Cyflwyniad i’n canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Nod y canllawiau hyn yw rhoi cyngor ymarferol i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol sydd eisiau sefyll yn etholiadau Senedd Cymru, yn ogystal ag unrhyw un sydd am fod yn asiant etholiad.
Gall sefyll mewn etholiad fod yn gymhleth, ond gobeithiwn y bydd ein canllawiau yn ei gwneud mor syml â phosibl.
Rydym wedi cynnwys deunydd ffeithiol perthnasol yn ogystal â dolenni at ffynonellau o wybodaeth bellach. Mae pob adran yn cynnwys nifer o ffurflenni ac adnoddau, sydd ar gael yn uniongyrchol drwy ddolenni yn y testun.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn sut i ddefnyddio ein canllawiau.
Amserlen yr etholiad
Rydym wedi cyhoeddi amserlen benodol ar gyfer etholiad y Senedd isod, a fydd ar gael ar ein gwefan.
Diogelu data
Sylwch fod deddfwriaeth diogelu data yn berthnasol i brosesu pob data personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (yn agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol yn effeithio arnoch chi.
Termau ac ymadroddion yr ydym yn eu defnyddio
Rydym yn defnyddio ‘rhaid’ pan fyddwn yn cyfeirio at ofyniad penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sy'n arferion da sylfaenol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol na rheoleiddiol.
Rydym yn defnyddio ‘chi’ i gwmpasu’r Swyddog Enwebu, rhestr plaid a'r ymgeiswyr unigol ac asiantiaid yn y canllawiau hyn. Mae ymgeiswyr unigol yn ymgeiswyr nad ydynt wedi’u cynnwys ar restr plaid. Lle mae’r canllawiau yn berthnasol i rôl benodol yn unig, bydd hyn yn cael ei nodi’n benodol.
Pan fyddwn yn siarad am roddion, byddwn yn defnyddio ‘chi’ i gyfeirio at y person sy’n gyfrifol ar y pryd am ddelio â rhoddion.
Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn
Mae ein canllawiau wedi’u rhannu’n adrannau, ac mae pob un yn delio â rhan wahanol o’r broses y byddwch chi’n ymwneud â hi fel Swyddog Enwebu, plaid wleidyddol, ymgeisydd rhestr plaid, ymgeisydd unigol neu asiant ar gyfer etholiadau Senedd Cymru.
I’ch cynorthwyo gyda defnyddio’r canllawiau hyn rydym wedi creu dogfen Holi ac Ateb;
Mae ein canllawiau’n nodi’r camau y mae angen i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr a’u hasiantiaid fynd drwyddynt wrth sefyll yn etholiadau Senedd Cymru. Dyma’r meysydd dan sylw:
| Adran | Beth mae’n ei gynnwys |
|---|---|
| Yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn sefyll fel ymgeisydd |
|
| Gwariant ar gyfer ymgeiswyr unigol | • y rheolau ynghylch faint y gall ymgeiswyr unigol ei wario ar eu hymgyrchoedd • adrodd ar wariant yr ymgyrch ar ôl yr etholiad |
| Rhoddion i ymgeiswyr unigol | • rhoddion y gall ymgeiswyr unigol eu derbyn • adrodd am roddion yn dilyn yr etholiad |
| Gwariant a rhoddion ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid | • rhadbost ar gyfer cyfeiriad yr etholiad • rheolau ynghylch treuliau personol • rhoddion fel aelod plaid neu ddeiliad swydd etholiadol (derbynwyr a reoleiddir) |
| Yr ymgyrch | • y rheolau ar gyhoeddi ac arddangos llenyddiaeth yr ymgyrch • y rheolau ynghylch ymgyrchu • egwyddorion ymgyrchu cyffredinol |
| Enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid | • y broses enwebu a pha ffurflenni y bydd angen eu llenwi • cyflwyno papurau enwebu • beth sy'n digwydd ar ôl i bapurau enwebu gael eu cyflwyno |
| Enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr unigol | • y broses enwebu a pha ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi • cyflwyno papurau enwebu • beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu |
| Pleidleisiau Post | • y prosesau ar gyfer cyflenwi ac agor pleidleisiau post • mynychu sesiynau agor pleidleisiau post |
| Diwrnod Pleidleisio | • prosesau diwrnod pleidleisio • mynychu gorsafoedd pleidleisio • pethau i'w gwneud a pheidio eu gwneud ar y diwrnod pleidleisio |
| Dilysu a chyfrif | • beth sy’n digwydd yn ystod y dilysu a’r cyfrif • mynychu’r dilysu a’r cyfrif • coladu a datgan canlyniadau’r etholiad |
| Ar ôl datgan y canlyniad | • cyflwyno ffurflenni a datganiadau gwariant • mynediad at ddogfennau etholiadol, gan gynnwys cofrestrau wedi’u marcio • gweithgareddau eraill ar ôl pleidleisio |
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 0333 103 1929
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn sefyll fel ymgeisydd
Cyn dechrau ar y broses o sefyll mewn etholiad, mae angen i ddarpar ymgeiswyr fod yn hyderus eu bod yn bodloni’r holl ofynion. Mae angen iddynt hefyd fod yn ymwybodol o’r rheolau sy’n berthnasol i ymgeiswyr sy’n ymwneud â gwariant a rhoddion.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi manylion ynghylch:
- Pryd ydych chi’n dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
- Pwy sy’n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeisydd?
- Cymwysiadau ac anghymwysiadau ar gyfer sefyll mewn etholiad
- Penodi eich asiant etholiad ac asiantiaid eraill
Y Cynllun Cymorth Ariannol ar gyfer Ymgeiswyr Anabl
Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ddarparu cynllun o gymorth ariannol i gynorthwyo ymgeiswyr sy’n anabl mewn etholiadau yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau i’w cyfranogiad yn yr etholiadau hynny sy’n gysylltiedig â’u hanabledd. O ganlyniad i’r ddyletswydd hon, mae deddfwriaeth wedi’i chyflwyno i sefydlu cynllun cymorth ariannol a weithredir gan Anabledd Cymru i gefnogi ymgeiswyr sy’n anabl i oresgyn y rhwystrau i’w cyfranogiad mewn etholiadau yng Nghymru. Mae gwybodaeth am y cynllun ar gael ar eu gwefan www.disabilitywales.org.
Etholaethau’r Senedd
Mae 96 o Aelodau’r Senedd (ASau) – 16 o etholaethau gyda 6 AS yn cynrychioli pob etholaeth.
Mae Aelodau’r Senedd yn cael eu hethol o dan system rhestr gyfrannol gaeedig. O dan y system hon, bydd pleidleiswyr yn dewis naill ai plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
Bydd seddi’n cael eu dyrannu ar sail canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd unigol yn eu cael, gan ddefnyddio dull o’r enw fformiwla D’Hondt.
Pwy sy’n gwneud beth mewn etholiad Senedd Cymru a sut i gysylltu â nhw?
Swyddogion Canlyniadau
Mewn etholiad Senedd Cymru, mae’r Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am bob agwedd ar weinyddiaeth yr etholiad, gan gynnwys enwebu ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad, cynnal y bleidlais, y cyfrif a datgan y canlyniad.
Y Swyddog Canlyniadau yw’r Swyddog Canlyniadau sy’n gyfrifol am etholiadau llywodraeth leol yn yr ardal honno, sydd fel arfer yn uwch swyddog i’r awdurdod lleol ac yn annibynnol oddi ar yr awdurdod o ran eu swyddogaethau etholiadol.
Lle mae etholaeth yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd y Swyddog Canlyniadau yn cael ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.1
Cysylltu â’r Swyddog Canlyniadau
Rydym wedi creu rhestr o enwau a manylion cyswllt Swyddogion Canlyniadau.
Nid yw'r ddogfen hon ar gael ar hyn o bryd gan ein bod yn ei diweddaru. Bydd ar gael cyn gynted â phosibl.
Bydd Swyddogion Canlyniadau yn cynnig sesiynau briffio cyn yr etholiad ac rydym yn eich annog yn gryf i fod yn bresennol, hyd yn oed os ydych wedi bod yn asiant neu wedi sefyll mewn etholiad o’r blaen.
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol (ERO)
Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gyfrifol am gynnal y gofrestr etholwyr a rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gyfer ardal eu hawdurdod lleol. Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol fel arfer yn uwch swyddog i’r awdurdod lleol a hefyd yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Swyddog Cofrestru Etholiadol ar ein gwefan .
Y Comisiwn Etholiadol
Rydym yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2000 gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Ar hyn o bryd, rydym yn cael ein harwain gan ddeg Comisiynydd, gan gynnwys Cadeirydd. Rydym yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU drwy bwyllgor a gadeirir gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Rydym yn gyfrifol am gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, monitro a chyhoeddi rhoddion sylweddol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau penodol.
Mae gennym rôl hefyd o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth pleidleiswyr. Mae’n ofynnol i ni adrodd ar weinyddu rhai digwyddiadau etholiadol, i adolygu materion etholiadol ac, os gofynnir am hynny, i adolygu ac adrodd ar unrhyw fater etholiadol. Rydym hefyd yn achredu arsylwyr i fod yn bresennol mewn prosesau etholiadol.
Nid ydym yn cynnal etholiadau ond mae gennym gyfrifoldeb dros ddarparu cyngor a chymorth ar faterion etholiadol i bawb sy’n ymwneud ag etholiadau, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr.
Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru
Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru (EMB) yn gyfrifol am gydlynu gweinyddiaeth etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd. Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol hefyd yn gyfrifol am gynnal a gweithredu platfform gwybodaeth etholiadau Cymru y gellir cyflwyno cyfeiriadau etholiadol iddo. Am ragor o wybodaeth, gweler ei wefan.
- 1. Article 18(2) The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Pryd ydych chi’n dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd swyddogol yw ar ddyddiad diddymu'r Senedd. Byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y diwrnod hwn os ydych eisoes wedi datgan eich bod yn ymgeisydd.1
Wedi’r dyddiad hwn, os byddwch chi neu eraill yn datgan y byddwch yn ymgeisydd yn yr etholiad, byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad y gwneir datganiad o’r fath, neu ar y dyddiad y cyflwynir eich papurau enwebu, pa un bynnag a ddaw gyntaf.2
Gallwch ddechrau ymgyrchu cyn i chi ddod yn ymgeisydd swyddogol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar ymgyrchu.
- 1. Article 37(2), The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Art. 37(2)(b) The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Pwy sy’n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeiswyr rhestr plaid?
Ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid, bydd gwariant i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth yn cael ei ystyried yn wariant ymgyrchu plaid a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y blaid. Ystyrir rhoddion tuag at eich ymgeisyddiaeth hefyd yn rhoddion i'r blaid.1
Os yw'r blaid wedi penodi swyddog ymgyrchoedd, eu cyfrifoldeb nhw yw awdurdodi, cofnodi a rhoi gwybod am wariant ar ôl yr etholiad. Ar gyfer pleidiau heb swyddog ymgyrchoedd, y trysorydd sy'n gyfrifol am y cyfrifoldeb hwn.2 Trysorydd y blaid sy'n gyfrifol am drin ac adrodd ar roddion y blaid.
Fodd bynnag, chi sy'n gyfrifol am reoli ac adrodd ar eich treuliau personol eich hun, sef unrhyw dreuliau teithio a byw rhesymol y gallech eu hysgwyddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Dim ond os yw'r blaid yn eich ad-dalu am y treuliau personol y bydd y treuliau hyn yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y blaid.3
Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd adrodd ar rai rhoddion os ydych chi'n ddeiliad swydd etholiadol. Ceir canllawiau manwl ar hyn yn Gwariant a rhoddion ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid.
- 1. Adran 50(2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.24(4)(b) ac a.25 PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 45(1) ac erthygl 56 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac a.72 PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Pwy sy’n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeiswyr unigol?
Yr asiant etholiad sydd â’r prif gyfrifoldeb am gydymffurfio â’r cyfreithiau ar wariant a rhoddion ymgeiswyr. Mae’r cyfreithiau yn ymdrin â’r swm y gallwch ei wario, gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion, a’r hyn y mae’n rhaid adrodd amdano ar ôl yr etholiad.
Gallwch benodi rhywun fel eich asiant etholiad, neu gallwch fod yn asiant arnoch chi eich hun.1 Gall dirprwy asiant etholiad, sef is-asiant, hefyd gael ei benodi i gefnogi’r asiant. 2
Ar ôl yr etholiad, rhaid i’r ymgeisydd a’r asiant, os ydych chi wedi penodi un, lofnodi datganiadau i ddweud bod eu ffurflen roddion a’u ffurflen wariant yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a’u cred.
Golyga hyn bod angen ichi fel yr ymgeisydd fod yn hollol ymwybodol o’r gyfraith.
Gwariant
Mae’r gyfraith yn berthnasol i wariant ar weithgareddau i hyrwyddo’ch ymgeisyddiaeth, neu i feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod cyfnod penodol yn yr amser cyn yr etholiad. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’.
Mae gwariant ymgeisydd yn cynnwys unrhyw wariant a ysgwyddir, boed ar nwyddau, gwasanaethau, lleoliadau neu gyfleusterau, ar gyfer dibenion etholiad yr ymgeisydd yn y cyfnod a reoleiddir.
Wrth ‘ysgwyddo’, rydym yn golygu gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.
Mae hyn yn cynnwys:
- eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddiwyd yn ei ystod
- gwerth eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% - sef ‘gwariant tybiannol’
Mae yna reolau sy’n cwmpasu:
- pwy all awdurdodi gwariant a thalu am eitemau a gwasanaethau
- faint y gallwch ei wario
- pa weithgareddau sy’n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant
- dyddiadau olaf i dderbyn a thalu anfonebau
- pa gofnodion sy’n rhaid i chi eu cadw
- sut a phryd mae angen i chi adrodd am eich gwariant
Gelwir gwariant ymgeisydd yn ‘dreuliau’ yn aml. Weithiau, mae pobl yn meddwl bod hyn yn golygu y gall gwariant gael ei ad-dalu gan y Senedd, neu gennym ni, y Comisiwn Etholiadol. Nid yw hyn yn wir. Nid oes gennych yr hawl i adennill unrhyw wariant o gronfeydd cyhoeddus.
Ceir rhagor o wybodaeth am adrodd am wariant ymgeisydd ar ôl yr etholiad yn Gwariant i ymgeiswyr unigol.
Rhoddion
Yr unig roddion y gall ymgeiswyr unigol eu derbyn yw arian, eitemau neu wasanaethau tuag at eu gwariant ar yr ymgyrch oddi gan ffynonellau penodol sydd wedi’u lleoli’n bennaf yn y DU a rhaid iddynt adrodd amdanynt i’r Swyddog Canlyniadau ar ôl yr etholiad.
Os penodir asiant etholiad, rhaid i roddion gael eu trosglwyddo iddo mor gyflym â phosibl. Yna, rhaid i’r asiant wirio a ellir derbyn y rhodd.
Os na phenodwyd asiant, yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddelio â rhoddion a’u gwirio.
Ceir rhagor o wybodaeth am adrodd am roddion ar ôl yr etholiad yn Rhoddion i ymgeiswyr unigol.
- 1. 1. Erthygl 39(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. 2. Erthygl 40(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Cymwysiadau ac anghymwysiadau ar gyfer sefyll mewn etholiad
Er mwyn sefyll fel ymgeisydd, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni’r cymwysiadau angenrheidiol a sicrhau nad ydych wedi’ch anghymhwyso. Mae’r adran hon yn nodi’r cymwysiadau a’r anghymwysiadau ar gyfer sefyll mewn etholiad.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gymwys i sefyll ac nad ydych wedi'ch anghymwyso. Ni all y Swyddog Canlyniadau na’r Comisiwn Etholiadol gadarnhau hyn i chi. Os ydych yn amheus ynghylch eich cymhwysedd, dylech geisio cyngor cyfreithiol.
Ni allwch sefyll mewn mwy nag un etholaeth. .1
- 1. Section 7 Government of Wales Act 2006 ↩ Back to content at footnote 1
Cymwysiadau ar gyfer sefyll mewn etholiad
Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd rhestr plaid neu unigol yn etholiad y Senedd, mae’n rhaid i chi fod: 1
- yn 18 oed o leiaf
- wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol yng Nghymru
- yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd tramor cymwys, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd sy'n preswylio yn y Deyrnas Unedig.
Mae dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yn ddinesydd o’r Gymanwlad sydd naill ai:2
- ddim angen caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, neu
- sydd â chaniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig.
Mae dinesydd tramor cymwys yn berson nad yw:3
- yn ddinesydd y Gymanwlad, neu
- yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd, neu
- yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon a
sydd â chaniatâd i aros neu nad oes arno angen caniatâd i aros neu sy'n cael ei drin fel rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU.
- 1. Paragraph 1, Schedule 1A, Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraph 2(1), Schedule 1A, GOWA 2006 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraph 2(3), Schedule 1A, GOWA 2006 ↩ Back to content at footnote 3
Anghymwysiadau
Ar wahân i fodloni’r cymwysiadau ar gyfer sefyll mewn etholiad, rhaid i chi beidio â chael eich anghymhwyso chwaith.
Mae’r ystod lawn o anghymwysiadau yn gymhleth ac os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch a ydych yn anghymwys, rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i wirio nad ydych yn anghymwys cyn cyflwyno eich papurau enwebu.
Rhaid i chi fod yn sicr nad ydych yn anghymwys gan y gofynnir i chi lofnodi’r ffurflen cydsynio ag enwebiad i gadarnhau nad ydych yn anghymwys.1
Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu ynghylch eich cymhwysedd ar gyfer cael eich ethol,2 felly os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech gysylltu â’ch cyflogwr, darllen y ddeddfwriaeth neu, os oes angen, ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.
Ni fydd y Swyddog Canlyniadau (RO) yn gallu cadarnhau a ydych yn anghymwys ai peidio
Mae rhai pobl wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelod o'r Senedd neu'n ymgeisydd mewn etholiad Senedd Cymru. Ni allwch fod yn ymgeisydd os, ar adeg eich enwebiad ac ar ddiwrnod yr etholiad,:
- Oes gennych swydd sy’n eich gwneud yn anghymwys i ddod yn aelod o’r Senedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau Swyddi anghymwys.
- Ydych yn destun cyfyngiadau methdaliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar Fethdaliad.3
- Ydych yn garcharor wedi’i gollfarnu sy’n bwrw dedfryd o fwy nag un flwyddyn o garchar (neu ddedfryd amhenodol) yn unrhyw le yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu rywle arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu eich bod ar ffo’n anghyfreithiol.4
- Ydych wedi cael eich anghymwyso dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy’n cynnwys arferion etholiadol llwgr neu anghyfreithlon a throseddau sy’n ymwneud â rhoddion neu’n dilyn cael eich adrodd yn euog o arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn Senedd Cymru 2025). Mae’r anghymhwysiad am ymarfer anghyfreithlon yn dechrau o’r dyddiad y cafodd person ei ddyfarnu’n euog gan lys etholiad ac mae’n para am dair blynedd. Mae’r anghymhwysiad am ymarfer llwgr yn dechrau o’r dyddiad y cafodd person ei ddyfarnu’n euog gan lys etholiad ac mae’n para am bum mlynedd.
- Rydych wedi'ch cael yn euog o drosedd bygythiol a sbardunwyd gan elyniaeth tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholedig berthnasol. Effaith gorchymyn anghymhwyso yw y bydd y person yn cael ei anghymhwyso rhag sefyll am, cael ei ethol i, a dal unrhyw swydd etholedig berthnasol am bum mlynedd.5
- Rydych yn ddarostyngedig i ofynion hysbysu Rhan 2 Deddf Troseddau Rhywiol 2003 ac mae'r cyfnod arferol a ganiateir ar gyfer gwneud apêl neu gais yng nghyswllt y gorchymyn neu'r hysbysiad wedi mynd heibio. Ni fydd person sydd yn y broses o wneud apêl neu gais mewn perthynas â'r anghymhwysiad yn cael ei anghymwyso ar unrhyw adeg cyn diwedd y diwrnod y penderfynir ar yr apêl, y rhoddir y gorau i'r apêl neu'r cais, neu y mae'n methu oherwydd diffyg erlyniad.6
Mae gan y Swyddog Canlyniadau yr hawl i ddal papur enwebu gan ymgeisydd unigol sydd wedi’i anghymwyso’n annilys ac i drin ymgeisydd rhestr plaid anghymwys fel pe bai wedi rhoi'r gorau i sefyll.
- 1. Section 16 Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Article 34, The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 3, Sch 1A, GOWA 2006 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 6(2), Sch 1A, GOWA 2006 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Para 6A, Sch 1A, GOWA 2006 and Section 30, Elections Act 2022 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Para 7, Sch 1A, GOWA 2006 ↩ Back to content at footnote 6
Swyddi anghymwys
Mae rhai deiliaid swyddi wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd a rhag sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd. 1 Mae'r rhain yn cynnwys:
- aelodau o’r lluoedd arfog arferol
- y rheini sy’n dal swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru
- y rheini sy’n dal swydd Comisiynydd Plant Cymru, Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru
- gweision sifil
- y rheini sy’n dal swydd Prif Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil a Chomisiynwyr y Gwasanaeth Sifil
- y rheini sy’n dal swydd Comisiynydd y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol
- y rheini sy’n dal swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus
- y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol
- Aelodau, Comisiynwyr cynorthwyol a phrif weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
- Y Comisiynwyr Etholiadol ac aelodau staff y Comisiwn
- Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer unrhyw ardal yng Nghymru
- Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru
- Aelodau o Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd
- unrhyw un sy’n dal swydd farnwrol
- aelodau’r heddlu
- aelodau deddfwrfa unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r DU
- y rheini sy’n dal swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- y rheini sy’n dal swydd yr arglwydd-raglaw, is-gapten neu uchel siryf unrhyw ardal yng Nghymru
- y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu
- Swyddog Canlyniadau ar gyfer unrhyw un o etholaethau’r Senedd
- Comisiynydd y Gymraeg, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg ac aelodau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg
- Comisiynydd Safonau y Senedd
- Aelodau staff Comisiwn y Senedd.
Nid yw ymgeiswyr sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Aelodau’r Senedd ac nid gan Gomisiwn y Senedd yn cael eu hanghymhwyso rhag sefyll i gael eu hethol. Fodd bynnag, gall perthnasoedd cyflogaeth fod yn gymhleth ac rydym yn cynghori unrhyw un sy’n ansicr a ydynt wedi’u hanghymhwyso i siarad ag adran Adnoddau Dynol y Senedd i gadarnhau eu trefniadau cyflogaeth a/neu ofyn am eu cyngor cyfreithiol eu hunain.
Aelodau Seneddol Tŷ’r Cyffredin yn sefyll yn etholiad Senedd Cymru2
Ni all aelodau Tŷ’r Cyffredin fod yn aelodau o’r Senedd. Er y gallant sefyll fel ymgeiswyr yn etholiad Senedd Cymru, os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i AS ymddiswyddo o’i sedd yn Nhŷ’r Cyffredin cyn pen wyth diwrnod calendr ar ôl cael ei ethol i’r Senedd.3
Deiliaid swyddi eraill sy’n sefyll yn etholiad Senedd Cymru
Ni chaiff deiliaid swyddi penodol fod yn Aelodau o’r Senedd. Mae'r deiliaid swyddi hyn wedi'u rhestru yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwysiad) 2025. Mae’r swyddi hyn yn cynnwys:
Aelodau Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon
Gall aelodau Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd Cymru, ond, os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt ymddiswyddo cyn tyngu’r llw teyrngarwch (neu roi’r cadarnhad cyfatebol).
Aelodau Tŷ’r Arglwyddi
Gall aelodau Tŷ’r Arglwyddi sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd Cymru, ond os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt eisoes fod â chaniatâd i fod yn absennol o Dŷ’r Arglwyddi, neu fod wedi gwneud cais am ganiatâd i fod yn absennol nad yw wedi cael ei dynnu’n ôl neu ei wrthod.
Aelodau o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru
Gall aelodau cyngor sir neu fwrdeistref sirol neu gyngor cymuned sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd Cymru, ond, os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt ymddiswyddo cyn tyngu’r llw teyrngarwch (neu roi’r cadarnhad cyfatebol).4
Caiff deiliaid swyddi penodol eraill sydd wedi’u rhestru yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwysiad) 2025 sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd Cymru, ond, os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt ymddiswyddo cyn tyngu’r llw teyrngarwch (neu wneud y cadarnhad cyfatebol).
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ac mae rhestrau manwl o anghymwysiadau wedi’u nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd), Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025.
- 1. Rhan 2, Atodlen 1A, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GOWA 2006) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 16 GOWA 2006 (fel y’i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 17A, GOWA 2006 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 17D, GOWA 2006 (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 4
Methdaliad
Nid yw methdaliad ynddo'i hun yn anghymhwysiad. Os cawsoch eich dyfarnu’n fethdalwr gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ni chewch eich anghymhwyso ar y sail honno. Fodd bynnag, cewch eich anghymhwyso os ydych yn ddarostyngedig i unrhyw un o'r canlynol ar hyn o bryd:1
- gorchymyn cyfyngu methdaliad dros dro
- gorchymyn cyfyngu methdaliad
- gorchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled dros dro
- gorchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled
- os yw eich ystâd wedi cael ei atafaelu gan lys yn yr Alban ac nad ydych wedi cael eich rhyddhau
Os gwnaethpwyd y gorchymyn yng Ngogledd Iwerddon, dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun gan fod y gyfraith yn gymhleth yn y maes hwn.
- 1. Paragraff 3 a 4, Atodlen 1A, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ↩ Back to content at footnote 1
Carcharu a phenderfyniadau llys
Rydych wedi'ch anghymwyso dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 os ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd a'ch bod wedi'ch dedfrydu neu wedi'ch gorchymyn i gael eich carcharu neu eich cadw am gyfnod amhenodol neu am fwy na blwyddyn a'ch bod yn cael eich cadw yn unrhyw le yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu unrhyw le arall yn yr Undeb Ewropeaidd, neu'n anghyfreithlon ar ffo pan fyddech yn cael eich cadw'n gaeth fel arall.
Rydych hefyd wedi’ch anghymhwyso dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, os ydych wedi cael eich dyfarnu’n euog neu wedi cael eich collfarnu am ymarfer etholiadol llwgr neu anghyfreithlon neu drosedd sy’n ymwneud â rhoddion. Mae’r anghymhwysiad am ymarfer anghyfreithlon yn dechrau o’r dyddiad y cafodd person ei ddyfarnu’n euog gan lys etholiad neu wedi’i gollfarnu ac mae’n para am dair blynedd. Mae’r anghymhwysiad am ymarfer llwgr yn dechrau o’r dyddiad y cafodd person ei ddyfarnu’n euog gan lys etholiad neu wedi’i gollfarnu ac mae’n para am bum mlynedd.
Rydych wedi'ch cael yn euog o drosedd bygythiol a sbardunwyd gan elyniaeth tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholedig berthnasol.1
- 1. Paragraff 6A, Atodlen 1A, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Adran 30 Deddf Etholiadau 2022 ↩ Back to content at footnote 1
Penodi’r asiant etholiad ac asiantiaid eraill
Asiant etholiad yw’r person sy’n gyfrifol am reoli eich ymgyrch etholiadol yn briodol ac, yn benodol, am ei reolaeth ariannol.
Mae’n rhaid i bob plaid wleidyddol sy’n cyflwyno rhestr plaid a phob ymgeisydd unigol gael asiant etholiad.1
Os na phenodir asiant etholiad, penodir person yn ddiofyn. Am ragor o wybodaeth gweler ein canllaw ar Penodi asiant etholiad.
Gallwch hefyd benodi asiantiaid eraill i ddilyn y prosesau etholiadol canlynol, y mae gennych chi a’ch asiant etholiad hawl i’w harsylwi.
- agor pleidleisiau post
- y bleidlais
- y cyfrif
- 1. Erthygl 39(1) a (3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Pwy all fod yn asiant etholiad?
Nid oes angen cymwysterau penodol i fod yn asiant etholiad a gallwch fod yn asiant i chi eich hun os dymunwch.
Fodd bynnag, ni chaniateir i’r bobl ganlynol fod yn asiantiaid etholiad:1
- y Swyddog Canlyniadau, neu aelod o’u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodir yn benodol ar gyfer yr etholiad)
- dirprwy neu glerc y Swyddog Canlyniadau neu aelod o’i staff
- swyddog awdurdod lleol y mae ei wasanaethau wedi cael eu rhoi at ddefnydd y Swyddog Canlyniadau
- partner neu glerc i unrhyw un o’r uchod
Os ydych chi’n sefyll ar ran plaid, efallai y bydd ganddynt hefyd reolau penodol ynghylch pwy y cewch chi eu penodi’n asiant etholiad.
- 1. Erthygl 73, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Penodi asiant etholiad
Ymgeiswyr rhestr plaid
Rhaid i blaid sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr i’w hethol gael asiant etholiad i weithredu ar ran yr holl ymgeiswyr ar restr y blaid.1
Gellir enwi ymgeisydd sydd wedi’i gynnwys ar restr plaid fel asiant etholiad ar gyfer y blaid honno.2
Oherwydd y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth rôl asiant etholiad, dylai’r blaid ystyried yn ofalus pwy sy’n cael eu penodi a sicrhau eu bod yn deall eu rhwymedigaethau.
Rhaid i’r Swyddog Enwebu, neu rywun ar ran y Swyddog Enwebu, ddatgan yn ysgrifenedig enw a chyfeiriad eich asiant etholiad i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm 18 diwrnod gwaith cyn y bleidlais. 3
Dylai’r datganiad gael ei wneud gan asiant y blaid (neu’r sawl sy’n gwneud y datganiad ar ran y blaid). Os caiff ei wneud gan rywun arall, rhaid i’r asiant ddarparu datganiad wedi’i lofnodi yn derbyn y penodiad.
Mae hefyd yn ddefnyddiol darparu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer eich asiant etholiad er mwyn i’r Swyddog Canlyniadau allu cysylltu ag ef yn ddidrafferth.
Gall y Swyddog Canlyniadau ddarparu ffurflen datganiad, neu gallech ddefnyddio’r ffurflen datganiad asiant etholiad a gynhyrchwyd gan y Comisiwn.
Os na hysbysir y Swyddog Canlyniadau am enw a chyfeiriad yr asiant etholiad a benodwyd gan y blaid, ystyrir bod yr ymgeisydd a enwir gyntaf ar restr yr ymgeiswyr wedi'i benodi ar ran y blaid ar gyfer yr holl ymgeiswyr.4
Os penodir ymgeisydd rhestr plaid fel asiant etholiad a’i fod wedi nodi ar ei ffurflen cyfeiriad cartref na ddylid cyhoeddi ei gyfeiriad cartref ni fydd y cyfeiriad cartref yn cael ei gyhoeddi ar hysbysiad asiantiaid etholiad.5
Yn hytrach, bydd yr etholaeth neu’r wlad a nododd ar ei ffurflen cyfeiriad cartref yn cael ei hargraffu ar yr hysbysiad o asiant etholiad.6
Os enwir ymgeisydd rhestr plaid fel yr asiant etholiad a bod y datganiad o bersonau a enwebwyd yn dangos enw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i hysbysiad yr asiant etholiad ddangos ei enw a ddefnyddir yn gyffredin fel y'i nodir ar ei bapur enwebu.7
Swyddfa asiant etholiad ar gyfer rhestr plaid
Rhaid i asiant gael cyfeiriad swyddfa y gellir danfon unrhyw hysbysiadau cyfreithiol iddo ac felly rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau PO na blychau post tebyg.8
Rhaid datgan cyfeiriad y swyddfa ar yr un pryd a hysbysir y Swyddog Canlyniadau o benodiad yr asiant etholiad.9
Rhaid i gyfeiriad swyddfa’r asiant fod:10
- yn etholaeth y Senedd lle mae’r etholiad yn cael ei gynnal neu etholaeth gyffiniol
- mewn sir neu fwrdeistref sirol sydd yn rhannol yn neu’n cydffinio ag etholaeth y Senedd
Cyfeiriad swyddfa’r asiant yn aml iawn fydd ei gyfeiriad cartref, ond gallai fod yn swyddfa’r blaid leol neu’n swyddfa a sefydlwyd ar gyfer yr etholiad.
Os cyhoeddir ymgeisydd rhestr plaid fel asiant etholiad ar gyfer y rhestr plaid a bod ei gyfeiriad cartref yr un peth â'i gyfeiriad swyddfa a’i fod wedi nodi ar ei ffurflen cyfeiriad cartref na ddylid cyhoeddi ei gyfeiriad cartref yna rhaid hefyd darparu cyfeiriad gohebiaeth i’r Swyddog Canlyniadau.11 Rhaid i’r cyfeiriad gohebiaeth fod yng Nghymru neu Loegr. Bydd y cyfeiriad gohebiaeth yn cael ei gyhoeddi ar yr hysbysiad o benodi asiantiaid etholiad yn hytrach na’r cyfeiriad swyddfa.12
Pan ystyrir mai'r ymgeisydd a enwir gyntaf ar y rhestr plaid yw'r asiant etholiad oherwydd nad yw'r Swyddog Canlyniadau wedi cael gwybod am benodiad asiant, ystyrir mai cyfeiriad y swyddfa yw'r cyfeiriad a ddarperir ar ffurflen gydsynio ag enwebiad yr ymgeisydd.13
Rhaid i bob ymgeisydd ddarparu cyfeiriad ar ei ffurflen cydsynio ag enwebiad i’w ddefnyddio fel cyfeiriad swyddfa os daw yn asiant etholiad yn ddiofyn.14
Ymgeiswyr unigol
Rhaid i chi gael asiant etholiad.15
Oherwydd y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth rôl asiant etholiad, dylech ystyried yn ofalus pwy rydych chi’n mynd i’w benodi a sicrhau ei fod yn deall ei rwymedigaethau.
Gallwch fod yn asiant i chi eich hun os dymunwch.
Rhaid i chi, neu rywun ar eich rhan, ddatgan yn ysgrifenedig enw a chyfeiriad eich asiant etholiad i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm 18 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.16
Dylech chi (neu’r person sy’n gwneud y datganiad ar eich rhan) a’r asiant lofnodi’r datganiad i ddangos eu bod yn derbyn y penodiad.
Mae hefyd yn ddefnyddiol darparu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer eich asiant etholiad er mwyn i’r Swyddog Canlyniadau allu cysylltu ag ef yn ddidrafferth.
Gall y Swyddog Canlyniadau ddarparu ffurflen datganiad, neu gallech ddefnyddio’r ffurflen datganiad asiant etholiad a gynhyrchwyd gan y Comisiwn.
Os na chaiff y Swyddog Canlyniadau ei hysbysu am enw a chyfeiriad eich asiant etholiad erbyn yr amser hwyraf ar gyfer cyflwyno hysbysiad o dynnu ymgeisyddiaeth yn ôl, byddwch yn cael eich enwi fel eich asiant eich hun yn awtomatig.17
Os ydych yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun a’ch bod wedi nodi ar eich ffurflen cyfeiriad cartref na ddylid cyhoeddi eich cyfeiriad cartref, ni fydd y cyfeiriad cartref yn cael ei gyhoeddi ar yr hysbysiad asiantiaid etholiad.18
Yn hytrach, bydd yr etholaeth neu’r wlad a nodwyd ar eich ffurflen cyfeiriad cartref yn cael ei hargraffu ar yr hysbysiad o asiant etholiad 19
Os enwir ymgeisydd unigol fel yr asiant etholiad a bod y datganiad o bersonau a enwebwyd yn dangos enw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i hysbysiad yr asiant etholiad ddangos ei enw a ddefnyddir yn gyffredin fel y'i nodir ar ei papur enwebu.20
Swyddfa asiant etholiad ar gyfer ymgeisydd unigol
Rhaid i asiant gael cyfeiriad swyddfa y gellir danfon unrhyw hysbysiadau cyfreithiol ato ac felly rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau PO na blychau post tebyg.21
Rhaid datgan cyfeiriad y swyddfa ar yr un pryd â phenodiad yr asiant etholiad i’r Swyddog Canlyniadau.22
Rhaid i gyfeiriad swyddfa’r asiant fod:23
- yn etholaeth y Senedd lle mae’r etholiad yn cael ei gynnal neu etholaeth gyffiniol
- mewn sir neu fwrdeistref sirol sydd yn rhannol yn neu’n cydffinio ag etholaeth y Senedd.
Cyfeiriad swyddfa’r asiant yn aml iawn fydd ei gyfeiriad cartref, ond gallai fod yn swyddfa a sefydlwyd ar gyfer yr etholiad.
Os yw ymgeisydd unigol wedi penodi ei hun fel ei asiant etholiad ei hunan, a bod ei gyfeiriad cartref yr un peth â'i gyfeiriad swyddfa a’i fod wedi nodi ar ei ffurflen cyfeiriad cartref na ddylid cyhoeddi ei gyfeiriad cartref, yna rhaidgellir darparu cyfeiriad gohebiaeth i’r Swyddog Canlyniadau yn lle cyfeiriad swyddfa.24 Rhaid i’r cyfeiriad gohebiaeth fod yng Nghymru neu Loegr. Bydd y cyfeiriad gohebiaeth yn cael ei gyhoeddi ar yr hysbysiad o benodi asiantiaid etholiad yn hytrach na’r cyfeiriad swyddfa.25
Pan ystyrir mai ymgeisydd unigol yw ei asiant etholiad ei hun am nad yw’r Swyddog Canlyniadau wedi cael gwybod am benodiad asiant, ystyrir mai cyfeiriad y swyddfa yw'r cyfeiriad a nodwyd ar ffurflen gydsynio ag enwebiad yr ymgeisydd.26 Rhaid i bob ymgeisydd ddarparu cyfeiriad ar ei ffurflen cydsynio ag enwebiad i’w ddefnyddio fel cyfeiriad swyddfa os daw'n asiant etholiad yn ddiofyn.27
- 1. Erthygl 39(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 39(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 39(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 42(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 39(5) (a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 39(5) (b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 39(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 41(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Erthygl 41(1) (a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Erthygl 41(5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Erthygl 41(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Erthygl 41(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Erthygl 42(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 13
- 14. Rheol 9(3) (b), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 14
- 15. Erthygl 39(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 15
- 16. Erthygl 39(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 16
- 17. Erthygl 42(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 17
- 18. Erthygl 39(5) (a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 18
- 19. Erthygl 39(5) (b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 19
- 20. Erthygl 39(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 20
- 21. Erthygl 41(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 21
- 22. Erthygl 41(1) (a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 22
- 23. Erthygl 41(5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 23
- 24. Erthygl 41(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 24
- 25. Erthygl 41(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 25
- 26. Erthygl 42(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 26
- 27. Rheol 9(3) (b), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 27
Dirymu penodiad asiant etholiad
Ymgeiswyr rhestr plaid
Gellir dirymu penodiad asiant etholiad ar unrhyw adeg, gan gynnwys ar ôl y diwrnod pleidleisio, a gellir gwneud hysbysiad o'r penodiad newydd yn yr un modd ag a amlinellwyd wrth benodi asiant etholiad.1
Os bydd penodiad asiant etholiad yn cael ei ddirymu, rhaid penodi asiant etholiad arall ar unwaith.2
Pan fydd asiant wedi derbyn ei benodiad, ni all ymddiswyddo a rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau sy’n ofynnol ganddo oni bai eich bod yn dirymu ei benodiad.
Ymgeiswyr unigol
Gallwch ddirymu penodiad eich asiant etholiad ar unrhyw adeg, gan gynnwys ar ôl y diwrnod pleidleisio, a gellir gwneud hysbysiad o’r penodiad newydd yn yr un modd ag wrth benodi asiant etholiad.3
Os byddwch yn dirymu apwyntiad eich asiant etholiad, rhaid penodi asiant etholiad arall ar unwaith.4
Os ydych chi’n gweithredu fel eich asiant eich hun, gallwch ddirymu eich penodiad eich hun a phenodi rhywun arall yn asiant i chi.
Pan fydd asiant wedi derbyn ei benodiad, ni all ymddiswyddo a rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau sy’n ofynnol ganddo oni bai eich bod yn dirymu ei benodiad.
- 1. Erthygl 39(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 39(9), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 39(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 39(9), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Is-asiantiaid
Gall asiant etholiad benodi is-asiantau i weithredu ar ei ran mewn unrhyw ran o'r etholaeth rydych chi'n sefyll ynddi, cyn belled nad yw'r rhannau hynny'n gorgyffwrdd.1 Gall yr asiant benderfynu i ba rannau y mae am isrannu'r etholaeth.
Rhaid i asiant etholiad ar gyfer rhestr plaid o ymgeiswyr sy'n penodi is-asiant ar gyfer unrhyw ran o ardal etholaeth benodi'r un person yn is-asiant ar gyfer y rhan honno o'r etholaeth mewn perthynas â phob ymgeisydd.2
Gall yr is-asiant wneud popeth y mae gan yr asiant etholiad yr hawl i’w wneud o fewn yr ardal y caiff ei benodi.
Dylai’r asiant etholiad sicrhau bod unrhyw is-asiant yn ymwybodol o’r rheolau etholiadol a gwariant, gan y bydd unrhyw beth a wneir gan is-asiant yn cael ei drin fel pe bai wedi’i wneud gan yr asiant etholiad. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar wariant etholiadol ar gyfer ymgyrchwyr unigol a ymgeiswyr rhestr plaid.
