Deisebau etholiadol
Gellir defnyddio deiseb etholiadol i herio canlyniad etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Gall deiseb etholiadol gael ei chyflwyno gan y canlynol1
:
person sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
bedwar neu fwy o bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad neu yr oedd ganddynt hawl i bleidleisio yn yr etholiad, heblaw am etholwyr a gofrestrwyd yn ddienw
Beth yw'r sail dros ddeiseb etholiadol?
Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb yw2
:
nad oedd yr unigolyn y codwyd amheuaeth ynghylch ei ethol wedi'i iawn ethol
bod yr unigolyn y codwyd amheuaeth ynghylch ei ethol wedi'i anghymhwyso ar adeg yr etholiad
bod yr etholiad yn annilys oherwydd arferion llwgr neu anghyfreithlon neu ar y seiliau a nodir yn Adrannau 164 a 165 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Pwy fydd yr ymatebydd?
Mae'n debygol iawn y caiff yr unigolyn y ceir amheuaeth ynghylch ei ethol ei wneud yn wrthapeliwr i'r ddeiseb. Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, byddwch yn ymatebydd i'r ddeiseb os yw'n ymwneud â'r broses o gynnal yr etholiad, ac os yw'n ymwneud â'r broses o gynnal yr etholiad mewn ardal bleidleisio benodol neu ardaloedd pleidleisio penodol, mae'n bosibl y bydd Swyddogion Canlyniadau perthnasol hefyd yn ymatebwyr3
.
Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno deisebau
Rhaid cyflwyno deiseb o fewn 21 diwrnod ar ôl y diwrnod y cynhaliwyd yr etholiad. Caniateir rhagor o amser mewn amgylchiadau penodol4
.
Dylid cynghori unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno deiseb etholiadol i geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun. Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol, gan gynnwys cadarnhau'r dyddiadau cau, dylech gysylltu â'r Swyddfa Deisebau Etholiadol:
The Election Petitions Office
Room E113
Royal Courts of Justice
Strand
London WC2A 2LL
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0207 947 6877