Adroddiad ar wariant ymgyrchu yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024
Ein prif ganfyddiadau
Ar ôl pob etholiad cyffredinol yn y DU, rydyn ni’n cyhoeddi gwybodaeth am wariant pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgeiswyr a ymgyrchodd yn yr etholiad.
Ein prif ganfyddiadau yw:
- £94.5 miliwn oedd cyfanswm y gwariant yn etholiad cyffredinol y DU yn 2024, sef y swm uchaf erioed
- etholiad cyffredinol y DU yn 2024 oedd yr etholiad cyntaf i gael ei gynnal gyda therfynau gwariant newydd, uwch. Y Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol oedd yr unig bleidiau i wario 70% neu fwy o’r terfyn
- mae pleidiau ac ymgeiswyr yn parhau i ddefnyddio cyfran fawr o’u gwariant ar ddeunydd digymell i etholwyr
- gostyngodd cyfanswm y gwariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i £2.6 miliwn yn dilyn uchafbwynt o £6.2 miliwn yn 2019
- nid yw’r categorïau y mae pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn eu defnyddio i adrodd ar wariant, sydd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i bleidleiswyr a dylid eu newid
Etholiad cyffredinol y DU 2024 oedd yr etholiad cyffredinol cyntaf i ddigwydd gyda’r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022. Roedd hyn yn cynnwys newidiadau i sut mae pleidiau, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgeiswyr yn gwario ac yn ymgyrchu yn ystod yr etholiad.
Dyma hefyd oedd etholiad cyffredinol cyntaf y DU yn dilyn y cynnydd yn y terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgeiswyr, a oedd yn ystyried chwyddiant. Mae hyn yn golygu bod y terfynau gwariant ar gyfer ymgyrchwyr yn uwch mewn termau absoliwt nag mewn etholiadau cyffredinol blaenorol y DU. Bu newid hefyd i drothwyon adrodd rhoddion.
Gwnaeth llywodraeth y DU newidiadau hefyd a ddileodd gostau diogelwch o derfynau gwariant. Nid yw treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelwch unigolion neu eiddo bellach yn cyfrif fel gwariant etholiad ar gyfer ymgeiswyr neu bleidiau.
Roedd y newidiadau hyn yn newid sylweddol i system gyllid wleidyddol y DU. Byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar effaith y newidiadau hyn mewn etholiadau yn y dyfodol.
Rydym yn cyhoeddi data ar y rhoddion a dderbynnir gan bleidiau ac ymgyrchwyr yn ein cronfa ddata o gyllid gwleidyddol.
Gwariant ymgyrchu cyffredinol
Y cyfanswm gwariant yn etholiad cyffredinol y DU yn 2024 oedd yr un uchaf erioed
Mae cyfanswm y gwariant mewn etholiadau cyffredinol yn y DU wedi cynyddu’n sylweddol ers 2001. Fodd bynnag, mae angen i unrhyw ddadansoddiad ystyried y gwahaniaethau mewn cyfnodau a reoleiddir mewn etholiadau penodol ac effaith chwyddiant dros amser. Y cyfnod a reoleiddir yw’r amser pan fydd y terfynau gwariant a’r rheolau yn berthnasol.
Mae’r cyfnodau a reoleiddir a’r terfynau gwariant yn wahanol ar gyfer pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgeiswyr.
| Plaid wleidyddol | Ymgeisydd | Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| 2024 | £68.6M | £23.4M | £2.6M | £94.5M |
| 2019 | £50.1M | £16.4M | £6.2M | £72.6M |
| 2017 | £39.1M | £14.2M | £2.6M | £55.9M |
| 2015 | £37.6M | £14.4M | £1.8M | £53.7M |
| 2010 | £31.5M | £14.1M | £3.0M | £48.5M |
| 2005 | £42.3M | £14.2M | £1.7M | £58.2M |
| 2001 | £26.7M | 11.9M | £1.2M | £39.7M |
Mae Ffigur B yn dangos y data yn Nhabl A wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant ond mae cymariaethau’n dal i fod yn anodd eu gwneud oherwydd y gwahaniaethau mewn cyfnodau a reoleiddir. Er enghraifft, mae data ar gyfer 2005 yn ymwneud â chyfnod a reoleiddir a oedd yn cwmpasu gwariant cyfunol ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop 2004 ac etholiad cyffredinol y DU 2005.
