Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 413
Etholiadau Mai 2026: casglu data
Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a helpodd sicrhau bod etholiad y Senedd wedi’i gynnal yn llwyddiannus ddydd Iau. Ein hasesiad cychwynnol o’r etholiad yw ei fod wedi’i gynnal yn llwyddiannus, ac roedd pleidleiswyr ledled y wlad wedi gallu cymryd rhan yn yr etholiad.
Fel y gwyddoch, ym mhob cyfres o etholiadau, mae'r Comisiwn Etholiadol yn casglu data gweinyddol allweddol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau. Mae'r data hwn yn darparu tystiolaeth bwysig i gefnogi ein gwaith wrth adrodd ar etholiadau ledled y DU.
Byddwn yn casglu’r data drwy ddefnyddio ein porth data arferol. O ddydd Gwener 8 Mai 2026 bydd modd i chi fewngofnodi ar y porth data a llenwi data. Byddwch wedi derbyn e-bost i’ch cyfeiriad e-bost gwasanaethau etholiadol yn eich gwahodd i lenwi’r data ar gyfer eich etholiad.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y data yw dydd Gwener 5 Mehefin 2026.
Am fanylion llawn ar y data rydym yn ei gasglu, gweler y rhestr gyflawn.
Os oes angen helpu arnoch i lywio’r porth, mae canllaw defnyddwyr ar gael yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch casglu data, cysylltwch â [email protected].
Etholiadau Mai 2026: casglu adborth
Ymhellach i’r Bwletin 407 mae’r Comisiwn yn cynnal yr ymarferion adborth canlynol yn sgil etholiadau mis Mai:
Arolwg staff y gorsafoedd pleidleisio
Rydym yn cynnal arolwg o staff gorsafoedd pleidleisio i gasglu adborth am eu profiadau ar y diwrnod pleidleisio. Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth gyda thynnu sylw eich staff gorsaf bleidleisio at yr arolwg.
Mae dwy ffordd i staff gyrchu’r arolwg:
- Mae'r llawlyfr gorsaf bleidleisio (copi caled a digidol) yn cynnwys cod QR y gall staff ddefnyddio ffôn clyfar i sganio er mwyn cael mynediad at yr arolwg.
- Dyma ddolen i’r arolwg ar-lein y gallwch ei rhannu ymhlith eich staff gorsafoedd pleidleisio. Yn y ddau achos, bydd y ddolen i’r arolwg yn mynd yn fyw ar brynhawn y diwrnod pleidleisio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg, cysylltwch â [email protected].
Adborth gan weinyddwyr etholiadol
Hoffem hefyd gael adborth gan weinyddwyr a Swyddogion Canlyniadau sy'n gyfrifol am gynnal yr etholiadau. Nid yn unig mae hyn yn llywio ein gwaith adrodd ar ôl yr etholiad ond bydd hefyd o gymorth i ni wella sut rydym yn eich cefnogi chi i gynnal etholiadau'n dda yn y dyfodol.
Gellir cwblhau’r arolwg drwy glicio ar y ddolen hon. Fel arall, anfonwch e-bost i [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer darparu adborth yw dydd Gwener 5 Mehefin 2026.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg adborth, cysylltwch â [email protected].