Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 24 Chwefror 2026
Aelodau:
John Pullinger, Cadeirydd (Ar gyfer eitemau 1.1-1.3 a 5-8)
Sue Bruce, Comisiynydd Cadeirydd Dros Dro (ar gyfer eitemau 1.4-4)
Sarah Chambers, Comisiynydd
Elan Closs Stephens, Comisiynydd
Roseanna Cunningham, Comisiynydd - ar-lein
Carole Mills, Comisiynydd
Katy Radford, Comisiynydd
Sheila Ritchie, Comisiynydd
Chris Ruane, Comisiynydd
Mynychwyr Gweithredol:
Vijay Rangarajan, Prif Swyddog Gweithredol
Sam Hartley, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Ymgysylltu â Phleidleiswyr
Jackie Killeen, Cyfarwyddwr, Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol
Chris Pleass, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Corfforaethol
Alison Williams, Cynghorydd Cyffredinol a Chyfarwyddwr Datganoli a’r Gyfraith
Gwahoddedigion ac arsylwyr:
Esmat Jeraj, Pennaeth Ymgysylltu â Phleidleiswyr (arsylwi eitem 1-2.10)
Swyddogion yn bresennol:
Laura Ottery, Pennaeth Llywodraethu, Risg a Sicrwydd (cofnodion)
Zena Khan, Uwch Ymgynghorydd Llywodraethu
Antonia Merrick, Rheolwr Busnes i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr
Katy Knock, Pennaeth Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydlynu (eitem 1.5)
Laura Solomon, Ymgynghorydd Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydlynu (eitem 1.5)
Laura Akkari, Uwch Ymgynghorydd - Deddfwriaeth a Strategaeth
Andrew Simpson, Pennaeth Gwybodaeth Ddigidol, Technoleg a Chyfleusterau (eitem 2.10-2.12)
Carol Sweetenham, Pennaeth Portffolio (eitem 3 a 6)
Shannon Ingram, Uwch Ymgynghorydd - Perfformiad a Mewnwelediad (eitem 3)
Tom Hawthorn, Pennaeth Polisi (eitem 4)
Claire Robbie, Pennaeth Gweithredu Rheoleiddiol a Gorfodi (eitem 5)
Eleanor Pearch, Rheolwr Panel Gweithredu Rheoleiddiol (eitem 5)
Anna Lowe, Dadansoddwr Gweleidyddol - Gweithredu Rheoleiddiol a Gorfodi
Dyddiad: Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026, 9.30am i 12.50pm
Lleoliad: Swyddfa Bunhill Row
Croeso, ymddiheuriadau ac unrhyw ddatganiadau buddiant newydd
Croeso, ymddiheuriadau ac unrhyw ddatganiadau buddiant newydd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys Laura Ottery fel Pennaeth Llywodraethu, Risg a Sicrwydd newydd ac Esmat Jeraj, Pennaeth Ymgysylltu â Phleidleiswyr newydd a fyddai'n arsylwi rhan gyntaf y cyfarfod.
Esboniodd y Cadeirydd y byddai'n absennol am ran o'r cyfarfod gan ei fod wedi cael ei wahodd i roi tystiolaeth mewn sesiwn i’r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol. Yn unol â'r Rheolau Sefydlog, gwahoddwyd yr aelodau i gytuno y byddai Sue Bruce yn gweithredu fel y Cadeirydd dros dro nes i Gadeirydd y Bwrdd ddychwelyd. Cefnogodd aelodau'r Bwrdd y cynnig hwn.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd i benodi Sue Bruce fel cadeirydd dros dro.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Niki Nixon, Pennaeth Cyfathrebu.