Fodd bynnag, mae yna gynnydd clir mewn termau real wedi bod mewn gwariant pleidiau ers 2017. Wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant a heb gynnwys y data gwariant cyfunol o 2005, roedd etholiad cyffredinol y DU 2024 yn uwch nag erioed o ran gwariant pleidiau.
Bu cynnydd llai arwyddocaol yng ngwariant ymgeiswyr ers 2017. Cyrhaeddodd gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ei uchafbwynt yn 2019.
Ffigur B: Gwariant ymgyrchu yn ôl blwyddyn a math o ymgyrchydd o 2001 i 2024 (wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant)
Gwariant gan bleidiau gwleidyddol
Etholiad cyffredinol 2024 oedd â’r nifer fwyaf o bleidiau yn adrodd am wariant
Mae nifer y pleidiau gwleidyddol sy’n nodi rhywfaint o wariant yn etholiadau cyffredinol y DU wedi amrywio rhwng 34 yn 2001 a 60 yn 2024. Nid yw hyn yn cynnwys y pleidiau hynny a gyflwynodd ‘ffurflen dim trafodion’ (heb nodi unrhyw wariant).
| O dan £250,000 | Dros £250,000 | Cyfanswm adrodd gwariant | |
|---|---|---|---|
| 2024 | 53 | 7 | 60 |
| 2019 | 36 | 6 | 42 |
| 2017 | 31 | 7 | 38 |
| 2015 | 49 | 6 | 55 |
| 2010 | 32 | 6 | 38 |
| 2005 | 33 | 6 | 39 |
| 2001 | 30 | 4 | 34 |
Mae’r tair plaid fwyaf yn parhau i fod y gwarwyr mwyaf
Y Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol, a’r Democratiaid Rhyddfrydol, sef y tair plaid fwyaf o ran seddi, yw’r tair plaid sydd wedi gwario fwyaf ym mhob etholiad cyffredinol ers 2001. Fodd bynnag, yn 2024, roedd gwariant Reform UK ond ychydig yn llai na gwariant y Democratiaid Rhyddfrydol.
| 2024 | 2019 | 2017 | 2015 | 2010 | 2005 | 2001 | |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Y Blaid Lafur | £30.1M | £12.0M | £11.0M | £12.2M | £8.0M | £17.9M | £10.9M |
| Y Blaid Geidwadol | £23.9M | £16.5M | £18.6M | £15.6M | £16.8M | £17.9M | £12.8M |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £5.6M | £14.4M | £6.8M | £3.7M | £4.8M | £4.3M | £1.4M |
| Reform UK | £5.5M | £5.0M | - | - | - | - | - |
| Plaid Werdd Cymru a Lloegr | £1.7M | £0.5M | £0.3M | £1.1M | £0.3M | £0.2M | £0.04M |
| Y Blaid Gydweithredol | £0.3M | £0.06M | £0.04M | £0.004M | £0.007M | £0.007M | £0.008M |
| Plaid Gweithwyr Prydain (Workers Party of Britain) | £0.08M | - | - | - | - | - | - |
| Plaid Cydraddoldeb Menywod | £0.04M | £0.1M | £0.3M | - | - | - | - |
Mae pleidiau sy'n sefyll ymgeiswyr mewn un rhan o’r DU yn gwario llawer llai o gymharu â’r rhai sy’n sefyll ymgeiswyr ar draws sawl gwlad. Mewn etholiadau diweddar, Plaid Genedlaethol yr Alban sydd wedi gwario’r symiau mwyaf yn gyson ymhlith pleidiau sy’n sefyll yn un rhan o’r DU.
