Cyflwyniad i'n canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Nod y canllawiau hyn yw rhoi cyngor ymarferol i unrhyw un sydd am sefyll fel ymgeisydd neu fod yn asiant mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr.
Gall y broses o sefyll etholiad fod yn gymhleth, ond gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn ei gwneud mor syml â phosibl.
Mae ein canllawiau yn cynnwys y camau y bydd angen i ymgeiswyr ac asiantiaid eu dilyn os byddant yn sefyll etholiad ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Mae'n cynnwys ffeithiau perthnasol yn ogystal â dolenni i ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae pob adran yn cynnwys nifer o ffurflenni ac adnoddau, y gellir cael gafael arnynt yn uniongyrchol drwy ddolenni yn y testun.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn Sut i ddefnyddio ein canllawiau.
Amserlen yr etholiad
Rydym wedi cyhoeddi amserlen gyffredinol ar gyfer etholiadau ar ein gwefan. Ar gyfer etholiadau a drefnwyd, byddwn yn cyhoeddi amserlen benodol a fydd ar gael ar ein gwefan.
Gallwch ddod o hyd i'r amserlen ar gyfer etholiad Senedd y DU 4 Gorffennaf isod.
Os bydd is-etholiad wedi cael ei alw, byddwch yn gallu cael copi o'r amserlen benodol ar gyfer yr etholiad hwnnw gan y Swyddog Canlyniadau.
Nodwch fod deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol yn effeithio arnoch chi.
Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau. Ceir manylion cyswllt yn Cysylltu â ni .
Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn
Byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio â'r gyfraith os dilynwch y canllawiau hyn.
Rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sy'n arferion da sylfaenol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol na rheoleiddiol.
Rydym yn defnyddio ‘chi’ i gynnwys yr ymgeisydd a'r asiant yn y canllawiau hyn. Pan fyddwn yn sôn am roddion, rydym yn defnyddio ‘chi’ i gyfeirio at y person sy'n gyfrifol am ymdrin â rhoddion ar y pryd.
Sut i ddefnyddio y canllaw hwn
Mae ein canllawiau wedi'u rhannu'n adrannau, gyda phob un yn delio â rhan wahanol o'r broses y byddwch yn rhan ohoni fel ymgeisydd neu asiant mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr.
Pan fyddwch yn clicio ar ddolen yn y rhestr gwelywio ar y dde, bydd yn datgelu'r dolenni i'r canllawiau gwahanol ar gyfer pob adran. Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd tudalen, gallwch ddefnyddio'r ddolen ar waelod y dudalen ar y dde i symud i'r dudalen canllawiau nesaf.
Bydd pob adran yn cynnwys dolenni i ffurflenni perthnasol ac i adnoddau gwybodaeth, a fydd wedi'u hymgorffori yn y testun. Mae'r rhain hefyd ar gael drwy ddilyn y ddolen ‘Adnoddau’ ar ddiwedd pob adran ar y goeden gwe-lywio.
Os hoffech argraffu'r holl ganllawiau, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio'r ddolen ar frig y dudalen.
Mae ein canllawiau yn cynnwys y camau y bydd angen i ymgeiswyr ac asiantiaid eu dilyn os byddant yn sefyll etholiad llywodraeth leol. Y meysydd a gwmpesir yw:
Adran | Yr hyn y mae'n ymdrin ag ef: |
---|---|
Beth sydd angen i chi ei wybod cyn sefyll fel ymgeisydd |
|
Gwariant ymgeiswyr |
|
Rhoddion ymgeiswyr |
|
Ymgyrchu |
|
Enwebiadau |
|
Pleidleisiau post |
|
Diwrnod pleidleisio |
|
Dilysu a chyfrif |
|
Ar ôl yr etholiad |
|
Cysylltu â ni
Os ydych yn ymgeisydd neu'n asiant yng Nghymru
Yng Nghymru, gallwch gysylltu â ni ar gyfer pob ymholiad yn:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0333 103 1929
Os ydych yn ymgeisydd neu'n asiant yn Lloegr
Os yw eich cwestiwn yn ymwneud â gwariant neu roddion, cysylltwch â ni drwy:
E-bost: [email protected]
Ffôn : 0333 103 1928
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni yn:
E-bost: [email protected]
Ffôn : 0333 103 1928
Os ydych yn ymgeisydd neu'n asiant yn yr Alban
Yn yr Alban, gallwch gysylltu â ni ar gyfer pob ymholiad drwy:
E-bost: [email protected]
Ffôn : 0333 103 1928
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn i chi sefyll fel ymgeisydd
Cyn dechrau ar y broses o sefyll etholiad, mae angen i ddarpar ymgeiswyr fod yn hyderus eu bod yn bodloni'r holl ofynion. Mae angen iddynt hefyd fod yn ymwybodol o'r rheolau sy'n berthnasol i ymgeiswyr mewn perthynas â gwariant a rhoddion.
Mae’r canllaw hwn yn nodi manylion am:
- Pryd fyddwch chi'n dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
- Pwy sy'n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeiswyr?
- Cymwysterau a gwaharddiadau ar gyfer sefyll etholiad
- Penodi eich asiant etholiad ac asiantiaid eraill
Etholaethau Seneddol
Mae dau fath o etholaeth: bwrdeistref a sir. Mewn etholaeth bwrdeistref, maer neu gadeirydd y dosbarth yw'r Swyddog Canlyniadau. Mewn etholaeth sir, Siryf y sir yw'r Swyddog Canlyniadau.
Mae'r terfynau gwariant ar ymgyrchu yn wahanol gan ddibynnu p'un a ydych yn sefyll mewn bwrdeistref ('burgh' yn yr Alban) neu etholaeth sir. Caiff hyn ei gwmpasu'n fanwl yn Faint y gallwch ei wario?
Yn nodweddiadol, mae etholaethau bwrdeistref ('burgh' yn yr Alban) yn ardaloedd trefol yn bennaf ac mae etholaethau sir yn ardaloedd gwledig yn bennaf.
Os nad ydych yn gwybod ym mha fath o etholaeth rydych yn sefyll, gallwch gael gafael ar y wybodaeth hon gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Pwy sy'n gwneud beth mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU a sut i gysylltu â hwy
Y Swyddog Canlyniadau a'r Swyddog Canlyniadau Gweithredol
Mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU yng Nghymru a Lloegr, swydd seremonïol yw swydd y Swyddog Canlyniadau ar y cyfan.
Cyfrifoldeb y Swyddog Canlyniadau Gweithredol, sydd fel arfer yn un o uwch swyddogion yr awdurdod lleol, yw gweinyddu'r etholiad.
Dim ond derbyn a dychwelyd yr writ a datgan y canlyniad ar ddiwedd y cyfrif a wna'r Swyddog Canlyniadau - er y gall ddewis dirprwyo'r cyfrifoldebau hyn i'r Swyddog Canlyniadau Gweithredol.
Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiad Senedd y DU yw'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol hefyd, ac mae'n gyfrifol am bob agwedd ar weinyddu'r etholiad, gan gynnwys derbyn a dychwelyd yr writ a datgan y canlyniad. Ni ddefnyddir y term Swyddog Canlyniadau Gweithredol yn yr Alban.
Drwy gydol y canllawiau hyn, defnyddir Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau Gweithredol yng Nghymru a Lloegr a'r Swyddog Canlyniadau yn yr Alban.
Byddwch yn gallu cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) dros eich etholaeth drwy gysylltu â'ch swyddfa etholiadau leol. Ceir cyfeiriadau a rhifau ffôn pob swyddfa etholiad yng Nghymru a Lloegr ar ein gwefan. Yn yr Alban, gallwch gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) drwy'r swyddfa etholiadau yn eich cyngor lleol.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cynnig briffiadau cyn yr etholiad ac rydym yn eich annog chi neu eich asiant i fynd iddynt, hyd yn oed os ydych wedi bod yn asiant neu wedi sefyll etholiad o'r blaen.
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal y gofrestr etholwyr a rhestrau pleidleiswyr absennol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol. Y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw un o'r uwch swyddogion yn yr awdurdod lleol fel arfer a gall hefyd gyflawni rôl y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Ceir manylion cyswllt eich Swyddog Cofrestru Etholiadol ar ein gwefan.
Y Comisiwn Etholiadol
Rydym yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2000 gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Cawn ein harwain ar hyn o bryd gan ddeg Comisiynydd, gan gynnwys Cadeirydd. Rydym yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU drwy bwyllgor a gadeirir gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin.
Rydym yn gyfrifol am gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, monitro a chyhoeddi rhoddion sylweddol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr plaid a rhai nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau penodol. Mae gennym rôl i'w chwarae hefyd wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr. Mae'n ofynnol i ni adrodd ar weinyddiaeth rhai digwyddiadau etholiadol penodol, arolygu materion etholiadol yn rheolaidd ac, os gofynnir am hynny, adolygu ac adrodd ar unrhyw fater etholiadol. Rydym hefyd yn achredu arsylwyr i fod yn bresennol yn ystod gweithrediadau etholiadau.
Nid ydym yn rhedeg etholiadau ond ni sy'n gyfrifol am roi cyngor a chymorth ar faterion etholiadol i bawb sy'n gysylltiedig ag etholiadau, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol), Swyddogion Cofrestru Etholiadol, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr.
Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r dyddiad y diddymir Senedd y DU.
Byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y diwrnod hwn os byddwch eisoes wedi datgan eich bod yn ymgeisydd yn yr etholiad (neu os bydd rhywun arall wedi datgan eich bod yn ymgeisydd) ar neu cyn y dyddiad hwn.
Os byddwch chi neu eraill yn datgan y byddwch yn ymgeisydd yn yr etholiad ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad y gwneir y cyfryw ddatganiad, neu ar y dyddiad y cyflwynwch eich papurau enwebu, p'un bynnag fydd gyntaf.
Pan fyddwch wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, cewch gopi o'r gofrestr etholiadol.
Cewch hefyd gopi o'r rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gyfer yr etholaeth rydych yn sefyll ynddi.
Hefyd, gallwch ddefnyddio ystafelloedd a ariennir gan gyllid cyhoeddus ac ysgolion ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus.
Pwy sy'n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeiswyr?
Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid ddilyn rheolau penodol ynghylch faint y gallant ei wario, gan bwy y gallant dderbyn rhoddion a beth y mae'n rhaid iddynt roi gwybod amdano ar ôl yr etholiad.
Yr asiant etholiad sy'n bennaf cyfrifol am gydymffurfio â'r rheolau hyn, hyd yn oed os yw'n penodi is-asiant i'ch helpu gyda'ch treuliau.
Fodd bynnag, ar ôl yr etholiad, rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant lofnodi datganiadau yn dweud bod eu ffurflen gwariant a rhoddion yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth.
Mae hyn yn golygu bod angen hefyd i ymgeiswyr fod yn gwbl ymwybodol o'r rheolau.
Gwariant
Mae'r rheolau yn gymwys i wariant ar weithgareddau i hyrwyddo'ch ymgeisyddiaeth, neu feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod cyfnod penodol cyn yr etholiad. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. Pan ddefnyddiwn y term ‘cyfnod a reoleiddir’ rydym yn golygu'r adeg pan fydd terfynau gwariant a chyfreithiau yn gymwys.
Mae gwariant ymgeiswyr yn cynnwys unrhyw dreuliau a dynnwyd, p'un a yw hynny ar nwyddau, gwasanaethau, eiddo neu gyfleusterau, at ddibenion etholiad yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Ystyr 'treuliau a dynnwyd’ neu ‘fynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.
Mae hyn yn cynnwys:
- eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw
- gwerth eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, sef ‘gwariant tybiannol’
Ceir rheolau sy'n cwmpasu:
- pwy all awdurdodi gwariant a thalu am eitemau a gwasanaethau
faint y gallwch ei wario - pa weithgareddau sy'n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant
- terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau
- pa gofnodion sy'n rhaid i chi eu cadw
- sut a phryd rydych yn rhoi gwybod am eich gwariant
Gelwir gwariant ymgeiswyr yn ‘dreuliau’ yn aml. Weithiau, mae pobl yn meddwl bod hyn yn golygu y gall gwariant gael ei ad-dalu gan y cyngor lleol, neu gennym ni, y Comisiwn Etholiadol. Nid felly y mae. Nid oes gennych hawl i adennill unrhyw wariant o arian cyhoeddus.
Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wariant ymgeisydd ar ôl yr etholiad yn Gwariant ymgeiswyr.
Rhoddion
Dim ond rhoddion o arian, eitemau neu wasanaethau tuag at eu gwariant ar ymgyrch gan ffynonellau penodol a leolir yn y DU yn bennaf y gall ymgeiswyr eu derbyn, a rhaid iddynt roi gwybod amdanynt i'r swyddog canlyniadau lleol ar ôl yr etholiad.
Mae hyn yn cynnwys rhoddion gan eich plaid leol.
Os penodir asiant etholiad, rhaid i roddion gael eu trosglwyddo iddo mor gyflym â phosibl. Yna rhaid i'r asiant gadarnhau a ellir derbyn y rhodd ai peidio.
Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant lofnodi datganiad ar eu ffurflen treuliau yn dweud bod y ffurflen rhoddion yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth. Felly mae angen i'r ymgeisydd sicrhau bod ei asiant yn dilyn y rheolau.
Os na phenodwyd asiant, yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am drafod a gwirio rhoddion.
Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am roddion ar ôl yr etholiad yn Rhoddion ymgeiswyr.
Amodau cymhwyso ac anghymhwyso ar gyfer sefyll etholiad
Er mwyn sefyll fel ymgeisydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni'r cymwysterau angenrheidiol a bod yn siŵr nad ydych wedi'ch gwahardd. Mae’r adran hon yn nodi’r cymwysterau a’r anghymwysiadau ar gyfer sefyll etholiad.
Ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ar neu ar ôl 2 Mai 2024, mae Deddf Etholiadau 2022 wedi diweddaru ar ba seiliau y gallwch gael eich gwahardd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw anghymwysiadau.
Amodau cymhwyso
Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr rhaid i chi fod:
- yn 18 mlwydd oed o leiaf1
- yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd yng Ngweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad2
Dinesydd cymwys o'r Gymanwlad yw dinesydd o'r Gymanwlad:
- nad oes angen caniatâd arnynt i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yno, neu
- sydd â chaniatâd penagored i aros yn y Deyrnas Unedig.
Nid yw dinasyddion o wledydd eraill yn gymwys i ddod yn Aelod o Senedd y DU.
Nid oes unrhyw ofyniad yn ôl y gyfraith i chi fod yn etholwr cofrestredig yn y DU.
- 1. Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006, a.17(1) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006, a.18 ↩ Back to content at footnote 2
Anghymwysiadau
Ar wahân i fodloni'r amodau cymhwyso ar gyfer sefyll etholiad, rhaid i chi sicrhau hefyd nad ydych wedi eich anghymhwyso.
Mae'r ystod lawn o anghymwysiadau yn gymhleth ac os oes unrhyw amheuaeth gennych ynghylch p'un a ydych wedi eich anghymhwyso, rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i gadarnhau nad ydych wedi eich anghymhwyso cyn cyflwyno eich papurau enwebu.
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 euogfarn anghymhwyso o drosedd fygythiol a ysgogwyd gan ymddygiad gelyniaethus tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholedig berthnasol. Bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn weithredol ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024.
Rhaid i chi sicrhau nad ydych wedi eich anghymhwyso oherwydd gofynnir i chi lofnodi un o'r papurau enwebu sy'n ofynnol er mwyn cadarnhau nad ydych wedi eich anghymhwyso.1
Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu2
o'ch cymhwyster ar gyfer cael eich ethol, felly os oes unrhyw amheuaeth gennych, dylech gysylltu â'ch cyflogwr, ymgynghori â'r ddeddfwrfa neu, os oes angen, ceisio eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.
Ni fydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gallu cadarnhau a ydych wedi eich anghymhwyso ai peidio.
Mae rhai pobl sydd wedi'u hanghymwyso rhag dod yn Aelod Seneddol ym Mhrydain Fawr. Ni allwch fod yn ymgeisydd os yw'r canlynol yn wir ar adeg eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio:
- Rydych yn ddeiliad swydd sydd wedi'i hanghymwyso rhag dod yn Aelod Seneddol.3 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Swyddi anghymhwysol.
- Rydych yn destun cyfyngiadau methdaliad.4 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Fethdaliad.
- Rydych wedi cael eich dedfrydu i gyfnod yn y carchar neu eich cadw am flwyddyn neu fwy ac rydych wedi cael eich cadw unrhyw le yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu os ydych yn rhydd yn anghyfreithlon.5 Mae enwebu unigolyn a gafodd ei anghymhwyso ar y sail hon yn ddi-rym, a bydd hawl gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i wrthod ei bapur enwebu.6
- Rydych wedi cael eich anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy'n cwmpasu arferion etholiadol llwgr neu anghyfreithlon a throseddau yn ymwneud â rhoddion). Mae anghymhwyso rhywun am arfer anghyfreithlon yn dechrau o'r dyddiad y cafwyd rhywun yn euog gan lys etholiadol neu o'r dyddiad y cafodd ei gollfarnu, ac mae'n para am dair blynedd.7 Mae anghymhwyso rhywun am arfer lwgr yn dechrau o'r dyddiad y cafwyd rhywun yn euog gan lys etholiadol neu o'r dyddiad y cafodd ei gollfarnu ac mae'n para am bum mlynedd.8
- Ar gyfer etholiadau ar neu ar ôl 2 Mai 2024 – Rydych wedi cael eich euogfarnu o drosedd fygythiol a ysgogwyd gan ymddygiad gelyniaethus tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholedig berthnasol.9 Effaith gorchymyn anghymhwyso yw y caiff y person ei anghymhwyso rhag sefyll ar gyfer swydd etholiadol berthnasol, dal na chael ei ethol i swydd o'r fath am bum mlynedd.
- 1. Rheol 8(3) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 65A(1A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 1 Deddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 426A (ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) ac a.427 (ar gyfer yr Alban) o Ddeddf Ansolfedd 1986 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.2 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 a rheol 12(2) atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. A.160(5)(b), a.173(3)(b) rhan 3 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. A.160(5)(a), a.173(3)(a) rhan 3 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Adran 30 Deddf Etholiadau 2022 ↩ Back to content at footnote 9
Swyddi anghymhwysol
Caiff rhai deiliaid swyddi eu hanghymwyso rhag dod yn Aelod Seneddol. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol1 :
- gweision sifil
- aelodau o heddluoedd
- aelodau o'r lluoedd arfog
- cyfarwyddwyr cwmnïau masnachol a enwebwyd gan y llywodraeth
- barnwyr
- aelodau o ddeddfwrfa unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i'r Gymanwlad
- arglwyddi sy'n aelodau o Dŷ'r Arglwyddi ac a all bleidleisio yno
- esgobion yr Eglwys yn Lloegr (y cyfeirir atynt fel Arglwyddi Ysbrydol) y mae hawl ganddynt i fod yn aelodau o Dŷ'r Arglwyddi a phleidleisio yno
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a nodir rhestrau manwl o swyddi anghymhwysol yn Neddf Anghymwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 (fel y'i diwygiwyd).
- 1. Deddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975, a.1 ↩ Back to content at footnote 1
Cyfyngiadau methdaliad neu orchmynion interim
Nid yw methdaliad ynddo'i hun yn anghymhwysiad. Fodd bynnag, byddwch wedi'ch anghymhwyso os:1
- rydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad ar hyn o bryd neu orchymyn cyfyngu rhyddhad ar ddyledion a wnaed gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu
- mae eich ystâd wedi cael ei secwestru gan lys yn yr Alban ac nid ydych wedi cael eich rhyddhau
Os bydd unigolyn wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon,
neu os bydd yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad interim, ni chaiff ei anghymhwyso ar y sail honno, ar yr amod nad yw hefyd yn destun unrhyw anghymwysiadau methdaliad penodol a restrir uchod ar hyn o bryd.
- 1. a.426A (ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) ac a.427 (ar gyfer yr Alban) o Ddeddf Ansolfedd 1986 ↩ Back to content at footnote 1
A allaf sefyll etholiad mewn mwy nag un etholaeth?
Ni allwch sefyll mewn mwy nag un etholaeth yn yr un etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU.1
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, atodlen 1 rheol 8(3)(c) ↩ Back to content at footnote 1
Penodi eich asiant etholiad ac asiantiaid eraill
Yr asiant etholiad yw'r person sy'n gyfrifol am reoli eich ymgyrch etholiadol yn briodol ac, yn arbennig, am ei rheolaeth ariannol. Rhaid i chi benodi asiant etholiad. Os na fyddwch yn gwneud hynny, chi fydd yn cyflawni'r rôl honno.1
Yn dilyn y penodiad, dim ond gan neu drwy'r asiant etholiad y gellir talu treuliau etholiad.2
I gael rhagor o wybodaeth am wariant ymgeiswyr, gweler ein canllaw ar wariant ymgeiswyr.
Gallwch hefyd benodi asiantiaid eraill i arsylwi ar y prosesau etholiadol canlynol, y mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl i arsylwi arnynt hefyd:3
- yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post
- y bleidlais
- y cyfrif
- 1. Adran 70 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.73 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 30 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliad 69, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 a Rheoliad 69, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
Pwy all fod yn asiant etholiad?
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol i fod yn asiant etholiad a gallwch weithredu fel eich asiant eich hun os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Fodd bynnag, ni chaiff y bobl ganlynol fod yn asiantiaid etholiad:1
- y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff
- partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff
- unrhyw un na chaiff bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu euogfarn am arferion llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Os ydych yn sefyll fel ymgeisydd plaid, efallai y bydd gan eich plaid reolau penodol hefyd ynghylch pwy y gallwch ei benodi'n asiant etholiad.
- 1. A. 99 a 165, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Penodi asiant etholiad
Yn sgil y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth rôl asiant etholiad, dylech ystyried eich penodiad yn ofalus a sicrhau bod yr unigolyn dan sylw yn deall ei rwymedigaethau. Gallwch weithredu fel eich asiant eich hun os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Rhaid i chi ddatgan yn ysgrifenedig enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa eich asiant etholiad i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn 4pm ar y 19eg diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
Dylech chi a'r asiant lofnodi'r datganiad i ddangos eich bod yn derbyn y penodiad.
Mae hefyd yn ddefnyddiol darparu rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad e-bost ar gyfer eich asiant etholiad fel y gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) gysylltu â hwy yn hawdd.
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ddarparu ffurflen datganiad, neu gallech ddefnyddio ffurflen datganiad yr asiant etholiad a gynhyrchwyd gan y Comisiwn . Os na fyddwch yn penodi rhywun arall fel eich asiant erbyn y dyddiad cau, byddwch yn dod yn asiant i chi'ch hun yn awtomatig.2
Rhaid bod gan eich asiant swyddfa y gellir anfon unrhyw hysbysiadau cyfreithiol iddi,3
ac felly rhaid bod gan y swyddfa honno gyfeiriad ffisegol – Ni ellir defnyddio blychau Swyddfa'r Post na blychau post tebyg.
Rhaid i gyfeiriad swyddfa eich asiant fod:4
- o fewn yr etholaeth seneddol lle'r ydych yn sefyll, neu
- o fewn etholaeth sy'n cyd-ffinio â'r etholaeth lle rydych yn sefyll, neu
- yng Nghymru, o fewn sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n rhan o'r etholaeth, neu'n cyd-ffinio â'r etholaeth, neu
- yn Llundain, o fewn bwrdeistref neu ddosbarth yn Llundain sy'n rhan o'r etholaeth, neu'n ffinio'r etholaeth
Yn aml, cyfeiriad cartref yr asiant fydd cyfeiriad ei swyddfa, ond gallai hefyd fod yn gyfeiriad swyddfa leol y blaid neu swyddfa a sefydlwyd ar gyfer yr etholiad.
Os byddwch yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, oni bai eich bod yn darparu cyfeiriad swyddfa, caiff eich cyfeiriad cartref fel y'i rhoddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref ei gyhoeddi ar yr hysbysiad o asiantiaid etholiad5
. Os yw'r cyfeiriad hwnnw y tu allan i'r ardal a ganiateir, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw cyfeiriad eich cynigydd (h.y. y llofnodwr cyntaf ar eich ffurflen enwebu).
- 1. A. 67, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A. 70, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.69(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A. 69, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A. 70(4), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
Diddymu penodiad asiant etholiad
Gallwch ddiddymu penodiad eich asiant etholiad unrhyw bryd, gan gynnwys ar ôl y diwrnod pleidleisio, a gellir gwneud penodiad newydd drwy ddilyn y broses uchod Penodi asiant etholiad.1 Os byddwch yn diddymu penodiad eich asiant etholiad, heb benodi rhywun arall, tybir mai chi yw eich asiant etholiad eich hun.
Os ydych yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, gallwch ddiddymu eich penodiad eich hun a phenodi rhywun arall fel eich asiant.
Pan fydd asiant wedi derbyn ei benodiad, ni all ymddiswyddo a rhaid iddo gyflawni'r dyletswyddau gofynnol oni fyddwch yn diddymu ei benodiad.
- 1. Sections 67(3) and 70(3) Representation of the People Act 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Is-asiantiaid
Gall asiant etholiad mewn etholaeth sirol benodi is-asiantiaid i weithredu ar ei ran.1
Ni ellir penodi unrhyw is-asiantiaid mewn etholaeth fwrdeistref.
Gall asiantiaid etholiadol benodi is-asiantiaid unigol ar gyfer rhannau penodol o'r etholaeth, ar yr amod nad yw'r rhannau hynny yn gorgyffwrdd. Gall yr asiant benderfynu ar sut i rannu'r etholaeth.
Rhaid i swyddfa'r is-asiant fod yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.2
Caiff is-asiant wneud unrhyw beth y caiff yr asiant etholiad ei wneud yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.
Dylai'r asiant etholiad sicrhau bod pwy bynnag y maent yn penderfynu penodi fel is-asiant yn ymwybodol o'r rheolau etholiadol a gwariant. Bydd unrhyw beth y mae'r is-asiant yn ei wneud yn cael ei drin fel pe bai wedi'i wneud gan yr asiant etholiad.
Erbyn yr ail ddiwrnod gwaith cyn yr etholiad mae'n rhaid i'r asiant etholiad ddatgan enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa bob is-asiant a'r ardal y maent wedi'u penodi iddi i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ysgrifenedig.3
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflen i chi ei defnyddio. Neu, gallwch ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol ym mhecyn enwebu'r Comisiwn.
Gall yr asiant etholiad ddirymu penodiad unrhyw is-asiant ar unrhyw bryd a gellir penodi is-asiant arall yn eu lle. Os penodir unrhyw is-asiant yn eu lle, rhaid i'r asiant etholiad ddatgan enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa ac ardal penodi'r is-asiant newydd yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
- 1. Sections 67(3) and 70(3) Representation of the People Act 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A. 69, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A. 68(3) a (5) ac a.69(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Gwariant ymgeiswyr
Mae'r adran ganlynol yn rhoi canllawiau ar wariant ymgeiswyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.
Mae'r canllawiau'n cwmpasu:
- faint y gallwch ei wario yn y cyfnod cyn yr etholiad
- pa weithgareddau sy'n cyfrif tuag at wariant ymgeisydd
- pa gofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw
- sut i gyfrif am fathau gwahanol o wariant
Yr asiant etholiad sy'n bennaf cyfrifol am gydymffurfio â'r cyfreithiau hyn, hyd yn oed os yw'n penodi is-asiant i'ch helpu gyda'ch treuliau. Fodd bynnag, dylai'r ymgeiswyr fod yn gwbl ymwybodol o'r cyfreithiau gan fod yn rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant ddatgan bod y ffurflen gwariant yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred. 1
Ceir rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau'r asiant a'r ymgeisydd yn Pwy sy'n gyfrifol am wariant ymgeisydd?
- 1. Sections 67(3) and 70(3) Representation of the People Act 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Pryd mae'r cyfreithiau ynghylch gwariant ymgeisydd yn gymwys?
Defnyddiwn y term ‘cyfnod a reoleiddir’ i gyfeirio at yr adeg pan fydd y cyfreithiau ynghylch gwariant yn gymwys.
Y cyfnod a reoleiddir
Mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU, gellir cael dau gyfnod a reoleiddir ar wahân. Gelwir y rhain yn ‘ymgyrch hir’ ac ‘ymgyrch fer’.
Mae'r ymgyrch fer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio.1
Nid oes ymgyrch hir yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024.
Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw dyddiad diddymu'r Senedd.2 Bydd y Senedd yn cael ei diddymu ar 30 Mai 2024.
Byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad hwn os byddwch chi neu eraill eisoes wedi cyhoeddi eich bwriad i sefyll. 3 Er enghraifft, efallai fod eich plaid wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg pan gawsoch eich dewis, neu efallai eich bod wedi sôn am eich bwriad mewn cyfarfod i drigolion, neu efallai eich bod eisoes wedi dechrau ymgyrchu.
Os nad yw eich bwriad i sefyll wedi cael ei gyhoeddi erbyn dyddiad diddymu'r Senedd, byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y dyddiad cynharaf o'r rhain:
- y dyddiad y cyhoeddir eich bod yn bwriadu sefyll
- y dyddiad y cyflwynwch eich papurau enwebu4
Rhaid i hyn fod cyn y daw'r cyfnod enwebu i ben, sef 4pm ar 7 Mehefin 2024.5
- 1. Sections 67(3) and 70(3) Representation of the People Act 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.118A(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.118A(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.118A(2)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 (Rheolau Prif Ardaloedd 2006) Atodlen 2, para. 1 ↩ Back to content at footnote 5
Mynd i gostau a gwneud taliadau ar gyfer gwariant ymgeisydd
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Unwaith y byddwch yn ymgeisydd yn swyddogol a bod yr asiant wedi'i benodi, dim ond y bobl ganlynol y caniateir iddynt fynd i wariant etholiadol:
- yr asiant
- yr ymgeisydd
- unrhyw un a awdurdodir gan yr ymgeisydd neu'r asiant
Ystyr ‘mynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian. Os ydych yn awdurdodi rhywun i fynd i wariant ymgeisydd, rhaid gwneud hynny'n ysgrifenedig a nodi'n glir faint y gall ei wario ac ar beth.