Cyhoeddodd Sue Bruce benodiad newydd; o 1 Ebrill 2026 byddai'n ymuno â Bwrdd Rhwydweithiau Trydan yr Alban a'r De (SSEN); ni ragwelwyd unrhyw wrthdaro â busnes y Comisiwn. Cyhoeddodd Elan Closs Stephens benodiad newydd; roedd hi wedi cael ei chyfethol yn aelod o Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru o fis Ionawr 2026 ac wedi cael ei hethol yn Llywydd o ganol mis Mai 2026. Nodwyd bod y Gymdeithas wedi cyhoeddi adroddiadau ac wedi darparu tystiolaeth i'r Llywodraeth ar faterion addysg uwch; ni ragwelwyd unrhyw wrthdaro â busnes y Comisiwn.
Cwrdd â'r Tîm – Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydlynu
Cyflwynodd y Pennaeth Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydlynu strwythur, blaenoriaethau cyfredol a'r meysydd ffocws ar gyfer y tîm. Eglurodd bod y rhain wedi'u rhannu fel y gall dîm ganolbwyntio ar weinyddiaeth etholiadol ac un arall ar agweddau rheoleiddio'r bil. Nodwyd nad oedd y tîm yn canolbwyntio ar ddeddfwriaeth y DU yn unig ond yn cydlynu agendâu deddfwriaethol ar draws y gwledydd datganoledig. Mae'r timau'n gweithio ar y ddwy raglen allweddol i gyflawni newidiadau sy'n deillio o Fil Cynrychiolaeth y Bobl, a adroddir drwy'r Bwrdd Sicrwydd Portffolio, dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr.
Trafododd aelodau'r Bwrdd gynnydd y Bil gan nodi mai dyma fyddai'r 27ain Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl ac eto nad oedd unrhyw gydgrynhoi cyfraith etholiadol wedi digwydd. Nodwyd hefyd ei fod yn gwneud y ddeddfwriaeth yn anhreiddiadwy i bleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol. Cytunodd y Bwrdd i barhau i bwysleisio pwysigrwydd cydgrynhoi a symleiddio. Trafodwyd cofrestru pleidleiswyr hefyd o ran y cyflymder a'r arferion gwahanol ar draws y gwledydd.
Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm am y diweddariad gan dynnu sylw at ba mor brysur yr oeddent wedi bod a pha mor hanfodol oedd eu gwaith.
Diweddariad y Prif Weithredwr
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei ddiweddariad, gyda chefnogaeth aelodau’r Tîm Gweithredol. Cadarnhaodd fod ffocws y sefydliad yn parhau i fod yn gadarn ar baratoadau ar gyfer etholiadau mis Mai ar draws y tair gwlad, ochr yn ochr â chynllunio ar gyfer gweithredu Bil Cynrychiolaeth y Bobl.
Roedd y paratoadau ar gyfer etholiadau mis Mai yn mynd rhagddynt yn dda gyda chysylltiad agos parhaus â Swyddogion Canlyniadau a Byrddau Rheoli Etholiadau i gefnogi'r gwaith o gynnal yr etholiadau. Nododd y Bwrdd fod angen i'r Comisiwn fynd ar drywydd ei gynlluniau gweithredol ei hun ar fyr rybudd yn dilyn adfer rhai etholiadau lleol, a bod timau wedi ymateb yn gyflym i sicrhau bod canllawiau, cefnogaeth a chyfathrebu priodol ar waith. Roedd ymgysylltu â phleidiau, ymgyrchwyr a rhanddeiliaid eraill yn parhau, gan gynnwys drwy raglen estynedig o sesiynau gwybodaeth a hyfforddi.
Nododd y Bwrdd bod cynnydd mewn ymgysylltu ymysg pleidiau ac ymgyrchwyr yng Nghymru wrth iddynt baratoi i weithredu dan system bleidleisio newydd. Er bod hyn wedi arwain at nifer uwch o ymholiadau, roedd hyn yn ddisgwyliedig o ystyried y newidiadau deddfwriaethol, ac roedd yn gadarnhaol bod rhanddeiliaid yn ceisio cyngor ac eglurhad yn barhaus pan fo angen.
