Pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 3?
Pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 3?
Wrth ganfasio unrhyw eiddo drwy Lwybr 3, rhaid i chi gyfathrebu â'r unigolyn cyfrifol a nodwyd gennych ar gyfer yr eiddo hwnnw fel rhan o'ch gwaith cynllunio.
Nid oes dull cyfathrebu penodol wedi'i nodi ar gyfer Llwybr 3 felly mae gennych yr hyblygrwydd i benderfynu beth yw'r ffordd orau o gyfathrebu â'r unigolyn cyfrifol ar gyfer pob eiddo Llwybr 3 yn eich ardal.
Gallwch gysylltu â'r unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 drwy unrhyw ddull sy'n briodol yn eich barn chi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:1
Anfon gohebiaeth bapur – nid oes ffurflen ragnodedig i'w defnyddio ar gyfer Llwybr 3, ond gallai'r ohebiaeth ganfasio ragnodedig fod yn dempled defnyddiol ar gyfer y wybodaeth y mae angen i chi ei chasglu
Gohebiaeth electronig – gallai hyn gynnwys anfon e-bost os oes gennych gyfeiriad e-bost ar gyfer yr unigolyn cyfrifol
Ymweld â'r eiddo Llwybr 3 neu swyddfa'r unigolyn cyfrifol
Dros y ffôn – gallech benderfynu cysylltu â'r unigolyn cyfrifol dros y ffôn os oes gennych rif cyswllt ar ei gyfer
Dylech o leiaf gofnodi'r camau a gymerwyd gennych i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y canfasiad gan yr unigolyn cyfrifol, er enghraifft drwy gofnodi enw'r unigolyn y cysylltwyd ag ef, dyddiad ac amser y cyswllt hwnnw, a manylion unrhyw ymateb a gafwyd gan y person cyfrifol.