Rhaid i is-asiant gael cyfeiriad y gellir danfon unrhyw hysbysiadau cyfreithiol ato ac felly rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau PO na blychau post tebyg.3 Rhaid i swyddfa’r is-asiant fod yn yr ardal y’i penodir i weithredu ynddi.4
Rhaid i’r asiant etholiad hysbysu’r Swyddog Canlyniadau yn ysgrifenedig o enw a chyfeiriad pob is-asiant a’r ardal lle cawsant eu penodi i weithredu erbyn 2 ddiwrnod gwaith cyn y bleidlais.5 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn darparu ffurflen y gallwch ei defnyddio. Fel arall, gallwch ddefnyddio’r ffurflen sydd wedi’i chynnwys at y diben hwn yn ein pecyn enwebu.
Gall yr asiant etholiad ddirymu penodiad is-asiant ar unrhyw adeg a phenodi rhywun arall yn ei le. Os penodir is-asiant arall, rhaid i’r asiant etholiad ddatgan enw, cyfeiriad, a’r ardal benodi i’r Swyddog Canlyniadau yn ysgrifenedig.6
- 1. Erthygl 40, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 40(3) (a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 41(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 41(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 40(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 40(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
Gwariant ar gyfer ymgeiswyr unigol
Mae’r adran ganlynol yn rhoi canllawiau ar wariant i ymgeiswyr unigol yn etholiadau’r Senedd.
Mae’r canllaw hwn yn cwmpasu:
- faint y gallwch ei wario yn y cyfnod cyn yr etholiad
- pa weithgareddau sy’n cyfrif tuag at wariant ymgeisydd
- pa gofnodion sy’n rhaid i chi eu cadw
- sut i roi cyfrif am wahanol fathau o wariant
Gweler Pwy sy’n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeiswyr unigol? am ragor o wybodaeth ynghylch cyfrifoldebau'r asiant a’r ymgeisydd.
Pryd y mae’r cyfreithiau ar wariant ymgeisydd yn berthnasol?
Rydym yn galw’r cyfnod pan mae’r cyfreithiau ar wariant yn berthnasol yn ‘gyfnod a reoleiddir’.
Mae’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 yn dechrau ar 7 Ionawr 2026 a bydd yn dod i ben ar ddiwrnod yr etholiad, 7 Mai 2026.1
- 1. Erthygl 49 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Faint allwch chi ei wario?
Y terfyn gwariant i ymgeiswyr unigol yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn etholiad y Senedd yw £52,500.1
- 1. Erthygl 48(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Pwy sy’n gallu awdurdodi a thalu am wariant?
Mae rheolau yn eu lle i sicrhau y gellir rheoli gwariant a’i gofnodi ac adrodd amdano yn gywir.
Eich cyfrifoldeb chi yw adrodd am wariant ymgeisydd yn llawn ac yn gywir. Dylech sicrhau eich bod yn deall y gyfraith a bod pob gwariant yn cael ei awdurdodi, ei gofnodi a’i adrodd yn y ffordd gywir.
Pwy all ysgwyddo gwariant ymgeisydd?
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, y bobl ganlynol yn unig sydd â chaniatâd i ysgwyddo gwariant etholiad i ymgeiswyr unigol:
- yr asiant
- yr ymgeisydd, ac
- unrhyw un a awdurdodir gan yr ymgeisydd neu’r asiant1
Drwy'r term ‘ysgwyddo’ rydym yn golygu gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario’r arian. Rydych yn ysgwyddo gwariant etholiad pan rydych yn dod yn rhan o drafodiad gyda chyflenwr ac yn dod yn atebol am dalu am yr eitem, y nwyddau neu’r gwasanaeth y mae wedi ei ddarparu i chi. Er enghraifft, rydych yn prynu gwasanaeth cwmni argraffu i argraffu taflenni, neu rydych yn arwyddo cytundeb i rentu swyddfa.
Yn aml, caiff taliadau eu hysgwyddo a'u talu ar yr un pryd. Er enghraifft, os ydych yn prynu rhywbeth ar-lein neu mewn siop. Serch hynny, mae yna reoliadau ar wahân ynghylch pwy all ymrwymo’n gyfreithiol i fod yn ddyledus yn ariannol am wariant ymgeisydd a phwy a all dalu am wariant etholiad dan y gyfraith.
Os ydych chi’n rhoi awdurdod i rywun ysgwyddo gwariant ymgeisydd, rhaid i chi wneud hynny ar ffurf ysgrifenedig a nodi’n glir y swm y gall ei wario ac ar beth.2
Pwy sy’n gallu talu am wariant ymgeisydd?
Mae rheolau ar bwy all wneud taliadau yn berthnasol ar ôl ichi ddod yn ymgeisydd swyddogol. Gall ymgeisydd unigol benodi asiant etholiad, neu weithredu fel asiant etholiad arno’i hun. Mae penodi asiant etholiad yn effeithio ar bwy all wneud taliadau.
Cyn i chi benodi asiant
Yr unig eitemau (ac eithrio treuliau personol) y gall yr ymgeisydd dalu amdanynt yw’r rhai sydd wedi eu hysgwyddo, ac mae taliad yn ddyledus, cyn penodi asiant etholiad.3 Gall yr ymgeisydd ond talu hyd at £900 am dreuliau personol ar gyfer costau teithio a llety. Rhaid i’r asiant dalu am unrhyw dreuliau personol ychwanegol.4
Ar ôl i chi benodi asiant
Ar ôl ichi benodi asiant, rhaid i daliadau am y rhan fwyaf o wariant ymgeisydd gael eu gwneud gan neu drwy’r asiant.5 Yn ogystal â threuliau personol, mae tri eithriad:
- gall yr asiant roi awdurdod ysgrifenedig i rywun dalu am fân dreuliau fel offer ysgrifennu neu gost postio. Mae’n rhaid i’r awdurdod gynnwys cost y taliad.6
- gall pobl wario hyd at £1,000 ar ymgyrchu o blaid neu yn erbyn un neu ragor o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth. Gall yr asiant roi awdurdod ysgrifenedig i rywun ysgwyddo a thalu am wariant ar ran yr ymgeisydd fel nad yw’n cyfrif tuag at y terfyn £1,000 hwn (gweler Awdurdodi eraill i ysgwyddo gwariant).7
- gall yr ymgeisydd wneud taliadau am anfonebau y mae wedi cael gorchymyn llys i’w talu, gan fod y terfyn amser cyfreithiol i wneud y taliad wedi mynd heibio
Os gwneir unrhyw daliadau gan unrhyw un ar wahân i’r ymgeisydd, yr asiant neu’r is-asiant - er enghraifft gan berson a awdurdodir yn ysgrifenedig i ysgwyddo gwariant (ac nid yw’n cael ei ad-dalu gan yr asiant), yna bydd hwn yn rhodd i’r ymgeisydd os yw dros £500.8 Gweler Rhoddion i ymgeiswyr unigol am ragor o wybodaeth am roddion.
Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a’ch ymgyrchwyr yn ymwybodol o’r gyfraith ac yn gwybod pwy all a phwy na all ysgwyddo neu dalu costau.
Crynhoir y rheolau gwariant yn y tabl canlynol:
| Pryd ysgwyddwyd y taliad? | Pwy all ysgwyddo? | Pwy all dalu? |
|---|---|---|
| Yn ystod y cyfnod a reoleiddir cyn i’r unigolyn ddod yn ymgeisydd | Yr ymgeisydd, yr asiant, neu’r bobl y maent wedi eu hawdurdodi yn ysgrifenedig yn unig | Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all dalu am wariant ymgeisydd cyn i’r unigolyn ddod yn ymgeisydd |
| Ar ôl i’r unigolyn ddod yn ymgeisydd | Yr ymgeisydd, yr asiant, neu’r bobl y maent wedi eu hawdurdodi yn ysgrifenedig yn unig | Yr asiant neu drwy’r asiant yn unig y gellir gwneud taliadau, ac eithrio:
|
- 1. Erthygl 47(1) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 45(5) ac erthygl 47(1) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 45(3) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 45(2) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 44(1) a (4) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 44(4)(b) ac erthygl 45(5) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 44(4)(d) ac erthygl 47 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, paragraff 2(1)(c) a pharagraff 4(2) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
Pa gofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw?
Dylech sicrhau bod system yn ei lle i gadw cofnod o’ch holl wariant ymgeisydd fel bod modd ichi adrodd amdano ar ôl yr etholiad. Mae asiantiaid etholiad yn gyfrifol am adrodd am wariant ar ôl yr etholiad.
Yr hyn sydd angen i chi ei gofnodi
Am bob eitem o wariant, dylech gofnodi’r wybodaeth ganlynol i’w chynnwys yn eich ffurflen wariant ar ôl yr etholiad:
- ar gyfer beth oedd y gwariant - er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- y swm neu’r gwerth
- y dyddiad y cafodd yr arian ei wario gennych
Rhaid ichi gadw anfonebau neu dderbynebau am unrhyw daliadau sy’n £20 neu fwy.1
Os ydych chi wedi talu TAW ar eitem, rhaid i chi gynnwys hwn wrth adrodd am gostau’r eitem yn eich ffurflen. Rhaid i chi gynnwys TAW hyd yn oed os gellir ei adennill fel traul busnes.
Efallai na fydd anfonebau ar gyfer taliadau a wnaed i gwmnïau tramor yn cynnwys TAW bob amser. Os ydych chi wedi talu TAW, dylech gynnwys hwn fel rhan o gost yr eitem wrth adrodd, hyd yn oed os nad yw TAW wedi’i gynnwys ar yr anfoneb.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i’r asiant gadw copïau o bob enghraifft o ddeunydd ymgyrch a ddefnyddiwyd (fel llythyrau neu daflenni) rhag ofn y bydd angen cyfeirio yn ôl atynt.
Rhaid ichi hefyd gofnodi manylion am wariant pan:
- fyddwch yn gwneud defnydd o eitemau sydd wedi’u rhoi ichi
- pan fyddwch yn rhoi awdurdod i rywun arall ysgwyddo gwariant
Gweler adrannau ar wariant tybiannol ac ymgyrchu lleol am ragor o fanylion.
Am fanylion am y wybodaeth sy’n ofynnol yn y ffurflen wariant, gweler Llenwi eich ffurflen.
- 1. Erthygl 44(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Beth yw gwariant ymgeisydd?
Gwariant ymgeisydd yw gwariant ar weithgareddau a ddefnyddiwch i hyrwyddo’ch ymgeisyddiaeth, neu feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod y cyfnod a reoleiddir.1 Mae hyn yn cynnwys:
- gwariant a ysgwyddir gan yr ymgeisydd neu’r asiant
- eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn y cyfnod a reoleiddir yr ydych yn eu defnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir2
- gwariant tybiannol, pan mae rhywbeth yn cael ei roi i chi a’i ddefnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir
- ymgyrchu lleol, pan fyddwch yn rhoi awdurdod i rywun ar wahân i’r ymgeisydd neu’r asiant i ysgwyddo gwariant
Iddo fod yn wariant ymgeisydd, rhaid iddo:
- fod yn weithgaredd ar y rhestr o fathau o wariant etholiad
- hyrwyddo’r ymgeisydd3
Beth yw gwario i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth?
Os anelir gweithgaredd at bleidleiswyr yn eich etholaeth i hyrwyddo neu ddiogelu eich ymgeisyddiaeth, yna mae’n wariant i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth. Rhaid adrodd am y gwariant hwn.
Pan fyddwch yn defnyddio eitem o wariant at ddibenion eich ymgyrch yn llwyr, dylech adrodd am yr holl gostau yn eich ffurflen.
Mewn rhai achosion, ni fydd yr holl wariant ar eitem yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth. Er enghraifft, pan:
- ddefnyddir rhai o’r eitemau neu wasanaethau yn unig i’ch hyrwyddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir
- fyddwch yn rhannu eitemau neu wasanaethau gydag ymgeisydd arall
Yn yr achosion hyn, dim ond cyfran o’r costau sydd angen adrodd amdanynt.
Gweler Rhannu gwariant y dylid adrodd amdano ac na ddylid adrodd amdano am ganllawiau ac enghreifftiau manwl o rannu’r costau hyn.
- 1. Erthygl 65, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 48(2)-(4) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 65, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Bydd gwariant ar unrhyw rai o’r gweithgareddau canlynol yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd os defnyddir y gweithgaredd i hyrwyddo’r ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir:
- hysbysebu o unrhyw fath.1 Er enghraifft, posteri, hysbysebion papur newydd, gwefannau neu fideos
- deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr.2 Er enghraifft, llythyrau, taflenni neu e-byst rydych chi’n eu hanfon ac nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol, gan gynnwys costau cynhyrchu’r anerchiad etholiadol y mae gennych yr hawl i’w anfon am ddim
- costau cludiant.3 Er enghraifft, car ar log neu drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eich ymgyrchwyr
- cyfarfodydd cyhoeddus.4 Er enghraifft, ad-dalu treuliau’r rhai sy’n bresennol, llogi lleoliadau a thalu am nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer cyfarfod cyhoeddus
- costau staff.5 Er enghraifft, cyflog asiant, neu staff sydd wedi cael eu secondio i chi gan eu cyflogwyr. Nid oes angen i chi gynnwys yr amser a dreuliwyd ar eich ymgyrch gan wirfoddolwyr
- llety.6 Er enghraifft, swyddfa eich ymgyrch
- costau gweinyddol.7 Er enghraifft, biliau ffôn, offer ysgrifennu, llungopïo a defnyddio cronfeydd data
Bydd yr holl gostau sy’n gysylltiedig â gweithgaredd yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd. Er enghraifft, os ydych chi’n cynhyrchu taflenni neu’n hysbysebu, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu.
Mae’n rhaid adrodd am y gwariant hwn ar eich ffurflen wariant ar ôl yr etholiad. Mae gwybodaeth fwy manwl ar bob categori wedi’i chynnwys ar y tudalennau canlynol.
- 1. Atodiad 7, paragraff 1, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, paragraff 3, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, paragraff 4, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 7, paragraff 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 7, paragraff 6, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 7, paragraff 6, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
Hysbysebu o unrhyw fath
Costau cyffredinol
Mae enghreifftiau yn cynnwys costau:
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- offer
- hawliau delweddau neu ffioedd trwyddedu
- papur neu ddeunyddiau eraill
a ddefnyddir mewn cysylltiad â hysbysebu o unrhyw fath. Mae hyn yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a hyrwyddo hysbysebion.
Er enghraifft, llogi ffotograffydd a lleoliadau i gynhyrchu delweddau at ddefnydd mewn deunydd hysbysebu neu brynu safle mwy amlwg ar dudalen peiriant chwilio.
Efallai y bydd gennych hefyd gostau yn gysylltiedig ag arddangos deunydd hysbysebu mewn lleoliad, fel prynu placardiau, rhwymyn cebl neu lud.
Offer cyfrifiadura ac argraffu
Pan mae papur, offer llungopïo neu beiriant argraffu yn cael ei brynu neu ei logi ar gyfer prif ddefnydd yn yr ymgyrch, rhaid adrodd am y gost lawn.
Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig ag offer argraffu neu gyfrifiadura mewn cysylltiad â hysbysebu. Mae angen adrodd am y costau hyn ac eithrio:
- pan mae’r offer argraffu neu gyfrifiadura wedi’i gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf ar gyfer ei ddefnydd personol1
- pan mae unigolyn arall yn darparu’r offer argraffu neu gyfrifiadura. Mae’r offer wedi’i gaffael gan yr unigolyn hwnnw ar gyfer ei ddefnydd personol ac mae’r ymgeisydd yn cael ei ddefnyddio am ddim2
Enghraifft A
Mae’r ymgeisydd yn llogi peiriant argraffu proffesiynol i argraffu hysbysebion. Gan y llogir yr argraffwr yn benodol ar gyfer defnydd yn yr ymgyrch, rhaid adrodd am gost lawn llogi’r argraffwr.
Enghraifft B
Mae gwirfoddolwr yn caniatáu’r ymgyrch i ddefnyddio ei beiriant argraffu a’i offer swyddfa cartref am ddim. Nid yw hyn yn wariant ymgeisydd gan fod eithriad o ran defnyddio offer argraffu neu gyfrifiadura personol rhywun pan nad oes angen i’r ymgeisydd dalu cost. Ni ddylid adrodd am hyn.
Meddalwedd
Mae’n cynnwys cost unrhyw feddalwedd, o unrhyw fath, i’w defnyddio ar unrhyw ddyfais er mwyn:
- dylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
- rhannu neu hwyluso’r gwaith o ddosbarthu deunydd hysbysebu
boed y deunydd hwnnw’n cael ei ddosbarthu’n ddigidol, yn electronig neu mewn unrhyw ffordd arall.
Er enghraifft, ffi trwyddedu ar gyfer rhaglen feddalwedd at ddefnydd ar ddyfais neu brynu meddalwedd AI i gynhyrchu hysbysebion.
Gwefannau a deunydd digidol arall
Mae’n cynnwys costau:
- lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd
- dylunio a chreu’r wefan
- cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy’n cael ei sefydlu er mwyn caffael cronfeydd ar gyfer yr ymgeisydd ond sydd hefyd yn hyrwyddo’r ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Deunydd ar gyfer rhannu
Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig â gwneud deunydd hysbysebu ar gael i:
- eraill ei lawrlwytho a’i ddefnyddio
- bostio am yr ymgeisydd a hyrwyddo’r ymgeisydd drwy unrhyw fath o sianel neu blatfform cyfryngau cymdeithasol
Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu i hyrwyddo’r ymgeisydd sy’n cael ei bostio ar dudalen sianel cyfryngau cymdeithasol ac sy’n annog dilynwyr i'w rannu.
Os ydych chi’n rhoi deunydd ar wefan fel bod pobl yn gallu ei argraffu at eu defnydd personol, megis posteri ffenestri neu ffurflenni deiseb, mae’r costau dylunio a’r wefan yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd. Nid oes angen i chi gynnwys costau argraffu pobl yn rhan o’ch terfyn gwariant, oni bai bod pobl yn argraffu dogfennau ar eich rhan.
Os yw’r deunydd yn gallu cael ei argraffu a’i ddosbarthu i bleidleiswyr -er enghraifft taflen - bydd angen i chi nodi’r glir sut yr ydych yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio.
Os ydych yn awdurdodi defnydd ehangach o’r deunydd, efallai y bydd y costau cynhyrchu yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd, pwy bynnag sy'n gwneud yr argraffu.
Rhwydweithiau
Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig ag unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy’n:
- hwyluso’r broses o rannu deunydd hysbysebu mewn unrhyw ffordd
- hwyluso neu gynyddu gwelededd deunydd hysbysebu mewn unrhyw ffordd
Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir er mwyn gwneud i ddeunydd ymddangos fel pe bai wedi cael ei weld a’i gymeradwyo gan nifer fawr o ddefnyddwyr ar blatfform cyfryngau cymdeithasol.
Costau eraill
Yn ogystal, nid oes rhaid ichi gynnwys costau bwyd na chostau llety pobl tra maent yn darparu gwasanaethau i chi o ran hysbysebu, os ydynt yn talu’r costau eu hunain. Er enghraifft, os yw eich gwirfoddolwyr yn prynu cinio i’w hunain wrth osod posteri o amgylch eich ardal etholiadol.
Serch hynny, mae unrhyw dreuliau bwyd neu lety yr ydych chi neu rywun arall yn eu talu drostynt, neu yn eu had-dalu amdanynt, yn cyfrif fel eich gwariant.
- 1. Atodlen 7, paragraff 15, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 16, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Deunydd digymell a anfonir at etholwyr
Costau cyffredinol
Mae enghreifftiau yn cynnwys costau:
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- offer
- hawliau delweddau neu ffioedd trwyddedu
- papur neu ddeunyddiau eraill
a ddefnyddir mewn cysylltiad â deunydd digymell i bleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys costau cynhyrchu a dosbarthu'r deunydd mewn unrhyw ffordd.
Er enghraifft, cost amlenni a stampiau neu brynu system ar gyfer anfon e-byst.
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy’n hyrwyddo neu’n cynyddu gwelededd unrhyw ddeunydd digymell ar unrhyw blatfform.
Er enghraifft, mae ymgeisydd yn talu datblygwr i greu ap sy’n hwyluso’r gwaith o dargedu ei ddeunydd ar sianel cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n cynnwys y gost o oruchwylio a chynnal yr holl gyfryngau cymdeithasol, cyfryngau digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal yr holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan endid/unigolyn arall.
Offer cyfrifiadura ac argraffu
Pan mae papur, offer llungopïo neu beiriant argraffu yn cael ei brynu neu ei logi ar gyfer prif ddefnydd yn yr ymgyrch, rhaid adrodd am y gost lawn.
Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig ag offer argraffu neu gyfrifiadura mewn cysylltiad â deunydd digymell i bleidleiswyr.
Mae angen adrodd am y costau hyn ac eithrio:
- pan mae’r offer argraffu neu gyfrifiadura wedi’i gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf ar gyfer ei ddefnydd personol1
- pan mae unigolyn arall yn darparu’r offer argraffu neu gyfrifiadura. Mae’r offer wedi’i gaffael gan yr unigolyn hwnnw ar gyfer ei ddefnydd personol ac mae’r ymgeisydd yn cael ei ddefnyddio am ddim2
Enghraifft A
Mae’r ymgeisydd yn prynu peiriant argraffu i argraffu taflenni y bydd yn eu danfon i bleidleiswyr yn yr ardal etholiadol. Gan y prynir y peiriant argraffu yn benodol ar gyfer defnydd yn yr ymgyrch, rhaid adrodd am gost lawn prynu’r peiriant argraffu.
Enghraifft B
Mae gwirfoddolwr yn caniatáu’r ymgyrch i ddefnyddio ei beiriant argraffu a’i offer swyddfa cartref am ddim. Nid yw hyn yn wariant ymgeisydd gan fod eithriad o ran defnyddio offer argraffu neu gyfrifiadura personol rhywun pan nad oes angen i’r ymgeisydd dalu cost. Ni ddylid adrodd am hyn.
Cronfeydd data a gwybodaeth am bleidleiswyr
Mae hyn yn cynnwys costau:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data cyswllt
- setiau data neu ddadansoddiadau data eraill
- unrhyw wybodaeth, drwy ba bynnag ffordd
a ddefnyddir i hwyluso’r broses o anfon deunydd digymell at bleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys caffael, datblygu a chynnal y data hwn.
Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost i dargedu pleidleiswyr
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddi data er mwyn targedu pleidleiswyr drwy ba bynnag ffordd, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu eraill sy’n adnabod grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba bynnag ffordd.
Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a delir i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso targedu pleidleiswyr mewn ardal etholiadol benodol a’r gost o fodelu gan asiantaeth yn seiliedig ar y dadansoddi hwnnw.
Mae’n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i adnabod pleidleiswyr sy’n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond sy’n cael eu defnyddio i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Pan geir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, mae'r gost fasnachol o gael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi’i chynnwys.
Anerchiad etholiadol
Mae gan bob ymgeisydd yr hawl i gael costau postio am ddim er mwyn anfon dau anerchiad etholiadol at bleidleiswyr yn yr etholaeth. Rhaid i’r anerchiad gynnwys materion sy’n gysylltiedig â’r etholiad yn unig.3
Rhaid adrodd am gostau cynhyrchu’r anerchiadau etholiadol fel gwariant ymgeisydd. Nid yw costau postio’r anerchiadau etholiadol yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.4
Costau eraill
Yn ogystal, nid oes rhaid ichi gynnwys costau bwyd na chostau llety pobl tra maen nhw’n darparu gwasanaethau i chi sy’n gysylltiedig â deunydd digymell, os ydynt yn talu’r costau eu hunain. Er enghraifft, os yw eich gwirfoddolwyr yn prynu cinio i’w hunain wrth ddanfon taflenni i bleidleiswyr.
Serch hynny, mae unrhyw dreuliau bwyd neu lety yr ydych chi neu rywun arall yn prynu iddynt, neu yn eu had-dalu amdanynt, yn cyfrif fel eich gwariant.
Costau sydd wedi’u heithrio
Nid oes rhaid ichi adrodd am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chaffael data fel y caniateir dan unrhyw statud neu reoliad.
Er enghraifft, mae gan ymgeiswyr yr hawl i gael copi o’r gofrestr etholiadol.
- 1. Atodlen 7, paragraff 15, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 16, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 67, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 67 ac Atodlen 7, paragraff 9,, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Costau cludiant
Cludiant yr asiant, gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr
Mae enghreifftiau yn cynnwys costau cludo gwirfoddolwyr neu ymgyrchwyr eraill i’r ardal etholiadol, oddi yno neu o’i hamgylch, pan maent yn ymgyrchu ar ran yr ymgeisydd. Gall y costau cludiant hyn gynnwys:
- prynu neu ad-dalu cost tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant
- llogi cerbydau
- prynu tanwydd neu wefru cerbyd trydan
- costau parcio
Mae’n cynnwys y gost o ddarparu cludiant i’r asiant lle delir neu ad-delir hyn gan yr ymgeisydd neu drydydd parti.
Cludiant yr ymgeisydd
Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys treuliau teithio rhesymol yr ymgeisydd o ran yr etholiad.1
Pan mae cost cludiant yn draul bersonol ar gyfer yr ymgeisydd, nid yw hwn yn cyfrif tuag at ei derfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen wariant. Gweler Treuliau personol am ragor o wybodaeth.
Cludiant i ddigwyddiad
Mae’n cynnwys y gost o gludo unigolion i ddigwyddiad sy’n hyrwyddo'r ymgeisydd, lle telir neu ad-delir y gost honno gan yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.
Cludiant sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd
Mae hefyd yn cynnwys y gost o ddefnyddio, neu logi, unrhyw gerbyd neu ddull cludiant sy’n arddangos deunydd sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd, gan gynnwys:
- dylunio a chymhwyso’r dyluniad i’r cerbyd neu’r dull trafnidiaeth
- gyrru neu symud cerbyd o amgylch ardal etholaethol benodol
- ffioedd parcio
Costau sydd wedi’u heithrio
Nid oes rhaid adrodd am y costau canlynol:
Er enghraifft, mae gwirfoddolwr yn defnyddio’i gerbyd ei hun i yrru ei hun a gwirfoddolwyr eraill o amgylch yr ardal etholiadol wrth ymgyrchu. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.
- 1. Erthygl 37(3)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 13, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, paragraff 14, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Cyfarfodydd cyhoeddus o unrhyw fath
Gwasanaethau, lleoliadau, cyfleusterau neu offer
Mae enghreifftiau yn cynnwys costau:
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir mewn cysylltiad â chyfarfodydd cyhoeddus o unrhyw fath. Mae hyn yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â chyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhai rhithiol, megis llogi lleoliad neu ffrydio cyfarfod cyhoeddus rhithiol yn fyw.
Costau eraill
Gall costau eraill gynnwys:
- cost hyrwyddo neu hysbysebu’r cyfarfod cyhoeddus, mewn unrhyw ffordd
- darparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, fel seddi neu fwyd
Gall yr ymgeisydd neu drydydd parti dalu’r costau hyn neu eu had-dalu.
Costau sydd wedi’u heithrio
Nid oes angen ichi gynnwys digwyddiadau a gynhelir yn bennaf ar gyfer dibenion sy’n wahanol i’ch ymgyrch, pan rydych yn digwydd bod yno - er enghraifft, digwyddiad cymdeithasol blynyddol lle rydych yn dweud ychydig o eiriau.
Dylech wneud asesiad gonest o’r ffeithiau o ran a yw’r cyfarfod yn wirioneddol cael ei gynnal ar gyfer dibenion eraill.
Efallai y byddwch hefyd yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol mewn digwyddiadau hustyngau a gynhelir gan sefydliadau lleol neu grwpiau cymunedol. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau hustyngau ar wahân sy’n egluro pryd y gall y rheolau gwariant fod yn berthnasol i’r digwyddiadau hyn.
Costau staff
Gwasanaethau asiant etholiad neu staff eraill
Mae hyn yn cynnwys cost yr asiant etholiad neu unrhyw berson arall sy’n gweithio ar gyfer etholiad yr ymgeisydd. Rhaid ichi gynnwys holl gostau staff, fel cyflog gros yr aelod staff, unrhyw lwfansau ychwanegol, a’ch cyfraniadau pensiwn ac yswiriant gwladol fel eu cyflogwr. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth ariannol, gan gynnwys lwfansau, a ddarperwch chi i dderbyn eu gwasanaethau.
Staff sy’n monitro’r cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau eraill y wasg
Mae’n cynnwys costau staff sy’n ymwneud â rheoli a monitro sianeli neu blatfformau cyfryngau cymdeithasol a’r gwaith o gasglu data i alluogi ymgyrchu bwriadol. Mae hyn yn cynnwys cyflogi staff i ddadansoddi a didoli’r data a chost staff i fonitro a phostio neu ymateb i unrhyw fath o gyfryngau cymdeithasol neu gyfrif arall.
Mae’n cynnwys costau staff sy’n ymwneud â rheoli unrhyw fath o weithgarwch y wasg, gan gynnwys staff sy’n gysylltiedig ag unrhyw fath o weithgarwch cyfryngau cymdeithasol, yn ei reoli neu’n ei fonitro mewn unrhyw ffordd sy’n gysylltiedig gydag etholiad yr ymgeisydd.
Amser gwirfoddolwyr
Ni ddylech gynnwys cost gwasanaethau asiant nag unrhyw berson arall sy’n wirfoddolwr.
Ni ddylech gynnwys costau teithio, bwyd na llety pobl tra maent yn ymgyrchu ar eich rhan, os ydynt yn talu'r costau eu hunain.
Fodd bynnag, mae unrhyw gostau eraill rydych chi’n eu talu drostynt, neu’n eu had-dalu iddynt, megis cludiant neu lety, yn cyfrif fel eich gwariant.
Weithiau, efallai na fyddwch yn siŵr os ydy rhywun sy’n gweithio ar gyfer eich ymgyrch yn wirfoddolwr neu os ddylech gyfrif ei amser yn eich terfyn gwariant. Er enghraifft, efallai ei fod yn cynnig gwasanaethau proffesiynol tebyg i’r rhai y mae’n eu gwneud i chi.
Er enghraifft, bydd yn wirfoddolwr:
- os nad yw ei gyflogwr yn ei dalu am yr amser mae’n ei dreulio ar eich ymgyrch
- os yw’n defnyddio ei wyliau blynyddol
- os yw’n hunangyflogedig, ni fyddwch yn elwa o unrhyw yswiriannau proffesiynol sydd ganddo
Os yw’n defnyddio deunyddiau neu offer arbenigol, mae’n debygol y bydd y defnydd o’r rhai, a ddarperir am ddim, yn wariant tybiannol.
Costau llety a chostau gweinyddol
Offer a man swyddfa
Mae costau y mae’n rhaid adrodd amdanynt yn cynnwys llogi man swyddfa, gan gynnwys ardrethi busnes, ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, boed yn cael ei rentu o’r newydd neu dan gytundeb rhentu sydd eisoes yn bodoli. Mae’n cynnwys cost man swyddfa pan mae’n cael ei rannu.
Os ydych chi’n rhannu man swyddfa, rhaid cynnwys swm sy’n adlewyrchu’n rhesymol y defnydd gan yr ymgeisydd yn yr ymgyrch yn eich ffurflen. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhannu costau, gweler Rhannu gwariant yr adroddir arno a gwariant nas adroddir arno.
Mae hyn hefyd yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â phrynu, defnyddio neu logi man swyddfa ar gyfer eich ymgyrch.
Os ydych chi’n cael defnydd o fan swyddfa neu offer ar gyfer defnydd yn yr ymgyrch, gall hwn fod yn wariant tybiannol ac mewn rhai achosion yn rhodd i’r ymgeisydd. Gweler gwariant tybiannol am ragor o ganllawiau.
Er enghraifft, desgiau, cadeiriau a chyfrifiaduron a ddarperir gan fusnes i’w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd.
Llety i staff a gwirfoddolwyr
Mae angen adrodd am gostau darparu llety i asiantiaid, gwirfoddolwyr neu weithwyr eraill sy’n ymgyrchu ar gyfer yr ymgeisydd os yw’r ymgeisydd neu drydydd parti yn talu amdanynt neu yn eu had-dalu.
Llety i’r ymgeisydd
Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys costau llety rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â’r etholiad.1
Pan mae cost llety yn draul bersonol i’r ymgeisydd, nid yw’r gost hon yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen wariant. Gweler Treuliau personol am ragor o wybodaeth.
Dyfeisiau a ffonau symudol
Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig â ffonau symudol neu ddyfeisiau llaw eraill a ddefnyddir yn yr ymgyrch, pan delir y costau hyn gan yr ymgeisydd neu drydydd parti.
Mae angen adrodd am y costau hyn ac eithrio:
- pan mae’r ymgeisydd yn defnyddio’i ddyfais bersonol y mae wedi ei chaffael ar gyfer ei ddefnydd personol ac ni ysgwyddir unrhyw gostau ychwanegol sydd tu hwnt i ddefnydd arferol2
- mae rhywun yn darparu’r ymgyrch gyda defnydd o ddyfais sydd wedi ei chaffael ar gyfer ei ddefnydd ei hun am ddim, ac ni ysgwyddir unrhyw gostau ychwanegol sydd tu hwnt i ddefnydd arferol3
Enghraifft A
Mae cerdyn SIM gyda lwfans data a galwadau yn cael ei brynu ar gyfer defnydd ymgeisydd yn ei ymgyrch. Byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
Enghraifft B
Mae ffôn symudol gwirfoddolwr yn cael ei ddefnyddio i gydlynu â gwirfoddolwyr eraill, ac mae cyfran o gostau’r contract ffôn yn cael eu had-dalu gan yr ymgeisydd. Byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
Enghraifft C
Mae’r ymgeisydd yn defnyddio’i ffôn ei hun y mae wedi ei gaffael ar gyfer ei ddefnydd personol, ac ni ysgwyddir unrhyw gostau pellach sydd tu hwnt i’r gost fisol arferol am gostau a data. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
Gorbenion
Mae’n cynnwys cost:
- trydan
llinellau ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
ar gyfer defnydd yn ymgyrch yr ymgeisydd.
Mae’n cynnwys cost tanysgrifio i wasanaethau monitro’r cyfryngau, gwasanaethau gwifrio’r wasg a datganiadau i’r wasg.
Costau sy’n cael eu heithrio
Y costau nad oes angen adrodd amdanynt yw:
- gofal plant i ymgeisydd, asiant neu wirfoddolwr
- dŵr, nwy neu dreth y cyngor
- defnydd o brif neu unig breswylfa rhywun fel llety pan mae’n cael ei darparu am ddim4
Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys costau llety rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â’r etholiad.5
Pan mae cost llety yn draul bersonol i’r ymgeisydd, nid yw’r gost hon yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen wariant. Gweler Treuliau personol am ragor o wybodaeth.
- 1. Erthygl 37(3)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 15, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, paragraff 16, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, paragraff 12, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 37(3)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
Beth nad yw’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
- talu eich ernes etholiad1
- unrhyw beth (ac eithrio hysbysebion) sy’n ymddangos mewn papur newydd, cylchgrawn neu ar sianel ddarlledu drwyddedig2
- cyfleusterau a ddefnyddiwch chi oherwydd bod gennych yr hawl i’w defnyddio fel ymgeisydd, megis ystafell gyhoeddus ar gyfer cyfarfod a chostau postio’r anerchiadau etholiadol sydd am ddim3
- amser gwirfoddolwyr, gan gynnwys amser eich staff nad ydych yn eu talu amdano4
- defnyddio prif breswylfa rhywun, sy’n cael ei darparu am ddim5
- defnyddio cerbyd personol rhywun neu ddull cludiant arall, sydd wedi ei gaffael yn bennaf ar gyfer defnydd personol y person hwnnw ac mae’n cael ei ddarparu am ddim6
- defnyddio offer cyfrifiadura neu beiriant argraffu rhywun sydd wedi ei gaffael yn bennaf ar gyfer defnydd personol y person hwnnw ac mae’n cael ei ddarparu am ddim7
- costau y mae’n rhesymol i’w priodoli i anabledd yr ymgeisydd8
- cymorth ariannol a ddarperir gan y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru i gefnogi ymgeiswyr anabl9
- costau o ran cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg neu’r ffordd arall10
- treuliau rhesymol sy’n gysylltiedig ag amddiffyn pobl neu eiddo, er enghraifft llogi cwmni diogelwch, defnyddio Bwlch Post i osgoi cyhoeddi cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrth-firws i amddiffyn cyfrifiaduron yr ymgyrch11
- 1. Atodlen 7, paragraff 7, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 8, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, paragraff 9, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, paragraff 10, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 7, paragraff 11 a 12, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 7, paragraff 13 a 14, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 7, paragraff 15 a 16, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 7, paragraff 17, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 7, paragraff 19A, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 7, paragraff 18, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 7, paragraff 19, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11
Eitemau nas defnyddiwyd ac eitemau a ailddefnyddiwyd
Pan fyddwch yn defnyddio eitem am y tro cyntaf, rhaid i chi gynnwys y gost.
Eitemau na chânt eu defnyddio
Nid oes angen i chi adrodd am wariant ar eitemau na chânt eu defnyddio (er enghraifft os na chaiff taflenni eu dosbarthu) ac nid yw hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.
Dylech gadw’r deunydd nas defnyddiwyd neu ddangos tystiolaeth ei fod wedi'i ddinistrio.
Os byddwch yn defnyddio’r eitemau dros ben mewn etholiad diweddarach, rhaid i chi roi gwybod am wariant ar yr eitemau hynny yn yr etholiad hwnnw.
Ailddefnyddio eitemau
Pan fyddwch wedi talu am eitem, rhaid i chi roi gwybod am y gost lawn pan gaiff ei defnyddio am y tro cyntaf, hyd yn oed os byddwch yn bwriadu ei hailddefnyddio mewn etholiad arall yn y dyfodol.
Os byddwch yn ailddefnyddio eitem mewn etholiad dilynol, nid oes rhaid i chi adrodd am y taliad gwreiddiol am yr eilwaith. Efallai y bydd rhai costau cysylltiedig y mae’n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn yr etholiad hwnnw, er enghraifft storio neu lanhau.
Treuliau personol
Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau byw a theithio rhesymol yr ymgeisydd at ddibenion yr etholiad ac mewn perthynas â’r etholiad.1 Nid yw treuliau personol yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant, ond mae’n rhaid i chi adrodd amdanynt yn eich ffurflen wariant.2
Mae treuliau personol yn adroddadwy drwy gydol y cyfnod a reoleiddir. Pan mae’r unigolyn yn ymgeisydd swyddogol, gall yr ymgeisydd dalu hyd at £900 yn unig o gyfanswm treuliau personol. Mae’n rhaid i’r asiant dalu unrhyw symiau sydd y tu hwnt i’r swm hwn.3 Nid oes terfyn ar faint y gall ymgeiswyr ei dalu am dreuliau personol cyn iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Gall treuliau personol gynnwys:
- trafnidiaeth gyhoeddus neu dâl am deithiau tacsi
- prynu tanwydd ar gyfer cerbyd neu wefru cerbyd trydan
- llogi car os nad yw’r ymgeisydd eisoes yn berchen ar gar, neu os nad yw ei gar yn addas ar gyfer ymgyrchu
- aros mewn gwesty
Ar gyfer rhai treuliau personol, bydd angen ichi amcangyfrif y gyfran o’ch costau y gellir eu priodoli i’r etholiad. Er enghraifft, os ydych chi’n berchen ar gar, bydd peth o’r costau tanwydd neu wefru yn ystod cyfnod yr etholiad yn debygol o fod at ddibenion eraill. Dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o’r costau hyn.
Ar gyfer gwefru cerbydau trydan at ddiben domestig, lle nad oes unrhyw anfoneb benodol ar gyfer gwefru, gallwch amcangyfrif y gost drwy:
- gymharu capasiti batri’r cerbyd gyda’ch cost am bob uned o drydan, ac adrodd amcangyfrif o sawl gwefriad llawn y gellir ei briodoli i’r etholiad, neu
- gymharu milltiroedd eich cerbyd fesul uned o drydan i’ch cost fesul uned o drydan, ac adrodd amcangyfrif o filltiroedd y gellir eu priodoli i’r etholiad
Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu datganiad ysgrifenedig o’u treuliau personol i’w hasiant ymhen 21 diwrnod ar ôl datgan y canlyniad.4
Os caiff treuliau personol eu rhoi i’r ymgeisydd am ddim, neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% ac mae’r gwahaniaeth yn y gwerth y mae’r ymgeisydd yn ei dalu yn fwy na £50, bydd hefyd yn cael ei adrodd fel gwariant tybiannol. Gweler gwariant tybiannol am ragor o wybodaeth.
- 1. Erthygl 37(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 48(7) ac erthygl 54 ac erthygl 65 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 45(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl. 45(4) ac erthygl. 51(1)Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Eitemau a dderbynnir am ddim neu ar bris gostyngol a 'gwariant tybiannol’
Weithiau, efallai y byddwch am ddefnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu’n rhaid i chi wario arian arno, am ei fod wedi cael ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am bris gostyngol.
Mae rhai enghreifftiau o rodd mewn da yn cynnwys:
- lle mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
- taflenni
- darparu bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr
Pan fyddwch yn defnyddio rhywbeth a ddarparwyd i chi fel rhodd mewn da, bydd gwerth llawn yr hyn y gwnaethoch ei ddefnyddio yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid adrodd amdano.1
Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’.
Rhoddion mewn da a drosglwyddwyd neu a ddarparwyd ar gyfer eich defnydd neu’ch budd
Dan y gyfraith, defnyddir dau derm gwahanol wrth asesu gwerth y rhoddion mewn da hyn.
Caiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i'r ymgeisydd pan roddir perchnogaeth i'r ymgeisydd. Er enghraifft, mae rhywun yn rhoi papur i’r ymgeisydd argraffu taflenni.