Nododd y Bwrdd cynnydd mewn ymgysylltiad ymysg partneriaid plismona, gan gynnwys cynnal cyd-hyfforddiant ar uniondeb a diogelwch ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol (SPOCs). Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at welliannau mewn cydlynu ers yr etholiadau diwethaf a’r gwaith parhaus i hyrwyddo arferion da yn genedlaethol ac yn lleol. Ailadroddodd bwysigrwydd sicrhau arweinyddiaeth gryfach ar lefel genedlaethol o fewn strwythurau plismona.
Siaradodd y Prif Weithredwr am yr amserlen arfaethedig ar gyfer trafodaethau seneddol ar Bil Cynrychiolaeth y Bobl a ffocws y Comisiwn ar weithredu ar ôl i'r Bil cael ei basio. Trafododd yr aelodau'r amserlen seneddol gywasgedig, cymhlethdod technegol y darpariaethau ar gyllid gwleidyddol, yn enwedig y darpariaethau ar gyfer rhoddion i gwmnïau, a'r rhyngweithiadau rhwng elfennau a gedwir yn ôl a rhai datganoledig, gan gynnwys yr angen am Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol. Adroddodd y Prif Weithredwr am ymgysylltiad adeiladol â gweinidogion a swyddogion, gan gynnwys yr Adolygiad Rycroft annibynnol parhaus. Disgwylir adrodd arni ddiwedd fis Mawrth ac mae’n bosibl y bydd goblygiadau ar gyfer diwygiadau cyllid gwleidyddol.
Adroddodd y Prif Weithredwr hefyd ar weithgareddau ymgysylltu ehangach, a rhoddodd y Comisiynydd Carole Mills y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ei phresenoldeb mewn cynhadledd etholiadau diweddar yn Delhi. Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar heriau democrataidd byd-eang megis camwybodaeth, bygwth gwleidyddion a phwysau ar reoleiddwyr annibynnol. Roedd cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngwladol yn y dyfodol yn cael eu hystyried fel rhan o ddatblygiad y strategaeth ymgysylltu ryngwladol y Comisiwn.
Amlinellodd y Prif Weithredwr y cynnydd ar weithgarwch mewnol. Roedd caffael ar gyfer y system Cyllid Gwleidyddol Ar-lein (PFO) yn symud ymlaen yn dilyn cytundeb ar y fanyleb dechnegol. Roedd y rhaglen addysg pleidleiswyr yn mynd rhagddi’n dda, roedd adnoddau’n cael eu profi mewn 35 o ysgolion. Roedd y diweddariadau corfforaethol yn cynnwys ffurfweddu a phrofi’r system gaffael newydd cyn iddi fynd yn fyw ym mis Mehefin, cwblhau’r broses o gymedroli arfarnu, datblygu’r rhaglen dylunio sefydliadol ymhellach, a chynlluniau i symleiddio’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon.
Trafododd aelodau capasiti sefydliadol a gwytnwch, yn benodol yn y swyddfeydd datganoledig. Roedd y Prif Weithredwr wedi cytuno ar gamau uniongyrchol, gan gynnwys cynyddu'r capasiti rheoli ym mhob swyddfa ddatganoledig. Pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd llesiant a chydnerthedd staff wrth i ofynion gweithredol, deddfwriaethol a rheoleiddiol barhau i gynyddu.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariad a chymeradwyodd ddull y Prif Weithredwr o flaenoriaethu a chydnerthedd sefydliadol
Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y swyddfeydd newydd arfaethedig yng Nghaeredin. Dydy’r lleoliad presennol ddim yn addas er maint nac ansawdd a chafodd opsiynau amgen eu hasesu drwy broses gwerth am arian. Roedd y lleoliad newydd arfaethedig yn cynnig safon o lety a oedd yn gyson â swyddfeydd eraill y Comisiwn, ac adeiladau'r llywodraeth ledled y DU, ac fe'i hystyriwyd fel yr opsiwn gorau sydd ar gael i ddiwallu anghenion sefydliadol, gan gynnwys cefnogi recriwtio a darparu cyfleusterau priodol. Fodd bynnag, roedd y gost yn sylweddol uwch na rhent ein lleoliad presennol yng Nghaeredin, nad oedd yn rhent marchnad.
