Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pleidleisiau post

Mae'r adrannau canlynol yn rhoi arweiniad ar bleidleisio drwy'r post a'r prosesau dan sylw.

Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys:

  • Pwy all wneud cais i bleidleisio drwy'r post
  • Beth sydd wedi'i gynnwys mewn pecynnau pleidleisio drwy'r post
  • Agor pleidleisiau post a phwy all fod yn bresennol
  • Y broses agor pleidleisiau post
  • Penodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post a'u rôl

Mae'r canllawiau hefyd yn ymdrin â'ch dyletswydd i gadw cyfrinachedd yn ystod sesiynau agor pleidleisiau post.

Mae Deddf Etholiadau 2022 wedi cyflwyno cyfyngiadau penodol o ran ymdrin â phleidleisiau post.   Bydd angen i chi sicrhau bod eich cefnogwyr yn ymwybodol ei bod yn drosedd trin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rywun y maent yn gofalu amdano a dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr

 


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024