| 2024 | 2019 | 2017 | 2015 | 2010 | 2005 | 2001 | |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Plaid Genedlaethol yr Alban | £0.8M | £1.0M | £1.6M | £1.5M | £0.3M | £0.2M | £0.2M |
| Plaid Cymru | £0.2M | £0.2M | £0.1M | £0.1M | £0.1M | £0.04M | £0.07M |
| Sinn Féin | £0.07M | £0.03M | £0.03M | £0.04M | £0.06M | £0.04M | £0.02M |
| Alliance | £0.05M | £0.02M | £0.02M | £0.02M | £0.02M | £0.02M | £0.009M |
| Plaid Werdd yr Alban | £0.04M | £0.001M | £0.001M | £0.04M | £0.02M | £0.02M | £0.0004M |
| Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd | £0.04M | £0.02M | £0.02M | £0.06M | £0.06M | £0.1M | £0.07M |
Gan ystyried chwyddiant , ac eithrio'r cyfnod gwariant etholiadol cyfunol yn 2005, mae gwariant y Blaid Geidwadol wedi bod yn gymharol sefydlog ar draws y cyfnod gyda mwy o newid i Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fodd bynnag, mae’r ddwy blaid wedi cael etholiad gyda gwariant sy’n sylweddol uwch. Roedd hyn yn 2019 i’r Democratiaid Rhyddfrydol ac yn 2024 i’r Blaid Lafur.
Ffigur F: Gwariant pleidiau gan y tair plaid fwyaf (yn ôl seddi) yn 2024 (wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant)
Ychydig o bleidiau sy’n gwario cyfran uchel o’r terfyn gwariant
I lawer o bleidiau sy’n cystadlu am seddi ledled Prydain Fawr, nid yw wedi bod yn gyffredin gwario’n agos at y terfyn. Yn nodweddiadol, mae’r pleidiau Llafur a Cheidwadol wedi gwario’n agos at y terfyn. Y Democratiaid Rhyddfrydol ddaeth agosaf at gyrraedd y terfyn gwariant yn 2019.
Ffigur G: Nifer y pleidiau sy’n sefyll mewn dros 600 o etholaethau ledled Prydain Fawr - cyfanswm y gwariant fel cyfran o derfyn y blaid
Dim ond y pleidiau Llafur a Cheidwadol a wariodd gyfran uchel o’r terfyn gwariant newydd
Ym mis Tachwedd 2023, cynyddodd Llywodraeth y DU y terfyn gwariant cenedlaethol ar gyfer pleidiau, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgeiswyr yn etholiadau cyffredinol y DU yn unol â chwyddiant. Roedd y terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol wedi aros yr un fath ers iddynt gael eu gosod yn 2000.
Cynyddodd y terfyn ar gyfer plaid y gwnaeth ei hymgeiswyr gystadlu ym mhob etholaeth o £19.5 miliwn i £35.1 miliwn. Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o £30,000 i £54,010 ar gyfer pob un o’r 650 o etholaethau a ymladdwyd.
Mae pleidiau sy’n sefyll mewn un rhan o’r DU yn gwario llawer llai na’u terfynau.
Gan fod y terfyn gwariant yn £54,010 fesul etholaeth, mae gan bleidiau sy’n sefyll ymgeiswyr mewn un gwlad, gyda llai o etholaethau, derfynau gwariant is. Ac eithrio Plaid Genedlaethol yr Alban rhwng 2015 a 2019, nid yw’r pleidiau hyn erioed wedi gwario mwy na chwarter o’u terfyn gwariant.
Ffigur H: Cyfanswm gwariant y pleidiau a safodd naill ai yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn ôl cyfran o derfyn gwariant y blaid
Mae’r rhan fwyaf o'r gwariant yn etholiadau cyffredinol y DU yn cael ei wario yn Lloegr
Priodolir y rhan fwyaf o’r gwariant yn etholiadau cyffredinol y DU (80 – 85%) i Loegr gan mai dyma’r rhan o’r DU sydd â’r boblogaeth fwyaf i ymgyrchwyr gysylltu ac ymgysylltu ag etholwyr.
