| Argraffu'r canllawiau llawn

Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn

Mae ein canllawiau wedi’u rhannu’n adrannau, ac mae pob un yn delio â rhan wahanol o’r broses y byddwch chi’n ymwneud â hi fel Swyddog Enwebu, plaid wleidyddol, ymgeisydd rhestr plaid, ymgeisydd unigol neu asiant ar gyfer etholiadau Senedd Cymru.

I’ch cynorthwyo gyda defnyddio’r canllawiau hyn rydym wedi creu dogfen Holi ac Ateb;

Mae ein canllawiau’n nodi’r camau y mae angen i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr a’u hasiantiaid fynd drwyddynt wrth sefyll yn etholiadau Senedd Cymru. Dyma’r meysydd dan sylw: 
 

AdranBeth mae’n ei gynnwys
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn sefyll fel ymgeisydd
  • cymwysiadau ac anghymwysiadau i sefyll fel ymgeisydd
  • pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol
Gwariant ar gyfer ymgeiswyr unigol•    y rheolau ynghylch faint y gall ymgeiswyr unigol ei wario ar eu hymgyrchoedd
•    adrodd ar wariant yr ymgyrch ar ôl yr etholiad
Rhoddion i ymgeiswyr unigol•    rhoddion y gall ymgeiswyr unigol eu derbyn
•    adrodd am roddion yn dilyn yr etholiad
Gwariant a rhoddion ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid•    rhadbost ar gyfer cyfeiriad yr etholiad
•    rheolau ynghylch treuliau personol 
•    rhoddion fel aelod plaid neu ddeiliad swydd etholiadol (derbynwyr a reoleiddir)
Yr ymgyrch•    y rheolau ar gyhoeddi ac arddangos llenyddiaeth yr ymgyrch
•    y rheolau ynghylch ymgyrchu
•    egwyddorion ymgyrchu cyffredinol
Enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid•    y broses enwebu a pha ffurflenni y bydd angen eu llenwi
•    cyflwyno papurau enwebu
•    beth sy'n digwydd ar ôl i bapurau enwebu gael eu cyflwyno
Enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr unigol•    y broses enwebu a pha ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi
•    cyflwyno papurau enwebu
•    beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu
Pleidleisiau Post•    y prosesau ar gyfer cyflenwi ac agor pleidleisiau post
•    mynychu sesiynau agor pleidleisiau post
Diwrnod Pleidleisio•    prosesau diwrnod pleidleisio
•    mynychu gorsafoedd pleidleisio
•    pethau i'w gwneud a pheidio eu gwneud ar y diwrnod pleidleisio
Dilysu a chyfrif•    beth sy’n digwydd yn ystod y dilysu a’r cyfrif
•    mynychu’r dilysu a’r cyfrif
•    coladu a datgan canlyniadau’r etholiad  
Ar ôl datgan y canlyniad•    cyflwyno ffurflenni a datganiadau gwariant
•    mynediad at ddogfennau etholiadol, gan gynnwys cofrestrau wedi’u marcio
•    gweithgareddau eraill ar ôl pleidleisio

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Medi 2025