymorth yng Ngwynedd, byddai buddsoddiad cyfatebol ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru yn golygu cost sylweddol, yn enwedig o ystyried nifer yr etholwyr sy'n ymgysylltu a'r diffyg cofrestru y gellir eu priodoli'n uniongyrchol. Fodd bynnag, dangosodd y cynllun peilot nad oes ateb syml yma – mae'r mathau o bobl sy'n ymwneud â'r gweithgaredd hwn yn llai tebygol o fod ar gronfeydd data lleol presennol ac yn llawer llai tebygol o gofrestru eu hunain yn rhagweithiol.
Mae rhagor o fanylion am ganlyniadau'r gwaith allgymorth ar gael yn y gwerthusiad llawn a gynhyrchwyd gan Small Axe.
Costau
Ariannodd Llywodraeth Cymru y gweithgareddau peilot ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r tabl isod yn nodi'r costau terfynol yn ôl maes gwariant cyffredinol.
Ni allwn ddod i gasgliadau, o'r costau hyn, ynghylch cost derfynol cyflwyno cofrestru awtomatig ledled Cymru. Ni fyddai angen i rai costau, megis y Feddalwedd Rheoli Etholiadol gael eu hailadrodd yn llawn. Byddai costau eraill, fel staffio, yn amrywio ar gyfer gwahanol awdurdodau lleol. Byddai unrhyw newidiadau i'r prosesau rhwng y cynlluniau peilot a rhoi proses ar waith yn genedlaethol hefyd yn cael effaith.
Mae’r costau a nodir isod yn seiliedig ar hawliadau ariannol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru erbyn 2 Rhagfyr 2026.
| Cost | |
|---|---|
| Meddalwedd Rheoli Etholiadol | £887,493 |
| Staff | £66,852 |
| Allgymorth | £61,030 |
| Mewnwelediadau Ymddygiadol | £86,491 |
| Eraill (e.e. costau postio) | £32,636 |
| Cyfanswm | £1,134,502 |
Roedd yr elfen gost bwysicaf yn ymwneud â'r gwaith datblygu oedd ei angen i sicrhau bod y systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol yn gallu cefnogi'r broses gofrestru awtomatig. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y systemau hyn o ran ei gwneud yn bosibl i dimau gwasanaethau etholiadol reoli unrhyw ddulliau newydd o gofrestru’n effeithlon. Ni fydd prosesau newydd, a bennwyd mewn deddfwriaeth, yn gweithio'n gywir os nad oes gan y systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol y swyddogaeth i'w cyflawni.
Casgliadau ac argymhellion
Mae’r cynlluniau peilot hyn yn awgrymu y gellid cyflwyno cofrestru awtomatig yng Nghymru a gallai gael effaith gadarnhaol ar gyflawnder cofrestrau etholiadol. Fodd bynnag, cyn gwneud penderfynu a ddylid rhoi cofrestru awtomatig ar waith rydym yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru:
Rydym wedi derbyn peth data o ganfasio sy’n dangos faint o etholwyr a gofrestrwyd yn awtomatig a gafodd eu tynnu oddi ar y gofrestr yn ystod y canfasio. Fodd bynnag, ar adeg cyhoeddi nid oedd yn bosibl cynnwys data canfasio terfynol. Dylai Llywodraeth Cymru asesu'r data hwn er mwyn bodloni eu hunain fod ein casgliadau yma wedi’u cefnogi.
Gall y broses paru data fod yn hirfaith gyda gofyn am waith sylweddol â llaw yn dilyn y paru awtomatig. Yn ogystal, mae costau sy’n gysylltiedig gyda nifer y gwahoddiadau i gofrestru (ITRs) sydd angel cael eu hanfon i etholwyr yn dilyn paru data. Ni fydd profiad y cynlluniau peilot hyn o reidrwydd yn gynrychioliad o bob awdurdod lleol yng Nghymru a dylai Llywodraeth Cymru ystyried pa adnoddau ychwanegol a fydd eu hangen ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled Cymru.