Mae gwariant ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi bod yn gymharol wastad er bod Gogledd Iwerddon wedi gweld dirywiad cyson ers 2005.
| Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |
|---|---|---|---|---|
| 2024 | £59.2M | £6.2M | £3.0M | £0.2M |
| 2019 | £41.8M | £5.2M | £2.9M | £0.1M |
| 2017 | £31.2M | £5.1M | £2.7M | £0.1M |
| 2015 | £30.5M | £4.8M | £2.0M | £0.3M |
| 2010 | £25.9M | £3.1M | £2.2M | £0.3M |
| 2005 | £35.8M | £3.7M | £2.3M | £0.6M |
| 2001 | £22.3M | £2.5M | £1.4M | £0.4M |
Gwariant ar ddeunydd digymell i etholwyr yw'r categori gwariant mwyaf o hyd
Mae'n rhaid i bleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddangos faint maen nhw wedi'i wario mewn gwahanol gategorïau. Mae’r categorïau hyn wedi’u nodi yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Mae’r categorïau eang yn canolbwyntio ar fathau o gyfathrebu ag etholwyr, gan gynnwys ‘deunyddiau digymell i etholwyr’, ‘hysbysebu’ a ‘digwyddiadau’. Deunyddiau digymell, sy’n cynnwys taflenni a phost uniongyrchol at etholwyr, fu’r categori gyda’r gwariant mwyaf yn gyson, ac yna hysbysebu.
Yn 2024, gwariodd pleidiau unwaith eto’r mwyafrif o’u gwariant ymgyrchu ar ddeunydd digymell i etholwyr gyda chyfanswm o £26M. Y categorïau gwariant nesaf uchaf oedd hysbysebu (£19.7M) a chanfasio/ymchwil (£6.7M).
| 2024 | 2019 | 2017 | 2015 | 2010 | 2005 | 2001 | |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Hysbysebu | £19.7M | £14.0M | £10.1M | £6.9M | £9.2M | £15.8M | £10.5M |
| Darllediadau ymgyrchu | £1.2M | £0.8M | £1.2M | £0.9M | £1.5M | £1.1M | £1.1M |
| Ymchwil | £6.7M | £6.4M | £7.4M | £7.6M | £1.9M | £3.1M | £2.7M |
| Cyfryngau | £2.3M | £1.0M | £0.3M | £0.3M | £0.8M | £1.0M | £1.4M |
| Gweinyddu | £6.3M | £3.1M | £3.1M | £2.0M | £1.5M | £3.5M | - |
| Maniffesto | £0.3M | £0.4M | £0.3M | £0.3M | £0.7M | £0.7M | £1.8M |
| Ralïau | £2.4M | £2.3M | £1.7M | £2.5M | £1.8M | £4.2M | £3.4M |
| Trafnidiaeth | £2.9M | £1.6M | £1.4M | £1.7M | £1.7M | £3.8M | £2.9M |
| Deunydd digymell | £26.0M | £1.6M | £13.7M | £15.2M | £12.5M | £9.1M | £3.0M |
Nid yw categorïau gwariant eang yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i bleidleiswyr
Mae’r categorïau eang o wariant yn cynnig syniad o’r hyn y gwariodd ymgyrchwyr eu harian arno. Ond nid ydynt yn darparu dadansoddiad manwl o fathau penodol o wariant. Er enghraifft, nid oes categori cyfreithiol penodol ar gyfer ymgyrchu digidol. Adroddir ar wariant ar weithgarwch ymgyrchu o’r fath o dan y categorïau eang presennol.
Dylid diwygio’r categorïau gwariant presennol i roi gwybodaeth fwy defnyddiol i etholwyr am yr hyn y mae ymgyrchwyr wedi gwario arian arno. Mae hyn yn bwysig o ystyried datblygiad cyflym technegau ymgyrchu a’r cynnydd mewn ymgyrchu digidol ers i’r categorïau gael eu gosod yn 2001.
Byddai angen i unrhyw newidiadau fod yn ymarferol hefyd er mwyn i ymgyrchwyr allu adrodd ar eu gwariant. Byddwn yn gweithio gyda llywodraethau a seneddau’r DU i nodi pa is-gategorïau fyddai orau yn rhoi darlun cyflawn o sut mae ymgyrchwyr yn gwario arian i gyfleu eu negeseuon i bleidleiswyr.