Pan gaiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i’r ymgeisydd am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, rhaid i’r rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘gwerth marchnadol’.2 Mae’r gwerth marchnadol yn golygu’r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem neu’r nwyddau pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored.3
I’r gwrthwyneb, mae eitemau, nwyddau neu wasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer defnydd neu fudd yr ymgeisydd os ydynt yn cael eu gwneud ar gael ar gyfer defnydd yr ymgeisydd, ond nid oes newid mewn perchnogaeth. Er enghraifft, darperir man swyddfa ar gyfer eich defnydd yn ystod yr ymgyrch.
Yn hytrach, caiff eitem, nwyddau neu wasanaeth eu darparu ar gyfer defnydd neu fudd yr ymgeisydd am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%. Rhaid i ddarpariaeth y rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘cyfradd fasnachol’.4 Nid oes unrhyw ddiffiniad penodol i gyfradd fasnachol dan y gyfraith, ond gall hyn olygu’r cyfraddau cyfartalog ar gyfer yr eitem, nwyddau neu wasanaeth a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio’r term ‘gwerth masnachol’ fel term cyffredinol ar gyfer gwerth marchnadol a chyfradd fasnachol.
Beth sy’n cyfrif fel gwariant tybiannol?
Mae’n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i chi ar gyfer eich defnydd neu’ch budd
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%5
- mae’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a’r hyn a dalwch dros £506
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan)7
- byddai wedi bod yn wariant ymgeisydd pe byddech chi wedi ysgwyddo’r gwariant.8 Gweler Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd? am wybodaeth ynghylch y categorïau o wariant ymgeisydd
Mae’r tudalennau canlynol yn darparu rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau sy’n rhoi manylion am y profion hyn.
- 1. Erthygl 66(4) a (5) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 66(1)(a)(i), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 66(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 66(1)(a)(ii), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 66(1)(a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 66(3), (4) & (5) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 66(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 66(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
Caiff ei throsglwyddo neu ei darparu er defnydd neu fudd yr ymgeisydd
Rhaid i’r eitem gael ei throsglwyddo neu ei darparu i’r ymgeisydd er mwyn i hyn gyfrif fel gwariant tybiannol.1
Mae darparu eitemau, gwasanaethau neu gyfleusterau i’r ymgeisydd yn disgyn dan ddiffiniad rhodd. Golyga hyn y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i’r ymgeisydd os yw’r gwerth yn fwy na £500 a rhaid hefyd adrodd amdano yn adran roddion y ffurflen. Gallwch ganfod mwy am y rheolau ynghylch rhoddion yn Rhoddion i ymgeiswyr unigol.
Enghraifft A
Mae argraffydd yn anfon taflenni at ymgeisydd i’w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd - felly mae’r taflenni wedi cael eu trosglwyddo i’r ymgeisydd.
Os yw’r ymgeisydd yn dosbarthu’r taflenni, mae wedi eu defnyddio yn ei ymgyrch. Mae’n rhaid adrodd am werth y taflenni fel gwariant tybiannol (os yw dros £50).
Os yw eitem sy’n hyrwyddo eich etholiad heb ei throsglwyddo neu ei darparu i chi, yna mae'n debygol o fod yn ymgyrchu lleol gan bwy bynnag sydd wedi cynnal y gweithgaredd.
Enghraifft B
Mae grŵp ymgyrch yn anfon taflenni sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae’n rhoi gwybod i’r ymgeisydd ymlaen llaw ei fod yn bwriadu gwneud hynny.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi darparu unrhyw beth i’r ymgeisydd - yr unig beth y mae wedi ei wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd am yr hyn mae yn ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ar ei liwt ei hun.
Er y gall yr ymgeisydd elwa ar y taflenni, nid yw’r grŵp wedi rhoi rhywbeth i’r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd wedyn benderfynu a yw am ei ddefnyddio a sut i’w ddefnyddio.
Nid gwerthiant tybiannol yw hyn. Mae’n ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd. Gweler ymgyrchu lleol am ragor o wybodaeth.
- 1. Erthygl 66(1)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Gostyngiadau masnachol ac anfasnachol
Gostyngiadau masnachol yw’r rhai sydd ar gael i gwsmeriaid tebyg eraill, megis gostyngiadau ar gyfer archebion mawr neu ostyngiadau tymhorol. Ni fydd eitemau, nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu prynu gyda gostyngiadau masnachol yn cael eu trin fel gwariant tybiannol.
Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i chi gan gyflenwyr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfradd arbennig nad yw ar gael ar y farchnad agored. Mae’r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, fel gostyngiadau ar gyfer archebion mawr neu ostyngiadau tymhorol.
Er enghraifft, mae argraffydd yn darparu ymgeisydd gyda dyfynbris o £120 i argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae’r argraffydd hefyd yn cynnig 5% o ostyngiad ar yr archeb oherwydd ei fod yn hoff o bolisïau’r ymgeisydd. Mae’r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn cymryd y gostyngiad, ac yn trefnu i’r taflenni gael eu hanfon at bleidleiswyr.
Er bod y taflenni wedi eu darparu ar gyfer defnydd yr ymgeisydd ar bris gostyngol anfasnachol, nid yw’r gostyngiad dros 10%. Nid gwerthiant tybiannol yw hyn. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd adrodd am y £116 a dalwyd am y taflenni fel taliad arferol a wnaed gan yr asiant.
Defnydd gan yr ymgeisydd neu ar ei ran
Os yw budd mewn da yn cael ei drosglwyddo neu ei ddarparu i’r ymgeisydd, yr unig adeg y mae’n cyfrif fel gwariant tybiannol yw os ydi’r ymgeisydd yn gwneud defnydd ohono yn ei ymgyrch, neu mae rhywun sy’n gweithredu ar ei ran yn ei ddefnyddio.1
Os yw gweithgareddau ymgyrch er mwyn cefnogi’r ymgeisydd yn cael eu rhoi ar waith gan rywun arall, nid yw’n ddigon bod yr ymgeisydd wedi cael budd o’r gweithgareddau, wedi cael gwybod amdanynt, neu hyd yn oed wedi mynegi eu diolch i’r person sy'n eu cynnal.
Yr unig adeg y caiff person wneud defnydd o rywbeth ar ran yr ymgeisydd yw pan mae’n cael cyfarwyddiadau, awdurdod, neu yn cael ei annog gan yr ymgeisydd neu’r asiant i’w ddefnyddio.2
Wrth ‘ddefnyddio’ rhodd mewn da, mae’n ofynnol bod ychydig o gyfranogiad gweithredol gan yr ymgeisydd (neu rywun ar ei ran) i wneud defnydd o’r nwyddau neu’r gwasanaethau a ddarperir.
Gall ‘defnyddio’ gynnwys:
- cyfrannu’n bersonol - er enghraifft, mae’r ymgeisydd yn darparu cynnwys ar gyfer taflenni y mae cwmni wedyn yn eu cynhyrchu a’u danfon, felly’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan y cwmni
- trefnu i rywun arall gyfrannu ar eich rhan - er enghraifft, gofyn i wirfoddolwyr lleol y blaid i helpu i ddosbarthu taflenni sy’n cael eu darparu gan eu plaid
Er enghraifft, mae grŵp ymgyrchu yn anfon taflenni at un o’i ymgeiswyr eu defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd, ond nid yw’r ymgeisydd a’i asiant yn dosbarthu’r taflenni.
Yn yr enghraifft hon, nid yw’r ymgeisydd, nac unrhyw un ar ei ran, wedi defnyddio’r taflenni yn ei ymgyrch. Nid gwerthiant tybiannol yw hyn. Ni ddylai’r costau ar gyfer y taflenni gael eu cynnwys ar ffurflen yr ymgeisydd gan na chafodd y taflenni eu defnyddio.
- 1. Erthygl 66(1)(b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 66(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Prisio gwariant tybiannol
Mae gwariant tybiannol yn dechrau gyda rhywbeth o werth yn cael ei ddarparu. Pan mae’r gwerth dros £500, mae hwn hefyd yn rhodd.1 Dylech gyfrifo gwerth yr hyn sydd wedi’i ddarparu fel gwariant tybiannol yn yr un ffordd ag y byddech yn cyfrifo gwerth rhodd nad yw’n un ariannol.
Gweler Sut i gyfrifo gwerth rhodd? am ganllawiau pellach ynghylch cyfrifo gwariant tybiannol a rhoddion.
Mae’n arfer dda i gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych o werth gwariant tybiannol pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen.
Cyfrifo gwerth staff ar secondiad
Os yw cyflogwr yn anfon aelod o staff ar secondiad i’ch ymgyrch, mae'n rhaid i chi gofnodi eu cyflog gros ac unrhyw lwfansau fel gwariant tybiannol.
Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau pensiwn nac yswiriant gwladol y cyflogwr.2 Bydd angen ichi gynnwys gwerth unrhyw dreuliau, fel bwyd neu deithio, yr ydych chi neu’ch cyflogwr yn eu had-dalu.
- 1. Atodlen 6, paragraff 2(e) a pharagraff 4(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 66(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Enghreifftiau o wariant tybiannol
Mae’n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i chi ar gyfer eich defnydd neu’ch budd
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%1
- mae’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a’r hyn a dalwch dros £502
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan)3
- byddai wedi bod yn wariant ymgeisydd pe byddech chi wedi ysgwyddo’r gwariant.4 Gweler Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd? am wybodaeth am y categorïau o wariant ymgeisydd
Enghraifft A
Mae grŵp ymgyrch yn anfon taflenni at ymgeiswyr sydd â gwerth o £600 i'w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd. Mae’r ymgeisydd yn derbyn y taflenni ac yn trefnu i’r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae’r prawf cyntaf a’r ail brawf wedi eu bodloni gan fod y taflenni wedi eu darparu at ddefnydd yr ymgeisydd am ddim.
Mae’r trydydd prawf hefyd wedi’i fodloni gan fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£600) a’r hyn mae’r ymgeisydd yn ei dalu (£0) dros £50.
Mae’r pedwerydd prawf yn cael ei fodloni gan fod yr ymgeisydd wedi trefnu i’r taflenni gael eu defnyddio ar ei ran drwy drefnu eu bod yn cael eu dosbarthu.
Mae’r pumed prawf yn cael ei fodloni gan fod deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.
Gan fod yr holl brofion wedi’u bodloni, mae hon yn enghraifft o wariant tybiannol. Mae’n rhaid adrodd am werth llawn y taflenni fel gwariant tybiannol.
Mae rhodd hefyd wedi ei wneud i’r ymgeisydd gan fod gwerth y gwariant tybiannol dros £500.
Enghraifft B
Mae argraffydd yn darparu ymgeisydd gyda dyfynbris o £200 i argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae’r argraffydd hefyd yn cynnig 50% o ostyngiad anfasnachol ar yr archeb i’r ymgeisydd. Mae’r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn cymryd y gostyngiad, ac yn trefnu i’r taflenni gael eu hanfon at bleidleiswyr.
Mae’r prawf cyntaf a’r ail brawf wedi eu bodloni gan fod y taflenni wedi eu darparu ar gyfer defnydd yr ymgeisydd ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%.
Mae’r trydydd prawf hefyd wedi’i fodloni gan fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£200) a’r hyn mae’r ymgeisydd yn ei dalu (£100) dros £50.
Mae’r pedwerydd prawf yn cael ei fodloni gan fod yr ymgeisydd wedi trefnu i’r taflenni gael eu defnyddio ar ei ran drwy drefnu eu bod yn cael eu dosbarthu.
Mae’r pumed prawf yn cael ei fodloni gan fod deunydd digymell a anfonir at etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Gan fod yr holl brofion wedi’u bodloni, mae hon yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i’r ymgeisydd adrodd am y £100 a dalon nhw am y taflenni fel taliad arferol a dalwyd gan yr asiant. Rhaid adrodd am y £100 sy’n weddill o’r gwerth a ddarparwyd fel gostyngiad fel gwariant tybiannol.
Nid yw gwerth y gwariant tybiannol yn fwy na £500, felly mae ond angen adrodd hwn fel gwariant tybiannol ar ffurflen yr ymgeisydd gan nad oes rhodd wedi’i gwneud.
- 1. Erthygl 66(1)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 66(3), (4) & (5) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 66(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 66(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Awdurdodi eraill i ysgwyddo gwariant
Mewn rhai achosion, mae pobl yn gwario arian er mwyn hyrwyddo ymgeisydd heb ddarparu neu drosglwyddo rhywbeth at ddefnydd yr ymgeisydd neu er budd iddo yn ystod yr ymgyrch. Yn yr un modd, gall pobl wario arian i feirniadu ymgeisydd neu i annog pleidleiswyr i beidio â’u cefnogi. Galwn hyn yn ymgyrchu lleol.
Mae sefydliadau neu unigolion, nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau, sy’n ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu ragor o ymgeiswyr unigol yn yr etholaeth yn cael eu hadnabod fel ‘ymgyrchwyr di-blaid lleol’. Mae hyn yn cynnwys pan fyddwch yn ymgyrchu yn erbyn plaid wleidyddol neu ymgeisydd rhestr plaid er budd ymgeisydd unigol.1
Os yw eich ymgyrch yn cynnwys ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr unigol mewn etholaeth, a phleidiau, ymgeiswyr rhestr plaid neu gategorïau o ymgeiswyr, gall y rheolau sy’n berthnasol yn yr amgylchiadau hyn fod yn gymhleth. Yn yr amgylchiadau hyn, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni am gyngor pwrpasol.
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau lleol wario hyd at £1,000 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu ragor o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.2 Mae hwn yn cael ei adnabod fel swm a ganiateir.
Ni all ymgyrchydd di-blaid lleol wario mwy na’r swm hwn a ganiateir heb ganiatâd ysgrifenedig yr ymgeisydd neu’r asiant i ysgwyddo’r gwariant ychwanegol, a fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.3
Er enghraifft, mae grŵp ymgyrch yn anfon taflenni sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae’n rhoi gwybod i’r ymgeisydd ymlaen llaw ei fod yn bwriadu gwneud hynny.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi darparu unrhyw beth i’r ymgeisydd - yr unig beth y mae wedi ei wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd am yr hyn mae yn ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ar ei liwt ei hun.
Er y gall yr ymgeisydd elwa ar y taflenni, nid yw’r grŵp wedi rhoi rhywbeth i’r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd wedyn benderfynu a yw am ei ddefnyddio a sut i’w ddefnyddio.
Ni all y grŵp wario dros y swm hwn a ganiateir heb ganiatâd ysgrifenedig yr asiant.
Os yw ymgyrchydd di-blaid lleol yn ysgwyddo gwariant sydd tu hwnt i’r swm a ganiateir, yna mae’n rhaid iddo adrodd am y gwariant ychwanegol hwn i'r Swyddog Canlyniadau ymhen 21 diwrnod ar ôl datgan y canlyniad.4 Mae yna ffurflen a datganiad ar wahân y mae’n rhaid eu llenwi er mwyn i’r ymgyrchydd di-blaid lleol adrodd am dreuliau awdurdodedig.
Mae’n rhaid i’r treuliau awdurdodedig hefyd gael eu cynnwys ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd.5 Mae arian a ysgwyddir gan ymgyrchwyr mewn ymgyrchoedd lleol sydd wedi’i awdurdodi gan yr asiant yn wariant ymgeisydd ac mae’n cyfrif tuag at y terfyn gwariant.6
Gall y treuliau awdurdodedig hefyd gael eu talu gan y person sydd ag awdurdod i’w hysgwyddo.7 Os yw’n gwneud y taliadau, ac mae’r gwariant dros £500, yna bydd hyn yn rhodd i’r ymgeisydd. Os ydych yn derbyn rhodd ar ôl ichi ddod yn ymgeisydd swyddogol, mae’n rhaid adrodd amdani ar wahân yn yr adran rhoddion o’r ffurflen wariant.8 Gweler Ysgwyddo a thalu am wariant ymgeisydd a Rhoddion i ymgeiswyr unigol am ragor o wybodaeth.
Dylai ymgyrchwyr di-blaid sy’n trefnu ymgyrch lleol ddarllen ein canllawiau i ymgyrchwyr di-blaid lleol.
- 1. Erthygl 47(2)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 47(5)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 47(1) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 47(6) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 54(2)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl. 65 ac erthygl 48 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 44(4)(d) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, paragraff 1(3), paragraff 2(1)(c), paragraff 4(2) a pharagraff 10(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
Rhannu gwariant yr adroddir amdano a gwariant nas adroddir amdano
Weithiau, mae’n bosibl y byddwch angen rhannu eich costau rhwng gweithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a’r rhai nad ydynt yn cyfrif.
Er enghraifft, rhwng:
- eitemau a ddefnyddir cyn ac yn ystod y cyfnod a reolir
- eich gwariant ymgeisydd a gweithgareddau nas reolir, megis swyddfa rydych chi’n ei rhannu gyda rhywun arall
Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli’n deg i’ch gwariant ymgeisydd. Dylech ond adrodd am y gwariant a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir ac a ystyrir ei fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion eich ymgyrch.
Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest o’r wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, os ydych chi’n rhannu swyddfa, efallai y bydd y bil ffôn yn darparu manylion am gostau galwadau sydd dros werth penodol yn unig. Dylech felly gymharu’r bil gydag un nad yw’n cynnwys y cyfnod a reoleiddir.
Chi sy’n gyfrifol am adrodd am eich gwariant ymgeisydd yn llawn ac yn gywir. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant yn cael ei awdurdodi, ei gofnodi a’i adrodd yn y ffordd gywir.
Wedi’r etholiad, bydd angen ichi lofnodi datganiad i ddatgan ei fod yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred.1 Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol.2
Os ydych yn parhau’n ansicr, ffoniwch ni neu e-bostiwch ni am gyngor.
- 1. Erthygl 55(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 55(6) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Pa fath o wariant yw ef? Enghreifftiau
Ar gyfer pob gweithgaredd yr ydych chi wedi ei bennu yn wariant ymgeisydd, rhaid ichi gofio cyfrifo pa fath o wariant yw ef, fel eich bod yn gwybod sut i adrodd amdano:
- gwariant a ysgwyddir gan yr ymgeisydd neu’r asiant
- gwariant tybiannol
- ymgyrchu lleol
Os yw eitem neu wasanaeth yn cael ei ddarparu ac yn cael ei ddefnyddio gan yr ymgeisydd, neu ar ei ran, yna mae cyfran berthnasol y gost o dargedu ardal etholaethol yr ymgeisydd yn debygol o gyfrif fel gwariant tybiannol, os yw’n bodloni’r profion.
Os na ysgwyddir y gwariant gan yr ymgeisydd neu’r asiant ac nad yw’n cael ei ddarparu a’i ddefnyddio gan yr ymgeisydd, neu ar ei ran, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol i’r ymgeisydd.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos yn gyntaf sut i bennu a yw gwariant yn hyrwyddo’r ymgeisydd, ac yna pennu sut dylid adrodd amdano.
Enghraifft A
Mae grŵp ymgyrchu yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y grŵp yn rhoi araith. Yn yr anerchiad, mae’r arweinydd yn siarad am bolisïau cenedlaethol am ran helaeth o’r amser ond mae’n treulio deng munud yn siarad yn benodol ynghylch yr ardal etholaethol a’r ymgeisydd. Rhoddir gwahoddid i’r ymgeisydd fod yn bresennol ac mae’n gwneud hynny. Nid yw’n chwarae unrhyw ran arall yn y digwyddiad.
Gan fod yr ymgeisydd a’r ardal etholaethol yn cael eu henwi, mae’r rhan honno o’r digwyddiad yn cyfrif fel hyrwyddo’r ymgeisydd.
Nid oes unrhyw beth wedi cael ei ddarparu i’r ymgeisydd iddo ei ddefnyddio, felly nid gwariant tybiannol yw hyn. Yn hytrach, mae’r grŵp yn ymgyrchu dros yr ymgeisydd.
Mae’r gwariant ar y gyfran o’r digwyddiad sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd yn ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd. Ni ddylai’r grŵp ysgwyddo treuliau sy’n fwy na £1,000 wrth hyrwyddo’r ymgeisydd, oni bai bod ganddo ganiatâd ysgrifenedig yr asiant i wneud.1
Enghraifft B
Mae grŵp ymgyrchu yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae’r grŵp yn gwahodd yr ymgeisydd i roi ei araith ei hun am ddeng munud o’r amser. Mae’r ymgeisydd yn derbyn ac yn cyflwyno’r araith.
Drwy ymddangos ar y llwyfan, mae’r ymgeisydd yn cael ei adnabod. Felly, mae’r rhan honno o’r digwyddiad yn cyfrif fel hyrwyddo’r ymgeisydd.
Mae’r grŵp wedi darparu’r ymgeisydd gyda chyfleuster - slot yn ei ddigwyddiad - ac mae’r ymgeisydd wedi gwneud defnydd ohono drwy roi’r araith.
Mae hyn yn wariant tybiannol. Mae’n rhaid i’r gwerth priodol gael ei gofnodi ar ffurflen wariant yr ymgeisydd a, lle mae’n berthnasol, fel rhodd gan y grŵp.
Enghraifft C
Mae’r ymgeisydd yn cynnal digwyddiad yn ei ardal etholaethol, wedi’i drefnu gan ei asiant. Mae grŵp ymgyrchu yn rhoi arian i dalu costau’r digwyddiad.
Mae’r ymgeisydd yn cymryd rhan ganolog yn y digwyddiad, felly mae hwn yn wariant sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd. Mae’r gwariant wedi’i ysgwyddo gan yr asiant, felly mae hyn yn wariant ymgeisydd arferol ac mae’n rhaid iddo ymddangos ar y ffurflen.
Mae unrhyw rodd ariannol sydd dros £500 a ddarperir gan y grŵp yn rhodd i’r ymgeisydd ac mae’n rhaid adrodd amdano yn yr adran rhoddion yn y ffurflen.2 Gweler Rhoddion ymgeiswyr am ragor ynghylch adrodd am roddion.
- 1. Erthygl 47(1), (4) a (5)(b) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, paragraff 2(1) a pharagraff 4(2) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Adrodd am eich gwariant
Ar ôl yr etholiad, mae’n rhaid i’r asiant etholiad fodloni’r dyddiadau ar gyfer:
- derbyn a thalu anfonebau
- anfon ffurflen yr ymgeisydd at y Swyddog Canlyniadau
Rhaid i’r asiant a’r ymgeisydd gyflwyno datganiadau i ddweud bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir.1 Os yw’r ymgeisydd yn gweithredu fel asiant arno’i hun, datganiad ymgeisydd yn unig sydd angen iddo’i gyflwyno.
Hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian, mae’n rhaid ichi gyflwyno’r ffurflen a’r datganiadau.2 Gelwir hon yn ‘ffurflen nil’.
Gallwch ddod o hyd i’r dyddiadau hyn, a rhagor o wybodaeth am adrodd, yn Ar ôl yr etholiad.
- 1. Erthygl 55(1) a (2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 54(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Rhoddion ar gyfer ymgeiswyr unigol
Mae'r adran ganlynol yn darparu arweiniad ar roddion i ymgeiswyr unigol yn etholiadau'r Senedd.
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys:
- beth sy’n cyfrif fel rhodd
- gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion
- y gwiriadau sydd angen i chi eu gwneud ar wahanol fathau o roddwyr
- sut i gyfrifo gwerth gwahanol fathau o roddion
- arferion da ar gyfer rhoddion cyllido torfol
- y wybodaeth rydych angen ei chofnodi
Beth sy’n cyfrif fel rhodd?
Rhodd yw arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau a roddir:
- tuag at eich gwariant ymgeisydd
- heb godi tâl neu ar delerau anfasnachol
ac sydd â gwerth dros £500.1 Caiff unrhyw beth sydd â gwerth o £500 neu lai ei ddiystyru fel rhodd.2
Mae’r rheolaethau ynglŷn â rhoddion ar gyfer ymgeiswyr yn berthnasol pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd swyddogol.3
Mae rhai enghreifftiau o roddion yn cynnwys:
- rhodd ariannol neu eiddo arall
- talu anfoneb ar gyfer gwariant ymgeisydd a fyddai fel arall yn cael ei thalu gennych chi
- benthyciad nas rhoddwyd ar delerau masnachol
- noddi digwyddiad neu gyhoeddiad
- defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o eiddo neu gyfleusterau, er enghraifft defnyddio swyddfa am ddim
Rhoddion o £500 neu lai
Mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas cyfraith etholiadol ac nid oes angen i chi eu cofnodi na’u hadrodd.
Fodd bynnag, mae’n drosedd ceisio osgoi’r rheolau ar roddion. Rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi'r cyfyngiadau caniatâd.4 Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £499 o'r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi'r rheolau caniatâd.
Os ydych o’r farn y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.
- 1. Atodlen 6, paragraff 1(2) a pharagraff 2(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 4(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6 ac erthygl 37(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 9 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Sut rydych yn penderfynu os allwch chi dderbyn rhodd
Dim ond o ffynonellau penodol, sydd wedi’u lleoli'n bennaf yn y DU, y gellir derbyn rhoddion.1 Gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am fanylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir.
Cyn eich bod yn derbyn unrhyw rodd o dros £500 at ddibenion gwariant etholwr, mae’n rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i:
- sicrhau eich bod chi’n gwybod gwir hunaniaeth y rhoddwr
- gwirio bod y rhodd o ffynhonnell a ganiateir2
Os nad yw hi'n hollol glir pwy ddylech chi ei drin fel rhoddwr, dylech wirio’r ffeithiau er mwyn gwneud yn siŵr.
Faint o amser sydd gennych chi i wirio'r hyn a ganiateir?
Pan rydych yn derbyn rhodd, mae gennych chi 30 diwrnod i gynnal gwiriadau caniatâd a'i dychwelyd os nad yw’n cael ei chaniatáu.3 Os ydych chi’n cadw rhodd am fwy na 30 diwrnod, tybir eich bod wedi’i derbyn.4
Os ydych chi’n cadw rhodd nad yw wedi'i chaniatáu ar ôl yr amser hwn, mae’n bosibl y byddwch yn cyflawni trosedd ac efallai y byddwn yn gwneud cais i’r llysoedd am iddo gael ei fforffedu i ni fel taliad i mewn i’r Gronfa Gyfunol.5 Os ydych chi wedi derbyn rhodd nad yw’n cael ei chaniatáu, dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.
Hyd yn oed os ydych chi wedi gwirio caniatâd mewn perthynas â rhodd flaenorol o’r un ffynhonnell, dylech ystyried a ddylech gynnal gwiriad o’r newydd ar gyfer pob rhodd ddilynol.
Dylech gadw cofnod o’ch holl wiriadau caniatâd er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y gyfraith.
Os nad yw’r rhodd wedi dod gan roddwr a ganiateir, neu na allwch, am ba bynnag reswm, gadarnhau'r ffynhonnell yn iawn, darllenwch Sut i ddychwelyd rhodd? am ganllawiau pellach ynghylch y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd.
- 1. Atodlen 6, paragraff 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(5) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, par. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(4), adran 56(5), adran 57(3) ac adran 58 PPERA ↩ Back to content at footnote 5
Rhoddion a roddwyd ar ran eraill
Os ydych yn derbyn rhodd ar ran rhywun arall, bydd yn rhaid i’r person sy’n rhoi’r rhodd i chi ddweud wrthych:
- bod y rhodd ar ran rhywun arall
- manylion y rhoddwr ei hun1
Enghraifft o hyn yw pan mae trefnwr digwyddiad yn trosglwyddo enillion o ginio a gynhaliwyd yn arbennig er mwyn codi arian ar gyfer eich ymgyrch.
Os oes gennych chi achos i gredu y gallai rhywun fod wedi rhoi rhodd ar ran rhywun arall ond nad ydynt wedi dweud wrthych chi, mae’n rhaid i chi ganfod y ffeithiau fel bod modd i chi wneud y gwiriadau cywir.
Os ydych yn ansicr pwy yn union yw’r rhoddwr, dylech gofnodi’r rhodd a’i dychwelyd.
Gweler Sut ydych chi’n dychwelyd rhodd? am ganllawiau ar sut i ddychwelyd rhodd.
- 1. Atodlen 6, para. 6(7) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(6) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Gan bwy allwch chi dderbyn rhodd?
Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.
Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).
Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
- Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
- Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
- Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen
Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Rhoddion o ffynhonnell a ganiateir yw'r unig rai y cewch chi eu derbyn.1 Ffynhonnell a ganiateir yw:
- unigolyn sydd wedi’i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU,2 gan gynnwys etholwyr tramor
- plaid wleidyddol sydd wedi’i chofrestru ym Mhrydain Fawr3
- cwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU sy’n gwmni corfforedig yn y DU ac sy’n cynnal busnes yn y DU4
- undeb llafur wedi’i gofrestru yn y DU5
- cymdeithas adeiladu sydd wedi’i chofrestru yn y DU6
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi’i chofrestru yn y DU ac sy’n cynnal busnes yn y DU7
- cymdeithas gyfeillgar wedi’i chofrestru yn y DU8
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi’i lleoli yn y DU ac sy’n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU yn gyfan gwbl neu’n bennaf ac sydd â’i phrif swyddfa yn y DU9
Gallwch hefyd dderbyn rhoddion gan rhai mathau o ymddiriedolaethau10 ac o gymynroddion.11 Mae’r rheolau ynghylch y rhoddion hyn yn gymhleth, felly cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Er eich bod, o dan y gyfraith etholiadol, yn gallu derbyn rhoddion yn gyfreithlon gan elusennau sydd yn un o’r ffynonellau a ganiateir ac a restrir uchod, fel arfer ni chaniateir i elusennau wneud rhoddion gwleidyddol o dan y gyfraith elusennau. Dylech gadarnhau bod unrhyw elusen sy’n cynnig rhodd wedi cymryd cyngor gan y rheoleiddiwr elusennol perthnasol cyn ei derbyn hi.
- 1. Atodlen 6, paragraff 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl 2025) 2025 ac adran 54(2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, para. 1(4) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 a phara. 6(1) ac adran 54(2)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(f) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(g) PPERA ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(h) PPERA ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 6, para. 6(2) a (3) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(a) a (3), adran 55(5) PPERA ↩ Back to content at footnote 11
Unigolion
Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.
Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).
Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
- Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
- Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
- Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen
Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Beth sy’n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae’n rhaid i unigolion fod ar gofrestr etholiadol y DU ar adeg y rhodd.1 Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor.
Sut ydych chi’n gwirio a ydynt yn ffynhonnell a ganiateir?
O fewn eich etholaeth
Mae gan ymgeiswyr a’u hasiantiaid yr hawl i gopi am ddim o’r gofrestr etholiadol lawn ar gyfer yr etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn sefyll.2 Mae'r hawl hon yn berthnasol ar ôl i’r unigolyn ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Os ydych yn derbyn rhodd gan unigolyn yn eich etholaeth, dylech ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i wirio a yw'r unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod yr unigolyn ar gofrestr etholiadol ar adeg derbyn y rhodd. Mae'n bosibl na fydd mathau eraill o ddogfennaeth yn ddigonol i warantu bod rhywun ar y gofrestr etholiadol ar adeg derbyn y rhodd.
Fel arfer, mae fersiwn newydd o'r gofrestr etholiadol yn cael ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd.
Dylech gysylltu ag adran cofrestru etholiadol yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eich copi, gan egluro eich bod yn gofyn amdano fel ymgeisydd mewn etholiad neu fel asiant yr etholiad ar ran yr ymgeisydd.3 Dylech hefyd ofyn iddynt anfon yr holl ddiweddariadau i’r gofrestr ar gyfer y flwyddyn honno atoch, hyd at y dyddiad y cafodd y rhodd ei derbyn. Byddwch yn derbyn y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gwneud cais am gopi print o’r gofrestr.4
Mae’n rhaid i chi wirio’r gofrestr a’r diweddariadau’n ofalus er mwyn gwneud yn siŵr bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y bu i chi dderbyn y rhodd.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol drwy ein chwiliwr cod post.
Mewn amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw’r unigolyn wedi’i gofrestru’n ddienw, mae’n rhaid i chi ddarparu datganiad eich bod wedi gweld tystiolaeth bod ganddo gofnod dienw ar y gofrestr.5 Bydd y dystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Mae’n rhaid i chi gyflwyno copi o’r dystysgrif gyda’r datganiad hwn ynghyd â'ch ffurflen gwariant.6
Dim ond ar gyfer gwirio a oes gan roddwr ganiatâd neu at ddibenion etholiadol eraill y dylech ddefnyddio’r gofrestr. Ni ddylech ei throsglwyddo i unrhyw un arall, datgelu unrhyw wybodaeth ar y gofrestr nad yw'n ymddangos ar y gofrestr agored na defnyddio unrhyw wybodaeth ar y gofrestr at ddibenion anetholiadol.7
Tu allan i'ch etholaeth
Nid oes gan ymgeiswyr a’u hasiantiaid yr hawl i gopi am ddim o’r gofrestr etholiadol lawn ar gyfer y tu allan i'w hetholaeth.
Er mwyn cadarnhau ei fod yn rhoddwr a ganiateir, dylech ofyn i'r rhoddwr ddarparu cadarnhad ysgrifenedig o'i gofrestriad o adran cofrestru etholiadol eu hawdurdod lleol cyn derbyn y rhodd. Rhaid i'r cadarnhad gadarnhau bod y rhoddwr ar y gofrestr etholiadol ar y dyddiad y cafodd y rhodd ei derbyn. Dylid gwneud y rhoddwr yn ymwybodol o'r posibilrwydd y bydd ei awdurdod lleol yn codi ffi weinyddol am ddarparu cadarnhad ysgrifenedig.
Yn ogystal, gall ymgeiswyr a'u hasiantiaid fynd i'r awdurdod lleol i archwilio'r gofrestr berthnasol er mwyn gwirio caniatâd.
Gan nad oes gennych hawl i gopi o'r gofrestr etholiadol lawn y tu allan i'ch etholaeth, dyma'r ffyrdd gorau o sicrhau bod yr unigolyn ar gofrestr etholiadol ar adeg derbyn y rhodd. Mae'n bosibl na fydd mathau eraill o ddogfennaeth yn ddigonol i warantu bod rhywun ar y gofrestr etholiadol ar adeg derbyn y rhodd.
Cysylltwch â ni os bydd angen cyngor pellach arnoch ynghylch gwirio caniatâd.
Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- enw llawn y rhoddwr
- y cyfeiriad fel y’i dangosir ar y gofrestr etholiadol, neu os yw’r person yn etholwr dramor, ei gyfeiriad dramor (p’un ai yn y DU neu yn rhywle arall)8
Mae’n bosibl y byddai’n ddefnyddiol i chi nodi rhif etholiadol rhoddwr fel cofnod o’ch gwiriadau.
- 1. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(a) a (8) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 108(1) a (b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (RPR 2001) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 102(2) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 102(3) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, para. 10(2) a Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 6, para. 10(2) a Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 108(5) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, para. 11(c) a phara. 12(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
Cwmnïau
Beth sy’n gwneud cwmni yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae cwmni'n ffynhonnell a ganiateir os yw:
- wedi’i gofrestru fel cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau
- yn gwmni corfforedig yn y DU
- yn cynnal busnes yn y DU1
Rhaid i chi fod yn sicr bod y cwmni'n bodloni pob un o’r tri maen prawf.
Sut ydych chi’n gwirio cofrestriad cwmni?
Dylech wirio'r gofrestr yn Nhŷ’r Cwmniau. Dylech edrych ar y cofnod cofrestru llawn ar gyfer y cwmni.
Sut ydych chi’n cadarnhau a yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU?
Rhaid i chi fod yn fodlon bod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â’r cwmni eich hun, dylech wirio cofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld:
- a yw’r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur neu ar fin cael ei ddileu o’r gofrestr
- a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y cwmni yn hwyr
Mae’n bosibl y bydd cwmni yn dal i gynnal busnes os yw’n cael ei ddiddymu, yn segur neu’n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni eich hun mai dyna'r achos.
Ar gyfer unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar:
- wefan y cwmni
- masnach berthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy
- y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau
Os ydych yn dal i fod yn ansicr a yw’r cwmni'n cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o'i weithgareddau busnes gan gyfarwyddwyr y cwmni.
Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- yr enw fel y mae’n ymddangos ar y gofrestr
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
- rhif cofrestru’r cwmni2
- 1. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(b) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 11(c) a phara. 12(2)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac Atodlen. 6, para. 2(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig
Beth sy’n gwneud partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP) yn rhoddwr a ganiateir os yw:
- wedi’i gofrestru fel LLP yn Nhŷ’r Cwmnïau
- yn cynnal busnes yn y DU1
Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?
Dylech wirio'r gofrestr yn Nhŷ’r Cwmniau. Dylech edrych ar y cofnod cofrestru llawn ar gyfer y cwmni.
Sut ydych chi’n cadarnhau a yw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?
Mae’n rhaid i chi gael eich bodloni bod y LLP yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os oes ydych chi’n gyfarwydd â’r LLP dylech edrych ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld:
- a yw’r LLP yn cael ei diddymu, yn segur neu ar fin cael ei diddymu
- a yw cyfrifon a ffurflenni blynyddol y LLP yn hwyr
Mae’n bosibl y bydd LLP yn parhau i gynnal busnes os yw wedi’i diddymu, yn segur neu’n cyflwyno dogfennau’n hwyr, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol i fodloni eich hun mai dyna'r achos.
Ar gyfer unrhyw LLP, dylech ystyried edrych ar:
- wefan y LLP
- masnach berthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy
- y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau
Os ydych yn dal i fod yn ansicr a yw’r LLP yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o'i weithgareddau busnes gan gyfarwyddwyr y LLP.
Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- yr enw fel y mae’n ymddangos ar y gofrestr
- cyfeiriad cofrestru swyddfa’r LLP2
Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestredig y LLP.
- 1. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(f) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 11(c) a phara. 12(2)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac Atodlen. 6, para. 2(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Cymdeithasau anghorfforedig
Beth sy’n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir os:
- oes ganddi fwy nag un aelod
- yw’r brif swyddfa yn y DU
- yw’n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU1
Mae’n rhaid i chi fod yn sicr bod y cwmni'n bodloni pob un o’r tri maen prawf.
Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?
Nid oes unrhyw gofrestr sy'n cynnwys pob cymdeithas anghorfforedig. Bydd angen i chi wirio manylion y gymdeithas anghorfforedig ym mhob achos.
Yn gyffredinol, cymdeithas anghorfforedig yw cymdeithas sydd â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben cyffredin.
Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodaeth adnabyddadwy sydd wedi’i rhwymo ynghyd gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae’r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli’r gymdeithas anghorfforedig.
Weithiau, efallai bydd y rheolau’n cael eu ffurfioli, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes yn angen iddynt gael eu ffurfioli.
Er enghraifft, mae clybiau aelodau weithiau'n gymdeithasau anghorfforedig.
Os nad ydych chi’n siŵr a yw cymdeithas yn bodloni’r meini prawf, dylech ystyried a yw’r rhodd wedi dod mewn gwirionedd gan unigolion oddi mewn iddi (yn hytrach na’r gymdeithas ei hun) neu os oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.
Os tybiwch mai dyma'r achos, rhaid i chi gadarnhau bod pob un o’r unigolion a gyfrannodd fwy na £500 yn rhoddwyr a ganiateir a’u trin fel rhoddwyr.
Mae rhagor o wybodaeth am gynnal busnes i'w chael yn yr adran flaenorol Sut ydych chi’n cadarnhau a yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU?
Os bydd cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol gwerth mwy na £37,270 yn ystod blwyddyn galendr, dylech eu hysbysu bod rhaid iddynt adrodd hyn i ni. Gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth am gymdeithasau anghorfforedig.
Cysylltwch â ni os hoffech gael cyngor pellach ynghylch gwirio caniatâd cymdeithasau anghorfforedig mewn achosion penodol.
Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- enw'r gymdeithas anghorfforedig
- prif gyfeiriad y gymdeithas anghorfforedig2
- 1. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(h) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 11(c) a phara. 12(2)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac Atodlen. 6, para. 2(10) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Mathau eraill o roddwyr
Pleidiau gwleidyddol cofrestredig
Mae’n rhaid i blaid fod ar gofrestr Prydain Fawr er mwyn iddi fod yn un a ganiateir.1 Gallwch ddod o hyd i’r rhestr gyflawn o bleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru ym Mhrydain Fawr ar ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol.
Undebau llafur
Mae’n rhaid i undeb llafur fod wedi’i gofrestru fel undeb llafur gan y Swyddog Ardystio neu’r Swyddog Ardystiad ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn sicrhau ei bod yn ffynhonnell a ganiateir.2 Dylech wirio’r rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio neu ar wefan y Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Cymdeithasau adeiladu
Mae’n rhaid i gymdeithas adeiladu fod yn gymdeithas adeiladu o fewn diffiniad Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 iddi fod yn ffynhonnell a ganiateir.3 Dylech edrych ar y rhestr o’r cymdeithasau adeiladu sydd wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gyhoeddus Cydfuddiannol.
Cymdeithasau cyfeillgar, a chymdeithasau diwydiannol a darbodus
Mae’n rhaid i gymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus fod wedi eu cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn bod yn ffynonellau a ganiateir.4 Dylech wirio'r Gofrestr Gyhoeddus Cydfuddiannol a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?
Bydd angen i chi angen cofnodi:
- enw'r rhoddwr
- y cyfeiriad, fel y’i dangosir ar y gofrestr berthnasol5
- 1. Atodlen 6, para. 1(4) a pharagraff 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(c) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(g) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, para. 11(c) a phara. 12(2)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac Atodlen. 6, para. 2 PPERA ↩ Back to content at footnote 5
Pryd ydych chi’n cael ac yn derbyn rhodd?
