Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Diwrnod Pleidleisio

Y diwrnod pleidleisio yw'r diwrnod y bydd gorsafoedd pleidleisio yn agor a bydd etholwyr yn ymweld â nhw i fwrw eu pleidleisiau yn bersonol. Dyma hefyd y diwrnod olaf y gall Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) dderbyn pleidleisiau post a ddychwelwyd. Weithiau gelwir y diwrnod pleidleisio yn “ddiwrnod etholiad”.
 
Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys:

  • Lleoliadau gorsafoedd pleidleisio a'r broses bleidleisio
  • Pwy all eich cefnogi ar y diwrnod pleidleisio (gan gynnwys asiantiaid pleidleisio a rhifwyr)
  • Yr hyn y dylech chi a'ch ymgyrchwyr ei wneud neu na ddylech ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
  • Beth sy'n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023