Nododd aelodau yr ymgysylltu cadarnhaol ymysg uwch rhanddeiliaid drwy gydol y broses a mynegodd ddiolch i’r rhai a fu'n rhan o gyflwyno'r argymhelliad.
Penderfynwyd: Cymeradwyodd y Bwrdd:
(i) llofnodi prydles 12 mlynedd, gyda phwynt torri ym mlwyddyn 5, yng Nghei 1, Cei Caeredin, yn amodol ar gwblhau gwiriadau cyfreithiol a chymeradwyaethau landlordiaid
(ii) dechrau'r broses gaffael a chynllunio'r cyfnod pontio i alluogi meddiannu o Awst 2026
Diweddariadau Cyllid a Pherfformiad
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y diweddariad Cyllid a Pherfformiad hyd at fis Ionawr 2026 a'r papur crynodeb cysylltiedig, gan nodi bod yr un adroddiad hwn wedi'i drafod gyda'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) y diwrnod cynt. Yn gyffredinol roedd perfformiad sefydliadol wedi aros yn gyson, a gwelwyd cynnydd parhaus ar draws meysydd gweithgarwch allweddol. Nododd yr aelodau gwaith parhaus i gryfhau trefniadau capasiti ymchwydd i gefnogi gwydnwch gweithredol yn ystod cyfnodau o frigiadau mewn galw.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch recriwtio, gyda nifer y staff yn parhau i dyfu yn unol â'r ehangu gweithlu a gynlluniwyd i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Nododd aelodau bod gwaith yn mynd rhagddo i werthuso darpariaeth y gyflogres i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben wrth i'r sefydliad ehangu.
Trafododd y Bwrdd berfformiad Rhyddid Gwybodaeth. Nododd yr aelodau sicrwydd o drafodaethau diweddar ARAC, gan gynnwys sefydlu gweithgor Rhyddid Gwybodaeth (FOI) cryfach a defnyddio offer digidol i gefnogi ymatebion effeithlon a chywir. Croesawodd y Bwrdd y cynnydd a wnaed hyd yma a'r ffocws parhaus ar gyflawni cydymffurfiaeth statudol.
Derbyniodd yr aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio ariannol, gan gynnwys paratoadau ar gyfer prosesau Amcangyfrifon sydd ar y gweill. Trafododd y Bwrdd y meysydd tebygol o ddiddordeb seneddol, ochr yn ochr â gwelliannau mewn rhagolygon a oedd wedi arwain at gais am gyllid mwy manwl gywir ar gyfer cyllidebau craidd. Croesawodd yr aelodau'r eglurder a ddarparwyd drwy'r ddogfennaeth Prif Amcangyfrif a'r deunydd esboniadol cysylltiedig.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y Diweddariad Cyllid a Pherfformiad a’r Adroddiad Perfformiad Ionawr 2026.
Ymgysylltu Rhyngwladol
Trafododd y Bwrdd y strategaeth ryngwladol arfaethedig, gan adlewyrchu ymrwymiad y Comisiwn i ddysgu gan bartneriaid byd-eang a chyfrannu at gryfhau democratiaeth ehangach. Nododd yr aelodau’r lefel gynyddol o ddiddordeb allanol yn arbenigedd y Comisiwn a chanmolodd waith y tîm wrth reoli’r galw hwn.
Cytunodd y Bwrdd y byddai dull mwy strategol yn cefnogi blaenoriaethu effeithiol ac yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu canolbwyntio ar weithgareddau a oedd yn darparu budd clir i'r sefydliad. Trafododd yr aelodau’r ffrydiau gwaith arfaethedig, y cyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd, a’r potensial i gefnogi datblygiad staff trwy gynyddu amlygiad i arferion rhyngwladol.