Fel arfer, rydych chi’n ‘cael’ rhodd ar y diwrnod y mae yn eich meddiant.
Er enghraifft:
- os rhoddir taflenni am ddim i chi, byddwch yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
- os rhoddir siec i chi, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd y siec yn cael ei chlirio
- os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif.
Os yw’r ymgeisydd wedi cael rhodd, mae’n rhaid i’r rhodd ac unrhyw wybodaeth gefnogol ynghylch pwy yw’r rhoddwr ac a yw’n ffynhonnell a ganiateir gael eu darparu i'r asiant etholiad os oes un wedi’i benodi.1 O dan y gyfraith, yn yr amgylchiadau hyn bydd rhodd yn cael ei hymdrin fel petai wedi'i rhoi i'r asiant ar y diwrnod y cafodd ei rhoi am y tro cyntaf i'r ymgeisydd.2
Pryd ydych chi'n derbyn rhodd?
Rydych yn derbyn rhodd ar y diwrnod rydych yn cytuno i gadw’r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn rhai ariannol, os ydych yn defnyddio’r rhodd, rydych wedi’i derbyn o ganlyniad.
Os ydych yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod 30 diwrnod, ystyrir hefyd eich bod wedi’i derbyn.3
- 1. Atodlen 6, paragraff 8(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 8(3) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, para. 7 ac adran 56(5) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Sut ydych chi’n dychwelyd rhodd?
Os ydych chi’n gwybod pwy yw’r rhoddwr, mae’n rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol iddo o fewn 30 diwrnod o gael y rhodd.1
Os yw’r rhodd yn dod gan ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd ariannol ddi-enw o £600), mae’n rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol o fewn 30 diwrnod o gael y rhodd:
- i’r person wnaeth drosglwyddo’r rhodd i chi, neu
- y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r rhodd2
Os nad ydych chi’n gallu adnabod y naill na’r llall, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda gan fod rheidrwydd i chi ddychwelyd y swm cyfatebol i’r Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei dalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a reolir gan Drysorlys Ei Fawrhydi.3 Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i drefnu trosglwyddiad yr arian hwn.
Os bydd llog wedi’i ennill ar y rhodd cyn i chi ei ddychwelyd, cewch ei gadw. Nid yw hwn yn cael ei drin fel rhodd, ac nid oes angen adrodd amdano.4
- 1. Atodlen 6, paragraff 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2), adran 57(1)(a) a (b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2), adran 57(1)(c) a (3) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 4(1)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Sut ydych chi’n cyfrifo gwerth rhodd?
Gwerth rhodd yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a gewch a’r swm (os o gwbl) a dalwch amdano.1 Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn dros £500 yn dod gan roddwr a ganiateir.2
Os ydych yn cael rhywbeth fel buddion mewn nwyddau, yn rhad ac am ddim neu ar bris gostyngol anfasnachol o fwy na 10%, yr ydych chi neu rywun arall yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch (a adwaenir hefyd fel gwariant tybiannol), mae’n rhaid i chi hefyd adrodd am hyn fel rhodd os yw gwerth yr hyn a roddir i chi yn fwy na £500.3
I ostyngiadau anfasnachol yn unig mae'r rheolau ynghylch rhoddion yn berthnasol.4
Dylech ddarllen yr adran ar wariant tybiannol cyn darllen yr adran hon.
Yr egwyddor arweiniol
Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth y nwyddau neu’r gwasanaeth rydych chi’n eu cael.
Os yw’r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio’r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw’r rhoddwr, dylech ddefnyddio’r cyfraddau y mae’n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.
Os nad yw’r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau nwyddau neu wasanaethau cyfatebol rhesymol ar y farchnad. Os ydych dal yn ansicr ynghylch sut i gyfrifo gwerth rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.
Dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a gwerthusiadau fel eich bod yn gallu egluro p’un a oes rhodd wedi ei rhoi.
Enghraifft A
Mae cwmni argraffu yn cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% ar gynhyrchu taflenni ar gyfer eich ymgyrch. Gwerth masnachol y taflenni yw £1,200. Rydych chi’n cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd. Y pris rydych chi’n ei dalu am y taflenni yw £600.
Mae’r argraffwr wedi gwneud rhodd o £600 i chi: £1,200 (gwerth y nwyddau) - £600 (y pris rydych chi’n ei dalu) = rhodd anariannol o £600.
Enghraifft B
Mae dylunydd gwefan yn cynnig adeiladu gwefan ar gyfer eich ymgyrch am ddim. Gwerth masnachol ei wasanaethau yw £550. Rydych chi’n cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd.
Mae’r dylunydd gwefan wedi gwneud rhodd o £550 i chi: £550 (gwerth y gwasanaethau) - £0 (y pris rydych chi’n ei dalu) = rhodd anariannol o £550.
Prisio gwerth rhodd drwy nawdd
Os yw rhywun yn noddi cyhoeddiad neu ddigwyddiad ar ran yr ymgeisydd, gwerth y rhodd yw’r swm llawn y mae'n ei dalu.
Mae’n rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw ddidyniad am unrhyw fudd y mae'n yn ei gael o’r nawdd. Gweler ein canllawiau ar nawdd am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Prisio gwerth mathau eraill o roddion
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch cyfrifo gwerth gofod swyddfa a staff sy’n cael eu secondio yn Prisio gwariant tybiannol a Gwahanu gwariant.
- 1. Atodlen 6, paragraff 5(2) A (4) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, para. 2(1)(e) a phara. 4(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 2(1)(e) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Pa gofnodion sydd angen ei chi eu cadw?
Rhoddion rydych chi wedi’u derbyn
Os ydych chi’n derbyn rhodd o dros £500, mae’n rhaid i chi gofnodi:
- y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr (gweler y dudalen berthnasol ar gyfer y math o roddwr)1
- y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd nad yw’n un ariannol)2
- y dyddiad y cafodd y rhodd ei rhoi i chi
- y dyddiad y derbyniwyd y rhodd3
Rhoddion rydych chi wedi’u dychwelyd
Os ydych chi’n cael rhodd gan ffynhonnell na chaniateir, mae’n rhaid i chi gofnodi’r manylion hyn:
- swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)4
- enw a chyfeiriad y rhoddwr (oni bai bod y rhodd wedi’i rhoi'n ddienw)5
- os yw’r rhodd wedi’i rhoi’n ddienw, manylion ynghylch sut y cafodd y rhodd ei gwneud6
- y dyddiad y gwnaethoch chi gael y rhodd7
- y dyddiad y gwnaethoch chi ddychwelyd y rhodd8
- y camau y gwnaethoch eu cymryd i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo/iddi)9
Ar ôl yr etholiad
Byddwch angen adrodd y manylion hyn ar eich ffurflen gwariant a rhoddion. Mae rhagor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd mae angen i chi ei chyflwyno, i'w chael yn Cwblhau eich ffurflen.
- 1. Atodlen 6, paragraff 11(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 11(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, par. 11(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 12(2)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, para. 12(2)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 6, para. 12(3)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 6, para. 12(2)(c) a (3)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, para. 12(2)(c) a (3)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 6, para. 12(2)(c) a (3)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
Ymgeiswyr sy'n dal swyddi etholedig
Os ydych eisoes yn dal swydd etholedig berthnasol, mae angen i chi ddilyn rheolau ynghylch rhoddion a benthyciadau i chi sy’n berthnasol i weithgarwch gwleidyddol cyn y cyfnod rheoledig.
Deiliaid swyddi etholedig yw:1
- aelod o’r Senedd
- aelod o Senedd y DU
- aelod o Senedd yr Alban
- aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon
- maer awdurdodau cyfunol
- aelod o unrhyw awdurdod lleol yn y DU, ac eithrio cynghorau plwyf neu gymuned
- aelod o Gynulliad Llundain Fwyaf
- Maer Llundain neu unrhyw faer etholedig arall
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Yn y gyfraith, gelwir yr unigolion hyn yn ‘rhoddwyr a reoleiddir’.
Dim ond os yw'n dod o ffynhonnell a ganiateir neu gyda ffynhonnell a ganiateir y gall rhoddwyr rheoledig dderbyn rhodd neu drefnu benthyciad o fwy na £500 a wneir mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol.2 Mae’n rhaid i chi wirio a yw'n ffynhonnell a ganiateir cyn trefnu benthyciad ac mae gennych 30 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch y rhodd i gynnal gwiriadau caniatâd a dychwelyd y rhodd na chaniateir.3 Rydym yn cyfeirio at roddion a benthyciadau ar y cyd fel buddion.
Mae'n rhaid i chi adrodd am fuddion (rhoddion a benthyciadau) pryd bynnag mae cyfanswm y rhoddion caniataol a dderbyniwyd neu'r benthyciadau a drefnwyd gan yr un ffynhonnell yn mynd dros £2,230.4 Gall hyn fod yn un rhodd neu fenthyciad o fwy na £2,230, neu'n fuddion niferus sydd gyda'i gilydd yn gwneud cyfanswm o fwy na £2,230. Mae'n rhaid i chi adrodd am hyn o fewn 30 diwrnod o fodloni'r trothwy adrodd.5 Mae'n rhaid i chi gynnwys rhoddion dros £500 yn unig wrth gyfuno'r buddion gan yr un ffynhonnell.
Mae'n rhaid i chi hefyd adrodd am bob rhodd nas caniateir a dderbyniwyd a benthyciad a drefnwyd gyda gwerth dros £500 o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y gwnaethoch eu dychwelyd neu eu fforffedu.6 Nid oes angen i chi gyfrifo cyfanswm y buddion na chaniateir.
Mae'n rhaid i chi hefyd adrodd newidiadau penodol i fenthyciadau a ganiateir rydych eisoes wedi rhoi gwybod i ni amdanynt.7
Os cewch eich ethol, bydd y rheolau hyn hefyd yn berthnasol i chi ar ôl cael eich ethol.
Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau ar y rheolau hyn ar ein gwefan.
- 1. Atodlen 7, paragraff 1(8) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, para. 2(1) a phara. 4(3)(b), Atodlen. 7A, para. 2(1)-(3) a (4)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, para. 8(1) ac adran 56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, para. 10(1A) a (2), Atodlen. 7A, para. 9(2) a (7) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 7, para. 10(2) ac Atodlen 7A, para. 9(7) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 7, para. 11(1) ac Atodlen. 7A, para. (10)(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 7A, para. 11 PPERA ↩ Back to content at footnote 7
Cyllido Torfol
Cyllido torfol yw pan ddefnyddir llwyfan ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, caiff y llwyfan ei reoli gan ddarparwr trydydd parti ac mae gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan.
Mae ymgyrchoedd yn rhedeg am gyfnod penodol fel arfer. Bydd y codwr arian yn aml yn dewis terfyn amser i gyrraedd nod codi arian. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, caiff yr arian a godwyd, ar ôl tynnu ffi a delir i’r darparwr, ei drosglwyddo i’r codwr arian.
Mae sawl ffordd wahanol y gall llwyfannau cyllido torfol drosglwyddo arian i godwyr arian. Efallai bydd rhai llwyfannau'n caniatáu i chi dynnu arian tra mae'ch ymgyrch yn mynd yn ei flaen. Bydd llwyfannau eraill ond yn trosglwyddo arian i chi ar ôl i'ch ymgyrch ddod i ben.
Os ydych yn casglu rhoddion drwy gyllido torfol, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r gyfraith ar roddion. Mae’r rheolaethau ynglŷn â rhoddion ar gyfer ymgeiswyr yn berthnasol pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd swyddogol.
Dewis llwyfan cyllido torfol
Cyn creu tudalen cyllido torfol, dylech wirio nodweddion y llwyfan cyllido torfol. Dylech wneud yn siŵr y bydd gennych chi'r offer a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddilyn y gyfraith ar roddion.
Dylech gasglu digon o wybodaeth gan bob rhoddwr er mwyn sicrhau eich bod yn gallu:
- Gwirio’n iawn bod pob rhodd dros £500 yn dod o ffynhonnell a ganiateir
- Nodi p'un a yw rhoddion niferus wedi dod o'r un ffynhonnell
- Cadw cofnod manwl gywir o'r rhoddion rydych wedi'u derbyn yn eich ffurflen gwariant a rhoddion
Dylech ddewis llwyfan cyllido torfol sy'n caniatáu i chi ddychwelyd rhoddion nas caniateir.
Rhoddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw
Yn y canllaw hwn, rydym yn cyfeirio at roddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw. Diffinnir y termau hyn yn y tabl isod:
| Term | Ystyr |
|---|---|
Rhodd cyllido torfol preifat | Nid yw manylion y rhoddwr yn weladwy ar dudalen cyllido torfol preifat ond darperir peth gwybodaeth i'r person a greodd y dudalen. Er enghraifft, ni fyddai rhywun sy'n edrych ar dudalen cyllido torfol yn gallu dweud pwy wnaeth rhodd breifat o £750, ond gallai'r codwr arian gael enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr. |
Rhodd ddienw | Ni ddarperir unrhyw wybodaeth am roddwr i'r person neu'r sefydliad sydd wedi cael y rhodd. |
Fel y codwr arian, dylech wirio y rhoddir mynediad i chi at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich rhoddwyr.
Rhaid i chi beidio â derbyn rhoddion a wnaed yn ddienw, neu os nad ydych yn gallu nodi pwy yw'r rhoddwr.
Cewch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych chi'r manylion angenrheidiol i wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
Fodd bynnag, efallai eich bod yn dymuno ystyried a ydych am ganiatáu rhoddion cyllido torfol preifat ar gyfer eich ymgyrch.
Cael mynediad at yr arian a godwyd
Mae sawl ffordd wahanol y gall llwyfannau cyllido torfol drosglwyddo arian i godwyr arian. Efallai bydd rhai llwyfannau'n caniatáu i chi dynnu arian tra mae'ch ymgyrch yn mynd yn ei blaen, a bydd eraill ond yn trosglwyddo arian i chi ar ôl i'ch ymgyrch ddod i ben.
Gall yr amser mae'n ei gymryd i dderbyn arian ar ôl y terfyn amser amrywio hefyd, yn dibynnu ar ba lwyfan cyllido torfol rydych yn ei ddefnyddio.
Mae'n bwysig i chi ddeall pryd gallwch gael mynediad at arian. Ar ôl derbyn arian, mae'n rhaid i chi gynnal gwiriadau caniatâd ar roddion perthnasol a chadw cofnodion ar gyfer eich ffurflen gwariant a rhoddion. Rydym yn argymell eich bod yn cynllunio eich ymgyrch cyllido torfol fel y byddwch yn derbyn eich rhoddion gyda digon o amser i gwblhau'r gwiriadau sy'n ofynnol cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno'ch ffurflen.
Creu tudalen cyllido torfol
Dylech sicrhau bod eich tudalen cyllido torfol yn darparu gwybodaeth am bwy sy'n cael yr arian ac at ba ddiben. Er enghraifft, dylech ei gwneud yn glir p’un a yw’r arian yn cael ei godi i fodloni eich gwariant etholwr, i'w ddefnyddio ar gyfer eich ymgyrch i gael eich dewis fel ymgeisydd, neu ar gyfer ymgyrch etholiad plaid. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod trothwyon cofnodi ac adrodd gwahanol ar gyfer rhoddion ymgeiswyr a phleidiau.
Dylech sicrhau bod y dudalen yn cynnwys gwybodaeth er mwyn egluro y cynhelir gwiriadau caniatâd yn unol â'r gyfraith. Dylech fod yn glir ynghylch y rhesymau pam eich bod yn casglu unrhyw wybodaeth.
Yn ogystal, dylai'ch tudalen cyllido torfol egluro y gall gwybodaeth am roddion a rhoddwyr ar gyfer rhoddion dros £500, yn cynnwys rhoddion preifat, gael ei hadrodd i Swyddogion Canlyniadau. Mae Swyddogion Canlyniadau yn trefnu bod ffurflenni a baratowyd gan ymgeiswyr ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd ar ôl etholiadau. Mae diffiniad o'r term 'rhodd cyllido torfol preifat' i'w gael yn Dewis llwyfan cyllido torfol.
Rydym yn argymell eich bod yn glir ac yn egluro y bydd rhaid i'r rhodd gael ei dychwelyd os yw'r rhoddwr yn parhau'n anhysbys, neu ei fod yn rhoddwr heb ganiatâd. Os na fyddwch yn cael digon o wybodaeth am roddwr, efallai bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn am ragor o fanylion.
Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. Mae rhagor o wybodaeth am argraffnodau digidol yn Argraffnodau.
Os ydych yn bwriadu creu ymgyrch cyllido torfol a'ch bod yn ansicr ynghylch pa ofynion sy'n berthnasol, neu sut i gynllunio eich ymgyrch i fodloni'r gofynion, gallwch gysylltu â ni am gyngor.
Rheoli rhoddion cyllido torfol
Rhoddion dros £500 o ffynhonnell a ganiateir yw'r unig rai y cewch chi eu derbyn.1 Mae rhagor o wybodaeth i'w chael am ffynonellau a ganiateir a sut i wirio caniatâd gwahanol fathau o roddwyr, yn Gan bwy allwch chi dderbyn rhodd?
Nid yw arian a roddir drwy dudalen cyllido torfol sy'n £500 neu'n llai yn rhodd mewn cyfraith etholiadol ac nid oes angen ei adrodd.2
Mae'n rhaid i chi beidio â derbyn rhodd gyda gwerth dros £500 os na allwch nodi'n union pwy yw'r rhoddwr, neu os yw'r rhoddwr yn ddienw.3 Rhodd ddienw yw pan na ddarperir unrhyw wybodaeth am roddwr i'r person neu'r sefydliad sydd wedi cael y rhodd.
Wrth dderbyn rhoddion, mae'n ofynnol eich bod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi'r gyfraith ar ganiatâd, er enghraifft pe bai rhywun yn gwneud rhoddion niferus o £500 neu lai. Mae ceisio osgoi'r rheoliadau ar roddion yn drosedd.4 Os ydych yn bryderus y gallai hyn fod yn digwydd, cysylltwch â ni am gyngor.
Gwirio'r hyn a ganiateir
Ar ôl cael rhodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau caniatâd a phenderfynu a ydych am ei derbyn neu ei dychwelyd.5 Y dyddiad derbyn yw'r dyddiad rydych chi’n cael yr arian gan y safle cyllido torfol. Gall hyn fod yn wahanol i'r dyddiad y cafodd y rhodd ei gwneud. Mae pryd rydych yn cael yr arian yn ddibynnol ar a yw'r llwyfan cyllido torfol yn caniatáu i chi dynnu arian yn ystod eich ymgyrch, ynteu ar ôl iddo ddod i ben.
Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â chyfreithiau rhodd ar gyfer unrhyw rodd a gewch yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Mae hyn yn cynnwys rhoddion a wnaed ar eich tudalen cyllido torfol cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a drosglwyddwyd i chi yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Dylech gofnodi gwybodaeth am bob rhodd rydych yn ei gwirio, gan y bydd angen i chi adrodd y manylion hyn yn eich ffurflen.
Gwirio rhoddion preifat
Rhodd cyllido torfol preifat yw lle nad yw manylion y rhoddwr yn weladwy ar dudalen cyllido torfol preifat, ond bod y wybodaeth hon yn cael ei darparu i'r person a greodd y dudalen.
Cewch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych chi'r manylion angenrheidiol i wirio a ydynt yn rhoddwyr a ganiateir.
Pan fyddwch yn cael rhodd cyllido torfol preifat dros £500, dylech sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth am y rhoddwr i gynnal gwiriadau caniatâd.
Er enghraifft, petaech chi'n cael rhodd o £600 gan unigolyn sydd wedi darparu enw a chyfeiriad e-bost yn unig, dylech gysylltu â'r rhoddwr i ofyn am ei gyfeiriad cartref. Bydd angen y wybodaeth hon arnoch i wirio a yw'r unigolyn ar gofrestr etholiadol y DU, ac felly'n rhoddwr a ganiateir.
Os na allwch wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir o'r wybodaeth sydd gennych, mae'n rhaid i chi ddychwelyd y rhodd.
Dychwelyd rhoddion nas caniateir
Os na allwch nodi'n union pwy yw’r rhoddwr, neu os yw'r rhoddwr yn un nas caniateir, mae’n rhaid i chi ddychwelyd y rhodd o fewn 30 diwrnod o'i derbyn.6 Efallai bydd y llwyfan cyllido torfol rydych yn ei ddefnyddio yn caniatáu i chi ddychwelyd y rhodd yn uniongyrchol i'r rhoddwr.
Os na allwch ddychwelyd y rhodd i'r rhoddwr, dylech ei dychwelyd i'r sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r rhodd. Gallai hyn fod y llwyfan cyllido torfol rydych yn ei ddefnyddio, neu'r banc a drosglwyddodd y rhodd ar ran y llwyfan.
Os nad oes modd dychwelyd y rhodd i'r rhoddwr neu'r sefydliad ariannol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda gan fod rheidrwydd i chi anfon y rhodd i’r Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a reolir gan Drysorlys Ei Fawrhydi.7 Cysylltwch â ni i drefnu trosglwyddiad yr arian hwn.
- 1. Atodlen 6, paragraff 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 4(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, para. 6(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 9 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 61 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2), adran 57(1)(a) a (b) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2), adran 57(1)(c) a (3) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
Adrodd am roddion cyllido torfol
Cyn cwblhau a chyflwyno'ch ffurflen gwariant a rhoddion, dylech sicrhau eich bod wedi cynnal gwiriadau caniatâd ar bob rhodd dros £500.
Yn eich ffurflen, mae'n ofynnol eich bod yn cofnodi'n unigol pob rhodd dros £500 rydych wedi'i derbyn a phob rhodd nas caniateir rydych wedi'i dychwelyd.
Rhoddion rydych chi wedi’u derbyn
Os ydych chi’n derbyn rhodd o dros £500, mae’n rhaid i chi gofnodi:
- y manylion sy’n ofynnol ar gyfer y math o roddwr (gweler y dudalen berthnasol ar gyfer y math o roddwr)1
- y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)2
- y dyddiad y gwnaethoch chi gael y rhodd
- y dyddiad y derbyniwyd y rhodd3
Rhoddion rydych chi wedi’u dychwelyd
Os ydych chi’n cael rhodd gan ffynhonnell na chaniateir, mae’n rhaid i chi gofnodi’r manylion hyn:
- swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd nad yw’n ariannol)4
- enw a chyfeiriad y rhoddwr (oni bai bod y rhodd wedi’i rhoi yn ddienw)5
- os yw’r rhodd wedi’i rhoi’n ddienw, manylion o sut y cafodd y rhodd ei gwneud6
- y dyddiad y gwnaethoch chi gael y rhodd7
- y dyddiad y gwnaethoch chi ddychwelyd y rhodd8
- y camau y gwnaethoch eu cymryd i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)9
Mae diffiniad o'r term 'rhodd ddienw' i'w gael yn Dewis llwyfan cyllido torfol.
Ffioedd llwyfannau cyllido torfol
Mae'n bosibl y bydd llwyfannau cyllido torfol yn codi ffioedd am drafodiadau rhodd, trosglwyddo arian, ac am ddefnyddio eu llwyfan. Mae'r ffioedd hyn yn cyfrif fel traul etholiad, ac mae'n rhaid i chi adrodd amdanynt yn eich ffurflen o dan y categori costau llety a gweinyddol.
Gall y ffioedd hyn fod yn ganran o'r rhoddion rydych yn eu cael. Mae'n rhaid i chi adrodd am werth llawn y rhoddion a dderbyniwyd10 ac adrodd ar y ffioedd ar wahân fel gwariant etholiad. Mae'n dderbyniol i'r ffioedd hyn gael eu cyfuno a'u hadrodd fel un llinell o wariant yn eich ffurflen.
Ar ôl yr etholiad
Bydd angen i chi adrodd am y manylion hyn yn eich ffurflen. Mae rhagor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd mae angen i chi ei chyflwyno, i'w chael yn Cwblhau eich ffurflen.
Os ydych yn ansicr ynghylch pa ofynion adrodd sy'n berthnasol, gallwch gysylltu â ni am gyngor.
- 1. Atodlen 6, paragraff 11(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 11(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, par. 11(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 12(2)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, para. 12(2)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 6, para. 12(3)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 6, para. 12(2)(c) a (3)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, para. 12(2)(c) a (3)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 6, para. 12(2)(c) a (3)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 6, para. 11(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
Astudiaeth achos
Mae ymgeisydd yn penderfynu codi arian ar wefan cyllido torfol i wario ar ei ymgyrch i gael ei ethol i'r Senedd. Cynhelir yr etholiad ar 7 Mai. Ar gyfer yr ymgeisydd hwn, mae'r cyfnod a reoleiddir yn dechrau ar 7 Ebrill.
Mae'r ymgeisydd yn creu tudalen cyllido torfol gyda therfyn amser o 30 Ebrill.
Mae'r ymgeisydd yn dewis llwyfan cyllido torfol sy'n casglu digon o wybodaeth gan roddwyr i sicrhau ei fod yn gallu cwblhau eu rhwymedigaethau cofnodi ac adrodd, ac sy'n caniatáu i roddion gael eu dychwelyd os ydynt yn rhai nas caniateir.
Mae'r ymgeisydd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol ar ei dudalen cyllido torfol:
- i bwy mae'r arian yn mynd ac at ba ddiben - "Rwy'n codi arian ar gyfer fy ymgyrch i gael fy ethol fel Aelod o'r Senedd”
- rhoi gwybod y cynhelir gwiriadau caniatâd ar gyfer rhoddion a wneir dros £500
- rhoi gwybod y bydd rhoddion yn cael eu dychwelyd os nad oes modd dilysu'r rhoddwr, neu ei fod yn ffynhonnell nas caniateir
- rhoi gwybod y gall manylion am roddion gael eu hadrodd i Swyddogion Canlyniadau fel rhan o ffurflen yr ymgeisydd, a bod modd i'r Swyddog Canlyniadau drefnu bod y rhain ar gael i'r cyhoedd
- argraffnod dilys
Erbyn y terfyn amser, mae'r ymgeisydd wedi codi £2,500. Mae'r arian, ar ôl tynnu ffioedd y llwyfan, yn cael ei drosglwyddo i'r ymgeisydd bum diwrnod gwaith yn ddiweddarach. Mae’r rhoddion yn cynnwys:
- Rhodd A: £550 wedi'i wneud ar 10 Ebrill, enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr wedi'u derbyn
- Rhodd B: £600 wedi'i wneud ar 12 Ebrill, enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr wedi'u derbyn
- Rhodd C: rhodd preifat o £750 wedi'i wneud ar 14 Ebrill, enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr wedi'u derbyn
- Sawl rhodd dan £500 wedi'u gwneud dros y cyfnod cyllido torfol
Mae'r ymgeisydd yn cael yr arian ar 7 Mai ac yn lawrlwytho gwybodaeth am y rhoddwyr o'r llwyfan cyllido torfol. Mae'r cyfnod 30 diwrnod ar gyfer eu gwiriadau caniatâd yn dechrau ar 7 Mai, gan mai dyma'r dyddiad derbyn.
Mae Rhodd A yn cael ei derbyn ar ôl i wiriadau caniatâd gael eu cynnal.
Mae'r ymgeisydd yn cynnal gwiriadau caniatâd ar Rhodd B ac yn canfod bod y rhodd wedi dod o ffynhonnell nas caniateir. Mae'r ymgeisydd yn dychwelyd y rhodd i'r rhoddwr drwy'r llwyfan cyllido torfol.
Dim ond enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr sydd gan yr ymgeisydd ar gyfer Rhodd C. Nid yw'r wybodaeth hon yn ddigon i wirio caniatâd. Mae'r ymgeisydd yn cysylltu â'r rhoddwr i ofyn am ei gyfeiriad cartref, ond nid yw'n cael ymateb. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd wrthod y rhodd a'i dychwelyd i'r rhoddwr.
Nid oes angen i'r ymgeisydd wirio rhoddion dan £500.
Pan mae'r ymgeisydd yn cwblhau ei ffurflen, mae'n cofnodi'r rhoddion dros £500 a dderbyniodd, a'r rhai a gafodd eu dychwelyd. Ni chaiff rhoddion o £500 neu lai eu cofnodi. Mae'r ymgeisydd yn cofnodi'r ffioedd a godwyd gan y llwyfan o dan y categori costau llety a gweinyddol yn eu ffurflen gwariant.
Cryptoasedau
Rhoddion crypto: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno gohiriad ar roddion ar ffurf asedau crypto. Y bwriad yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw. Byddai hefyd yn berthnasol i ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a’r Alban).
Byddai’r cynigion yn cynnwys taliadau crypto o £500 neu lai, nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhoddion o dan gyfraith etholiadol bresennol.
Unwaith bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd neu fforffedu unrhyw roddion crypto a dderbyniwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Ceisio gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn ar gyfer unrhyw daliadau crypto o £500 neu lai, fel y gallwch ddychwelyd y rhoddion hyn
- Sicrhau eich bod yn dal gafael ar asedau crypto digonol neu'r swm arian cyfwerth er mwyn dychwelyd y rhoddion hyn
- Sicrhau bod eich darparwr crypto yn gallu cefnogi rhoddion a ddychwelir
Mae gofyn eisoes i chi gadw cofnodion o roddion a wneir ar ffurf asedau crypto, fel y gellir eu hadrodd fel rhoddion anariannol.
Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Mae cryptoasedau yn werth sy’n cael ei gynrychioli’n ddigidol. Maent yn cael eu diogelu gan broses amgryptio, yn defnyddio technoleg cyfriflyfr dosbarthedig, ac maent yn gallu cael eu trosglwyddo, eu storio neu eu cyfnewid yn electronig. Mae technoleg cyfriflyfr dosbarthedig yn system ddigidol sy’n cofnodi manylion trafodiadau mewn sawl lle ar yr un pryd, yn hytrach na drwy storfa ddata ganolog - er enghraifft, “blockchain”. Rhai enghreifftiau o gryptoasedau yw cryptoarian, tocynnau anghyfnewidadwy a cheiniogau digyfnewid. Nid yw asedau crypto yn arian cyfreithlon yn y DU. Cânt eu trin yn y gyfraith fel eiddo, nid fel arian. Cewch ragor o wybodaeth am gryptoasedau gan Fanc Lloegr.
Mae defnydd cryptoasedau’n tyfu’n fwyfwy ac mae’r cyfreithiau a’r rheoliadau ar eu defnydd yn esblygu ar hyn o bryd. Fel ymgeisydd, efallai bod rhoddwyr posibl sydd â diddordeb mewn gwneud rhodd i chi mewn cryptoasedau i’ch helpu chi dalu am eich gwariant ar ymgyrch wedi cysylltu â chi. Os ydych chi’n penderfynu derbyn rhoddion mewn cryptoasedau, bydd angen i chi gael rhywfaint o ddealltwriaeth o sut mae trafodiadau mewn cryptoasedau yn gweithio, fel y gallwch gyflawni eich cyfrifoldebau cyfreithiol.
Nid yw rhoddion asedau crypto wedi’u gwahodd o dan gyfraith etholiadol. Fodd bynnag, oherwydd y ffordd maent yn gweithredu, maent yn cyflwyno heriau a risgiau penodol wrth fodloni gofynion cyfraith etholiadol o ran nodi rhodwyr a sicrhau eu bod yn rhai a ganiateir.
Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni yn gyntaf am gyngor os ydych chi’n ystyried derbyn rhoddion mewn cryptoasedau. Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein ffordd o ymdrin â rhoddion mewn cryptoasedau, gan gynnwys trafod y gofynion cyfreithiol gyda phlatfformau crypto fel y gallwn ddeall eu gallu i alluogi ymgeiswyr i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol pe bai nhw’n derbyn rhoddion yn y ffurf hon. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda rheoleiddwyr eraill yn y DU. Wrth i gyfundrefn reoleiddiol a’r farchnad ddatblygu, byddwn yn diweddaru ein cyfarwyddyd.
Adnabod y rhoddwr
Mae rhoddion a geir mewn cryptoasedau yn destun i’r un gofynion cyfreithiol â rhoddion eraill. Mae’r camau rheoli rhoddion ar gyfer ymgeiswyr yn berthnasol pan fyddwch yn ymgeisydd swyddogol.
Mae’n rhaid i chi gasglu gwybodaeth ddigonol gan bob rhoddwr i sicrhau y gallwch:
- adnabod a chadw cofnod manwl gywir o’r rhoddion yr ydych chi wedi’u derbyn
- gwirio’n iawn fod pob rhodd dros £500 o ffynhonnell a ganiateir
- nodi a yw sawl rhodd wedi dod o’r un ffynhonnell
- dychwelyd rhoddion pan fo angen, pan na allwch adnabod pwy yw’r rhoddwr, neu os yw’r rhoddwr yn un nas caniateir
- adrodd am roddion yn eich ffurflen ymgeisydd, pan fo angen
Os ydych chi’n dymuno casglu rhoddion mewn cryptoasedau drwy blatfform cyllido torfol, cyn i chi greu tudalen cyllido torfol, dylech wirio y bydd y platfform yn gadael i chi weld yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich rhoddwyr. Rhaid i chi beidio â derbyn rhoddion a wnaed yn ddienw, neu os nad ydych yn gallu nodi pwy yw'r rhoddwr. Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran ar gyllido torfol.
Dylech fod yn ofalus iawn os oes unrhyw arwydd bod rhoddwyr yn defnyddio cymysgwyr (gwasanaethau sy’n cuddio ffynhonnell wirioneddol asedau crypto drwy gyfuno asedau o sawl ffynhonnell), neu’n defnyddio AI a systemau eraill i rannu rhoddion.
Prisio cryptoasedau
Gwerth y cryptoased fydd ei werth marchnadol mewn GBP ar yr adeg y daw i’ch meddiant. Er enghraifft, efallai mai cyfradd gyfnewid y darparwr taliadau a ddefnyddiwyd i wneud y trafodiad fydd y gwerth, neu werth marchnadol cyfnewid mawr ar yr adeg honno.
Os yw gwerth marchnadol GBP unrhyw gryptoased yr ydych chi’n ei gael yn fwy na £500, mae’n rhaid i chi ei gyfrif fel rhodd a gwirio a yw’r rhoddwr yn un a ganiateir cyn i chi ei dderbyn.1 Yn eich ffurflen gwariant a rhoddion mae’n rhaid i chi gofnodi rhoddion dros £500 yr ydych chi wedi eu derbyn a’u dychwelyd.
Yr un fath â rhoddion eraill, mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas y gyfraith etholiadol ac nid oes angen i chi eu cofnodi nac adrodd amdanynt. Fodd bynnag, mae ceisio osgoi’r camau rheoli rhoddion yn drosedd.2 Rydym felly’n argymell eich bod chi’n craffu’r taliadau hyn yn drylwyr, o ystyried y risg o ddefnyddio taliadau i osgoi cyfyngiadau ar bethau’n sy’n cael eu caniatáu.
Enghraifft A
Mae rhoddwr yn gwneud rhodd i ymgeisydd mewn cryptoarian. Mae asiant etholiad yr ymgeisydd yn defnyddio cyfradd gyfnewid y darparwr taliadau a ddefnyddiwyd i wneud y trafodiad i ganfod gwerth marchnadol y cryptoarian mewn GBP. Ar adeg derbyn y rhodd, ei gwerth marchnadol mewn GBP yw £850.
Gan fod gwerth marchnadol y rhodd mewn GBP yn fwy na £500, mae’n rhaid i’r asiant wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir cyn iddo dderbyn y rhodd.
Enghraifft B
Mae rhoddwr yn hysbysu ymgeisydd ei fod yn bwriadu gwneud rhodd iddo mewn cryptoasedau. Mae’n dweud wrth yr ymgeisydd y bydd gwerth marchnadol y rhodd mewn GBP yn tua £450.
Wythnos yn ddiweddarach, mae’r rhoddwr yn gwneud rhodd i’r blaid mewn ceiniogau sefydlog ac mae gwerth marchnadol y rhodd mewn GBP ar adeg ei derbyn yn £575. Gan fod gwerth marchnadol y rhodd mewn GBP yn fwy na £500, mae’n rhaid i’r asiant etholiad wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir cyn iddo dderbyn y rhodd.
Adrodd am roddion a geir mewn cryptoasedau
Yn unol â’r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan CThEF a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, mae cryptoasedau’n cael eu hystyried yn eiddo, yn hytrach nag arian cyfred neu arian. Mae’n rhaid ymdrin â rhoddion a geir mewn cryptoasedau fel rhoddion anariannol. Mae hyn hefyd yn debygol o fod yn berthnasol i drefniadau lle mae’r darparwr taliadau wedi trosi rhodd crypto i arian cyn ei throsglwyddo i chi, weithiau’n cael ei alw’n ‘ffordd ymadael crypto’ (‘crypto off-ramp’).
Pan fyddwch yn adrodd am roddion anariannol, mae’n rhaid i chi roi manylion am natur a gwerth y rhodd.3 Mae’n rhaid i hyn gynnwys math a swm y cryptoased. Er enghraifft, gallech adrodd natur rhodd fel 0.2 Bitcoin.
- 1. Atodlen 6, paragraff 2 a pharagraff 4(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, paragraff 9 SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, paragraff 11(a) SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Gwariant a rhoddion ymgeiswyr rhestr plaid
Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys:
- treuliau personol
- anerchiad etholiadol
- rhoddion i ymgeiswyr sy’n dal swydd etholedig
Ar wahân i dreuliau personol a delir gan yr ymgeisydd, mae'r holl wariant ar hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn wariant plaid a rhaid i'r blaid roi gwybod amdano.
Treuliau personol
Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau teithio a byw rhesymol yr ymgeisydd at ddibenion yr etholiad ac mewn perthynas ag ef.1
Mae treuliau personol yn adroddadwy drwy gydol y cyfnod a reoleiddir. Unwaith y byddwch yn ymgeisydd yn swyddogol, dim ond cyfanswm o hyd at £900 y gallwch ei dalu mewn treuliau personol. Rhaid i drysorydd eich plaid dalu unrhyw symiau sydd uwch na’r swm hwn.2 Nid oes terfyn ar faint y gall ymgeiswyr ei dalu am dreuliau personol cyn iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Gall treuliau personol gynnwys:
- trafnidiaeth gyhoeddus neu gostau tacsis
- prynu tanwydd ar gyfer cerbyd neu wefru cerbyd trydan
- llogi car os nad ydych eisoes yn berchen ar gar, neu os nad yw'n addas ar gyfer ymgyrchu
- aros mewn gwesty
Ar gyfer rhai treuliau personol, bydd angen i chi amcangyfrif cyfran eich costau sy'n briodol i'r etholiad. Er enghraifft, os ydych yn berchen ar gar, mae'n debygol y bydd rhai o'r costau tanwydd neu wefru yn ystod cyfnod yr etholiad at ddibenion eraill. Dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o'r costau hyn.
Ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn y cartref, lle nad oes anfoneb benodol ar gyfer gwefru, gallwch amcangyfrif y gost drwy:
- cymharu capasiti batri'r cerbyd â'ch cost fesul uned o drydan, a rhoi gwybod am amcangyfrif o faint o wefriadau llawn sy'n briodoladwy i'r etholiad, neu
- cymharu milltiroedd eich cerbyd fesul uned o drydan â'ch cost fesul uned o drydan, a rhoi gwybod am amcangyfrif o'r milltiroedd sy'n briodoladwy i'r etholiad
Rhaid i chi hefyd ddatgan cyfanswm y treuliau personol a wariwyd gennych ar ôl yr etholiad. Gweler Datganiad o dreuliau personol (Ymgeiswyr rhestr plaid) am ragor o wybodaeth.
- 1. Erthygl 37(3) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erth. 45(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Anerchiadau etholiadol
- 1. Erthygl 67(2025) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 8, paragraff 1(3) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 2
Rhoddion i ymgeiswyr sy’n dal swydd etholedig
Os ydych chi'n Aelod o'r Senedd ar hyn o bryd neu'n dal swydd etholiadol arall, mae'n ofynnol i chi hefyd ddilyn cyfreithiau ynghylch rhoddion a benthyciadau a gewch mewn cysylltiad â'ch gweithgareddau gwleidyddol fel deiliad swydd etholiadol.1 Gallai hyn gynnwys rhoddion tuag at gynnal eich swyddfa, gwaith llywodraethol a gweithgareddau gwleidyddol plaid.
Os ydych chi'n Aelod o'r Senedd, bydd hyn yn cynnwys rhoddion a benthyciadau a gawsoch tuag at eich ail-etholiad i'r Senedd cyn i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol. Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw ar y dyddiad y caiff y Senedd ei diddymu. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol yn ogystal â'ch rhwymedigaethau i ddatgan buddiannau i'r Gofrestr Diddordebau Aelodau.
Os ydych chi'n casglu rhoddion, rydym yn argymell eich bod yn glir ynghylch a yw arian yn cael ei godi yn rhinwedd eich swydd fel Aelod o'r Senedd, neu i fodloni gwariant ymgyrchu eich plaid. Rhaid adrodd ar roddion a wneir tuag at wariant ymgyrchu’r blaid fel rhoddion plaid. Unwaith y bydd y Senedd wedi'i diddymu, a'ch bod wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, rhaid adrodd ar roddion a benthyciadau a gewch tuag at eich ail-etholiad fel rhoddion a benthyciadau i'ch plaid.
Os ydych chi'n derbyn rhoddion a benthyciadau i'r blaid, dylech chi roi'r manylion i'ch plaid a dilyn gweithdrefnau eich plaid ar gyfer rhoddion a benthyciadau. Trysorydd y blaid sy'n gyfrifol am roi gwybod i ni am roddion a benthyciadau'r blaid. Nodir isod y gofynion caniatâd ac adrodd ar gyfer deiliaid swyddi etholiadol.