Ni allwn ddod i gasgliadau, o gostau’r cynlluniau peilot, ynglŷn â chyfanswm y costau ar gyfer cyflwyno cofrestru awtomatig ledled Cymru gyfan. Ni fyddai angen i rai costau, megis y Feddalwedd Rheoli Etholiadol gael eu hailadrodd yn llawn. Gallai costau eraill, gan gynnwys y pwynt adnoddau uchod, amrywio’n sylweddol ar gyfer gwahanol awdurdodau lleol.
Rydym hefyd gwneud argymhellion gyda’r bwriad o gefnogi rhoi cofrestru awtomatig ar waith yn llwyddiannus
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr amseru a’r amlder gorau ar gyfer proses gofrestru awtomatig - yn enwedig mewn perthynas ag elfennau eraill o waith timau etholiad, megis y canfasio blynyddol ac etholiadau wedi’u trefnu. Gellid gwneud hyn bob blwyddyn rhwng diwedd y canfasio blynyddol a chyn unrhyw etholiadau mis Mai a drefnwyd. Mewn blynyddoedd heb etholiadau wedi'u hamserlennu, byddai'n fuddiol hefyd cynnal ymarfer cyn y canfasio.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleihau’r cyfnod hysbysu o 60 diwrnod. Byddai cyfnod byrrach yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran amseru ymarfer cofrestru awtomatig. Gallai hefyd olygu llai o gyfle i etholwyr ddrysu ynghylch a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio ai peidio – yn enwedig pe bai isetholiadau’n cael eu cynnal.
Dylai fod yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon yr hysbysiad cyntaf o gofrestru awtomatig ar ffurf copi caled i gyfeiriad yr etholwr, yn hytrach na thrwy e-bost. Os bydd achos o baru data anghywir, mae manylion cyswllt â'r cyfeiriad yn cynnig cyfle i breswylwyr presennol dynnu sylw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol at hyn.
Dylid cynnwys gwahoddiad i gofrestru (ITR) gyda'r llythyr hysbysu. Byddai hyn yn symleiddio’r broses, gan helpu i liniaru dryswch ymysg pleidleiswyr a gallai leihau costau. Rhaid i etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n awtomatig dderbyn gwahoddiad i gofrestru ar ryw adeg am na all y Swyddog Cofrestru Etholiadol fod yn sicr, o baru data lleol, a ddylent hefyd fod wedi’u cofrestru ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod arweiniad priodol ar ansawdd a defnydd data fel rhan o’r broses o roi cofrestru awtomatig ar waith. Gallai canllawiau roi hyder ychwanegol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynghylch pa ffynonellau data y gallant neu na ddylent eu defnyddio y tu hwnt i enghreifftiau fel y dreth gyngor.
Mae cyflawni unrhyw broses gofrestru etholiadol yn llwyddiannus yn dibynnu ar ymarferoldeb systemau meddalwedd rheoli etholiadol. Bydd angen datblygiad ar gyfer y darparwyr systemau rheoli etholiadol hynny nad ydynt yn rhan o'r cynlluniau peilot hyn ac mae gwersi i'w dysgu o'r cynlluniau peilot hefyd. Bydd angen i gynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru gytuno ar ‘arwydd’ cofrestr parhaol ar gyfer etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n awtomatig yn ogystal ag archwilio gwelliannau i’r prosesau paru data – yn enwedig mewn perthynas â sut mae canlyniadau o wahanol setiau data yn cael eu cyfuno.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut orau i roi'r math o gofrestru awtomatig a gyflwynwyd yng Nghymru ar waith er mwyn caniatáu integreiddio effeithlon yn y dyfodol ag unrhyw system ledled y DU. Dylai Llywodraeth y DU ymgysylltu â chynlluniau Llywodraeth Cymru a’u hystyried wrth iddynt ddatblygu dull ar gyfer y DU gyfan.
Rhagor o Wybodaeth
Diben y ddeddfwriaeth hon yw caniatáu i weithgarwch peilot ddigwydd mewn tair ardal awdurdod lleol yng Nghymru – Casnewydd, Powys a Gwynedd. Bydd yr awdurdodau hyn yn treialu ffyrdd o gofrestru etholwyr heb gais fel y nodir yn adrannau 3 a 4 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (Deddf 2024).
Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025 ar gael yma.