Trafododd y Bwrdd hefyd y dull arfaethedig o fonitro datblygiadau etholiadol rhyngwladol. Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd sicrhau bod y gwaith hwn yn cynhyrchu mewnwelediad ystyrlon a nodwyd y byddai lefel y monitro yn dibynnu ar flaenoriaethau thematig y cytunwyd arnynt. Byddai eglurder pellach yn cael ei ddatblygu unwaith y sefydlir strategaeth.
Tynnodd y Bwrdd sylw at gyfleoedd i gryfhau cysylltiadau â sefydliadau academaidd ac ymchwil a nododd werth posibl arsylwi cilyddol a mathau eraill o ddysgu gan gymheiriaid. Cydnabu’r aelodau hefyd yr angen i ystyried goblygiadau adnoddau fel rhan o gynllunio gweithredu.
Nodwyd y byddai cynnydd yn erbyn y strategaeth yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r cynnig am Gomisiynydd arweiniol i gefnogi goruchwyliaeth y maes gwaith hwn.
Penderfynwyd: Cymeradwyodd y Bwrdd yr amcanion strategol a'r meysydd cyflawni ar gyfer 2026, gan nodi'r ystyriaethau a'r risgiau adnoddau cysylltiedig.
Diweddariad Polisi Gorfodi a Gwaith achos
Derbyniodd y Bwrdd gyflwyniad yn seiliedig ar ddata o ran sut roedd y Polisi Gorfodi wedi gweithredu dros 2025. Rhoddodd hyn welededd i aelodau o sut roedd y polisi'n cael ei gymhwyso ar draws yr ystod o weithgaredd rheoleiddiol, yn gyson ac yn ddiduedd.
Roedd y systemau a'r prosesau a oedd ar waith yn caniatáu dull rheoleiddio cyson, cymesur a phrydlon, gan gynnwys datblygu offer a ffrydiau gwaith newydd ers cyflwyno'r polisi. Nododd yr aelodau fod y gwelliannau hyn yn cryfhau sicrwydd, yn cefnogi cydymffurfiaeth, ac yn helpu'r Comisiwn i baratoi ar gyfer newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol.
Trafododd y Bwrdd ddefnyddio data a dadansoddi tueddiadau i lywio gwneud penderfyniadau rheoleiddiol. Croesawodd yr aelodau’r gwelededd cynyddol a ddarparwyd gan hyn a’r ffordd y cefnogodd ymgysylltiad cynnar a gweithgaredd ataliol gyda phleidiau ac ymgyrchwyr. Nododd y Bwrdd hefyd fanteision rhannu gwybodaeth amser real ar draws timau rheoleiddiol.
Tynnodd yr aelodau sylw at bwysigrwydd cynnal proses glir a diduedd ar gyfer rheoli pryderon a godwyd, a chawsant sicrwydd bod y broses o wneud penderfyniadau yn parhau i fod yn gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gyson â'r polisi a gymeradwywyd gan y Bwrdd. Cydnabydda aelodau hefyd y cynnydd a wnaed i wella eglurder cyfathrebu gyda rhanddeiliaid a lleihau uwchgyfeirio diangen.
Nododd y Bwrdd y byddai'r set ddata cyfunol gyntaf hon yn caniatáu cymhariaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y dyfodol ac y byddai'n cefnogi gwelliant parhaus, gan gynnwys gwaith i adolygu'r polisi gorfodi o ystyried y diwygiadau deddfwriaethol sydd ar y gweill.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariad a chadarnhaodd eu sicrwydd bod y Comisiwn yn gweithredu dull gorfodi cymesur, diduedd a chefnogol, yn gyson â'r Polisi cymeradwy.
