| Argraffu'r canllawiau llawn

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn sefyll fel ymgeisydd

Cyn dechrau ar y broses o sefyll mewn etholiad, mae angen i ddarpar ymgeiswyr fod yn hyderus eu bod yn bodloni’r holl ofynion. Mae angen iddynt hefyd fod yn ymwybodol o’r rheolau sy’n berthnasol i ymgeiswyr sy’n ymwneud â gwariant a rhoddion.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi manylion ynghylch:

  • Pryd ydych chi’n dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
  • Pwy sy’n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeisydd?
  • Cymwysiadau ac anghymwysiadau ar gyfer sefyll mewn etholiad
  • Penodi eich asiant etholiad ac asiantiaid eraill

Y Cynllun Cymorth Ariannol ar gyfer Ymgeiswyr Anabl

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ddarparu cynllun o gymorth ariannol i gynorthwyo ymgeiswyr sy’n anabl mewn etholiadau yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau i’w cyfranogiad yn yr etholiadau hynny sy’n gysylltiedig â’u hanabledd. O ganlyniad i’r ddyletswydd hon, mae deddfwriaeth wedi’i chyflwyno i sefydlu cynllun cymorth ariannol a weithredir gan Anabledd Cymru i gefnogi ymgeiswyr sy’n anabl i oresgyn y rhwystrau i’w cyfranogiad mewn etholiadau yng Nghymru.  Mae gwybodaeth am y cynllun ar gael ar eu gwefan www.disabilitywales.org.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Mawrth 2026