Guidance for the GLRO administering the GLA elections

Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu

Ceir 40 o ardaloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain a Manceinion). Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ddynodi Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ar gyfer pob ardal heddlu, y mae'n rhaid iddo/iddi fod yn Swyddog Canlyniadau Gweithredol dros etholaeth Senedd y DU sydd o fewn ardal yr heddlu yn gyfan gwbl neu'n rhannol.1

Chi sy'n gyfrifol am drefn cynnal etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyffredinol, ac am gydgysylltu â Swyddogion Canlyniadau Lleol yn ardal yr heddlu a chyd-drefnu eu gwaith. Mae'r swydd ddisgrifiad a luniwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau at ddibenion recriwtio Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn rhoi trosolwg o'u rôl a'u cyfrifoldebau.

Yswiriant ac indemniad

Dylech sicrhau bod gennych yswiriant priodol. Dylech fod yn barod i ddangos prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau cadarn os bydd unrhyw her i'r etholiad a hawliad yn erbyn yw yswiriant hwn. 

Efallai y bydd y tîm yn eich cyngor sy'n ymdrin ag yswiriant yn gallu helpu i bennu pa yswiriant sydd eisoes wedi'i drefnu ac ar gael, a rhoi cyngor ar b'un a ddylid ei ymestyn.

Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rhoi gwybodaeth am ei pholisi o ran indemnio Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu a Swyddogion Canlyniadau Lleol yn ystod y cyfnod cyn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a drefnwyd. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023