Mae rheolaethau ar bwy all wneud taliadau yn berthnasol unwaith y cewch eich penodi'n swyddogol fel ymgeisydd. Gall yr ymgeisydd dalu am unrhyw eitemau cyn penodi asiant, ac eithrio treuliau personol, y mae cyfyngiad arnynt.i Dim ond hyd at £600 y gall yr ymgeisydd ei dalu ar gostau personol ar gyfer teithio a llety, naill ai cyn neu ar ôl i asiant gael ei benodi.ii
Unwaith y byddwch yn ymgeisydd yn swyddogol a bod yr asiant wedi'i benodi, rhaid i'r asiant wneud taliadau ar gyfer y rhan fwyaf o wariant ymgeiswyr. 1 Yn ogystal â threuliau personol, ceir dau eithriad:
- gall yr asiant awdurdodi rhywun yn ysgrifenedig i dalu am fân dreuliau fel deunydd ysgrifennu neu gostau postio. Rhaid i'r awdurdodiad gynnwys swm y taliad. 2
- gall yr asiant roi awdurdodiad ysgrifenedig i rywun fynd i wariant ar ran yr ymgeisydd fel nad yw'r gwariant yn cyfrif tuag at ‘swm a ganiateir’ y person hwnnw ar ymgyrchu ar gyfer yr ymgeisydd (gweler Ymgyrchu lleol). 3 Gall y person a awdurdodir i fynd i'r gwariant hefyd wneud y taliadau ar gyfer y gwariant hwnnw. 4
Os gwneir unrhyw daliadau gan unrhyw un heblaw'r ymgeisydd, yr asiant neu'r is-asiant – er enghraifft gan berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig i fynd i wariant – yna os daw i law cyn iddo ddod yn ymgeisydd, bydd hyn yn rhodd os bydd dros £50 (ac na chaiff ei ad-dalu gan yr asiant). 5 Ceir rhagor o wybodaeth am roddion yn Rhoddion ymgeisydd.
Gall ymgeiswyr hefyd weithredu fel eu hasiant etholiad eu hunain. 6 Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a'ch ymgyrchwyr yn ymwybodol o'r rheolau hyn ac yn gwybod pwy all ac na all fynd i gostau neu dalu costau.
- i. A.74(1b), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote i
- ii. A.74(1)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote ii
- 1. Sections 67(3) and 70(3) Representation of the People Act 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.74(3), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.75(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.73(1) a (5)(ca), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2A, para. 2(1)(c) a phara. 4(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.67(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
Faint y gallwch ei wario?
Mae'r terfyn gwariant yn seiliedig ar swm penodedig, yn ogystal â swm amrywiol fesul etholwr cofrestredig yn eich etholaeth ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad - dydd Mawrth 4 Mehefin 2024.
Bydd eich swyddog cofrestru etholiadol lleol yn gallu rhoi nifer yr etholwyr cofrestredig yn eich etholaeth i chi, a yw'n fwrdeistref, yn fwrdeistref neu'n etholaeth sirol.
Swm penodedig |
| Swm amrywiol – Etholaeth sirol |
---|---|---|
£11,390 | 8c fesul etholwr seneddol cofrestredig | 12c fesul etholwr seneddol cofrestredig |
Er enghraifft, os ydych yn sefyll mewn etholaeth sirol sydd â 72,021 o etholwyr ynddi, eich terfyn gwariant fyddai:
£11,390 + (72,021 x £0.12) =
£11,390 + £8,642.52 =
£20,032.52
Nid oes ymgyrch hir yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024.
Pa gofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw?
Dylech sicrhau bod system ar waith i gadw cofnodion o'ch holl wariant ymgeisydd fel y gallwch gydymffurfio â'ch cyfrifoldebau i roi gwybod am wariant ar ôl yr etholiad. Mae gan asiantiaid etholiad gyfrifoldeb i roi gwybod am wariant ar ôl yr etholiad.
Yr hyn y mae angen i chi ei gofnodi
Ar gyfer pob eitem gwariant, dylech gofnodi'r wybodaeth ganlynol i'w chynnwys ar eich ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad:
- ar gyfer beth roedd y gwariant – er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- y swm neu'r gwerth
- ar ba ddyddiad y gwnaethoch wario'r arian
Rhaid i bob cost gynnwys TAW, hyd yn oed os gallwch adennill taliadau TAW.
Rhaid i chi gadw anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliadau o £20 neu drosodd. 1
Efallai y bydd yr asiant am gadw copïau o bob enghraifft o ddeunydd ymgyrchu (fel llythyrau neu daflenni) a ddefnyddir rhag ofn y bydd angen iddo gyfeirio'n ôl atynt.
Rhaid i chi hefyd gofnodi manylion gwariant:
- pan fyddwch yn defnyddio eitemau a ddarparwyd i chi
- pan fyddwch yn awdurdodi rhywun arall i fynd i wariant
Ceir rhagor o fanylion yn yr adrannau ar wariant tybiannol ac ymgyrchu lleol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y manylion sy'n ofynnol ar y ffurflen gwariant yn Cwblhau eich ffurflen.
- 1. Sections 67(3) and 70(3) Representation of the People Act 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Beth yw gwariant ymgeiswyr?
Gwariant ymgeisydd yw gwariant ar weithgareddau i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth, neu i feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod y cyfnod 1 a reoleiddir.
Er mwyn iddo fod yn wariant ymgeisydd, rhaid iddo:
- fod yn weithgarwch ar restr o fathau o dreuliau etholiad
- hyrwyddo'r ymgeisydd 2
Pan fyddwch wedi penderfynu bod rhywbeth yn wariant ymgeisydd, bydd angen i chi benderfynu sut y dylid rhoi gwybod amdano. Gall fod yn:
- wariant arferol y mae'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd iddo
- gwariant tybiannol, lle caiff rhywbeth ei ddarparu i chi a'ch bod yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch
- ymgyrchu lleol, lle bydd rhywun heblaw'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd i wariant
Mae'r tudalennau canlynol yn cynnwys manylion y gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a'r ffyrdd gwahanol yr eir i'r gwariant.
- 1. Section 90ZA & section 118A(2) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. S.90ZA RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, bydd gwariant ar unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd os bydd y gweithgaredd yn hyrwyddo'r ymgeisydd:
- hysbysebion o unrhyw fath. 1 Er enghraifft, posteri, hysbysebion mewn papurau newydd, gwefannau neu fideos
- deunydd a anfonir at bleidleiswyr yn ddigymell. 2 Er enghraifft, llythyrau, taflenni neu negeseuon e-bost a anfonwch nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol
- costau cludiant. 3 Er enghraifft, ceir wedi'u llogi neu drafnidiaeth gyhoeddus i'ch ymgyrchwyr
- cyfarfodydd cyhoeddus. 4 Er enghraifft, ad-dalu treuliau'r sawl sy'n bresennol, llogi safleoedd a thalu am nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer cyfarfod cyhoeddus
- costau staff. 5 Er enghraifft, cyflog asiant, neu staff wedi'u secondio gan eu cyflogwyr i chi. Nid oes angen i chi gynnwys amser a dreulir ar eich ymgyrch gan wirfoddolwyr
- swyddfeydd. 6 Er enghraifft, swyddfa'ch ymgyrch
- costau gweinyddol. 7 Er enghraifft, biliau ffôn, deunydd ysgrifennu, llungopïau a defnyddio cronfeydd data
Mae hyn yn cynnwys:
- yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithgaredd. Er enghraifft, os ydych yn llunio taflenni neu hysbysebion, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu
- eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn y cyfnod a reoleiddir a ddefnyddir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir
- eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad a ddefnyddir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Ceir rhagor o wybodaeth yn Gwariant tybiannol.
Rhaid rhoi gwybod am y gwariant hwn ar eich ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad. Rhoddir mwy o fanylion am bob categori ar y tudalennau canlynol.
- 1. Section 90ZA & section 118A(2) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. S.90ZA RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 4A, para. 3, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 4A, para. 4, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 4A, para. 5, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 4A, para. 6, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 4A, para. 6, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
Hysbysebion o unrhyw fath
Costau cyffredinol
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd ar gyfer hysbyseb
- lledaenu deunydd hysbysebu drwy ddosbarthu neu fel arall
Example
Er enghraifft, llogi ffotograffydd a safle i gynhyrchu delweddau i'w defnyddio mewn deunydd hysbysbeu.
Software
Meddalwedd
Mae'n cynnwys cost meddalwedd o unrhyw fath i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais i:
- ddylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
- lledaenu neu hwyluso'r broses o ledaenu deunydd hysbysebu
p'un a gaiff y deunydd hwnnw ei ddosbarthu'n ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill.
Example
Er enghraifft, ffi drwyddedu neu feddalwedd i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais.
Services, facilities and equipment
Gwasanaethau, cyfleusterau a chyfarpar
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu digidol neu electronig
- dosbarthu neu hwyluso'r broses o ledaenu'r deunydd hysbysebu hwnnw mewn unrhyw ffordd
gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Example
Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.
Websites and other digital material
Gwefannau a deunydd digidol arall
Mae'n cynnwys costau:
- lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
- dylunio ac adeiladu'r wefan
- cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy'n cael ei sefydlu i godi arian ar gyfer yr ymgeisydd ond sydd hefyd yn hyrwyddo'r ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Deunydd i'w rannu
Mae'n cynnwys cost paratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu:
- i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio gan bobl eraill
- i'w rannu ar unrhyw fath o sianel neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol neu i hyrwyddo'r ymgeisydd drwy ddull o'r fath
Example
Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu yn hyrwyddo'r ymgeisydd a gaiff ei rannu ar dudalen ar sianel cyfryngau cymdeithasol yn annog dilynwyr i'w rannu.
Downloadable material
Deunydd y gellir ei lawrlwytho
Os byddwch yn rhoi deunydd ar wefan i bobl ei argraffu at eu defnydd personol, fel posteri ffenestr neu ffurflenni deiseb, bydd y costau dylunio a chostau'r wefan yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd. Nid oes angen i chi gyfrif costau argraffu pobl yn erbyn eich terfyn gwariant, oni bai bod pobl yn argraffu dogfennau ar eich rhan.
Os gallai'r deunydd gael ei argraffu a'i ddosbarthu i bleidleiswyr – er enghraifft, taflen – bydd angen i chi esbonio sut rydych yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio.
Os byddwch yn awdurdodi defnydd ehangach o'r deunydd, gall y costau cynhyrchu gyfrif fel gwariant ymgeisydd ni waeth pwy sy'n ei argraffu.
Rhwydweithiau
Mae'n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n:
- hwyluso'r broses o ddosbarthu neu ledaenu deunydd hysbysebu drwy unrhyw ddull
- hyrwyddo deunydd hysbysebu neu'n ei wneud yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Example
Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir i wneud i ddeunydd ymddangos fel petai wedi cael ei weld a'i gymeradwyo gan nifer mawr o ddefnyddwyr ar lwyfan y cyfryngau cymdeithasol.
Other costs that are included
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd hysbysebu.
Mae'n cynnwys cost:
- papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd hysbysebu yn cael ei argraffu arno
- arddangos hysbysebion yn ffisegol mewn unrhyw leoliad, er enghraifft clymau neu lud i osod posteri
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
a ddefnyddir yn ystod ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd, heblaw lle:
- cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddefnydd personol yr ymgeisydd ei hun
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Lle mae papur, cyfarpar llungopïo neu argraffydd yn cael ei brynu neu ei logi i'w ddefnyddio'n bennaf yn ystod yr ymgyrch, mae'n rhaid rhoi gwybod am y gost lawn.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd hysbysebu
- lledaenu'r deunydd hysbysebu drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â deunydd hysbysebu i'r ymgeisydd y mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.
Deunydd a anfonir at etholwyr yn ddigymell
Costau sy'n gysylltiedig â chael gwybodaeth a thargedu neu nodi pleidleiswyr, gan gynnwys costau cronfeydd data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- unrhyw wybodaeth, drwy ba ddull bynnag
a ddefnyddir i hwyluso'r broses o anfon deunydd digymell at bleidleiswyr.
Example
Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost i dargedu pleidleiswyr
N/A
Mae'n cynnwys cost cyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddeg data i dargedu pleidleiswyr drwy ba ddull bynnag, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu bobl eraill sy'n nodi grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba ddull bynnag.
Example
Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a gaiff ei thalu i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso'r broses o dargedu pleidleiswyr mewn ardal etholiadol benodol a chost modelu gan asiantaeth sy'n seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.
N/A
Mae'n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i nodi pleidleiswyr sy'n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddir i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Lle ceir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, gan gynnwys plaid wleidyddol, mae cost fasnachol cael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi'i chynnwys.
Costau sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd digymell i bleidleiswyr, gan gynnwys drwy ddulliau digidol
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
- lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall, gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y deunydd yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost dosbarthu deunydd drwy unrhyw ddull gan gynnwys dulliau electronig neu ddosbarthu'r deunydd yn ffisegol.
Example
Er enghraifft, cost amlenni a stampiau neu brynu system ar gyfer anfon negeseuon e-bost.
N/A
Mae'n cynnwys cost cyrchu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n hyrwyddo deunydd digymell ar unrhyw lwyfan neu sy'n ei wneud yn fwy gweladwy ar unrhyw lwyfan.
Example
Er enghraifft, ymgeisydd yn talu datblygwr i greu ap sy'n hwyluso'r broses o dargedu ei ddeunydd ar sianel cyfryngau cymdeithasol.
N/A
Mae'n cynnwys cost goruchwylio a chynnal pob cyfrwng cymdeithasol, dull digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal pob cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys os yw'n cael ei gynnal gan endid/unigolyn arall.
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd digymell.
Mae'n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd digymell yn cael ei argraffu arno.
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
a ddefnyddir yn ystod ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd, heblaw lle:
- cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddefnydd personol yr ymgeisydd ei hun
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Lle mae papur, cyfarpar llungopïo neu argraffydd yn cael ei brynu neu ei logi i'w ddefnyddio'n bennaf yn ystod yr ymgyrch, mae'n rhaid rhoi gwybod am y gost lawn.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
- lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost bwyd neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad â deunydd digymell i'r ymgeisydd y mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.
Costau sydd wedi'u heithrio
Nid yw'n cynnwys unrhyw gost sy'n gysylltiedig â chael data fel y'i caniateir drwy statud neu reoliad.
Example
Er enghraifft, mae gan ymgeiswyr yr hawl i gael copi o'r gofrestr etholiadol.
Costau cludiant
Mae'n cynnwys cost cludo ar gyfer yr asiant lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ei ad-dalu.
Cludo gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr
Mae'n cynnwys cost cludo:
- gwirfoddolwyr
- aelodau o'r blaid, gan gynnwys aelodau o staff
- ymgyrchwyr eraill
o gwmpas yr ardal etholiadol, neu i'r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:
- tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant, gan gynnwys unrhyw ffi archebu
- llogi unrhyw gludiant
- tanwydd neu drydan a brynir ar gyfer unrhyw gludiant
- parcio ar gyfer unrhyw gludiant
lle maent yn ymgyrchu ar ran yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost cludiant y telir amdano gan unrhyw unigolyn, plaid wleidyddol neu drydydd parti arall ac y bydd yr ymgeisydd, y blaid wleidyddol neu drydydd parti yn ei thalu neu'n ei had-dalu, lle roedd yr unigolion a oedd yn cael eu cludo yn ymgyrchu neu'n ymgymryd â gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar ran yr ymgeisydd.
Cludiant i ddigwyddiad
Mae'n cynnwys costau cludo'r rhai sy'n mynd i ddigwyddiad sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ad-dalu'r gost honno neu'n talu'r gost honno.
Cludiant sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o gludiant sy'n arddangos deunydd sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd, gan gynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â:
- dylunio cynllun a'i osod ar y cerbyd neu'r math o gludiant
- gyrru neu symud cerbyd o amgylch ardal etholiadol benodol
- ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd
Costau sydd wedi'u heithrio
Mae'r costau canlynol wedi'u heithrio:
- lle telir y gost gan yr unigolyn a ddefnyddiodd y cludiant ac na chaiff y taliad hwnnw ei ad-dalu
- lle darperir y cludiant yn ddi-dâl gan unrhyw unigolyn arall os cafodd y dull cludo ei gaffael gan y person hwnnw yn bennaf at ei ddefnydd personol ei hun
Mae 'treuliau personol' yn cynnwys treuliau teithio rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â'r etholiad.
Lle bydd cost cludiant ar draul bersonol yr ymgeisydd, ni fydd hyn yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen gwariant. Ceir rhagor o wybodaeth yn Treuliau personol.
Cyfarfodydd cyhoeddus o unrhyw fath
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- hyrwyddo cyfarfod cyhoeddus
- cynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgeisydd
- ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Costau eraill o dan gyfarfodydd cyhoeddus
Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r digwyddiad, drwy unrhyw ddull.
Mae'n cynnwys cost digwyddiad sy'n cael ei gynnal drwy ddolen o unrhyw fath neu sy'n cael ei ffrydio'n fyw neu ei ddarlledu, lle mae'r digwyddiad hwnnw yn agored i'w weld gan ddefnyddwyr sianel neu lwyfan neu drwy ddull arall.
Mae'n cynnwys cost darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.
Mae'n cynnwys cost prynu unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:
- cynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgeisydd
- ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost llety a threuliau eraill i unrhyw un sy'n bresennol lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ad-dalu'r gost honno neu'n talu'r gost honno.
Costau nad oes angen i chi eu cynnwys
Nid oes angen i chi gynnwys:
- digwyddiadau a gynhelir i aelodau'ch plaid yn unig
- digwyddiadau a gynhelir yn bennaf at ddibenion ac eithrio'ch ymgyrch, lle mae'ch presenoldeb yn gysylltiedig – er enghraifft, digwyddiad cymdeithasol blynyddol lle rydych yn dweud ychydig o eiriau
Dylech wneud asesiad gonest yn seiliedig ar y ffeithiau ynghylch a yw'r cyfarfod wir yn cael ei gynnal at ddibenion eraill.
Efallai y cewch eich gwahodd i hustyngau a gynhelir gan sefydliadau lleol neu grwpiau cymunedol hefyd. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân ar hustyngau sy'n esbonio pryd y bydd y rheolau ynglŷn â gwariant yn gymwys i'r digwyddiadau hyn o bosibl.
Costau staff
Costau asiantiaid
Mae hyn yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth, gan gynnwys lwfansau, a delir i'r asiant.
Staff a gyflogir gan blaid wleidyddol
Mae'n cynnwys cost unrhyw aelod o staff plaid wleidyddol sy'n
- darparu gwasanaethau i'r ymgeisydd sydd at ddibenion ethol yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, neu
- darparu gwasanaethau i'r ymgeisydd sydd at ddiben ethol yr ymgeisydd cyn y cyfnod hwnnw a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Examples
Enghraifft A
Mae aelod o staff plaid wleidyddol yn treulio ei oriau gwaith â thâl yn cydlynu gwaith ymgyrchu gwirfoddolwyr ar gyfer ymgeisydd mewn ardal etholiadol benodol. Ystyrir bod ei amser gwaith at ddibenion etholiad yr ymgeisydd.
Os caiff ei ddarparu i'r ymgeisydd a'i ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna rhaid i gostau talu'r aelod hwnnw o staff ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd fel gwariant tybiannol (os yw'r gwerth yn fwy na £50).
Os na chaiff ei ddarparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohono gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o wariant yn Gwariant tybiannol ac Ymgyrchu lleol.
Enghraifft B
Mae aelod o staff plaid wleidyddol yn treulio ei oriau gwaith â thâl ar nifer o weithgareddau ymgyrchu gwahanol, gan gynnwys hyrwyddo'r blaid yn gyffredinol a hyrwyddo ymgeisydd penodol. Ystyrir bod y gyfran o'i amser gwaith a dreulir yn hyrwyddo'r ymgeisydd at ddibenion ethol/etholiad yr ymgeisydd hwnnw.
Os caiff ei ddarparu i'r ymgeisydd a'i ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna rhaid i'r gyfran honno o gostau talu'r aelod hwnnw o staff ymddangos yn ffurflen yr ymgeisydd fel gwariant tybiannol.
Os na chaiff ei ddarparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohono gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd.
Enghraifft C
Mae nifer o ymgeiswyr yn bresennol mewn sesiwn friffio ar addewidion maniffesto'r blaid a gynhelir gan staff y blaid a delir. Gan fod y pwyslais ar addewidion maniffesto'r blaid genedlaethol, nid ystyrir bod y sesiwn friffio at ddibenion eu hethol fel ymgeiswyr.
Felly nid oes angen cynnwys gwariant yn ffurflenni'r ymgeisydd.
N/A
Staff sy'n monitro cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau eraill sy'n ymwneud â'r wasg
Mae'n cynnwys cost staff sy'n ymwneud â rheoli a monitro'r cyfryngau cymdeithasol a chael data er mwyn targedu gweithgarwch ymgyrchu. Mae hyn yn cynnwys cyflogi staff i ddadansoddi a didoli'r data a chost staff i fonitro unrhyw fath o gyfrwng cymdeithasol neu gyfrif arall, ac i gyhoeddi ar gyfryngau o'r fath neu ymateb iddynt.
Mae'n cynnwys cost staff sy'n ymwneud â rheoli gweithgareddau gyda'r wasg o unrhyw fath, gan gynnwys staff sy'n cydgysylltu ag unrhyw fath o weithgarwch yn y cyfryngau drwy unrhyw ddull, neu ei reoli neu ei fonitro mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd.
Unrhyw un arall lle defnyddir ei wasanaethau
Mae'n cynnwys cost unrhyw un arall lle defnyddir ei wasanaethau mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd.
Amser gwirfoddolwyr
Nid yw'n cynnwys cost gwasanaethau asiant nac unrhyw berson arall sy'n gwirfoddoli.
Nid oes angen i chi ychwaith gynnwys costau teithio, bwyd na llety pobl tra byddant yn ymgyrchu ar eich rhan, os byddant yn talu'r costau eu hunain.
Fodd bynnag, bydd unrhyw dreuliau rydych yn eu talu, neu'n eu had-dalu, fel cludiant neu lety, yn cyfrif fel gwariant.
Weithiau, efallai na fyddwch yn siŵr a yw rhywun sy'n gweithio dros eich ymgyrch yn wirfoddolwr neu a ddylech gyfrif ei amser tuag at eich terfyn gwariant. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i'r rhai y mae'n eu cyflawni i chi.
Er enghraifft, bydd yn wirfoddolwr:
- os na fydd ei gyflogwr yn talu am yr amser a dreulir ganddo ar eich ymgyrch
- os bydd yn defnyddio ei wyliau blynyddol
- os bydd yn hunangyflogedig, ni fyddwch yn elwa ar unrhyw yswiriant proffesiynol sydd ganddo
Os bydd yn defnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol, mae'n debygol y bydd hyn yn wariant tybiannol.
Costau llety a chostau gweinyddol
Swyddfa a chyfarpar
Mae hyn yn cynnwys cost rhentu swyddfa, gan gynnwys ardrethi busnes, ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, boed yn swyddfa a gaiff ei rhentu o'r newydd neu o dan gytundeb rhent presennol, ac felly eir i gostau tybiannol lle darperir y fath swyddfa am ddim neu am bris gostyngol gan blaid wleidyddol neu drydydd parti.
Mae'n cynnwys cost swyddfa lle mae'r swyddfa honno yn cael ei rhannu. Mae'n rhaid dosrannu'r gost ac mae'n rhaid i swm, sy'n adlewyrchu'n rhesymol y defnydd gan yr ymgeisydd yn ystod yr ymgyrch, gael ei gynnwys yn y ffurflen i'r ymgeisydd. Bydd y swm hwn yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost prynu, defnyddio neu logi unrhyw gyfarpar swyddfa cyffredinol ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, ac felly eir i gostau tybiannol lle darperir y fath gyfarpar am ddim neu am bris gostyngol gan blaid wleidyddol neu drydydd parti.
Example
Er enghraifft, desgiau, cadeiriau a chyfrifiaduron a ddarperir gan blaid i'w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd.
N/A
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- ffonau symudol neu ddyfeisiau llaw eraill
- y contractau cysylltiedig
i'w defnyddio yn yr ymgyrch gan yr ymgeisydd, asiant ac unrhyw staff neu wirfoddolwyr, lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti yn talu am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig heblaw:
- lle prynodd yr ymgeisydd y cyfarpar yn bennaf at ei ddefnydd personol ei hun ac nad yw'r costau uwchlaw'r hyn yr eid iddynt fel arfer y tu allan i gyfnod etholiadol
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun, nid yw'r costau uwchlaw'r hyn yr eid iddynt fel arfer y tu allan i gyfnod etholiadol, ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Os byddwch yn ailsefyll fel Aelod Seneddol, dylech ddarllen canllawiau diddymu yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol i gael rhagor o wybodaeth am y defnydd o swyddfeydd neu gyfarpar TG a ariennir gan gyllid cyhoeddus at ddibenion ymgyrchu.
Examples
Enghraifft A
Prynir cerdyn SIM â lwfans data a galwadau i ymgeisydd ar gyfer ei ymgyrch, byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
Enghraifft B
Defnyddir ffôn symudol gwirfoddolwr i gydlynu gwirfoddolwyr eraill, a chaiff cyfran o daliadau'r contract ei had-dalu gan yr ymgeisydd i'r gwirfoddolwr, byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
Enghraifft C
Mae'r ymgeisydd yn defnyddio ei ffôn ei hun a brynwyd ganddo at ddibenion personol, ac nid eir i unrhyw gostau pellach y tu hwnt i gostau misol arferol galwadau neu ddata. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
N/A
Gorbenion
Mae'n cynnwys cost:
- trydan
- llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
i'w defnyddio yn ystod ymgyrch yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost tanysgrifio ar gyfer gwasanaethau monitro'r cyfryngau a gwasanaethau datganiadau i'r wasg a gwifren y wasg.
Costau sy'n gysylltiedig ag asiantiaid, gwirfoddolwyr a chyflogeion
Mae'n cynnwys cost llety i'r asiant, lle mae'n cael ei had-dalu gan yr ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.
Mae'n cynnwys cost gwirfoddolwyr, cyflogeion a chyflogeion plaid lle maent yn ymgyrchu dros yr ymgeisydd mewn ardal etholiadol benodol, gan gynnwys eu costau llety os ydynt yn cael eu had-dalu gan yr ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.
Costau nad ydynt wedi'u cynnwys
Nid yw'n cynnwys cost gofal plant i ymgeisydd na'i asiant na gwirfoddolwr.
Nid yw'n cynnwys cost dŵr, nwy na'r dreth gyngor.
Nid yw'n cynnwys llety a ddarperir gan unrhyw unigolyn arall sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa'r unigolyn os caiff ei ddarparu'n ddi-dâl.
Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys costau llety rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â'r etholiad.
Lle bydd cost llety ar draul bersonol yr ymgeisydd, ni fydd hyn yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen gwariant. Ceir rhagor o wybodaeth yn Treuliau personol.
Beth nad yw'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
- talu eich ernes etholiadol 1
- costau y gellir eu priodoli'n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd 2
- unrhyw beth (ac eithrio hysbysebion) sy'n ymddangos mewn papur newydd, cyfnodolyn neu ar sianel ddarlledu drwyddedig 3
- cyfleusterau a ddefnyddiwch am fod gennych hawl i wneud hynny fel ymgeisydd, megis ystafell gyhoeddus ar gyfer cyfarfod 4
- amser gwirfoddolwyr gan gynnwys amser a dreulir gan eich staff nad ydych yn eu talu amdano 5
- y defnydd o brif gartref rhywun, a ddarperir am ddim 6
- y defnydd o gar personol rhywun neu ddull cludiant arall, a gaffaelwyd yn bennaf at ddefnydd personol yr unigolyn hwnnw ac a ddarperir am ddim 7
- y defnydd o gyfarpar cyfrifiadurol neu argraffu rhywun, a gaffaelwyd yn bennaf at ddefnydd personol y person hwnnw ac a ddarperir am ddim 8
- treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu pobl neu eiddo, er enghraifft llogi diogelwch, defnyddio Blwch Swyddfa’r Post i osgoi hysbysebu cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrthfeirws ar gyfer diogelu cyfrifiaduron ymgyrchu9
- 1. Atodlen 4A, para. 7, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 4A, para. 7A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 4A, para. 8, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 4A, para. 9, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 4A, para. 10, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 4A, para. 11, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 4A, para. 12, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 4A, para. 13, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 4A, para. 13A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 9
Treuliau personol
Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau teithio a byw rhesymol (fel costau gwesty) yr ymgeisydd.1 Nid yw treuliau personol yn cyfrif tuag at derfynau gwariant ond rhaid i chi eu hadrodd yn eich ffurflen gwariant2
Gall treuliau personol gynnwys llogi car i'r ymgeisydd os nad yw'r ymgeisydd yn berchen ar gar eisoes, neu os nad yw ei gar yn addas ar gyfer ymgyrchu. Er enghraifft, os ydych yn sefyll mewn etholaeth wledig, efallai y bydd yn rhesymol llogi cerbyd gyriant pedair olwyn i gyrraedd ardaloedd anghysbell.
Unwaith y bydd yn ymgeisydd yn swyddogol, dim ond hyd at £600 o dreuliau personol y gall yr ymgeisydd ei dalu.3 Rhaid i'r asiant dalu unrhyw symiau uwchlaw'r swm hwn.
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu datganiad ysgrifenedig o'u treuliau personol i'w hasiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad. 4
- 1. Adran 74 ac adran 118, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.76(5), A.81, A.90ZA(1) ac Atodlen 4A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.74(1)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.74(2) ac A.78(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Eitemau nas defnyddiwyd ac eitemau a ailddefnyddiwyd
Eitemau nas defnyddiwyd ac eitemau a ailddefnyddiwyd 1
Pan fyddwch yn defnyddio eitem am y tro cyntaf, rhaid i chi gynnwys y gost.
Eitemau na chânt eu defnyddio
Nid oes angen i chi roi gwybod am wariant ar eitemau na chânt eu defnyddio (er enghraifft, taflenni na chânt eu dosbarthu) ac ni fydd yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant.
Dylech gadw'r deunydd na chaiff ei ddefnyddio neu ddangos tystiolaeth o'i ddinistrio.
Os byddwch yn defnyddio'r eitemau dros ben mewn etholiad arall, rhaid i chi roi gwybod am y gwariant ar yr eitemau hynny yn yr etholiad hwnnw.
Ailddefnyddio eitemau
Pan fyddwch wedi talu am eitem, rhaid i chi roi gwybod am y gost lawn pan gaiff ei defnyddio gyntaf, hyd yn oed os byddwch yn bwriadu ei hailddefnyddio mewn etholiad arall yn y dyfodol.
Os byddwch yn gwneud hynny, nid oes angen i chi roi gwybod am y taliad gwreiddiol eto. Efallai y bydd rhai costau cysylltiedig y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn yr etholiad hwnnw, er enghraifft storio neu lanhau.
