Beth mae’r gofrestr ddiwygiedig yn ei chynnwys pan gaiff ei chyhoeddi

Beth mae’r gofrestr ddiwygiedig yn ei chynnwys pan gaiff ei chyhoeddi 

Y gofrestr lawn

Rhaid i chi gyhoeddi cofrestr etholwyr lawn, wedi ei chyfuno, mor bell ag y bo’n  bosib, yn un gofrestr a gyfer pob math o etholiad, gan gynnwys y marcwyr etholfraint priodol. 

Nid yw fformat y gofrestr wedi ei ragnodi, ond rhaid iddi gynnwys enw, cyfeiriad a rhif etholwr pob pleidleisiwr cymwys y mae ei gais i gofrestru wedi ei bennu gan y dyddiad cau perthnasol, gan gynnwys cyrhaeddwyr, ac eithrio categorïau penodol o etholwyr a manylion unrhyw berson dan 16 oed.1  

Cyrhaeddwr yw rhywun nad yw’n ddigon hen eto i bleidleisio, ond a fydd yn cyrraedd yr oedran pleidleisio gofynnol ar gyfer rhai mathau o bleidleisiau cyn pen deuddeg mis wedi 1 Rhagfyr ar ôl y dyddiad perthnasol

Bydd y gofrestr llywodraeth leol ar gyfer y Senedd yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed fel etholwyr llawn.2 Yn ychwanegol at hynny, mae hawl gan bobl 15 oed a rhai pobl 14 oed gael eu cynnwys ar y gofrestr llywodraeth leol ar gyfer y Senedd fel 'cyrhaeddwyr'. 

Bydd angen i'r gofrestr gyfun amlygu'r dyddiad y bydd y rheiny a gynhwysir arni yn ddigon hen i bleidleisio mewn gwahanol etholiadau er mwyn dangos yn glir pryd byddant yn gymwys i bleidleisio.3  

Dylai eich cofrestr ddiwygiedig gynnwys pob ychwanegiad at y gofrestr, a phob diwygiad iddi, a bennwyd gennych erbyn y dyddiad cau perthnasol.4
 
Dim ond pan fydd cais wedi ei wneud a’i bennu’n llwyddiannus y gall unigolyn gael ei ychwanegu at y gofrestr. Ni ellir trin gwybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i gyfathrebiad canfasio ac unrhyw enwau a ganfuwyd trwy wirio cofnodion lleol fel cais i gofrestru, na’u hychwanegu at y gofrestr.
 
Dylech sicrhau hefyd eich bod yn gweithredu unrhyw ddileadau rydych wedi eu pennu ers cyhoeddi’r hysbysiad newid diwethaf yn y gofrestr ddiwygiedig.

Y gofrestr olygedig

Bydd enw a chyfeiriad etholwr yn cael eu cynnwys ar y gofrestr olygedig oni bai eu bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu.

Rhaid i chi gyhoeddi cofrestr olygedig wedi ei hadolygu sy’n gopi union o’r gofrestr lawn, ond sy’n eithrio’r rheiny sydd wedi dewis peidio â chynnwys eu manylion, a rhaid iddi ymddangos yr un pryd ag y byddwch yn cyhoeddi’r gofrestr lawn.5 Caiff unrhyw berson o dan 16 oed ei eithrio’n awtomatig o’r gofrestr olygedig.

Yn ogystal â hynny, rhaid i chi barhau i gyhoeddi’r gofrestr olygedig ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis. Mae’r ddyletswydd hon yn gymwys trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yn ystod y cyfnod canfasio, a bydd rhaid i unrhyw geisiadau gan etholwyr cyfredol i newid eu statws o ran ymeithrio gael eu corffori.

Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu peidio â chyhoeddi hysbysiadau newid yn y ddau fis cyn cyhoeddi’r gofrestr lawn wedi’r canfasiad blynyddol, rhaid i unrhyw gofrestr fisol olygedig wedi ei hadolygu beidio â thynnu fanylion unrhyw etholwyr nad ydynt eisoes yn etholwyr cyfredol a gynhwysir ar y gofrestr lawn neu unrhyw hysbysiad newid.6  

Mae'n ofynnol i chi gyhoeddi fersiwn ddiweddar gwbl integredig o'r gofrestr olygedig yn hytrach na hysbysiad sy'n amlinellu'r newidiadau.  Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi argraffu cofrestr olygedig lawn bob mis, dim ond os ydych yn cynhyrchu un ar gyfer rhywun sydd wedi gofyn amdani. 

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar brosesu newid i ddewis etholwr parthed y gofrestr olygedig (agored)

Rhaid peidio â chynnwys unrhyw wybodaeth am y rheiny o dan 16 oed ar unrhyw fersiwn o'r gofrestr a gyhoeddir, neu a fydd ar gael fel arall, gan gynnwys y gofrestr olygedig, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn

Disgrifio’r gofrestr lawn a golygedig

Mae’r termau ‘cofrestr lawn’ a ‘chofrestr olygedig’ yn dermau technegol a ddefnyddir mewn deddfwriaeth. Defnyddir y termau ‘cofrestr etholiadol’ a ‘chofrestr agored’ i egluro’r gofrestr lawn a’r gofrestr olygedig i aelodau’r cyhoedd, fel ei bod yn haws iddynt ddeall pwrpas pob cofrestr a sut cânt eu defnyddio. Mewn amgylchiadau penodol lle’r ydym yn crybwyll y gofrestr olygedig yn y canllawiau yn y cyd-destun hwn, rydym yn cyfeirio at y gofrestr olygedig fel y ‘gofrestr agored’. Fel arall, defnyddiwn y term ‘cofrestr olygedig’.

Y rhestr etholwyr tramor

Rhaid i chi gadw rhestr neu restri ar wahân o etholwyr tramor.8 Rhaid i chi gyhoeddi hon a sicrhau ei bod ar gael i’w harchwilio a’i chyflenwi pan fyddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig.9  

Rhaid i’r rhestr gael ei llunio yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw ym mhob etholaeth neu ran o etholaeth yn eich ardal.10 Rhaid iddi nodi’r cyfeiriad cymwys a’r cyfeiriad llawn tu allan i’r DU ar gyfer pob etholwr tramor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2021