Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Sut i ddefnyddio y canllaw hwn

Mae ein canllawiau wedi'u rhannu'n adrannau, gyda phob un yn delio â rhan wahanol o'r broses y byddwch yn rhan ohoni fel ymgeisydd neu asiant mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr.

Pan fyddwch yn clicio ar ddolen yn y rhestr gwelywio ar y dde, bydd yn datgelu'r dolenni i'r canllawiau gwahanol ar gyfer pob adran. Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd tudalen, gallwch ddefnyddio'r ddolen ar waelod y dudalen ar y dde i symud i'r dudalen canllawiau nesaf.

Bydd pob adran yn cynnwys dolenni i ffurflenni perthnasol ac i adnoddau gwybodaeth, a fydd wedi'u hymgorffori yn y testun. Mae'r rhain hefyd ar gael drwy ddilyn y ddolen ‘Adnoddau’ ar ddiwedd pob adran ar y goeden gwe-lywio.

Os hoffech argraffu'r holl ganllawiau, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio'r ddolen ar frig y dudalen.

Mae ein canllawiau yn cynnwys y camau y bydd angen i ymgeiswyr ac asiantiaid eu dilyn os byddant yn sefyll etholiad llywodraeth leol. Y meysydd a gwmpesir yw:

AdranYr hyn y mae'n ymdrin ag ef:

Beth sydd angen i chi ei wybod cyn sefyll fel ymgeisydd
 
  • Amodau cymhwyso ac anghymhwyso i sefyll fel ymgeisydd
  • Pryd fyddwch chi'n dod yn ymgeisydd yn swyddogol
Gwariant ymgeiswyr
  • Y rheolau ynghylch faint y gall ymgeiswyr ei wario ar eu hymgyrchoedd
  • Adrodd am wariant ar ymgyrchu ar ôl yr etholiad
Rhoddion ymgeiswyr
  • Y rheolau ynghylch rhoddion y gall ymgeiswyr eu derbyn
  • Adrodd am roddion ar ôl yr etholiad
Ymgyrchu
  • Y rheolau ar gyhoeddi ac arddangos llenyddiaeth ymgyrchu 
  • Y rheolau ynghylch ymgyrchu
  • Egwyddorion cyffredinol ar gyfer ymgyrchu
Enwebiadau
  • Y broses enwebu a pha ffurflenni y bydd angen i chi eu cwblhau
  • Cyflwyno papurau enwebu
  • Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu
Pleidleisiau post
  • Y prosesau ar gyfer anfon ac agor pleidleisiau post
  • Bod yn bresennol mewn sesiynau agor amlenni pleidleisiau post
Diwrnod pleidleisio
  • Prosesau diwrnod pleidleisio
  • Mynd i orsafoedd pleidleisio
  • Yr hyn y gellir ac na ellir ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Dilysu a chyfrif
  • Yr hyn sy'n digwydd yn ystod y broses dilysu a chyfrif
  • Bod yn bresennol yn ystod y broses dilysu a chyfrif
Ar ôl yr etholiad
  • Cyflwyno ffurflenni gwariant
  • Mynediad i ddogfennaeth etholiad, gan gynnwys cofrestrau wedi'u marcio
  • Pob gweithgarwch ôl-etholiad arall
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023