Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr, etholiadau lleol yn Lloegr ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Dylai ymgyrchwyr fod yn barod i roi datganiad i'r heddlu a chadarnhau unrhyw honiadau ynghylch twyll etholiadol.
Bydd yr heddlu yn ymchwilio i honiadau pan fydd rhywun yn barod i roi tystiolaeth neu ddatganiad yn cefnogi'r gŵyn, ond gall honiadau di-sail ynghylch twyll etholiadol wneud drwg i hyder yn uniondeb y broses etholiadol. Dylech sicrhau eich bod yn hyderus y gellir darparu tystiolaeth i'r heddlu cyn ystyried a yw'n briodol cyhoeddi unrhyw honiad penodol.
Raising concerns about electoral fraud
Dylai ymgyrchwyr sy'n pryderu neu sy'n credu bod twyll etholiadol wedi digwydd, godi'r mater gyda'u hasiant etholiad neu blaid leol, neu gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol neu Swyddog Canlyniadau yr ardal.
Mae'n bosibl y bydd yn gallu esbonio p'un a oes trosedd yn ymwneud ag etholiad wedi'i chyflawni ai peidio, a chyfeirio'r mater at yr heddlu os yw'n briodol neu ddarparu manylion swyddog cyswllt yr heddlu ar gyfer yr ardal berthnasol fel y gall ymgyrchwyr roi gwybod am yr honiad. Dylai pryderon ynghylch torri'r rheolau cyllid gwleidyddol gael eu mynegi i'r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol.
Reporting offences to the police
Dylai unrhyw ymgyrchydd sydd â thystiolaeth wirioneddol fod trosedd etholiadol wedi'i chyflawni hysbysu'r heddlu o'r drosedd honno yn syth ac yn ddi-oed.
Os yw'n briodol, bydd yr heddlu yn ymchwilio i'r mater. Mae gan bob heddlu Bwynt Cyswllt Unigol (a elwir yn SPOC) i arwain ar faterion etholiadol ac a fydd yn ymdrin yn uniongyrchol â'r mater neu'n rhoi cyngor i swyddogion yr heddlu lleol. Gall y Comisiwn Etholiadol helpu i ddarparu manylion cyswllt ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol heddluoedd lleol.