Gwariant gan ymgeiswyr
Ar gyfartaledd gwariodd ymgeiswyr fwy nag erioed o’r blaen
Safodd y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr i gael eu hethol yn etholiad cyffredinol y DU yn 2024. Mae nifer yr ymgeiswyr ym mhob etholiad cyffredinol y DU yn amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar amgylchiadau’r etholiad, gan gynnwys amseriad y bleidlais.
Efallai na fydd gan rai ymgeiswyr wariant i'w adrodd, ac efallai y bydd eraill sydd â gwariant yn darparu gwybodaeth anghyflawn yn eu cyflwyniad. Cyflwynir ffurflenni gwariant i Swyddogion Canlyniadau ac yna mae’r Comisiwn yn casglu ac yn coladu’r data
| Nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll etholiad | Gwariant cyfartalog | Nifer yr ymgeiswyr sy’n cyflwyno ffurflenni | Gwariant cyfartalog | |
|---|---|---|---|---|
| 2024 | 4,515 | £5,172 | 4,379 | £5,332 |
| 2019 | 3,320 | £4,933 | 3,234 | £5,065 |
| 2017 | 3,304 | £4,294 | 3,264 | £4,346 |
| 2015 | 3,971 | £3,622 | 3,971 | £3,622 |
| 2010 | 4,150 | £3,388 | 4,031 | £3,488 |
| 2005 | 3,554 | £3,988 | 3,554 | £3,988 |
| 2001 | 3,319 | £3,581 | 3,291 | £3,612 |
Nid oes patrwm cyson yng ngwariant ymgeiswyr
Mae'r gwariant cyfartalog fesul ymgeisydd wedi amrywio ers 2001, a phan gaiff ei addasu ar gyfer chwyddiant (Ffigur L), nid yw’n dangos unrhyw batrwm cyson.
Ffigur L: Gwariant cyfartalog fesul ymgeisydd sy’n cyflwyno ffurflen (wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant)
Rhwng 2001 a 2019, ymgeiswyr Ceidwadol a wariodd fwyaf yn ystod y cyfnod a reoleiddir cyn yr etholiad. Yn 2024, ymgeiswyr y Blaid Lafur oedd y gwarwyr mwyaf. Mae ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyson wedi bod y grŵp o ymgeiswyr â’r trydydd gwariant uchaf.
| 2024 | 2019 | 2017 | 2015 | 2010 | 2005 | 2001 | |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Y Blaid Lafur | £7.2M | £4.7M | £4.3M | £4.1M | £3.6M | £4.2M | £3.8M |
| Y Blaid Geidwadol | £7.0M | £5.4M | £5.2M | £4.9M | £4.9M | £4.6M | £4.1M |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £3.2M | £2.6M | £2.3M | £1.9M | £2.7M | £2.5M | £1.9M |
| Reform UK | £1.3M | £1.3M | - | - | - | - | - |
| Plaid Genedlaethol yr Alban | £0.8M | £0.6M | £0.5M | £0.5M | £0.3M | £0.2M | £0.3M |
| Plaid Werdd Cymru a Lloegr | £0.6M | £0.4M | £0.3M | £0.4M | £0.2M | £0.2M | £0.09M |
| Plaid Gweithwyr Prydain (Workers Party of Britain) | £0.3M | - | - | - | - | - | - |
| Plaid Cymru | £0.2M | £0.2M | £0.2M | £0.1M | £0.1M | £0.1M | £0.2M |
| Sinn Féin | £0.2M | £0.1M | £0.1M | £0.1M | £0.07M | £0.09M | £0.07M |
| Alliance | £0.08M | £0.04M | £0.04M | £0.04M | £0.03M | £0.05M | £0.02M |
| Plaid Werdd yr Alban | £0.06M | £0.02M | £0.01M | £0.03M | £0.02M | £0.01M | £0.004M |
| Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd | £0.1M | £0.1M | £0.1M | £0.1M | £0.1M | £0.1M | £0.08M |
Pan gaiff ei addasu ar gyfer chwyddiant, nid oes un duedd yng ngwariant ymgeiswyr y pleidiau dros y cyfnod hwn. Mae'r data gwariant cyfunol ar gyfer 2005 yn dangos gwariant uchel o gymharu ag etholiadau diweddarach. Ers 2015, mae gwariant wedi bod yn gymharol wastad ond gyda chynnydd nodedig ar gyfer ymgeiswyr Llafur yn 2024.
