Combined Guidance for Returning Officers at Local Government and Police and Crime Commissioner Elections in England

| Argraffu'r canllawiau llawn

Casglu data ar ôl yr etholiad

Mewn etholiadau a drefnwyd, gofynnir i chi anfon gwybodaeth a data i ni mewn perthynas â'r etholiadau.

Yn ogystal, er nad yw'n ofynnol i chi wneud hyn yn ôl y gyfraith, gallwch ddewis casglu data yn yr orsaf bleidleisio sy'n ymwneud ag ID Pleidleisiwr.

Bydd ffurflenni ar gyfer casglu gwybodaeth a data, a nodiadau canllaw ategol ar gyfer eu cwblhau, yn ogystal â ffurflen adborth y Comisiwn, yn cael eu dosbarthu ar wahân a byddant hefyd ar gael ar ein gwefan. 

Datganiad papurau pleidleisio post

Rhaid i chi gwblhau datganiad ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer eich ardal pleidleisio.1

 

Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu

Yn Cumbria, Essex, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Northampton a Swydd Stafford mae'r ymgeisydd a etholwyd i rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn dal swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.

Yn yr ardaloedd heddlu hyn mae'n rhaid i'r datganiad ar bapurau pleidleisio drwy'r post gyfeirio at ardal heddlu Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu [rhowch enw'r ardal heddlu].

Parhad

Mae'r datganiadau hyn yn hanfodol ar gyfer cyfrif am bleidleisiau post ac ar gyfer sicrhau bod gan bleidleiswyr hyder y bydd eu pleidlais yn cael ei chyfrif yn y modd a fwriadwyd. 

Dylai'r datganiad ffurfio rhan o'r trefniadau sydd gennych yn eu lle i gynnal trywydd archwilio clir o'r prosesau pleidleisio post a chyfrif. 

Dylech gwblhau'r datganiad yn gywir gan ddefnyddio’r ffigyrau a gofnodwyd wrth anfon, derbyn, agor a dilysu pleidleisiau post.

I gael rhagor o wybodaeth gadw cofnodion yn ystod y broses pleidleisio drwy’r post, gweler ein canllawiau ar Gadw cofnodion o dderbyn ac agor pleidleisiau post

Ble i anfon y datganiad ynghylch papurau pleidleisio

Rhaid i chi ddarparu copïau o'r datganiadau wedi'u cwblhau i'r Ysgrifennydd Gwladol ac i'r Comisiwn Etholiadol.

Ni ddylai’r datganiad gael ei ddarparu cyn y degfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod pleidleisio, ond rhaid iddo gyrraedd heb fod yn hwyrach na’r pumed diwrnod gwaith ar hugain ar ôl y diwrnod pleidleisio. Os nad yw'r naill neu'r llall o'r dyddiadau hyn yn ddiwrnod gwaith, estynnir yr amser i'r diwrnod gwaith nesaf.  

Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweinyddu ffurflenni ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, a dylid anfon datganiadau at [email protected] (Yn agor mewn ffenest newydd) gan ddefnyddio teitl pwnc o ‘[enw’r awdurdod] – Ffurflen K ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol'. 

Dylid anfon y datganiadau i’r Comisiwn gan ddefnyddio [email protected] (Yn agor ffenestr newydd)

Ar wahân i’r datganiad statudol ynghylch pleidleisiau post, mae’r Comisiwn yn casglu data ar bleidleisio drwy’r post drwy ein porth ar-lein mewn un cais am ddata ochr yn ochr â data etholiadol perthnasol arall, e.e. y nifer a bleidleisiodd a phleidleisiau a wrthodwyd. Bydd manylion am sut i ddarparu'r data i ni yn cael eu darparu ym Mwletin Gweinyddiaeth Etholiadol y Comisiwn. 

Rhaid i chi hefyd ddarparu copi o'r datganiad wedi'i gwblhau ar yr un pryd ac i'r un person ag y byddwch yn anfon y dogfennau etholiad eraill a restrir yn ein canllawiau: Anfon dogfennau etholiadol ymlaen neu eu cadw   

Bydd manylion am sut i ddarparu'r wybodaeth hon i ni yn cael eu darparu ym Mwletin Gweinyddiaeth Etholiadol y Comisiwn.

Data ID pleidleisiwr ar ac ar ôl y diwrnod pleidleisio

Os ydych wedi penderfynu casglu gwybodaeth y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr yn yr etholiad hwn, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar gyhoeddi'r data hwn. 

Dylech sicrhau bod y data a gesglir ar Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr yn ddienw cyn gynted ag y bo’n ymarferol (er enghraifft, drwy ddinistrio unrhyw daflenni nodiadau cysylltiedig y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr neu drwy ddileu unrhyw fanylion etholwr a gofnodwyd ar y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr at ddiben casglu unrhyw ddata gofynnol) i sicrhau na chaiff unrhyw ddata personol ei ryddhau. Dylech hefyd sicrhau bod yr hysbysiad preifatrwydd perthnasol yn ei gwneud yn glir y gallai data personol gael ei brosesu at y diben hwn, er na fydd unrhyw ddata adnabod personol yn cael ei gyhoeddi.

Rydym wedi cynhyrchu nodyn canllaw ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol sy'n amlinellu'r gofynion cyfreithiol ar gyfer coladu a rhannu data a gesglir mewn gorsafoedd pleidleisio sy'n ymwneud â gweithredu'r gofynion ID pleidleisiwr newydd. Nod y nodyn hwn yw cefnogi Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i wneud penderfyniadau ar sut a phryd i rannu data yn lleol.  

Cyhoeddi data o orsafoedd pleidleisio

Mae ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am ddata a gesglir mewn gorsafoedd pleidleisio.
 

Casglu data etholiadol Cymru 2024

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Tachwedd 2024