Rhaid i ymgeiswyr roi gwybod am eu gwariant etholiadol a'r rhoddion a wnaed tuag at eu hymgyrch ar ôl yr etholiad.
Rhaid i asiant ymgeisydd gyflwyno ffurflen gwariant a rhoddion i chi ynghyd ag unrhyw ddogfennau atodol, fel anfonebau a derbynebau perthnasol ar gyfer taliadau o fwy nag £20 a wnaed a rhoddion o fwy na £50 a gafwyd, o fewn 70 diwrnod calendr i'r dyddiad y caiff canlyniad yr etholiad ei ddatgan. Rhaid i asiantiaid hefyd gyflwyno datganiad ar gynnwys y ffurflen o fewn 70 diwrnod calendr i'r dyddiad y caiff canlyniad yr etholiad ei ddatgan. Rhaid i'r datganiad fod ar y ffurf a nodir yn rheolau'r etholiad neu ar ffurf debyg1
.
Rhaid i ymgeiswyr hefyd gyflwyno datganiad ar gynnwys y ffurflen o fewn saith diwrnod gwaith i'r dyddiad y bydd yr asiant etholiad yn cyflwyno'r ffurflen. Rhaid i'r datganiad fod ar y ffurf a nodir yn rheolau'r etholiad neu ar ffurf debyg2
.
Os yw'r ymgeisydd y tu allan i'r DU, rhaid i'r datganiad gael ei wneud o fewn 14 diwrnod calendr ar ôl i'r ymgeisydd ddychwelyd i'r DU. Os bydd ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant ei hun, dim ond un datganiad y mae'n ofynnol iddo ei gyflwyno.
Cadw ffurflenni gwariant ymgeiswyr
Rhaid i chi gadw copi o bob ffurflen gwariant a datganiad mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y gwnaethoch ei derbyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid i chi sicrhau bod y copïau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn eich swyddfa neu mewn lle arall cyfleus a ddewisir gennych chi. Rhaid i chi hefyd ddarparu copïau o'r ffurflenni, datganiadau neu unrhyw ddogfennau cysylltiedig ar gais. Y ffi am gopi o unrhyw ffurflen, datganiad neu ddogfen yw 15c ar gyfer pob ochr o bob tudalen3
.
Rhaid i chi dynnu cyfeiriadau unigolion sydd wedi gwneud rhoddion i ymgeiswyr o bob copi o ddatganiadau o roddion sydd ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio neu a ddarperir ar gais. Dylech hefyd sicrhau y caiff data personol eu golygu yn y copïau hyn.
Ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd, os bydd yr ymgeisydd neu'r asiant etholiad yn gwneud cais amdanynt, rhaid i'r ffurflenni, y datganiadau a'r dogfennau ategol gael eu dychwelyd i'r ymgeisydd, neu fel arall, dylid eu dinistrio.