| Argraffu'r canllawiau llawn

Pa daliadau nad ydynt yn cyfrif fel nawdd?

Nid yw’r taliadau canlynol yn cyfrif fel nawdd:1

  • costau mynediad ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill 
  • pris prynu cyhoeddiadau, neu unrhyw gost arall i’w cyrchu
  • taliadau cyfradd masnachol ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau

Er nad yw’r taliadau hyn yn cyfrif fel nawdd, gallant yn hytrach fod yn fath gwahanol o rodd. Os nad yw taliad yn nawdd, dylech ystyried a yw’r taliad yn fath arall o rodd, er enghraifft, rhodd ariannol neu arian a wariwyd yn talu costau rydych wedi’u hysgwyddo.

Costau mynediad

Ni fydd costau mynediad ar gyfer eich digwyddiadau yn cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, tocynnau mynediad i gynadleddau neu ffi fynediad i fynychu digwyddiad a drefnwyd gennych chi neu ar eich rhan.

Fodd bynnag, os byddwch yn codi tâl neu’n cael eich talu mwy na gwerth y gwasanaeth a ddarperir yn y digwyddiad, bydd y swm ychwanegol hwn yn rhodd os yw hyn yn fwy na £500.2  Gweler yr enghreifftiau cyffredin o nawdd am ragor o enghreifftiau ac arweiniad ar hyn.

Hysbysebion mewn cyhoeddiadau

Ni fydd taliadau i roi hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol yn cael eu cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, gallwch greu cyhoeddiadau sy’n hyrwyddo polisïau i’r rhain gael eu mabwysiadu gan blaid. Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i hysbysebu mewn cyhoeddiadau’n unig ac nid yw’n cynnwys mathau eraill o hysbysebu, megis baneri digwyddiadau. 

Er mwyn cyfrifo a yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion mewn cyhoeddiad yn rhodd, rhaid i chi gyfrifo’r gyfradd fasnachol i godi tâl am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y gyfradd gyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.

Os bydd rhywun yn talu mwy na’r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad, bydd swm llawn y taliad yn cyfrif fel nawdd.3  Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn gymwys mwyach.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026