Adolygiad blynyddol o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer 2026/27
Derbyniodd y Bwrdd y targedau dangosyddion perfformiad allweddol (KPI) arfaethedig ar gyfer y flwyddyn nesaf. Arhosodd y set gyffredinol o 19 o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol, a oedd wedi'u halinio â'r Cynllun Corfforaethol, yr un fath, gyda'r Prif Weithredwr yn cynnig nifer fach o addasiadau wedi'u targedu i adlewyrchu perfformiad ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun a chynnydd tuag at ddyheadau hir-dymor.
Cynigiwyd cynnydd bach yn uchelgais y targedau ar gyfer trin cwynion, cyngor rheoleiddio amserol ac ymgysylltu â staff. Cytunodd yr aelodau mai rhain oedd yn briodol a chymesur.
Trafododd y Bwrdd nifer fach o ddangosyddion perfformiad allweddol lle byddai angen mireinio ymhellach fel rhan o adolygiad ehangach yn ystod y cylch cynllunio nesaf. Nododd yr aelodau fod y dangosyddion perfformiad allweddol yn ymwneud â hyd ymchwiliadau a chyflwyno hysbysiadau statudol yn dod yn llai cynrychioliadol oherwydd nifer fach o achosion perthnasol a’u cymhlethdod. Byddai dull mwy cynnil a rhanedig yn cael ei archwilio dros y flwyddyn i ddod.
Croesawodd yr aelodau'r eglurder a ddarparwyd drwy wahanu Dangosyddion Strategol Allweddol (KSIs) oddi wrth Ddangosyddion Perfformiad Allweddol gweithredol a phwysleisiodd bwysigrwydd cynnal sefydlogrwydd yn y Dangosyddion Strategol Allweddol er mwyn galluogi cymhariaeth cyfresi amser ystyrlon. Cytunodd y Bwrdd y dylai cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol barhau yn gyfyngedig o ran nifer gan ffocysu ar flaenoriaethau statudol a sefydliadol.
Trafododd y Bwrdd y dangosyddion perfformiad allweddol yn gysylltiedig â pherfformiad Rhyddid Gwybodaeth. Ailadroddodd yr aelodau bwysigrwydd gwella amseroedd ymateb a nodwyd y camau gweithredu sydd ar y gweill i gefnogi adferiad, gan gynnwys blaenoriaethu triage a rheoli data gwell. Cefnogodd y Bwrdd gynnal y targed ar gyfer y cyhoedd wrth ddefnyddio cerrig milltir fewnol i olrhain cynnydd.
Nododd y Bwrdd y byddai'r Prif Weithredwr yn cyflwyno'r cwmpas ar gyfer adolygiad ehangach o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol, gan gynnwys sut y gallai diwygiadau gyd-fynd â datblygiad cynlluniau corfforaethol ar gyfer Cymru a'r Alban.
Penderfynwyd: Cymeradwyodd y Bwrdd y targedau Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer 2026/27.
Adolygiad o Risgiau Strategol
Derbyniodd y Bwrdd y Gofrestr Risg Strategol wedi'i diweddaru, gan nodi bod y Pwyllgor Archwilio a Risg Strategol wedi cynnal craffu manwl ar y diwygiadau yn ei gyfarfod y diwrnod cynt. Roedd y diweddariad yn adlewyrchu adolygiad blynyddol llawn y Tîm Gweithredol o risgiau strategol.
Nododd yr aelodau fod yr amgylchedd risg cyffredinol sy'n wynebu'r Comisiwn yn parhau i ddod yn fwy heriol, gyda sawl risg gynhenid yn cynyddu o ran maint neu debygolrwydd oherwydd ffactorau y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Comisiwn. Pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd sicrhau bod y cyd-destun ehangach hwn yn cael ei adlewyrchu'n gywir yn y sgoriau risg a'r naratifau.
