Pethau i'w Gwneud a Pheidio â'u Gwneud ar y Diwrnod Pleidleisio ar gyfer arsylwyr etholiadol achrededig
Ymhellach i Fwletin 406 a lansio'r Cod Ymarfer newydd a'r canllawiau ar gyfer arsylwyr etholiadol achrededig, roeddem am eich diweddaru ein bod hefyd wedi cyhoeddi set un dudalen o bethau i'w gwneud a pheidio â'u gwneud ar gyfer y rhai sy'n arsylwi mewn gorsafoedd pleidleisio ar 7 Mai.
Mae'r rhain yn crynhoi'r gofynion cyfreithiol a'r ymddygiadau disgwyliedig gan y rhai sy'n arsylwi, gan gynnwys pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau swyddogion etholiadol ac adrodd am anghysondebau neu dwyll a amheuir i swyddogion etholiadol cyn gynted ag y byddant yn codi.
Mae'r adnodd ynghylch pethau i'w gwneud a pheidio â'u gwneud wedi'i rannu gyda'r holl arsylwyr achrededig a sefydliadau arsylwyr, a chafodd ei nodi fel rhan o gyfarfodydd diweddar gyda sefydliadau arsylwyr allweddol a'n briffiau i'r rhai sy'n bwriadu arsylwi ar y diwrnod pleidleisio. Roedd y cyfarfodydd a'r briffiau hyn yn ymdrin â'r broses arsylwi etholiadol yn llawn a'r disgwyliadau ar ymddygiad arsylwyr, y cytunwyd arnynt gan y grwpiau yr ydym wedi ymgysylltu â nhw. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gynnwys copi o'r pethau i'w gwneud a pheidio â'u gwneud i arsylwyr yn neunydd yr orsaf bleidleisio ar gyfer staff er mwyn cyfeirio ato'n hawdd ar y diwrnod pleidleisio.
Rydym yn awyddus i gael eich adborth ar sut mae'r Cod newydd, y canllawiau a'r adnodd ynghylch pethau i'w gwneud a pheidio â'u gwneud wedi gweithio'n ymarferol i gefnogi'r broses bwysig o arsylwi etholiadau. Defnyddiwch ein harolygon y byddwn yn rhannu dolenni iddynt ar ôl y bleidlais mewn Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol yn y dyfodol i roi unrhyw adborth neu cysylltwch â thîm Comisiwn Etholiadol Cymru.