Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025/26
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys ein Hadroddiad Perfformiad, ein Hadroddiad Atebolrwydd a'r Datganiadau Ariannol.
Mae'r Adroddiad Perfformiad yn rhoi trosolwg o'r Comisiwn Etholiadol, ein pwrpas, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a'r risgiau allweddol i gyflawni ein nodau. Rydym wedi cynnwys crynodeb o wybodaeth ariannol yn yr Adroddiad Perfformiad. Mae hwn yn adrodd ar brif bwyntiau y Datganiadau Ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.
Mae’r Comisiwn wedi cryfhau dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chymorth a gwaith ymgysylltu gan Bwyllgor y Llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol, Corff Corfforedig Senedd yr Alban a Phwyllgor y Llywydd yn y Senedd, ac mae pob un wedi craffu ac arwain ein gwaith, a chymeradwyo ein cynlluniau a chyllidebau.
Rydym wedi sgwrsio’n helaeth â phleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr a phleidleiswyr ar draws y wlad. Mae dadl ddemocrataidd y DU yn fywiog, ac rydym yn talu teyrnged i bawb sydd wedi sefyll am swydd etholedig, sy’n rhedeg etholiadau, a’r gwirfoddolwyr helaeth sy’n rhoi cymorth hanfodol. Mae etholiadau’n rhan hollbwysig o’n seilwaith cenedlaethol. Mae angen eu diogelu i sicrhau eu bod yn parhau’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae etholiadau teg a thryloyw yn wynebu bygythiadau drwy fygylu ac aflonyddu ymgyrchwyr, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, ymosodiadau seiber a thwyll pleidleiswyr. Rydym wedi cryfhau ein gwaith ar bob un o’r meysydd hyn, yn enwedig er mwyn cefnogi’r gwaith o roi argymhellion Pwyllgor y Llefarydd ar waith, gan weithio’n agos â’r
heddlu a’r Swyddogion Canlyniadau ar draws y wlad. Mae gwaith wedi dechrau ar God Ymddygiad. Byddai’n rhaid i bleidiau gytuno arno a byddai ar gael i’r cyhoedd. Byddai’n amlinellu sut y dylai pleidiau gwleidyddol eu hunain gymryd camau cadarn os yw eu hymgeiswyr yn gyfrifol am fygylu neu aflonyddu ymgeiswyr eraill. Mae dulliau amddiffyn seiber y Comisiwn wedi cryfhau’n sylweddol, ac rydym yn gweithio gyda llawer o bartneriaid i ymgorffori'r rhain yn bellach ar draws y sector.
Cafodd Bil Cynrychiolaeth y Bobl ei gyflwyno yn Senedd y DU ar ddechrau 2026 ac mae’n cynnwys llawer o argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Etholiadol. Rydym o’r farn y bydd y diwygiadau hyn yn cryfhau gwydnwch ac uniondeb ein system etholiadol, yn mynd i’r afael â llawer o’r bygythiadau a ddaw i’w rhan, ac yn gwella sut y mae etholiadau’n gweithio i bleidleiswyr, ymgyrchwyr, pleidiau a gweinyddwyr. Rydym yn parhau i gynghori ar y Bil a’i weithrediad, a’i drafod, gyda seneddwyr, ac yn darparu ymchwil ar gyfer trafodaethau ar sail gwybodaeth. Fel rhan o’r Bil, cyhoeddodd y llywodraeth fod y pŵer i osod Strategaeth a Datganiad Polisi ar gyfer y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ddiddymu. Mae hyn yn hanfodol i ni. Rydym yn atebol i Senedd y DU, y Senedd a Senedd yr Alban, ond mae’n rhaid i ni barhau’n rheoleiddiwr annibynnol, bod yn ddiduedd yn amlwg, ac yn gallu pennu ein blaenoriaethau strategol a pholisi ein hunain a sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau.
