Mae'r adran ganlynol yn rhoi canllawiau ar wariant ymgeiswyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.
Mae'r canllawiau'n cwmpasu:
faint y gallwch ei wario yn y cyfnod cyn yr etholiad
pa weithgareddau sy'n cyfrif tuag at wariant ymgeisydd
pa gofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw
sut i gyfrif am fathau gwahanol o wariant
Yr asiant etholiad sy'n bennaf cyfrifol am gydymffurfio â'r cyfreithiau hyn, hyd yn oed os yw'n penodi is-asiant i'ch helpu gyda'ch treuliau. Fodd bynnag, dylai'r ymgeiswyr fod yn gwbl ymwybodol o'r cyfreithiau gan fod yn rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant ddatgan bod y ffurflen gwariant yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred. 1