Deiliaid swydd etholedig yw:2
- aelod o Senedd Cymru
- aelod o Senedd yr Alban
- aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon
- maer awdurdodau cyfun
- aelod o unrhyw awdurdod lleol yn y DU, heb gynnwys cynghorau plwyf neu gymuned
- aelod o Gynulliad Llundain Fawr
- Maer Llundain neu unrhyw faer etholedig arall
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Gofynion caniatâd ac adrodd ar gyfer deiliaid swyddi etholiadol
Gall deiliaid swydd etholiadol dim ond derbyn rhodd neu ymrwymo i fenthyciad o fwy na £500 a wneir mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol os y’i gwneir gan neu gyda ffynhonnell a ganiateir.3 Rhaid i chi wirio a oes caniatâd cyn ymrwymo i fenthyciad ac mae gennych 30 diwrnod o dderbyn rhodd i gynnal gwiriadau caniatâd a'i dychwelyd os nas caniateir.4 Rydym yn cyfeirio at roddion a benthyciadau gyda'i gilydd fel buddion.
Rhaid i chi roi gwybod i ni am fuddion pryd bynnag y bydd cyfanswm y rhoddion a ganiateir a dderbynnir neu'r benthyciadau a ymrwymwyd iddynt o'r un ffynhonnell yn fwy na £2,230.5 Gall hyn fod yn un rhodd neu fenthyciad o dros £2,230, neu fuddion lluosog sy’n dod i gyfanswm o fwy na £2,230. Rhaid i chi roi gwybod am hyn o fewn 30 diwrnod o gyrraedd y trothwy adrodd.6 Wrth adio buddion o’r un ffynhonnell dylech dim ond cynnwys rhoddion a benthyciadau sydd dros £500.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod am bob rhodd nas caniateir a dderbyniwyd a benthyciadau a ymrwymwyd iddynt gyda gwerth dros £500 o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y gwnaethoch ei ddychwelyd neu ei fforffedu.7 Nid oes angen i chi adio buddion nas caniateir.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod am newidiadau i fenthyciadau a ganiateir yr ydych eisoes wedi rhoi gwybod i ni amdanynt.8
Gellir dod o hyd i'r rhestr o ffynonellau a ganiateir a chanllawiau pellach ar ein gwefan.
- 1. Atodlen 7, paragraff 1(3)(c) ac Atodlen 7A, paragraff 2(8)(c) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, para. 1(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, para. 2(1), para. 4(3)(b), para. 6(1) ac Atodlen 7A, para. 2(1)-(4), para. 4(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, para. 8(1), Atodlen 7A, para. 4(1) ac adran 56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 7, para. 10(1A) ac Atodlen 7A, para. 9(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 7, para. 10(2) ac Atodlen 7A, para. 9(7) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 7, para. 11(1) ac Atodlen 7A, para. 10(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 7A, para. 11 PPERA ↩ Back to content at footnote 8
Ymgyrchu
Bydd yr adrannau canlynol yn rhoi arweiniad i chi ar eich ymgyrchu. Mae hyn yn cynnwys:
- Pryd y gallwch ddechrau ymgyrchu a beth i’w wneud a pheidio â’i wneud ar gyfer eich ymgyrch
- Defnyddio'r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol
- Eich rôl o ran cynnal uniondeb a diogelwch yr etholiad
- Troseddau etholiadol a rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol
Pryd allwch chi ddechrau ymgyrchu?
Gallwch ddechrau ymgyrchu ar unrhyw adeg. Does dim rhaid i chi aros nes cewch eich enwebu’n ddilys i ddatgan y byddwch yn sefyll mewn etholiad, gofyn i bobl eich cefnogi neu gyhoeddi deunydd ymgyrchu.
Mae terfynau gwario yn berthnasol o 7 Ionawr hyd at y diwrnod pleidleisio, 7 Mai 2026.
I gael rhagor o wybodaeth am wariant etholiadol gweler ein canllaw ar wariant a rhoddion ar gyfer ymgeiswyr unigol ac ymgeiswyr rhestr plaid.
Pethau i'w gwneud a phethau i'w hosgoi wrth ymgyrchu
Mae’r adran hon yn nodi’r gweithgareddau y gall ymgeiswyr a’u cefnogwyr eu cyflawni yn ystod eu hymgyrch, y rhai y dylent eu gwneud, a’r pethau na ddylent eu gwneud.
Bydd y Swyddog Canlyniadau wedi ymdrin â’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan ymgeiswyr a’u cefnogwyr yn ystod yr ymgyrch etholiadol ac ar y diwrnod pleidleisio fel rhan o’u briff ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid. Dylech gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau os nad oeddech yn gallu dod i’r cyfarfod briffio i gael manylion.
Mae rhagor o wybodaeth am weithgareddau ymgyrchu derbyniol ar gael yn ein Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd yr Alban, Senedd Cymru, cynghorau’r Alban ac etholiadau lleol Cymru
Yn ystod yr ymgyrch, gallwch...
- Annog pobl nad ydynt ar y gofrestr etholiadol i wneud cais i gofrestru. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mewn pryd ar gyfer etholiad Senedd Cymru yw 12 diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Gall unigolion gofrestru ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
- Helpu pleidleiswyr gyda gwybodaeth am bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy ac annog pleidleiswyr i wneud cais. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais1
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn yr etholiadau yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais er, mewn rhai amgylchiadau gall etholwyr wneud cais am bleidlais frys hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.2
Gall etholwr wneud cais am ddirprwy brys os yw, ar ôl 5pm, 6 diwrnod cyn y pleidleisio, wedi cael argyfwng meddygol neu wedi cael ei alw i ffwrdd ar fusnes.3
Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n cael cofrestru a phleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy ar gael ar ein gwefan.
- 1. Atodlen 1, paragraff 11(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1, paragraff 11(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1, paragraff 11(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Yn ystod yr ymgyrch, dylech...
- Sicrhau bod unrhyw ffurflenni cais rydych chi’n eu llunio yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol, neu bydd y ceisiadau’n cael eu gwrthod. Yn benodol, rhaid i chi sicrhau bod y meysydd llofnod a dyddiad geni ar ffurflenni cais am bleidlais bost a thrwy ddirprwy yn y fformat cywir. Dylech ddefnyddio ein ffurflenni cais am bleidlais absennol fel canllaw a dylech gysylltu â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol a allai roi ffurflenni i chi eu defnyddio.
- Rhoi gwybod i bleidleiswyr ddychwelyd eu ffurflenni cais wedi’u llenwi i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Ni ddylai ymgyrchwyr gasglu ceisiadau papur wedi’u llenwi gan bleidleiswyr ac ni ddylent ofyn i bleidleiswyr anfon ceisiadau wedi’u llenwi i gyfeiriadau ymgyrchwyr. Gwnewch yn siŵr bod eich cefnogwyr yn dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd yr Alban, Senedd Cymru, cyngor yr Alban ac etholiadau lleol Cymru – bydd hyn yn eu helpu i osgoi sefyllfaoedd lle gellid cwestiynu eu gonestrwydd neu eu huniondeb.
- Gwnewch yn siŵr bod eich cefnogwyr yn gwrtais wrth ddelio ag ymgeiswyr eraill a’u cefnogwyr wrth ymgyrchu yn ogystal â mewn digwyddiadau etholiadol fel dilysu a chyfrif.
- Byddwch yn ymwybodol o’r dyddiadau cau ar gyfer penodi asiant etholiad, ac asiantiaid i fynychu sesiynau agor pleidleisiau post, gorsafoedd pleidleisio a’r cyfrif. Mae’r dyddiadau cau wedi’u nodi yn ein canllawiau ar bleidleisio drwy’r post, y diwrnod pleidleisio a’r dilysu a’r cyfrif.
- Edrychwch ar ein canllawiau ar sut bydd agor pleidleisiau post, y broses bleidleisio a’r cyfrif yn gweithio er mwyn i chi wybod beth allwch chi ei ddisgwyl.
- Dylech gydymffurfio ag unrhyw drefniadau diogelwch ychwanegol y gall Swyddogion Canlyniadau eu rhoi ar waith mewn digwyddiadau etholiadol, fel dilysu a chyfrif, er enghraifft ei gwneud yn ofynnol i fynychwyr ddangos ID neu gael gwirio bagiau cyn cael mynediad, a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir.
- Gwiriwch fod eich systemau ar gyfer cofnodi gwariant a rhoddion yn gweithio. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar roddion a gwariant etholiadol.
Yn ystod yr ymgyrch, rhaid i chi beidio â…
- Gwneud datganiad anwir yn fwriadol am gymeriad personol ymgeisydd arall.1
- Talu canfaswyr. Mae canfasio yn golygu ceisio perswadio etholwr i bleidleisio o blaid neu yn erbyn ymgeisydd neu blaid benodol.2
I gael rhagor o wybodaeth am droseddau etholiadol a sut i roi gwybod am y rhain, darllenwch ein canllawiau ar droseddau.
Os ydych chi neu’r asiant etholiad wedi gwneud camgymeriad ac wedi gweithredu’n groes i’r rheolau, gallwch wneud cais am ryddhad o'r canlyniadau yn sgil gwneud camgymeriad. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar beth i’w wneud os ydych chi wedi gwneud camgymeriad.
- 1. Erthygl 75, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 79, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Pethau i’w gwneud a phethau i beidio â’u gwneud o ran cyhoeddusrwydd ymgyrch
Mae'n rhaid i chi:
- Ddefnyddio argraffnodau ar eich holl ddeunydd ymgyrchu wedi’i argraffu ac unrhyw ddeunydd ymgyrchu electronig sydd wedi’i gynllunio i gael ei argraffu’n lleol.1 Dylech sicrhau bod yr argraffnod yn glir ac yn weladwy. Gweler ein canllawiau ar ddefnyddio argraffnodau am ragor o wybodaeth.
- Cydymffurfio â rheolau cynllunio sy’n ymwneud â byrddau hysbysebu a baneri mawr.2 Dylech ofyn i'r awdurdod lleol perthnasol am gyngor.
- Gwneud yn siŵr eich bod yn tynnu posteri yn yr awyr agored yn brydlon ar ôl yr etholiad. Rhaid i chi wneud hyn o fewn pythefnos i’r etholiad.
Dylech:
- Gynnwys argraffnod ar holl ddeunydd yr ymgyrch sydd heb ei argraffu, gan gynnwys gwefannau.
- Ystyried sut i wneud eich ymgyrch yn hygyrch i bob pleidleisiwr - er enghraifft pleidleiswyr anabl, neu bleidleiswyr nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Efallai y byddwch eisiau cysylltu â grwpiau anabledd yn eich ardal leol i gael cyngor.
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- 1. Erthygl 78, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 70, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 77, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Defnyddio argraffnodau
Rhaid ychwanegu argraffnod at yr holl ddeunydd etholiadol wedi’i argraffu i ddangos pwy sy’n gyfrifol am ei gynhyrchu.1
Dylech sicrhau bod eich argraffnod yn glir ac yn weladwy.
Mae ein canllaw ar argraffnodau ymgeiswyr ar ddeunyddiau wedi’u hargraffu yn egluro’r rheolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn os ydych chi’n ymgeisydd yn y math hwn o etholiad.
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae angen argraffnodau ar rai deunyddiau digidol hefyd.2
I weld y gofynion ynghylch argraffnodau ar gyfer deunyddiau digidol, darllenwch ein canllawiau statudol ar wasgnodau digidol.
- 1. Erthygl 78, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 45(9) Deddf Etholiadau 2022 ↩ Back to content at footnote 2
Rhadbost
Fel Swyddog Enwebu plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr neu fel ymgeisydd unigol, mae gennych hawl i gostau postio am ddim ar gyfer hyd at ddwy ohebiaeth etholiadol a anfonir at etholwyr yn yr etholaeth.1
Gellir anfon yr ohebiaeth etholiadol naill ai:2
- heb gyfeiriad i bob cyfeiriad post
- yn gyfeiriedig i bob etholwr
Mae’n rhaid i’r ohebiaeth etholiadol gynnwys materion sy’n berthnasol i’r etholiad yn unig ac ni all bwyso mwy na 60 gram.3
Hyd nes y cyhoeddir y datganiad o'r bobl a enwebwyd:
- gall plaid sydd wedi cyflwyno rhestr plaid neu
- ymgeisydd unigol sydd wedi'i enwebu
arfer yr hawl hon i gostau postio am ddim, ond dim ond os yw'r Swyddog Enwebu (neu'r person a benodwyd i weithredu ar ei ran) neu'r ymgeisydd unigol yn rhoi gwarant sy'n ofynnol gan y Post Brenhinol ar gyfer talu cost postio yn yr achos nad yw'r blaid neu'r ymgeisydd unigol yn cael ei ddangos fel un sydd wedi'i enwebu ar y datganiad.4
Os ydych chi’n ystyried arfer yr hawl hon, dylech gysylltu â’r Post Brenhinol i wneud trefniadau. Rhaid cydymffurfio â thelerau ac amodau’r Post Brenhinol.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen canllawiau'r Post Brenhinol ar bost ymgeiswyr yn http://www.royalmail.com/business/manage-mail/candidate-mail
- 1. Erthygl 67(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 67(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 67(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 67(8) a (10), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Y Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru
Bydd y platfform gwybodaeth etholiadau Cymru yn darparu gwybodaeth hygyrch, amserol a diduedd i etholwyr i’w cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus yn ystod etholiadau. Bydd modd ei chwilio gyda chod post ac ardal etholaeth a bydd yn darparu gwybodaeth benodol i bleidleiswyr ar gyfer eu hetholaeth.
Bydd y platfform yn cynnwys:
- hysbysiadau swyddogol a gyhoeddir gan Swyddogion Canlyniadau
- gwybodaeth ynghylch gorsafoedd pleidleisio a hygyrchedd
- anerchiadau etholiadol
Mae anerchiad etholiadol yn ddatganiad ymgyrch mae ymgeisydd yn ei wneud i’r etholaeth i berswadio etholwyr i bleidleisio drostynt. Bydd yr anerchiad etholiadol yn fersiwn ar-lein o un o’r gohebiaethau rhadbost a all gael ei anfon drwy’r Post Brenhinol.
Gellir cyflwyno anerchiad etholiadol i’r Bwrdd Rheoli Etholiadol i’w gynnwys ar y platfform gwybodaeth. I gael canllawiau ar gyflwyno'r anerchiad etholiadol gweler Sut i gyflwyno anerchiad etholiad | Bwrwpleidlais.Cymru
Am ragor o wybodaeth, gweler y platfform gwybodaeth am etholiadau Cymru.
Defnyddio’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol
Mynediad gan restrau plaid
Mae gan asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr i’r Swyddog Canlyniadau hawl i gael copi o’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gyfer yr etholaeth gyfan. Dim ond ar ôl i’r blaid gyflwyno rhestr o ymgeiswyr y gellir cyflenwi’r gofrestr a’r rhestrau.1
Yn ogystal â hynny, gellir rhoi copi i berson a enwebir gan y Swyddog Enwebu o'r rhestrau o bleidleiswyr absennol.2
Fodd bynnag, mae gan bleidiau gwleidyddol cofrestredig hawl i gael a defnyddio’r gofrestr etholiadol a rhestrau’r pleidleiswyr absennol ar unrhyw adeg at ddibenion etholiadol ac, yn achos y gofrestr, i wirio rhoddion.
Mynediad gan ymgeiswyr unigol
Mae gan ymgeiswyr unigol hawl i gael copi o’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bobl sy’n pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy (y rhestrau o bleidleiswyr absennol) ar ôl iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol sy'n cynrychioli'r etholaeth y maent yn sefyll ynddi.3
Mae dwy gofrestr
Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbyniwyd gan y cyhoedd, mae swyddogion yn cadw dwy gofrestr.
Y gofrestr etholiadol
Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Mae’r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadol, fel sicrhau mai dim ond pobl gymwys sy’n cael pleidleisio. Fe’i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, megis canfod troseddau (e.e. twyll), galw pobl i wasanaethu ar reithgor, gwirio ceisiadau am gredyd.
Y gofrestr agored (a elwir hefyd yn gofrestr olygedig)
Mae’r gofrestr agored yn ddetholiad o’r gofrestr etholiadol, ond nid yw’n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, mae’n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad. Gall etholwyr ofyn am beidio â chynnwys eu henw a’u cyfeiriad yn y gofrestr agored.
- 1. Rheoliad 108, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1, paragraff 18, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 108, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
Cyfyngiadau ar ddefnyddio’r wybodaeth sydd yn y gofrestr etholiadol a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol
Mae’r gofrestr etholiadol a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol yn cynnwys data personol pobl ac felly mae eu defnydd yn cael ei reoli’n ofalus iawn.
Gellir defnyddio’r gofrestr a’r rhestrau pleidleiswyr absennol i wneud y canlynol:
- eich helpu i ymgyrchu
- gwneud yn siŵr bod rhoddion yn cael eu caniatáu.
Ni ddylid rhyddhau i unrhyw berson unrhyw fanylion sy’n ymddangos yn y gofrestr etholiadol yn unig ac nid ar y gofrestr agored sydd ar gael i’w gwerthu i’r cyhoedd.
Ni ddylid defnyddio’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol at unrhyw ddiben arall nad yw wedi'i restru uchod.
Rhaid i'r gofrestr etholiadol a’r rhestrau o bleidleiswyr absennol gael eu cadw'n ddiogel.1
Pan na fydd angen y gofrestr na'r rhestrau o bleidleiswyr absennol mwyach at unrhyw ddiben etholiadol, dylech ddinistrio’n ddiogel unrhyw gopïau a ddarperir i chi fel ymgeisydd yn unol â chanllawiau’r Comisiynydd.
Os oes copïau o’r gofrestr etholiadol neu restrau o bleidleiswyr absennol wedi cael eu cyflenwi i ymgeiswyr ar restrau’r pleidiau a/neu weithwyr ymgyrchu, rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â’r gofynion hyn.
- 1. Erthygl 5 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 ↩ Back to content at footnote 1
Gwneud cais am gopi o’r gofrestr etholiadol a’r rhestrau o bleidleiswyr absennol
Gellir cael copïau o’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi cael ei benodi ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal y cofrestrau etholiadol. Gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar ein gwefan.
Rhaid i’r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig1
ac rydym wedi creu ffurflen gais am gofrestr a ffurflen gais am restrau pleidleiswyr absennol sydd ar gael at y diben hwn.
Er bod rhaid gwneud ceisiadau i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylai asiantiaid etholiad ar gyfer rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol hefyd gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau, a allai fod wedi rhoi trefniadau ar waith i gydlynu ceisiadau ar gyfer yr holl gofrestrau a rhestrau yn y rhanbarth.
Darperir y gofrestr a’r rhestrau ar ffurf electronig oni ofynnir yn benodol am gopi papur.
Y fersiwn o’r gofrestr etholiadol a’r rhestrau y byddwch yn eu derbyn fydd y rhai cyfredol ar adeg eich cais. Gallwch hefyd ofyn am ddiweddariadau i’r rhestrau a’r cofrestrau etholiadol sy’n cael eu cyhoeddi yn y cyfnod cyn y bleidlais, gan gynnwys y rhestr o etholwyr sydd newydd gael eu cofrestru pan gaiff ei chyhoeddi bum diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Gallai unrhyw berson sy’n torri’r cyfyngiadau ar ddefnyddio’r gofrestr etholiadol wynebu dirwy ddigyfyngiad. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gyfyngiadau ar ddefnyddio’r gofrestr etholiadol.
Gwneud cais am y gofrestr etholiadol y tu allan i gyfnod yr etholiad
Mae gan bleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig hefyd yr hawl i ofyn am gopi o'r gofrestr etholiadol y tu allan i gyfnod yr etholiad.
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar ba wybodaeth y gellir gofyn amdani, pryd a sut y gellir gofyn amdani, a'r defnyddiau a ganiateir o'r wybodaeth honno yn ein taflen ffeithiau:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar fynediad at y gofrestr etholiadol a'i darparu.
- 1. Rheoliad 102, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ac Atodlen 1, Paragraff 18(12), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus
Efallai y byddwch am ymgysylltu â’r cyhoedd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, gan hyrwyddo eich safbwyntiau ac ymateb i gwestiynau gan y gynulleidfa.
Mae gan ymgeisydd rhestr plaid neu ymgeisydd unigol hawl i ddefnyddio ystafelloedd ac ysgolion a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus rhwng y diwrnod olaf y gellir cyhoeddi'r hysbysiad etholiad hyd at y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.1
Mae gan ymgeiswyr hawl i ddefnyddio ystafelloedd yn yr etholaeth y maent yn ymgeisio amdani (neu, os nad ydynt ar gael, ystafelloedd mewn etholaeth gyfagos).2
Dylech gysylltu â pherchennog yr eiddo i archebu ystafell, gan roi rhybudd rhesymol i leihau’r risg y bydd y cais yn cael ei wrthod. Nid yw eich hawl i ddefnyddio’r ystafell yn cynnwys oriau pan fydd ysgol yn cael ei defnyddio at ddibenion addysgol neu pan fo’r ystafell eisoes wedi cael ei gosod.3
Ni chodir tâl llogi am ddefnyddio’r ystafelloedd hyn, ond rhaid i chi dalu am unrhyw gostau sy’n codi, fel gwres, golau a glanhau, ac am unrhyw ddifrod i’r safle.
Mae Swyddog Cofrestru Etholiadol pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cadw rhestr o leoliad ac argaeledd ystafelloedd cyfarfod yn eu hardal. Byddant yn sicrhau bod y rhestr hon ar gael i’w harchwilio gan ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad, o’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad.4
Mae manylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gael ar ein gwefan.
- 1. Erthygl 71, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 71(4) a (5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 71(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 8, Rheoliad 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Cynnal diogelwch ac uniondeb yr etholiad
Mae ymgeiswyr yn un o wynebau cyhoeddus allweddol yr etholiad, a bydd eich gwrthwynebwyr, y cyfryngau a phleidleiswyr yn craffu’n fanwl ar eich ymddygiad.
Dylai pleidleiswyr allu ymddiried y byddwch yn cydymffurfio â’r gyfraith a chynnal diogelwch ac uniondeb y broses etholiadol.
Mae asiantiaid etholiad yn gyfrifol am eich ymgyrch ac maent yn gyfrifol yn gyfreithiol am ei rheolaeth ariannol.
Dylech hefyd wneud yn siŵr bod eich cefnogwyr yn deall y gyfraith yn llwyr ac yn gwybod beth mae angen iddynt ei wneud i sicrhau:
- gall pleidleiswyr gymryd rhan yn rhydd yn yr etholiad hwn; a
- gall ymgeiswyr eraill a'u cefnogwyr gymryd rhan yn ddiogel yn yr etholiad hwn a pheidio â chael eu bygwth
Os oes bygythiad uniongyrchol i'ch diogelwch personol a/neu os yw'r digwyddiad yn mynd rhagddo ac yn frys, dylech chi a/neu'ch staff neu'ch teulu ffonio 999 fel blaenoriaeth.
Os yw'r digwyddiad yn gofyn am ymateb brys ond nad yw'n digwydd ar hyn o bryd nac yn fygythiad uniongyrchol, mae'n bwysig defnyddio'r gwasanaeth 101 neu Cysylltu â ni | Police.uk. Dyma'r ffordd hawsaf a chyflymaf o gofnodi digwyddiadau a chael dyraniad adnoddau priodol a chael rhif cyfeirnod.
Ceir rhagor o wybodaeth am ganllawiau diogelwch i ymgeiswyr ac asiantiaid yng Nghasgliad Canllawiau Diogelwch Ymgeiswyr - GOV.UK
Dim ond os oes tystiolaeth i ddangos bod trosedd wedi digwydd y gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o dwyll etholiadol. Dylai honiadau bob amser allu cael eu cadarnhau pan gânt eu cyfeirio at yr heddlu.
Dylech hefyd ystyried yr effaith ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd o ganlyniad i wneud honiadau ffug neu ddi-sail am ymddygiad ymgyrchwyr eraill.
Nid yw’r Swyddog Canlyniadau na’r Comisiwn yn rheoleiddio’r troseddau hyn. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar adrodd am honiadau o dwyll etholiadol.
Rhestr o droseddau
Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer o droseddau etholiadol ac an-etholiadol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun lle bo angen.
| Llwgrwobrwyo1 | Mae’r drosedd o lwgrwobrwyo’n cynnwys pan fydd rhywun yn rhoi arian yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i unrhyw etholwr neu’n caffael unrhyw swydd iddo, er mwyn cymell unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio. |
|---|---|
| Tretio2 | Mae person yn euog o dretio os yw naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad yn rhoi neu’n darparu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol unrhyw fwyd, diod, adloniant neu ddarpariaeth i ddylanwadu’n llwgr ar unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu i ymatal rhag pleidleisio. Mae tretio yn gofyn am fwriad llwgr – nid yw’n berthnasol i letygarwch arferol. |
| Dylanwad amhriodol3 | Mae person yn euog o ddylanwad amhriodol os ydynt yn ymgymryd â gweithgaredd er diben:
Neu oherwydd:
Y gweithgareddau hyn yw:
Nid yw dylanwad amhriodol yn ymwneud â mynediad ffisegol i’r orsaf bleidleisio yn unig. Er enghraifft, gallai taflen sy’n bygwth defnyddio grym er mwyn cymell pleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol fod yn ddylanwad amhriodol hefyd. |
| Cambersonadu4 | Cambersonadu yw pan fydd unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall naill ai drwy’r post neu’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, fel etholwr neu fel dirprwy. Mae'r drosedd hon yn berthnasol os yw'r person sy'n cael ei gambersonadu yn fyw, yn farw neu'n ddychmygol. Mae cynorthwyo, annog, cynghori neu gaffael y trosedd o gambersonadu hefyd yn drosedd. |
| Datganiadau anwir5
Ynglŷn â chymeriad neu ymddygiad personol ymgeisydd | Mae'n drosedd gwneud neu gyhoeddi datganiad anwir o ffaith am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd er mwyn effeithio ar ethol ymgeisydd mewn etholiad. Nid yw datganiadau anwir nad ydynt yn ymwneud â phersonoliaeth neu ymddygiad ymgeisydd yn anghyfreithlon dan gyfraith etholiadol, ond gellid eu hystyried fel enllib neu athrod. Mae hefyd yn arfer anghyfreithlon gwneud datganiad anwir bod ymgeisydd wedi tynnu’n ôl er mwyn hyrwyddo neu gaffael ethol ymgeisydd arall. |
| Datganiadau anwir6
Ar bapurau enwebu | Mae’n drosedd rhoi datganiad ar bapur enwebu, a chithau’n gwybod ei fod yn anwir. Er enghraifft, os ydych chi’n gwybod eich bod wedi’ch anghymhwyso rhag cael eich ethol, ni ddylech lofnodi’r cydsyniad ag enwebiad. |
| Gwybodaeth gofrestru anwir7 a chais anwir am bleidlais bost/drwy ddirprwy | Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth anwir ar ffurflen gais i gofrestru, am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae gwybodaeth anwir yn cynnwys llofnod ffug. |
| Cais anwir i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy8 | Mae person yn euog o drosedd os yw’n gwneud cais i bleidleisio drwy’r post neu ddirprwy i ennill pleidlais nad oes ganddo hawl i’w chael neu i amddifadu rhywun arall o’i bleidlais. |
| Troseddau pleidleisio lluosog a phleidleisio drwy ddirprwy9 | Mae amryw o droseddau’n ymwneud â phleidleisio lluosog a phleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys pleidleisio drwy’r post fel etholwr neu ddirprwy pan yn anghymwys yn gyfreithiol i bleidleisio a chymell neu gael rhywun arall i gyflawni’r drosedd. |
| Torri cyfrinachedd y bleidlais10 | Rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r broses ethol neu sy’n mynychu rhai trafodion gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi copi o’r gofynion cyfrinachedd swyddogol i bawb sy’n bresennol wrth agor pleidleisiau post neu gyfrif papurau pleidleisio ac i asiantiaid pleidleisio. |
| Deunyddiau cyhoeddusrwydd yr ymgyrch11 | Mae rhai troseddau'n ymwneud yn benodol â deunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer ymgyrch etholiadol. Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol wedi’i argraffu a rhai deunyddiau digidol gynnwys argraffnod a pheidio ag edrych fel cerdyn pleidleisio. Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd yr ymgyrch hefyd beidio â chynnwys datganiad anwir ynghylch cymeriad personol nac ymddygiad ymgeisydd arall. Nid yw’r Swyddog Canlyniadau na’r Comisiwn yn rheoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu ac nid ydynt yn gallu rhoi sylwadau ar gyfreithlondeb unrhyw ddeunydd etholiadol penodol y tu hwnt i’r hyn a drafodir yn y canllawiau hyn. |
| Casineb hiliol12 | Dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, mae'n drosedd cyhoeddi neu ddosbarthu deunydd bygythiol, difrïol neu sarhaus y bwriedir iddo ysgogi casineb hiliol neu sy'n debygol o ysgogi casineb hiliol. |
- 1. Erthygl 81, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 82, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 83, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 30, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 75, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 34, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 12, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 1, paragraff 13, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Erthygl 13, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Erthygl 35, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Erthygl 70, 75 a 78, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 ↩ Back to content at footnote 12
Beth os ydych chi wedi gwneud camgymeriad?
Efallai y gallwch wneud cais am ryddhad o’r cosbau am unrhyw drosedd a gyflawnwyd yn anfwriadol, yn ddiniwed neu heb i chi wybod.1
Dylech bob amser geisio cyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried gwneud cais am ryddhad.
Am ragor o wybodaeth, dylech gysylltu â’r:
Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London WC2A 2LL
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0207 947 6877
- 1. Erthygl 120, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol
Os ydych chi’n poeni y gallai twyll etholiadol fod wedi cael ei gyflawni, dylech siarad yn gyntaf â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol (ERO) neu’r Swyddog Canlyniadau (RO) perthnasol.
Efallai y byddan nhw’n gallu egluro a yw twyll etholiadol wedi cael ei gyflawni ai peidio, a gallan nhw gyfeirio eich pryderon at yr heddlu os oes angen. Gallant hefyd roi manylion cyswllt yr heddlu i chi er mwyn i chi allu rhoi gwybod am yr honiad eich hun.
Os oes gennych dystiolaeth bod trosedd etholiadol wedi’i chyflawni, dylech gysylltu â’r heddlu ar unwaith, gan ddefnyddio’r rhif 101 oni bai bod trosedd yn mynd rhagddi, ac os felly dylech ddefnyddio’r llinell argyfwng 999 safonol.
Mae gan bob heddlu Swyddog Pwynt Cyswllt Sengl penodol a fydd yn gallu darparu cyngor i sicrhau yr ymchwilir yn briodol i’ch honiadau. Dylech fod yn barod i roi datganiad iddynt a chadarnhau eich honiad.
Os nad ydych chi eisiau rhoi datganiad i’r heddlu, gallwch roi gwybod i’r heddlu am eich pryderon yn ddienw ar gwefan Crimestoppers neu drwy alw Crimestoppers ar 0800 555 111
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ein gwefan. Bydd manylion cyswllt Swyddogion Canlyniadau ar gael cyn gynted â phosibl.
Os yw eich honiad yn ymwneud â materion cyllid pleidiau, etholiadau neu ymgyrchwyr cofrestredig, fel gwariant neu roddion, dylech ddilyn y cyngor a roddir ar ein gwefan.
Enwebiadau - Ymgeiswyr rhestr plaid
Mae'r adran hon yn cynnwys ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Enwebu sy'n cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ac ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid sy'n sefyll mewn etholiad Senedd Cymru.
Mae’r canllawiau’n cynnwys:
• y broses enwebu, gan gynnwys pa ffurflenni y bydd angen eu cwblhau
• pryd a sut mae angen i chi gyflwyno'r papurau enwebu
• beth sy'n digwydd ar ôl i bapurau enwebu gael eu cyflwyno
Mae canllawiau ar sefyll ar gyfer etholiadau eraill ar gael ar ein gwefan .
Cwblhau eich papurau enwebu
Fel Swyddog Enwebu plaid wleidyddol gofrestredig, cewch gyflwyno rhestr o hyd at 8 ymgeisydd i sefyll mewn etholaeth.1
Rhaid i'r blaid fod yn blaid wleidyddol gymwys.2
Plaid wleidyddol gymwys yw un sydd wedi'i chofrestru ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn ac wedi'i rhestru fel un sydd â chaniatâd i gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru.3
I ymladd yr etholiad, mae angen i chi neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig i weithredu ar eich rhan, gyflwyno set gyflawn o bapurau enwebu i’r lle a nodwyd gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol gyda’r ernes ar gyfer pob ymgeisydd rhestr plaid erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.4
Mae’r terfyn amser hwn wedi’i nodi yn y gyfraith ac ni ellir ei newid am unrhyw reswm.
Bydd y dyddiad ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, yn ogystal â’r amseroedd a’r trefniadau ar gyfer eu cyflwyno â llaw neu’n electronig, yn cael eu nodi yn yr hysbysiad etholiad a gyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau.5
Mae tri phapur enwebu y mae’n rhaid i chi eu cyflwyno i wneud yr enwebiad rhestr plaid yn ddilys:6
- y ffurflen enwebu ar gyfer y rhestr plaid sydd hefyd yn awdurdodi defnyddio enw’r blaid
- ffurflen cyfeiriad cartref ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr
- ffurflen cydsynio ag enwebiad gan gynnwys datganiad o aelodaeth plaid ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr
Fel Swyddog Enwebu, gallwch hefyd wneud cais ysgrifenedig i un o arwyddluniau’r blaid ymddangos ar y papur pleidleisio.7
Am fwy o wybodaeth gweler ein canllawiau ar geisiadau i ddefnyddio arwyddlun ar y papur pleidleisio.
Gall y Swyddog Canlyniadau bennu bod papur enwebu’r blaid yn annilys os.8
- nad yw’r blaid a’r enw plaid neu’r disgrifiad a roddir wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn (heb gynnwys y rhagddodiad ‘Welsh’ neu’r ôl-ddodiad ‘Cymru’)
- nad yw'r blaid neu'r disgrifiad a ddefnyddir wedi’u hawdurdodi gan dystysgrif awdurdodi yn y ffurf benodedig
- nad yw’r papur wedi’i lofnodi yn ôl y gofyn
- nad yw'r rhestr plaid wedi'i chynnwys ym mhapur enwebu’r blaid
- yw’r rhestr plaid yn cynnwys mwy nag 8 person
- yw pob ymgeisydd ar y rhestr plaid wedi rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd enwebedig oherwydd eu bod wedi tynnu'n ôl neu yn sgil eu marwolaeth
Gall y Swyddog Canlyniadau benderfynu bod ymgeisydd rhestr plaid penodol wedi rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd enwebedig. Y seiliau dros y penderfyniad hwn yw:9
- nad yw manylion ymgeisydd ar y rhestr honno fel sy'n ofynnol gan y gyfraith
- bod ymgeisydd wedi'i anghymhwyso o dan adran 16(A1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 rhag bod yn Aelod o'r Senedd, a rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd
- bod ymgeisydd yn y rhestr, yn yr un etholiad, yn ymgeisydd unigol neu'n ymgeisydd ar unrhyw restr plaid arall yn yr un etholaeth neu etholaeth arall
Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd wrthod enwebiad ymgeisydd rhestr plaid os daw i’r casgliad ei fod yn amlwg yn ffug, er enghraifft, os rhoddir enw sy’n amlwg yn ddychmygol.
Gellir cael papur enwebu gan y Swyddog Canlyniadau. Gellir cael manylion cyswllt oddi ar ein gwefan. Fel arall, rydym wedi cynhyrchu set o bapurau enwebu y gallech eu defnyddio:
Os nad ydych chi (neu rywun sydd wedi’u penodi’n ysgrifenedig i weithredu ar eich rhan) yn gallu llenwi’r ffurflen enwebu, gall y Swyddog Canlyniadau helpu drwy baratoi’r ffurflen i chi ei llofnodi. Dylech holi’r Swyddog Canlyniadau ar y cyfle cyntaf pa gymorth a allai fod ar gael.
Efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau hefyd yn gallu cynnig gwiriadau anffurfiol o’ch papurau enwebu wedi’u cwblhau cyn i chi eu cyflwyno. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gallu cadarnhau a ydyn nhw'n bwriadu cynnig gwiriadau anffurfiol.
Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth a roddwch ar y papurau enwebu fod yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth (neu hyd eithaf gwybodaeth y sawl a benodir yn ysgrifenedig i weithredu ar eich rhan). Mae’n drosedd rhoi datganiad anwir ar bapurau enwebu.10
Gallai darparu datganiad anwir ddirymu ethol ymgeiswyr ar restr y blaid, ac mae modd cosbi hynny hefyd â dirwy ddigyfyngiad a/neu garchariad.
- 1. Adran 7(3), Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, Rheol 6(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5, Rheol 76, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 5, Rheol 1(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 5, Rheol 6(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 5, Rheol 15(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 5, Rheol 7(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 5, Rheol 15(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 5, Rheol 15(5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Erthygl 34, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
Y ffurflen enwebu
Rhaid cwblhau’r ffurflen enwebu yn Gymraeg neu yn Saesneg a rhaid iddi gynnwys:
Disgrifiad
Rhaid i’r ffurflen enwebu gynnwys tystysgrif sy’n cynnwys disgrifiad a awdurdodir gennych chi fel Swyddog Enwebu (neu gan rywun a benodir yn ysgrifenedig ar eich rhan).1
Mae’r dystysgrif yn awdurdodi’r defnydd o naill ai enw’r blaid neu un o ddisgrifiadau’r blaid sydd ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol ac wedi’i restru fel un sydd â chaniatâd i gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru.
Rhaid i enw’r blaid neu’r disgrifiad sydd wedi’i awdurdodi ar y ffurflen enwebu gyfateb i enw’r blaid neu’r disgrifiad sydd wedi’i gofrestru ar gofrestr y Comisiwn.2
Caniateir ychwanegu’r canlynol at enw cofrestredig y blaid: Wales/Welsh/Cymru/Cymreig lle nad ydynt wedi’u cynnwys eisoes.3
Llofnod un llofnodwr
Rhaid i'r papur enwebu gael ei lofnodi gennych chi fel Swyddog Enwebu’r blaid neu gan rywun yr ydych wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig.4
Rhestr Plaid 5
Gallwch gynnwys hyd at 8 ymgeisydd ar y rhestr plaid yn y drefn y maent i gael eu hethol.
Mae angen i chi gynnwys enwau llawn pob ymgeisydd:
- Mae hyn yn golygu y rhoddir eu cyfenw yn gyntaf ac enwau eraill yn llawn
- Gallai defnyddio llythrennau cyntaf yn unig arwain at wrthod enwebiad yr ymgeisydd
- Peidiwch â defnyddio rhagddodiadau fel Mr, Mrs, Dr neu Cynghorydd fel rhan o'r enw
Mae’r un peth yn wir am ôl-ddodiaid. Fodd bynnag, os oes gan ymgeisydd ar restr plaid deitl, gallant ddefnyddio hwn fel eu henw llawn. Er enghraifft, os mai gwir enw’r ymgeisydd yw Joseph Smith, ond eu teitl etifeddol yw Joseph Avon, gallant ddefnyddio’r enw Joseph Avon fel eu henw llawn.
- 1. Rheol 7(1) a 7(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, Rheol 6(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5, Rheol 6(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 5, Rheol 6(8), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 5, Rheol 6(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
Enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin
Os yw ymgeisydd ar y rhestr plaid:
- yn aml yn defnyddio cyfenw neu enw cyntaf sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i unrhyw gyfenw ac enw cyntaf arall sydd ganddo
- yn defnyddio un neu fwy o enwau cyntaf neu gyfenwau mewn ffordd wahanol i'r ffordd y cânt eu nodi ar ei ffurflen enwebu
gall nodi ei enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu yn ogystal â'i enwau llawn.1
Er enghraifft, efallai ei fod yn cael ei adnabod gan ei enw cryno ‘Andy’, yn hytrach na’i enw cyntaf llawn ‘Andrew’. Yn yr achos hwnnw, gall ysgrifennu ‘Andy’ yn y blwch enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu os byddai’n well ganddo i’r enw hwnnw ymddangos ar y ffurflen bleidleisio.
Gall ddatgan ei fod yn defnyddio enw cyntaf neu gyfenw y mae'n ei ddefnyddio’n gyffredin, neu’r ddau.
Gall ymgeisydd hefyd ddefnyddio llythrennau cyntaf ei enwau fel rhan o’i enw a ddefnyddir yn gyffredin os yw'n cael ei adnabod yn gyffredin ganddynt.
Byddai’r enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn cael eu cynnwys:
- ar y datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd a'r hysbysiad o etholiad
- ar y papur pleidleisio
- ar yr hysbysiad asiant etholiad
Penderfyniadau ar enwau a ddefnyddir yn gyffredin
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gwrthod enwau a ddefnyddir yn gyffredin sy’n debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu sy’n anweddus neu’n sarhaus.2
Os na chaniateir yr enw(au), bydd y Swyddog Canlyniadau yn ysgrifennu at yr ymgeisydd gan nodi’r rheswm dros wrthod.3
Yn yr achosion hynny, bydd gwir enw'r ymgeisydd yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny.
Os yw naill ai’r blwch enw cyntaf neu’r cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu yn cael ei adael yn wag, yna bydd gwir enw cyntaf neu gyfenw yr ymgeisydd, yn dibynnu ar ba flwch enw a ddefnyddir yn gyffredin a adawyd yn wag, yn cael ei ddefnyddio.
