We're showing you content for:

Crynodeb

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.

Siarad ag ymgeiswyr

Gallwch ofyn cwestiynau i'ch ymgeiswyr a'u timau am y materion sy'n bwysig i chi. 

Gall ymgeiswyr guro ar eich drws i siarad â chi, neu fod allan yn eich ardal leol. Gelwir hyn yn ganfasio. 

Mae croeso i chi ofyn cwestiynau fel y gallwch ddysgu mwy am eu barn. Dyna pam eu bod yno. Maent eisiau dweud eu barn wrthych chi, ac maent eisiau clywed am yr hyn sy’n bwysig i bobl yn eich ardal chi.

Gall ymgeiswyr gymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus gydag ymgeiswyr eraill yn eich ardal. Gelwir y rhain yn hustyngau. Fel arfer maent yn digwydd mewn adeilad cymunedol lleol a gall unrhyw un fynd. Mae hustyngau yn aml yn cael eu hysbysebu mewn papurau newydd lleol ac mewn grwpiau cymunedol ar-lein.

Efallai y bydd gan bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr dimau yn gweithio iddynt y gallwch gysylltu â nhw i ofyn cwestiynau.

Gallwch anfon e-bost atynt neu eu ffonio, neu anfon neges atynt ar gyfryngau cymdeithasol. Dylai gwneud chwiliad cyflym ar-lein roi'r manylion i chi ar sut i gysylltu ag ymgeiswyr a'u timau.
 

Sut i gysylltu â chynrychiolwyr etholedig

Fideo gan bobl ifanc yn y Blwch Democratiaeth, ein partner llais ieuenctid dros Gymru, 2023.

Ewch i wefan y Blwch Democratiaeth. (Opens in new window)