Mae cadeiryddion Comisiwn Elusennau a'r Comisiwn Etholiadol yn rhannu cyngor i elusennau sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus

Mae cadeiryddion Comisiwn Elusennau a'r Comisiwn Etholiadol yn rhannu cyngor i elusennau sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus

Mae etholiad cyffredinol ar y gorwel a deallwn y bydd llawer ohonoch, fel arweinwyr elusennau ac ymddiriedolwyr, yn gweld hyn fel adeg dyngedfennol i siarad ar ran eich buddiolwyr a thynnu sylw at eich achosion. Mae gan elusennau hanes balch o gymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus ac ymgyrchu ar ran eu dibenion sy'n gwbl gyfreithlon.

Mae gwneud hynny'n gyson o fewn y fframwaith cyfreithiol yn hanfodol i ffydd y cyhoedd yn eich ymgyrchu gwleidyddol ac i ymddiried mewn elusennau yn fwy cyffredinol. Fel Cadeiryddion ein rheolyddion priodol, rydym am gefnogi elusennau i ddeall y gyfraith.

Mae'r gyfraith yn glir ynghylch hawl elusennau i ymgyrchu. Mae’r Comisiwn Elusennau wedi bod yn weithgar wrth gadarnhau’r hawl hon, yn ogystal â’r cyfyngiadau pwysig y mae’r gyfraith yn eu gosod ar weithgareddau gwleidyddol elusennau.

Gall elusennau gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol ar yr amod ei fod yn cefnogi eu diben ac er eu lles gorau. Fodd bynnag, ni ddylai gweithgaredd gwleidyddol ddod yn rheswm dros fodolaeth elusen. Rhaid i elusennau hefyd aros yn annibynnol a rhaid iddynt beidio â rhoi eu cefnogaeth i blaid wleidyddol. Mae canllawiau ar elusennau ac ymgyrchu gwleidyddol ar gael ar wefan y Comisiwn Elusennau, yn ogystal â ‘canllaw cryno 5 munud’ i'r rhai sydd angen eu hatgoffa'n gyflym. Mae canllawiau cyfryngau cymdeithasol newydd yn darparu cymorth ychwanegol, gan fod ymgyrchu a thrafodaethau gwleidyddol yn digwydd ar draws platfformau ar-lein. 

Mae angen i elusennau wybod hefyd am y Cod Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau newydd sy'n dod i rym o 1 Rhagfyr ymlaen. 

Yn fyr, yn ogystal â rhwymedigaethau parhaus elusen o dan y gyfraith elusennau arferol, mae cyfraith etholiadol yn ei gwneud yn ofynnol i elusennau gofrestru fel ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau os ydynt yn gwario dros swm penodol ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn y 12 mis yn arwain at yr etholiad nesaf.

Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wybod yw pa weithgareddau ymgyrchu sy'n cael eu rheoleiddio.

Yn ôl y gyfraith etholiadol, caiff gwariant ar rai gweithgareddau ei reoleiddio os gellir yn rhesymol ystyried bod y gweithgaredd wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar ddewis pleidleisio pobl. Gelwir y gweithgaredd hwn yn ‘weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir’. Felly mae gweithgaredd o'r fath, sy'n gyfreithlon o dan y gyfraith elusennau os nad yw'n cefnogi plaid neu ymgeisydd penodedig, yn cael ei reoleiddio dan gyfraith etholiadol, gan gyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Os credwch y gallai fod angen i chi gofrestru, mae'r Comisiwn Etholiadol yn eich cynghori i gofrestru'n gynnar. Unwaith y caiff etholiad ei alw, ni allwch wario dros y trothwy hyd nes bod eich cofrestriad wedi'i gadarnhau.

Yr ail beth, yw faint y gallwch ei wario ar y gweithgaredd hwn.

Bydd gofyn i chi gofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau os yw eich elusen yn gwario dros £10,000, a oedd yn flaenorol dros £20,000 yn Lloegr, ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, ledled y Deyrnas Unedig. Ar ôl yr etholiad, efallai y bydd angen i chi ddarparu ffurflenni ariannol, i gefnogi tryloywder cyhoeddus.

Y trydydd peth i'w amlygu yw bod y gyfraith bellach yn mynnu bod argraffnod yn cael ei gynnwys ar ddeunydd digidol sy'n dod o fewn y diffiniad uchod o weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Mae argraffnod yn dweud wrth bleidleiswyr pwy sy'n gyfrifol am gyhoeddi a hyrwyddo deunydd ymgyrchu. Mae hyn yn golygu y bydd angen argraffnod ar sawl math o ddeunydd digidol megis hysbysebion a phostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Os yw elusen yn talu am hysbyseb ddigidol bydd angen argraffnod, er enghraifft, os yw'n hyrwyddo canlyniad mewn etholiad neu'n hyrwyddo neu'n beirniadu deiliad swydd etholedig.

Os ydych yn ystyried gwneud gwaith eiriolaeth allanol cyn yr etholiad, rydym yn eich annog i gael rhagor o wybodaeth. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi llunio Cod Ymarfer newydd i gefnogi sefydliadau sy'n dymuno ymgyrchu yn ystod cyfnod yr etholiad sydd i ddod. Mae'r un mor o bwys â deddfwriaeth ond mae'n fwy ymarferol ac yn haws ei ddeall na deddfwriaeth arall a all fod yn eithaf technegol weithiau. Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd yn darparu canllawiau ar argraffnodau digidol a gwasanaeth ymholiadau i ymgyrchwyr, pe bai angen cymorth ychwanegol arnoch i weithredu'n gyfreithlon wrth ymgyrchu am y materion pwysig yr ydych yn eu hyrwyddo.

Rydym yn deall y gall y newidiadau hyn ymddangos yn frawychus. Dyna pam rydym am wneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n barod i ddechrau cyfnod yr etholiad nesaf, gan ymgymryd ag unrhyw ymgyrchu i hyrwyddo dibenion eich elusen, yn hyderus.

Rydym am bwysleisio nad yw cyfraith etholiadol yn bodoli i gyfyngu ar ymgyrchu, ond i sicrhau bod tryloywder ynghylch gweithgareddau ymgyrchu allweddol.

Yn olaf, mae pawb sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau polisi ynghylch etholiadau yn chwarae rhan mewn cefnogi trafodaethau parchus a hyder y cyhoedd, ond mae gan elusennau safle unigryw yn y gyfraith, a gallant ac fe ddylent fodelu math gwell o gyfathrebu wrth hyrwyddo eu gwaith pwysig. Os byddwch yn dewis ymgysylltu, disgwyliwn i chi wneud hynny mewn modd sy'n barchus ac yn oddefgar ac mewn tôn sy'n adlewyrchu eich statws fel elusen gofrestredig.

Cymeradwywyd

Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau am y rheolau ymgyrchu newydd at y Comisiwn Etholiadol drwy anfon e-bost at [email protected].