Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr, etholiadau lleol yn Lloegr ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cofrestru etholiadol a cheisiadau am bleidleisiau absennol

Dylai ymgyrchwyr fod yn rhydd i annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio a gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan os mai dyna'r ffordd fwyaf cyfleus iddynt bleidleisio. 

Gall ymgyrchwyr helpu i roi gwybodaeth i bleidleiswyr am sut i gymryd rhan mewn etholiadau. Dylech annog pleidleiswyr i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru etholiadol ar-lein a'r gwasanaeth pleidlais bost ar-lein neu’r gwasanaeth pleidlais drwy ddirprwy ar-lein (os yw ar gael)1 , neu gallwch ddarparu ffurflenni cais papur i bleidleiswyr. Rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol eich cefnogi drwy roi nifer rhesymol o ffurflenni cais i gofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol i chi ar gais.

 

Registration and absent vote forms should conform to electoral law

Dylai ymgyrchwyr sicrhau bod unrhyw ffurflenni cofrestru etholiadol a ffurflenni cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy yn cydymffurfio'n llawn â gofynion cyfraith etholiadol, gan gynnwys yr holl gwestiynau angenrheidiol a'r opsiynau sydd ar gael i etholwyr

Gallwch lawrlwytho ffurflenni cofrestru etholiadol o Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK a ffurflenni cais am bleidlais absennol o www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/pleidleisio-drwyr-post. 

 

ERO's address should be preferred return address

Dylai ymgyrchwyr sicrhau bod cyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol wedi’i ddarparu’n glir fel y dewis gyfeiriad ar gyfer dychwelyd ffurflenni cofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol.

Er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr wneud eu dewis eu hunain ynghylch sut i ddychwelyd ffurflenni cofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol, dylech bob amser ddarparu cyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn glir fel y dewis gyfeiriad dychwelyd, hyd yn oed os rhoddir cyfeiriad arall hefyd. Bydd hyn hefyd yn lleihau'r risg o amheuaeth y gallai ceisiadau wedi'u cwblhau gael eu newid neu eu dinistrio neu fynd ar goll drwy amryfusedd.

Campaigners should send sealed completed forms to ERO

Dylai ymgyrchwyr anfon unrhyw ffurflenni cais i gofrestru neu ffurflenni cais am bleidlais absennol wedi’u selio y mae pleidleiswyr yn eu rhoi ar garreg y drws i gyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol o fewn dau ddiwrnod gwaith o’u derbyn a chyn y dyddiad cau statudol.

Os bydd pleidleisiwr yn gofyn i chi gymryd ei ffurflen gais wedi'i chwblhau a'i dychwelyd at y Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylech sicrhau bod y pleidleisiwr wedi selio'r ffurflen mewn amlen cyn ei chymryd. Dylech ddychwelyd ffurflenni i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn uniongyrchol i leihau'r risg o geisiadau am bleidlais absennol yn cael eu gwrthod oherwydd bod ffurflenni wedi'u cwblhau yn cyrraedd ar ôl y dyddiad cau statudol cyn etholiad (5pm ar yr 11eg diwrnod gwaith cyn yr etholiad).

Implications of applying to vote by post or proxy

Dylai ymgyrchwyr bob amser esbonio goblygiadau gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu benodi dirprwy i etholwyr. 

Mae'n bwysig bod etholwyr yn deall na fyddant yn gallu pleidleisio yn bersonol ar y diwrnod pleidleisio os byddant hwy neu eu dirprwy yn gwneud cais am bleidlais bost a bod y cais yn cael ei dderbyn, ac na fyddant yn gallu pleidleisio'n bersonol os bydd y dirprwy a benodwyd ganddynt eisoes wedi pleidleisio ar eu rhan. Er mwyn osgoi dyblygu a rhoi pwysau gweinyddol diangen ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol, dylai ymgyrchwyr geisio sicrhau nad yw etholwyr sydd wedi'u cynnwys ar restrau pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy cyfredol neu sydd eisoes wedi gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol, yn cyflwyno cais ychwanegol. 

Ceisiadau am bleidlais bost

Ni ddylai ymgyrchwyr byth annog etholwyr i ailgyfeirio eu pecyn pleidleisio drwy'r post i unrhyw le arall heblaw'r cyfeiriad lle y maent wedi cofrestru i bleidleisio.