- 1. S.90ZA(1) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Eitemau a roddir am ddim neu am bris gostyngol a ‘gwariant tybiannol’
Weithiau, efallai y byddwch am ddefnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu'n rhaid i chi wario arian arno, am ei fod wedi cael ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am bris gostyngol.
Ymysg yr enghreifftiau posibl o rodd mewn da mae:
- gofod mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
- taflenni
- rhoi bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr
Pan fyddwch yn defnyddio rhywbeth a ddarparwyd i chi fel rhodd mewn da, bydd gwerth llawn yr hyn y gwnaethoch ei ddefnyddio yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid rhoi gwybod amdano. 1
Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’.
Rhoddion mewn da a drosglwyddwyd neu a ddarparwyd i chi eu defnyddio neu er budd i chi
O dan y gyfraith, defnyddir dau derm gwahanol wrth asesu gwerth y rhoddion mewn da hyn.
Caiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i'r ymgeisydd pan roddir perchenogaeth i'r ymgeisydd. Os caiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i'r ymgeisydd am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, rhaid i'r rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘gwerth marchnadol’. 2 Mae'r gwerth marchnadol yn golygu'r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem neu'r nwyddau pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored. 3
I'r gwrthwyneb, caiff eitemau, nwyddau neu wasanaethau eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo os na fydd newid mewn perchnogaeth. Yn hytrach, os caiff eitem, nwyddau neu wasanaethau eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, rhaid i'r rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘cyfradd fasnachol'. 4 Nid oes unrhyw ddiffiniad penodol o gyfradd fasnachol o dan y gyfraith, ond gall hyn olygu'r cyfraddau cyfartalog ar gyfer yr eitem, nwyddau neu wasanaeth a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio'r term ‘gwerth masnachol’ fel term cyffredinol ar gyfer gwerth marchnadol a chyfradd fasnachol.
Beth sy'n cyfrif fel gwariant tybiannol?
Mae'n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i'w defnyddio gennych neu er budd i chi
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% 5
- mae'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a'r hyn a dalwch dros £50 6
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan) 7
- byddai wedi bod yn dreuliau etholiad pe byddech chi wedi mynd i'r gwariant. 8 Ceir gwybodaeth am y categorïau o wariant ymgeisydd yn Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau sy'n nodi'r profion hyn.
- 1. Section 90C(3) & (4) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. S.90C(1)(a)(i) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. S.90C(6) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. S.90C(1)(a)(ii) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. S.90C(1)(a) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. S.90C(2), (3) & (4) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. S.90C(1)(b) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. S.90C(1)(b) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 8
Wedi'u trosglwyddo neu eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo
Rhaid i'r eitem gael ei throsglwyddo neu ei darparu i'r ymgeisydd er mwyn iddi gyfrif fel gwariant tybiannol. 1
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i'r ymgeisydd. Os caiff rhywbeth ei drosglwyddo neu ei ddarparu i chi ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, rhaid rhoi gwybod am hwn ar wahân yn yr adran rhoddion o ffurflen gwariant yr ymgyrch fer. Ceir rhagor o wybodaeth am y rheolau ynglŷn â rhoddion yn Rhoddion ymgeiswyr.
Example
Enghraifft A
Mae plaid yn anfon taflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch – felly mae'r taflenni wedi cael eu trosglwyddo i'r ymgeisydd.
Os bydd yr ymgeisydd yn dosbarthu'r taflenni, bydd wedi eu defnyddio yn ei ymgyrch. Rhaid cofnodi gwerth y taflenni (os yw dros £50) fel gwariant tybiannol
N/A
Os na chaiff eitem sy'n hyrwyddo eich etholiad ei throsglwyddo neu ei darparu i chi, yna mae'n debygol y bydd yn ymgyrchu lleol gan bwy bynnag a gyflawnodd y gweithgaredd.
Example
Enghraifft B
Mae plaid yn anfon taflenni sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae'n rhoi gwybod i'r ymgeisydd y bydd yn gwneud hynny ymlaen llaw.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi rhoi unrhyw beth i'r ymgeisydd – y cyfan y mae wedi'i wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd yr hyn y mae am ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ei hun.
Er y gallai'r ymgeisydd gael budd o'r taflenni, nid yw'r blaid wedi rhoi rhywbeth i'r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd benderfynu a yw am ei ddefnyddio ai peidio a sut.
Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd yw hyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn Ymgyrchu lleol.
- 1. Section 90C(3) & (4) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
Gostyngiadau masnachol ac anfasnachol
Gostyngiadau masnachol yw'r rhai sydd ar gael i gwsmeriaid tebyg eraill, fel gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Ni chaiff eitemau, nwyddau na gwasanaethau a brynir â gostyngiadau masnachol eu trin fel gwariant tybiannol.
Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i chi gan gyflenwyr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfradd arbennig nad yw ar gael ar y farchnad agored. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol.
Example
Er enghraifft, bydd argraffwr yn rhoi dyfynbris o £120 i ymgeisydd am argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae'r argraffwr hefyd yn cynnig gostyngiad o 5% i'r ymgeisydd ar yr archeb am ei fod yn hoffi polisïau'r ymgeisydd. Mae'r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn derbyn y gostyngiad ac yn trefnu i'r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Er bod y taflenni wedi cael eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd am ostyngiad anfasnachol, nid yw'r gostyngiad yn fwy na 10%. Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Rhaid i'r ymgeisydd roi gwybod am y £116 a dalwyd am y taflenni fel taliad arferol a wnaed gan yr asiant.
Cael eu defnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd
Os caiff rhodd mewn da ei throsglwyddo neu ei darparu i'r ymgeisydd, dim ond os bydd yr ymgeisydd neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran 1 yn ei defnyddio yn ei ymgyrch y bydd yn cyfrif fel gwariant tybiannol.
Os bydd gweithgaredd ymgyrchu i gefnogi'r ymgeisydd yn cael ei gyflawni gan rywun arall, ni fydd yn ddigon bod yr ymgeisydd wedi cael budd o'r gweithgaredd hwnnw, wedi cael gwybod amdano, na hyd yn oed wedi diolch i'r person a'i cyflawnodd.
Yr unig adeg y gall person wneud defnydd o rywbeth ar ran yr ymgeisydd yw os bydd y defnydd hwnnw wedi cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgeisydd neu ei asiant. 2
Ystyr ‘defnyddio'r’ rhodd mewn da yw bod rhyw fath o ymwneud cadarnhaol ar ran yr ymgeisydd (neu rywun ar ei ran) i ddefnyddio'r nwyddau neu'r gwasanaethau a ddarperir.
Gall ‘defnyddio’ gynnwys:
- cyfrannu'n bersonol - er enghraifft, bydd yr ymgeisydd yn darparu cynnwys ar gyfer taflenni a gaiff eu cynhyrchu a'u dosbarthu gan y blaid, felly yn defnyddio'r gwasanaeth a ddarperir gan y blaid
- trefnu bod rhywun arall yn cyfrannu ar eich rhan – er enghraifft gofyn i wirfoddolwyr lleol y blaid helpu i ddosbarthu taflenni a ddarperir gan eu plaid
Example
Er enghraifft, mae plaid yn anfon taflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch, ond nid yw'r ymgeisydd na'i asiant yn dosbarthu'r taflenni.
Yn yr enghraifft hon, nid yw'r ymgeisydd, na rhywun ar ei ran, wedi defnyddio'r taflenni yn ei ymgyrch. Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Ni ddylid cynnwys y costau ar gyfer y taflenni ar ffurflen yr ymgeisydd gan na chafodd y taflenni eu defnyddio.
- 1. Section 90C(1)(b) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. S.90C(1A) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Prisio gwariant tybiannol
Mae gwariant tybiannol yn dechrau pan gaiff rhywbeth o werth ei ddarparu. Pan fydd y gwerth dros £50, mae hyn hefyd yn rhodd. 1 Dylech weithio allan werth yr hyn a ddarparwyd fel gwariant tybiannol yn yr un ffordd ag y byddwch yn gweithio allan werth rhodd anariannol.
Ceir rhagor o ganllawiau ar brisio gwariant tybiannol a rhoddion yn Sut rydych yn prisio rhodd?
Prisio staff ar secondiad
Os bydd cyflogwr yn secondio aelod o staff ar gyfer eich ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel gwariant tybiannol.
Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau yswiriant gwladol na phensiwn y cyflogwr. Bydd angen i chi gynnwys gwerth unrhyw dreuliau, fel costau teithio neu fwyd, rydych chi neu'r cyflogwr yn eu had-dalu.
- 1. Schedule 2A, paragraph 2(1)(e) & para. 4(2) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
Enghreifftiau o wariant tybiannol
Mae'n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i'w defnyddio gennych neu er budd i chi
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% 1
- mae'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a'r hyn a dalwch dros £50 2
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan) 3
- byddai wedi bod yn dreuliau etholiad pe byddech chi wedi mynd i'r gwariant. 4
Ceir gwybodaeth am y categorïau o wariant ymgeisydd yn Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Example
Enghraifft A
Mae plaid yn anfon gwerth £100 o daflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch. Mae'r ymgeisydd yn derbyn y taflenni ac yn trefnu iddynt gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae'r prawf cyntaf a'r ail brawf wedi'u bodloni am fod y taflenni wedi cael eu darparu i'r ymgeisydd eu defnyddio am ddim.
Mae'r trydydd prawf hefyd wedi cael ei fodloni am fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£100) a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ei dalu (£0) yn fwy na £50.
Mae'r pedwerydd prawf wedi'i fodloni am fod yr ymgeisydd wedi trefnu i'r taflenni gael eu defnyddio ar ei
ran drwy drefnu iddynt gael eu dosbarthu.
Mae'r pumed prawf wedi'i fodloni am fod deunydd digymell i etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Am fod yr holl brofion wedi'u bodloni, mae hyn yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i werth llawn y taflenni a ddarperir i'r ymgeisydd gael ei gofnodi fel gwariant tybiannol.
Gwnaed rhodd i'r ymgeisydd hefyd am fod gwerth y gwariant tybiannol dros £50.
Enghraifft B
Mae argraffwr yn rhoi dyfynbris o £200 i ymgeisydd am argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae'r argraffwr hefyd yn cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% i'r ymgeisydd ar yr archeb. Mae'r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn derbyn y gostyngiad ac yn trefnu i'r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae'r prawf cyntaf a'r ail brawf wedi'u bodloni am fod y taflenni wedi cael eu darparu i'r ymgeisydd eu defnyddio am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%.
Mae'r trydydd prawf hefyd wedi cael ei fodloni am fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£200) a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ei dalu (£100) yn fwy na £50.
Mae'r pedwerydd prawf wedi'i fodloni am fod yr ymgeisydd wedi trefnu i'r taflenni gael eu defnyddio ar
ei ran drwy drefnu iddynt gael eu dosbarthu.
Mae'r pumed prawf wedi'i fodloni am fod deunydd digymell i etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Am fod yr holl brofion wedi'u bodloni, mae hyn yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i'r ymgeisydd gofnodi'r swm a dalwyd ganddo am y taflenni fel taliad arferol a dalwyd gan yr asiant.
Rhaid i werth llawn y taflenni a ddarperir i'r ymgeisydd drwy'r pris gostyngol gael ei gofnodi fel gwariant tybiannol.
Gwnaed rhodd i'r ymgeisydd hefyd am fod gwerth y gwariant tybiannol dros £50
- 1. Section 90C(1)(a) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. S.90C(2), (3) & (4) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. S.90C(1)(b) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. S.90C(1)(b) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Ymgyrchu lleol
Weithiau, bydd pobl yn gwario arian er mwyn hyrwyddo ymgeisydd heb ddarparu na throsglwyddo rhywbeth i'r ymgeisydd ei ddefnyddio neu er budd iddo yn ystod yr ymgyrch. Yn yr un modd, gall pobl wario arian i feirniadu ymgeisydd neu i annog pleidleiswyr i beidio â'i gefnogi.
Gelwir sefydliadau neu unigolion, nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau, sy'n ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd mewn etholaeth yn ‘ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau’. Gelwir hyn hefyd yn wariant o dan adran 75A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Unwaith y bydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd swyddogol, gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at £700 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd yn yr etholaeth. 1 Gelwir hyn yn swm a ganiateir. Bydd yn gymwys pan fydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd yn swyddogol (gweler Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?)
Ni all ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid wario mwy na'r swm hwn a ganiateir heb awdurdodiad ysgrifenedig yr asiant i fynd i'r gwariant ychwanegol, a fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. 2
Example A
Enghraifft A
Mae plaid yn anfon taflenni sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae'n rhoi gwybod i'r ymgeisydd y bydd yn gwneud hynny ymlaen llaw.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi rhoi unrhyw beth i'r ymgeisydd – y cyfan y mae wedi'i wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd yr hyn y mae am ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ei hun.
Er y gallai'r ymgeisydd gael budd o'r taflenni, nid yw'r blaid wedi rhoi rhywbeth i'r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd benderfynu a yw am ei ddefnyddio ai peidio a sut.
Ni all y blaid wario mwy na'r swm hwn a ganiateir heb gael awdurdodiad ysgrifenedig gan yr asiant.
N/A
Os bydd ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid yn mynd i wariant sydd uwchlaw'r swm a ganiateir, rhaid iddo roi gwybod am y gwariant ychwanegol hwn i'r Swyddog Canlyniadau o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan. 3 Mae ffurflen a datganiad ar wahân y mae'n rhaid i'r ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid eu cwblhau er mwyn rhoi gwybod am dreuliau a awdurdodwyd.
Rhaid i'r treuliau a awdurdodwyd hefyd gael eu cynnwys yn y ffurflen gwariant i ymgeiswyr. 4 Mae arian yr eir iddo gan ymgyrchwyr mewn ymgyrchoedd lleol a awdurdodwyd gan yr asiant yn wariant ymgeisydd ac mae'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant. 5
Gall y treuliau a awdurdodwyd hefyd gael eu talu gan y person a awdurdodwyd i fynd iddynt. 6 Os bydd yn gwneud y taliadau, a bod y gwariant dros £50, yna bydd hyn yn rhodd i'r ymgeisydd. Os byddwch yn cael rhodd ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, rhaid rhoi gwybod am hon ar wahân yn yr adran rhoddion o ffurflen gwariant yr ymgyrch fer. 7
Ceir manylion am wneud taliadau yn Mynd i gostau a gwneud taliadau ar gyfer gwariant ymgeisydd a cheir rhagor o wybodaeth am roddion yn Rhoddion ymgeiswyr.
Dylai ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n cynllunio ymgyrch leol ddarllen ein canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Ymgyrchu lleol gan bleidiau
Rhaid i bleidiau fod yn ymwybodol y bydd unrhyw wariant gan y blaid ar ymgyrchu lleol ar gyfer un o'i hymgeiswyr na chaiff ei awdurdodi gan yr asiant, yn cyfrif fel gwariant 8 y blaid. Mewn etholiadau a gwmpesir gan gyfnod a reoleiddir y blaid, fel etholiad Senedd y DU, rhaid i'r gwariant hwn gael ei gynnwys ar ffurflen gwariant y blaid. 9
I'r gwrthwyneb, dim ond ar y ffurflenni ymgyrchu lleol a ffurflen gwariant yr ymgeisydd fel uchod y bydd angen i unrhyw dreuliau a awdurdodwyd ymddangos.
Example
Enghraifft B
Mae'r asiant yn cytuno i awdurdodi'r blaid i wario mwy na'r swm a ganiateir, sef £700, ar wariant i hyrwyddo'r ymgyrchydd. Rhaid i'r asiant roi awdurdodiad ysgrifenedig cyn i'r blaid wario mwy na'r swm a ganiateir. Yn y senario hwn, mae'r blaid hefyd yn cytuno i wneud y taliadau ar gyfer y treuliau a hyn a awdurdodwyd.
Rhaid i'r asiant roi gwybod am y gwariant hwn a awdurdodwyd ar ffurflen yr ymgeisydd, gan y bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. Am fod y blaid wedi talu am y treuliau hyn a awdurdodwyd, rhaid eu cofnodi hefyd fel rhodd i'r ymgeisydd os yw'r gwerth yn fwy na £50. 10
Rhaid i'r blaid lenwi ffurflen a datganiad ar wahân i roi gwybod am y treuliau hyn a chyflwyno'r rhain i'r Swyddog Canlyniadau o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan. 11
Gan na roddwyd gwybod am y gwariant ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd, nid oes angen rhoi gwybod amdano ar ffurflen gwariant y blaid.12
- 1. Section 90C(1)(a) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. S.90C(2), (3) & (4) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. S.90C(1)(b) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. S.90C(1)(b) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.90ZA ac A.76(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.73(5)(ca), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2A, para. 1(3), para. 2(1)(c), para. 4(2) a phara. 10, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. A.72(2) – (7), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. A.80(3)(a), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 2A, para. 2(1)(c) a phara. 4(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. A.75(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. A.72(7)(a), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 12
Rhannu gwariant
Weithiau, efallai y bydd angen i chi rannu eich costau rhwng gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a'r rhai nad ydynt yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.
Er enghraifft, rhwng:
- eitemau a ddefnyddiwyd cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
- eich gwariant ar yr ymgyrch a gweithgareddau eraill fel swyddfa rydych yn ei rhannu â'ch plaid leol
Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gwariant fel ymgeisydd.
Er enghraifft, os ydych yn rhannu swyddfa plaid, efallai mai dim ond dadansoddiad o gostau galwadau dros werth penodol y gall eich bil ffôn ei ddarparu.
Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest ar sail y wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, gallech gymharu'r bil ag un nad yw'n cwmpasu cyfnod a reoleiddir.
Chi sy'n gyfrifol am roi gwybodaeth lawn a chywir am eich gwariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Ar ôl yr etholiad, bydd yn rhaid i chi lofnodi datganiad i ddatgan ei bod yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred. 1
Mae'n drosedd gwneud datganiad anwir a hynny'n fwriadol. 2
Os ydych yn dal yn ansicr, ffoniwch neu e-bostiwch ni i gael cyngor.
- 1. Section 90C(1)(a) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. S.90C(2), (3) & (4) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Gwariant i hyrwyddo'r ymgeisydd a'r blaid
Weithiau, bydd gwariant gan bleidiau yn hyrwyddo'r blaid a'r ymgeisydd. Yn yr achosion hyn, gall yr ymgeisydd roi gwybod am y gwariant hwn a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd yn hytrach na'r blaid.
Er mwyn asesu a ddylai'r ymgeisydd roi gwybod am wariant rhaid i chi asesu a yw'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn y lle cyntaf.
Beth yw gwariant i hyrwyddo'r ymgeisydd?
Os bydd gweithgaredd wedi'i anelu at bleidleiswyr yn yr ardal etholiadol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll er mwyn hyrwyddo neu sicrhau ethol yr ymgeisydd hwnnw, yna bydd yn wariant i hyrwyddo'r ymgeisydd.
Er enghraifft, ystyrir gweithgaredd sy'n hyrwyddo plaid yn weithgaredd sy'n hyrwyddo ymgeisydd pan fydd yr eitem:
- yn enwi'r ymgeisydd penodol
- yn enwi'r ardal etholiadol benodol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
Pan gaiff deunydd ei ddosbarthu ar draws nifer o ardaloedd etholiadol, bydd angen i chi ddosrannu costau'r gweithgaredd.
Lle mae deunydd:
- yn cynnwys ymgeisydd
- yn cael ei ddosbarthu ar draws ardal ehangach na'r ardal etholiadol benodol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
ystyrir bod cyfran o gost y deunydd hwn yn cael ei defnyddio at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
Y gyfran yr ystyrir ei bod yn cael ei defnyddio at ddibenion ethol yr ymgeisydd yw cost dosbarthu'r deunydd yn ardal etholiadol benodol yr ymgeisydd hwnnw.
Os ydych yn ansicr a yw gwariant yn wariant ar ymgeisydd neu'n wariant ar blaid, dylech gysylltu â ni.
Am ragor o wybodaeth am wariant ymgyrch plaid wleidyddol, gweler ein canllawiau ar wariant ymgyrch plaid.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddosrannu gwariant yn Rhannu gwariant.
Enghreifftiau
Gwariant gan y blaid sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft A
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros ymgeisydd penodol yn yr ardal etholiadol honno yn y llinellau olaf. Gan fod modd adnabod yr ymgeisydd, dylid ystyried bod y llythyr wedi cael ei ddosbarthu at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
Enghraifft B
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu hysbyseb sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn gofyn i bleidleiswyr bleidleisio dros y blaid yn yr ardal etholiadol honno. Er nad yw'r hysbyseb yn enwi'r ymgeisydd, mae'n enwi'r ardal etholiadol. Felly dylid ystyried bod yr hysbyseb wedi cael ei dosbarthu at ddibenion ethol ymgeisydd y blaid.
Spending that should be partially attributed to both the party and the candidate
Gwariant a ddylai gael ei briodoli'n rhannol i'r blaid ac i'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft C
Caiff taflen sy'n cynnwys arweinydd y blaid ei dosbarthu ledled Prydain Fawr, gan gynnwys yn yr ardal etholiadol lle mae arweinydd y blaid yn sefyll. Dylid ystyried bod y taflenni sy'n cael eu dosbarthu yn ardal etholiadol arweinydd y blaid wedi cael eu dosbarthu at ddibenion ethol yr arweinydd fel ymgeisydd.
Enghraifft D
Mae cynghorydd lleol blaenllaw yn ymddangos ar daflen sy'n cael ei dosbarthu ledled y sir gyfan, gan gynnwys yn yr ardal etholiadol benodol lle mae'r cynghorydd yn sefyll. Dylid ystyried bod y taflenni sy'n cael eu dosbarthu yn ardal etholiadol y cynghorydd wedi cael eu dosbarthu at ddibenion ethol y cynghorydd fel ymgeisydd.
Enghraifft E
Mae plaid yn paratoi ymgyrch ddigidol yn cynnwys aelod poblogaidd o'r blaid mewn ardal benodol o'r wlad. Mae'r aelod hwnnw o'r blaid yn ymgeisydd mewn un rhan o'r ardal honno. Mae'r deunydd wedi'i dargedu at grŵp penodol o bleidleiswyr a bydd yn ymddangos ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol rhywun sy'n aelod o'r grŵp targed. Mae'r grŵp targed yn cynnwys lleoliad daearyddol. Ystyrir bod y gyfran o'r ymgyrch sydd wedi'i thargedu yn ardal etholiadol yr aelod blaenllaw o'r blaid wedi'i chyhoeddi at ddiben ei ethol fel ymgeisydd.
Spending that doesn’t promote the candidate
Gwariant nad yw'n hyrwyddo'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft F
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros y blaid. Er bod y llythyr yn cael ei anfon i gartref yn yr ardal etholiadol, nid yw'r llythyr ei hun yn nodi enw'r ymgeisydd na'r ardal etholiadol. Ni ddylid ystyried bod hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion etholiad yr ymgeisydd.
Enghraifft G
Mae plaid yn paratoi ymgyrch ddigidol yn cynnwys aelod poblogaidd o'r blaid ledled y wlad gyfan, gan gynnwys lle mae'r aelod o'r blaid yn ymgeisydd. Nid yw'r deunydd wedi'i dargedu ond bydd yn ymddangos os caiff geiriau penodol eu teipio mewn chwilotwr. Nid yw'n bosibl canfod pa mor aml na phryd yr ymddangosodd y deunydd i bleidleiswyr yn ardal etholiadol yr aelod o'r blaid. Ni ddylid ystyried bod y deunydd hwn wedi cael ei ddefnyddio at ddiben ei etholiad fel ymgeisydd.
N/A
Ceir canllawiau ar asesu sut i roi gwybod am wariant yn yr adran nesaf.
Asesu sut i roi gwybod am wariant
Ar gyfer pob gweithgaredd rydych wedi sefydlu ei fod yn wariant ymgeisydd, rhaid i chi gofio gweithio allan pa fath o wariant ydyw, fel eich bod yn gwybod sut i roi gwybod amdano:
- gwariant arferol y mae'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd iddo
- gwariant tybiannol
- ymgyrchu lleol
Os caiff eitem neu wasanaeth ei (d)darparu i'r ymgeisydd a'i (d)defnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna mae'n debygol bod y gyfran berthnasol o gost targedu ardal etholiadol yr ymgeisydd yn cyfrif fel gwariant tybiannol, os bydd yn bodloni'r profion.
Os na eir i'r gwariant gan yr ymgeisydd neu'r asiant ac na chaiff ei (d)darparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohoni/ohono gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd.
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos pennu'n gyntaf a yw'r gwariant yn hyrwyddo'r ymgeisydd, ac yna bennu sut y dylid rhoi gwybod amdano.
Examples
Enghraifft A
Mae plaid yn cynnal digwyddiad yn yr etholaeth. Mae arweinydd y blaid yn mynychu ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, dim ond am bolisïau cenedlaethol y mae'r arweinydd yn siarad. Rhoddir gwahoddiad i'r ymgeisydd fynychu ac mae'n gwneud hynny. Nid yw'n chwarae unrhyw ran arall yn y digwyddiad.
Nid yw'r digwyddiad yn nodi'r ymgeisydd yn ôl ei enw na thrwy'r ardal etholiadol.
Gan nad yw'r digwyddiad yn nodi'r ymgeisydd, nid yw'n cyfrif fel gwariant i hyrwyddo'r ymgeisydd.
Bydd y gwariant ar y digwyddiad yn wariant plaid os caiff ei gynnal yn ystod cyfnod a reoleiddir ar gyfer pleidiau. 1
Enghraifft B
Mae plaid yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y blaid yn mynychu ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, mae'r arweinydd yn sôn am bolisïau cenedlaethol y rhan fwyaf o'r amser, ond mae'n treulio 10 munud yn sôn yn benodol am yr ardal etholiadol a'r ymgeisydd. Rhoddir gwahoddiad i'r ymgeisydd fynychu ac mae'n gwneud hynny. Nid yw'n chwarae unrhyw ran arall yn y digwyddiad.
Gan fod yr ymgeisydd a'r ardal etholiadol yn cael eu henwi, ystyrir bod y rhan honno o'r digwyddiad yn hyrwyddo'r ymgeisydd.
Nid oes dim wedi'i ddarparu i'r ymgeisydd er mwyn iddo ei ddefnyddio, felly nid yw'n wariant tybiannol. Yn hytrach, mae'r blaid yn ymgyrchu dros yr ymgeisydd.
Mae'r gwariant ar y rhan o'r digwyddiad sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn enghraifft o ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd. Rhaid i'r blaid beidio â mynd i fwy na £700 mewn treuliau ar hyrwyddo'r ymgeisydd, oni bai fod ganddi awdurdodiad ysgrifenedig gan yr asiant i wneud hynny. 2
Enghraifft C
Mae'r blaid yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y blaid yn mynychu ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, mae'r arweinydd yn sôn am bolisïau cenedlaethol, ond mae hefyd yn gwahodd yr ymgeisydd i roi ei araith ei hun am 10 munud o'r amser. Mae'r ymgeisydd yn derbyn ac yn rhoi'r araith.
Nodir yr ymgeisydd am ei fod ymddangos ar y llwyfan, felly ystyrir bod y rhan honno o'r digwyddiad yn hyrwyddo'r ymgeisydd.
Mae'r blaid wedi rhoi cyfleuster i'r ymgeisydd – slot yn ystod y digwyddiad – ac mae'r ymgeisydd wedi'i ddefnyddio drwy roi'r araith.
Gwariant tybiannol yw hyn. Rhaid cofnodi'r gwerth priodol ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd, ac fel rhodd gan y blaid pan fydd yn gymwys.
Enghraifft D
Mae'r ymgeisydd yn cynnal digwyddiad yn ei ardal etholiadol, a drefnir gan ei asiant. Mae'r blaid yn darparu arian i dalu costau'r digwyddiad.
Mae'r ymgeisydd yn rhan ganolog o'r digwyddiad felly mae'r gwariant hwn yn hyrwyddo'r ymgeisydd. Yr asiant sydd wedi mynd i'r gwariant, felly mae hyn yn wariant ymgeisydd arferol a rhaid iddo ymddangos ar y ffurflen.
Mae unrhyw rodd o arian dros £50 a ddarperir gan y blaid yn rhodd i'r ymgeisydd a rhaid rhoi gwybod amdani yn yr adran rhoddion ar y ffurflen. 3 Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am roddion yn Rhoddion ymgeiswyr.
- 1. Adran 72(2) – (7), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.75(1), (1ZZB) a (1ZA)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2A, para. 2(1) a phara. 4(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Ar ôl yr etholiad
Ar ôl yr etholiad, rhaid i'r ymgeisydd roi datganiad ysgrifenedig o'i dreuliau personol i'w asiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.1
Rhaid i'r asiant gydymffurfio â'r terfynau amser ar gyfer:
- derbyn a thalu anfonebau
- anfon ffurflen yr ymgeisydd at y Swyddog Canlyniadau lleol
Rhaid i'r asiant a'r ymgeisydd hefyd gyflwyno datganiadau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir.2
Rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen a datganiadau, hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian.3 Gelwir hwn yn ddatganiad ‘dim trafodion’.
Nodir y terfynau amser hyn, a rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wariant, yn Ar ôl yr etholiad
- 1. Adran 74(2) ac adran 78(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.82(1) a (2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.81(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Rhoddion ymgeiswyr
Mae'r adran ganlynol yn rhoi canllawiau ar roddion ymgeiswyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr.
Mae'r canllawiau'n cwmpasu:
- beth sy'n cyfrif fel rhodd
- gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion
- y gwiriadau y mae angen i chi eu gwneud ar fathau gwahanol o roddion
- sut i brisio gwahanol fathau o roddion
- arferion gorau ar gyfer rhoddion cyllido torfol
- y wybodaeth y mae angen i chi ei chofnodi
Mae rheolaethau ynglŷn â rhoddion ar wahân ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll yng Ngogledd Iwerddon – darllenwch ein canllawiau ar wahân.
Beth sy'n cyfrif fel rhodd?
Rhodd yw arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau a roddir:
- tuag at eich gwariant fel ymgeisydd
- heb godi tâl neu ar delerau anfasnachol 1
ac sy'n werth dros £50. 2 Nid ystyrir bod unrhyw beth sy'n £50 neu lai yn rhodd.
Mae'r rheolaethau ynglŷn â rhoddion ar gyfer ymgeiswyr yn gymwys pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol. 3
Yn wahanol i wariant, nid oes ymgyrch hir ac ymgyrch fer ar gyfer rhoddion. Dim ond pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol y bydd y rheoliadau ynglŷn â rhoddion yn gymwys.