Mae’n drosedd rhoi datganiad anwir ar y ffurflen enwebu.4
Felly, os bydd yr ymgeisydd yn dewis rhoi enw sy’n cael ei ddefnyddio’n gyffredin, rhaid iddo sicrhau ei fod yn enw cyntaf neu’n gyfenw y mae’n ei ddefnyddio’n gyffredin.
- 1. Atodlen 5, Rheol 6(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, Rheol 18(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5, Rheol 18(3)(b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 34, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Cydsynio ag enwebiad
Rhaid i bob ymgeisydd ar restr plaid gydsynio’n ffurfiol yn ysgrifenedig i gael ei enwebu.1
Gellir cyflwyno’r cydsyniad ag enwebiad i’r Swyddog Canlyniadau yn bersonol neu drwy’r trefniadau fel y nodir yn y datganiad cyflwyno electronig.2
Mae cynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad wedi ei bennu mewn cyfraith.3
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu'r canlynol ar y ffurflen cydsynio ag enwebiad:4
- eu dyddiad geni
- cyfeiriad o fewn yr ardal berthnasol,5 bydd hyn yn cael ei ystyried yn gyfeiriad eu swyddfa petaent yn dod yn asiant etholiad y blaid os nad oes un wedi’i benodi. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar asiantiaid etholiad.
- enw’r ardal awdurdod lleol yng Nghymru lle maent wedi’u cofrestru’n etholwr llywodraeth leol
- datganiad nad ydynt wedi cael eu hanghymhwyso hyd eithaf eu gwybodaeth a’u cred
- datganiad nad ydynt yn ymgeisydd unigol sy’n sefyll yn yr un etholaeth neu unrhyw etholaeth arall, neu’n ymgeisydd ar restr plaid mewn unrhyw etholaeth arall
Rhaid i bob ymgeisydd hefyd gynnwys datganiad o aelodaeth plaid yn ei gydsyniad ag enwebiad.6
Ni chaniateir i ymgeiswyr lofnodi’r ffurflen gydsynio yn gynharach na mis cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r papurau enwebu.7
Rhaid i gydsyniad ymgeisydd ag enwebiad hefyd gael ei ardystio gan dyst.8
Dylai’r tyst fod yn bresennol pan fydd yr ymgeisydd yn llofnodi ei ddatganiad. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all fod yn dyst.
Ar gyfer ffurflenni cydsynio a gyflwynir yn electronig, gallai llofnod electronig fod ar ffurf enw wedi’i deipio yn y bwlch ar gyfer llofnod er enghraifft.
Er nad yw absenoldeb cydsyniad ag enwebiad ymgeisydd ar y rhestr plaid yn annilysu enwebiad rhestr plaid, os na chyflwynir ffurflen gydsynio ar gyfer ymgeisydd penodol ar y rhestr erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais, bydd y Swyddog Canlyniadau yn tynnu’r person oddi ar y rhestr.9
- 1. Rheol 9(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 9(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 9(3), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 9(3), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 9(3)(b), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 9(3)(e), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 9(1)(a), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheol 9(1)(b), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheol 15(6), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 9
Datganiad o aelodaeth plaid
Rhaid i bob ymgeisydd ar restr plaid gynnwys datganid o aelodaeth plaid ar ei ffurflen cydsynio ag enwebiad.1
Rhaid iddi ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig, ac eithrio'r un y mae'n sefyll ar ei rhan, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol.2
Diffinnir y cyfnod perthnasol fel y 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad.3
Os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o fwy nag un blaid wleidyddol gofrestredig o fewn y cyfnod perthnasol, heblaw am yr un y maent yn sefyll ar ei rhan, rhaid iddynt gynnwys ar y datganiad:4
- enw(au) unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig arall/pleidiau gwleidyddol cofrestredig eraill y maent wedi bod yn aelod ohoni/ohonynt
- y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol y maent wedi bod yn aelod o blaid/bleidiau eraill.
Mae’n drosedd peidio â chynnwys datganiad o aelodaeth plaid yn fwriadol gyda phapur cydsynio ag enwebiad.5
Bydd y wybodaeth a ddarperir ar y datganiad o aelodaeth plaid yn cael ei chynnwys ar y datganiad am y sawl a enwebwyd ac fe’i cyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau.6
- 1. Rheol 9(3)(e), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 10(1), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 10(7)(c), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 10(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 10(6), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 17(2)(b), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 6
Ffurflen cyfeiriad cartref
Rhaid i’r papur enwebu gynnwys ffurflen cyfeiriad cartref ar gyfer pob ymgeisydd sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr plaid. 1
Rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio'r ffurflen fel y rhagnodir yn y ddeddfwriaeth (neu ffurflen debyg).2
Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan:3
- enw llawn yr ymgeisydd
- unrhyw enwau a ddefnyddir yn gyffredin, os yw’r rhain wedi’u cynnwys ar eu ffurflen enwebu
- cyfeiriad cartref llawn yr ymgeisydd.
Rhaid i'r cyfeiriad cartref:
- beidio â chynnwys talfyriadau
- fod yn gyfeiriad cartref presennol yr ymgeisydd
- beidio â bod yn gyfeiriad busnes (oni bai ei fod yn rhedeg busnes o’i gartref).
Nid oes angen i’r cyfeiriad cartref fod yn yr etholaeth Senedd lle mae’r ymgeisydd yn bwriadu sefyll.
Dewis peidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref
Caiff ymgeisydd rhestr plaid ddewis peidio â chyhoeddi ei gyfeiriad cartref ar y datganiad o bleidiau a phersonau a enwebwyd.
Yn yr achos hwn, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys y canlynol, yn ogystal â’i enw llawn a’i gyfeiriad cartref yn llawn:4
- datganiad, wedi’i lofnodi gan yr ymgeisydd, sy’n datgan bod angen i’w gyfeiriad cartref beidio â chael ei wneud yn gyhoeddus
- os yw cyfeiriad ei gartref yng Nghymru, enw’r etholaeth Senedd Cymru neu os yw ei gyfeiriad cartref mewn man arall yn y DU, enw etholaeth Senedd y DU
- os yw'n byw y tu allan i’r DU, enw’r wlad lle mae ei gyfeiriad cartref.
- 1. Rheol 8(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 8(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 8, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 8, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Y dystysgrif awdurdodi
Mae’r dystysgrif awdurdodi wedi’i rhagnodi a rhaid ei chyfuno â ffurflen enwebu’r blaid.1
Fel y Swyddog Enwebu, rhaid i chi awdurdodi defnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid fel y nodir ar y ffurflen. Rhaid i chi (neu berson a benodwyd yn ysgrifenedig ar eich rhan) lofnodi’r awdurdodiad.
Rhaid i enw’r blaid neu’r disgrifiad rydych chi’n ei awdurdodi ar y ffurflen enwebu gyfateb i enw’r blaid neu’r disgrifiad sydd wedi’i gofrestru ar gofrestr y Comisiwn.2
Caniateir ychwanegu’r canlynol at enw cofrestredig y blaid: Cymru/Cymreig/Wales/Welsh lle nad ydynt wedi’u cynnwys eisoes.3
- 1. Rheol 7(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 6(3), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 6(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Cais i gael defnyddio arwyddlun ar y papur pleidleisio
Gallwch chi fel y Swyddog Enwebu, neu berson a benodwyd i weithredu ar eich rhan, ofyn hefyd i un o arwyddluniau swyddogol y blaid gael ei argraffu ar y papur pleidleisio.1
Rhaid gwneud cais am arwyddlun ar y dystysgrif awdurdodi.2
Dylai’r cais nodi enw’r blaid wleidyddol a’r disgrifiad o’r arwyddlun i’w ddefnyddio, fel sydd wedi’i restru ar gofrestr ar-lein y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol.
Ni ellir amrywio arwyddluniau cofrestredig mewn unrhyw ffordd.
- 1. Rheol 7(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 7(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Cyflwyno’r papurau enwebu
Eich cyfrifoldeb chi fel y Swyddog Enwebu yw sicrhau bod y ffurflen enwebu, sy’n cynnwys y dystysgrif awdurdodi ac unrhyw gais i ddefnyddio arwyddlun, y ffurflenni cyfeiriad cartref a'r ffurflen cydsynio ag enwebiad, gan gynnwys y datganiadau o aelodaeth plaid ar gyfer pob ymgeisydd ar eich rhestr plaid, yn cael eu cyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1
Bydd gan y Swyddog Canlyniadau drefniadau ar waith a fydd yn caniatáu i chi gyflwyno’r papurau enwebu yn electronig. Darperir cyfeiriad e-bost neu borth ar-lein yn benodol ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn electronig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar gyflwyno papurau enwebu yn electronig.
Rydym yn argymell eich bod chi fel y Swyddog Enwebu, yr asiant, neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt yn cyflwyno’r papurau enwebu â llaw neu’n eu cyflwyno’n electronig ar eich rhan, er mwyn i chi fod yn siŵr eu bod yn cael eu danfon i’r Swyddog Canlyniadau yn y ffordd ofynnol ac mewn da bryd.
- 1. Rheol 6(2), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Sut mae’n rhaid cyflwyno papurau enwebu?
Rhaid i’r ffurflen enwebu, y ffurflen cyfeiriad cartref a’r ffurflen cydsynio ag enwebiad gael eu cyflwyno naill ai:1
- â llaw neu
- yn electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig ar yr hysbysiad etholiad.
Pan fydd dogfen yn cael ei danfon yn electronig, gellir ei llofnodi’n electronig – gallai hyn fod ar ffurf llofnod wedi’i deipio er enghraifft.2
Os byddwch yn cyflwyno eich papurau enwebu â llaw, rhaid cyflwyno’r fersiwn wreiddiol o bob papur a gwblhawyd.
Ni ellir cyflwyno papurau enwebu drwy’r post.
- 1. Rheol 6(2), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 141, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Cyflwyno enwebiadau yn electronig
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cynnwys datganiad danfon electronig ar yr hysbysiad etholiad.
Bydd y datganiad hwn yn nodi’r trefniadau sydd gan y Swyddog Canlyniadau ar waith ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn electronig.
Bydd y trefniadau a ddarperir gan y Swyddog Canlyniadau naill ai:1
- yn gyfeiriad e-bost y gallwch anfon eich papurau enwebu ato
- yn wasanaeth y gallwch ei ddefnyddio i gyflwyno eich papurau enwebu ar-lein
Os byddwch yn dewis cyflwyno eich papurau enwebu drwy e-bost, dylech sicrhau eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost penodol at y diben hwnnw fel y nodir yn y datganiad cyflwyno electronig. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn derbyn eich ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau gofynnol.
Bydd cyflwyno eich enwebiad i gyfeiriad e-bost nad yw’n benodol at y diben hwnnw yn golygu y bydd eich papur enwebu'n cael ei ystyried fel un sydd heb ei gyflwyno yn ôl y gofynion.
Cyn belled ag y bo modd, dylech atodi'r holl ffurflenni sy'n ofynnol ar gyfer eich enwebiad rhestr plaid i un e-bost.
- 1. Rheol 3(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Pryd mae’n rhaid cyflwyno papurau enwebu?
Dylai papurau enwebu gael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddog Canlyniadau gynnal gwiriad anffurfiol, ac er mwyn rhoi digon o amser i chi gyflwyno papurau enwebu newydd pe bai eich set gyntaf yn cynnwys unrhyw wallau.
Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod gwaith cyn y bleidlais a bydd yn nodi’r amseroedd y gellir cyflwyno’r enwebiadau’n bersonol a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer cyflwyno’r enwebiadau’n electronig.1 Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ar wefan y Swyddog Canlyniadau.
Fel arfer, dim ond yn ystod oriau swyddfa y mae’n bosibl cyflwyno papurau enwebu â llaw. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cadarnhau union fanylion pryd a ble y gellir cyflwyno papurau enwebu yn bersonol ar yr hysbysiad etholiad swyddogol.
Ar ôl i chi gyflwyno’r papurau enwebu, os nad ydych yn dymuno i’r rhestr plaid ymladd yr etholiad mwyach, gallwch chi fel y Swyddog Enwebu dynnu’n ôl y rhestr plaid lawn, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
Gallwch dynnu’n ôl un neu fwy o ymgeiswyr sydd wedi'u cynnwys ar y rhestr plaid hefyd erbyn yr un dyddiad cau. Caiff ymgeiswyr unigol sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr dynnu’n ôl hefyd, ar yr amod eu bod yn gwneud hynny erbyn yr un terfyn amser. I gael rhagor o fanylion, gweler ein canllawiau ar dynnu’n ôl.
- 1. Rheol 1 a 3, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 1, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Yr ernes
Er mwyn i'r enwebiad fod yn ddilys, rhaid i chi fel y Swyddog Enwebu neu berson a benodir yn ysgrifenedig i weithredu ar eich rhan gyflwyno ernes ar gyfer y rhestr plaid.1
Rhaid cyflwyno hwn i’r Swyddog Canlyniadau erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, sef 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.2
Rhaid cyflwyno ernes o £500 ar gyfer yr ymgeisydd cyntaf sy'n ymddangos ar y rhestr plaid.3
Rhaid cyflwyno ernes o £200 ar gyfer pob un o’r pum ymgeisydd nesaf sy’n ymddangos ar y rhestr plaid.4
Gellir cyflwyno’r ernes drwy ddefnyddio:5
- Tendr cyfreithiol (arian parod punnoedd Prydeinig yn unig).
- drafft banc yn y DU.
Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd dderbyn ernes a wneir drwy siec cymdeithas adeiladu, cerdyn debyd neu gredyd neu drosglwyddiad cyllid electronig. Fodd bynnag, efallai y bydd yn gwrthod gwneud hynny. Os ydych chi’n ystyried talu’r ernes yn un o’r ffyrdd hyn, dylech drafod gyda’r Swyddog Canlyniadau cyn gynted â phosibl a yw’r dull talu’n dderbyniol.
Os yw’r Swyddog Canlyniadau yn caniatáu i’r ernes gael ei chyflwyno gyda cherdyn credyd neu ddebyd, efallai y codir ffi gan y banc neu gwmni cerdyn credyd am y trafodiad, ac os felly, bydd gofyn i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol yn ogystal â’r ernes.
Pan fydd yr ernes yn cael ei chyflwyno gennych chi, rhaid i chi ddweud hynny wrth y Swyddog Canlyniadau. Rhaid i unrhyw un arall sy’n cyflwyno’r ernes roi eu henw a’u cyfeiriad i’r Swyddog Canlyniadau pan fyddant yn ei chyflwyno (oni bai mai nhw yw asiant etholiad y rhestr plaid a bod yr enw a’r cyfeiriad eisoes wedi cael eu rhoi i’r Swyddog Canlyniadau). 6
Bydd pleidiau sy’n ennill 5% neu’n fwy o gyfanswm y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn yr etholaeth yn cael eu hernes yn ôl. Bydd y pleidiau hynny sydd wedi derbyn llai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn colli eu hernes.7
- 1. Rheol 11(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 11, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 11(3)(a), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 11(3)(b), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 11(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 11(7), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 65, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 7
Tynnu'n ôl
Gallwch chi fel Swyddog Enwebu (neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig gennych chi) dynnu eich rhestr plaid gyfan yn ôl, neu un neu fwy o’r ymgeiswyr o'r rhestr plaid drwy lofnodi a chyflwyno hysbysiad tynnu’n ôl.1 Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy gaiff gyflwyno’r hysbysiad, ond rhaid ei ddanfon i’r Swyddog Canlyniadau:2
- â llaw i'r man ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
- yn electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad
erbyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl, 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.3
Gall ymgeisydd ar y rhestr plaid dynnu’n ôl o’r etholiad hefyd drwy gyflwyno hysbysiad tynnu’n ôl, y mae'n rhaid iddo ei lofnodi ym mhresenoldeb tyst i ardystio ei lofnod. 4
Gellir cael hysbysiad tynnu’n ôl gan y Swyddog Canlyniadau neu ei lawrlwytho oddi ar ein gwefan:
Os byddwch yn tynnu rhestr plaid lawn yn ôl, dychwelir yr ernes gyfan.
Os yw ymgeisydd ar y rhestr plaid yn tynnu’n ôl neu’n cael eu tynnu’n ôl gennych chi, bydd dychwelyd yr ernes yn ddibynnol ar nifer yr ymgeiswyr sy’n parhau ar y rhestr plaid. Os oes llai na chwech o ymgeiswyr yn weddill, bydd cyfran o’r ernes yn cael ei dychwelyd.
Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl, nid yw’n bosibl tynnu’n ôl o’r etholiad.
- 1. Rheol 16, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 16(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 1, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 16(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Bod yn bresennol pan ddanfonir papurau enwebu
Dim ond rhai pobl sydd â hawl i fod yn bresennol pan ddanfonir papurau enwebu, neu i gael mynediad atynt os cânt eu danfon yn electronig, i archwilio dilysrwydd ffurflen enwebu a gwneud unrhyw wrthwynebiadau.1
Ar ôl iddynt gyflwyno papurau enwebu ac ar ôl i’r ymgeiswyr ar y rhestr plaid gael eu henwebu’n ddilys, gall y canlynol archwilio ffurflen enwebu a gwneud gwrthwynebiadau:2
- chi fel Swyddog Enwebu (neu rywun a benodir yn ysgrifenedig ar eich rhan)
- unrhyw Swyddogion Enwebu eraill (neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig ar eu rhan) sydd wedi cyflwyno rhestr plaid
- ymgeisydd rhestr plaid
- asiant etholiad rhestr plaid
- os yw’r asiant etholiad hefyd yn ymgeisydd ar restr plaid, rhywun a enwebwyd ganddo i fod yn bresennol ar ei ran
- person sy’n sefyll fel ymgeisydd unigol
- asiant etholiad person sy’n sefyll fel ymgeisydd unigol
- os yw ymgeisydd unigol yn asiant etholiad iddo’i hun, rhywun a enwebir ganddo i fynd ar ei ran
Caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un person arall a ddewisir gan bob rhestr plaid neu ymgeisydd unigol sydd wedi’u henwebu’n ddilys hefyd fod yn bresennol wrth gyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt eu harchwilio na gwneud unrhyw wrthwynebiadau.3
Ni chaiff unrhyw berson arall, ac eithrio'r Swyddog Canlyniadau a'u staff, fod yn bresennol wrth gyflwyno papurau enwebu.
- 1. Rheol 13, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 13(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 13(6), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Gwrthwynebu enwebiadau
Mae hyd y cyfnod pan ellir gwneud gwrthwynebiad yn dibynnu ar pryd y cyflwynir y papurau enwebu.
Yr amserlen ar gyfer gwrthwynebu1
Enwebiadau a gyflwynwyd hyd at ac yn cynnwys 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid gwneud gwrthwynebiadau i unrhyw enwebiadau a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar ddiwrnod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu cyn hanner dydd neu am hanner dydd.
Enwebiadau a ddanfonir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid gwneud gwrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu a gyflwynir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu cyn 5pm neu am 5pm ar ddiwrnod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Penderfyniadau ar wrthwynebiadau
Bydd y Swyddog Canlyniadau Etholaeth yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wneir, ond mae ganddo hawl i bennu bod enwebiad yn annilys ar y seiliau canlynol yn unig:2
- tnad yw ffurflen enwebu yn cynnwys enw plaid neu ddisgrifiad, yn groes i reol 6(3) rheolau etholiadau Senedd Cymru
- nad yw’r ffurflen enwebu yn cynnwys rhestr plaid neu mae mwy nag 8 ymgeisydd wedi’u cynnwys ar y rhestr plaid
- nad yw'r ffurflen enwebu yn cynnwys tystysgrif sy'n awdurdodi defnyddio enw neu ddisgrifiad plaid, yn groes i reol 7(1) a (5) o reolau etholiadau Senedd Cymru
- nad yw'r ffurflen wedi'i llofnodi fel sy'n ofynnol gan reol 6(8) o reolau etholiadau Senedd Cymru
- bod pob ymgeisydd ar y rhestr plaid wedi peidio â bod yn ymgeisydd enwebedig oherwydd:
- eu marwolaeth neu eu bod wedi tynnu’n ôl
- nad yw eu manylion yn unol â gofynion y gyfraith:
- maent wedi’u hanghymwyso dan 16(A1) o Ddeddf 2006 neu
- mae eu hymgeisyddiaeth yn groes i adran 7(4) o Ddeddf 2006
Mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau bod enwebiad yn ddilys yn derfynol ac ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad. Dim ond ar ôl etholiad drwy ddeiseb etholiad y gellir herio'r penderfyniad.3 I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.
- 1. Rheol 1, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 15(3), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 15(13), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Beth sy’n digwydd ar ôl i’r enwebiadau gau?
A fydd yr etholiad yn cael ei hymladd neu a fydd yn ddiwrthwynebiad?
Mae'r etholiad yn ddiwrthwynebiad os yw nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad (boed ar restr plaid neu’n ymgeiswyr unigol) yr un faint neu’n llai na nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth.1
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd y Swyddog Canlyniadau yn datgan seddi’r Senedd ar gyfer yr etholaeth yn unol â’r rheolau.
Os cânt eu hethol mewn etholiad diwrthwynebiad, rhaid i ymgeiswyr rhestr plaid wneud datganiad o hyd ynghylch eu gwariant personol.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar wariant a rhoddion ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid.
Cyhoeddi datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi datganiad o bleidiau ac unigolion a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o etholiad ar gyfer yr etholaeth, erbyn 4pm fan bellaf, 18 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
Rhaid i’r datganiad gynnwys:3
- pob plaid gofrestredig ynghyd â rhestr o ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys
- pob ymgeisydd unigol a enwebwyd yn ddilys
- enw llawn pob rhestr plaid neu ymgeisydd unigol neu enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin os ydynt wedi rhoi un
- y disgrifiad ‘Annibynol’ ac/neu ‘Independent’ (os yw’n berthnasol) ar gyfer ymgeiswyr unigol nad ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol
- cyfeiriadau cartref pob ymgeisydd rhestr plaid, neu os ydynt wedi gofyn am beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref, yr ardal berthnasol sef:
- enw’r etholaeth Senedd Cymru os yw’r cyfeiriad cartref yng Nghymru-,
- enw etholaeth Seneddol y DU os yw’r cyfeiriad cartref mewn man arall yn y DU,
- y wlad os yw eu cyfeiriad cartref y tu allan i’r DU
- y wybodaeth a gynhwysir yn natganiad pob ymgeisydd o aelodaeth o bleidiau gwleidyddol, fel y’i rhoddwyd yn eu ffurflen cydsynio ag enwebiad
- unrhyw bleidiau cofrestredig neu ymgeiswyr unigol nad ydynt yn ymgeiswyr enwebedig mwyach, os o gwbl (h.y. ymgeiswyr neu bleidiau annilys a rhai sydd wedi'u tynnu'n ôl), gyda'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach.
Manylion cyswllt ymgeisydd
Lle rydych chi wedi darparu eich manylion cyswllt e-bost neu ffôn i'r Swyddog Canlyniadau drwy'r ffurflen manylion cyswllt ymgeisydd, caiff y manylion hyn eu rhannu â'r heddlu i'w galluogi i roi unrhyw ddiweddariadau neu gyngor penodol ar ganllawiau diogelwch i chi ar gyfer yr etholiadau hyn.
Bydd y manylion cyswllt hyn hefyd yn cael eu rhannu gyda Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru.
- 1. Rheol 24(3), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 1, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 17(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Archwilio papurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad wedi i’r cyfnod enwebu ddod i ben
O'r diwrnod ar ôl i'r enwebiadau gau tan y diwrnod cyn yr etholiad, yn ystod oriau swyddfa arferol, caiff unrhyw un archwilio papurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad.1
Lle mae papurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad wedi'u cyflwyno'n electronig, byddant yn cael eu gwneud yn hygyrch gan y Swyddog Canlyniadau at ddibenion archwilio.2
Yn ystod y cyfnod archwilio hwn, caniateir i berson sy'n archwilio papurau enwebu neu ffurflenni cydsynio ag enwebiad wneud copi ohonynt.3
- 1. Rheol 21, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 21(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 21(3), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref ar ôl i'r enwebiadau gau
Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio ffurflenni enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad, mae gan rai pobl hawl i archwilio ffurflenni cyfeiriadau cartref.1 Y bobl hyn yw:
- unrhyw berson a gafodd ei enwebu i fod yn ymgeisydd yn yr un etholaeth Senedd
- asiant etholiad neu lofnodwr unrhyw berson arall sydd wedi’i enwebu fel ymgeisydd yn yr un etholaeth Senedd
- lle mae ymgeisydd unigol sydd wedi'i enwebu yn yr un etholaeth Senedd yn gweithredu fel ei asiant ei hun, unrhyw berson arall a enwebir ganddo
Lle mae ffurflenni cyfeiriad cartref wedi'u cyflwyno'n electronig, byddant yn hygyrch i'r rhai sydd â chaniatâd i'w harchwilio gan y Swyddog Canlyniadau.
Ni chaniateir i unrhyw berson gymryd dyfyniad o ffurflen cyfeiriad cartref na gwneud copi ohoni. 2
- 1. Rheol 22, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 22(5), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Marwolaeth ymgeisydd
Os bydd ymgeisydd ar restr plaid neu unrhyw ymgeisydd unigol yn marw cyn i’r canlyniad gael ei ddatgan, ond bod y bleidlais yn dal i gael ei hymladd, bydd yr etholiad yn parhau yn ôl yr arfer.
Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau gymryd camau rhesymol i gyhoeddi enw’r ymgeisydd, ffaith ei farwolaeth, p'un a oedd yn ymgeisydd unigol neu’n ymgeisydd rhestr plaid ac, os oedd yn sefyll ar ran plaid gofrestredig, enw’r blaid.
Dylai’r Swyddog Canlyniadau gyhoeddi’r farwolaeth drwy osod hysbysiadau tu allan a thu mewn i’r gorsafoedd pleidleisio yn yr etholaeth.
Os bydd y Swyddog Canlyniadau yn derbyn tystiolaeth a’i fod yn fodlon cyn cyhoeddi’r canlyniad bod ymgeisydd ar restr plaid neu ymgeisydd unigol wedi marw, ac o ganlyniad bod y bleidlais yn ddiwrthwynebiad, rhaid dod â’r etholiad i ben ac ystyrir bod ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys wedi'u hethol. Os bydd hyn yn digwydd cyn i’r pleidleisio ddechrau, rhaid i’r Swyddog Canlyniadau ddirymu’r hysbysiad etholiad. Os yw’r pleidleisio’n mynd rhagddo neu os yw’r cyfrif yn digwydd, rhaid rhoi’r gorau i’r pleidleisio neu’r cyfrif.1
Os bydd y bleidlais yn parhau i gael ei hymladd ar ôl marwolaeth ymgeisydd, bydd yr etholiad yn parhau. Nid yw’r farwolaeth yn effeithio ar ddilysrwydd yr etholiad nac ar ethol unrhyw ymgeisydd arall.
- 1. Rheol 72(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Enwebiadau – Ymgeiswyr unigol
Mae’r adran hon o’r ddogfen yn cynnwys ein canllawiau ar sefyll fel ymgeisydd unigol mewn etholiad Senedd Cymru.
Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am:
- y broses enwebu, gan gynnwys pa ffurflenni y bydd angen eu cwblhau
- pryd a sut mae angen i chi gyflwyno'ch papurau enwebu
- yr hyn sy'n digwydd ar ôl cyflwyno’ch papurau enwebu
Mae canllawiau ar sefyll ar gyfer etholiadau eraill ar gael ar ein gwefan.
Cwblhau eich papurau enwebu
I gael eich enwebu fel ymgeisydd unigol yn etholiadau Senedd Cymru, mae angen i chi gyflwyno set gyflawn o bapurau enwebu i’r man a bennwyd gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol gyda’r ernes erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1
Mae’r terfyn amser hwn wedi’i nodi yn y gyfraith ac ni ellir ei newid am unrhyw reswm.
Bydd y dyddiad cyntaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, ynghyd â’r amseroedd a’r trefniadau ar gyfer eu cyflwyno â llaw neu’n electronig, yn cael eu nodi yn yr hysbysiad etholiad a gyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau.2
Mae tri phapur enwebu y mae’n rhaid i chi eu cyflwyno i wneud eich enwebiad yn ddilys:3
- y ffurflen enwebu unigol
- ffurflen cyfeiriad cartref
- eich ffurflen cydsynio ag enwebiad, gan gynnwys datganiad o aelodaeth plaid
Gall y Swyddog Canlyniadau bennu bod eich papur enwebu yn annilys os nad yw manylion eich enwebiad yn bodloni gofynion y gyfraith.4
Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd wrthod eich enwebiad os daw i’r casgliad ei fod yn amlwg yn ffug, er enghraifft, os rhoddir enw sy’n amlwg yn ddychmygol.
Gallwch gael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau. Gellir cael manylion cyswllt oddi ar ein gwefan. Fel arall, rydym wedi cynhyrchu set o bapurau enwebu y gallech eu defnyddio.
Os nad ydych chi, eich asiant, neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo yn gallu cwblhau'r ffurflen enwebu, gall y Swyddog Canlyniadau helpu drwy baratoi’r ffurflen ar gyfer eich llofnod. Dylech holi’r Swyddog Canlyniadau ar y cyfle cyntaf pa gymorth a allai fod ar gael. Efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau hefyd yn gallu cynnig gwiriadau anffurfiol o’ch papurau enwebu wedi’u cwblhau cyn i chi eu cyflwyno. Dylech gael gwybod gan y Swyddog Canlyniadau a ydynt yn bwriadu cynnig gwiriadau anffurfiol.
Noder, mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych chi ar eich papurau enwebu fod yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae’n drosedd rhoi datganiad anwir ar eich papurau enwebu.5
Gallai rhoi datganiad anwir ddirymu eich ethol, a gall hefyd arwain at ddirwy ddigyfyngiad a/neu garchar.
- 1. Rheol 1(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 5(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 14(1), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 14(3)(a), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 34, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 5
Y ffurflen enwebu
Rhaid cwblhau'r ffurflen enwebu yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Rhaid i’r ffurflen enwebu gynnwys:
Eich enw llawn1
- Mae hyn yn golygu eich cyfenw yn gyntaf a'ch enwau eraill yn llawn.
- Gallai defnyddio blaenlythrennau'n unig arwain at wrthod eich papur enwebu.
- Peidiwch â defnyddio rhagddodiaid fel Mr, Mrs, Dr neu Gynghorydd fel rhan o'ch enw.
Mae’r un peth yn wir am ôl-ddodiaid. Fodd bynnag, os oes gennych deitl, gallwch ei ddefnyddio fel eich enw llawn. Er enghraifft, os mai eich enw go iawn yw Joseph Smith, ond eich teitl etifeddol yw Joseph Avon, yna cewch ddefnyddio’r enw Joseph Avon fel eich enw llawn.
Disgrifiad
Os ydych chi am i’r gair ‘Annibynnol’ a/neu ‘Independent’ ymddangos ar y papur pleidleisio o dan eich enw, mae angen i chi nodi hyn ar y ffurflen enwebu. Ni chaniateir unrhyw ddisgrifiadau eraill.2
Fel arall, gallwch ddewis peidio â chael disgrifiad o gwbl drwy adael y rhan hon o’r ffurflen yn wag.
Llofnod un llofnodwr
Gallwch weithredu fel eich llofnodwr eich hun neu ofyn i rywun arall lofnodi eich enwebiad. Os nad ydych chi’n llofnodi eich enwebiad eich hun, bydd angen i’r person sy’n llofnodi roi ei enw llawn a’i gyfeiriad, nid oes angen i’r cyfeiriad hwn fod yn yr etholaeth.3
- 1. Rheol 5(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 5(4)(b), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 5(6), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin
Os ydych:
- yn defnyddio cyfenw neu enw cyntaf yn gyffredin sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i gyfenw neu enw cyntaf sydd gennych
- yn defnyddio un neu ragor o enwau cyntaf neu gyfenw mewn ffordd wahanol i'r ffordd y cânt eu nodi ar eich ffurflen enwebu
gallwch nodi eich enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin ar eich ffurflen enwebu, ynghyd â’ch enwau llawn.1
Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael eich adnabod wrth eich enw cryno ‘Andy’, yn hytrach na’ch enw cyntaf llawn ‘Andrew’. Yn yr achos hwnnw, gallwch nodi’r enw ‘Andy’ yn y blwch enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu, os byddai’n well gennych i’r enw hwnnw ymddangos ar y papur pleidleisio.
Gallwch ddatgan eich bod yn defnyddio enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, neu’r ddau.
Gallwch hefyd ddefnyddio blaenlythrennau fel rhan o’ch enw a ddefnyddir yn gyffredin os ydych chi’n cael eich adnabod yn gyffredin ganddyn nhw.
Byddai’r enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn cael eu cynnwys:
- ar y datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd a'r hysbysiad o etholiad
- ar y papur pleidleisio
- ar yr hysbysiad asiant etholiad
Penderfyniadau ar enwau a ddefnyddir yn gyffredin
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gwrthod enwau a ddefnyddir yn gyffredin sy’n debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu sy’n anweddus neu’n sarhaus.2
Os na chaniateir yr enw(au), bydd y Swyddog Canlyniadau yn ysgrifennu atoch yn nodi’r rheswm dros wrthod.3
Yn yr achosion hynny, bydd eich enw go iawn yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny.
Os yw naill ai’r blwch enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu yn cael ei adael yn wag, yna bydd eich enw cyntaf neu gyfenw go iawn yn cael ei ddefnyddio, yn dibynnu ar ba flwch enw a ddefnyddir yn gyffredin sydd wedi'i adael yn wag.
Mae’n drosedd rhoi datganiad anwir ar eich ffurflen enwebu.4
Felly, os byddwch yn dewis rhoi enw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i chi sicrhau ei fod yn enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddiwch yn gyffredin.
- 1. Rheol 5(5), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 18(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 18(3)(b), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 34, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Cydsynio ag enwebiad
Rhaid i chi hefyd gydsynio’n ffurfiol â’ch enwebiad yn ysgrifenedig.1
Gellir cyflwyno’r cydsyniad ag enwebiad i’r Swyddog Canlyniadau wyneb yn wyneb, neu drwy’r trefniadau fel y nodir yn y datganiad cyflwyno electronig.2
Mae cynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad wedi ei bennu yn ôl y gyfraith.3
Rhaid i chi nodi’r canlynol ar y ffurflen cydsynio ag enwebiad:4
- eich dyddiad geni
- cyfeiriad sydd yn yr ardal berthnasol,5 ystyrir hwn fel eich cyfeiriad swyddfa os byddwch yn dod yn asiant etholiad arnoch eich hun o ganlyniad i fethu â phenodi rhywun arall. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar asiantiaid etholiad
- enw’r ardal awdurdod lleol yng Nghymru lle rydych wedi’ch cofrestru’n etholwr llywodraeth leol
- datganiad nad ydych wedi eich anghymwyso hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred
- datganiad nad ydych yn ymgeisydd unigol sy’n sefyll yn yr un etholaeth nac unrhyw etholaeth arall, neu ymgeisydd rhestr plaid mewn unrhyw etholaeth arall
Rhaid i’ch cydsyniad ag enwebiad hefyd gynnwys datganiad o aelodaeth plaid.6
Ni chewch lofnodi’r ffurflen gydsynio yn gynharach na mis cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch papurau enwebu.7
Rhaid i ffurflen cydsynio ag enwebiad eich ymgeisydd gael ei hardystio gan dyst.8
Dylai’r tyst fod yn bresennol pan fyddwch yn llofnodi’ch datganiad. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all fod yn dyst.
Ar gyfer ffurflenni cydsynio a gyflwynir yn electronig, gallai llofnod electronig fod ar ffurf enw wedi’i deipio yn y bwlch ar gyfer llofnod er enghraifft.
- 1. Rheol 9(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 9(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 9(3), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 9(3), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 9(3)(b), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 9(3)(e), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 9(1)(a), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheol 9(1)(b), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 8
Datganiad o aelodaeth plaid
Rhaid i chi gynnwys datganiad o aelodaeth plaid ar eich ffurflen cydsynio ag enwebiad.1
Rhaid iddo nodi a ydych chi wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol.2
Mae'r cyfnod perthnasol yn golygu cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad.3
Os ydych chi wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i chi gynnwys y canlynol ar y datganiad:4
- enw(au) y blaid wleidyddol gofrestredig/pleidiau gwleidyddol cofrestredig rydych chi wedi bod yn aelod ohoni/ohonynt
- y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol roeddech chi’n aelod o unrhyw blaid/bleidiau gwleidyddol
Mae’n drosedd peidio â chynnwys datganiad o aelodaeth plaid yn fwriadol gyda’ch papur cydsynio ag enwebiad.5
Bydd y wybodaeth a ddarperir ar y datganiad o aelodaeth plaid yn cael ei chynnwys ar y datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd ac fe’i cyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau.
5
- 1. Rheol 9(3)(e), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 10(1), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 10(7)(c), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 10(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 10(6), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 17(2)(a), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 6
Ffurflen cyfeiriad cartref
Rhaid cynnwys ffurflen cyfeiriad cartref gyda'ch papur enwebu. 1
Rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen fel y rhagnodir yn y ddeddfwriaeth (neu ffurflen debyg).2
Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan: 3
- eich enw llawn
- unrhyw enwau a ddefnyddir yn gyffredin, os yw’r rhain wedi eu cynnwys ar eich ffurflen enwebu
- eich cyfeiriad cartref yn llawn
Eich cyfeiriad cartref:
- ni ddylai gynnwys talfyriadau
- rhaid iddo fod yn gyfeiriad cartref presennol i chi
- ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni bai eich bod yn rhedeg busnes o’ch cartref)
Nid oes angen i’ch cyfeiriad cartref fod yn etholaeth y Senedd rydych yn bwriadu sefyll ynddi.
Dewis peidio â chyhoeddi eich cyfeiriad cartref
Gallwch ddewis peidio â chyhoeddi eich cyfeiriad cartref ar y datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd.
Yn yr achos hwn, yn ogystal â’ch enw llawn a’ch cyfeiriad cartref yn llawn, rhaid i'r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys:4
- datganiad, wedi'i lofnodi gennych, sy'n datgan nad ydych am i'ch cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi
- os yw eich cyfeiriad cartref yng Nghymru, enw etholaeth y Senedd, neu os yw eich cyfeiriad cartref yn rhywle arall yn y DU, enw etholaeth Seneddol y DU
- os yw cyfeiriad eich cartref y tu allan i’r DU, enw’r wlad y mae eich cyfeiriad cartref wedi'i leoli ynddi
- 1. Rheol 8(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 8, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 8, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 8, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Cyflwyno eich papurau enwebu
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich ffurflen enwebu, y ffurflen cyfeiriad cartref a’r ffurflen cydsynio ag enwebiad, gan gynnwys y datganiad o aelodaeth plaid, yn cael eu cyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais. 1
Bydd gan y Swyddog Canlyniadau drefniadau ar waith a fydd yn eich caniatáu i gyflwyno eich papurau enwebu yn electronig. Darperir cyfeiriad e-bost neu borth ar-lein yn benodol ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn electronig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar gyflwyno papurau enwebu yn electronig
Chi neu eich asiant (os yw enw a chyfeiriad eich asiant wedi’u rhoi i’r Swyddog Canlyniadau yn flaenorol) yw’r unig rai a all gyflwyno eich papurau enwebu.
- 1. Rheol 5(2), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Sut mae’n rhaid cyflwyno papurau enwebu?
Rhaid i’r ffurflen enwebu, ffurflen cyfeiriad cartref a’r ffurflen cydsynio ag enwebiad gael eu cyflwyno naill ai: 1
- â llaw neu
- yn electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig ar yr hysbysiad etholiad.
Pan fydd dogfen yn cael ei chyflwyno yn electronig, gellir ei llofnodi’n electronig – gallai hyn fod ar ffurf llofnod wedi’i deipio er enghraifft.2
Os byddwch yn cyflwyno eich papurau enwebu â llaw, rhaid cyflwyno’r fersiwn gwreiddiol o bob papur a gwblhawyd.
Ni ellir cyflwyno papurau enwebu drwy’r post.
- 1. Rule 5(2), Schedule 5, The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Article 141, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Cyflwyno enwebiadau yn electronig
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cynnwys datganiad cyflwyno electronig ar yr hysbysiad etholiad.
Bydd y datganiad hwn yn nodi’r trefniadau sydd gan y Swyddog Canlyniadau ar waith ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn electronig.
Dyma'r trefniadau a ddarperir gan y Swyddog Canlyniadau:1
- cyfeiriad e-bost y gallwch anfon eich papurau enwebu iddo
- gwasanaeth y gallwch ei ddefnyddio i gyflwyno eich papurau enwebu ar-lein
- neu’r ddau opsiwn a restrwyd uchod
Os byddwch yn dewis cyflwyno eich papurau enwebu drwy e-bost, dylech sicrhau eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost penodol at y diben hwnnw fel y nodir yn y datganiad cyflwyno electronig. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn derbyn eich ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau gofynnol.
Bydd cyflwyno eich enwebiad i gyfeiriad e-bost nad yw’n benodol at y diben hwnnw yn golygu y bydd eich papur enwebu'n cael ei ystyried fel un sydd heb ei gyflwyno yn ôl y gofynion.
Cyn belled ag y bo modd, dylech atodi'r holl ffurflenni sy'n ofynnol ar gyfer eich enwebiad i'r Swyddog Canlyniadau i un e-bost.
