Cynghorau Lleol
Crynodeb
Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.
Cynghorau
Gallwch bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol pan fyddwch yn 16 oed.
Ydych chi'n hoffi eich cyfleusterau chwaraeon lleol? Pa mor aml mae eich sbwriel yn cael ei gasglu? Beth yw cyflwr y ffyrdd yn eich ardal chi?
Mae eich cyngor lleol yn gwneud penderfyniadau ynghylch yr holl faterion hyn a llawer mwy sy'n effeithio arnoch chi bob dydd. Mae'n ymdrin â materion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eich ardal leol benodol, ac mae'n gyfrifol am wasanaethau lleol.
Efallai y byddwch hefyd yn clywed cynghorau’n cael eu galw’n ‘llywodraeth leol’ neu’n ‘awdurdodau lleol’.
