We're showing you content for:

Crynodeb

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.

Cofrestru i bleidleisio

Cofrestrwch i bleidleisio

Os nad ydych wedi cofrestru, ni allwch bleidleisio. Mae mor syml â hynny.

Cofrestrwch i bleidleisio nawr

Pryd mae angen i mi gofrestru

Gallwch gofrestru i bleidleisio pan fyddwch yn 14. Gallwch ddechrau pleidleisio mewn rhai etholiadau pan fyddwch yn 16 oed.

Yn ffodus, nid oes angen i chi gofrestru cyn pob etholiad. Mae angen i chi gofrestru os:

  • nad ydych erioed wedi cofrestru i bleidleisio o’r blaen
  • rydych chi newydd ddod yn ddigon hen i gofrestru

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio eto os:

  • rydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar
  • rydych chi wedi newid eich enw am unrhyw reswm

Byddwch yn parhau i fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio cyn belled â’ch bod yn byw yn yr un cyfeiriad ac nad ydych yn newid eich enw. Pan fyddwch chi'n dod yn ddigon hen i bleidleisio, bydd eich cofnod yn cael ei ddiweddaru'n awtomatig.

Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd i gofrestru i bleidleisio ar-lein. Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn, y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich rhif yswiriant gwladol. Os ydych o dan 16 oed, ni ofynnir i chi am rif yswiriant gwladol.

Y gofrestr etholiadol

Yn fuan ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol. Dyma restr o bawb yn eich ardal sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Rheolir y rhestrau hyn gan dîm etholiadau eich cyngor lleol.

Mae dwy fersiwn o'r gofrestr etholiadol - y gofrestr lawn a'r gofrestr agored. Bydd eich manylion, sy'n cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad, yn cael eu cynnwys ar y gofrestr agored a'r gofrestr lawn. 

Os yw eich manylion ar y gofrestr agored, gall unrhyw un fel busnesau ac elusennau ddefnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am eu gwasanaethau. Gallwch ddewis peidio â bod ar y gofrestr agored pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio, neu ar unrhyw adeg drwy gysylltu â'ch swyddfa etholiadau lleol. Os ydych o dan 16 oed, dim ond at y gofrestr lawn y cewch eich ychwanegu.

  • rhesymau etholiad. Mae hyn yn cynnwys staff etholiadau, ymgyrchwyr a gwleidyddion cofrestredig
  • canfod trosedd
  • galw pobl i wasanaeth rheithgor
  • gwirio ceisiadau credyd

Os gallai dangos eich manylion ar y naill fath neu’r llall o gofrestr etholiadol fod yn risg i’ch diogelwch, neu ddiogelwch rhywun yr ydych yn byw gyda nhw, efallai y gallwch wneud cais i bleidleisio’n ddienw.

Sut i wirio a ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio

Ni allwch wirio ar-lein i weld a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gofrestr etholiadol neu gofrestru i bleidleisio, dylech gysylltu â'ch tîm etholiadau lleol. Byddant yn hapus i helpu. 
 

Beth yw'r gofrestr etholiadol beth bynnag?

Fideo gan bobl ifanc yn y Blwch Democratiaeth, ein partner llais ieuenctid dros Gymru, 2023.

Ewch i wefan y Blwch Democratiaeth.