A ddylai ychwanegiadau diweddar gael eu gadael allan o'r cam paru data cenedlaethol?

A ddylai ychwanegiadau diweddar gael eu gadael allan o'r cam paru data cenedlaethol?

Cewch benderfynu a ddylid hepgor rhai o'ch ychwanegiadau diweddar, os nad pob un, o'r cam paru data cenedlaethol.1
 
Ychwanegiadau diweddar yw etholwyr sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i'w cofrestru ac sydd wedi cael eu hychwanegu at y gofrestr etholwyr o fewn y 90 diwrnod diwethaf.

Penderfynu ar eich trothwy ychwanegiadau diweddar

Cyn i'r cam paru data cenedlaethol ddechrau, dylech benderfynu ar drothwy ychwanegiadau diweddar at y gofrestr i'w cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol.2  

Pan gaiff data eu lanlwytho ar gyfer y cam paru data cenedlaethol, ni chaiff unrhyw ychwanegiadau diweddar at y gofrestr cyn y dyddiad trothwy a bennwyd gennych eu cynnwys yn y cam paru data, a nodir yn awtomatig eu bod wedi'u paru o fewn ein System Rheoli Etholiad.

  • Os byddwch yn pennu trothwy o 0 diwrnod, caiff pob ychwanegiad diweddar ei gynnwys yn y cam paru data cenedlaethol. 
  • Os byddwch yn pennu trothwy o 90 diwrnod, ni chaiff ychwanegiadau diweddar a wnaed o fewn y 90 diwrnod diwethaf eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol, a nodir yn awtomatig eu bod wedi'u paru yn eich System Rheoli Etholiad.
  • Os byddwch yn pennu trothwy sydd rhwng 0 a 90 diwrnod, ni chaiff ychwanegiadau diweddar at y gofrestr o fewn eich terfyn amser eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol. Er enghraifft, os byddwch yn pennu trothwy o 45 diwrnod, ni chaiff ychwanegiadau diweddar at y gofrestr o fewn y 45 diwrnod diwethaf eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol, a nodir yn awtomatig eu bod wedi'u paru yn eich System Rheoli Etholiad.  

Gallai eich penderfyniad i gynnwys neu hepgor ychwanegiadau diweddar o ran y cam paru data cenedlaethol effeithio ar y canlyniadau paru data. Yn ei dro, gall hyn ddylanwadu ar y llwybr canfasio y byddwch yn ei ddewis ar gyfer pob eiddo.
 
Efallai y bydd y cwestiynau isod yn eich helpu i benderfynu a ddylid hepgor rhai o'ch ychwanegiadau diweddar, os nad pob un, o'r cam paru data cenedlaethol.

CwestiynauEffaith ar eich penderfyniad 
Pa mor sefydlog yw'ch etholaeth? 
Oes cryn fynd a dod o fewn eich ardal etholiadol?
Os oes cryn fynd a dod yn eich ardal, mae mwy o risg y gall rhywun wneud cais llwyddiannus i gofrestru i bleidleisio, ond yna symud eto mewn fawr ddim amser. Os felly, gallech ystyried pennu trothwy is a all helpu i nodi newidiadau'n well mewn ardaloedd lle mae etholwyr yn symud yn amlach.
Ydych chi wedi edrych ar setiau data lleol i gadarnhau nad oes unrhyw newidiadau eraill yn gymwys i wybodaeth sydd gennych am eiddo lle nodwyd ychwanegiadau diweddar?Os ydych wedi cynnal gwiriadau fel rhan o'r gwaith o gynnal y gofrestr drwy gydol y flwyddyn, gallech ystyried pennu trothwy uwch. Gallech fod yn fwy tebygol o fod wedi nodi a rheoli newidiadau diweddar, ac felly efallai y bydd eich data lleol yn fwy cyfredol na chofnodion DWP.
Oes gennych chi brosesau ar waith i nodi etholwyr yn rheolaidd ac yna dynnu enwau etholwyr sydd eisoes wedi'u cofrestru o eiddo os ydynt wedi symud allan?    Os felly, gallech ystyried pennu trothwy uwch, oherwydd rydych yn fwy tebygol o fod wedi gwneud newidiadau diweddar ac felly efallai y bydd eich data lleol yn fwy cyfredol na chofnodion DWP.
A fu'n rhaid i chi brosesu cyfran uchel o newidiadau yn ystod canfasiadau blaenorol? Os felly, gallech ystyried pennu trothwy is gan fod eich profiad diweddar yn awgrymu eich bod yn llai tebygol o fod wedi nodi'r holl newidiadau gofynnol y tu allan i'r cyfnod canfasio. 

Mae taflen gymorth isod Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn darparu rhagor o wybodaeth ac arweiniad i'ch helpu i bennu eich trothwy.

Dylech adolygu effaith y trothwy rydych yn ei bennu ar ôl pob canfasiad er mwyn nodi ei effeithiolrwydd, a sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgwyd  yn bwydo i mewn i gynllunio canfasiadau dilynol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2024