Rhan bwysig o’n rôl yw helpu i gefnogi pleidleiswyr i gymryd rhan mewn etholiadau. Mae ein hymchwil yn dangos nad yw cymaint
ag 8 miliwn ar y gofrestr etholiadol ar hyn o bryd. Rydym wedi annog seneddwyr i weithredu’n gyflym i fynd i’r afael â’r mater hwn
ledled y DU. Rydym hefyd yn gwybod bod gan hyn effaith lawer yn fwy ar rai grwpiau, megis pobl rhwng 18 a 34 mlwydd oed, a
phobl ag anableddau. Felly, eleni, rydym wedi diweddaru ein canllawiau i’w cefnogi nhw. Gallai’r rhai sy’n rhentu eiddo preifat a all
fod yn symud llety yn fwy rheolaidd ac felly heb ddiweddaru eu manylion hefyd fod yn rhai o’r bobl nad ydynt ar gofrestr. Rydym
wedi gwerthuso cynlluniau peilot cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar roi cofrestru awtomatig ar waith yng Nghymru, a chyda Llywodraeth y DU ar ddarpariaethau ym Mil Cynrychiolaeth y Bobl i alluogi newid tebyg yn genedlaethol. Mae’r gyfres hon o newidiadau yn hanfodol, ac rydym yn gofyn yn daer am weithrediad cyflym, ond mae’n rhaid cydlynu hyn yn ofalus ar draws y wlad.
Mae’r gyfraith etholiadol yn y DU yn anghyfredol, yn rhy gymhleth, ac yn anghyson. Fel y rheoleiddwr statudol, rydym wedi parhau i roi cyngor annibynnol i Senedd y DU, y Senedd, a Senedd yr Alban ar newidiadau i bolisi a deddfwriaeth, gan dynnu ar brofiad ac arbenigedd perthnasol. Rydym yn falch o weld llawer o’r cynigion wedi’u hamlinellu ym Mil Cynrychiolaeth y Bobl ac wrth iddo fwrw ymlaen, fe fyddwn yn eglur ynghylch graddfa a chymhlethdod y newidiadau ac a oes modd eu cyflawni’n effeithiol heb beryglu diogelwch neu hygyrchedd.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i’n Comisiynwyr sy’n ymadael, yr Arglwydd Stephen Gilbert a Sarah Chambers, am eu cyfraniadau
pwysig i’r Comisiwn ers llawer o flynyddoedd a hoffwn groesawu Rashik Parmar ac Alan Mabbutt sy’n ymuno â ni.
John Pullinger CB
Cadeirydd
Mae hon wedi bod yn flwyddyn fyrlymus o gynnal etholiadau, prosiectau newydd, a newidiadau wrth i ni gwblhau blwyddyn gyntaf ein Cynllun Corfforaethol 2025 - 2030. Cytunodd Bwyllgor y Llefarydd, Pwyllgor Llywydd y Senedd a Senedd yr Alban ar y Cynllun y llynedd, ac rwy’n hapus iawn gyda’r cynnydd rydym ni wedi ei wneud.
Mae’r Cynllun Corfforaethol wedi ymrwymo i gefnogi pleidleiswyr a chael rhagor o bobl i gyfranogi, moderneiddio’r system etholiadol, diogelu ac amddiffyn y system, arwain trafodaeth ar sail gwybodaeth ynghylch dyfodol etholiadau, a chryfhau’r Comisiwn Etholiadol. Eleni, rydym wedi helpu i gynnal etholiadau lleol a maerol ym mis Mai 2025 yn Lloegr, ac rydym wedi paratoi at yr etholiadau lleol a maerol yn Lloegr, etholiadau Senedd yr Alban, ac etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026.
Fel rhan o’n blaenoriaeth i gefnogi pleidleiswyr a chael rhagor o bobl i gyfranogi, fe gynhalion ni ymgyrch ymwybyddiaeth pleidleiswyr llwyddiannus ar gyfer etholiadau mis Mai 2025 a sicrhaodd dros 300,000 o geisiadau i’r gofrestr etholiadol, ynghyd ag ymgyrchoedd i dynnu sylw at y gofynion ar gyfer ID Pleidleisiwr. Fe wnaethom sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o dwyll etholiadol posibl drwy ein hymgyrch Dy Bleidlais Di a Neb Arall. Yn ôl ein hymchwil ar ôl etholiad, roedd 79% o bobl yn hyderus bod
etholiadau’n cael eu rhedeg yn dda, roedd 95% yn fodlon â’r broses bleidleisio, ac roedd 90% o’r bobl yn gwybod bod angen iddynt ddangos ID i bleidleisio. Serch hynny, roedd dangosyddion defnyddiol o’r ymchwil hon ar gyfer gwella sut rydym yn cynnal etholiadau yn y dyfodol.
