Beth yw'r cam paru data cenedlaethol?

Beth yw'r cam paru data cenedlaethol?

Bob blwyddyn, cyn cynnal y canfasiad blynyddol, rhaid i chi ddatgelu data i Weinidog Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau fel rhan o ymarfer paru data cenedlaethol a elwir yn gam paru data cenedlaethol.1
 
Mae'r cam paru data cenedlaethol yn cynnwys gwirio gwybodaeth am etholwyr presennol ar eich cofrestr - eu henw, cyfeiriad gan gynnwys yr UPRN lle mae'n gymwys a, lle y bo'n hysbys, ddyddiad geni, yn erbyn data sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
 
Diben yr ymarfer yw eich helpu i nodi eiddo lle gall y preswylwyr fod wedi newid. Yna dylai'r wybodaeth hon gael ei defnyddio i bennu'r llwybr y byddwch yn ei ddilyn i ganfasio pob eiddo.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Medi 2024