Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Enwebiadau

Mae'r adrannau canlynol yn cynnwys canllawiau ar sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU ym Mhrydain Fawr.

Mae'r canllawiau yn ymdrin â'r canlynol:

  • Y broses enwebu, gan gynnwys pa ffurflenni y mae angen i chi eu cwblhau
  • Pryd a sut y bydd angen i chi gyflwyno eich papurau enwebu
  • Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu

Mae rheolau penodol y mae angen i ymgeiswyr eu dilyn, yn dibynnu a ydynt yn sefyll fel ymgeisydd plaid wleidyddol neu'n sefyll fel ymgeisydd annibynnol.  Caiff y gwahaniaethau hyn eu nodi'n amlwg yn y canllawiau.

Gallwch weld ein canllawiau ar gyfer etholiadau eraill ar ein gwefan.  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023