Pan fo etholwyr yn llenwi eu ffurflenni cais am bleidlais bost, ni ddylai ymgyrchwyr byth eu hannog i ddewis cael eu pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i ailgyfeirio i unrhyw le heblaw'r cyfeiriad lle maent wedi cofrestru i bleidleisio.

Dylai etholwyr ofalu eu bod yn cadw eu papur pleidleisio a'u pecyn pleidleisio drwy'r post yn ddiogel, a byddant yn gallu gwneud hynny orau yn eu cyfeiriad cartref oni bai fod rhesymau cymhellol pam y byddai cael pecyn pleidleisio drwy'r post yn y cyfeiriad lle maent wedi'u cofrestru i bleidleisio yn anymarferol. Rhaid i etholwyr nodi ar y ffurflen gais y rheswm pam mae angen anfon eu pecyn pleidleisio drwy'r post i gyfeiriad arall. 

Ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy

Dylid annog etholwyr i ystyried opsiynau eraill i bobl weithredu fel dirprwy – gan gynnwys perthnasau neu gymdogion, er enghraifft – cyn bod ymgyrchydd yn cytuno i weithredu fel dirprwy. 

I leihau'r risg o amheuon y gall ymgyrchwyr fod yn ceisio rhoi pwysau gormodol ar etholwyr, ni ddylid annog etholwyr i benodi ymgyrchydd fel eu dirprwy. Bellach mae terfyn ar faint o bobl y gall rhywun fod yn ddirprwy ar eu rhan. Gallwch weithredu fel dirprwy ar ran dau berson. Os byddwch yn pleidleisio ar ran pleidleiswyr y DU sy’n byw dramor, gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer hyd at bedwar o bobl (ond dim ond dau o’r rheini sy’n gallu byw yn y DU).   

Tystysgrifau awdurdod pleidleiswyr

Dylai ymgyrchwyr fod yn rhydd i hysbysu pleidleiswyr bod angen ID ffotograffig arnynt i bleidleisio mewn etholiadau penodol a sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Gall ymgyrchwyr helpu i hysbysu pleidleiswyr bod yn rhaid iddynt ddarparu math addas o ID ffotograffig i bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer yr etholiadau a gwmpesir gan y cod hwn (gweler yr adran cwmpas uchod). Gall ymgyrchwyr hefyd annog pleidleiswyr nad oes ganddynt ddull addas o ID ffotograffig i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr y gallant ei defnyddio i bleidleisio yn eu gorsaf bleidleisio leol. Dylai ymgyrchwyr annog pleidleiswyr i wirio a oes ganddynt ID ffotograffig addas cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Mae’r rhestr lawn o ID a dderbynnir ar gael ymaDylai ymgyrchwyr annog pleidleiswyr i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar-lein gan mai dyma'r ffordd gyflymaf a hawsaf i wneud cais. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein drwy glicio yma. Fodd bynnag, mae hefyd yn bosibl i bleidleiswyr wneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur trwy glicio yma.

Ni ddylai ymgyrchwyr drin ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar bapur na chynorthwyo pleidleiswyr gyda cheisiadau ar-lein

Bydd yn rhaid i bleidleiswyr ddarparu gwybodaeth bersonol sensitif pan fyddant yn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, gan gynnwys ffotograffau. Nid oes angen i ymgyrchwyr gael mynediad at yr wybodaeth hon.

Ni ddylai rhifwyr ofyn i weld neu wirio ID ffotograffig unrhyw bleidleisiwr eu hunain

Nid oes gan rifwyr statws cyfreithiol ac mae gan bleidleiswyr yr hawl i wrthod rhoi unrhyw wybodaeth iddynt. Efallai y bydd rhifwyr yn atgoffa pleidleiswyr wrth iddynt nesáu at yr orsaf bleidleisio y bydd angen iddynt ddarparu ID ffotograffig i gael papur pleidleisio. Ond ni ddylai rhifwyr ofyn i weld neu wirio manylion ID ffotograffig unrhyw bleidleisiwr (gan gynnwys tystysgrifau awdurdod pleidleisiwr). Mae'r gofyniad cyfreithiol i gynnal gwiriad ID ar gyfer staff gorsaf bleidleisio yn unig, fel rhan o'r broses bleidleisio. Am ragor o wybodaeth am rôl rhifwyr a'r hyn y gallant ac na allant ei wneud y tu allan i orsafoedd pleidleisio, cyfeiriwch at ein Canllawiau i RifwyrGair i Gall i Rifwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2024