Ffigur N: Cyfanswm gwariant ymgeiswyr ar gyfer y tair plaid fwyaf (wedi’i addasu)
Cynyddodd terfynau gwariant ymgeiswyr hefyd cyn etholiad cyffredinol y DU yn 2024
Fel gyda therfynau gwariant pleidiau, cynyddwyd terfynau gwariant ymgeiswyr hefyd yn unol â chwyddiant cyn etholiad cyffredinol y DU yn 2024:
- cynyddodd terfyn gwariant ymgyrch fer ymgeisydd o £8,700 i £11,390.
- cynyddwyd terfynau gwariant ymgeiswyr i £11,390 + 8c fesul etholwr cofrestredig mewn etholaeth sirol neu 12c fesul etholwr cofrestredig mewn etholaeth fwrdeistref.
Mae gwahaniaethau mawr ar draws pleidiau gwleidyddol o ran pa mor agos y daw eu hymgeiswyr at gyrraedd eu terfyn gwariant.
Ar gyfartaledd, nid yw ymgeiswyr wedi bod yn gwario hyd at y terfyn cyfanswm mewn etholiadau olynol. Parhaodd y duedd hon yn 2024, er bod y terfynau gwariant wedi cynyddu. Ers 2001, dim ond un etholiad sydd wedi bod (2005) pan wariodd mwy na 10% o ymgeiswyr dros 90% o’u terfyn.
Mae amrywiad sylweddol rhwng ymgeiswyr ym mhob etholiad. Mae llawer o ymgeiswyr yn nodi eu bod wedi cael symiau bach iawn neu ddim gwariant o gwbl. Mae ymgeiswyr eraill yn nodi hyd at neu dros 100% o’r terfyn. Yn 2024, gwariodd dau ym mhob tri ymgeisydd lai na chwarter o’u terfyn gwariant.
Mae gwahaniaethau sylweddol hefyd rhwng y pleidiau:
- Mae gwariant cyfartalog ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn tueddu i fod yn sylweddol is na gwariant Llafur neu’r Ceidwadwyr.
- Mae’r Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol yn tueddu i gael lefelau gwariant tebyg
- Yn aml, mae ymgeiswyr Plaid Genedlaethol yr Alban wedi gwario’n agosach at y terfyn na’r Blaid Geidwadol neu’r Blaid Lafur.
- Ymgeiswyr y Blaid Werdd (yng Nghymru a Lloegr) sy’n gyson yn gwario’r symiau lleiaf yn gymesur â’u terfyn gwariant.
Ffigur O: Cyfartaledd gwariant ymgeiswyr fel canran o’r terfyn
Defnyddiodd ymgeiswyr y rhan fwyaf o’u gwariant ar ddeunyddiau digymell
Rhaid i ymgeiswyr gategoreiddio ar y ffurflen sut y gwariwyd arian yn ystod yr ymgyrch. Mae hyn yn debyg i wariant plaid ond gyda chategorïau gwahanol wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Mae hysbysebu a deunyddiau digymell fel taflenni yn gyson wedi bod ymhlith y meysydd gwariant uchaf.
Ffigur P: Cyfanswm gwariant ymgeiswyr yn ôl categori
Mae’r categori ‘deunyddiau digymell’ yn gyson yn cyfrif am y gyfran uchaf o wariant – er bod hyn wedi gostwng ychydig ers 2010. Roedd cynnydd bach hefyd yng nghyfran y gwariant a briodolir i hysbysebu yn 2024.