Mae rhai enghreifftiau o roddion yn cynnwys:
- rhodd arian neu fath arall o eiddo
- talu anfoneb ar gyfer gwariant ymgeisydd a fyddai fel arall yn cael ei thalu gennych chi
- benthyciad nas rhoddwyd ar delerau masnachol
- nawdd neu ddigwyddiad neu gyhoeddiad
- defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o eiddo neu gyfleusterau, er enghraifft defnydd am ddim o swyddfa
- 1. Atodlen 2A paragraff 1(3) a pharagraff 2(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, para. 4(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2A ac adran 118A(3), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Sut rydych yn penderfynu p'un a allwch dderbyn rhodd?
Dim ond rhoddion gan rai ffynonellau penodol y gellir eu derbyn, sydd wedi'u lleoli yn y DU yn bennaf. 1 Ceir manylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir yn Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion?
Cyn i chi dderbyn unrhyw rodd o fwy na £50 at ddiben talu treuliau etholiad, rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i:
- sicrhau eich bod yn gwybod pwy yw'r rhoddwr
- cadarnhau bod y rhodd gan ffynhonnell a ganiateir 2
Os nad yw'n gwbl glir pwy y dylech ei drin fel rhoddwr, cadarnhewch y ffeithiau er mwyn gwneud yn siŵr.
Faint o amser sydd gennych i gadarnhau a yw rhodd yn un a ganiateir?
Pan fyddwch yn cael rhodd, bydd gennych 30 diwrnod i gadarnhau'r hyn a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 3 Os cadwch rodd am fwy na 30 diwrnod, tybir eich bod wedi ei derbyn. 4
Os cadwch rodd nas caniateir ar ôl y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn cyflawni trosedd a gallwn wneud cais i'r llysoedd iddi gael ei fforffedu i ni i'w thalu i mewn i'r gronfa gyfunol. 5 Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym mor fuan â phosibl.
Hyd yn oed os ydych wedi cynnal gwiriad i gadarnhau bod rhodd cynharach gan yr un ffynhonnell yn un a ganiateir, dylech ystyried p'un a fyddwch yn cynnal gwiriad newydd ar gyfer pob rhodd ddilynol.
Dylech gadw cofnod o'ch holl wiriadau i gadarnhau a yw rhoddion yn rhai a ganiateir er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y gyfraith.
Os nad yw'r rhodd gan roddwr a ganiateir, neu os na allwch fod yn siŵr pwy yw'r ffynhonnell wirioneddol am unrhyw reswm, darllenwch Sut rydych yn dychwelyd rhodd? i gael canllawiau pellach ar y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd.
- 1. Schedule 2A, paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 7 RPA 1983 and s.56(1) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Sch. 2A, para. 7 RPA 1983 and s.56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Sch. 2A, para. 7 RPA 1983 and s.56(5) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Sch. 2A, para. 7 RPA 1983 and s.56(4), s.56(5), s.57(3) & s.58 PPERA ↩ Back to content at footnote 5
Rhoddion a roddir ar ran eraill
Os rhoddir rhodd ar ran rhywun arall, rhaid i'r person sy'n rhoi'r rhodd i chi ddweud wrthych:
- bod y rhodd ar ran rhywun arall
- manylion y rhoddwr gwirioneddol 1
Un enghraifft o hyn yw lle mae trefnydd digwyddiad yn trosglwyddo'r enillion o ginio a gynhaliwyd yn benodol i godi arian ar ran eich ymgyrch.
Os oes gennych reswm dros gredu y gallai rhywun fod wedi gwneud rhodd ar ran rhywun arall ond nad yw wedi dweud wrthych, rhaid i chi ganfod y ffeithiau fel y gallwch wneud y gwiriadau priodol.
Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol, dylech gofnodi'r rhodd a'i dychwelyd.
Ceir canllawiau ar sut i ddychwelyd rhodd yn Sut rydych yn dychwelyd rhodd?
- 1. Schedule 2A, paragraph 7 Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 54(6) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Gan bwy y gallwch dderbyn rhodd?
Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion. 1 Ffynhonnell a ganiateir yw:
- unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, 2 gan gynnwys etholwyr tramor
- plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr 3
- cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 4
- undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU 5
- cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU 6
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 7
- cymdeithas gyfeillgar sydd wedi'i chofrestru yn y DU 8
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU yn gyfan gwbl neu'n bennaf ac sydd â'i phrif swyddfa yn y DU 9
Gallwch hefyd dderbyn rhoddion gan fathau penodol o ymddiriedolaethau a chan 10 gymynroddion.11 Mae'r rheolau ynglŷn â'r rhoddion hyn yn gymhleth, felly cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Er y gallwch, o dan gyfraith etholiadol, dderbyn yn gyfreithiol roddion gan elusennau sy'n un o'r ffynonellau a ganiateir uchod, ni chaniateir i elusennau wneud rhoddion gwleidyddol fel arfer o dan gyfraith elusennau. Dylech gadarnhau bod unrhyw elusen sy'n cynnig rhodd wedi cael cyngor gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol cyn ei derbyn.
- 1. Schedule 2A, paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Schedule 2A, paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 54(2)(a) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Sch. 2A, para. 1(6A) & para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(g) PPERA ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(h) PPERA ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Sch. 2A, para. 6(2) & (3) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(a) & (3), s.55(5) PPERA ↩ Back to content at footnote 11
Unigolion
Beth sy'n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?
Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU ar adeg rhoi'r rhodd. 1 Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor.
Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?
Gallwch ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i gadarnhau a yw unigolyn yn rhoddwr a ganiateir. Mae hawl gan ymgeiswyr a'u hasiantiaid i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol lawn yn y cyfnod cyn etholiad. 2 Dim ond er mwyn cadarnhau a yw rhoddwr yn rhoddwr a ganiateir neu at ddibenion etholiadol eraill y cewch ddefnyddio'r gofrestr. Rhaid i chi beidio â'i rhoi i unrhyw un arall.3
Dylech gysylltu â'r adran cofrestru etholiadol yn y cyngor lleol neu
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, fel sy'n briodol, i gael eich copi, gan esbonio eich bod yn gofyn am un fel ymgeisydd mewn etholiad, neu fel asiant etholiad ar ran yr ymgeisydd. 4
Dylech ofyn i'r adran anfon yr holl ddiweddariadau i'r gofrestr atoch hefyd. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall enw etholwr gael ei dynnu oddi ar y gofrestr ac felly ar adeg rhoi rhodd efallai na fydd yn rhoddwr a ganiateir. Byddwch yn cael y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn argraffedig o'r gofrestr. 5
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorau lleol drwy ddefnyddio ein hadnodd chwilio codau post.
Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a'r diweddariadau'n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y cawsoch y rhodd.
O dan amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw'r unigolyn wedi'i gofrestru'n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad i gadarnhau eich bod wedi gweld tystiolaeth bod gan yr unigolyn gofnod dienw ar y gofrestr. 6 Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Rhaid i chi gyflwyno copi o'r dystysgrif gyda'r datganiad hwn ynghyd â'ch ffurflen gwariant. 7
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- enw llawn y rhoddwr
- y cyfeiriad fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholwyr, neu os mai etholwr tramor yw'r person, ei gyfeiriad cartref (boed yn y DU neu rywle arall) 8
Efallai y bydd yn ddefnyddiol nodi rhif etholiadol y rhoddwr fel cofnod o'ch gwiriadau.
- 1. Schedule 2A, paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 54(2)(a) & (8) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Regulation 102(1) & 104(1)(b) Representation of the People (England and Wales) Regulations (RPR) 2001 (RPR England and Wales 2001), Regulation 101(1) & 103(1)(b) The Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 (RPR Scotland 2001) and Regulation 101(1) & 103(1)(b) The Representation of the People (Northern Ireland) Regulations 2008 (RPR Northern Ireland 2008) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Regulation 104(3) & (4), 108(5) RPR England and Wales 2001, Regulation 103(3) & (4), 106(3) RPR Scotland 2001 and Regulation 103(3) & (4), 106(3) RPR Northern Ireland 2008 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Regulation 102(2) RPR England and Wales 2001, Regulation 101(2) RPR Scotland 2001 and Regulation 101(2) RPR Northern Ireland 2008 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Regulation 102(2)(c) RPR England and Wales 2001, Regulation 101(2)(c) Scotland 2001 and Regulation 101(2)(c) RPR Northern Ireland 2008 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Sch. 2A, para. 10(2) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Sch. 2A, para. 10(2) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Sch. 2A, para. 11(c) & para. 12(2)(a) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 8
Cwmnïau
Beth sy'n gwneud cwmni yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae cwmni yn rhoddwr a ganiateir:
- wedi'i gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau
- os yw wedi'i gorffori yn y DU
- os yw'n cynnal busnes yn y DU 1
Rhaid i chi fod yn siŵr bod y cwmni yn bodloni pob un o'r tri maen prawf.
Sut rydych yn cadarnhau cofrestriad cwmni?
Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim. Dylech edrych ar gofnod cofrestru llawn y cwmni.
Sut rydych yn cadarnhau a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU?
Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r cwmni eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:
- a yw'r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur, neu ar fin cael ei
ddileu o'r gofrestr - a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y cwmni yn hwyr
Mae'n bosibl bod cwmni yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei ddiddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae.
O ran unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar y canlynol:
- gwefan y cwmni
- cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
- y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau
Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y cwmni ynglŷn â'i weithgareddau busnes.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
- rhif cofrestru'r cwmni 2
- 1. Schedule 2A, paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 54(2)(b) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 11(c) & para. 12(2)(a) RPA 1983 and Sch. 6, para. 2(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig
Beth sy'n gwneud partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn rhoddwr a ganiateir:
- os yw wedi'i chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau
- os yw'n cynnal busnes yn y DU 1
Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?
Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim.
Sut rydych yn cadarnhau a yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?
Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:
- a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei diddymu, yn segur, neu ar fin cael ei dileu o'r gofrestr
- a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn hwyr
Mae'n bosibl bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei diddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae.
O ran unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dylech ystyried edrych ar y canlynol:
- gwefan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
- cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
- y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau
Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ynglŷn â'i gweithgareddau busnes.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 2
Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestru'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
- 1. Schedule 2A, paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 54(2)(f) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 11(c) & para. 12(2)(a) RPA 1983 and Sch. 6, para. 2(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Cymdeithasau anghorfforedig
Beth yw cymdeithas anghorfforedig?
Yn gyffredinol, cymdeithas anghorfforedig yw cymdeithas sydd â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir.
Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodaeth adnabyddadwy sydd wedi'i rhwymo ynghyd gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae'r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli'r gymdeithas anghorfforedig.
Weithiau, efallai y caiff y rheolau eu ffurfioli, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes rhaid eu ffurfioli.
Er enghraifft, gall clybiau aelodau fod yn gymdeithasau anghorfforedig weithiau.
Beth sy'n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir:
- os bydd ganddi fwy nag un aelod
- os yw'r brif swyddfa yn y DU
- os yw'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU 1
Rhaid i chi fod yn siŵr bod y gymdeithas anghorfforedig yn bodloni pob un o'r tri maen prawf.
Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?
Nid oes unrhyw gofrestr o gymdeithasau anghorfforedig. Rhaid asesu a yw cymdeithasau anghorfforedig yn ffynonellau a ganiateir fesul achos felly.
Os nad ydych yn siŵr a yw cymdeithas yn bodloni'r meini prawf, dylech ystyried a yw'r rhodd gan yr unigolion ynddi mewn gwirionedd (yn hytrach na'r gymdeithas) neu a oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.
Os credwch mai felly y mae, rhaid i chi gadarnhau bod pob un o'r unigolion a gyfrannodd fwy na £50 yn rhoddwyr a ganiateir a'u trin fel y rhoddwyr.
Rhaid i chi sicrhau bod gan y gymdeithas anghorfforedig fwy nag un aelod a bod ei phrif swyddfa yn y DU.
Rhaid i chi gadarnhau bod y gymdeithas anghorfforedig yn cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU.
Os bydd cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol gwerth mwy na £37,270 yn ystod blwyddyn galendr, dylech ei hysbysu bod yn rhaid iddi roi gwybod i ni am hyn. Gweler ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am gymdeithasau anghorfforedig.
Os hoffech gael mwy o gyngor ar gadarnhau p'un a yw cymdeithasau anghorfforedig yn rhoddwyr a ganiateir mewn achosion penodol, cysylltwch â ni.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
• enw'r gymdeithas anghorfforedig
• prif gyfeiriad y gymdeithas anghorfforedig 2
- 1. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(h) PPERA ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 11(c) & para. 12(2)(a) RPA 1983 and Sch. 6, para. 2(10) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Rhoddwyr eraill
Pleidiau gwleidyddol cofrestredig
Rhaid i blaid fod ar gofrestr Prydain Fawr er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 1 Gallwch weld y rhestr lawn o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr ar ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol.
Undebau llafur
Rhaid i undeb llafur fod wedi'i restru fel undeb llafur gan y Swyddog Ardystio neu'r Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 2 Dylech edrych ar y rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio neu ar wefan y Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Cymdeithasau adeiladu
Rhaid i gymdeithas adeiladu fod yn gymdeithas adeiladu o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 3 Dylech edrych ar y rhestr o gymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol.
Cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus
Rhaid i gymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus fod wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 4 Dylech edrych ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Bydd angen i chi gofnodi:
- enw'r rhoddwr
- y cyfeiriad, fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr berthnasol 5
- 1. Schedule 2A, paragraph 1(6A) & paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 54(2)(c) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Sch. 2A, para. 6(1) RPA 1983 and s.54(2)(g) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Sch. 2A, para. 11(c) & para. 12(2)(a) RPA 1983 and Sch. 6, para. 2(5)-(7) & (9) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
Pryd y byddwch yn cael ac yn derbyn rhodd?
Byddwch fel arfer yn ‘cael’ rhodd ar y diwrnod y byddwch yn dod yn berchen arni.
Er enghraifft:
- os rhoddir taflenni am ddim i chi, rydych yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
- os rhoddir siec i chi, rydych yn cael y rhodd ar y diwrnod y mae'r siec yn cael ei chlirio
- os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif.
Os bydd yr ymgeisydd wedi derbyn rhodd, rhaid rhoi'r rhodd ac unrhyw wybodaeth ategol ynghylch pwy yw'r rhoddwyr ac a gaiff ei ganiatáu i'r asiant etholiad os bydd un wedi'i benodi. 1 O dan y gyfraith, yn yr amgylchiadau hyn, caiff rhodd ei thrin fel pe bai'n cael ei derbyn gan yr asiant ar y diwrnod y cafodd ei derbyn yn y lle cyntaf gan yr ymgeisydd. 2 Felly, rhaid i ymgeiswyr roi rhoddion ac unrhyw wybodaeth ategol i'w asiant cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Pryd y byddwch yn derbyn rhodd?
Byddwch yn derbyn rhodd ar y diwrnod y byddwch yn cytuno i gadw'r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn rhai ariannol, os byddwch yn defnyddio'r rhodd, byddwch wedi'i derbyn o ganlyniad.
Os byddwch yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir hefyd eich bod wedi'i derbyn.
- 1. Schedule 2A, paragraph 8(2) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 8(3) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Sut rydych yn dychwelyd rhodd?
Os ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol iddo o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd. 1
Os daw'r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd arian o £100 yn ddienw), rhaid i chi ei dychwelyd y swm cyfatebol o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd i'r canlynol:
- y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi, neu
- y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r rhodd 2
Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r naill na'r llall, cysylltwch â ni gan fod rhaid i chi anfon y swm cyfatebol at y Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a gaiff ei rheoli gan Drysorlys Ei Mawrhydi. 3 Cysylltwch â ni i drefnu bod yr arian hwn yn cael ei drosglwyddo.
Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen rhoi gwybod amdano. 4
- 1. Schedule 2A, paragraph 7 Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 56(2)(a) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 7 RPA 1983 and s.56(2), s.57(1)(a) & (b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Sch. 2A, para. 7 RPA 1983 and s.56(2), s.57(1)(c) & (3) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Sch. 2A, para. 4(1)(c) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Sut rydych yn prisio rhodd?
Gwerth y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano. 1 Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £50 gan roddwr a ganiateir. 2
Os byddwch yn derbyn rhywbeth fel rhodd mewn da, am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, a'ch bod chi neu rywun arall yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch (a elwir hefyd yn wariant tybiannol), rhaid i chi hefyd ei gofnodi fel rhodd os bydd gwerth yr hyn a gawsoch yn fwy na £50. 3 Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheolau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. 4
Dylech ddarllen yr adran ar wariant tybiannol cyn darllen yr adran hon.
Yr egwyddor arweiniol
Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych yn eu cael.
Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.
Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar werth masnachol nwyddau neu wasanaethau cyfatebol rhesymol. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.
Dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a phrisiadau fel y gallwch esbonio p'un a wnaed rhodd ai peidio.
Examples
Enghraifft A
Mae cwmni argraffu'n cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% i chi ar bris cynhyrchu taflenni ar gyfer eich ymgyrch. Gwerth masnachol y taflenni yw £200. Rydych yn cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd. Y pris a dalwch am y taflenni yw £100.
Mae'r argraffwr wedi gwneud rhodd o £100 i chi: £200 (gwerth y nwyddau) - £100 (y pris a dalwch) = rhodd anariannol o £100.
Enghraifft B
Mae dylunydd gwefannau yn cynnig creu gwefan ar gyfer eich ymgyrch am ddim. Gwerth masnachol ei wasanaethau yw £250. Rydych yn cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd.
Mae dylunydd y wefan wedi gwneud rhodd o £250 i chi: £250 (gwerth y gwasanaethau) - £0 (y pris a dalwch) = rhodd anariannol o £250.
Valuing a donation by sponsorship
Prisio rhodd drwy nawdd
Os bydd rhywun yn noddi cyhoeddiad neu ddigwyddiad ar ran yr ymgeisydd, gwerth y rhodd yw'r swm llawn a dalwyd ganddo.
Ni ddylech ddidynnu unrhyw symiau ar gyfer unrhyw fudd y mae'n ei gael drwy'r nawdd. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar nawdd.
Prisio mathau eraill o roddion
Ceir rhagor o wybodaeth am brisio gofod swyddfa a staff wedi'u secondio yn Prisio gwariant tybiannol a Rhannu gwariant.
- 1. Schedule 2A, paragraph 5(2) & (4) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 4(2) & para. 6(1) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Sch. 2A, para. 2(1)(e) & para. 4(2) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Sch. 2A, para. 2(1)(e) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Pa gofnodion sydd angen i chi eu cadw?
Rhoddion a dderbyniwyd gennych
Os derbyniwch rodd gwerth dros £50, rhaid i chi gofnodi:
- y manylion gofynnol ar gyfer y math o rodd (gweler y dudalen ar y math perthnasol o roddwr) 1
- y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol) 2
- y dyddiad y cawsoch y rhodd
- y dyddiad y derbyniwyd y rhodd 3
Rhoddion a ddychwelwyd gennych
Os cewch rodd o ffynhonnell nas caniateir, rhaid i chi gofnodio'r manylion canlynol:
- y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol) 4
- enw a chyfeiriad y rhoddwr (oni bai fod y rhodd yn ddienw) 5
- os nad ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, manylion am sut y rhoddwyd y rhodd 6
- y dyddiad y cawsoch y rhodd 7
- y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych 8
- y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddynt) 9
Ar ôl yr etholiad
Bydd angen i chi gynnwys y manylion hyn ar eich ffurflen rhoddion ymgyrch fer. Mae rhagor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd y bydd angen i chi ei dychwelyd, yn Cwblhau eich dychweliad.
- 1. Schedule 2A, paragraph 5(2) & (4) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 4(2) & para. 6(1) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Sch. 2A, para. 2(1)(e) & para. 4(2) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Sch. 2A, para. 2(1)(e) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2A, para. 12(2)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 2A, para. 12(3)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2A, para. 12(2)(c) a (3)(c), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 2A, para. 12(2)(c) a (3)(c), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 2A, para. 12(2)(c) a (3)(c), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 9
Ymgeiswyr sy'n aelodau plaid neu'n ddeiliaid swydd etholedig
Os ydych yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig neu os ydych eisoes yn dal rhyw swydd etholedig berthnasol, mae angen i chi ddilyn y rheolau ynglŷn â rhoddion a benthyciadau i chi, sy'n ymwneud â gweithgarwch gwleidyddol cyn y cyfnod a reoleiddir. Er enghraifft, efallai y cewch rodd er mwyn helpu i ariannu'ch ymgyrch i gael eich ethol yn ymgeisydd.
Deiliaid swydd etholedig yw: 1
- aelod o Senedd y DU
- aelod o Senedd yr Alban
- aelod o Senedd Cymru
- aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon
- maer awdurdodau cyfunol
- aelod o unrhyw awdurdod lleol yn y DU, heb gynnwys cynghorau plwyf neu gymuned
- aelod o Gynulliad Llundain Fwyaf
- Maer Llundain neu unrhyw faer etholedig arall
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Galwn yr unigolion hyn yn 'dderbynwyr a reoleiddir'. Dim ond ffynonellau penodol a ganiateir a all roi mwy na £500 neu gael benthyciad o fwy na £500 gyda derbynwyr rheoledig. 2 Rhaid i chi gadarnhau bod y ffynhonnell yn un a ganiateir cyn cael benthyciad a bydd gennych 30 diwrnod i gadarnhau'r hyn a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 3
Os derbyniwch rodd neu'n cael benthyciad gwerth mwy na £2,230 (neu roddion neu fenthyciadau o un ffynhonnell sy'n gwneud cyfanswm o fwy na £2,230), rhaid i chi roi gwybod i ni am hyn o fewn 30 diwrnod i dderbyn y rhodd neu gael y benthyciad. 4
Os cewch eich ethol, bydd y rheolau hyn hefyd yn gymwys i chi ar ôl i chi gael eich ethol.
Gallwch weld ein canllawiau ar y rheolau hyn ar ein gwefan.
Os ydych yn dal un o'r swyddi etholedig hyn a'ch bod yn bwriadu sefyll ar gyfer llywodraeth leol, dylech hefyd sicrhau nad oes un swydd yn eich atal rhag dal y llall.
Ceir rhagor o wybodaeth am anghymhwyso yn Cymwysterau a gwaharddiadau ar gyfer sefyll etholiad.
- 1. Sch. 7, para. 1(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 7, para. 2(1) & para. 4(3)(b), Sch. 7A, para. 2(1)-(3) & (4)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Sch. 7, para. 8(1) & s.56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Sch. 7, para. 10(1A) & (2), Sch. 7A, para. 9(2) & (7) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
Cronfeydd ymladd pleidiau lleol
Mae llawer o bleidiau gwleidyddol yn cynnal cronfeydd ymladd lleol i ymgeiswyr. Os yw'r gronfa wedi'i rheoli gan y blaid ac nid yr ymgeisydd, caiff rhoddion i'r gronfa eu trin fel rhoddion i'r blaid fel arfer ac nid oes angen i chi eu trin fel rhoddion i'r ymgeisydd, oni chaiff y rhoddion eu rhoi'n benodol tuag at ymgyrch eich etholiad.
Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod am roddion gan y blaid leol at ddiben talu am wariant eich ymgyrch.
Er enghraifft, mae cangen plaid yn casglu rhoddion i godi arian ar gyfer ymgyrchoedd etholiadol yn yr ardal leol. Os bydd y blaid leol yn nodi'n glir y rhoddir y rhoddion hyn er mwyn talu am dreuliau etholiad yr ymgeisydd, neu os bydd rhoddwr yn nodi bod ei rodd at y diben hwn, yna dylid trin y rhodd fel rhodd i'r ymgeisydd.
Rhaid i unrhyw roddion a wneir ar eich rhan fod ar gael i chi eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys rhoddion a gedwir ar eich rhan gan eich plaid wleidyddol neu rywun arall.
Cyllido torfol
Beth yw cyllido torfol?
Cyllido torfol yw pan ddefnyddir llwyfan ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, caiff y llwyfan ei reoli gan ddarparwr trydydd parti a bydd gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan. Fel arfer caiff ymgyrchoedd eu cynnal am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, caiff yr arian a godwyd, ar ôl tynnu ffi a delir i'r darparwr, ei drosglwyddo i'r derbynnydd.
Tryloywder
Dylech sicrhau bod y dudalen we cyllido torfol yn nodi'n glir i bwy y rhoddir yr arian ac at ba ddiben. Er enghraifft, dylech egluro a yw'r cyllid yn cael ei godi i dalu eich treuliau etholiad, ar gyfer eich ymgyrch i gael eich dewis fel ymgeisydd, neu a yw ar gyfer cronfa ymladd plaid leol. Mae hyn oherwydd bod trothwyon cofnodi ac adrodd gwahanol ar gyfer rhoddion i ymgeiswyr a phleidiau.
Dylech sicrhau bod y dudalen we yn cynnwys gwybodaeth sy'n esbonio y caiff gwiriadau eu cynnal er mwyn sicrhau bod ffynonellau rhoddion yn rhai a ganiateir yn unol â'r gyfraith, ac y gall gwybodaeth am roddion, gan gynnwys manylion rhoddwyr, gael eu cyhoeddi. Bydd Swyddogion Canlyniadau yn sicrhau bod ffurflenni a baratowyd gan ymgeiswyr ar gael i'w harchwilio ar ôl etholiadau. Mae'r rhain yn cynnwys manylion rhoddion.
Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol.
Yr hyn a ganiateir
Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion dros £50.
Fel gyda phob math o rodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau er mwyn cadarnhau bod ffynhonnell y rhodd yn un a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 1 Y dyddiad derbyn yw'r dyddiad y byddwch yn cael y cyllid o'r wefan cyllido torfol.
Ni chaiff arian a roddir drwy dudalen we cyllido torfol sy'n £50 neu'n llai ei ystyried yn rhodd o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac nid oes rhaid rhoi gwybod amdano. 2
Dylech sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth gan ddarparwr y llwyfan cyllido torfol a'ch bod yn cadw eich cofnodion mewn ffordd sy'n eich galluogi i ganfod a oes sawl rhodd wedi dod o'r un ffynhonnell.
Rhaid i chi gasglu gwybodaeth ddigonol gan bob rhoddwr i sicrhau y gallwch gadarnhau'n briodol fod pob rhodd gan ffynhonnell a ganiateir. Dylech nodi'n glir ar y dudalen we mai dyma'r rheswm rydych yn casglu unrhyw wybodaeth. Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol rhaid i chi beidio â derbyn y rhodd. Ni allwch dderbyn rhoddion dienw gyda gwerth o fwy na £50.
Rhaid i chi hefyd gasglu gwybodaeth ddigonol i gydymffurfio â gofynion adrodd.
Cryptoarian
Arian cyfred digidol sy'n gweithredu'n annibynnol ar unrhyw fanc neu awdurdod canolog yw cryptoarian.
Mae'r un rheolau'n berthnasol i roddion a geir mewn cryptoarian ag unrhyw roddion eraill. Rhaid casglu gwybodaeth ddigonol er mwyn cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir. Rhaid bod ffordd o brisio unrhyw rodd a geir mewn unrhyw gryptoarian.
- 1. Schedule 2A, paragraph 7 Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 56(2) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Sch. 2A, para. 4(2) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Ymgyrchu
Bydd yr adrannau canlynol yn eich arwain a'ch llywio ar sawl agwedd ynghylch eich ymgyrch. Mae hyn yn cynnwys:
- Pryd y gallwch ddechrau ymgyrchu a'r hyn y gellir ac na ellir ei wneud ar gyfer eich ymgyrch
- Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestr pleidleiswyr absennol
- Eich rôl yn sicrhau uniondeb yr etholiad
- Troseddau etholiadol a rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol
Pryd y gallwch ddechrau ymgyrchu?
Cewch ddechrau ymgyrchu unrhyw bryd. Nid oes rhaid i chi aros am enwebiad dilys er mwyn datgan eich bod am sefyll etholiad, gofyn i bobl eich cefnogi na chyhoeddi deunydd ymgyrchu.Bydd terfynau gwariant etholiad yn gymwys cyn etholiad Senedd y DU.
Ceir rhagor o wybodaeth am wariant etholiad yn ein canllawiau ar wariant a rhoddion.
Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud mewn ymgyrch
Mae'r adran hon yn nodi gweithgareddau y gall ymgeiswyr a'u cefnogwyr eu cynnal yn ystod eu hymgyrch, gweithgareddau y dylent eu cynnal, a'r pethau na ddylent eu gwneud.
Ceir rhagor o wybodaeth am weithgareddau ymgyrchu derbyniol yn ein Cod ymddygiad i ymgyrchwyr
Yn ystod yr ymgyrch, cewch...
- Annog pobl nad ydynt ar y gofrestr etholiadol i wneud cais i gofrestru. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mewn da bryd ar gyfer etholiad yw 12 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1 Gall unigolion gofrestru ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
- Atgoffa pleidleiswyr sy'n dymuno pleidleisio yn bersonol y bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno math o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir er mwyn profi pwy ydynt cyn y byddant yn cael papur pleidleisio. Os na fydd gan unigolyn fath o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir, neu os nad yw'n dymuno defnyddio un o'r rhain, gall wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau o brawf adnabod ffotograffig a Thystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a dderbynnir yn ein canllawiau ar gyfer y diwrnod pleidleisio.
Helpu pleidleiswyr gyda gwybodaeth am bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy ac annog pleidleiswyr i wneud cais ar-lein yn https://www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiad yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 2 Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiad yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad er, o dan rai amgylchiadau, caiff etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. 3 Gall etholwr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng os bydd wedi cael argyfwng meddygol ar ôl 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad, neu wedi cael ei alw i ffwrdd ar fusnes, neu nad yw'r prawf adnabod ffotograffig yr oedd wedi bwriadu ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio ar gael ac nad oes ganddo fath amgen o brawf adnabod ffotograffig derbyniol.
- Ceir rhagor o wybodaeth am bwy all gofrestru i bleidleisio a phleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy ar ein gwefan https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr
- 1. A.13B, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a rheoliad 29(4), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 / rheoliad 29(4), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 56, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 / rheoliad 56, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 56(3A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 / rheoliad 56(3A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
Yn ystod yr ymgyrch, dylech...
