| Argraffu'r canllawiau llawn

Pryd dylwn gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig wedi’r canfasiad blynyddol?

Pryd dylwn gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig wedi’r canfasiad blynyddol?

Oni bai bod etholiad yn ystod y canfasiad, dylech gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig erbyn 1 Rhagfyr.1  

Nid yw dyddiau gwŷl yn destun i’r gofyniad i gyhoeddi erbyn 1 Rhagfyr, sy’n golygu y gallwch gyhoeddi’r gofrestr ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, neu ŵyl banc, os dymunwch. Mae gennych hefyd y dewis i gyhoeddi cyn y dyddiad hwn; fodd bynnag, bydd gwneud hynny’n cael effaith ar y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau cofrestru. 

Byddai cyhoeddi ym mis Tachwedd yn golygu na fyddai’r gofrestr ddiwygiedig yn cynnwys unrhyw etholwyr newydd a wnaeth gais i gofrestru ar ôl 23 Hydref, ac na fyddai’n cynnwys unrhyw ddiwygiadau neu ddileadau a bennwyd ar ôl 31 Hydref.

Bydd cyhoeddi ar 1 Rhagfyr yn helpu i sicrhau bod y gofrestr ddiwygiedig mor gywir a chyflawn ag y gall fod ac yn rhoi'r cyfle mwyaf i etholwyr posibl gael eu cynnwys. 

Tra bo’r broses gofrestru yn parhau trwy’r flwyddyn, mae cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig yn debygol o fod yn garreg filltir allweddol. Pryd bynnag y penderfynwch gyhoeddi, dylech allu egluro'r rhesymau dros eich penderfyniad. Gweler y tabl isod.

Dyddiadau cau ymgeisio a phennu ceisiadau sy'n gymwys at gyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig
DigwyddiadDyddiadau os cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig ar 1 RhagfyrDyddiadau os cyhoeddir y gofrestr ym mis Tachwedd
Dyddiad olaf i dderbyn ceisiadau newydd i gofrestru

 20 Tachwedd 2026 

(6 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau ar gyfer penderfynu)

23 Hydref 2026

(6 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau ar gyfer penderfynu)
Dyddiad cau ar gyfer penderfynu

30 Tachwedd 2026*

(diwrnod olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig)

31 Hydref 2026

(diwrnod olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig)
Dyddiad cau ar gyfer derbyn a phennu ceisiadau di-enw

30 Tachwedd 2026

(diwrnod olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig)

31 Hydref 2026

(diwrnod olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig)
Dyddiad cau ar gyfer diwygio a thynnu cofnodion o'r gofrestr

30 Tachwedd 2026

(diwrnod olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig)

31 Hydref 2026

(diwrnod olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig)
Cyhoeddi  Erbyn 1 Rhagfyr 2026Unrhyw ddyddiad yn ystod mis Tachwedd

*gan fod 31 Hydref yn ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod gwaith yn 2026, gallwch drin 30 Hydref fel y dyddiad cau ar gyfer penderfynu pryd i gyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig ym mis Tachwedd.1.

Hysbysiadau newid misol 

Rhaid i ddiweddariadau i’r gofrestr gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis; fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i chi gyhoeddi hysbysiad newid misol yr un mis y byddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig, neu yn ystod y ddau fis cyn y diwrnod hwnnw, ond gallwch wneud felly, os dymunwch chi. Os cyhoeddir y gofrestr ym mis Tachwedd, rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad newid misol ym mis Medi, mis Hydref, a mis Tachwedd. Os caiff ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad newid misol ym mis Hydref, mis Tachwedd, a mis Rhagfyr.

Os penderfynwch gyhoeddi'r gofrestr ar 1 Chwefror 2027, nid oes gofyn i chi gyhoeddi hysbysiad newid misol ym mis Rhagfyr, mis Ionawr neu fis Chwefror.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Gorffennaf 2026