Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl

Sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch

Dylai pob pleidleisiwr gael yr hawl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.

Fodd bynnag, gwyddom fod pobl anabl gan gynnwys pobl ddall a phobl rhannol ddall yn wynebu rhwystrau i bleidleisio sy'n cynnwys:

  • y ffaith nad yw eu hawliau pleidleisio'n cael eu cyfathrebu mewn ffordd hygyrch
  • y ffaith nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt wrth gofrestru i bleidleisio neu wrth bleidleisio
  • rhwystrau corfforol, seicolegol a rhwystrau o ran gwybodaeth wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
  • ymarfer gweledol – drwy roi croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur – yw'r dull o bleidleisio i bob pwrpas   

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio mai ystyr cael anabledd yw cael cyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar y gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Gall anabledd fod o ganlyniad i gyflwr meddygol: er enghraifft, gall rhywun ag arthritis yn ei ddwylo gael anhawster wrth afael mewn pethau heb ddefnyddio cymhorthyn ategol. Ond nid oes rhaid i anabledd fod yn gyflwr meddygol â diagnosis a gall gynnwys namau corfforol a seicolegol a all fod yn weladwy ac yn anweladwy. Er enghraifft, os bydd person yn dioddef iselder, mae'n bosibl y bydd yn cael anhawster canolbwyntio, yn ogystal â namau corfforol, megis blinder eithafol.   

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ystyried rhwystrau i bleidleisio, sut y gallwch sicrhau eich bod chi a'ch staff yn ymwybodol ohonynt, a sut y gallwch nodi a darparu cymorth a chyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn ei gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.

Mae'r gofyniad yn Neddf Etholiadau 2022 i Swyddogion Canlyniadau ddarparu cyfarpar rhesymol i alluogi pleidleiswyr anabl i fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol a'i gwneud hi'n haws iddynt wneud hynny yn disodli'r gofynion cyfyngedig a rhagnodol blaenorol. Mae'r gofyniad hwn hefyd yn cyd-fynd â'r fframwaith cyfreithiol ehangach o hawliau a mesurau diogelu ar gyfer pobl anabl a darpariaethau penodol mewn cyfraith etholiadol i helpu i ddiogelu a gwella profiad pleidleiswyr anabl.


Deddf Cydraddoldeb 2010

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae Swyddogion Canlyniadau ym Mhrydain Fawr wedi cael dyletswydd i ragweld anghenion pleidleiswyr anabl a gwneud addasiadau rhesymol i ddileu anfantais sylweddol i'r pleidleiswyr hynny. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Swyddogion Canlyniadau gymryd camau i ddeall a rhagweld yn barhaus anghenion pleidleiswyr anabl - gyda mathau gwahanol o ofynion o ran anabledd, cymorth a mynediad yn eu hardal fel y gallant wneud penderfyniadau hyddysg am y ffordd orau o ddiwallu'r anghenion hynny drwy wneud addasiadau rhesymol, gan gynnwys darparu cyfarpar a chymorth priodol.  Gelwir hyn yn ddyletswydd ragweledol. Mae Adran 149 o'r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus a'r rheini sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i ystyried yr angen i ddatblygu cyfle cyfartal drwy annog cyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus, a fyddai'n cynnwys pleidleisio.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi gwybodaeth am y ddyletswydd ragweledol a'r meini prawf ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol, a chanllawiau ar gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Er nad yw'r wybodaeth hon wedi'i hysgrifennu'n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, mae'n cynnig arweiniad defnyddiol ar:


Deddf Gogledd Iwerddon 1998

Mae Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff llywodraethu, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rheini sydd ag anabledd a'r rheini nad oes ganddynt anabledd wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i ddatblygu polisïau rhoi polisïau ar waith a darparu gwasanaethau (gan gynnwys cynnal etholiadau).

 

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, wneud addasiadau rhesymol i ddileu unrhyw anfantais sylweddol i bobl anabl.   

 

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

Mae darpariaethau penodol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 sy'n cefnogi hygyrchedd etholiadau i bleidleiswyr anabl.



Adran 199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 

Rhaid i chi sicrhau y caiff hysbysiadau etholiad eu cyfieithu neu eu darparu mewn fformatau eraill, lle y credwch ei bod yn briodol gwneud hynny. Gallwch eu cynhyrchu:

  • Mewn Braille1
  • Mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg2
  • Gan ddefnyddio lluniau3
  • Mewn fformat sain4  
  • Gan ddefnyddio unrhyw ddull arall o sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch.5

 

Atodlen A1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

Rhaid i chi ystyried hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio posibl wrth ystyried dynodi neu adolygu man pleidleisio.6 Rhaid i'r awdurdod perthnasol7 geisio sylwadau gan y rheini sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl sydd â mathau gwahanol o anabledd.8      

Mae ein canllawiau ar adolygu dosbarthiadau etholiadol yn cynnwys mwy o wybodaeth am y ddyletswydd hon ac mae'n cynnwys rhestr wirio hygyrchedd y gellir ei defnyddio i asesu addasrwydd pob man pleidleisio a gorsaf bleidleisio.  


Deddf Etholiadau 2022

Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddarpariaethau i gefnogi pleidleiswyr dall, rhannol ddall a phleideiswyr anabl eraill mewn gorsafoedd pleidleisio.  

Mae'r Ddeddf:

Mae geiriad y darpariaethau'n cydnabod yr amrywiadau o ran yr hyn sydd ei angen ar bobl i bleidleisio, fel y gallant gael gafael ar y cymorth sydd fwyaf priodol i bob un ohonynt, gan sicrhau'r cymorth, y gefnogaeth, yr arloesedd a'r hygyrchedd ehangaf posibl. Mae'r termau a ddefnyddir yn adlewyrchu bod y ddyletswydd ar gyfer Swyddogion Canlyniadau i alluogi'r rheini sy'n ei chael hi'n amhosibl pleidleisio wneud hynny a'i gwneud hi'n haws i'r rheini sy'n ei chael hi'n bosibl ond yn anodd. 

Mae'r darpariaethau hyn yn gymwys i'r digwyddiadau pleidleisio canlynol:

  • Etholiadau Senedd y DU
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
  • Etholiadau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • Etholiadau Maerol yn Lloegr 
  • Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf
  • Etholiadau'r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon
  • Refferenda Cynllunio Cymdogaeth
  • Refferenda Treth Gyngor.

Nid yw'r gofynion o dan y Ddeddf Etholiadau yn gymwys i etholiadau i Senedd Cymru na Senedd yr Alban, nac i etholiadau lleol yng Nghymru na'r Alban. Fodd bynnag, mae'r dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ymwneud â sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch i bleidleiswyr anabl yn gymwys i'r etholiadau hynny.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Rhagfyr 2023