- Sicrhau bod unrhyw ffurflenni cais rydych yn eu datblygu yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol, neu caiff y ceisiadau eu gwrthod fel arall. Yn benodol, rhaid i chi sicrhau bod y meysydd llofnod a dyddiad geni ar ffurflenni cais pleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy yn y fformat cywir a bod maes i'r ymgeiswyr gynnwys eu rhif Yswiriant Gwladol. Dylech ddefnyddio ein ffurflen gais pleidleisio absennol fel canllaw a dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a all roi ffurflenni i chi eu defnyddio efallai. Er mwyn helpu i sicrhau bod ceisiadau pleidleiswyr yn cael eu derbyn a'u prosesu cyn gynted â phosibl, gallwch hefyd roi gwybod iddynt y gallant wneud cais am ffurflen pleidleisio absennol ar-lein yn https://www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post
- Rhoi gwybod i'r pleidleiswyr ddychwelyd eu ffurflenni cais wedi'u cwblhau i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted â phosibl. Ni ddylai ymgyrchwyr gasglu ceisiadau papur wedi'u cwblhau gan bleidleiswyr ac ni ddylent ofyn i bleidleiswyr anfon ceisiadau wedi'u cwblhau i gyfeiriadau ymgyrchwyr.
- Peidio byth â thrin na chymryd unrhyw bapur pleidleisio wedi'i gwblhau na phecyn pleidleisio drwy'r post oddi wrth bleidleiswyr.
- Sicrhau bod eich cefnogwyr yn dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr – bydd hyn yn eu helpu i osgoi sefyllfaoedd lle y gallai eu gonestrwydd neu eu huniondeb gael ei gwestiynu.
- Sicrhau bod eich cefnogwyr yn gwrtais wrth ddelio ag ymgeiswyr eraill a'u cefnogwyr.
- Bod yn ymwybodol o'r dyddiadau cau ar gyfer penodi asiant etholiad, ac asiantiaid i fod yn bresennol mewn achlysuron agor amlenni pleidleisiau post, gorsafoedd pleidleisio a'r cyfrif. Mae'r dyddiadau cau wedi'u nodi yn ein canllawiau ar bleidleisio drwy’r post, y diwrnod pleidleisio a'r broses dilysu a chyfrif.
- Darllen ein canllawiau ar achlysuron agor amlenni pleidleisiau post, y broses bleidleisio a'r cyfrif fel eich bod yn gwybod beth y gallwch ei ddisgwyl
- Sicrhau bod eich systemau ar gyfer cofnodi gwariant a rhoddion yn gweithio. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar roddion a gwariant etholiad
Yn ystod yr ymgyrch, rhaid i chi sicrhau nad ydych yn...
- Gwneud datganiad ffug am gymeriad personol ymgeisydd yn fwriadol. 1
- Talu canfaswyr. 2 Ystyr canfasio yw ceisio darbwyllo etholwr i bleidleisio dros neu yn erbyn ymgeisydd neu blaid benodol.
Ceir rhagor o wybodaeth am droseddau mewn etholiad a sut i roi gwybod amdanynt yn ein canllawiau ar droseddau.
Os byddwch chi, neu'ch asiant etholiad, wedi gwneud camgymeriad ac wedi torri'r rheolau, gallwch wneud cais am ryddhad rhag canlyniadau gwneud camgymeriad. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar beth i'w wneud os byddwch wedi gwneud camgymeriad.
Ar gyfer etholiadau ar neu ar ôl 2 Mai 2024
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddeddfwriaeth sy'n cyfyngu ar allu ymgyrchwyr i ymdrin â dogfennau pleidleisio drwy'r post. Bydd y ddeddfwriaeth yn weithredol ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024.
Bydd angen i chi sicrhau bod eich cefnogwyr yn ymwybodol ei bod yn drosedd i ymdrin â phapurau pleidleisio a gwblhawyd neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn aelodau agos o'r teulu neu'n rhywun y maent yn gofalu amdanynt ac y dylid dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr – bydd hyn yn eu helpu i osgoi sefyllfaoedd lle gellid cwestiynu eu gonestrwydd neu eu huniondeb.
- 1. Adran 106 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.111 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Yr hyn y gellir ac na ellir ei wneud o ran cyhoeddusrwydd wrth ymgyrchu
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- Defnyddio argraffnodau ar eich holl ddeunydd ymgyrchu argraffedig ac unrhyw ddeunydd ymgyrchu electronig a ddylunnir i'w argraffu'n lleol. 1 Dylech sicrhau bod yr argraffnod yn glir ac yn weladwy. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddefnyddio argraffnodau.
- Cydymffurfio â rheolau cynllunio sy'n ymwneud â byrddau hysbysebu a baneri mawr2 – dylech ofyn i'r awdurdod lleol perthnasol am gyngor.
- Sicrhau bod posteri awyr agored yn cael eu tynnu i lawr yn ddi-oed ar ôl yr etholiad – rhaid i chi wneud hyn o fewn pythefnos i'r etholiad.
Dylech wneud y canlynol:
- Cynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd ymgyrchu nas argreffir, gan gynnwys gwefannau.
- Ystyried sut i sicrhau bod eich ymgyrch yn hygyrch i bob pleidleisiwr – er enghraifft pleidleiswyr anabl neu bleidleiswyr nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu efallai y bydd angen darparu deunydd ymgyrchu Cymraeg mewn fformat penodol. Gallech gysylltu â grwpiau anabledd yn eich ardal leol am gyngor.
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- 1. Adran 143 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, adran 110 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (Lloegr) 2007; Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (yr Alban) 1984; ac ar gyfer Cymru, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.94 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A .109 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Defnyddio argraffnodau
Beth yw argraffnod?
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ychwanegu argraffnod at yr holl ddeunydd argraffedig er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol am ei lunio. 1
Dylech sicrhau bod eich argraffnod yn glir ac yn weladwy.
Mae ein taflen ffeithiau ar argraffnodau ymgeisydd yn esbonio'r rheolau y mae'n rhaid i chi eu dilyn os ydych yn ymgyrchydd yn y math hwn o etholiad.
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae angen argraffnodau hefyd ar ddeunydd digidol penodol. Ar gyfer y gofynion argraffnod ar ddeunydd digidol, gweler ein canllawiau ar argraffnodau digidol.
- 1. Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, a.143 a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.110 ↩ Back to content at footnote 1
Rhadbost
Os dangosir eich bod wedi'ch enwebu yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd cewch anfon anerchiad etholiadol at etholwyr yn yr etholaeth am ddim. Rhaid sicrhau mai dim ond materion etholiadol sydd ynghlwm wrth y cyfathebriad.
Cyn cyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, os byddwch yn datgan eich bod yn ymgeisydd cewch arfer yr hawl hon, ond dim ond os byddwch yn rhoi'r sicrwydd gofynnol i'r Post Brenhinol o ran talu'r gost am bostio rhag ofn nad ydych ar y datganiad fel ymgeisydd a enwebwyd i sefyll.
Cewch gludiant am ddim ar naill ai:
- un cyfathrebiad etholiadol heb gyfeiriad sydd hyd at 60 gram at bob cyfeiriad post, neu
- un cyfathebriad etholiadol sydd hyd at 60 gram at bob etholwr
Os ydych yn ystyried ymarfer yr hawl hon, dylech gysylltu â'r Post Brenhinol i wneud trefniadau. Rhaid cydymffurfio â thelerau ac amodau'r Post Brenhinol.
Argymhellwn yn gryf eich bod yn dilyn canllawiau'r Post Brenhinol ar bostio deunydd cyfathrebu gan ymgeiswyr www.royalmail.com/business/manage-mail/candidate-mail.
Defnyddio'r gofrestr etholiadol a rhestrau pleidleiswyr absennol
Pan fyddwch wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, cewch gopi o'r gofrestr etholiadol am ddim. 1 Cewch hefyd weld y rhestrau o bobl sy'n pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ('y rhestrau o bleidleiswyr absennol') ar gyfer yr etholaeth rydych yn sefyll ynddi.
Caiff pleidiau gwleidyddol cofrestredig gopi o'r gofrestr etholiadol ar unrhyw adeg.
Mae dau fath o gofrestr
Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr –
Y gofrestr etholiadol
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, fel sicrhau mai dim ond pobl gymwys a all bleidleisio. Fe'i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, fel canfod trosedd (e.e. twyll), galw pobl i wasanaeth rheithgor, gwirio ceisiadau am gredyd.
Y gofrestr agored (a elwir yn gofrestr wedi'i golygu hefyd).
Mae'r gofrestr agored yn rhan o'r gofrestr etholwyr, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, caiff ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau er mwyn cadarnhau enwau a chyfeiriadau. Gall etholwyr ofyn i'w henw a'u cyfeiriad beidio â chael eu cynnwys ar y gofrestr agored.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 108; Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001, rheoliad 107 ↩ Back to content at footnote 1
Cyfyngiadau ar ddefnyddio'r wybodaeth a geir yn y gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol
Mae'r gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol yn cynnwys data personol pobl ac felly rheolir eu defnydd yn ofalus iawn.
Gallwch eu defnyddio i:
- gwblhau eich ffurflen enwebu
- eich helpu i ymgyrchu
- cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir
Ni ddylech roi unrhyw fanylion sydd ond yn ymddangos ar y gofrestr lawn ac nid ar y gofrestr agored, sydd ar werth yn gyffredinol, i neb. Ni ddylech ddefnyddio'r gofrestr lawn na'r rhestrau o bleidleiswyr absennol at unrhyw ddiben arall nad yw wedi'i restru uchod. 1
Os byddwch wedi rhoi copi o'r gofrestr neu'r rhestrau o bleidleiswyr absennol i weithwyr ymgyrch, rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â'r gofynion uchod.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'r gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol yn ddiogel. 2
Pan na fydd angen y gofrestr na'r rhestrau o bleidleiswyr absennol arnoch mwyach at ddiben etholiadol, dylech ddinistrio unrhyw gopïau a roddwyd i chi fel ymgeisydd yn unol â chanllawiau'r Comisiynydd Gwybodaeth.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, erthygl 5 ↩ Back to content at footnote 2
Gwneud cais am gopi o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol
Gellir cael copïau o'r gofrestr a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol. Bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi'i benodi ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yn ardal yr heddlu i gynnal y cofrestrau etholwyr. Gallwch ddod o hyd i'r manylion cyswllt yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad
Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig 1 ac rydym wedi darparu ffurflen gais cofrestru a ffurflen gais rhestrau o bleidleiswyr absennol at y diben hwn ar ein gwefan.
Er bod yn rhaid cyflwyno ceisiadau i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylech hefyd gysylltu â Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, a all fod wedi rhoi trefniadau ar waith i gydgysylltu ceisiadau ar gyfer yr holl gofrestrau a rhestrau yn ardal yr heddlu.
Darperir y gofrestr a'r rhestrau ar ffurf electronig oni fydd cais penodol am gopi papur.
Bydd y fersiwn o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau a ddarperir yn gyfredol ar adeg eich cais. Gallwch hefyd wneud cais am ddiweddariadau i'r cofrestrau etholiadol a'r rhestrau a gyhoeddir yn y cyfnod cyn yr etholiad, gan gynnwys y rhestr o etholwyr sydd newydd gofrestru pan gaiff ei chyhoeddi bum diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Gallai unrhyw un sy'n torri'r cyfyngiadau ar ddefnyddio'r gofrestr etholiadol wynebu dirwy anghyfyngedig. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfyngiadau ar ddefnyddio'r gofrestr etholiadol yng Nghymru a Lloegr.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus
Efallai y byddwch am ymgysylltu â'r cyhoedd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, gan hyrwyddo eich syniadau ac ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.
Mae Swyddog Cofrestru Etholiadol pob cyngor yng Nghymru a Lloegr, a Swyddog Priodol pob cyngor yn yr Alban, yn cadw rhestr o leoliad ac argaeledd ystafelloedd cyfarfod yn ei ardal. Bydd yn darparu'r rhestr hon i ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad (ac unrhyw un a awdurdodir ganddynt) o'r adeg y diddymir Senedd y DU.
Pan fyddwch yn ymgeisydd, cewch ddefnyddio ystafelloedd cyhoeddus sydd ar gael hyd at y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio. 1
Ceir manylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ein gwefan https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr. Yn yr Alban, gallwch gael manylion cyswllt y Swyddog Priodol drwy'r cyngor lleol.
Dylech gysylltu â pherchennog y safle i drefnu ystafell, gan roi rhybudd rhesymol er mwyn lleihau'r risg y caiff y cais ei wrthod.
Ni chodir tâl am ddefnyddio'r ystafelloedd hyn, ond rhaid i chi dalu am unrhyw gostau yr eir iddynt, megis gwres, golau a glanhau, ac am unrhyw ddifrod i'r eiddo.
Nid yw eich hawl i ddefnyddio'r ystafell yn cynnwys yr oriau y defnyddir ysgol at ddibenion addysgol na phan fydd cytundeb wedi'i wneud i osod ystafell wedi'i wneud ymlaen llaw.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Cynnal uniondeb yr etholiad
Ymgeiswyr yw un o brif wynebau cyhoeddus yr etholiad, a bydd gwrthwynebwyr, y cyfryngau a phleidleiswyr yn craffu ar eich ymddygiad yn ofalus.
Dylai pleidleiswyr allu ymddiried mewn ymgeiswyr i gydymffurfio â'r gyfraith a chynnal uniondeb y broses etholiadol.
Mae asiantiaid etholiad yn gyfrifol am eich ymgyrch ac maent yn gyfrifol am ei rheolaeth ariannol yn gyfreithiol.
Dylech hefyd sicrhau bod eich cefnogwyr yn deall y gyfraith yn llawn ac yn gwybod beth i'w wneud i sicrhau y gall pleidleiswyr fwrw pleidlais heb unrhyw rwystr.
Dim ond os oes tystiolaeth o drosedd y gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o dwyll etholiadol. Dylai honiadau neu gyhuddiadau gael eu cadarnhau bob amser pan gânt eu cyfeirio at yr heddlu.
Dylech hefyd ystyried yr effaith ar hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd os gwneir honiadau anwir neu ddisylwedd ynghylch ymddygiad ymgyrchwyr eraill.
Nid yw'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) na'r Comisiwn yn rheoleiddio'r troseddau hyn. Ceir manylion am sut i roi gwybod am unrhyw honiadau yn ein canllawiau ar ‘Rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol’
Tabl o droseddau
Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer o droseddau etholiadol a throseddau nad ydynt yn rhai etholiadol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun pan fydd angen.
Ar gyfer etholiadau ar neu ar ôl 1 Mai 2024
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddeddfwriaeth a wnaeth newidiadau i rai troseddau etholiadol. Mae'r tabl isod yn tynnu sylw at y troseddau a fydd yn newid pan fydd y ddeddfwriaeth yn weithredol ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 1 Mai 2024.
Llwgrwobrwyo1
| Mae'r drosedd o lwgrwobrwyo yn cynnwys, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, roi unrhyw arian neu sicrhau unrhyw swydd ar gyfer unrhyw bleidleisiwr neu ar ei ran, er mwyn ysgogi unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu beidio â phleidleisio. |
---|---|
Anrhegu 2 | Mae unigolyn yn euog o dretio os bydd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad, yn rhoi neu'n darparu unrhyw fwyd, diod, adloniant neu ddarpariaeth er mwyn dylanwadu'n llygredig ar unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu beidio â phleidleisio. Mae a wnelo tretio â bwriad llygredig – nid yw'n gymwys i letygarwch arferol. |
Dylanwad gormodol 3 | Mae unigolyn yn euog o gael dylanwad gormodol os bydd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn defnyddio neu'n bygwth defnyddio grym, trais neu ataliaeth, neu achosi neu fygwth achosi anaf, difrod neu niwed er mwyn gorfodi neu gymell yr unigolyn hwnnw i bleidleisio neu beidio â phleidleisio. Gall unigolyn hefyd fod yn euog o gael dylanwad gormodol os bydd yn rhwystro neu'n atal pleidleisiwr rhag arfer ei hawl i bleidleisio – hyd yn oed os na fydd yn llwyddo. Nid yw dylanwad gormodol yn ymwneud â mynediad ffisegol i'r orsaf bleidleisio yn unig. Er enghraifft, gallai taflen sy'n bygwth defnyddio grym er mwyn cymell pleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol hefyd fod yn ddylanwad gormodol.
|
Ar gyfer etholiadau ar neu ar ôl 2 Mai 2024 Dylanwad gormodol 4 | Bydd person yn euog o ddylanwad gormodol os bydd yn cyflawni gweithgaredd
|
Ar gyfer etholiadau ar neu ar ôl 2 Mai 2024 Trin dogfennau pleidleisio drwy'r post gan ymgyrchwyr gwleidyddol 5
| Mae'n drosedd i ymgyrchwyr gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn aelodau agos o'u teulu neu'n rhywun y maent yn gofalu amdanynt. |
Cambersonadu 6 | Ystyr cambersonadu yw pan fydd unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall, naill ai drwy'r post neu'n bersonol yn yr orsaf bleidleisio, fel etholwr neu ddirprwy. Mae'r drosedd hon yn gymwys p'un a yw'r person a gaiff ei gambersonadu yn fyw, yn farw neu'n ffuglennol. Mae hefyd yn drosedd cynorthwyo, annog neu gaffael cambersonadu.
|
Datganiadau ffug Ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd 7
| Mae'n drosedd gwneud neu gyhoeddi datganiad ffeithiau ffug am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd er mwyn effeithio ar ethol ymgeisydd mewn etholiad. Nid yw datganiadau anwir nad ydynt yn ymwneud â chymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd yn anghyfreithlon o dan gyfraith etholiadol, ond gellid eu hystyried yn enllibus neu'n athrodus. Mae hefyd yn anghyfreithlon gwneud datganiad ffug bod ymgeisydd yn tynnu ei enw'n ôl er mwyn hyrwyddo neu gaffael ethol ymgeisydd arall.
|
Datganiadau ffug Mewn papurau enwebu 8 | Mae'n drosedd gwneud datganiad ar bapur enwebu y gwyddoch ei fod yn ffug. Er enghraifft, os ydych yn gwybod eich bod wedi eich anghymhwyso rhag sefyll etholiad, ni ddylech lofnodi'r ffurflen cydsynio ag enwebiad. |
Gwybodaeth gofrestru ffug a chais ffug i bleidleisio drwy'r post/drwy ddirprwy 9 | Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth ffug ar ffurflen gais cofrestru, pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae gwybodaeth ffug yn cynnwys llofnod ffug |
Cais ffug am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy 10 | Bydd unigolyn yn euog o drosedd os bydd yn gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy er mwyn cael pleidlais nad oes ganddo'r hawl i'w chael neu er mwyn atal rhywun arall rhag pleidleisio. |
Troseddau'n gysylltiedig ag aml-bleidleisio a phleidleisio drwy ddirprwy 11 | Ceir amryw droseddau o ran aml-bleidleisio a phleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys unigolyn yn pleidleisio drwy'r post fel etholwr neu ddirprwy pan fo wedi'i anghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio a chymell neu gaffael rhywun arall i gyflawni'r drosedd. |
Torri'r gofynion o ran cyfrinachedd y bleidlais 12 | Rhaid i bawb sy'n gysylltiedig â'r broses etholiadol neu sy'n bresennol mewn rhai digwyddiadau gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi copi o'r gofynion swyddogol o ran cyfrinachedd i bawb sy'n bresennol yn yr achlysur agor pleidleisiau post neu gyfrif papurau pleidleisio, ac i asiantiaid pleidleisio. |
Deunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch | Mae rhai troseddau'n ymwneud yn benodol â deunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol. Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol argraffedig gynnwys argraffnod 13 a pheidio ag edrych fel cerdyn pleidleisio. 14 Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch beidio â chynnwys datganiad ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd arall ychwaith. 15 Nid yw'r Swyddog Canlyniadau na'r Comisiwn yn rheoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu ac ni allant wneud unrhyw sylwadau am gyfreithlondeb unrhyw ddeunydd etholiadol penodol y tu hwnt i'r hyn a nodir yn y canllawiau hyn. |
Casineb hiliol | O dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, mae'n drosedd cyhoeddi neu ddosbarthu deunydd bygythiol, ymosodol neu sarhaus y bwriedir iddo ysgogi casineb hiliol neu sy'n debygol o wneud hynny. |
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.114 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.115 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 114A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 114A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.60 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.106 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.65A ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a13D ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.62A ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.61 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.66 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, a.143 a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.110 ↩ Back to content at footnote 13
- 14. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.94 ↩ Back to content at footnote 14
- 15. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 .106 ↩ Back to content at footnote 15
Beth os ydych wedi gwneud camgymeriad?
Os byddwch chi, neu'ch asiant, wedi gwneud camgymeriad ac wedi torri'r rheolau etholiadol, gallwch wneud cais am ryddhad rhag cosbau unrhyw drosedd.
Dylech bob amser geisio cyngor cyfreithiol os byddwch yn ystyried gwneud cais am ryddhad.
I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â'r cyfeiriad canlynol:
Yng Nghymru a Lloegr:
The Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London WC2A 2LL
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0207 947 6877
Os ydych yn yr Alban:
The Petitions Department
Court of Session
Parliament Square
Edinburgh EH1 1RQ
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0131 240 6747
Rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol
Os byddwch yn poeni am dwyll etholiadol, dylech siarad yn gyntaf â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol neu'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Efallai y byddant yn gallu egluro p'un a gyflawnwyd twyll etholiadol ai peidio, a gallant gyfeirio eich pryderon at yr heddlu os oes angen. Gall hefyd roi manylion swyddog cyswllt yr heddlu ar gyfer yr heddlu perthnasol fel y gallwch roi gwybod am yr honiad eich hun.
Os bydd gennych dystiolaeth bod trosedd etholiadol wedi'i chyflawni, dylech gysylltu â'r heddlu ar unwaith, gan ddefnyddio'r rhif 101 ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys oni fydd trosedd yn cael ei chyflawni yn y fan a'r lle, pan ddylech ffonio'r llinell frys safonol 999.
Mae gan bob heddlu Swyddog Cyswllt Unigol penodol a fydd yn gallu rhoi cyngor er mwyn sicrhau yr ymchwilir i'ch honiadau'n gywir. Dylech fod yn barod i roi datganiad iddo ac ategu eich honiad.
Os nad ydych am roi datganiad i'r heddlu, gallwch leisio eich pryderon yn ddienw ar wefan Crimestoppers neu drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.
Yng Nghymru a Lloegr, mae manylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar ein gwefan https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr. Yn yr Alban, gallwch hefyd gael manylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr a gallwch gysylltu â Swyddogion Canlyniadau drwy'r cyngor lleol.
Noder, os bydd eich honiad yn ymwneud â materion cyllid ymgyrchydd plaid, etholiadol neu gofrestredig, fel gwariant a rhoddion, yna dylech ddilyn y cyngor a roddir yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/gorfodi/gwneud-honiad
Enwebiadau
Mae'r adrannau canlynol yn cynnwys canllawiau ar sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU ym Mhrydain Fawr.
Mae'r canllawiau yn ymdrin â'r canlynol:
- Y broses enwebu, gan gynnwys pa ffurflenni y mae angen i chi eu cwblhau
- Pryd a sut y bydd angen i chi gyflwyno eich papurau enwebu
- Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu
Mae rheolau penodol y mae angen i ymgeiswyr eu dilyn, yn dibynnu a ydynt yn sefyll fel ymgeisydd plaid wleidyddol neu'n sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Caiff y gwahaniaethau hyn eu nodi'n amlwg yn y canllawiau.
Gallwch weld ein canllawiau ar gyfer etholiadau eraill ar ein gwefan.
Cwblhau eich papurau enwebu
I gael eich enwebu fel ymgeisydd yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr mae'n rhaid i chi gyflwyno set gyfan o bapurau enwebu i'r man a bennir gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn 4pm 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
Pennir y dyddiad cau hwn yn ôl y gyfraith ac ni ellir ei newid am unrhyw reswm.
Nodir y dyddiad pan fyddwch yn gallu dechrau cyflwyno papurau enwebu, yn ogystal â'r amseroedd a'r man cyflwyno, yn yr hysbysiad etholiad a gyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).2
Rhaid i chi gyflwyno tri papur enwebu er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys:3
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) benderfynu bod eich papur enwebu yn annilys os nad yw manylion eich enwebiad yn unol â gofynion y gyfraith. Hefyd, gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wrthod eich enwebiad os yw'n dod i'r casgliad ei fod yn un ffug, er enghraifft os rhoddir enw sy'n amlwg yn ffug.
Os na allwch chi, eich asiant neu rywun rydych yn ymddiried ynddo gwblhau'r ffurflen enwebu, gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) eich helpu drwy baratoi'r ffurflen i chi ei llofnodi.4
Efallai y gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) hefyd gynnig bwrw golwg anffurfiol dros eich papurau enwebu wedi'u cwblhau cyn i chi eu cyflwyno. Dylech gael rhagor o wybodaeth gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) o ran a yw'n bwriadu cynnig gwiriadau anffurfiol.
Noder bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi ar eich papurau enwebu fod yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu. Gallai rhoi datganiad anwir annilysu eich etholiad, a gallech hefyd wynebu dirwy a/neu ddedfryd o garchar i chi. Yng Nghymru a Lloegr mae'r ddirwy yn anghyfyngedig;5
yn yr Alban mae'r ddirwy hyd at £10,000 neu'n anghyfyngedig os cewch eich collfarnu ar dditiad.6
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 5, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheolau 6 ac 8, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 7, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.65A a 168, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.65A a 168, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 6
Y ffurflen enwebu
Dylai eich enw a'ch disgrifiad (os byddwch yn dewis defnyddio un) gael eu nodi ar y ffurflen enwebu cyn i chi ofyn i lofnodwyr lofnodi'r ffurflen.
Rhaid i'r ffurflen enwebu gael ei chwblhau yn Gymraeg neu Saesneg.
Rydym wedi darparu ffurflen enwebu y gallwch ei defnyddio:
Rhaid i'r ffurflen gynnwys:
Eich enw llawn1
- Nodwch eich cyfenw ac enwau eraill yn llawn.
- Gallai defnyddio blaenlythrennau'n unig arwain at wrthod eich papur enwebu.
- Peidiwch â defnyddio rhagddodiaid fel Mr, Mrs, Dr neu Cyngh. fel rhan o'ch enw.
- Mae'r un peth yn wir am ôl-ddodiaid. Fodd bynnag, os oes gennych deitl, gallwch ddefnyddio hwn fel eich enw llawn. Er enghraifft, os mai Joseph Smith yw eich enw gwirioneddol, ond mai eich teitl etifeddol yw Joseph Avon, gallwch ddefnyddio'r enw Joseph Avon fel eich enw llawn.
Llofnodion 10 o etholwyr cofrestredig2
- Fe'u gelwir hefyd yn llofnodwyr o'r etholaeth.
- Mae'n rhaid i'ch tanysgrifwyr fod ar y gofrestr etholwyr Seneddol sy'n weithredol ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad o etholiad (h.y. ar yr ail ddiwrnod ar ôl i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) dderbyn yr writ.) Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar dansgrifwyr.
Disgrifiad
Gallwch hefyd ddewis defnyddio disgrifiad ar eich papur enwebu. Mae'r math o ddisgrifiad y gallwch ei ddefnyddio yn dibynnu ar b'un a ydych yn ymgeisydd annibynnol neu'n ymgeisydd plaid.
Ymgeiswyr annibynnol | Dim ond “Annibynnol” yng Nghymru a/neu “Independent” y gallwch ei ddefnyddio fel eich disgrifiad. |
---|---|
Ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol | Gallwch ddefnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid. Os ydych yn ymgeisydd yng Nghymru, cewch ddefnyddio naill ai'r fersiwn Gymraeg, y fersiwn Saesneg neu'r ddwy fersiwn o enw'r blaid neu'r disgrifiad, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru â'r Comisiwn. Rhestrir cyfieithiadau Cymraeg o enwau pleidiau ar y wefan o dan 'enw arall' a rhestrir cyfieithiadau o ddisgrifiadau i'r dde o'r disgrifiad o dan 'cyfieithiad(au)’. Os ydych am ddefnyddio enw neu ddisgrifiad plaid, mae'n rhaid i chi hefyd gyflwyno, ynghyd â'ch papurau enwebu eraill, dystysgrif sy'n dangos fod gennych awdurdodiad i ddefnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran pleidiau gwleidyddol. |
Mae rheolau arbennig yn berthnasol i Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi. Gall y Llefarydd ddefnyddio'r disgrifiad canlynol: “The Speaker seeking re-election”, neu ddatganiad cyfatebol yn y Gymraeg”.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio disgrifiad. Os byddwch yn dewis peidio â defnyddio disgrifiad, gallwch adael maes disgrifiad y ffurflen enwebu yn wag.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 7, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin
Os ydych yn defnyddio enw gwahanol i'ch enw gwirioneddol yn fynych, gallwch ofyn am gael defnyddio eich enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn lle'ch enw gwirioneddol.1
Gallwch ofyn am gael defnyddio enw cyntaf a/neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin.
Er enghraifft, efallai mai ‘Andy’ yw'r enw cryno a ddefnyddir ar eich cyfer, yn lle'ch enw llawn cyntaf sef ‘Andrew’. Os felly, gallwch ysgrifennu ‘Andy’ yn y blwch enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin ar y papur enwebu os byddai'n well gennych pe bai'r enw hwnnw'n ymddangos ar y papur pleidleisio.
Ar gyfer etholiadau cyn 2 Mai 2024
Ni chewch ddefnyddio eich enw cyntaf fel enw a ddefnyddir yn gyffredin fel mai dim ond eich enw cyntaf a'ch cyfenw sy'n ymddangos ar bapur pleidleisio, a thrwy hynny ddileu eich enw canol.
Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'n glir bod enw a ddefnyddir yn gyffredin yn un sy'n wahanol i unrhyw enw cyntaf neu gyfenw arall.2 Mae hyn yn golygu na all enw cyntaf ar ei ffurf wreiddiol gael ei ddefnyddio fel enw cyffredin.
Os ydych yn dymuno defnyddio enw cyntaf a/neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, yna rhaid iddynt fod yn wahanol i'ch enw llawn fel y mae'n ymddangos ar y ffurflen enwebu. Er enghraifft, yn achos Andrew John Smith, ni allai ddefnyddio Andrew Smith fel ei enw cyffredin, er y gallai ddefnyddio Andy Smith (os mai Andy oedd ei enw cyffredin).
Os oes gennych gysylltnod yn eich cyfenw gallwch ddewis defnyddio un rhan o'ch cyfenw os mai dyma sut y cewch eich adnabod yn gyffredin. Er enghraifft, yn achos Andrew Smith-Roberts, gallai ddefnyddio Andrew Roberts neu Andrew Smith (os mai un o'r rhain oedd yr enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer).
Cewch hefyd ddefnyddio llythrennau cyntaf fel rhan o'ch enw a ddefnyddir yn gyffredin os cânt eu defnyddio'n gyffredin mewn perthynas â chi.
