Bydd angen i chi gadarnhau bod unrhyw ymateb a gewch yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen am bob unigolyn 16 oed neu hŷn sy'n byw yn yr eiddo ac yn gymwys i gofrestru.1
Os byddwch yn fodlon eich bod wedi cael ymateb gan unigolyn cyfrifol eiddo sy'n cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, dylid cau proses Llwybr 3.
Pan fyddwch yn cael ymateb sy'n dynodi y gall rhywbeth fod wedi newid yn yr eiddo, bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymateb yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'w brosesu'n llawn a dylech gymryd camau i brosesu'r wybodaeth yn yr ymateb fel sydd ei angen.
A ddylwn anfon negeseuon atgoffa i eiddo Llwybr 3?
Os byddwch wedi gofyn am y wybodaeth ofynnol gan unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 ac na fyddwch wedi cael ymateb eto, gallwch ei atgoffa i ymateb os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Gallech wneud hyn drwy ddull cyfathrebu gwahanol, neu gallech ddefnyddio'r un dull cyfathrebu ag y gwnaethoch ei ddefnyddio ar gyfer eich cyswllt cyntaf. Pa ddull bynnag y byddwch yn ei ddewis, dylech gofnodi'r camau a gymerwyd i atgoffa'r unigolyn cyfrifol i ymateb, er enghraifft drwy gofnodi'r dyddiad a'r amser a'r dull cyfathrebu a ddefnyddiwyd.
Mater i chi fydd penderfynu pryd i anfon unrhyw negeseuon atgoffa. Os byddwch yn penderfynu peidio ag anfon neges atgoffa neu os na fydd neges atgoffa wedi arwain at gael y wybodaeth gan yr unigolyn cyfrifol o fewn cyfnod rhesymol, rhaid trosglwyddo'r eiddo i Lwybr 2 a chynnal canfasiad Llwybr 2 llawn o'r eiddo hwnnw.2