Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin

Rhaid i chi lenwi eich enw llawn ar y ffurflen enwebu.

Os ydych:

  • yn defnyddio cyfenw neu enw cyntaf sy'n wahanol i unrhyw gyfenw neu enw cyntaf arall sydd gennych
  • yn defnyddio un enw cyntaf neu gyfenw neu fwy mewn ffordd wahanol i'r hyn a nodir ar eich ffurflen enwebu

gallwch nodi eich enw neu enwau a ddefnyddir yn gyffredin ar eich ffurflen enwebu yn ogystal â'r enwau llawn a ddarparwyd gennych.1

Er enghraifft, efallai fod pobl yn eich adnabod fel 'Andy', yn hytrach na'ch enw cyntaf llawn sef 'Andrew'. Yn yr achos hwnnw, gallwch ysgrifennu 'Andy' yn y blwch ‘enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin’ ar y papur enwebu, os byddai'n well gennych fod yr enw hwnnw’n ymddangos ar y papur pleidleisio.

Gallwch wneud cais i ddefnyddio enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin, cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, neu'r ddau.

Yna byddai unrhyw enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn ymddangos ar:

  • ddatganiad ynghylch y personau a enwebwyd
  • yr hysbysiad etholiad, a
  • y papurau pleidleisio

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gwrthod enwau a ddefnyddir yn gyffredin sy'n debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu sy'n anweddus neu'n sarhaus.2  Os na chaniateir yr enw(au), bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ysgrifennu atoch gan nodi'r rheswm dros hynny. Yn yr achosion hynny, defnyddir eich enw gwirioneddol, yn lle.

Os caiff y blwch ar gyfer enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar y papur enwebu ei adael yn wag, yna bydd eich enw cyntaf neu gyfenw gwirioneddol, yn dibynnu ar ba flwch ar gyfer enwau a ddefnyddir yn gyffredin a adawyd yn wag, yn cael ei ddefnyddio.

Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich ffurflen enwebu. Felly, os byddwch yn dewis rhoi enw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i chi sicrhau ei fod yn enw cyntaf neu'n gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin gennych.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Hydref 2024