Ar gyfer etholiadau ar neu ar ôl 2 Mai 2024
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddeddfwriaeth sy'n caniatáu mwy o hyblygrwydd yn yr enwau y gall ymgeisydd eu rhoi ar ei bapur enwebu (ac felly, ar y papur pleidleisio). Bydd y ddeddfwriaeth hon yn weithredol ar gyfer yr etholiadau a gynhelir ym mis Mai 2024.
Os ydych:
- yn defnyddio cyfenw neu enw cyntaf sy'n wahanol i unrhyw gyfenw neu enw cyntaf arall sydd gennych
- yn defnyddio un enw cyntaf neu gyfenw neu fwy mewn ffordd wahanol i'r hyn a nodir ar eich ffurflen enwebu
gallwch nodi eich enw neu enwau a ddefnyddir yn gyffredin ar eich ffurflen enwebu yn ogystal â'r enwau llawn a ddarparwyd gennych.3
Yna byddai unrhyw enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn ymddangos ar:
- ddatganiad ynghylch y personau a enwebwyd
- yr hysbysiad etholiad, a
- y papurau pleidleisio
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gwrthod enwau a ddefnyddir yn gyffredin sy'n debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu sy'n anweddus neu'n sarhaus.4 Os na chaniateir yr enw(au), bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ysgrifennu atoch gan nodi'r rheswm dros hynny. Yn yr achosion hynny, defnyddir eich enw gwirioneddol, yn lle.
Os caiff y blwch ar gyfer enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar y papur enwebu ei adael yn wag, yna bydd eich enw cyntaf neu gyfenw gwirioneddol, yn dibynnu ar ba flwch ar gyfer enwau a ddefnyddir yn gyffredin a adawyd yn wag, yn cael ei ddefnyddio.
Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich ffurflen enwebu. Felly, os byddwch yn dewis rhoi enw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i chi sicrhau ei fod yn enw cyntaf neu'n gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin gennych.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 6(2A, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 6(2A) Atod 1 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 14(2B) Atod 1 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Llofnodion llofnodwyr
Mae angen i bob ffurflen enwebu gael ei llofnodi gan y 10 o etholwyr sydd ar y gofrestr etholiadol seneddol yn yr etholaeth rydych yn bwriadu sefyll etholiad ynddi.
Bydd y ddau etholwr cyntaf yn llofnodi ac yn ysgrifennu eu henwau fel y cynigydd a'r eilydd, a bydd yr wyth arall yn llofnodi fel cefnogwyr.
Rhaid i'r etholwyr fod o oedran pleidleisio erbyn y diwrnod pleidleisio a bod ar y gofrestr sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad.
Dim ond un ffurflen enwebu all bob etholwr danysgrifio yn yr etholiad.1
Os bydd etholwr yn llofnodi dau neu fwy o ffurflenni enwebu, bydd y ffurflen enwebu gyntaf a ddanfonir at y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cael ei dderbyn a bydd y gweddill yn annilys.
Felly, dylech bob amser holi, cyn gofyn i lofnodwr lofnodi eich ffurflen, p'un a yw eisoes wedi llofnodi ffurflen rhywun arall.
Os bydd ffurflen enwebu yn cynnwys mwy na deg llofnod, dim ond y deg cyntaf a dderbynnir.2 Os bydd unrhyw un o'r deg llofnod cyntaf yn annilys, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) bennu bod y ffurflen enwebu'n annilys, waeth p'un a yw'r ffurflen yn cynnwys mwy na deg ai peidio.3
Nid oes dim yn eich atal rhag llofnodi eich enwebiad eich hun ar yr amod eich bod wedi'ch cofrestru yn yr etholaeth.
Gall fod rhai etholwyr ar y gofrestr sydd wedi cofrestru'n ddi-enw am eu bod yn poeni am eu diogelwch.
Ni chaiff etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddi-enw lofnodi ffurflenni enwebu.
Dangosir etholwyr di-enw ar y gofrestr gyda'u rhif pleidleisio a'r llythyren 'N' yn unig (yn hytrach na'u henw a chyfeiriad).
Ni ddylai ffurflenni enwebu gael eu newid ar ôl eu llofnodi. Dylai eich holl fanylion gael eu cwblhau cyn i chi wahodd unrhyw un i lofnodi eich enwebiad. Unwaith y bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wedi derbyn ffurflen enwebu, ni all llofnodion gael eu tynnu'n ôl.
Y rhif etholwr
Mae'n rhaid rhoi rhif etholwr pob tanysgrifiwr fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, ar y ffurflen enwebu.4 Mae'r rhif etholwr yn cynnwys rhifau neu lythrennau nodedig y dosbarth pleidleisio, sydd ar flaen y gofrestr fel arfer.
Bydd y Swyddog Cofrestru (Gweithredol) a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gallu eich cynghori ar sut y gosodir y gofrestr.
Bydd hawl gennych i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol.5
Dylech ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod eich ffurflen enwebu wedi'i llofnodi'n gywir.
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data , a'r ddarpariaeth etholiadol y cawsoch y gofrestr drwyddi, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'r gofrestr etholwyr yn ddiogel ac ar ôl i chi orffen ei defnyddio, dylech sicrhau ei bod yn cael ei dinistrio'n ddiogel.
Ystyriaethau diogelu data
Wrth gasglu gwybodaeth am lofnodwr, dylech nodi at ba ddibenion y caiff y wybodaeth ei defnyddio, a sut y caiff data personol eu prosesu a'u cadw'n ddiogel. Sail gyfreithiol casglu'r wybodaeth yn y ffurflen hon yw bod ei hangen er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac arfer awdurdod swyddogol fel y nodir yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a'r rheoliadau cysylltiedig.
Dylech hefyd esbonio y bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â'r Swyddog Canlyniadau. I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu a phrosesu data, dylech gyfeirio at hysbysiad preifatrwydd y Swyddog Canlyniadau ar ei wefan. Mae deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y gall y ddeddfwriaeth diogelu data bresennol effeithio arnoch chi fel ymgeisydd.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 7(2), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheolau 7(2) a 12(2)(b), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 7, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 108, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 a rheoliad 107, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
Cydsynio ag enwebiad
Rhaid i chi gydsynio'n ffurfiol â'ch enwebiad yn ysgrifenedig.1
Rhagnodir cynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad o dan y gyfraith a rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen gyfan er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys. Rydym wedi darparu ffurflen cydsynio i enwebu fel rhan o'r pecyn enwebu:
Ar y ffurflen, gofynnir i chi nodi eich bod yn gymwys ac nad ydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll.
Rhaid i chi hefyd roi eich dyddiad geni.
Ni chewch lofnodi'r ffurflen ganiatâd yn gynt nag un mis calendr cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich papurau enwebu.2
Rhaid i rywun arall dystio eich llofnod, a rhaid i'r tyst lofnodi'r ffurflen.3
Rhaid i enw llawn a chyfeiriad llawn y tyst gael ei nodi ar y ffurflen cyfeiriad cartref.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all dystio'r ffurflen cydsynio ag enwebiad.4
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 8(1)(a), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 8(1)(b), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 8(1)(b), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Ffurflen cyfeiriad cartref
Rhaid i'r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan:1
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad cartref yn llawn
Eich cyfeiriad cartref:
- rhaid iddo gael ei gwblhau'n llawn
- ni ddylai gynnwys talfyriadau
- rhaid mai eich cyfeiriad cartref cyfredol ydyw
- ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni fyddwch yn rhedeg busnes o'ch cartref)
Dewis peidio â chyhoeddi eich cyfeiriad cartref
Gallwch ddewis i'ch cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papur pleidleisio.
Yn yr achos hwn, rhaid i'r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys y canlynol, yn ogystal â'ch enw llawn a'ch cyfeiriad cartref:
- datganiad, wedi'i lofnodi gennych chi, sy'n nodi nad ydych yn awyddus i'ch cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi
- (ar gyfer etholiadau a gynhelir cyn 2 Mai 20024) enw'r etholaeth y mae eich cyfeiriad cartref ynddi (os yw eich cyfeiriad cartref yn y DU)
- (ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024) enw etholaeth Senedd y DU neu'r ardal berthnasol y mae eich cyfeiriad cartref ynddi (os yw eich cyfeiriad cartref yn y DU)
- os ydych yn byw y tu allan i'r DU, enw'r wlad lle lleolir eich cyfeiriad cartref
Nid oes angen i'ch cyfeiriad fod yn yr etholaeth lle rydych yn bwriadu sefyll.
Os byddwch yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, oni bai eich bod yn darparu cyfeiriad swyddfa, caiff eich cyfeiriad cartref fel y'i rhoddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref ei gyhoeddi o hyd ar yr hysbysiad o asiantiaid etholiad. Dyma'r achos hyd yn oed pan fyddwch wedi dewis peidio â gwneud eich cyfeiriad cartref yn gyhoeddus ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.
Ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024, ystyr yr ardal berthnasol yw:
Ar gyfer cyfeiriadau yn Lloegr:
- os yw'r cyfeiriad mewn dosbarth lle mae cyngor dosbarth, y dosbarth hwnnw;
- os yw'r cyfeiriad mewn sir lle nad oes dosbarthau sydd â chynghorau, y sir honno;
- os yw'r cyfeiriad yn un o fwrdeistrefi Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;
- os yw'r cyfeiriad yn Ninas Llundain (gan gynnwys y Deml Fewnol a'r Deml Ganol), Dinas Llundain; ac
- os yw'r cyfeiriad ar Ynysoedd Scilly, Ynysoedd Scilly
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yng Nghymru:
- os yw'r cyfeiriad mewn sir, y sir honno;
- os yw'r cyfeiriad mewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yn yr Alban:
- yr ardal llywodraeth leol y mae'r cyfeiriad ynddi
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yng Ngogledd Iwerddon:
- y dosbarth llywodraeth leol y mae'r cyfeiriad ynddo
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran pleidiau gwleidyddol
Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth benodol ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran plaid wleidyddol am y wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chyflwyno fel rhan o'u papurau enwebu.
Er mwyn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig, rhaid bod y blaid wedi'i chofrestru ar gofrestr o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn yn http://search.electoralcommission.org.uk a bod wedi'i rhestru'n blaid y caniateir iddi gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru (os yn sefyll etholiad yng Nghymru), Lloegr (os yn sefyll etholiad yn Lloegr) neu'r Alban (os yn sefyll etholiad yn yr Alban).
Bydd hefyd angen i chi gyflwyno tystysgrif awdurdodi i allu sefyll ar ran y blaid honno. Os ydych hefyd am ddefnyddio arwyddlun y blaid, bydd hefyd angen i chi gyflwyno ffurflen gais am arwyddlun fel rhan o'ch enwebiad.
Y dystysgrif awdurdodi
Mae pleidiau gwleidyddol yn awdurdodi ymgeiswyr i sefyll ar eu rhan drwy roi tystysgrif awdurdodi. Rhaid i'r dystysgrif hon nodi y gall yr ymgeisydd a enwir sefyll ar eu rhan a chaniatáu iddo ddefnyddio un o'r canlynol:1
- union enw'r blaid fel y'i cofrestrwyd â'r Comisiwn
- un o ddisgrifiadau cofrestredig y blaid
- eich dewis naill ai o enw'r blaid gofrestredig neu'n un o'r disgrifiadau cofrestredig.
Dylai'r Swyddog Enwebu (neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran) fod yn hynod ofalus wrth gwblhau'r dystysgrif awdurdodi. Os yw'r dystysgrif yn awdurdodi enw plaid/disgrifiad penodol ac nad yw'n cyfateb i enw'r blaid/disgrifiad ar y papur enwebu, bydd yr enwebiad cyfan yn annilys.2
Rhaid i'r dystysgrif awdurdodi gael ei llofnodi gan Swyddog Enwebu cofrestredig y blaid wleidyddol, neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi gan y Swyddog Enwebu i weithredu ar ei ran, a rhaid iddi ddod i law y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, sef 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.3
Os ydych yn sefyll ar ran dwy blaid neu fwy, bydd angen i chi gael tystysgrif awdurdodi gan Swyddog Enwebu'r naill blaid gofrestredig a'r llall (neu bobl a awdurdodwyd i weithredu ar ei ran).4
Rhestrir disgrifiadau ar y cyd ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn ar dudalen gofrestru'r pleidiau perthnasol.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 12(3A) Atod 1 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 6A(1) Atod 1 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 6A(1B) Atod 1 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Cais i ddefnyddio arwyddlun ar y papur pleidleisio
Os ydych wedi eich awdurdodi gan blaid wleidyddol i ddefnyddio enw'r blaid neu ddisgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio, gallwch hefyd wneud cais am i un o arwyddluniau swyddogol y blaid gael ei argraffu ar y papur pleidleisio wrth ymyl eich enw.1
Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig am arwyddlun a'i gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Rhaid i'r cais ddod i law y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.2
Gall plaid gofrestru hyd at dri arwyddlun. Efallai y byddwch am holi eich plaid (e.e y swyddog enwebu neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran) ynghylch pa arwyddlun i'w ddefnyddio. Cofiwch wneud cais am arwyddlun cyfredol. Caiff ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran dwy blaid gofrestredig neu fwy ac sy'n defnyddio disgrifiad ar y cyd ddefnyddio arwyddlun sydd wedi'i gofrestru gan un o'r pleidiau gwleidyddol.3
Mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig a'i gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn i'r enwebiadau gau, h.y. 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.4
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ddarparu ffurflen y gallwch ei defnyddio i wneud y cais hwn neu, fel arall, gallwch ddefnyddio'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun a gynhyrchwyd gan y Comisiwn.
Dylai'r cais nodi enw'r blaid wleidyddol a'r disgrifiad o'r arwyddlun i'w ddefnyddio, fel y'u rhestrir ar gofrestr ar-lein o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn. Ni ellir newid arwyddluniau cofrestredig mewn unrhyw ffordd.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 19(2A) Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 19(2AA) Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 19(2AA) Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Cyflwyno eich papurau enwebu
Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich papurau enwebu, gan gynnwys y ffurflen cyfeiriad cartref a'r ffurlfen cydsynio ag enwebiad, a lle rydych yn sefyll ar ran plaid, y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun, yn cael eu cyflwyno i'r man a nodwyd ar yr hysbysiad etholiad erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
Os byddwch yn penodi asiant etholiad, bydd hefyd angen i chi gyflwyno ei ffurflen benodi erbyn y dyddiad cau hwn.
Dim ond nifer gyfyngedig o bobl a gaiff gyflwyno eich ffurflen enwebu a'ch ffurflen cyfeiriad cartref. Dim ond chi, eich cynigydd neu eilydd, neu eich asiant etholiad (os bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wedi derbyn hysbysiad blaenorol o'u penodiad) all ddanfon eich ffurflen enwebu a'ch ffurflen cyfeiriad cartref).2
Ni chyfyngir ar bwy all gyflwyno'ch ffurflen cydsynio ag enwebiad, eich tystysgrif awdurdodi na'ch ffurflen gwneud cais am arwyddlun, ond rydym yn argymell y dylech chi, eich asiant, eich cynigydd neu eilydd, neu rywun rydych yn ymddiried ynddo wneud hyn, fel y gallwch fod yn siŵr y caiff y cydsyniad ei gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar amser.
Dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) cyn gynted â phosibl er mwyn gweld pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Byddwch yn gallu cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) drwy eich swyddfa etholiadau leol. Gellir cael manylion cyswllt o'n gwefan.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 6(1) Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Sut y dylai papurau enwebu gael eu cyflwyno?
Rhaid i'r ffurflen enwebu, y ffurflen cyfeiriad cartref a'r ffurflen cydsynio i enwebiad gael eu cyflwyno'n bersonol ac ni ellir eu postio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall.1
Yr unig eithriad yw pan fo ymgeisydd dramor ac yn yr achos hwnnw, caiff anfon ei gydsyniad ag enwebiad drwy gyfrwng electronig.
Gellir cyflwyno'r dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun drwy'r post, ond ni ellir eu ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall.2
Rhaid cyflwyno fersiwn wreiddiol pob papur a gwblhawyd.3
Er enghraifft, byddai tystysgrif awdurdodi a anfonwyd fel atodiad e-bost i'w argraffu, er enghraifft, yn ei gwneud yn ‘gopi o ddogfen’ ac nid yn ddogfen wreiddiol.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheolau 6A(1) a 19(2)(b), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1, Rheol, 6 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Pryd y dylai papurau enwebu gael eu cyflwyno?
Dylech gyflwyno eich papurau enwebu cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi digon o amser i chi gyflwyno papurau enwebu newydd os bydd eich set gyntaf yn cynnwys unrhyw wallau.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cadarnhau'r union fanylion o ran pryd a ble y gellir eu cyflwyno ar yr hysbysiad etholiad.
Caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi erbyn 4pm ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl i'r gwrit gael ei dderbyn gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).1
Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol.
Gallwch gyflwyno papurau enwebu rhwng 10am a 4pm o'r diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad tan 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Os byddwch yn newid eich meddwl ar ôl i chi gyflwyno'ch papurau enwebu ac yn penderfynu nad ydych am sefyll yn yr etholiad mwyach, gallwch dynnu'ch enw yn ôl, cyn belled â'ch bod yn gwneud hynny erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Yr ernes
I enwebiad ymgeisydd fod yn ddilys, mae'n rhaid ernesau £500 gyda'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn i'r enwebiadau gau, erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Gellir talu'r ernes gan ddefnyddio:1
- arian parod (punnoedd Sterling yn unig)
- drafft bancwr yn y DU
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) hefyd dderbyn ernes ar ffurf siec cymdeithas adeiladu, cerdyn debyd neu gredyd neu drosglwyddiad electronig. Fodd bynnag, gall wrthod gwneud hynny. Os ydych yn ystyried talu'r ernes yn un o'r ffyrdd hyn, dylech holi'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) cyn gynted â phosibl i gadarnhau a yw'r dull o dalu'n dderbyniol.
Os bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn caniatáu i'r ernes gael ei thalu drwy gerdyn debyd neu gredyd, gall y cwmni dan sylw godi ffi am y trafodyn. Os felly, bydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol yn ogystal â'r ernes o £500.
Ad-delir ernes ymgeiswyr a gaiff fwy na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys yn yr etholaeth. Bydd ymgeiswyr sy'n cael 5% neu'n llai o'r cyfanswm o bleidleisiau dilys yn yr etholaeth yn colli eu hernes.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Tynnu'n ôl fel ymgeisydd
Cewch dynnu'n ôl fel ymgeisydd drwy lofnodi a chyflwyno hysbysiad tynnu enw yn ôl, y mae'n rhaid i rywun arall ei dystio.1
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gyflwyno'r hysbysiad, ond rhaid gwneud hynny'n bersonol. Rhaid i'ch tyst hefyd lofnodi'r hysbysiad. Gallwch gael hysbysiad tynnu enw yn ôl gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu gallwch ei lawrlwytho o'n gwefan.
Os ydych y tu allan i'r DU ac am dynnu'n ôl, gall eich cynigydd lofnodi'r hysbysiad tynnu enw yn ôl ar eich rhan. Rhaid i'r hysbysiad tynnu enw yn ôl gael ei ategu gan ddatganiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan eich cynigydd yn cadarnhau eich absenoldeb.
Os ydych y tu allan i'r DU ac yn sefyll wedi eich enwebu gan fwy nag un ffurflen enwebu, dylech siarad â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) os ydych am dynnu eich enw yn ôl gan fod rheolau arbennig yn berthnasol yn yr achos hwn.
Mae'n rhaid cyflwyno'r hysbysiad tynnu enw yn ôl erbyn y terfyn amser ar gyfer tynnu enwau yn ôl (h.y. erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad).
Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl, nid yw'n bosibl tynnu'n ôl o'r etholiad, a bydd eich enw yn ymddangos ar y papur pleidleisio. Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, cewch eich ethol.
Os byddwch yn tynnu'n ôl fel ymgeisydd, ad-delir eich ernes.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Beth sy'n digwydd ar ôl i enwebiadau gau?
Ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiadau, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi datganiad o bersonau a enwebwyd erbyn 5pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
Bydd y datganiad yn cynnwys:2
- enw llawn neu enw a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer pob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys
- enwau ymgeiswyr nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, os o gwbl (h.y. ymgeiswyr annilys a'r rhai sydd wedi tynnu'n ôl), gan nodi'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach
- cyfeiriad cartref pob ymgeisydd, neu os ydynt wedi gwneud cais i beidio â gwneud eu cyfeiriad cartref yn gyhoeddus, yr etholaeth y mae eu cyfeiriad cartref ynddi (neu'r wlad os yw eu cyfeiriad cartref y tu allan i'r DU)
- disgrifiad pob ymgeisydd (os o gwbl)
Os oes unrhyw wrthwynebiadau, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi datganiad o bersonau a enwebwyd erbyn 4pm ar y diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, h.y. 4pm, 18 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.3
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 14 Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 1(b) Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Archwilio papurau enwebu ymgeiswyr eraill
Dim ond rhai pobl a gaiff fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu ac archwilio a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. Ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu a'ch ernes a'ch bod wedi eich enwebu'n ddilys, caiff y canlynol archwilio a gwrthwynebu ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref:1
- chi
- eich asiant etholiad (neu, os mai chi yw eich asiant eich hun, unrhyw berson a enwebir gennych)
- eich cynigydd neu eilydd (os ydych wedi cyflwyno mwy nag un ffurflen enwebu, dim ond y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a ddewiswyd gennych a gaiff fod yn bresennol. Os na ddewiswyd un, y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a gyflwynwyd gyntaf a gaiff wneud hynny)
Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg.
Caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un unigolyn arall a ddewisir gan ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt archwilio na gwrthwynebu papurau enwebu.
Ni chaiff unrhyw un arall, heblaw am y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a'i staff, fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Gwrthwynebu enwebiadau
Gellir gwneud gwrthwynebiadau i ddilysrwydd unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, h.y. 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
O dan un amgylchiad eithriadol, lle bo'r gwrthwynebiad ar sail y ffaith bod ymgeisydd wedi'i anghymhwyso am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy, gellir gwrthwynebu 18 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Bydd y cyfnod a ganiateir i wrthwynebu yn dibynnu ar bryd y cyflwynir y papurau enwebu.
Amserlen ar gyfer gwrthwynebiadau2
Enwebiadau a wneir hyd at 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid i wrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu gael eu cyflwyno rhwng 10am a hanner dydd ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Enwebiadau a wneir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid gwrthwynebu unrhyw ffurflen enwebu a gyflwynir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu rhwng 10am a 5pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Rhaid i unrhyw wrthwynebiad gael ei wneud ar adeg cyflwyno'r enwebiad neu'n syth wedi hynny.
Gwrthwynebu ar sail y ffaith bod ymgeisydd yn y carchar am flwyddyn neu fwy
Yn yr achos prin lle bo'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ystyried y gall ymgeisydd fod wedi'i anghymhwyso am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy, bydd yn cyhoeddi hysbysiad i wahodd gwrthwynebiadau ar y sail honno. Gellir gwneud unrhyw wrthwynebiad o'r fath rhwng 10am a 4pm ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Penderfyniadau ynglŷn â gwrthwynebiadau3
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wneir, ond caiff benderfynu bod enwebiad yn annilys am y rhesymau canlynol yn unig:
- nid yw manylion yr ymgeisydd neu'r llofnodwyr yn unol â gofynion y gyfraith
- ni lofnodwyd y papur fel sy'n ofynnol
- mae'r ymgeisydd wedi'i anghymhwyso am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy
Bydd penderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fod enwebiad yn ddilys yn derfynol ac ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad. Dim ond drwy ddeiseb etholiadol y gellir herio'r penderfyniad ar ôl etholiad.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 1 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 12 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
A fydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad ai peidio?
Bydd yr etholiad yn un diwrthwynebiad os bydd un o'r canlynol yn gymwys:
- dim ond un enwebiad dilys a geir
- caiff yr holl enwebiadau dilys eu tynnu'n ôl yn briodol erbyn y terfyn amser heblaw am un
Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn datgan yr un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys a fydd yn cael ei ethol cyn gynted â phosibl a bydd yn gwneud hysbysiad cyhoeddus yn cynnwys enwau'r rhai a gaiff eu hethol.
Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, rhaid i'r ymgeiswyr a etholwyd wneud datganiad o ran eu gwariant o hyd. Cewch ragor o wybodaeth yn ein canllawiau am gyflwyno ffurflenni gwariant a dechrau yn y swydd.
Marwolaeth ymgeisydd
Mae effaith marwolaeth ymgeisydd cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan yn dibynnu ar b'un a oedd yr ymgeisydd dan sylw yn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig ai peidio.
Yr adeg y caiff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) brawf o farwolaeth yr ymgeisydd yw'r ffactor perthnasol, nid union amser y farwolaeth.
Marwolaeth ymgeisydd annibynnol1
Os bydd ymgeisydd annibynnol yn marw, bydd yr etholiad yn parhau yn ôl y drefn. Os bydd yr ymgeisydd a fu farw yn cael y nifer mwyaf o bleidleisiau, ni chaiff ei ethol a chaiff yr etholiad ei ailgynnal. Ni fydd angen unrhyw enwebiadau newydd: bydd yr holl ymgeiswyr gwreiddiol wedi'u henwebu o hyd ar gyfer yr etholiad newydd a chanlyniad yr etholiad hwnnw fydd yn pennu p'un a gaiff yr ernesau eu cadw neu eu had-dalu. Ni chaniateir unrhyw enwebiadau newydd ar gyfer yr etholiad a gaiff ei hailgynnal, ond caiff ymgeiswyr dynnu'n ôl.
Os nad yr ymgeisydd annibynnol a fu farw a gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y bleidlais wreiddiol, yr ymgeisydd a gafodd y nifer fwyaf a gaiff ei ethol, ac nid effeithir ar yr etholiad. Os daeth yr ymgeisydd a fu farw yn gydradd gyntaf gyda'r un nifer o bleidleisiau ag unrhyw ymgeisydd arall, caiff yr ymgeisydd arall ei ethol.
Os mai dim ond dau unigolyn sydd wedi'u henwebu a bod ymgeisydd annibynnol yn marw, caiff yr etholiad ei drin fel etholiad diwrthwynebiad a chaiff yr ymgeisydd arall ei ethol.
O dan yr holl amgylchiadau, ad-delir ernes yr ymgeisydd a fu farw.
Marwolaeth ymgeisydd plaid2
Os caiff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) brawf a'i fod yn fodlon cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan fod ymgeisydd sy'n sefyll ar ran plaid wleidyddol (neu fel ymgeisydd ar y cyd sy'n sefyll ar ran dwy blaid neu fwy) wedi marw, caiff yr etholiad ei atal ar unwaith. Os bydd y bleidlais wrthi'n mynd rhagddi neu'r pleidleisiau wrthi'n cael eu cyfrif, bydd y broses honno'n cael ei hatal. Cynhelir etholiad newydd.
Ni fydd angen unrhyw enwebiadau newydd: bydd yr holl ymgeiswyr gwreiddiol wedi'u henwebu o hyd ar gyfer yr etholiad newydd a chanlyniad yr etholiad hwnnw fydd yn pennu p'un a gaiff yr ernesau eu cadw neu eu had-dalu. Ni chaniateir unrhyw enwebiadau newydd ar gyfer yr etholiad newydd, ac eithrio'r ffaith y gellir enwebu ymgeisydd newydd i sefyll ar ran plaid (neu bleidiau) yr ymgeisydd a fu farw. Caiff unrhyw ymgeiswyr presennol dynnu'n ôl cyn y terfyn amser ar gyfer tynnu'n ôl o'r etholiad newydd. Rhaid cyflwyno papurau enwebu'r ymgeisydd sy'n sefyll ar ran plaid (neu bleidiau) yr ymgeisydd a fu farw erbyn diwedd y cyfnod enwebu, yn unol â'r amserlen newydd.
Marwolaeth Llefarydd Tŷ'r Cyffredin3
Os caiff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) brawf a'i fod yn fodlon cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan fod ymgeisydd a oedd yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin sy'n ceisio ei ail-ethol wedi marw, caiff yr etholiad ei atal ar unwaith. Os bydd y bleidlais wrthi'n mynd rhagddi neu'r pleidleisiau wrthi'n cael eu cyfrif, bydd y broses honno'n cael ei hatal. Cynhelir etholiad newydd.
Os bydd y Llefarydd yn marw, caniateir enwebiadau newydd ar gyfer yr etholiad newydd, a rhaid i'r rhain gael eu cyflwyno yn y modd arferol ac erbyn y terfyn amser ar gyfer enwebiadau yn seiliedig ar yr amserlen newydd.
Etholiad newydd
Bydd yr amserlen ar gyfer unrhyw etholiad newydd yn cael ei baratoi fel petai'r writ wedi'i dderbyn saith diwrnod gwaith ar ôl i'r prawf o farwolaeth gael ei dderbyn gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gosod diwrnod pleidleisio newydd ac yn rhoi manylion i chi o'r amserlen etholiadol newydd.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 63 Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 64 Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Pleidleisiau post
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi arweiniad ar bleidleisio drwy'r post a'r prosesau dan sylw.
Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys:
- Pwy all wneud cais i bleidleisio drwy'r post
- Beth sydd wedi'i gynnwys mewn pecynnau pleidleisio drwy'r post
- Agor pleidleisiau post a phwy all fod yn bresennol
- Y broses agor pleidleisiau post
- Penodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post a'u rôl
Mae'r canllawiau hefyd yn ymdrin â'ch dyletswydd i gadw cyfrinachedd yn ystod sesiynau agor pleidleisiau post.
Mae Deddf Etholiadau 2022 wedi cyflwyno cyfyngiadau penodol o ran ymdrin â phleidleisiau post. Bydd angen i chi sicrhau bod eich cefnogwyr yn ymwybodol ei bod yn drosedd trin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rywun y maent yn gofalu amdano a dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr.
Pwy all wneud cais i bleidleisio drwy'r post?
Gall y canlynol wneud cais i bleidleisio drwy’r post yn etholiadau Senedd y DU drwy gyflwyno cais i’w Swyddog Cofrestru Etholiadol:
- Person 18 oed neu’n hŷn sydd wedi cofrestru i bleidleisio
- Person 18 oed neu’n hŷn sydd wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio
- Person sydd wedi’i benodi i bleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall
Rhaid i'r cais ddod i law'r Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar yr unfed diwrnod gwaith ar ddeg cyn yr etholiad. 1
Nid oes gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol unrhyw ddisgresiwn i ymestyn y dyddiad cau am ba bynnag reswm.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pecynnau pleidleisio drwy'r post
Bydd pecynnau pleidleisio drwy'r post yn cael eu hanfon at etholwyr o tua phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio.