- 1. Rheol 3(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Pryd mae’n rhaid cyflwyno papurau enwebu?
Dylech gyflwyno eich papurau enwebu cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddog Canlyniadau gynnal gwiriad anffurfiol a rhoi digon o amser i chi gyflwyno papurau enwebu newydd petai eich set gyntaf yn cynnwys unrhyw wallau.
Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ddim hwyrach na 25 diwrnod gwaith cyn y bleidlais a bydd yn nodi’r amseroedd y gellir cyflwyno’r enwebiadau’n bersonol a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer cyflwyno enwebiadau’n electronig.1
Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ar wefan y Swyddog Canlyniadau.
Fel arfer, dim ond yn ystod oriau swyddfa y mae'n bosibl cyflwyno papurau enwebu â llaw. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cadarnhau union fanylion pryd a ble y gellir cyflwyno papurau enwebu yn bersonol ar yr hysbysiad etholiad.
Os ydych yn newid eich meddwl ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu ac nad ydych mwyach eisiau sefyll yn yr etholiad, gallwch dynnu’n ôl, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny erbyn 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn yr etholiad.2
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar dynnu’n ôl.
- 1. Rheol 1 a 3, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 1, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Yr ernes
Er mwyn i’ch enwebiad fod yn ddilys, rhaid rhoi'r swm o £500 i’r Swyddog Canlyniadau erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, 4pm 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1 Gellir gwneud yr ernes drwy ddefnyddio:2
- tendr cyfreithiol (arian parod mewn punnoedd Prydeinig yn unig)
- drafft banc yn y DU
Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd dderbyn ernes a wneir drwy siec cymdeithas adeiladu, cerdyn debyd neu gredyd neu drosglwyddiad electronig. Fodd bynnag, efallai y bydd yn gwrthod gwneud hynny. Os ydych chi’n ystyried talu’r ernes drwy un o’r ffyrdd hyn, dylech drafod gyda’r Swyddog Canlyniadau cyn gynted â phosibl a yw’r dull talu’n dderbyniol.
Os yw’r Swyddog Canlyniadau yn caniatáu i’r ernes gael ei thalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, efallai y codir ffi gan y banc neu gwmni cerdyn credyd am y trafodiad, ac os felly, bydd gofyn i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol yn ogystal â’r ernes o £500.
Oni bai mai’r person sy’n talu eich ernes yw eich asiant ac rydych wedi hysbysu’r Swyddog Canlyniadau o’u penodiad, rhaid i’r person sy’n gwneud yr ernes roi ei enw a’i gyfeiriad i’r Swyddog Canlyniadau ar yr adeg y maent yn ei thalu.3
Dychwelir yr ernes os byddwch yn derbyn dros fwy na 5% o’r pleidleisiau dilys a fwriwyd yn yr etholaeth. Bydd yr ymgeiswyr hynny sydd wedi cael llai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn colli eu hernes.4
- 1. Rheol 11, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 11(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 11(7), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 65, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Tynnu'n ôl
Gallwch dynnu’n ôl fel ymgeisydd drwy lofnodi a chyflwyno hysbysiad tynnu’n ôl.1
Rhaid i chi lofnodi’r hysbysiad ym mhresenoldeb tyst ac mae’n rhaid iddo ardystio eich llofnod.2
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy gaiff gyflwyno’r hysbysiad, ond rhaid ei gyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau:3
- â llaw i'r man ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
- yn electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad
erbyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl, 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.4
Gellir cael hysbysiad tynnu’n ôl gan y Swyddog Canlyniadau neu ei lawrlwytho oddi ar ein gwefan.
Os byddwch yn tynnu’n ôl fel ymgeisydd, dychwelir eich ernes.
Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl, nid yw’n bosibl tynnu’n ôl o’r etholiad.
- 1. Rheol 16, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 16(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 16(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 1, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Bod yn bresennol pan ddanfonir papurau enwebu
Dim ond rhai pobl sydd â hawl i fod yn bresennol wrth gyflwyno papurau enwebu neu gael mynediad atynt os cânt eu cyflwyno'n electronig er mwyn archwilio a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu.1
Ar ôl i’ch papurau enwebu a’ch ernes gael eu cyflwyno ac ar ôl i chi gael eich enwebu'n ddilys, gall y canlynol archwilio ffurflen enwebu a'i gwrthwynebu:2
- chi (neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig ar eich rhan)
- eich asiant etholiad neu os ydych chi’n gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, rhywun a enwebwyd gennych chi i fod yn bresennol ar eu rhan
- unrhyw Swyddogion Enwebu (neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig ar eu rhan) sydd wedi cyflwyno rhestr plaid
- ymgeisydd rhestr plaid
- person arall sy’n sefyll fel ymgeisydd unigol
- asiant etholiad rhestr plaid
- os yw’r asiant etholiad hefyd yn ymgeisydd ar restr plaid, rhywun a enwebwyd ganddo i fod yn bresennol ar ei ran
- os ydych chi’n gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, rhywun a enwebwyd gennych chi i fod yn bresennol ar eich rhan.
Gall cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un person arall a ddewisir gan bob rhestr plaid neu ymgeisydd unigol a enwebwyd yn ddilys hefyd fod yn bresennol wrth gyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt eu harchwilio na gwneud unrhyw wrthwynebiadau.3
Ni chaiff unrhyw berson arall, ac eithrio'r Swyddog Canlyniadau a'i staff, fod yn bresennol wrth gyflwyno papurau enwebu.
- 1. Rheol 13, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 13(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 13(6), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Gwrthwynebu enwebiadau
Mae hyd y cyfnod pan ellir gwneud gwrthwynebiad yn dibynnu ar pryd y cyflwynir y papurau enwebu.
Yr amserlen ar gyfer gwrthwynebu
Enwebiadau a gyflwynwyd hyd at ac yn cynnwys 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid i wrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu gael eu gwneud am neu cyn hanner dydd ar ddiwrnod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Enwebiadau a ddanfonir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid i wrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu a gyflwynir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu gael eu gwneud am neu cyn 5pm ar ddiwrnod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Penderfyniadau ar wrthwynebiadau
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wneir, ond mae ganddo'r hawl i bennu bod enwebiad yn annilys ar y seiliau canlynol yn unig:1
- nad yw manylion yr ymgeisydd fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith
- mae’r ymgeisydd wedi’i anghymwyso dan a16(A1) o'r Ddeddf 2006
- mae ymgeisyddiaeth yr ymgeisydd yn torri a7(5) o’r Ddeddf 2006
- nad yw’r ffurflen enwebu wedi’i llofnodi fel sy’n ofynnol gan reol 5(6) o reolau etholiadau Senedd Cymru.
Mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau bod enwebiad yn ddilys yn derfynol ac ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad. Dim ond ar ôl etholiad y gellir herio’r penderfyniad drwy ddeiseb etholiadol.2 I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.
- 1. Rheol 14(3), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 14(8), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Beth sy’n digwydd ar ôl i’r enwebiadau gau?
A fydd yr etholiad yn cael ei hymladd neu a fydd yn ddiwrthwynebiad?
Mae'r etholiad yn ddiwrthwynebiad os yw nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad (boed ar restr plaid neu’n ymgeiswyr unigol) yr un faint neu’n llai na nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth.1
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd y Swyddog Canlyniadau yn datgan seddi’r Senedd ar gyfer yr etholaeth yn unol â’r rheolau.
Os cânt eu hethol mewn etholiad diwrthwynebiad, mae’n dal yn rhaid i ymgeiswyr unigol gyflwyno ffurflen wariant a gwneud datganiad o’u gwariant etholiad.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar wariant i ymgeiswyr unigol.
Cyhoeddi datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o bleidlais ar gyfer yr etholaeth, erbyn 4pm fan bellaf, 18 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
Rhaid i’r datganiad gynnwys:3
- pob plaid gofrestredig ynghyd â rhestr o ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys
- pob ymgeisydd unigol a enwebwyd yn ddilys
- enw llawn bob ymgeisydd rhestr plaid ac ymgeisydd unigol neu enwau a ddefnyddir yn gyffredin os ydynt wedi rhoi un
- y disgrifiad ‘Annibynol’ ac/neu ‘Independent’ (os yw’n berthnasol) ar gyfer ymgeiswyr unigol nad ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol
- cyfeiriadau cartref pob ymgeisydd rhestr plaid, neu os ydynt wedi gofyn am beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref, yr ardal berthnasol sef:
- enw etholaeth y Senedd os yw’r cyfeiriad cartref yng Nghymru
- enw etholaeth Seneddol y DU os yw’r cyfeiriad cartref mewn man arall yn y DU
- y wlad os yw eu cyfeiriad cartref y tu allan i’r DU
- y wybodaeth a gynhwysir yn natganiad o aelodaeth pleidiau gwleidyddol pob ymgeisydd, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu
- unrhyw bleidiau cofrestredig neu ymgeiswyr unigol nad ydynt yn ymgeiswyr enwebedig mwyach, os o gwbl (h.y. ymgeiswyr neu bleidiau annilys ac sydd wedi'u tynnu'n ôl), gyda'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach
Manylion cyswllt ymgeisydd
Lle rydych chi wedi darparu eich manylion cyswllt e-bost neu ffôn i'r Swyddog Canlyniadau drwy'r ffurflen manylion cyswllt ymgeisydd, caiff y manylion hyn eu rhannu â'r heddlu i'w galluogi i roi unrhyw ddiweddariadau neu gyngor penodol ar ganllawiau diogelwch i chi ar gyfer yr etholiadau hyn.
Bydd y manylion cyswllt hyn hefyd yn cael eu rhannu gyda Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru.
- 1. Rheol 24(3), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 1, Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 17(2), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Archwilio papurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad wedi i’r cyfnod enwebu ddod i ben
O'r diwrnod ar ôl i'r enwebiadau gau tan y diwrnod cyn y bleidlais, yn ystod oriau swyddfa arferol, gall unrhyw un archwilio papurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad.1
Lle mae papurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad wedi'u cyflwyno'n electronig, byddant yn cael eu gwneud yn hygyrch gan y Swyddog Canlyniadau at ddibenion archwilio.2
Yn ystod y cyfnod archwilio hwn, caniateir i berson sy'n archwilio papurau enwebu neu ffurflenni cydsynio ag enwebiad wneud copi ohonynt neu ysgrifennu crynodeb.3
- 1. Rheol 21, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 21(4), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 21(3), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref ar ôl i’r enwebiadau gau
Yn ystod y cyfnod ar gyfer archwilio ffurflenni enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad, mae gan rai pobl hawl i archwilio ffurflenni cyfeiriadau cartref.1 Y bobl hyn yw:
- unrhyw berson (arall) sydd wedi'i enwebu fel ymgeisydd yn yr un etholaeth Senedd â chi
- asiant etholiad neu lofnodwr unrhyw berson arall sydd wedi'i enwebu fel ymgeisydd yn yr un etholaeth Senedd â chi
- lle mae ymgeisydd unigol sydd wedi'i enwebu yn yr un etholaeth Senedd yn gweithredu fel ei asiant ei hun, unrhyw berson arall a enwebir ganddo
Lle mae ffurflenni cyfeiriad cartref wedi'u cyflwyno'n electronig, byddant yn hygyrch i'r rhai sydd â chaniatâd i'w harchwilio gan y Swyddog Canlyniadau.
Ni chaniateir i unrhyw berson gymryd dyfyniad o ffurflen cyfeiriad cartref na gwneud copi ohoni. 2
- 1. Rheol 22, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 22(5), Atodlen 5, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Marwolaeth ymgeisydd
Os bydd ymgeisydd ar restr plaid neu unrhyw ymgeisydd unigol yn marw cyn i’r canlyniad gael ei ddatgan, ond bod y bleidlais yn dal i gael ei hymladd, bydd yr etholiad yn parhau yn ôl yr arfer
Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau gymryd camau rhesymol i gyhoeddi enw’r ymgeisydd, ffaith ei farwolaeth, p'un a oedd yn ymgeisydd unigol neu’n ymgeisydd rhestr plaid ac, os oedd yn sefyll ar ran plaid gofrestredig, enw’r blaid.
Dylai’r Swyddog Canlyniadau gyhoeddi’r farwolaeth drwy osod hysbysiadau tu allan a thu mewn i’r gorsafoedd pleidleisio yn yr etholaeth.
Os bydd y Swyddog Canlyniadau yn derbyn tystiolaeth a’i fod yn fodlon cyn cyhoeddi’r canlyniad bod ymgeisydd ar restr plaid neu ymgeisydd unigol wedi marw, ac o ganlyniad bod y bleidlais yn ddiwrthwynebiad, rhaid dod â’r etholiad i ben a chaiff ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys eu hystyried yn etholedig. Os bydd hyn yn digwydd cyn i’r pleidleisio ddechrau, rhaid i’r Swyddog Canlyniadau ddirymu’r hysbysiad etholiad. Os yw’r bleidlais yn mynd rhagddi neu os yw’r cyfrif yn digwydd, rhaid rhoi’r gorau i’r bleidlais neu’r cyfrif.1
Os bydd y bleidlais yn parhau i gael ei hymladd ar ôl marwolaeth ymgeisydd, bydd yr etholiad yn parhau. Nid yw’r farwolaeth yn effeithio ar ddilysrwydd yr etholiad nac ar ethol unrhyw ymgeisydd arall.
- 1. Rheol 72(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Pleidleisiau post
Mae’r adrannau canlynol yn rhoi canllawiau ar bleidleisio drwy’r post a’r prosesau cysylltiedig.
Mae’r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- pwy all wneud cais i bleidleisio drwy'r post
- beth sydd yn y pecyn pleidleisio drwy'r post
- agor pleidleisiau post a phwy sy'n cael bod yn bresennol
- y broses o agor pleidleisiau post
- penodi asiantiaid pleidleisiau drwy'r post a'u rôl
Mae’r canllawiau hefyd yn rhoi sylw i’ch dyletswydd i gynnal cyfrinachedd yn ystod sesiynau agor pleidleisiau post
Pwy all wneud cais i bleidleisio drwy'r post?
Gall y canlynol wneud cais i bleidleisio drwy’r post yn etholiadau Senedd Cymru drwy gyflwyno cais i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ei awdurdod lleol:
- person 16 oed neu hŷn sydd wedi cofrestru i bleidleisio
- person 16 oed neu hŷn sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru i bleidleisio
- person sydd wedi'i benodi i bleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall.
Rhaid i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol dderbyn y cais erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1
Nid oes gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol unrhyw ddisgresiwn i ymestyn y dyddiad cau am ba bynnag reswm.
- 1. Paragraff 11, Atodlen 1, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Pecynnau pleidleisio drwy'r post
Anfonir pecynnau pleidleisio drwy'r post at etholwyr tua phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio.
Bydd etholwyr sydd wedi cofrestru’n agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn cael eu pecynnau pleidleisio drwy'r post pan fydd eu henwau wedi cael eu hychwanegu at y diweddariad cofrestr terfynol, 5 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Yna, bydd etholwyr yn marcio eu papur pleidleisio, yn cwblhau'r datganiad pleidleisio drwy’r post drwy nodi eu llofnod a’u dyddiad geni, ac yn eu dychwelyd i’r Swyddog Canlyniadau cyn diwedd y cyfnod pleidleisio (h.y. 10pm ar y diwrnod pleidleisio).
Er mai'r Swyddogion Canlyniadau sy'n gyfrifol yn y pen draw am gyflenwi ac agor pleidleisiau drwy’r post ar draws eu hetholaethau, mae'n bosibl y byddant yn dymuno penodi dirprwyon o fewn eu etholaethau i weinyddu’r prosesau hyn ar lefel awdurdod lleol. Nid oes gan ymgeiswyr, asiantiaid etholiad nac asiantiaid pleidleisio drwy'r bost yr hawl i fod yn bresennol yn y broses cyflenwi pleidleisiau post.1
- 1. Paragraff 4, Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Beth mae’r pecyn pleidleisio drwy’r post yn ei gynnwys?
Mae’r pecynnau pleidleisio drwy’r post yn cynnwys y canlynol:
- Amlen A yw’r amlen mae’r etholwr yn dychwelyd ei bapurau pleidleisio ynddi. Mae wedi’i marcio â’r llythyren ‘A’ a’r geiriau ‘Amlen papur pleidleisio’ yn Gymraeg a 'Ballot paper envelope' yn Saesneg
- Amlen B yw’r amlen y bydd yr etholwr yn ei defnyddio i ddychwelyd yr amlen papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio drwy’r post. Mae wedi’i marcio â’r llythyren ‘B’ a chyfeiriad y Swyddog Canlyniadau
- Mae'r datganiad pleidleisio drwy’r post yn cynnwys enw’r etholwr, rhif y papur pleidleisio a roddwyd iddo, cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio drwy’r post a lle i’r etholwr lofnodi a nodi ei ddyddiad geni
- Y papur pleidleisio
Agor pleidleisiau post
Pwy all fynd i’r sesiwn agor pleidleisiau post?
Mae gan y bobl ganlynol yr hawl i fynd i’r sesiwn agor pleidleisiau post a ddychwelwyd:1
- Ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol
- Asiant etholiad ymgeisydd unigol neu unigolyn a benodwyd gan yr ymgeisydd unigol i fynd yn lle’r asiant etholiad
- Asiant etholiad rhestr plaid neu unigolyn a benodwyd gan y Swyddog Enwebu i fynd yn lle’r asiant etholiad
- Asiantiaid pleidleisio drwy'r post yr ydych wedi’u penodi i fynd i’r sesiynau agor.
Am fanylion ynghylch sut i benodi’r asiantiaid hyn, gweler ein canllawiau ar benodi asiantiaid pleidlais bost.
Dyletswydd i gynnal cyfrinachedd yn ystod sesiynau agor pleidleisiau post
Cedwir papurau pleidleisio yn wynebu tuag at i lawr drwy gydol sesiwn agor pleidleisiau post.2 Ni ddylai unrhyw un sy’n mynd i’r sesiwn agor:3
- gael
- ceisio cael
- cyfathrebu â pherson arall ar unrhyw adeg:
- unrhyw wybodaeth yn ymwneud â'r rhif neu unrhyw farc adnabod unigryw arall ar y papur pleidleisio
- unrhyw wybodaeth am y marc swyddogol ar bapur pleidleisio drwy'r post cyn diwedd y pleidleisio
- datgelu sut mae unrhyw bapur pleidleisio penodol wedi cael ei farcio neu drosglwyddo unrhyw wybodaeth a gafwyd o’r sesiwn.
Felly yn sgil hynny, ni chaniateir cadw cyfrif o sut mae papurau pleidleisio wedi cael eu marcio.
Gall unrhyw un a’u cafwyd euog o dorri’r gofynion hyn wynebu dirwy ddigyfyngiad, neu gallant gael eu carcharu am hyd at chwe mis.4
- 1. Paragraff 6, Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, rheol 21, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 35(5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 35(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Penodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post
Gall asiant etholiad rhestr plaid ac unrhyw ymgeiswyr unigol hefyd benodi asiantiaid i fynd i sesiynau agor pleidleisiau post.1
Gellir penodi unrhyw un, ar wahân i’r bobl ganlynol a restrir isod, yn asiant pleidleisiau post:2
- Swyddog Canlyniadau neu aelod o’i staff
- partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau neu aelod o’i staff
- unrhywun un nad oes ganddo’r hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiad neu euogfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Gall asiantiaid etholiad i restrau plaid ac ymgeiswyr unigol weithredu fel asiantiaid pleidleisio drwy'r post yn awtomatig heb yr angen am benodiad swyddogol.
Bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn rhoi gwybod i chi'r uchafswm asiantiaid pleidlais bost y gellir eu penodi. Bydd asiantiaid etholiad i restrau plaid ac ymgeiswyr unigol yn cael penodi union yr un nifer.3
Rhaid i’r cais i benodi’r asiantiaid hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy a rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau’r bobl sy’n cael eu penodi.4 Gall y Swyddog Canlyniadau ddarparu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn, neu gallwch ddod o hyd i ffurflenni penodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post ar wefan y Comisiwn.
Mae angen cyflwyno ffurflenni penodi ar gyfer asiantiaid pleidleisio drwy'r post i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy erbyn yr amser a bennwyd ar gyfer sesiynau agor pleidleisiau post y maent am fynd iddyn nhw.5
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn dechrau pob sesiwn agor pleidleisiau post.6
Os yw asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, gellir penodi asiant arall yn ei le. Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.7
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall ac na all asiantiaid pleidlais bost ei wneud a’r hyn y gallant ddisgwyl ei weld mewn sesiynau agor pleidleisiau post, gweler ein harweiniad ynghylch yr hyn mae asiant pleidlais bost yn ei wneud a chamau’r broses o agor pleidleisiau post.
- 1. Paragraff 6, Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 73 ac Erthygl 118, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 6(2), Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 6(3), Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 6(3), Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Paragraff 17, Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Paragraff 6(6), Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
Beth mae asiant pleidleisio drwy’r post yn ei wneud?
Caniateir i asiant pleidleisio drwy'r post fynd i ac arsylwi sesiynau agor pleidleisiau post.
Ym mhob sesiwn agor, bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn penderfynu a yw’r dyddiad geni a’r llofnod a roddwyd gan etholwyr ar eu datganiadau pleidleisio drwy’r post yn cyfateb i’r llofnod a’r dyddiad geni a roddwyd yn flaenorol ac a gedwir ar eu cofnodion. Os nad ydynt yn cyfateb, bydd y bleidlais bost yn cael ei gwrthod.
Mae gan asiant pleidleisio drwy’r post yr hawl i arsylwi ond nid i ymyrryd â’r broses hon. Fodd bynnag, gall asiant pleidleisio drwy'r post wrthwynebu’r penderfyniad i wrthod datganiad pleidleisio drwy’r post1 Ni fydd yn effeithio ar y penderfyniad, ond cofnodir unrhyw wrthwynebiad drwy farcio’r datganiad pleidlais bost gyda'r geiriau ‘gwrthwynebwyd y gwrthodiad' yn Gymraeg a 'rejection objected to' yn Saesneg.
Yn yr un modd â’ch asiantiaid pleidlais bost, mae gan asiantiaid etholiad i restrau plaid, ymgeiswyr unigol, neu berson y maent wedi ei benodi i fynd ar eu rhan yr hawl i wrthwynebu gwrthodiad.2
Bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn esbonio’r broses o agor y pleidleisiau post a gall roi gwybodaeth am y gweithdrefnau i’w dilyn, gan gynnwys cyfarwyddiadau ynghylch yr hyn y gall ac na all pobl sy’n mynd i sesiwn agor ei wneud. Dylai pawb sy’n bresennol gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau a roddwyd.
- 1. Paragraff 23, Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 23, Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Pryd caiff pleidleisiau post eu hagor a sut byddwch chi’n gwybod pryd bydd sesiwn agor yn cael ei chynnal?
Mae’n debygol y bydd nifer o sesiynau agor yn cael eu cynnal cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal ag ar y diwrnod pleidleisio ei hun.
Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau:
- rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol a’r asiant etholiad ar gyfer pob plaid gofrestredig ag enwebiad ynghylch pryd a ble y bydd y sesiynau’n cael eu cynnal1
- nodi faint o asiantiaid pleidlais bost fydd yn cael mynd i bob sesiwn.
Bydd sesiwn agor derfynol ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau i agor unrhyw bleidleisiau post sydd wedi eu cyflwyno i orsafoedd pleidleisio. Gellir cynnal y sesiwn hon yn y lleoliad cyfrif neu mewn lleoliad arall. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi gwybod i’r rheini sydd wedi’u rhestru uchod am y lleoliad ar gyfer y sesiwn agor derfynol.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses a ddilynir yn y sesiynau agor pleidleisiau post, gweler ein canllawiau ar gamau’r broses o agor pleidleisiau post.
- 1. Atodlen 2, paragraff 17(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Camau’r broses o agor pleidleisiau post
Gellir crynhoi camau’r broses o agor y pleidleisiau post fel a ganlyn:
| Cam | Proses |
|---|---|
| 1 | Mae'r pleidleisiau post yn cyrraedd y sesiwn agor mewn blychau pleidleisio |
| 2 | Mae’r prif amlenni (amlen B) yn cael eu tynnu allan a’u cyfrif |
| 3 | Mae cyfanswm y prif amlenni yn cael ei gofnodi |
| 4 | Mae’r prif amlenni (amlen B) yn cael eu rhannu rhwng timau o staff agor |
| 5 | Mae'r staff yn agor pob prif amlen (amlen B) ac yn tynnu’r datganiad pleidleisio drwy’r post a’r amlen papur pleidleisio wedi’i selio (amlen A) |
| 6 | Bydd y staff yn gwirio bod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy’r post yn cyfateb i’r rhif ar amlen A |
| 7 | Os yw’r rhifau’n cyfateb, bydd y staff yn gwirio bod yr etholwr wedi nodi llofnod a dyddiad geni (heb wirio mai rhai yr etholwr ydynt ar y cam hwnnw) Mae datganiadau pleidleisio drwy’r post heb lofnod a dyddiad geni yn golygu bod y bleidlais bost yn cael ei gwrthod |
| 8 | Os yw'r datganiad neu’r amlen papur pleidleisio ar goll, neu os nad yw’r rhifau ar y datganiad a’r amlen papur pleidleisio yn cyfateb, caiff y ddogfen/dogfennau eu rhoi o’r neilltu, eu cofnodi a’u storio mewn pecynnau diogel |
| 9 | Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy ddilysu'r dyddiadau geni a’r llofnodion a nodwyd ar y datganiadau |
| 10 | Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau fod yn fodlon bod y dyddiadau geni a’r llofnodion ar y datganiadau yn cyfateb i’r rhai a gadwyd ar gofnod yn flaenorol |
| 11 | Ar ôl dilysu’r llofnodion a’r dyddiadau geni, mae'r datganiadau pleidleisio drwy’r post yn cael eu tynnu oddi ar y byrddau |
| 12 | Bydd y staff yn agor yr amlenni papur pleidleisio (amlen A) ac yn tynnu'r papur pleidleisio allan |
| 13 | Bydd y staff yn gwirio bod y rhif ar gefn y papur pleidleisio yn cyfateb i’r rhif ar yr amlen papur pleidleisio (amlen A) |
| 14 | Mae papurau pleidleisio dilys (nid pleidleisiau) yn cael eu cyfrif a chyfanswm y nifer yn cael ei gofnodi |
| 15 | Mae’r holl bapurau pleidleisio dilys yn cael eu rhoi mewn blychau pleidleisio a’u storio ac yna’n cael eu danfon i’r lleoliad cyfrif i’w cyfrif ar ôl cau'r bleidlais |
Paru datganiadau pleidleisio drwy’r post gyda phapurau pleidleisio drwy’r post
Cynhelir rhestrau o unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd dros dro, gan gynnwys:1
- unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post sydd wedi'i ddychwelyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
- unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post sydd heb ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio drwy'r post.
Bydd y rhestrau hyn yn cael eu gwirio yn rheolaidd i sicrhau, os gellir cyfateb unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, bod y papurau pleidleisio drwy’r post hynny’n cael eu hailgyflwyno i’r broses.
- 1. Atodlen 2, paragraff 26, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Datganiadau pleidleisio drwy’r post annilys ac a wrthodwyd
Y papurau pleidleisio dilys yw'r papurau pleidleisio hynny y mae eu datganiad pleidleisio drwy'r post cysylltiedig wedi pasio'r gwiriadau llofnod a dyddiad geni.
Nid oes angen i nifer fach iawn o bleidleiswyr lofnodi eu datganiad pleidleisio drwy’r post. Bydd y pleidleiswyr hyn wedi cael caniatâd i hepgor oherwydd nad ydynt yn gallu llofnodi na darparu llofnod cyson oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. Bydd y datganiad pleidleisio drwy’r post a anfonir at etholwyr o’r fath yn egluro hyn yn glir.
Mae papurau pleidleisio annilys yn cael eu rhoi o’r neilltu a’u storio mewn pecynnau diogel.
Oni bai y rhoddir caniatâd i hepgor, bydd datganiad pleidleisio drwy’r post yn cael ei wrthod os oes llofnod a/neu ddyddiad geni ar goll, neu os nad yw llofnod a/neu ddyddiad geni yn cyfateb i’r hyn a roddwyd yn flaenorol gan yr etholwr ac a gadwyd ar gofnod.
Mae datganiadau sy’n cael eu gwrthod yn cael eu hatodi i’r papurau pleidleisio perthnasol neu’r amlen papur pleidleisio. Mae’r rhain yn cael eu marcio gyda ‘gwrthodwyd’ yn Gymraeg a 'rejected' yn Saesneg.
Gall asiantiaid wrthwynebu’r penderfyniad i wrthod unrhyw bleidlais bost ac os felly, bydd y geiriau ‘gwrthwynebwyd y gwrthodiad’ yn Gymraeg a 'rejection objected to' yn Saesneg yn cael eu hychwanegu ati. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad yn derfynol a bydd y bleidlais bost yn parhau i gael ei gwrthod.
Y Diwrnod Pleidleisio
Y Diwrnod Pleidleisio yw’r diwrnod y bydd gorsafoedd pleidleisio’n agor a bydd etholwyr yn ymweld â nhw i fwrw eu pleidleisiau yn bersonol. Dyma’r diwrnod olaf hefyd y gall Swyddogion Canlyniadau ac unrhyw ddirprwyon dderbyn pleidleisiau post a ddychwelwyd. Weithiau, gelwir y diwrnod pleidleisio yn ddiwrnod etholiad.
Mae’r canllaw’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- Lleoliadau gorsafoedd pleidleisio a’r broses bleidleisio
- Pwy all eich cefnogi ar y diwrnod pleidleisio (gan gynnwys asiantiaid pleidleisio a rhifwyr)
- Yr hyn y cewch ac na chewch chi a'ch ymgyrchwyr ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
- Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau.
Gorsafoedd pleidleisio
Mae gan ymgeiswyr rhestr plaid, ymgeiswyr unigol ac asiantiaid etholiad yr hawl i arsylwi gweithrediadau oddi mewn i orsafoedd pleidleisio.1 Yn ychwanegol, mae’n bosibl penodi asiantiaid i fynd i orsafoedd pleidleisio ar eich rhan.2 Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar benodi asiantiaid pleidleisio.
Dod o hyd i leoliad gorsafoedd pleidleisio
Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau roi hysbysiad cyhoeddus o leoliad y gorsafoedd pleidleisio erbyn 4pm, 18 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.3 Byddant yn rhoi copi o’r hysbysiad hwn i bob asiant etholiad a benodwyd yn fuan ar ôl hyn.
Oriau agor gorsafoedd pleidleisio
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor ar y diwrnod pleidleisio rhwng 7am a 10pm. Bydd unrhyw bleidleiswyr sy’n aros mewn ciw yn eu gorsaf bleidleisio am 10pm yn cael pleidleisio, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael papur pleidleisio eto.
- 1. Rheol 41(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 38, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 31, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 3
Pwy all bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio?
Mae’r mwyafrif o bobl yn dewis pleidleisio wyneb yn wyneb yn eu gorsaf bleidleisio. Gall unrhyw berson ar gofrestr etholiadol yr orsaf bleidleisio fwrw pleidlais yn yr orsaf bleidleisio mewn etholiad Senedd, oni bai:
- ei fod yn bleidleisiwr post cofrestredig
- ei fod yn bleidleisiwr drwy ddirprwy cofrestredig ac mae ei ddirprwy eisoes wedi pleidleisio ar ei ran neu wedi gwneud cais i bleidleisio ar ei ran drwy'r post
- ei fod yn iau nag 16 mlwydd oed ar y diwrnod pleidleisio
- ei fod wedi cofrestru fel etholwr tramor.
Bydd etholwyr yn cael cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad yn dweud wrthynt ble a phryd y gallant bleidleisio. Nid oes angen i etholwyr fynd â’u cerdyn pleidleisio i’r orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio, oni bai eu bod wedi’u cofrestru’n ddienw oherwydd risgiau i’w diogelwch.
Dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy’r post
Ni ellir rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr post cofrestredig yn yr orsaf bleidleisio, ond gallant ddychwelyd eu pecyn pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau i’w gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Fel arall, gallant ddychwelyd eu pleidlais bost i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr etholaeth neu drwy ei rhoi trwy law i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy.
Rhaid i becynnau pleidleisio drwy’r post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio gael eu rhoi i staff yr orsaf bleidleisio ac ni ddylid eu rhoi yn y blwch pleidleisio.
Beth yw’r broses bleidleisio arferol?
Mae’r broses bleidleisio arferol mewn gorsaf bleidleisio yn syml a gellir ei chrynhoi fel a ganlyn:
Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn:
- gofyn i bleidleiswyr gadarnhau eu henw a’u cyfeiriad cyn sicrhau eu bod yn gymwys i bleidleisio drwy wirio yn erbyn y gofrestr etholwyr
- nodi marc yn erbyn cofnod y pleidleisiwr ar y gofrestr etholwyr
- galw rhif ac enw’r etholwr
- ychwanegu rhif yr etholwr at restr (y Rhestr Rhifau Cyfatebol) wrth ymyl rhif y papur pleidleisio sydd i’w gyflwyno
- sicrhau bod y marc swyddogol ar y papur pleidleisio (e.e. cod bar neu ddyfrnod)
- plygu'r papur pleidleisio a'i roi heb ei blygu i'r pleidleisiwr fel y gall weld yr holl opsiynau ar y papur pleidleisio
Yna, bydd yr etholwr yn:
- mynd â'r papur pleidleisio i'r bwth pleidleisio ac yn marcio'r papur pleidleisio yn breifat, oni bai bod cydymaith neu'r Swyddog Llywyddu yn rhoi cymorth
- plygu'r papur pleidleisio wedi'i farcio a dangos rhif y papur pleidleisio a'r marc adnabod unigryw ar gefn y papur pleidleisio i'r Swyddog Llywyddu
- rhoi'r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ac yn gadael yr orsaf bleidleisio
Hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio
Mae gan y Swyddog Canlyniadau gyfrifoldeb i sicrhau bod pleidleisio’n hygyrch. Mae’n rhaid iddo ddarparu amrywiaeth o gyfarpar ym mhob gorsaf bleidleisio fel sy’n rhesymol at y dibenion o alluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu wneud hynny’n haws iddynt.
Gall y Swyddog Llywyddu roi cymorth i unrhyw un na all farcio’r papurau pleidleisio eu hunain.1
Fel arall, gall pleidleisiwr ddod â rhywun mae’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i’w helpu i farcio ei bleidlais. Rhaid i’r person sy’n cynorthwyo’r pleidleisiwr fod yn 16 oed neu'n hŷn. Gall person gynorthwyo hyd at ddau bleidleisiwr yn yr etholiad.2
Rhaid i unrhyw berson sy’n mynd i’r orsaf bleidleisio i gynorthwyo etholwr gwblhau datganiad i’r Swyddog Llywyddu cyn iddo gynorthwyo’r etholwr yn y bwth pleidleisio.
- 1. Rheol 47, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 48, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Beth sy’n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau?
Ar ôl i bob pleidleisiwr sydd wedi cael papur pleidleisio fwrw ei bleidlais, caiff y blwch pleidleisio ei selio gan y Swyddog Llywyddu a gall asiantiaid pleidleisio ychwanegu eu sêl eu hunain os ydynt yn dymuno. Ar ôl i’r Swyddog Llywyddu gwblhau’r holl waith papur, caiff y blwch pleidleisio wedi’i selio ei gludo i’r lleoliad cyfrif.1
- 1. Rheol 55, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 1
Casglu pleidleisiau post o’r orsaf bleidleisio
Gall y Swyddog Canlyniadau drefnu i unrhyw bleidleisiau post a gyflwynwyd gan etholwyr mewn gorsafoedd pleidleisio gael eu casglu drwy gydol y diwrnod pleidleisio. Rhaid i’r Swyddog Llywyddu selio unrhyw bleidleisiau post a ddychwelwyd mewn pecyn cyn iddynt gael eu casglu. Gall unrhyw asiant sy’n bresennol ychwanegu ei sêl ei hun at y pecyn os yw’n dymuno.1
- 1. Rheoliad 19(4), Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 1
Pwy all eich cefnogi ar y diwrnod pleidleisio?
Ar y diwrnod pleidleisio, gallwch gael cefnogaeth gan ymgyrchwyr, asiantiaid pleidleisio, ac efallai y byddwch hefyd yn bwriadu defnyddio rhifwyr.
Mae'r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am:
- asiantiaid pleidleisio a sut i'w penodi
- rôl rhifwyr
- y gofyniad i gynnal cyfrinachedd y bleidlais
- yr hyn y caiff ac na chaiff ymgeiswyr a'u cefnogwyr ei wneud ar y diwrnod pleidleisio.
Asiantiaid pleidleisio
Er y gall asiant pleidleisio arsylwi’r bleidlais, nid oes rhaid iddo fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio er mwyn i'r pleidleisio a'r gweithdrefnau perthnasol ddigwydd. Mae gan asiantiaid pleidleisio nifer o rolau pwysig i'w chwarae ar y diwrnod pleidleisio. Gallant:
- fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio cyn i'r bleidlais agor er mwyn gwylio'r Swyddog Llywyddu yn dangos y blwch pleidleisio gwag cyn iddo gael ei selio
- canfod cambersonadu ac atal pobl rhag pleidleisio mwy nag unwaith yn yr etholiad (ac eithrio fel dirprwyon). Cambersonadu yw pan fydd unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall, p'un a yw'r person hwnnw’n fyw, yn farw neu’n ddychmygol
- bod yn bresennol pan fydd y Swyddog Llywyddu yn marcio papur pleidleisio ar gais etholwr sydd angen cymorth i farcio papur pleidleisio oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu
- rhoi gwybod i chi neu i’ch asiant etholiad am unrhyw weithgareddau amhriodol a chadw nodiadau, os oes angen, ar gyfer rhoi tystiolaeth yn y llys
- bod yn bresennol ar ddiwedd y pleidleisio pan gaiff yr amrywiol becynnau o ddogfennau eu selio
- atodi eu sêl i unrhyw becynnau a roddwyd at ei gilydd gan y Swyddog Llywyddu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys y blwch pleidleisio. Ni ellir atodi seliau asiantiaid pleidleisio i flychau pleidleisio ar ddechrau nac yn ystod y pleidleisio
Penodi asiantiaid pleidleisio
Gall asiantiaid etholiad ar gyfer rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol benodi pobl fel asiantiaid i fynd i'r gorsafoedd pleidleisio.1
Gellir penodi unrhyw un fel asiant pleidleisio, ar yr amod nad yw'n:2
- Swyddog Canlyniadau neu'n aelod o’i staff
- partner neu glerc i’r Swyddog Canlyniadau, neu'n aelod o’u staff
- unrhyw un nad oes ganddynt yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiad neu euogfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19833
Gall asiantiaid etholiad ar gyfer rhestrau plaid, ymgeiswyr unigol a’u hasiant etholiad hefyd wneud unrhyw beth y mae gan asiant pleidleisio yr hawl i’w wneud heb fod angen penodiad swyddogol.4
Gellir penodi unrhyw nifer o asiantiaid pleidleisio i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, ond dim ond un asiant pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd unigol neu restr plaid all fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio ar unrhyw adeg.5 Gellir penodi asiant pleidleisio i fynd i nifer o orsafoedd pleidleisio.
Gall is-asiantiaid hefyd fynd i’r bleidlais, ond dim ond yn lle’r asiant etholiad.
Rhaid penodi asiantiaid pleidleisio ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.6 Rhaid i’r cais i benodi’r asiantiaid hyn gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig i’r Swyddog Canlyniadau perthnasol. Rhaid iddo gynnwys enwau, cyfeiriadau post ac, os ydynt ar gael, cyfeiriadau e-bost y bobl sy’n cael eu penodi.7 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn darparu ffurflenni y gellir eu defnyddio ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflen penodi asiant pleidleisio y Comisiwn.
Os yw asiant pleidleisio’n marw neu’n methu â gweithredu, gellir penodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno’r ffurflen benodi berthnasol i’r Swyddog Canlyniadau. Rhaid i unrhyw benodiad newydd dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.8
- 1. Rheol 38, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 73, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 118, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 39(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 41(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 38(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 38(3), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheol 38(5), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 8
Rhifwyr
Pobl sy’n sefyll y tu allan i orsafoedd pleidleisio ac yn cofnodi rhifau etholwyr yr etholwyr sydd wedi pleidleisio yw rhifwyr. Yna, gallant nodi cefnogwyr tebygol nad ydynt wedi pleidleisio a’u hannog i bleidleisio cyn diwedd y cyfnod pleidleisio.
Nid oes gan rifwyr unrhyw statws cyfreithiol a gall pleidleiswyr wrthod rhoi gwybodaeth iddynt. Y Swyddog Canlyniadau sy’n gyfrifol am gynnal yr etholiad. Os ydynt yn bryderus am weithgareddau rhifwyr, gallant ofyn i’r rhifwyr gydymffurfio ag ymddygiad y cytunwyd arno neu adael y lleoliad pleidleisio.
Rydym wedi llunio taflen ffeithiau o'r hyn y caiff ac na chaiff rhifwyr ei wneud, yn ogystal â chanllawiau mwy cynhwysfawr ar weithgareddau rhifwyr. Bwriad y canllawiau yw sicrhau bod pawb yn gwybod yn union beth sy’n dderbyniol a beth sy'n annerbyniol ac maent wedi’u cynllunio i hyrwyddo safonau ymddygiad priodol.
Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd ddarparu ei arweiniad ei hun i rifwyr.