Gwariant yn ôl ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Mae terfynau gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ganran o’r gwariant sydd ar gael i bleidiau a gynyddodd hefyd ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yn 2024. Y terfynau oedd:
- Lloegr – £586,548
- Yr Alban – £81,571
- Cymru – £54,566
- Gogledd Iwerddon – £39,443
Roedd y nifer uchaf o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn adrodd am wariant yn 2019
Mae nifer yr ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n adrodd am wariant yn etholiadau cyffredinol y DU wedi cynyddu ers 2001. Yn etholiad cyffredinol 2019 y gwelwyd y nifer uchaf (43) o adroddwyr a’r gwariant mwyaf a adroddwyd.
| O dan £250,000 | Dros £250,000 | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|
| 2024 | 17 | 3 | 20 |
| 2019 | 35 | 8 | 43 |
| 2017 | 17 | 2 | 19 |
| 2015 | 23 | 0 | 23 |
| 2010 | 20 | 4 | 24 |
| 2005 | 22 | 2 | 24 |
| 2001 | 8 | 1 | 9 |
Yr Undeb Addysg Cenedlaethol oedd yr ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau oedd â’r gwariant mwyaf yn etholiad cyffredinol y DU 2024
Mae nifer o undebau llafur wedi bod yn gyson ymhlith yr ymgyrchwyr sy’n gwario fwyaf mewn etholiadau cyffredinol olynol yn y DU. Yr Undeb Addysg Cenedlaethol oedd yr ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau oedd â’r gwariant mwyaf yn etholiad 2024. Nhw hefyd a adroddodd y swm mwyaf o wariant a reoleiddir yn 2019.
| NPC | Gwariant a adroddwyd |
|---|---|
| Undeb Addysg Cenedlaethol | £617,730 |
| Best for Britain | £423,997 |
| Unison | £394,392 |
| 38 Degrees | £206,700 |
| HOPE not Hate | £158,624 |
| Cruelty Free International | £108,945 |
| WE OWN IT | £98,774 |
| Greenpeace | £95,851 |
| Led By Donkeys Ltd | £72,026 |
| Sicrhau bod Pleidleisiau o Bwys | £65,165 |
| Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol | £50,781 |
| NPC | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon |
|---|---|---|---|---|
| Undeb Addysg Cenedlaethol | 95% | 0% | 77% | 0% |
| Best for Britain | 61% | 44% | 37% | 12% |
| Unison | 60% | 38% | 10% | 13% |
| 38 Degrees | 34% | 4% | 4% | 3% |
| HOPE not Hate | 27% | 0% | 0% | 0% |
| Cruelty Free International | 16% | 8% | 13% | 6% |
| WE OWN IT | 17% | 0% | 0% | 0% |
| Greenpeace | 14% | 10% | 9% | 0% |
| Led By Donkeys Ltd | 10% | 8% | 8% | 5% |
| Sicrhau bod Pleidleisiau o Bwys | 9% | 7% | 6% | 5% |
| Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol | 7% | 5% | 5% | 0% |
Mae dosbarthiad gwariant ar draws gwledydd y DU wedi bod yn gyson ym mhob etholiad cyffredinol yn y DU ers 2001. Mae gwariant yn Lloegr wedi cyfrif am 86 – 89% o gyfanswm y gwariant ar draws yr etholiadau hyn.
| Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |
|---|---|---|---|---|
| 2024 | £2.2M | £0.2M | £0.1M | £0.02M |
| 2019 | £5.3M | £0.5M | £0.3M | £0.08M |
| 2017 | £2.2M | £0.2M | £0.1M | £0.02M |
| 2015 | £1.5M | £0.1M | £0.09M | £0.04M |
| 2010 | £2.6M | £0.2M | £0.1M | £0.04M |
| 2005 | £1.5M | £0.1M | £0.04M | £0.003M |
| 2001 | £1.0M | £0.1M | £0.05M | £0.02M |
Mae gwariant mwyaf yr ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wedi bod ar faniffesto etholiad neu gostau ymgyrchu yn y pedwar etholiad cyffredinol diwethaf yn y DU
Cyflwynwyd categorïau adrodd ychwanegol ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gan Ddeddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014. Cyn hyn, dim ond gwariant ar ddeunydd, fel taflenni, hysbysebion a gwefannau, yr oedd y rheolau’n ei gwmpasu.
Costau maniffesto etholiad neu gostau ymgyrchu fu’r categori gwariant mwyaf yn y pedwar etholiad cyffredinol diwethaf yn y DU. Costau gweinyddu fu’r ail faes gwariant uchaf mewn tri o’r pedwar etholiad cyffredinol diwethaf yn y DU.