Bydd etholwyr a gofrestrodd yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ac sydd wedi gwneud cais am bleidlais bost yn agos at neu ar yr un pryd yn cael eu pecynnau pleidleisio drwy'r post dim ond pan fydd penderfyniad wedi'i wneud am eu cais am bleidlais bost, hyd yn oed os yw eu henwau wedi'u hychwanegu at ddiweddariad terfynol y gofrestr ar y pumed diwrnod gwaith.
Bydd etholwyr wedyn yn marcio eu papur pleidleisio, yn cwblhau’r datganiad pleidleisio drwy’r post drwy ddarparu eu llofnod a’u dyddiad geni, ac yn eu dychwelyd i’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) cyn diwedd y cyfnod pleidleisio (h.y. 10pm ar y diwrnod pleidleisio).
Nid oes gan ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy'r post hawl i fod yn bresennol pan ddosberthir pleidleisiau post.
Beth y mae'r pecyn pleidleisio drwy'r post yn ei gynnwys?
Mae pecynnau pleidleisio drwy’r post yn cynnwys y canlynol:
- amlen A yw'r amlen y mae'r etholwr yn dychwelyd ei bapurau pleidleisio ynddi. Fe'i nodir â'r llythyren 'A' a'r geiriau 'amlen papur pleidleisio’
- amlen B yw'r amlen y bydd yr etholwr yn ei defnyddio i ddychwelyd amlen y papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post. Mae wedi’i farcio â’r llythyren ‘B’ a chyfeiriad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
- mae'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cynnwys enw'r etholwr, rhif y papur pleidleisio a anfonwyd ato, cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio drwy'r post a lle i'r etholwr lofnodi a nodi ei ddyddiad geni
- y papur pleidleisio
Os caiff yr etholiad ei gyfuno â phleidlais arall, efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wedi penderfynu cyfuno dosbarthiad y pleidleisiau post.
Os felly, bydd y pecyn pleidleisio drwy'r post hefyd yn cynnwys y papur pleidleisio ar gyfer y digwyddiad(au) etholiadol arall/eraill.
Agor pleidleisiau post
Pwy all fynychu agoriad pleidleisiau post
Mae gan y bobl ganlynol hawl i fod yn bresennol pan agorir pleidleisiau post a ddychwelwyd:
- chi
- eich asiant etholiad neu berson a benodwyd gennych i fod yn bresennol yn ei le.1
- asiantiaid rydych wedi'u penodi i fynychu agoriadau ar eich rhan.2 Am fanylion ar sut i benodi'r asiantiaid hyn gweler Penodi eich asiant etholiad.
Dyletswydd i gadw cyfrinachedd yn ystod sesiynau agor pleidleisiau post
Bydd papurau pleidleisio yn cael eu cadw wyneb i lawr drwy gydol sesiwn agor pleidleisiau post.3 Mae gan unrhyw un sy’n mynychu sesiwn agor ddyletswydd i gadw cyfrinachedd ac ni ddylai:
- cael
- ceisio cael
- cyfathrebu i berson arall ar unrhyw adeg
- datgelu sut mae unrhyw bapur pleidleisio penodol wedi'i farcio neu drosglwyddo unrhyw wybodaeth o'r fath a gafwyd o'r sesiwn.
Mae'n dilyn felly na chaniateir cadw tali o sut mae papurau pleidleisio wedi cael eu marcio.
Gall unrhyw un sy’n cael eu canfod yn euog o dorri’r gofynion hyn wynebu dirwy, neu gael eu carchari am hyd at chwe mis. Yng Nghymru a Lloegr, mae'r ddirwy yn ddiderfyn; yn yr Alban, mae hyd at £5,000.6
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 69,Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 84(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 84(5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 66 (3A)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.66 (3A)(b) a (4)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.66(6) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
Penodi asiantiaid pleidleisio drwy’r post
Gallwch benodi asiantiaid i fynychu agoriadau pleidleisiau post.
Gellir penodi unrhyw un, ac eithrio’r bobl ganlynol a restrir isod, yn asiant pleidlais bost:
- y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff
- partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff
- unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Gallwch chi a'ch asiant etholiadol weithredu'n awtomatig fel un o'r asiantiaid hyn heb fod angen penodiad swyddogol.1
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn dweud wrthych beth yw uchafswm nifer yr asiantiaid pleidleisio drwy’r post y gallwch eu penodi.2 Bydd pob ymgeisydd yn cael penodi yn union yr un nifer.
Mae’n rhaid gwneud y cais i benodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Mae’n rhaid i'r cais gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl sy'n cael eu penodi.3 Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflen penodi asiant pleidlais drwy'r post y Comisiwn.
Mae angen cyflwyno ffurflenni penodi ar gyfer asiantiaid pleidleisio drwy'r post i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn yr amser a bennwyd ar gyfer agor pleidleisiau post y maent am fod yn bresennol ar ei gyfer.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn y dechrau sydd wedi'i drefnu ar gyfer pob sesiwn agor pleidleisiau post.4
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, gallwch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen benodi berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).5 Mae'n rhaid hysbysu am y penodiadau o dan yr amgylchiadau hyn heb oedi.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall asiantiaid pleidleisio drwy'r post ei wneud a'r hyn na allant ei wneud a'r hyn y gallant ddisgwyl ei weld mewn sesiynau agor pleidleisiau post ar gael yn ein canllawiau 'Beth yw gwaith asiant pleidleisio drwy'r post?' a 'Camau'r broses agor pleidleisiau post'.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 69(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 80 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 80 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 69(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
Beth yw gwaith asiant pleidleisio drwy'r post?
Caniateir i asiant pleidleisio drwy'r post fynychu ac arsylwi sesiynau agor pleidleisiau post, a gynhelir gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Ym mhob sesiwn agor bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn penderfynu a yw'r dyddiad geni a'r llofnod a ddarparwyd gan etholwyr ar eu datganiadau pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r llofnod a'r dyddiad geni a ddarparwyd yn flaenorol ac a gedwir ar eu cofnodion. Os na fydd y rhain yn cyfateb, caiff y bleidlais bost ei gwrthod.
Mae gan asiant pleidleisio drwy'r post hawl i arsylwi, ond nid i ymyrryd â'r broses hon. Fodd bynnag, gall asiant pleidleisio drwy'r post wrthwynebu penderfyniad Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i wrthod pleidlais bost.1 Ni fydd yn effeithio ar benderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), ond bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cofnodi unrhyw wrthwynebiadau drwy farcio'r datganiad pleidleisio drwy'r post â'r geiriau 'gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod'.
Fel eich asiantiaid pleidleisio drwy’r post, mae gennych chi, eich asiant etholiad a’r person y gallech fod wedi’i benodi i fod yn bresennol ar ran eich asiant etholiad hefyd yr hawl i wrthwynebu gwrthodiad.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn esbonio'r broses agor pleidleisiau post i chi a gall roi gwybodaeth i chi am y gweithdrefnau i'w dilyn, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud yn y sesiwn. Dylech gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pryd y caiff amlenni pleidleisiau post eu hagor a sut y byddwch yn gwybod pryd y mae achlysur agor amlenni yn cael ei gynnal?
Mae'n debygol y cynhelir sawl achlysur agor amlenni cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal ag ar y diwrnod pleidleisio ei hun.
Mae’n rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol):
- rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i ymgeiswyr ynghylch pryd a ble y cynhelir y sesiynau1
- nodi faint o asiantiaid pleidleisio drwy'r post a gaiff fod yn bresennol ym mhob sesiwn
Bydd achlysur agor amlenni terfynol ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau er mwyn agor amlenni unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir â llaw i orsafoedd pleidleisio. Gellir cynnal y sesiwn hon yn lleoliad y cyfrif neu mewn lleoliad arall. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi gwybod i chi am leoliad yr agoriad terfynol.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses a gynhaliwyd wrth agor pleidleisiau post gweler Camau'r broses agor pleidleisiau post
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Camau’r broses agor pleidleisiau post
Gellir crynhoi'r broses o agor amlenni pleidleisiau post fel a ganlyn:
Cam | Proses |
---|---|
1 | Caiff pleidleisiau post eu cludo i'r achlysur agor amlenni mewn blychau pleidleisio |
2 | Tynnir y prif amlenni (amlen B) allan a'u cyfrif |
3 | Cofnodir cyfanswm nifer y prif amlenni |
4 | Rhennir prif amlenni (amlen B) rhwng timau o staff agor |
5 | Mae'r staff yn agor pob prif amlen (amlen B) ac yn tynnu'r datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlen papur pleidleisio wedi'i selio (amlen A) |
6 | Bydd y staff yn cadarnhau bod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r rhif ar amlen A |
7 | Os bydd y rhifau'n cyfateb, bydd y staff yn cadarnhau bod yr etholwr wedi darparu llofnod a dyddiad geni (heb gadarnhau mai rhai'r etholwr ydynt ar y cam hwn) Bydd datganiadau pleidleisio drwy'r post heb lofnod a dyddiad geni yn peri i'r bleidlais bost gael ei gwrthod |
8 | Os bydd y datganiad neu amlen y papur pleidleisio ar goll, neu os na fydd y rhifau ar y datganiad ac amlen y papur pleidleisio yn cyfateb, rhoddir y ddogfen neu ddogfennau o'r neilltu, eu recordio a'u storio'n ddiogel mewn pecynnau |
9 | Mae’n rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ddilysu'r dyddiadau geni a'r llofnodion a ddarparwyd ar y datganiadau |
10 | Mae’n rhaid i’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fod yn fodlon bod y dyddiadau geni a’r Llofnodiadau ar y datganiadau yn cyfateb i’r rhai y cadwyd cofnod ohonynt yn flaenorol |
11 | Ar ôl cadarnhau'r llofnodion a'r dyddiadau geni, caiff datganiadau pleidleisio drwy'r post eu symud o'r byrddau |
12 | Bydd y staff yn agor amlenni'r papurau pleidleisio (amlen A) ac yn tynnu'r papur pleidleisio allan |
13 | Bydd y staff yn cadarnhau bod y rhif ar gefn y papur pleidleisio yn cyfateb i'r rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen A) |
14 | Caiff y papurau pleidleisio dilys (nid y pleidleisiau) eu cyfrif a chaiff y cyfanswm ei gofnodi |
15 | Rhoddir yr holl bapurau pleidleisio dilys mewn blychau pleidleisio ac yna cânt eu storio a'u danfon i leoliad y cyfrif i'w cyfrif ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio |
Paru datganiadau pleidleisio drwy'r post â phapurau pleidleisio drwy'r post
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cadw rhestrau o unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd dros dro, sef:1
- unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
- unrhyw ddatganiadau pleidleisio drwy'r post sydd heb ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gwirio'r rhestrau hyn yn rheolaidd i sicrhau, os gellir paru unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, y caiff y pleidleisiau post hynny eu hailgyflwyno i'r broses.2
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 88 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 88 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Datganiadau pleidleisio drwy'r post annilys ac wedi'u gwrthod
Papurau pleidleisio dilys yw'r papurau pleidleisio hynny y mae'r datganiad pleidleisio drwy'r post cysylltiedig wedi bodloni'r gwiriadau o ran llofnod a dyddiad geni.
Nid oes angen i nifer bach iawn o bleidleiswyr lofnodi eu datganiad pleidleisio drwy'r post. Bydd hepgoriad wedi'i roi i'r pleidleiswyr hyn am na allant lofnodi na darparu llofnod cyson oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. Bydd y datganiad pleidleisio drwy'r post a anfonir at etholwyr o'r fath yn egluro hyn.
Caiff papurau pleidleisio annilys eu rhoi o’r neilltu a'u storio mewn pecynnau diogel.
Oni bai bod hepgoriad wedi’i roi, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gwrthod datganiad pleidleisio drwy’r post os bydd llofnod a/neu ddyddiad geni ar goll neu os nad yw llofnod a/neu ddyddiad geni yn cyfateb i’r hyn a ddarparwyd yn flaenorol gan yr etholwr ac a gedwir ar gofnod.
Atodir datganiadau 'gwrthodwyd' at y papurau pleidleisio perthnasol neu amlenni'r papurau pleidleisio. Rhoddir y gair 'gwrthodwyd' arnynt ac fe'u dangosir i unrhyw asiantiaid sy'n bresennol.
Gall asiantiaid wrthwynebu penderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i wrthod unrhyw bleidlais bost ac, os gwnânt hynny, ychwanegir y geiriau ‘gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod’ ato. Fodd bynnag, mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn derfynol a bydd y bleidlais bost yn parhau i gael ei gwrthod.
Dogfennau pleidleisio drwy'r post a gyflwynwyd neu a adawyd gyda'r Swyddog Canlyniadau sydd wedi cael eu gwrthod
Mae Deddf Etholiadau 2022 wedi cyflwyno cyfyngiadau penodol ar gyflwyno pleidleisiau post mewn gorsafoedd pleidleisio neu eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau.
Os bydd unigolyn sy’n cyflwyno pleidlais bost i’r Swyddog Canlyniadau:
- ddim yn llenwi'r ffurflen pleidlais bost yn llawn (anghyflawn)
- yn cyflwyno pleidleisiau post ar ran mwy na'r nifer a ganiateir o etholwyr
- yn ymgyrchydd na chaniateir iddo drin pleidleisiau post
- ddim yn llenwi'r ffurflen pleidlais bost (wedi'i gadael ar ôl)
bydd y bleidlais bost yn cael ei gwrthod. Efallai y gwelwch y pleidleisiau post hyn a wrthodwyd wedi'u selio gyda disgrifiad o'u cynnwys wedi'i ysgrifennu ar bob pecyn.
Diwrnod Pleidleisio
Y diwrnod pleidleisio yw'r diwrnod y bydd gorsafoedd pleidleisio yn agor a bydd etholwyr yn ymweld â nhw i fwrw eu pleidleisiau yn bersonol. Dyma hefyd y diwrnod olaf y gall Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) dderbyn pleidleisiau post a ddychwelwyd. Weithiau gelwir y diwrnod pleidleisio yn “ddiwrnod etholiad”.
Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys:
- Lleoliadau gorsafoedd pleidleisio a'r broses bleidleisio
- Pwy all eich cefnogi ar y diwrnod pleidleisio (gan gynnwys asiantiaid pleidleisio a rhifwyr)
- Yr hyn y dylech chi a'ch ymgyrchwyr ei wneud neu na ddylech ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
- Beth sy'n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau
Gorsafoedd pleidleisio
Mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl i arsylwi ar weithrediadau y tu mewn i orsafoedd pleidleisio.1 Hefyd, gallwch benodi asiantiaid i fynychu gorsafoedd pleidleisio ar eich rhan.2 I gael rhagor o fanylion gweler ein canllawiau ar benodi asiantiaid pleidleisio .
Dod o hyd i leoliad gorsafoedd pleidleisio
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi hysbysiad cyhoeddus o leoliad gorsafoedd pleidleisio ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.3 Byddant yn rhoi copi o'r hysbysiad hwn i bob asiant etholiadol penodedig yn fuan ar ôl hyn.
Amseroedd agor gorsafoedd pleidleisio
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor ar y diwrnod pleidleisio rhwng 7am a 10pm. Caiff unrhyw bleidleiswyr sy'n aros mewn ciw yn eu gorsaf bleidleisio am 10pm bleidleisio, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael papur pleidleisio eto.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 30(1)(a) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 23 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Pwy all bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio'n bersonol yn eu gorsaf bleidleisio. Gall unrhyw un ar gofrestr etholiadol yr orsaf bleidleisio fynd ati i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mewn etholiad Senedd y DU, oni bai:
- eu bod yn bleidleisiwr post cofrestredig
- eu bod yn bleidleisiwr drwy ddirprwy cofrestredig a bod ei ddirprwy eisoes wedi pleidleisio ar ei ran neu wedi gwneud cais i bleidleisio ar ei ran
- nad ydynt yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
- maent yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi
- maent yn ddinesydd yr UE (ac eithrio dinasyddion o Weriniaeth Iwerddon, Cyprus a Malta, sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiad Senedd y DU)
- maent yn ddinesydd tramor cymwys yng Nghymru
- maent yn wladolyn tramor cymwys neu'n garcharor sy'n treulio dedfryd o 12 mis neu lai yn yr Alban
Bydd etholwyr yn cael cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad yn dweud wrthynt ble a phryd y gallant bleidleisio. Nid oes angen i etholwyr fynd â’u cerdyn pleidleisio i’r orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio, oni bai eu bod wedi’u cofrestru’n ddienw oherwydd risg i’w diogelwch.
Gofynion ID ffotograffig
Bydd gofyn i etholwyr sy’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ID ffotograffig cyn iddynt gael papur pleidleisio. Mathau o ID ffotograffig a dderbynnir:
- pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Gwyddelig)
- trwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE
- dogfen mewnfudo fiometrig
- cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
- Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
- Bathodyn Glas
- cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddwyd gan wladwriaeth AEE
- Pàs Bws Person Hŷn a gyllidir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Bws Person Anabl a gyllidir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Cerdyn Oyster 60+ a gyllidir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Freedom
- Cerdyn Hawl Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn yr Alban
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a hŷn a gyflwynir yng Nghymru
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyflwynir yng Nghymru
- SmartPass i Bobl Hŷn a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Anabledd Rhyfel a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass 60+ a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Hanner Pris a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
Gellir defnyddio dogfennau ID ffotograffig sydd wedi dod i ben fel ID ffotograffig a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio neu'r man llofnodi o hyd, cyhyd â bod y llun yn dal i fod yn ddigon tebyg i'r etholwr.
Os na fydd gan etholwr un o'r mathau hyn o ID ffotograffig a dderbynnir, gallant wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn nifer o ffyrdd:
- ar-lein yn https://www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr
- yn ysgrifenedig ar ffurflen gais bapur
- yn bersonol, os yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y gwasanaeth hwn yn eu swyddfa
Bydd angen i etholwyr dienw sydd am bleidleisio’n bersonol wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw. Dim ond yn ysgrifenedig, â ffurflen gais bapur, y gallwch wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw. Bydd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol yn gallu darparu’r ffurflen hon i’r etholwr ar gais. Gall yr etholwr ddychwelyd y ffurflen gais i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy’r post, â llaw neu drwy e-bostio copi wedi’i sganio.
Ni ddylai ymgeiswyr ac asiantiaid drin ceisiadau wedi’u cwblhau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfennau Etholwr Dienw. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr.
Dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post
Ni ellir rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr post cofrestredig yn yr orsaf bleidleisio, ond gallant ddychwelyd eu pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i gwblhau i'w gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Fel arall, gallant ddychwelyd eu pleidlais bost i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr etholaeth neu â llaw i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn y swyddfa etholiadau.
Os yw'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wedi dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer mwy nag un etholiad ar yr un diwrnod, bydd yn rhoi gwybodaeth i'r etholwyr yn esbonio ble y gellir dychwelyd eu pecynnau pleidleisio drwy'r post.
Rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio gael eu rhoi i staff gorsafoedd pleidleisio ac ni ddylent eu rhoi yn y blwch pleidleisio.
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddeddfwriaeth sy'n cyfyngu ar y modd y mae ymgyrchwyr yn ymdrin â dogfennau pleidleisio drwy'r post.
Mae'n drosedd i ymgyrchydd gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rywun y maent yn gofalu amdano.
Mae hefyd yn gosod terfyn ar nifer y pleidleisiau post y gellir eu cyflwyno i orsaf bleidleisio neu eu rhoi i'r Swyddog Canlyniadau ac yn cyflwyno gofyniad i lenwi ffurflen wrth wneud hynny.
Gall person gyflwyno pleidleisiau post ar ran pum etholwr arall yn ogystal â'u rhai eu hunain.
Mae'n ofynnol i berson sy'n cyflwyno pleidlais bost lenwi ffurflen sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd methu â chwblhau'r ffurflen yn arwain at wrthod y pleidleisiau post a gyflwynir mewn gorsaf bleidleisio neu a roddir i'r Swyddog Canlyniadau.
Beth yw'r broses bleidleisio arferol?
Gellir crynhoi'r broses bleidleisio fel a ganlyn.
Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn:
- gofyn i bleidleiswyr am eu henw a'u cyfeiriad cyn gwneud yn siŵr eu bod yn gymwys i bleidleisio drwy wirio yn erbyn y gofrestr etholwyr
- gofyn i’r pleidleisiwr ddangos ID ffotograffig
- dilysu’r ID ffotograffig
- marcio llinell syth yn erbyn cofnod y pleidleisiwr ar y gofrestr etholwyr
- galw enw a rhif etholiadol yr etholwr
- ysgrifennu rhif yr etholwr ar restr (y Rhestr Rhifau Cyfatebol) wrth ymyl rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddosbarthu
- sicrhau bod y papur pleidleisio yn cynnwys y marc swyddogol (e.e. cod bar neu ddyfrnod)
- plygu'r papur pleidleisio, a'i roi i'r etholwr heb ei blygu fel y gall weld yr holl opsiynau ar y papur pleidleisio
Yna bydd yr etholwr yn:
- mynd â'r papur pleidleisio i'r bwth pleidleisio, ac yn
- marcio’r papur pleidleisio yn breifat, oni bai bod cydymaith neu’r Swyddog Llywyddu yn cynorthwyo
- plygu'r papur pleidleisio wedi’i farcio ac yn dangos rhif y papur pleidleisio a'r marc adnabod unigryw ar gefn y papur pleidleisio i'r Swyddog Llywyddu
- rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ac yna gadael yr orsaf bleidleisio
Bydd gan yr orsaf bleidleisio gyfleusterau ar gyfer unrhyw bleidleisiwr sydd am gael ID wedi’i wirio yn breifat.
Lle nad yw’r pleidleisiwr yn dod ag ID gyda nhw neu’n dod â math anghywir o ID, bydd y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd i’r orsaf bleidleisio gyda math derbyniol o ID ffotograffig. Unwaith y dangosir ffurf dderbyniol o ID, bydd y pleidleisiwr yn cael papur pleidleisio.
Lle bo etholiad wedi ei gyfuno â digwyddiad etholiadol arall, bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn dosbarthu’r papurau pleidleisio ar gyfer pob digwyddiad etholiadol y mae'r pleidleisiwr yn gymwys i bleidleisio ynddynt.
Mae hyn yn golygu weithiau efallai na fydd etholwyr yn derbyn yr holl bapurau pleidleisio sy'n cael eu dosbarthu yn yr orsaf bleidleisio, oherwydd efallai na fydd ganddynt hawl i bleidleisio ym mhob digwyddiad etholiadol.
Os cyfunwyd pleidleisiau, gellir defnyddio un blwch pleidleisio ar gyfer pob un o’r etholiadau, neu gellir defnyddio blychau pleidleisio ar wahân ar gyfer pob etholiad ar wahân.
Hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio
Mae gan y Swyddog Canlyniadau gyfrifoldeb i sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch. Rhaid iddynt ddarparu ystod resymol o offer i bob gorsaf bleidleisio at ddibenion galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny.
Gall y Swyddog Llywyddu helpu unrhyw un na all farcio'r papur pleidleisio eu hunain.1
Fel arall, gall pleidleisiwr ddod â rhywun gyda nhw y maent yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i'w helpu i farcio eu pleidlais.2
Rhaid i'r person sy'n cynorthwyo'r pleidleisiwr fod yn 18 oed neu drosodd, a dim ond uchafswm o ddau bleidleisiwr yn yr etholiad y gall ei gynorthwyo.
Rhaid i unrhyw berson sy'n mynd i'r orsaf bleidleisio i gynorthwyo etholwr gwblhau datganiad i'r Swyddog Llywyddu cyn iddo gynorthwyo'r etholwr yn y bwth pleidleisio.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 Atodlen 1 rheol 39 ↩ Back to content at footnote 2
Casglu papurau pleidleisio drwy'r post o'r orsaf bleidleisio
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) drefnu i unrhyw bleidleisiau post a gyflwynwyd gan etholwyr mewn gorsaf bleidleisio gael eu casglu drwy gydol y diwrnod pleidleisio. Rhaid i'r Swyddog Llywyddu selio unrhyw bleidleisiau post a ddychwelwyd mewn pecyn cyn iddynt gael eu casglu. Gall unrhyw un o'ch asiantiaid sy'n bresennol ychwanegu eu sêl eu hunain at y pecyn hefyd, os dymunant.
Beth sy'n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd gau?
Pan fydd pob pleidleisiwr a gafodd bapur pleidleisio wedi pleidleisio, caiff y blwch pleidleisio ei selio gan y Swyddog Llywyddu a gall asiantiaid pleidleisio ychwanegu eu sêl eu hunain os dymunant. 1 Ar ôl i'r Swyddog Llywyddu gwblhau'r holl waith papur, eir â'r blwch pleidleisio wedi'i selio i leoliad y cyfrif.
- 1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pwy all eich cefnogi ar ddiwrnod yr etholiad?
Ar y diwrnod pleidleisio, gallwch gael cefnogaeth gan ymgyrchwyr, asiantiaid pleidleisio ac efallai y byddwch hefyd yn bwriadu defnyddio rhifwyr.
Mae'r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am
• asiantiaid pleidleisio a sut i'w penodi
• rôl rhifwyr
• y gofyniad i gynnal cyfrinachedd y bleidlais
• yr hyn y dylai ac na ddylai ymgeiswyr a'u cefnogwyr ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Asiantiaid pleidleisio
Cewch benodi pobl yn asiantiaid i fod yn bresennol yn y gorsafoedd pleidleisio.1
Beth yw gwaith asiant pleidleisio?
Er y gall asiant pleidleisio arsylwi'r bleidlais, nid oes rhaid iddynt fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio er mwyn i weithdrefnau pleidleisio a gweithdrefnau cysylltiedig gael eu cynnal. Mae gan asiantiaid pleidleisio sawl rôl bwysig i'w chwarae ar y diwrnod pleidleisio. Gallant:
- fod yn bresennol yn eu gorsaf bleidleisio cyn iddi agor er mwyn gwylio'r Swyddog Llywyddu yn dangos y blwch pleidleisio gwag cyn ei selio
- canfod cambersonadu ac atal pobl rhag pleidleisio fwy nag unwaith yn yr un etholiad (heblaw fel dirprwyon). Cambersonadu yw pan fydd unrhyw unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall, boed yn rhywun byw, marw neu ffug
- bod yn bresennol pan fydd y Swyddog Llywyddu yn marcio papur pleidleisio ar gais etholwr sydd angen cymorth i farcio papur pleidleisio oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu
rhoi gwybod i chi neu eich asiant etholiad am unrhyw weithgareddau amhriodol a chadw nodiadau, os oes angen, er mwyn rhoi tystiolaeth yn y llys - bod yn bresennol ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio pan gaiff y pecynnau amrywiol o ddogfennau eu selio
- atodi eu sêl i unrhyw becynnau a drefnir gan y Swyddog Llywyddu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys y blwch pleidleisio. Ni ellir rhoi seliau asiantiaid pleidleisio ar flychau pleidleisio ar ddechrau'r cyfnod pleidleisio nac yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd wneud unrhyw beth y mae gan asiant pleidleisio hawl i'w wneud.2
- 1. Rheol 30(1) a (5), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 30(8)-(9) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Penodi asiantiaid pleidleisio
Gellir penodi unrhyw un i fod yn asiant pleidleisio, ar yr amod nad yw'n::
- y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff
- partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff
- unrhyw un na chaiff bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu euogfarn am arferion llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu'n awtomatig fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol.1
Gallwch benodi unrhyw nifer o asiantiaid pleidleisio i fod yn bresennol ymhob gorsaf bleidleisio, ond dim ond un asiant pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd all fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio ar unrhyw adeg2
Gellir penodi asiant pleidleisio i fod yn bresennol mewn sawl gorsaf bleidleisio. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawl i fod yn bresennol.
Rhaid i asiantiaid pleidleisio gael eu penodi heb fod yn hwyrach na'r pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad.3 Rhaid i'r cais i benodi asiantiaid pleidleisio gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).4 Rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflen benodi asiant pleidleisio'r Comisiwn.
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).5 Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.
- 1. Rheoliad 30(8), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a rheoliad 69(7), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 / rheoliad 69(7), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 32(2), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 30(3), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 30, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 30(4), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliad 69(4), (Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001) / a Rheoliad 69(4), (Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001) ↩ Back to content at footnote 5
Rhifwyr
Pobl sy'n sefyll y tu allan i fannau pleidleisio ac yn cofnodi rhifau etholwyr sydd wedi pleidleisio yw rhifwyr. Wedyn, gallant nodi cefnogwyr tebygol nad ydynt wedi pleidleisio a'u hannog i wneud hynny cyn i'r orsaf bleidleisio gau.
Nid oes gan rifwyr statws cyfreithiol ac mae gan bleidleiswyr yr hawl i wrthod rhoi unrhyw wybodaeth iddynt. Mae'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gyfrifol am y modd y cynhelir yr etholiad. Os yw gweithgareddau'r rhifwyr yn achos pryder iddynt, gallant ofyn i'r rhifwyr gydymffurfio â'r cod ymddygiad cytûn neu adael y man pleidleisio.
Rydym wedi llunio taflen ffeithiau o'r hyn y dylai ac na ddylai rhifwyr ei wneud, yn ogystal â chanllawiau mwy cynhwysfawr ar weithgareddau rhifwyr. Nod y canllawiau yw sicrhau bod pawb yn gwybod yn union beth sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw'n dderbyniol ac fe'u lluniwyd i hyrwyddo safonau ymddygiad priodol. Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) roi ei fersiwn ei hun o ganllawiau i rifwyr hefyd.
Cynnal cyfrinachedd y bleidlais
Mae gan unrhyw un sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y bleidlais.1
Yn benodol, rhaid sicrhau na chaiff y wybodaeth ganlynol ei datgelu:
• enw neu rif etholiadol y rhai sydd wedi neu heb bleidleisio
• y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar y papur pleidleisio
Hefyd, rhaid i unrhyw un sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio sicrhau nad yw'n ceisio canfod sut mae pleidleisiwr wedi pleidleisio na phwy y mae ar fin pleidleisio drosto.
Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o'r gofrestr o etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapurau pleidleisio. Os bydd yr asiant pleidleisio yn gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod yr oriau pleidleisio, rhaid iddo adael y copi wedi'i farcio o'r gofrestr yn yr orsaf bleidleisio er mwyn sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd.
Gall unrhyw unigolyn a ddyfernir yn euog o dorri'r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar. Yng Nghymru a Lloegr mae'r ddirwy yn anghyfyngedig; yn yr Alban, mae'r ddirwy hyd at £5,000. Gallwch weld copi o'r gofynion ynglŷn â chyfrinachedd yma.
- 1. Adran 66 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Dylech wneud y canlynol:
- Sicrhau bod unrhyw rifwyr sy'n gweithio i chi yn dilyn ein canllawiau i rifwyr ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
- Sicrhau bod eich ymgyrchwyr yn dilyn y Cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr sy'n nodi'r hyn a gaiff, a'r hyn na chaiff, ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned.
- Cydymffurfio â cheisiadau gan staff gorsafoedd pleidleisio neu'r Swyddog Canlyniadau ynghylch ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, dylai fod hawl gennych i gyflwyno eich neges i bleidleiswyr ar y diwrnod pleidleisio, gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus y tu allan i fannau pleidleisio.
- Sicrhau bod unrhyw asiantiaid sy'n bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio, achlysuron agor amlenni pleidleisiau post neu'r cyfrif yn deall y rheolau ynghylch cyfrinachedd y bleidlais. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein dogfennau sy'n nodi'r gofynion cyfrinachedd ar gyfer yr etholiad, pleidleisio drwy’r post a'r cyfrif.
- Ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru, rydym hefyd wedi llunio'r gofynion cyfrinachedd ar gyfer pleidleisio drwy'r post, y bleidlais a'r cyfrif yn ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- Ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio mewn ffordd a allai gael ei hystyried yn ymosodol gan bleidleiswyr neu a allai godi ofn arnynt (er enghraifft, grwpiau mawr o gefnogwyr yn cario baneri, neu gerbydau ag uchelseinyddion neu â deunydd ymgyrchu drostynt i gyd).
- Torri'r gofynion o ran cyfrinachedd y bleidlais.1 Mae hyn yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth fodern ac ymdrinnir ag unrhyw fethiant yn ddifrifol.
- Ceisio nodi a chyhoeddi sut mae pleidleisiau wedi cael eu marcio ar bapurau pleidleisio unigol, yn arbennig os byddwch chi (neu eich asiantiaid) yn mynd i sesiynau agor amlenni pleidleisiau post.
- cyhoeddi arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio nac unrhyw ddata eraill yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd gan bobl am y ffordd y gwnaethant bleidleisio ar ôl iddynt fwrw eu pleidlais, gan gynnwys pleidlais bost, cyn diwedd y cyfnod pleidleisio.2
- 1. Adran 66 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.66A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Dilysu a Chyfrif
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi arweiniad ar y broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau yn yr etholiad. Fel ymgeisydd cewch wahoddiad i fod yn bresennol ac arsylwi ar y prosesau hyn.
Mae'n cynnwys canllawiau ar y canlynol:
- pryd a ble y cynhelir y cyfrif
- pwy all fod yn bresennol yn y cyfrif
- beth yw gwaith asiant cyfrif?
- dyletswydd i sicrhau cyfrinachedd
- sut y caiff pleidleisiau eu cyfrif
- beth os nad yw'r bleidlais ar bapur pleidleisio yn glir?
- papurau pleidleisio amheus
- datgan canlyniad
Pryd a ble y cynhelir y cyfrif
Rhaid i bob Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) gymryd camau rhesymol i gwblhau dilysu a dechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag y bo'n ymarferol o fewn pedair awr ar ôl i'r bleidlais gau.
Lle nad yw hyn yn digwydd yn ymarferol - er enghraifft, oherwydd lefelau uwch na'r disgwyl yn y nifer a bleidleisiodd, ciwiau mewn gorsafoedd pleidleisio ar ddiwedd y bleidlais, cyfuniad o etholiad Senedd y DU gydag etholiadau eraill, neu ddaearyddiaeth benodol etholaeth - yna rhaid i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) adrodd am hyn i'r Comisiwn.
Er ei bod yn bwysig sicrhau bod y broses gyfrif yn cael ei chynnal yn brydlon, mae hefyd yn bwysig sicrhau bod y broses honno yn rhoi canlyniad cywir y gall pawb deimlo'n hyderus yn ei gylch.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn eich hysbysu o'r union amser a lleoliad a bydd yn gofyn i chi roi rhestr o'r rhai a fydd yn bresennol gyda chi. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar bwy all fod yn bresennol yn y cyfrif a phenodi asiantiaid cyfrif.
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi cyfarwyddiadau neu wahoddiad sy'n cynnwys unrhyw ofynion ar gyfer bod yn bresennol a dylech sicrhau eich bod chi ac unrhyw un sy'n bresennol gyda chi yn eu dilyn.
Pwy all fod yn bresennol yn y cyfrif?
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Atodlen 1 rheol 44(2) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Atodlen 1 rheol 30 ↩ Back to content at footnote 2
Beth yw gwaith asiant cyfrif?
Mae gan asiantiaid cyfrif nifer o rolau pwysig i'w chwarae yn y cyfrif:
- maent yn arsylwi ar y broses gyfrif ac yn sicrhau ei bod yn gywir
- gallant dynnu sylw'r staff cyfrif at unrhyw bapurau pleidleisio amheus
- os byddant yn anghytuno â phenderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i wrthod papur pleidleisio, gallant ofyn i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) farcio ar y papur pleidleisio "gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod”
- os caiff y broses gyfrif ei hatal am unrhyw reswm, gall asiantiaid cyfrif ychwanegu eu seliau pan fydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn selio'r blychau pleidleisio a'r amlenni
Gallwch chi a'ch asiant etholiad wneud unrhyw beth y mae gan asiant cyfrif hawl i'w wneud.
Penodi eich asiantiaid cyfrif
Cewch benodi pobl eraill yn asiantiaid i fod yn bresennol yn y cyfrif.1
Gellir penodi unrhyw un, ar wahân i'r rhai a restrir isod, fel asiant cyfrif.
Ni chaiff y bobl ganlynol fod yn asiantiaid cyfrif:
- y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff
- partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff
- unrhyw un na chaiff bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu euogfarn am arferion llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu'n awtomatig fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol2
. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn nodi uchafswm nifer yr asiantiaid cyfrif y gallwch eu penodi.
Caiff pob ymgeisydd benodi'r un nifer.
Yn y cyfrif, oni fydd amgylchiadau arbennig, ni fydd nifer yr asiantiaid cyfrif a ganiateir fesul ymgeisydd yn llai na'r nifer a geir drwy rannu nifer y cynorthwywyr cyfrif (h.y. y staff hynny a gyflogir i gyfrif) â nifer yr ymgeiswyr.3
Rhaid i'r cais i benodi'r asiantiaid hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)4
Rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddod o hyd i ffurflenni penodi asiantiaid cyfrif ar wefan y Comisiwn.
Y dyddiad cau ar gyfer penodi asiantiaid cyfrif yw erbyn y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf.5
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)6
Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylai a'r hyn na ddylai asiantiaid ei wneud, a'r hyn y gallant ddisgwyl ei weld yn y cyfrif, yn ein canllawiau Beth yw gwaith asiant cyfrif?
- 1. Rheol 30(1) a (5), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 30(8)-(9) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 30 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 30(3) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 30(3) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 30(4) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
Dyletswydd i sicrhau cyfrinachedd
Mae dyletswydd ar unrhyw un sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif i gynnal cyfrinachedd y cyfrif. Yn arbennig, ni ddylai unrhyw un sy'n bresennol wneud y canlynol:1
- canfod neu geisio canfod y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio
- cyfleu unrhyw wybodaeth a geir yn ystod y cyfrif ynghylch yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddi neu iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ofynion cyfrinachedd yn y prosesau dilysu a chyfrif.
- 1. Adran 66 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Sut y caiff y pleidleisiau eu cyfrif
Cam 1 – Cofnodi
Bydd staff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn anfon y blychau pleidleisio o'r orsaf bleidleisio i leoliad y cyfrif.
Bydd staff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cofnodi'r blychau pleidleisio wrth iddynt gyrraedd lleoliad y cyfrif.
Cam 2 – Dilysu
Caiff blychau pleidleisio eu gwagio ar fyrddau a dangosir y blychau gwag i asiantiaid.
Bydd y staff yn cyfrif y papurau pleidleisio o bob gorsaf bleidleisio.
Bydd staff yn cadarnhau bod nifer y papurau pleidleisio yn cyfateb i nifer y papurau a ddosbarthwyd, fel y cofnodir ar gyfrifon papurau pleidleisio'r Swyddogion Llywyddu.
Dangosir y papurau pleidleisio a ddilyswyd i'r asiantiaid etholiad a'r asiantiaid cyfrif yn wynebu i fyny.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn pennu'r rhesymau dros unrhyw anghysondebau ac yn llunio cyfanswm terfynol wedi ei ddilysu.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn llunio datganiad o'r broses ddilysu. Gall asiantiaid weld neu gopïo'r datganiad hwn os dymunant.
Yng Nghymru a Lloegr, os bydd yr etholiad wedi cael ei gyfuno â digwyddiad etholiadol arall, gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) benderfynu dechrau cyfrif y pleidleisiau cyn cwblhau'r gwaith o ddilysu'r holl bapurau pleidleisio. Fodd bynnag, gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ond cyhoeddi canlyniadau etholiad cyffredinol Senedd y DU ar gyfer ei etholaeth unwaith y bydd y gwaith o ddilysu'r holl bapurau pleidleisio wedi cael ei gwblhau.
Yn yr Alban, os bydd yr etholiad wedi cael ei gyfuno ag etholiad arall, rhaid cwblhau'r gwaith o ddilysu'r holl bapurau pleidleisio cyn y gellir dechrau cyfrif pleidleisiau etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Gall un blwch pleidleisio fod ar gyfer yr holl etholiadau neu gellir cael blwch ar wahân i bob un. Sut bynnag, caiff papurau pleidleisio eu rhannu yn etholiadau gwahanol a ymleddir.
Bydd unrhyw bapur pleidleisio a ganfyddir yn y blwch pleidleisio 'anghywir' yn ddilys o hyd a chaiff ei symud i'r blwch cywir yn ystod y broses ddilysu.
Os yw etholiad Senedd y DU yn cael ei gyfuno ag etholiadau eraill ac nad yw’r cyfrif ar gyfer yr etholiadau hynny’n digwydd yn syth ar ôl dilysu, bydd y blychau a ddilyswyd yn cael eu storio yn ddiogel. Gall ymgeiswyr ac asiantiaid atodi eu seliau i'r blychau os dymunant.
Cam 3 – Cyfrif y pleidleisiau
Bydd y staff yn rhannu'r papurau pleidleisio yn ôl ymgeisydd.
Bydd staff yn cyfrif nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhannu'r canlyniad dros dro gyda chi a'r asiantiaid. Gallwch chi neu eich asiant etholiad ofyn i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ailgyfrif y pleidleisiau.
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wrthod ailgyfrif os bydd yn credu bod y cais yn afresymol.
Beth os nad yw'r bleidlais ar bapur pleidleisio yn glir?
Ni chaiff papur pleidleisio ei gyfrif:
- os nad yw wedi ei farcio
- os nad yw'n cynnwys y marc swyddogol
- os yw'n cynnwys pleidleisiau ar gyfer mwy nag un ymgeisydd
- os yw'n cynnwys unrhyw farc neu ysgrifen a all enwi'r pleidleisiwr
- os nad yw'n nodi bwriad y pleidleisiwr yn glir
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd am y rhesymau hyn.
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) roi'r gair "gwrthodwyd" ar unrhyw bapur pleidleisio a wrthodir. Rhaid iddo ychwanegu'r geiriau "gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod" os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Os yw bwriad y pleidleisiwr yn glir ar bapur pleidleisio ac na all unrhyw farc neu ysgrifen ei enwi, ni fydd yn ddi-rym os yw pleidlais wedi ei marcio:
- yn rhywle arall yn hytrach na'r man priodol
- mewn ffordd arall heblaw croes (e.e. tic)
- drwy fwy nac un marc
I gael rhagor o fanylion am y broses o ddyfarnu papurau pleidleisio amheus, gweler ein canllawiau isod.
Papurau pleidleisio amheus
Er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol), rydym wedi llunio canllawiau ar sut i ddyfarnu pleidleisiau ar bapurau pleidleisio a all ymddangos yn amheus. Mae'r canllawiau hyn yn ein llyfryn Ymdrin â phapurau pleidleisio amheus. Rydym hefyd wedi llunio matiau bwrdd o bapurau pleidleisio amheus y gall Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) gyfeirio atynt yn ystod y broses gyfrif.
Mae'r enghreifftiau a roddir yn y dogfennau hyn yn seiliedig ar reolau'r etholiad.
Noder, er bod y dogfennau hyn yn darparu canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol), y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) unigol sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud penderfyniad ar bapurau pleidleisio unigol. Bydd eu penderfyniad i wrthod papur pleidleisio penodol yn ystod y broses gyfrif neu ailgyfrif yn derfynol a dim ond ar ôl datgan y canlyniad y gellir ei adolygu mewn deiseb etholiadol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.
Pleidleisiau cyfartal
Os bydd gan ddau neu fwy o ymgeiswyr yr un faint o bleidleisiau, ac y byddai pleidlais arall ar gyfer y naill neu'r llall yn golygu y câi ei ethol, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) benderfynu rhyngddynt drwy fwrw coelbren.
Y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fydd yn penderfynu ar y dull o fwrw coelbren.
Datgan canlyniad
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn datgan bod yr ymgeisydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau wedi ei ethol.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi hysbysiad cyhoeddus o’r canlyniad.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi hysbysiad gydag enw pob ymgeisydd a etholwyd, y nifer o bleidleisiau i bob ymgeisydd, a’r nifer o bapurau pleidleisio a wrthodwyd.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn caniatáu i ymgeiswyr annerch ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan. Cadarnhewch y trefniadau gyda’ch Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Beth fydd yn digwydd i'r gwaith papur ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan?
Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) selio holl ddogfennau’r etholiad, ac ychwanegu disgrifiad o gynnwys pob pecyn. Yng Nghymru a Lloegr, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn eu hanfon ymlaen at y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Yn yr Alban, mae’r dogfennau’n cael eu cadw gan y Swyddog Canlyniadau.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan yn ein canllawiau ar beth sy'n digwydd i waith papur yr etholiad ar ôl datgan y canlyniad.
Ar ôl yr etholiad
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ar ôl yr etholiad, gan gynnwys camau y mae'n rhaid i ymgeiswyr eu cymryd.
Mae hyn yn cynnwys:
- cyflwyno eich ffurflen gwariant a'r terfynau amser cysylltiedig
- dychwelyd eich ernes
- cyrchu a chyflenwi dogfennau etholiad
- deisebau etholiadol
Terfynau amser
Ffurflenni a datganiadau
Ar ôl yr etholiad, dylai'r asiant sicrhau'r canlynol:
- rhaid i bob anfoneb ddod i law o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan1
- rhaid i bob anfoneb gael ei thalu o fewn 28 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan2
Rhaid i'r asiant gyflwyno'r canlynol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol):
- ffurflen gwariant etholiad sy'n nodi manylion gwariant a rhoddion ymgyrch yr ymgeisydd
- datganiad yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred, ei chyflyno i Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
a hynny o fewn 35 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan3
Nodwch, os bydd y dyddiad cau ar gyfer unrhyw un o'r uchod ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd y dyddiad cau yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf.4 Mae hyn wedi'i gynnwys yn y cyfrifiadau terfynau cau canlynol.
Dyddiad hwyraf i | |||
---|---|---|---|
Y dyddiad y datgelir y canlyniad | Derbyn eich anfonebau | Talu eich anfonebau | Cyflwyno eich ffurflen a'ch datganiad asiant |
4 Gorffennaf 2024 | 25 Gorffennaf 2024 | 1 Awst 2024 | 8 Awst 2024 |
5 Gorffennaf 2024 | 26 Gorffennaf 2024 | 2 Awst 2024 | 9 Awst 2024 |
6 Gorffennaf 2024 | 29 Gorffennaf 2024 | 5 Awst 2024 (6 Awst yn yr Alban) | 12 Awst 2024 |
Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu datganiad ysgrifenedig o'i dreuliau personol yn yr ymgyrch fer i'w asiant o fewn 21 diwrnod i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan.5
Rhaid i'r ymgeisydd hefyd anfon datganiad at y Swyddog Canlyniadau yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred. Rhaid gwneud hyn o fewn saith diwrnod gwaith i gyflwyno'r ffurflen.6
Os bydd yr ymgeisydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig pan fydd angen cyflwyno'r datganiad, caiff y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganid ei ymestyn i 14 diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd.7
Rhaid i chi gyflwyno ffurflen, hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian.8
Gelwir hwn yn ddatganiad ‘dim trafodion’.
Mae canlyniadau os na fyddwch yn dychwelyd ffurflenni gwariant, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn ‘Beth fydd yn digwydd os na chaiff ffurflen gwariant neu ddatganiad eu cyflwyno?’
Gwariant pleidiau gwleidyddol
Rhaid i bleidiau gwleidyddol sy'n sefyll mewn etholiadau cyffredinol Senedd y DU hefyd roi gwybod i ni am fanylion eu gwariant ar godi arian a gwariant ymgyrchu. Ceir gwybodaeth fanwl yn ein canllawiau i bleidiau.
Anfonebau sy'n dod i law neu sy'n cael eu talu ar ôl y terfynau amser
Rydym yn galw hawliadau (anfonebau ar gyfer gwariant gan ymgeisydd) nas derbynnir gan yr asiant etholiad o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod yn hawliadau heb eu talu.
Ni ellir yn gyfreithlon dalu hawliadau heb eu talu oni cheir gorchymyn llys yn caniatáu talu'r hawliad.9
Gall fod yn drosedd talu hawliad heb ei dalu heb orchymyn llys.10
Rydym yn galw hawliadau (anfonebau) a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod ond nad ydynt wedi cael eu talu o fewn y terfyn amser o 28 diwrnod yn hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch.
Ni ellir yn gyfreithlon dalu hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch heb i orchymyn llys gael ei roi gyntaf yn caniatáu talu'r hawliad.11
Rhaid rhoi gwybod am unrhyw hawliad sy'n cael ei dalu:
- ar ôl y terfyn amser o 21 diwrnod i dderbyn anfoneb; neu
- ar ôl y terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer taliadau,
ar ôl cais llwyddiannus i'r llys, ac ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant etholiad, yn ysgrifenedig i'r swyddog canlyniadau o fewn saith diwrnod i'w dalu, ynghyd â chopi o'r gorchymyn llys.12
Rhaid i chi hefyd anfon copi o'r Gorchymyn i'r Comisiwn Etholiadol.
- 1. Adran 78(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 78(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 81(1) ac Adran 82(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 119, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 74(2) ac Adran 78(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 74(2) ac Adran 78(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 82(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 81, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Adran 78(4), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Adran 78(3), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Adran 79(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Adran 81(5), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 12
Cwblhau'ch ffurflen
Gelwir eich adroddiad ar wariant a rhoddion yn ‘ffurflen’.
Rhaid i'r asiant gwblhau'r ffurflen.
Dylai'r ffurflen gynnwys y canlynol ar gyfer pob eitem o wariant:
- ar gyfer beth roedd y gwariant – er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- y swm neu'r gwerth
- manylion pryd yr aed i'r gwariant a phryd y'i talwyd
- manylion unrhyw symiau sydd heb eu talu neu y mae anghydfod yn eu cylch
- anylion unrhyw wariant tybiannol, a datganiad o'i werth1
- anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad o £20 neu fwy2
- manylion unrhyw dreuliau personol3
Rhaid i'r rhan ymgyrch fer o'r ffurflen hefyd gynnwys manylion yr holl roddion dros £50 a dderbyniwyd ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd ac unrhyw wariant ymgyrchu lleol awdurdodedig.4 Mae rhagor o wybodaeth am y manylion y mae angen i chi eu cofnodi yn Gwariant ymgeiswyr a Rhoddion ymgeiswyr.
Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant hefyd lofnodi datganiad bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred.5 Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd.
Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol.6
Ffurflenni y bydd eu hangen arnoch:
- 1. Adran 81(1)(a) ac adran 90C(2)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.81(1)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.81(1)(a) ac Atodlen 3 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2A, paragraff 10 ac A.81(2)(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.82(1) a (2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.82(6) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
Beth fydd yn digwydd os na chaiff ffurflen gwariant neu ddatganiad eu cyflwyno?
Mae methu â chyflwyno ffurflen gwariant neu ddatganiad erbyn y dyddiad cau heb esgus awdurdodedig yn drosedd.1
Mae gan y Comisiwn Etholiadol gylch gwaith cyfreithiol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau ynghylch gwariant a rhoddion ymgeiswyr, ond nid oes ganddo bwerau cosbi mewn perthynas â thorri'r rheolau. Os amheuir bod ymgeisydd yn torri'r rheolau, dylid cyfeirio'r mater at yr heddlu.
Os yw ymgeisydd wedi cael ei ethol ond heb gyflwyno'r ffurflen gwariant a/neu'r datganiad erbyn y dyddiad cau, caiff ei wahardd rhag eistedd a phleidleisio, ac mae'n bosibl y caiff fforffediad neu ddirwy o £100 y dydd am wneud hynny.2
- 1. Adran 84 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.85 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Beth sy'n digwydd os na fyddwch yn dilyn y rheolau?
Os nad ydych yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol na rheoliadol, gallwch wynebu sancsiynau troseddol. Os enillwch yr etholiad a bod rhywun yn llwyddo mewn deiseb etholiadol yn erbyn gweithgareddau neu adroddiadau eich ymgyrch, gallech gael eich gwahardd rhag dal swydd.
Os derbyniwch roddion na allwch eu derbyn yn gyfreithiol, gallwn wneud cais i'r llysoedd am iddynt gael eu fforffedu.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl reoleiddio'r Comisiwn ar ein gwefan.
Dychwelyd ernes
Bydd yr ymgeiswyr hynny sydd wedi cael mwy na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn yr etholaeth yn derbyn eu hernes yn ôl erbyn y diwrnod gwaith nesaf ar ôl datgan y canlyniad.
Bydd yr ymgeiswyr hynny a gaiff 5% neu lai o gyfanswm nifer y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn yr etholaeth yn colli eu hernes.1
- 1. Rheol 53 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Llw Seneddol neu gadarnhad
Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth am sut y bydd yn gallu mynychu'r Senedd.
Cyn y gall unigolyn eistedd a phleidleisio yn Nhŷ'r Cyffredin, rhaid iddynt dyngu'r llw Seneddol neu wneud cadarnhad i'r brenin. Gelwir hyn yn broses dyngu a bydd yn digwydd ar ddechrau'r Senedd newydd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dyngu'r llw neu wneud cadarnhad ar wefan Senedd y DU.
Beth sy'n digwydd i'r gwaith papur ar ôl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi?
Yng Nghymru a Lloegr, y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n cadw'r holl ddogfennau etholiadol yn ddiogel.1
Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau sy'n eu cadw.2
Mae'r rhan fwyaf o ddogfennau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio. Nodwch nad yw papurau pleidleisio ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.
Archwilio a darparu'r cofrestrau a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol wedi'u marcio3
Mae'r cofrestrau etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio yn dangos pwy sydd wedi cael papur pleidleisio, pwy sydd wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post, a phwy sydd wedi trefnu bod pleidlais drwy ddirprwy yn cael ei bwrw ar ei ran.
Gallwch archwilio neu gael copïau o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio ar ôl yr etholiad os gwnewch gais ysgrifenedig. Yng Nghymru a Lloegr, rhaid gwneud y cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Mae'r manylion cyswllt ar gael ar ein gwefan.
Yn yr Alban, rhaid gwneud y cais i'r Swyddog Canlyniadau. Gallwch gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau drwy'r cyngor lleol.
Noder mai dim ond at ddibenion ymchwil neu ddibenion etholiadol y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth a geir o'r dogfennau hyn.
Rhaid i'r cais am archwiliad nodi4
:
- pa ddogfennau y gwneir cais amdanynt
- at ba ddibenion y defnyddir y wybodaeth mewn unrhyw ddogfen
- pan fo'r cais ar gyfer archwilio'r gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio, unrhyw reswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon at y diben hwnnw
- pwy fydd yn archwilio'r dogfennau
- y dyddiad yr hoffech archwilio'r dogfennau
- a fyddai'n well gennych archwilio'r dogfennau ar ffurf argraffedig neu ar ffurf data
Caiff archwiliadau eu cynnal dan oruchwyliaeth a byddant yn rhad ac am ddim. Ni fyddwch yn gallu mynd â chopïau, ond gallwch wneud nodiadau â llaw.
Rhaid i'r cais nodi'r canlynol5
:
- pa gofrestr neu restrau wedi'u marcio (neu'r rhan berthnasol o'r gofrestr neu'r rhestrau) y gwneir cais amdani/amdanynt
- a yw'r sawl sy'n gwneud cais am gael copi argraffedig o'r cofnodion neu'r rhestrau neu gopi ar ffurf data
- at ba ddibenion y defnyddir y gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio a pham na fyddai darparu neu brynu copi o'r gofrestr lawn neu restrau heb eu marcio yn ddigon i gyflawni'r diben hwnnw
Codir ffi o £10 ynghyd â £2 am fersiwn argraffedig a £1 am fersiwn ddata fesul 1,000 o gofnodion am y ddogfen y gwneir cais amdani.6
Noder ar ôl 12 mis, caiff y dogfennau hyn, a gedwir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, eu dinistrio, oni fydd gorchymyn llys yn nodi'n wahanol.7
O dan ddeddfwriaeth diogelu data bresennol, ni chaiff data personol a brosesir at unrhyw ddiben eu cadw am fwy nag sydd ei angen at y diben hwnnw. Os byddwch yn gwneud cais am y wybodaeth a restrir uchod ac yn ei derbyn, unwaith y bydd diben casglu'r data hyn wedi darfod, bydd angen i chi ystyried a oes rheswm dros gadw'r data hynny. Os nad oes rheswm, dylech sicrhau bod unrhyw ddata a gedwir yn cael eu dinistrio'n ddiogel.
Dim ond yn ystod yr amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu y gellir eu darllen, a dim ond gan ymgeiswyr, eu hasiant etholiad, eu cynigydd a'u heilydd.
Archwilio dogfennau etholiadol eraill8
Gallwch archwilio dogfennau etholiadol eraill, ond ni fyddwch yn cael gwneud unrhyw nodiadau na chymryd copïau o'r dogfennau hyn. Yr unig ddogfennau na ellir eu harchwilio yw:
- y papurau pleidleisio
- y rhestrau rhifau cyfatebol
- y tystysgrifau sy'n caniatáu i staff gorsafoedd pleidleisio bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y maent yn gweithio ynddi
- y Rhestr o Bapurau Pleidleisio a Wrthodwyd (dim ond ar gais ar ôl iddo gael ei wrthod y gellir datgelu gwybodaeth o'r rhestr hon ar gais i'r etholwr perthnasol neu'r dirprwy)9
Ar ôl 12 mis, caiff yr holl ddogfennau etholiadol, a gedwir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, eu dinistrio, oni fydd gorchymyn llys yn nodi'n wahanol.10
Archwilio ffurflenni gwariant etholiadol11
Caiff ffurflenni gwariant a datganiadau eu cadw gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Gellir archwilio cofnodion a datganiadau gan unrhyw berson ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Gellir hefyd gwneud copïau am ffi o 20c yr ochr.
Cedwir ffurflenni gwariant a datganiadau am ddwy flynedd. Gallwch ofyn iddynt gael eu dychwelyd atoch neu'ch asiant ar ddiwedd y cyfnod hwn. Os na fyddwch chi na'ch asiant am eu cael yn ôl, caiff y ffurflenni gwariant a'r datganiadau eu dinistrio.
- 1. Rheol 55 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 55 a 58(2) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliadau 117 ac 118 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliadau 117 ac 118 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 117(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 117(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 120(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 120(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 57(1) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Adran 32 Rheoliadau Adnabod Pleidleiswyr 2022 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Rheol 57(1) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. A.89 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 11
Deisebau etholiadol
Gellir herio canlyniad etholiad Senedd y DU drwy ddeiseb etholiadol.
Cyflwyno deiseb etholiadol
Dim ond rhai pobl a gaiff gyflwyno deiseb etholiadol, a dim ond o dan amgylchiadau arbennig.
Gall deiseb etholiadol gael ei chyflwyno gan y canlynol:1
- rhywun sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
- rywun sy'n honni bod ganddo hawl i gael ei ethol yn yr etholiad, neu
- etholwr (nad yw'n etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw) a oedd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad (er nad oes angen iddo fod wedi pleidleisio)
Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb yw bod y canlynol wedi digwydd:2
- etholiad amhriodol, neu
- canlyniad amhriodol
Ceir proses farnwrol ar wahân ar gyfer herio etholiad AS ar y sail ei fod wedi'i anghymwyso ar y pryd neu yn y gorffennol o dan Ddeddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 (fel u'i diwygiwyd). Yn yr achos hwnnw, gellir gwneud cais i'r Cyfrin Gyngor am ddatganiad o'r fath (ar yr amod nad oes deiseb yn yr arfaeth na bod Gorchymyn Tŷ'r Cyffredin i anwybyddu'r anghymhwysiad wedi'i wneud).
Mae'n rhaid i'r Aelod y gwneir cwyn ynglŷn â'i ethol fod yn wrthapeliwr i'r ddeiseb.3
Os bydd y ddeiseb yn cwyno am ymddygiad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu ei staff yn ystod yr etholiad, rhaid bod y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn atebydd hefyd.4
Fel rheol, rhaid i ddeiseb gael ei chyflwyno o fewn 21 diwrnod calendr i ddyddiad dychwelyd yr writ5
(sef y diwrnod ar ôl yr etholiad yn y rhan fwyaf o achosion) a gellir ei chyflwyno unrhyw bryd hyd at 12 hanner nos ar y diwrnod olaf fan bellaf. Fodd bynnag, os bydd y ddeiseb yn cwyno am arferion llwgr neu anghyfreithlon sy'n ymwneud â thalu arian neu roi math arall o wobr, neu arfer anghyfreithlon sy'n ymwneud â gwariant etholiadol, gellir caniatáu mwy o amser.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol, yn cynnwys cadarnhau'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno deiseb etholiadol, dylech gysylltu â:
Yng Nghymru a Lloegr:
The Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0207 947 6877
Ffacs: 0870 324 0024
Os ydych yn Yr Alban:
The Petitions Department
Court of Session
Parliament Square
Edinburgh
EH1 1RQ
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0131 240 6747
Ffacs: 0131 240 6711
Mae costau yn gysylltiedig â deiseb etholiadol. Os ydych yn ystyried cyflwyno deiseb etholiadol, rydym yn argymell yn gryf y dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol.
- 1. Adran 121 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.120 Deddf Cynrychioleth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.121(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.121(2) Deddf Cynyrchiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.122 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
Adnoddau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn i chi sefyll fel ymgeisydd
Gwariant a rhoddion ymgeiswyr
Ymgyrchu
Enwebiadau
Pleidleisiau post
Diwrnod Pleidleisio
Dilysu a Chyfrif