Ein rôl yw cefnogi pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â rheoliadau etholiadol, ond hefyd i fod yn hyderus y gallant
ymgyrchu’n deg ac yn ddiogel. Rydym wedi moderneiddio ein canllawiau etholiadol yn ddiweddar, gan ddylunio hyfforddiant
pwrpasol a fideos animeiddiedig i gefnogi ymgeiswyr ac asiantiaid, a chyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer cynnal etholiadau Senedd yr Alban a’r Senedd, sy’n cynnwys diweddariadau arwyddocaol yn sgil newid i ddeddfwriaeth. Hefyd, mae ein prosiect i
ddisodli ein system Cyllid Gwleidyddol Ar-lein, lle y mae ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn cofrestru eu data ariannol, yn mynd yn dda, a bydd yn ein caniatáu i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw.
Fodd bynnag, rydym yn gweld bygythiadau mwyfwy i’n system ddemocrataidd. Roedd etholiadau 2025 yn dal i ddangos cynnydd mewn achosion o fygylu a chamdrin ymgeiswyr, ac yn ôl ein hymchwil ymgeiswyr diweddaraf, profodd 61% o’r ymatebwyr aflonyddu neu fygythiadau i ddiogelwch yn ystod eu hymgyrchoedd. Dywedodd 71% eu bod wedi osgoi rhai gweithgarwch ymgyrch, fel ymgyrchu ar eu pen eu hunain neu yn ystod y nos. Mae hyn niweidio’r ffordd y mae pleidleiswyr yn siarad ag ymgeiswyr, sydd yn rhan hollbwysig o ddemocratiaeth, felly mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Cyflwynodd Gynhadledd y Llefarydd argymhellion allweddol, ac rydym yn eu rhoi ar waith. Mae’r Comisiwn yn cefnogi gweinyddwyr etholiadol i sicrhau bod etholiadau’n cael eu cynnal yn ddiogel. Mae wedi siarad yn y cyfryngau i godi ymwybyddiaeth, ac mae’n gweithio’n agos gyda’r heddlu i annog yr heddluoedd i gyd i ymdrin ag honiadau o ddifrif ac yn gyson.
Un o’r bygythiadau eraill i’n proses ddemocrataidd yw cynnwys gwleidyddol ffugiad dwfn, sy’n parhau i gael ei rannu ar-lein a
dylanwadu ar farn y cyhoedd. Cyn etholiadau mis Mai 2026, fe lansion ni ein cynllun peilot Canfod Cynnwys Ffugiad Dwfn yng
Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae hyn yn ein galluogi i sganio a monitro am ddeunydd etholiadol ffugiad dwfn. Mae gennym ystod o
adnoddau i fynd i’r afael â deunyddiau o’r fath, yn enwedig pan fyddant yn camarwain pleidleiswyr am y broses etholiadol. Rydym
yn gweithio’n agos i gefnogi unrhyw ymgeiswyr neu bleidiau sy’n dioddef ffugiad dwf, a rhybuddio’r rhai sydd angen gwybod.
Gyda’n partneriaid byddwn yn cadw unrhyw dystiolaeth i ennill dealltwriaeth well o sut y daw ffugiadau dwfn i fodolaeth - a phwy
sydd y tu ôl iddynt. Rydym yn parhau i rannu arferion gorau gyda phobl eraill ar hyd a lled y byd sy’n rheoli etholiadau. Eleni, rydym wedi cwrdd â dirprwyaethau o lunwyr deddfau a chyrff rheoli etholiadau a oedd yn ymweld â’r DU o Sweden, De Korea a Japan. Ddiwedd haf 2025, fe gynhalion ni ymweliad gan Gomisiwn Etholiadol Wcráin i Lundain. Bryd hynny, fe lofnodon ni gytundeb rhwng Comisiwn Etholiadol y DU a Chomisiwn Etholiadol Canolog Wcráin i ddatblygu a dyfnhau cydweithredu ar faterion etholiadol. Bydd yn hyn cynnwys trafod datblygu ac arloesi ar weinyddiaeth etholiadol, seiberddiogelwch, ac addysg i bleidleiswyr. Rydym yn falch o rannu â’n cydweithwyr rhyngwladol, a dysgu oddi ganddynt, a hynny er budd nod cyffredin o ddemocratiaeth iach a rhydd, ac rydym yn barod i gefnogi Wcráin i baratoi at etholiadau yn y dyfodol.