Cynnal cyfrinachedd y bleidlais
Mae gan unrhyw un sy’n mynd i orsaf bleidleisio ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y bleidlais.1 Yn benodol, ni ddylid datgelu’r wybodaeth ganlynol:
- enw neu rif etholiadol y sawl sydd wedi pleidleisio neu heb bleidleisio
- y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar y papurau pleidleisio.
Ni ddylai unrhyw un sy’n mynd i orsaf bleidleisio geisio cael gwybod sut mae pleidleisiwr wedi pleidleisio neu dros bwy y mae ar fin pleidleisio.
Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o’r gofrestr etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapurau pleidleisio. Os yw’r asiant pleidleisio yn gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio, bydd angen iddo adael y copi o’r gofrestr a farciwyd yn yr orsaf bleidleisio i sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd.
Gall unrhyw berson sy’n cael ei ddyfarnu’n euog o dorri’r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy ddigyfyngiad, neu gallant gael eu carcharu am hyd at chwe mis.
- 1. Erthygl 35, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 1
Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Sicrhewch y canlynol:
- bod pob rhifwr yn dilyn ein canllawiau ar yr hyn y caiff ac na chaiff rhifwyr ei wneud ac unrhyw arweiniad a roddwyd gan y Swyddog Canlyniadau
- bod ymgyrchwyr yn dilyn y Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd yr Alban, Senedd Cymru, cynghorau’r Alban ac etholiadau lleol Cymru sy’n nodi’r hyn a ystyrir yn ymddygiad derbyniol ac annerbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned
- bod unrhyw gyngor ychwanegol ar ddiogelwch a ddarparwyd gan y Swyddog Canlyniadau yn cael ei ddilyn
- y cydymffurfir ag unrhyw geisiadau gan staff gorsafoedd pleidleisio a swyddogion canlyniadau o ran ymgyrchu wrth orsafoedd pleidleisio –
- bod unrhyw asiantiaid sy’n mynd i orsafoedd pleidleisio, sesiynau agor pleidleisiau drwy’r post neu’r cyfrif yn deall y rheolau o ran cyfrinachedd y bleidlais - am ragor o wybodaeth, gweler ein dogfennau sy’n nodi gofynion cyfrinachedd y bleidlais, pleidleisio drwy’r post a’r cyfrif, yn Gymraeg a Saesneg.
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- ymgyrchu ger mannau pleidleisio mewn ffordd y gallai pleidleiswyr ei hystyried yn ymosodol neu’n fygythiol (er enghraifft, grwpiau mawr o gefnogwyr yn cario baneri, neu gerbydau gyda seinyddion neu wedi’u brandio’n drwm â deunydd ymgyrchu).
- torri gofynion cyfrinachedd y bleidlais.1 Mae hyn yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth fodern ac mae achosion o dorri rheolau yn cael eu cymryd o ddifrif.
- ceisio canfod a chyhoeddi sut mae pleidleisiau wedi cael eu marcio ar bapurau pleidleisio unigol, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn bresennol mewn sesiynau agor pleidleisiau post.
- cyhoeddi arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio nac unrhyw ddata arall sy’n seiliedig ar wybodaeth a roddwyd gan bobl ynghylch sut y gwnaethant bleidleisio ar ôl iddynt fwrw eu pleidlais, gan gynnwys pleidlais drwy’r post, cyn i’r pleidleisio ddod i ben.2
- 1. Erthygl 35, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 36, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. ↩ Back to content at footnote 2
Dilysu a Chyfrif
Mae’r adrannau canlynol yn rhoi canllawiau ar y broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau yn yr etholiad.
Mae’n cynnwys canllawiau ar y canlynol:
• pryd a ble bydd y cyfrif yn digwydd
• pwy all fod yn bresennol yn y cyfrif
• beth yw gwaith asiant cyfrif?
• dyletswydd i gynnal cyfrinachedd
• sut caiff pleidleisiau eu cyfrif
• beth os nad yw’r bleidlais ar bapur pleidleisio yn glir?
• papurau pleidleisio amheus
• datgan y canlyniad
Pryd a ble bydd y cyfrif yn digwydd
Y Swyddog Canlyniadau sy’n gyfrifol am ddilysu a chyfri’r pleidleisiau sydd wedi’u bwrw yn yr etholaeth.
Rhaid i Swyddogion Canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyfri’r pleidleisiau cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi gwybod i chi am yr union amser(oedd) a lleoliad(au).
Er ei bod yn bwysig sicrhau bod y broses gyfrif yn cael ei chynnal yn brydlon, mae hefyd yn bwysig sicrhau bod y broses honno'n arwain at ganlyniad cywir y gall pawb fod yn hyderus yn ei gylch.
Bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn rhoi cyfarwyddiadau neu wahoddiad gydag unrhyw ofynion sydd ganddynt ar waith ar gyfer presenoldeb. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am unrhyw fesurau diogelwch ychwanegol sydd ar waith, fel gofyn i’r rhai sy’n bresennol ddangos ID a chynnal gwiriadau bagiau cyn cael mynediad, yn ogystal â gwybodaeth am y safonau ymddygiad sy’n ddisgwyliedig gan y rhai sy’n bresennol. Dylech sicrhau eich bod chi ac unrhyw un arall sy’n dod gyda chi yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn. Gall methu â chydymffurfio â’r disgwyliadau hyn, neu unrhyw gyfarwyddiadau gan y Swyddog Canlyniadau, arwain atoch yn cael eich symud o’r lleoliad.
Pwy all fod yn bresennol yn y cyfrif?
Mae gan ymgeiswyr unigol ac ymgeiswyr rhestr plaid, a’u hasiantiaid etholiad (neu is-asiant yn lle asiant etholiad) yr hawl i fod yn bresennol mewn cyfrif. 1
Hefyd, gallwch wahodd un person arall i fod yn bresennol. Mae’r person hwn yn bresennol fel eich gwestai. Nid oes ganddo unrhyw bwerau na swyddogaethau.
Hefyd, gall yr asiant etholiad ar gyfer ymgeiswyr unigol a rhestrau plaid benodi asiantiaid cyfrif i fod yn bresennol yn y cyfrif. 2
Dylai pawb sy’n bresennol sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau.
- 1. Rheol 57, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 38, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Beth yw gwaith asiant cyfrif?
Mae gan asiantiaid cyfrif nifer o rolau pwysig i'w chwarae yn y cyfrif:
- maent yn arsylwi’r broses gyfrif ac yn gwneud yn siŵr ei bod yn gywir
- gallant dynnu sylw staff y cyfrif at unrhyw bapurau pleidleisio amheus
- os ydynt yn anghytuno â phenderfyniad i wrthod papur pleidleisio, gallant ofyn i’r papur pleidleisio gael ei farcio gyda’r geiriau 'gwrthwynebwyd y gwrthodiad' a/neu 'rejection objected to'
- os caiff cyfrif ei wahardd dros dro am unrhyw reswm neu os oes toriad yn y broses, gall asiantiaid cyfrif ychwanegu eu seliau pan fydd y blychau pleidleisio a'r amlenni'n cael eu selio.
Gall asiant etholiad rhestr plaid, ymgeisydd unigol a’i asiant wneud unrhyw beth y mae gan asiant cyfrif yr hawl i’w wneud.1
- 1. Rheol 39, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Penodi eich asiantiaid cyfrif
Gall asiant etholiad rhestr plaid ac unrhyw ymgeisydd unigol hefyd benodi pobl eraill fel asiantiaid i fod yn bresennol yn y cyfrif.1
Gellir penodi unrhyw un, ac eithrio'r rhai sydd wedi’u rhestru, i fod yn asiant cyfrif.
Ni chaniateir i’r bobl ganlynol fod yn asiantiaid cyfrif:2
- y Swyddog Canlyniadau, neu aelod o’i staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn benodol ar gyfer yr etholiad)
- dirprwy neu glerc y Swyddog Canlyniadau, neu aelod o’i staff
- swyddog awdurdod lleol y mae ei wasanaethau wedi eu rhoi at ddefnydd y Swyddog Canlyniadau
- partner neu glerc i unrhyw un o’r uchod
- unrhyw un nad oes ganddo'r hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiad neu euogfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Gall asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig ac ymgeisydd unigol a’i asiant wneud unrhyw beth y mae gan asiant cyfrif yr hawl i’w wneud.
Bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn rheoli’r broses o benodi asiantiaid cyfrif.
Bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn rhoi gwybod i chi'r uchafswm asiantiaid cyfrif y gellir eu penodi. Bydd asiantiaid etholiad i restrau plaid ac ymgeiswyr unigol yn cael penodi union yr un nifer.3
Rhaid i’r cais i benodi’r asiantiaid hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy a rhaid iddo gynnwys enwau, cyfeiriadau post a phan maent ar gael, cyfeiriadau e-bost y bobl sy'n cael eu penodi.4 Gall y Swyddog Canlyniadau ddarparu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn, neu gallwch ddod o hyd i ffurflenni penodi asiantiaid cyfrif ar wefan y Comisiwn.
Y dyddiad cau ar gyfer penodi asiantiaid cyfrif yw dim hwyrach na 5 diwrnod cyn y bleidlais.6
Os yw asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, gellir penodi asiant arall yn ei le.7 Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.8
Am ragor o wybodaeth am yr hyn y gall neu na all asiantiaid ei wneud a’r hyn y gallant ddisgwyl ei weld mewn sesiwn gyfrif, gweler ein canllawiau ar beth yw gwaith asiant cyfrif?
- 1. Rheol 38, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 73 ac Erthygl 118, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 38(2), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 38(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 6. Rheol 38(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 38(5), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheol 38(5), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
Dyletswydd i gynnal cyfrinachedd
Mae gan unrhyw un sy’n bresennol mewn sesiwn gyfrif ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y cyfrif.1 Yn benodol, ni ddylai unrhyw un sy’n bresennol:
- weld neu geisio gweld y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio
- trosglwyddo unrhyw wybodaeth a gafwyd yn y cyfrif i’r ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol y rhoddir unrhyw bleidlais iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
- 1. Rheol 35, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Sut fydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif
Cam 1 - Derbyn
Bydd staff yn danfon blychau pleidleisio o’r gorsafoedd pleidleisio i’r lleoliad dilysu.
Bydd y blychau pleidleisio yn cael eu cofrestru wrth iddynt gyrraedd
Cam 2 – Dilysu
Yn ystod y cam dilysu, mae pob blwch pleidleisio’n cael ei brosesu ar wahân i unrhyw flwch pleidleisio arall.
Fesul un, caiff yr holl flychau pleidleisio eu gwagio ar fyrddau a dangosir y blychau gwag i asiantiaid.
Mae staff yn cyfrif nifer y papurau pleidleisio sydd ym mhob blwch o bob gorsaf bleidleisio.
Mae staff yn gwirio bod nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch pleidleisio yn cyfateb i nifer y papurau a roddwyd, fel y cofnodwyd ar gyfrifon papurau pleidleisio'r Swyddog Llywyddu.
Yn ystod y cam dilysu, caiff y papurau pleidleisio eu cadw wyneb i fyny.
Mewn achos o unrhyw anghysondeb rhwng nifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio a’r gwaith papur a gwblhawyd gan y Swyddog Llywyddu, bydd y rhesymau dros unrhyw anghysondeb yn cael eu pennu a bydd cyfanswm terfynol wedi ei ddilysu yn cael ei gynhyrchu.
Bydd datganiad o’r dilysiad yn cael ei gynhyrchu. Gall asiantiaid weld neu gopïo’r datganiad hwn os ydynt yn dymuno.1
Os na fydd y cyfrif yn digwydd yn syth ar ôl y cam dilysu, bydd y blychau wedi’u dilysu yn cael eu storio’n ddiogel. Gall asiantiaid cyfrif atodi eu seliau i'r blychau os ydynt yn dymuno.2
Cam 3 - Cyfrif y pleidleisiau
Cyn i'r cyfrif ddechrau, rhaid cymysgu papurau pleidleisio drwy'r post â phapurau pleidleisio eraill o o leiaf un blwch pleidleisio a rhaid cymysgu papurau pleidleisio o orsaf bleidleisio â phapurau pleidleisio o o leiaf un blwch pleidleisio gorsaf bleidleisio arall.3
Mae staff yn trefnu papurau pleidleisio yn ôl plaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol.
Mae staff yn cyfrif nifer y pleidleisiau sydd wedi eu bwrw i bob plaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol.
Mae modd rhannu cyfanswm nifer y pleidleisiau sydd heb ei gadarnhau gydag ymgeiswyr rhestr plaid a’r asiant etholiad ar gyfer y rhestr plaid honno, ymgeiswyr unigol, eu hasiant etholiad, ac unrhyw asiantiaid cyfrif a benodwyd.
Ailgyfrif 4
Gall ymgeiswyr rhestr plaid a’r asiant etholiad ar gyfer y rhestr plaid honno, ymgeiswyr unigol, eu hasiant etholiad ac yn eu habsenoldeb, asiant cyfrif a benodwyd ganddyn nhw ofyn i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy ailgyfrif y pleidleisiau.
Gellir gwrthod ailgyfrif os yw’r cais yn afresymol.
- 1. Rheol 58(5), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 59, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 58(10), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 61, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Beth os nad yw’r bleidlais ar y papur pleidleisio yn glir?
Ni chaiff papur pleidleisio ei gyfrif os: 1
- nad yw wedi ei farcio
- nad yw'n cynnwys y marc swyddogol
- yw’n cynnwys mwy nag un bleidlais
- yw’n cynnwys unrhyw farc neu ysgrifen sy'n gallu datgelu pwy yw'r pleidleisiwr
- nad yw’n dangos yn sicr beth yw bwriad y pleidleisiwr
Llunnir datganiad i ddangos nifer y papurau pleidleisiau a wrthodwyd am y rhesymau hyn.2
Bydd y geiriau ‘gwrthodwyd’ a/neu ‘rejected’ yn cael eu nodi ar unrhyw bapur pleidleisio a wrthodwyd.3 Rhaid i’r geiriau ‘gwrthwynebwyd y gwrthodiad’ a/neu ‘rejection objected to’ gael eu hychwanegu os yw asiant cyfrif yn gwrthwynebu’r penderfyniad.
Os yw bwriad y pleidleisiwr yn glir ar bapur pleidleisio ac nad oes modd adnabod y pleidleisiwr drwy unrhyw farc neu ysgrifen, ni fydd yn cael ei wrthod os yw pleidlais wedi ei marcio:
- yn rhywle arall heblaw am y lle priodol
- drwy ddull gwahanol i groes (e.e. tic)
- gyda mwy nag un marc
Papurau pleidleisio amheus
Rydym wedi llunio canllawiau ar sut i ddyfarnu pleidleisiau ar bapurau pleidleisio a all ymddangos yn amheus. Mae’r canllawiau hyn i’w gweld yn ein llyfryn Delio gyda phapurau pleidleisio amheus. Rydym hefyd wedi cynhyrchu matiau bwrdd papur pleidleisio amheus y gall staff sy’n dyfarnu papurau pleidleisio gyfeirio atynt yn y cyfrif.
Mae’r enghreifftiau a roddir yn y rhain yn seiliedig ar reolau’r etholiad.
Noder, er ein bod yn darparu canllawiau, y Swyddog Canlyniadau neu ei ddirprwyon sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud penderfyniad ar bapurau pleidleisio unigol. Mae penderfyniad i wrthod papur pleidleisio penodol yn ystod y cyfrif neu’r ailgyfrif yn derfynol a dim ond mewn deiseb etholiadol ar ôl i’r canlyniad gael ei ddatgan y gellir ei adolygu.4 I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.
- 1. Rheol 60(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 60(7) ac (8), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 60(5), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 62, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Pryd a ble bydd cyfrifo’r canlyniad yn digwydd?
Y Swyddog Canlyniadau sy’n gyfrifol am gyfrifo canlyniadau’r bleidlais.1
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi gwybod i chi am yr union amser a’r lleoliad y bydd y cyfrifo'n digwydd.2
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi cyfarwyddiadau neu wahoddiad gydag unrhyw ofynion sydd ganddynt ar waith ar gyfer presenoldeb. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am unrhyw fesurau diogelwch ychwanegol sydd ar waith, fel gofyn i’r rhai sy’n bresennol ddangos ID a chynnal gwiriadau bagiau cyn cael mynediad, yn ogystal â gwybodaeth am y safonau ymddygiad sy’n ddisgwyliedig gan y rhai sy’n bresennol. Dylech sicrhau eich bod chi ac unrhyw un arall sy’n dod gyda chi yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn.
- 1. Rheol 63(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 63(2), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Pwy all fod yn bresennol adeg cyfrifo’r canlyniad?
Mae gan ymgeiswyr unigol, ymgeiswyr rhestr plaid a’u hasiantiaid etholiad yr hawl i fod yn bresennol. 1
Yn ychwanegol, gall pob rhestr plaid a phob ymgeisydd unigol wahodd un person arall i fod yn bresennol. Mae’r person hwn yn bresennol fel eich gwestai. Nid oes ganddo unrhyw bwerau na swyddogaethau.
Dylech sicrhau eich bod chi a’ch holl westeion yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau.
- 1. Rheol 63(3), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Dyrannu seddi
Dyrennir chwe sedd i bob etholaeth i'w llenwi. Bydd y seddi’n cael eu dyrannu ar sail nifer y pleidleisiau y mae pob ymgeisydd unigol neu blaid yn eu cael, gan ddefnyddio fformiwla fathemategol d’Hondt. 1
Mae’r fformiwla hon yn gweld nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth ar gyfer pob plaid yn cael ei rhannu â nifer y seddi etholaethol y maent wedi’u hennill, plws un. Ni chaiff cyfanswm pleidleisiau'r ymgeiswyr unigol eu rhannu ar unrhyw adeg. Yn syml, maent yn ennill sedd os oes ganddyn nhw’r cyfanswm uchaf o bleidleisiau yn unrhyw rownd.
Mae cyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi’u bwrw ar gyfer pob plaid a phob ymgeisydd unigol yn cael ei adnabod fel y ffigwr dyraniad seddi ar gyfer yr ymgeisydd unigol neu’r blaid honno.2
Dyrannir y sedd gyntaf i’r ymgeisydd unigol neu’r blaid gofrestredig sydd â’r ffigwr dyraniad seddi uchaf.3
Cyfrifir dyraniadau'r ail i'r chweched sedd gan rannu cyfanswm nifer y pleidleisiau a gafodd pob plaid neu ymgeisydd unigol gyda nifer y seddi sydd eisoes wedi'u dyrannu iddo. Ar ôl i ymgeisydd unigol gael sedd, neu ar ôl i blaid gael cynifer o seddi ag sydd ar gael ar ei rhestr, byddant yn cael eu tynnu o’r cyfrifiad ar gyfer dyrannu’r seddi sy’n weddill.4
Ailgyfrifo
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhannu’r canlyniad heb ei gadarnhau gyda’r asiant etholiad ar gyfer pob plaid wleidyddol gofrestredig neu, yn absenoldeb yr asiant, un o’r ymgeiswyr rhestr plaid, pob ymgeisydd unigol neu eu hasiant.5
Gall asiant etholiad neu ymgeisydd unigol ofyn i’r Swyddog Canlyniadau ailgyfrifo’r canlyniad. Gall y Swyddog Canlyniadau wrthod gwneud hynny os yw’r cais yn afresymol.6
Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar y cam hwn i ofyn am ailgyfrif pleidleisiau.
Pleidleisiau cyfartal
Os yw’r ffigwr dyraniad seddi uchaf yr un fath ar gyfer dau neu ragor o bleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr unigol, rhaid i’r Swyddog Canlyniadau benderfynu rhyngddyn nhw drwy ddewis ar hap.7
- 1. Adrannau 8 a 9, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 9 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 9 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 9(5) a 9(6) Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 63(6), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 63(7), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 9(9), Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ↩ Back to content at footnote 7
Datgan y canlyniad
Yn Gymraeg a Saesneg, bydd y Swyddog Canlyniadau yn:1
- cyhoeddi'r ymgeiswyr unigol a’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd wedi cael sedd
- cyhoeddi enwau’r ymgeiswyr rhestr plaid a fydd yn llenwi’r seddi
- datgan y rhestr plaid a’r ymgeiswyr unigol sydd wedi eu hethol
Gall y Swyddog Canlyniadau ddefnyddio enwau cyffredin wrth ddatgan y canlyniad, pan mae datganiad o bleidiau a phobl a enwebwyd yn dangos bod ymgeisydd yn defnyddio enw cyffredin.2
Bydd y Swyddog Canlyniadau hefyd yn cyhoeddi hysbysiad yn datgan:3
- enw unrhyw ymgeisydd rhestr plaid a etholwyd ynghyd ag enw’r blaid wleidyddol
- enw unrhyw ymgeisydd unigol
- cyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob plaid wleidyddol a phob ymgeisydd unigol
- nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd
Efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau yn defnyddio enwau cyffredin wrth gyhoeddi’r canlyniad pan fod datganiad o bleidiau a phobl a enwebwyd yn dangos bod ymgeisydd yn defnyddio enw cyffredin.4
Efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau yn caniatáu i ymgeiswyr wneud areithiau ar ôl datgan y canlyniad. Gwiriwch y trefniadau gyda’ch Swyddog Canlyniadau. Dylech sicrhau eich bod chi a’ch cefnogwyr yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau ynghylch y safonau ymddygiad sy’n ofynnol yn ystod cyhoeddiadau llafar.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar ôl cyhoeddi’r canlyniad, gweler ein canllawiau ar yr hyn sy’n digwydd ar ôl yr etholiad.
- 1. Rheol 64(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 64(5), Atodlen 5, Gorchmyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 64(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 64(5), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Ar ôl yr etholiad
Mae’r adran hon yn nodi’r hyn sy’n digwydd ar ôl yr etholiad. Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- gyflwyno eich ffurflen wariant a’r terfynau amser cysylltiedig ar gyfer ymgeiswyr unigol
- cyflwyno eich datganiad treuliau personol ar gyfer ymgeiswyr rhestr plaid
- dychwelyd ernes
- mynediad at a chyflenwi dogfennau etholiad
- deisebau etholiadol.
Terfynau amser - Ymgeiswyr unigol
Treuliau personol
Mae’n rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn gweithredu fel asiant arnynt eu hun ddarparu datganiad ysgrifenedig o’u treuliau personol i’w hasiant ddim hwyrach na 21 diwrnod calendr ar ôl datgan canlyniad yr etholiad.1
Anfonebau
Ar ôl yr etholiad, mae’n rhaid i’r asiant wneud yn siŵr:
- bod yr holl anfonebau yn cael eu derbyn ddim hwyrach na 21 diwrnod calendr ar ôl datgan canlyniad yr etholiad2
- bod yr holl anfonebau yn cael eu talu ddim hwyrach na 28 diwrnod calendr ar ôl datgan canlyniad yr etholiad3
Ffurflen a datganiadau
Mae’n rhaid i’r asiant gyflwyno’r canlynol i’r Swyddog Canlyniadau:
- ffurflen wariant yr etholiad sy’n adrodd manylion am wariant a rhoddion yr ymgeisydd
- datganiad sy’n cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred
ddim hwyrach na 35 diwrnod calendr ar ôl datgan canlyniad yr etholiad.4
Rhaid i’r asiant a’r ymgeisydd gyflwyno datganiadau i ddweud bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir.5 Mae ffurflenni datganiad ar wahân i wneud hyn. Os yw’r ymgeisydd yn gweithredu fel asiant arno’i hun, datganiad ymgeisydd yn unig sydd angen iddo’i lenwi.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn gweithredu fel asiant arnynt eu hun anfon datganiad at y Swyddog Canlyniadau ymhen saith diwrnod gwaith o gyflwyno’r ffurflen.6 Os yw’r ymgeisydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan mae angen cyflwyno’r datganiad, mae’r dyddiad i gyflwyno ei ddatganiad yn cael ei ymestyn i 14 diwrnod ar ôl ei ddychweliad.7
Hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian, mae’n rhaid ichi gyflwyno ffurflen.8 Gelwir hon yn ‘ffurflen nil’.
Mae oblygiadau i fethu â chyflwyno ffurflenni gwariant. Nodir y rhain yn Beth sy’n digwydd os na chaiff datganiad neu ffurflen wariant ei chyflwyno?
Noder, os yw dyddiad cyflwyno unrhyw rai o’r uchod yn disgyn ar benwythnos neu wyliau cyhoeddus, bydd y dyddiad cyflwyno yn symud i’r diwrnod gwaith nesaf. Mae hyn wedi’i gynnwys yn y cyfrifiadau dyddiadau cyflwyno canlynol.
| Dyddiad datgan y canlyniad | Dyddiad olaf i dderbyn eich anfonebau | Dyddiad olaf i dalu eich anfonebau | Dyddiad olaf i gyflwyno eich datganiad asiant a ffurflen |
|---|---|---|---|
| 8 Mai 2026 | 29 Mai 2026 | 5 Mehefin 2026 | 12 Mehefin 2026 |
| 9 Mai 2026 | 1 Mehefin 2026 | 8 Mehefin 2026 | 15 Mehefin 2026 |
Anfonebau a dderbynnir neu a delir tu hwnt i’r dyddiadau cyflwyno
Os nad ydych yn derbyn anfoneb ar gyfer eich gwariant ymgeisydd ymhen 21 diwrnod ar ôl i’r canlyniad gael ei ddatgan, yna ni ddylech ei thalu heb gael gorchymyn llys i wneud.9 Yn y gyfraith, cânt eu hadnabod fel ‘hawliadau nas talwyd’.
Yn debyg, os nad ydych yn talu anfoneb a dderbyniwyd ar amser ymhen 28 diwrnod calendr o’r dyddiad olaf i dderbyn anfonebau, ni ddylech ei thalu tu hwnt i’r cyfnod hwnnw heb gael gorchymyn llys i wneud.10 Yn y gyfraith, cânt eu hadnabod fel ‘hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch’.
Dylech dynnu sylw eich cyflenwyr at hyn.
Mae cael gorchymyn llys i dalu anfonebau a dderbyniwyd yn hwyr neu nas talwyd cyn y dyddiad olaf yn cael ei adnabod fel caniatâd talu. Gallwch chi neu’r cyflenwr sy’n gwneud cais i’r llys perthnasol i gael dyfarniad llys neu orchymyn am daliad gaffael y caniatâd i dalu. Mae gwneud taliad am yr hawliadau hyn heb gael caniatâd i dalu yn drosedd.11
Rhaid i unrhyw hawliad a delir:
- ar ôl y dyddiad cau 21 diwrnod am dderbynneb, neu
- ar ôl y dyddiad cau 28 diwrnod am daliadau
yn dilyn cais llwyddiannus i’r llys ac ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant etholiad, gael eu hadrodd yn ysgrifenedig i’r Swyddog Canlyniadau ymhen saith diwrnod o wneud y taliad a rhaid i gopi o’r gorchymyn llys eu hategu.12
Dylech hefyd anfon copi o’r Gorchymyn at y Comisiwn Etholiadol.
- 1. Erthygl 45(4) ac Erthygl 51(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 51(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 51(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 54(1) ac Erthygl 55(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 55(1) a (2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 55(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 55(3) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 54, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Erthygl 51(5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Erthygl 52(1) - (3) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Erthygl 51(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Erthygl 54(6) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 12
Cwblhau eich ffurflen gwariant - Ymgeiswyr unigol
Gelwir eich adroddiad rhoddion a gwariant yn ‘ffurflen gwariant’. Rhaid i’r asiant lenwi’r ffurflen gwariant.
Dylai’r ffurflen gynnwys y canlynol:
- ar gyfer beth oedd y gwariant - er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- y swm neu’r gwerth
- manylion ynghylch pryd gafodd ei ysgwyddo a’i dalu
- manylion am unrhyw daliadau nas talwyd neu y mae anghydfod yn eu cylch1
- manylion am unrhyw wariant tybiannol, a datganiad o’i werth2
- anfonebau neu dderbynebau am unrhyw daliad o £20 neu fwy3
- manylion am unrhyw dreuliau personol4
Mae’n arfer dda i gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych o werth gwariant tybiannol pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen.
Hefyd, mae’n rhaid i’r ffurflen gynnwys manylion am yr holl roddion sy’n fwy na £500 ac unrhyw wariant awdurdodedig ar ymgyrchu lleol.5 Mae rhagor o wybodaeth am y manylion y mae angen ichi adrodd amdanynt yn Gwariant i ymgeiswyr unigol a Rhoddion i ymgeiswyr unigol.
Mae hefyd rhaid i’r ymgeisydd a’r asiant lofnodi datganiad i gadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a’u cred.6 Eich cyfrifoldeb chi yw adrodd am wariant ymgeisydd yn llawn ac yn gywir.
Mae gwneud datganiad ffug yn fwriadol yn drosedd.7
Ffurflenni y bydd eu hangen arnoch:
Enghraifft o ffurflen gwariant wedi’i gwblhau
Rydym wedi cyhoeddi enghraifft o ffurflen gwariant ymgeisydd etholaethol i ddangos sut y gellid cwblhau un. Ni fwriedir iddi gael ei defnyddio i lenwi eich treuliau.
Mae'n cynnwys sylwadau sy'n tynnu sylw at gysylltiadau rhwng gwahanol rannau o'r ffurflen - er enghraifft rhywbeth a adroddir fel gwariant tybiannol, sydd hefyd yn cael ei adrodd fel rhodd.
- 1. Erthygl 54(4)(b) a (c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 54(4)(d), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 54(1)(b) ac Erthygl 44(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 54(4)(a)(i) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 54(2)(c) a (4)(f) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 55(1) a (2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 55(6) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
Beth fydd yn digwydd os na chyflwynir datganiad neu ffurflen wariant?
Mae methu â chyflwyno datganiad neu ffurflen wariant erbyn y terfyn amser heb esgus awdurdodedig yn drosedd.1
Mae gan y Comisiwn Etholiadol gylch gwaith cyfreithiol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau ar wariant a rhoddion ymgeiswyr, ond dim pwerau sancsiwn o ran diffyg cydymffurfio. Dylid cyfeirio unrhyw achosion tybiedig o dorri’r rheolau at yr heddlu.
Os yw:
- ymgeisydd unigol wedi’i ethol ond nad yw’r ffurflen wariant a/neu'r datganiad wedi eu cyflwyno erbyn y terfyn amser, neu
- mae ymgeisydd rhestr plaid wedi’i ethol ond nad yw’r datganiad o dreuliau personol wedi’i gyflwyno erbyn y terfyn amser
cânt eu gwahardd rhag sefyll neu bleidleisio a gallant fod yn destun i fforffed neu ddirwy o £100 y diwrnod os ydynt yn gwneud hynny.2
- 1. Erthygl 58, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 59, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Beth sy’n digwydd os nad ydych chi’n dilyn y rheolau?
Os na fyddwch chi’n cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol, mae’n bosib y byddwch yn destun i sancsiynau troseddol. Os byddwch chi’n ennill yr etholiad a bod rhywun yn llwyddo mewn deiseb etholiadol yn erbyn eich gweithgareddau ymgyrchu neu’ch adroddiadau, gallech gael eich gwahardd rhag dal y swydd.
Os byddwch yn cymryd rhoddion na allwch eu derbyn yn gyfreithlon, gallwn wneud cais i'r llysoedd iddynt gael eu fforffedu.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl reoleiddiol y Comisiwn ar gael yn: Gorfodi | Electoral Commission
Datganiad o dreuliau personol - Ymgeiswyr rhestr plaid
Ar ôl yr etholiad, rhaid i chi gyflwyno datganiad o dreuliau personol i'r Swyddog Canlyniadau. Rhaid cyflwyno hwn o fewn 35 diwrnod o gyhoeddi canlyniad yr etholiad.1 Ni ddylech gynnwys unrhyw dreuliau personol sydd wedi'u talu neu eu had-dalu gan y blaid yn y datganiad.2
Os byddwch y tu allan i'r Deyrnas Unedig pan fydd angen cyflwyno'r datganiad, caiff y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r datganiad ei ymestyn i nid yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl i chi ddychwelyd.3
Rhaid i chi barhau i gyflwyno datganiad hyd yn oed os nad ydych wedi ysgwyddo unrhyw dreuliau personol.
Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug yn ymwybodol.4
- 1. Erthygl 56(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erth. 56(3) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erth. 56(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erth. 56(4) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Dychwelyd Ernes
Bydd yr ernes a dalwyd gan neu ar ran unrhyw ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid gofrestredig sydd wedi derbyn mwy na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn yr etholiad yn cael eu hernes yn ôl gan y Swyddog Canlyniadau erbyn y diwrnod gwaith nesaf ar ôl datgan y canlyniad.1
Mae’r ymgeiswyr unigol a’r pleidiau cofrestredig hynny sydd wedi cael llai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn yr etholiad yn colli eu hernes.2
- 1. Atodlen 5, Rheol 65, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, Rheol 65, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
Llw Seneddol neu gadarnhad
Bydd y rhai sydd wedi’u hethol yn cael gwybodaeth ynghylch cymryd eu sedd fel Aelod o’r Senedd.
Cyn y gall person eistedd a phleidleisio yn y Senedd, rhaid iddo dyngu'r llw teyrngarwch neu roi cadarnhad i’r brenin.1 Bydd hyn yn digwydd ar ddechrau sesiwn newydd y Senedd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Senedd.
- 1. Adran 23, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ↩ Back to content at footnote 1
Beth sy'n digwydd i waith papur yr etholiad ar ôl cyhoeddi’r canlyniad
Ar ôl datgan y canlyniadau, bydd holl ddogfennau’r etholiad yn cael eu cadw'n ddiogel gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol (ERO) perthnasol am gyfnod o flwyddyn o’r diwrnod y mae’n eu derbyn.1
Mae’r rhan fwyaf o’r dogfennau ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio. Noder nad yw’r papurau pleidleisio ar gael i’r cyhoedd eu gweld.2
Archwilio a chyflenwi cofrestrau wedi'u marcio
Mae’r cofrestrau etholiadol a’r rhestrau o bleidleiswyr absennol a farciwyd yn dangos pwy sydd wedi cael papur pleidleisio, pwy sydd wedi dychwelyd eu papur pleidleisio drwy’r post, a phwy sydd wedi cael pleidlais drwy ddirprwy wedi’i bwrw ar eu rhan.
Gallwch archwilio neu gael gafael ar gopïau o’r gofrestr o etholwyr a rhestrau o bleidleiswyr absennol wedi’u marcio ar ôl yr etholiad os byddwch yn gwneud cais ysgrifenedig i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol. Mae’r manylion cyswllt ar gael ar ein gwefan.
Noder mai dim ond at ddibenion ymchwil neu etholiadol y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth a geir o’r dogfennau hyn.3
Gwneud cais i archwilio cofrestr a farciwyd
Rhaid i'r cais i archwilio gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi:4
- pa ddogfennau y gofynnir amdanynt
- at ba ddibenion y bydd y wybodaeth mewn unrhyw ddogfen yn cael ei defnyddio
- os gwneir y cais i archwilio'r gofrestr neu restrau a farciwyd, unrhyw reswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu restrau heb eu marcio yn ddigonol i gyflawni'r diben hwnnw
- pwy fydd yn archwilio'r dogfennau
- y dyddiad maent yn dymuno archwilio'r dogfennau
- a fyddai'n well ganddynt archwilio'r dogfennau ar ffurf argraffedig neu ar ffurf data
Bydd yr archwiliad dan oruchwyliaeth a bydd yn rhad ac am ddim. Ni fyddwch yn gallu gwneud copïau ond gallwch wneud nodiadau â llaw.
Gwneud cais i gyflenwi cofrestr a farciwyd5
Rhaid i’r cais i gyflenwi nodi:
- pa rai o'r cofrestrau neu'r rhestrau a farciwyd (neu'r rhan berthnasol o'r gofrestr neu'r rhestrau) y gwneir cais amdanynt
- p'un a ofynnir am gopi wedi’i argraffu o’r cofnodion neu’r rhestrau neu gopi ar ffurf data
- at ba ddibenion y bydd y gofrestr neu'r rhestrau a farciwyd yn cael eu defnyddio a pham na fyddai cyflenwi neu brynu copi o'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon i gyflawni'r diben hwnnw
Bydd y ddogfen y gofynnir amdani yn cael ei chyflenwi am ffi o £10 ynghyd â £2 (am fersiynau wedi’u hargraffu) neu £1 (am fersiynau data) fesul 1,000 o gofnodion.6
Noder y bydd y dogfennau hyn a gedwir gan yr ERO yn cael eu dinistrio ar ôl 12 mis, oni fydd gorchymyn llys yn dweud fel arall.7 Dan ddeddfwriaeth diogelu data, ni fydd data personol sy’n cael ei brosesu at unrhyw ddiben yn cael ei gadw am gyfnod hirach nag sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw. Os byddwch yn gwneud cais am unrhyw wybodaeth a restrir uchod, ac yn ei chael, ar ôl i’r diben ar gyfer casglu’r data hwn fynd heibio, bydd angen i chi ystyried a oes rheswm i chi gadw’r data hwnnw. Os nad oes rheswm, dylech sicrhau bod unrhyw ddata a gedwir yn cael ei ddinistrio’n ddiogel. Ni ellir archwilio papurau enwebu ar ôl yr etholiad. Yr unig gyfnod y gallant gael eu harchwilio yw yn ystod oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf o ddanfon papurau enwebu a’r diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.8
Archwilio dogfennau etholiadol eraill9
Gallwch archwilio dogfennau etholiadol eraill, ond ni chaniateir i chi wneud unrhyw nodiadau na gwneud copïau o’r dogfennau hyn. Yr unig ddogfennau na ellir eu harchwilio yw:10
- y papurau pleidleisio
- y rhestrau rhifau cyfatebol
- y tystysgrifau sy'n caniatáu i staff gorsafoedd pleidleisio fwrw pleidlais yn yr orsaf bleidleisio maent yn gweithio ynddi
Bydd holl ddogfennau’r etholiad a gedwir gan yr ERO yn cael eu dinistrio ymhen blwyddyn ar ôl iddynt gael eu derbyn, oni bai bod gorchymyn llys yn dweud fel arall.11
Archwilio datganiadau a ffurflenni gwariant etholiad
Mae datganiadau a ffurflenni gwariant yn cael eu cadw gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol. Gall unrhyw berson archwilio datganiadau a ffurflenni gwariant ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Gellir gwneud copïau hefyd am ffi o 20c fesul ochr.12
Cedwir datganiadau a ffurflenni gwariant am ddwy flynedd. Gallwch ofyn iddynt gael eu dychwelyd i chi neu eich asiant ar ddiwedd y cyfnod hwn. Os nad ydych chi neu eich asiant am eu cael yn ôl, bydd y datganiadau a'r ffurflenni gwariant yn cael eu dinistrio.13
- 1. Atodlen 5, Rheol 70, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 a Rheoliad 118, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 119, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 118(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 117, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 120(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 5, Rheol 70(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 5, Rheol 21(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheoliad 118, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 11, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 a Rheoliad 118, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 5, Rheol 70, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Erthygl 64(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Erthygl 64(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 13
Deisebau etholiadol
Gellir herio canlyniad etholiad Senedd Cymru drwy ddeiseb etholiadol.1
Cyflwyno deiseb etholiadol
Dim ond rhai pobl gaiff gyflwyno deiseb etholiadol, a dim ond dan amgylchiadau penodol.2
Mae modd i’r canlynol gyflwyno deiseb etholiadol:3
- rhywun sy’n honni ei fod wedi bod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
- rhywun sy'n honni bod ganddo'r hawl i gael ei ethol neu ei ddychwelyd yn yr etholiad, neu
- etholwr (nad yw’n etholwr cofrestredig dienw) a oedd â’r hawl i bleidleisio yn yr etholiad (er nad oes rhaid iddo fod wedi pleidleisio)
- rhywun sy’n honni bod ganddo'r hawl i gael ei ddychwelyd mewn perthynas â sedd wag berthnasol
Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb etholiadol yw bod y canlynol wedi digwydd:4
- etholiad amhriodol, neu
- ganlyniad amhriodol
Mae proses farnwrol ar wahân ar gyfer herio ethol Aelod o’r Senedd ar y sail ei fod wedi’i anghymhwyso, drwy wneud cais i’r Uchel Lys.5
Rhaid i’r Aelod, y mae ei ethol neu ei ddychweliad yn destun cwyn, fod yn ymatebydd i’r ddeiseb.6 Os yw’r ddeiseb yn cwyno am ymddygiad y Swyddog Canlyniadau neu ei staff yn ystod yr etholiad, rhaid i’r Swyddog(ion) Canlyniadau hefyd fod yn ymatebydd.7
Fel arfer, rhaid cyflwyno deiseb ymhen 21 diwrnod calendr ar ôl i enw’r ymgeisydd etholedig gael ei ddychwelyd i Glerc y Senedd.8 Fodd bynnag, os yw’r ddeiseb yn cwyno am arferion llwgr neu anghyfreithlon sy’n ymwneud â thalu arian neu wobr arall, neu am arfer anghyfreithlon sy’n ymwneud â gwariant etholiad, gellir caniatáu rhagor o amser.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â deisebau etholiadau, gan gynnwys i gadarnhau’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno deiseb etholiadol, dylech gysylltu â:
The Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL
E-bost: [email protected]
Rhif Ffôn: 0207 947 6877
Mae costau ynghlwm â deiseb etholiadol. Os ydych chi’n ystyried cyflwyno deiseb etholiadol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
- 1. Erthygl 87, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 89, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 89(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 87(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 19, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 89(3)(a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 89(3)(b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 90, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
Adnoddau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Ymgyrchu
Enwebiadau
Pleidleisiau post
Diwrnod pleidleisio
Dilysu a chyfrif
Ar ôl yr etholiad
Ymgeiswyr unigol:
Ymgeiswyr rhestr plaid: