Etholiad Senedd Cymru Mai 2026: Nodyn atgoffa am y canllawiau a’r cymorth sydd ar gael drwy gydol wythnos yr etholiad
Ym Mwletin 406 rhoddwyd manylion ein gwasanaeth cyngor ffôn tu allan i oriau swyddfa i chi ar gyfer delio gydag ymholiadau gweinyddiaeth etholiadol brys yn y cyfnod cyn ac yn dilyn etholiadau mis Mai 2026. Mae’r canlynol yn eich atgoffa sut y gallwch gysylltu â ni ar y diwrnod pleidleisio a thros y dyddiau dilynol:
Diwrnod pleidleisio (dydd Iau 7 Mai):
Rhwng 6:30 am ac 8:30 am – ffoniwch 07824 464350
Rhwng 8:30am a 5:30pm – ffoniwch 0333 103 1929
O 5:30pm ymlaen – ffoniwch 07824 464350. Caiff y rhif hwn ei staffio drwy gydol y nos ar gyfer ymholiadau brys.
Dydd Gwener 8 Mai:
Rhwng 8:30am a 5:30pm – ffoniwch 0333 103 1929
Rhwng 5:30pm a 9:00pm – ffoniwch 07824 464350 ar gyfer ymholiadau brys.
Dydd Sadwrn 9 Mai a dydd Sul 10 Mai:
Rhwng 10:00am a 4:00pm – ffoniwch 07824 464350 ar gyfer ymholiadau brys.
Rydym yn gwerthfawrogi y gallai rhai Swyddogion Canlyniadau fod yn adolygu eu hasesiadau risg yn sgìl lefel bygythiad terfysgaeth y DU yn cael ei chynyddu i ddifrifol. Mae cyngor diogelwch ar gael gan arweinwyr y llywodraeth a'r heddlu, a bydd eich tîm Comisiwn yn barod i roi cyngor a chymorth ar reoli amgylchiadau annisgwyl ar fyr rybudd.
Hoffem hefyd achub ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i chi ar gyfer y dyddiau nesaf ac i ddiolch i chi a'ch staff am yr holl waith caled rydych chi wedi ei wneud i baratoi ar gyfer etholiadau mis Mai. Fel bob amser, rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r swm sylweddol o waith sydd wedi'i wneud. Mae'r gwaith pwysig a wnewch yn parhau i fod yn hanfodol i sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu cymryd rhan yn ddiogel ac yn hyderus, a bod y pleidleisiau hynny yn cael eu cyfrif mewn ffordd sy'n sicrhau canlyniadau sy'n gywir ac y gellir ymddiried ynddynt.