| Argraffu'r canllawiau llawn

Enghreifftiau cyffredin o nawdd

Digwyddiadau a chiniawau codi arian

Bydd taliad a wneir tuag at dalu costau swper neu dderbyniad a drefnir gennych chi neu ar eich rhan yn cyfrif fel nawdd.

Er enghraifft, mae unigolyn yn talu £5,000 i noddi cinio a drefnir gan AS. Mae hyn yn cynnwys bwrdd yn y cinio i’r unigolyn a’i westeion.

Mae’n rhaid i’r AS wirio a yw’r unigolyn yn rhoddwr a ganiateir cyn iddo dderbyn y rhodd a chofrestru manylion y rhodd yn Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau.

Os ydych yn gwerthu tocynnau i ginio neu dderbyniad sydd wedi ei drefnu gennych chi neu ar eich rhan, ni fydd hyn yn cyfrif fel nawdd gan nad yw costau mynediad i ddigwyddiadau’n cyfrif fel nawdd.

Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn cyfrifo gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarparwyd yn y digwyddiad, gan y bydd y gwahaniaeth rhwng y gwerth a’r swm sy’n cael ei dalu i chi yn cyfrif fel rhodd nad yw’n nawdd os yw’r gwerth hwn yn fwy na £500.1

Er enghraifft, mae AS yn gwerthu tocynnau i'w cinio. Mae costau’r digwyddiad fel a ganlyn:

  • gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person: £30
  • pris tocyn: £120

Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person a’r swm a godir yn £90. Gan nad yw gwerth y rhodd yn fwy na £500 yn yr achos hwn, nid oes rhodd wedi ei gwneud.

Yn yr un digwyddiad, mae’r AS hefyd yn gwerthu byrddau i 10 o westeion.

  • gwerth marchnadol pob bwrdd: £300
  • pris y bwrdd: £1,000

Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth pob bwrdd a’r swm a godwyd yn £700. Bydd unrhyw un sy’n prynu bwrdd yng nghinio’r gynhadledd felly’n cyfrannu £700 i’r AS. Gan mai rhoddion gwerth mwy na £500 gan ffynhonnell a ganiateir yn unig y gall yr AS eu derbyn, dim ond y rhai a ganiateir fydd yn gallu prynu bwrdd.

Cyhoeddiadau

Os ydych chi’n derbyn taliadau tuag at gostau paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad mewn perthynas â’ch gweithgareddau gwleidyddol, bydd hyn yn cyfrif fel nawdd.

Er enghraifft, mae cwmni’n talu £12,000 i noddi cyhoeddiad gan AS i hyrwyddo polisïau o fewn y blaid. Mae hyn yn cynnwys enw a logo’r cwmni yn cael eu harddangos yn y cyhoeddiad a chael ei hyrwyddo fel partner ymchwil ar y cyd.

Mae’n rhaid i’r AS wirio a yw’r cwmni yn rhoddwr a ganiateir cyn iddo dderbyn y rhodd a chofrestru manylion y rhodd yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau.

Os ydych yn gwerthu hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol, ni fydd hyn yn nawdd gan nad yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol yn cyfrif fel nawdd.

Er mwyn cyfrifo a yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion mewn cyhoeddiad yn rhodd, rhaid i chi gyfrifo’r gyfradd fasnachol i godi tâl am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y gyfradd gyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.

Os bydd rhywun yn talu mwy na’r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad, bydd swm llawn y taliad yn cyfrif fel nawdd. Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn gymwys mwyach.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026