Yn olaf, mae ein gwaith o ymgysylltu â phleidleiswyr ifanc wedi tyfu’n sylweddol. Nod ein prosiect Gwella Addysg Ddemocrataidd
yw helpu i baratoi pobl ifanc cyn cynlluniau Llywodraeth y DU i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 mlwydd oed yn Lloegr a Gogledd
Iwerddon i fod yr un fath â Chymru a’r Alban, a byddwn yn darparu deunyddiau addysgol mewn ysgolion, colegau a chymunedau.
Roedd ein hymgyrch ‘Wythnos Croeso i Dy Bleidlais’ yn gyfle i glywed gan tua 700,000 o bobl ifanc ledled Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Cynhaliodd Fforwm Ieuenctid Gogledd Iwerddon ddigwyddiad lansio’r Wythnos Croeso i Dy Bleidlais,
cynhaliodd ein swyddfa yng Nghymru ddigwyddiad yn y Senedd i 400 o bobl, ac yn yr Alban rydym wedi bod yn gweithio â
phartneriaid i godi ymwybyddiaeth a chofrestrodd 150 o ysgolion i gymryd rhan yn sgil hynny. Un o’r uchafbwyntiau arbennig i mi
oedd cael fy holi’n dwll gan bobl ifanc yn Niwrnod Strategaeth y Democracy Classroom, a ddangosodd eu gwybodaeth, eu craffter, a’u boddhad mewn trafodaeth gadarn. Diolch o galon i’n holl bartneriaid yn y gwaith hanfodol hwn.
Vijay Rangarajan
Prif Weithredwr
Ein hamcanion strategol
Ein hamcanion strategol
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pobl yn ymddiried mewn etholiadau a refferenda, yn eu gwerthfawrogi ac yn cymryd rhan ynddynt. Rydym yn cefnogi hyn drwy gyflawni’r nodau strategol a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol newydd, a lansiodd
ym mis Ebrill 2025. Mae’r amcanion strategol hyn yn sail i sut rydym yn gwerthuso perfformiad y Comisiwn am y flwyddyn.
- Cefnogi pleidleiswyr a chynyddu cyfranogiad
- Moderneiddio’r system etholiadol
- Diogelu ac amddiffyn y system
- Arwain trafodaeth wybodus ynghylch dyfodol etholiadau
- Atgyfnerthu’r Comisiwn Etholiadol
Uchafbwyntiau’r flwyddyn
Uchafbwyntiau’r flwyddyn
- Adnoddau ymwybyddiaeth o dwyll etholiadol ‘Dy Bleidlais Di a Neb Arall’
- Ymgyrchoedd Cofrestru Pleidleisiwr ac ID Pleidleisiwr ar gyfer etholiadau Mai 2025 ar draws Lloegr
- Cynlluniau peilot Canfod Cynnwys Ffugiad Dwfn yn lansio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
- Lansion ni ein sianel TikTok
- Bil Cynrychiolaeth y Bobl, a oedd yn cynnwys ein hargymhellion polisi o flaenoriaeth
- Yr Adolygiad Rycroft, a oedd hefyd yn adlewyrchu ein hargymhellion polisi o flaenoriaeth
- Fe ymgynghoron ni ar ganllawiau wedi’u diweddaru i weinyddwyr etholiadol, a’u cyhoeddi, i helpu i wella hygyrchedd etholiadau i bleidleiswyr anabl
- Fe ddatblygon ni hyfforddiant newydd ac ystod o adnoddau newydd i gefnogi pleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid i gydymffurfio â’r gyfraith, yn ogystal â’u cyflwyno
- Fe gyhoeddon ni ganllawiau diwygiedig ar gynnal etholiadau’r Senedd a Senedd yr Alban
Ein blwyddyn mewn rhifau
Ein blwyddyn mewn rhifau
- 312,835 o geisiadau i gofrestru i bleidleisio yn ystod ein hymgyrch 2025
- 5,532 o ymatebion wedi’u rhoi i ymholiadau gan y cyhoedd
- 700,000 o bobl ifanc wedi ymgysylltu â’r Wythnos Croeso i Dy Bleidlai
- 91% o etholwyr Lloegr yn ymwybodol o ofynion ID Pleidleisiw
- 406 o bleidiau gwleidyddol ar ein cofrestrau
- £65m Gwerth cwta £65m o roddion wedi’u cyhoedd
- 5.5 miliwn o bobl wedi defnyddio ein gwasanaeth chwilio am god post i gael gwybodaeth am sut i bleidleisio yn eu harda
- 5 o bwyllgorau seneddol y DU wedi cymryd tystiolaeth gan y Comisiwn