We're showing you content for:

Crynodeb

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.

Adran 1

Efallai y bydd pobl y tu allan i'ch gorsaf bleidleisio sy'n perthyn i blaid wleidyddol. Gelwir y bobl hyn yn rhifwyr. 

Bydd rhifwyr yn gofyn am y rhif ar eich cerdyn pleidleisio. Mae hyn er mwyn iddynt allu gwirio pwy sydd wedi pleidleisio ac atgoffa pobl nad ydynt wedi pleidleisio eto i wneud hynny. Nid oes yn rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth iddynt os nad ydych am wneud hynny.

Efallai y bydd ymgyrchwyr eraill ger yr orsaf bleidleisio hefyd, a ganiateir. Fodd bynnag, ni ddylai fod unrhyw ymgyrchu yn digwydd y tu mewn i'r orsaf bleidleisio.

Efallai y bydd staff eraill y man pleidleisio y tu allan i'ch man pleidleisio. Maent yno i helpu gyda'r broses ac nid ydynt yn ymgyrchu.