Trafododd y Bwrdd ychwanegu risg strategol newydd yn ymwneud â didueddrwydd sefydliadol, a newidiadau a wnaed i'r risg ynghylch defnyddio gwybodaeth a thechnoleg. Cytunodd aelodau y bydd y rhain yn ddatblygiadau addas o ystyried y sector a’r newidiadau eang mewn disgwyliadau rheoleiddiol a chyflymder datblygiad technolegol.
Myfyriodd yr aelodau hefyd ar berthnasedd cynyddol deallusrwydd artiffisial a nodasant drafodaethau ARAC ar yr angen i fod yn ofalus wrth ddefnyddio technolegau newydd gan gynnal ymwybyddiaeth o risgiau sy'n dod i'r amlwg.
Croesawodd y Bwrdd y gwaith a gynlluniwyd i adolygu a dilyniannu camau lliniaru, gan gydnabod y byddai rhai risgiau’n parhau i fod yn uchel yn eu hanfod, am resymau y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn, hyd yn oed gyda rheolaethau cryf ar waith. Nododd yr aelodau bwysigrwydd parhau i fynegi'n glir yr hyn sydd o fewn gallu'r Comisiwn i'w reoli a lle mae risg weddilliol yn cael ei dylanwadu gan ffactorau allanol.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risg Strategol wedi'i diweddaru a chanlyniad yr adolygiad blynyddol o risgiau strategol.
Llywodraethu a materion gweithdrefnol
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth ddiweddariad o gyfarfod diweddaraf y Pwyllgor (23 Chwefror 2026). Roedd y Pwyllgor wedi ystyried cynnydd ar systemau a phrosesau’r gweithlu, gan gynnwys gwelliannau i’r broses ymsefydlu yn dilyn cyflwyno cefnogaeth arbenigol ar gyfer y system Adnoddau Dynol, ac wedi trafod datblygu cronfa dalent. Nododd yr aelodau ymchwiliad manwl cadarnhaol i'r arolwg staff, a ddangosodd welliannau ar draws sawl maes, ochr yn ochr â chynnydd parhaus ar recriwtio a chyflawni'r cynllun gweithredu Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant. Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am adolygiad sydd ar ddod o effeithiolrwydd y Pwyllgor a'r adolygiad cysylltiedig o gynllun gwaith y Pwyllgorau ar gyfer y dyfodol.
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ddiweddariad o gyfarfod diweddaraf y Pwyllgor (23 Chwefror 2026). Yn ogystal â’r eitemau a drafodwyd eisoes yng nghyfarfod y Bwrdd, roedd y Pwyllgor wedi rhag-adolygu ei gynlluniau a'i ddull o asesu ei effeithiolrwydd ei hun. Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad manwl hefyd i brosiect a phroses rheoli risg y Gwasanaeth Chwilio am Godau Post. Nododd ddechrau'r archwiliad allanol gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, a derbyniodd dri adroddiad archwilio mewnol gan BDO.
Nododd y Bwrdd y cymeradwyaeth drwy benderfyniad electronig ddydd Llun 23 Chwefror 2026 o'r Prif Amcangyfrif 2026/27 i Senedd y DU.
Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2026, gan nodi eu bod yn gofnod cywir.
Nododd y Bwrdd y diweddariad ysgrifenedig a ddarparwyd ar y Gwasanaeth Chwilio am Godau Post.
Nododd y Bwrdd y cynllun busnes ar gyfer y dyfodol.
Nododd y Cadeirydd mai dyma oedd cyfarfod olaf Sarah Chambers gan y byddai ei thymor yn y swydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026. Ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Sarah am ei chyfraniadau dros yr wyth mlynedd diwethaf a dymunodd yn dda iddi ar gyfer y dyfodol.
Daeth y cyfarfod i ben am 1.04 pm heb unrhyw fusnes pellach.
Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf
Cadarnhawyd mai dyddiad y cyfarfod nesaf fyddai 12 Mai 2026 am 9:30, a gynhelir wyneb yn wyneb yn Bunhill Row.