Ffigur U: Cyfanswm y gwariant yn ôl categori
Cefndir
Rhaid i bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, cymdeithasau aelodau a swyddogion etholedig ddilyn Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Refferenda ac Etholiadau 2000 wrth wario arian neu dderbyn rhoddion a benthyciadau.
Mae un o’r rheolau’n golygu bod yn rhaid iddyn nhw roi gwybod i ni am wariant, rhoddion a benthyciadau sydd uwchlaw swm penodol. Rhaid iddyn nhw roi gwybod am yr hyn maen nhw wedi’i wario ar eu hymgyrch ar ôl etholiad yn ogystal ag adrodd am y rhoddion maen nhw wedi’u cael a’r benthyciadau maen nhw wedi’u gwneud. Rhaid i ymgeiswyr hefyd gyflwyno ffurflenni gwariant i’w Swyddog Canlyniadau lleol ar ôl etholiad cyffredinol.
Rydym yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol ystod o fathau o ymgyrchwyr gan gynnwys:
- pleidiau gwleidyddol
- ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
- aelodau unigol pleidiau
- y rheiny sy’n dal swydd etholedig
- cymdeithasau aelodau
- cymdeithasau anghorfforedig
Os byddant yn torri’r rheolau, byddwn yn ymchwilio a gallwn gymryd camau yn unol â’n polisi gorfodi. Mae heddluoedd ledled y DU yn gyfrifol am reoleiddio ymgeiswyr. Mae hyn oherwydd bod rheolau ymgeiswyr yn dod o dan faes gwahanol o’r gyfraith, sef Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Rydym yn cyhoeddi data gan bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill, yn ogystal â gwariant ymgeiswyr ar ôl cystadlu mawr. Rydym yn cyhoeddi'r holl wybodaeth a gawn gan bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill ar ein cronfa ddata o gyllid gwleidyddol.
Ar gyfer gwariant pleidiau, y cyfnod a reoleiddir cyn etholiad cyffredinol y DU yw 365 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.
- Yn 2005 a 2010, i lawer o bleidiau, roedd y cyfnod yn hirach ac wedi'i gyfuno â gwariant yn etholiadau Senedd Ewrop (yn 2004 a 2009).
- Roedd y cyfnod ychydig yn fyrrach yn 2015 er mwyn osgoi cael ei gyfuno â gwariant yn etholiadau Senedd Ewrop 2014.
Mae dau gyfnod a reoleiddir ar gyfer gwariant ymgeiswyr, yr ‘ymgyrch hir’ a'r ‘ymgyrch fer’. Mae’r ymgyrch hir yn cwmpasu misoedd olaf senedd tymor llawn, gan ddechrau ar ôl i Senedd y DU fod wedi bod yn eistedd am 55 mis. Mae’n dod i ben pan fydd pobl yn dod yn ymgeiswyr yn swyddogol, sef fel arfer pan fydd y Senedd yn cael ei diddymu. Pan fydd yr etholiad yn cael ei alw a’r Senedd yn cael ei diddymu cyn y pwynt 55 mis hwnnw, nid oes ymgyrch hir. Dyma oedd yr achos yn 2017, 2019 a 2024. Er mwyn cymharu, rydym felly wedi defnyddio data ar gyfer yr ymgyrch fer yn unig yn yr adroddiad hwn. Yr ymgyrch fer yw’r cyfnod rhwng y pwynt lle mae rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol hyd at y diwrnod pleidleisio.
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn sefydliadau ac unigolion sy'n ymgyrchu cyn etholiad ac nid ydynt yn ymgeiswyr eu hunain. Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau gydymffurfio â rheolau gwariant ymgyrchu a rheolau rhoddion yn ystod y cyfnod o 365 diwrnod cyn etholiad. Er hynny, yn etholiad cyffredinol 2015, cafodd hyn ei fyrhau i saith mis a hanner i ganiatáu i sefydliadau ymgyfarwyddo â newidiadau deddfwriaethol a wnaed yn Neddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014.
Lle mae ffigurau wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant, gwnaed hyn gan ddefnyddio cyfrifiannell chwyddiant Banc Lloegr i addasu i brisiau 2024.