Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Adolygu gweithdrefnau etholiad

Ar ôl yr etholiad, dylech gynnal gwerthusiad trylwyr o'r holl brosesau a amlinellir yn eich cynllun prosiect, gan geisio adborth gan randdeiliaid priodol, a llunio dogfen ar y gwersi a ddysgwyd a gaiff ei defnyddio i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol. 

Dylai eich proses werthuso gynnwys ceisio adborth gan y Swyddogion Canlyniadau perthnasol yn eich ardal heddlu a rhanddeiliaid priodol eraill.

Mae'r Comisiwn wedi darparu, fel rhan o'r templed ar gyfer cynllun prosiect, rai nodau enghreifftiol ac adnoddau a awgrymir a fydd yn eich galluogi i fesur i ba raddau y bu'r broses o gynnal yr etholiad yn llwyddiannus. 

Adnodd – Cynllun prosiect Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu

 

Yr adolygiad
Dylai'r adolygiad gwmpasu pob agwedd ar yr etholiad. Dylai eich cynllun prosiect gael ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer yr adolygiad, a dylai pob proses y cynlluniwyd ar ei chyfer ac a gyflawnwyd gael ei hadolygu.

Rhan allweddol o'r adolygiad fydd ystyried y nodau a'r amcanion a nodwyd yn eich cynllun prosiect a mesur eich perfformiad yn eu herbyn.

Dylech dalu sylw arbennig i adolygu'r canlynol:

  • eich gwaith cynllunio prosiect
  • p'un a oeddech yn gallu sicrhau digon o adnoddau
  • effeithiolrwydd eich strwythur rheoli a chydweithredu, gan gynnwys monitro eich gwaith o gynllunio ar gyfer yr etholiad a'i chynnal gan y Swyddogion Canlyniadau perthnasol yn eich ardal heddlu
  • effeithiolrwydd eich strategaethau a'ch dulliau cyfathrebu 
  • recriwtio a hyfforddi staff 
  • ymgysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid
  • rheoli'r broses enwebu a chyhoeddi cyfeiriadau ymgeiswyr
  • trefnu a chyflwyno'r broses o goladu canlyniadau 
  • addasrwydd y lleoliadau a ddefnyddiwyd 
  • y gwaith o brosesu ac ymdrin ag ymholiadau
  • unrhyw faterion sy'n effeithio ar ddiogelwch/uniondeb yr etholiad

Fel rhan o'r adolygiad dylech geisio adborth gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys:

  • staff
  • etholwyr
  • ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau gwleidyddol
  • Swyddogion Canlyniadau perthnasol o ardal yr heddlu a'u staff
  • sefydliadau lleol o bobl anabl, pobl hŷn a grwpiau ethnig lleiafrifol, a swyddogion mynediad y cyngor

Ar ôl i chi adolygu pob agwedd ar yr etholiad a cheisio adborth gan randdeiliaid priodol, dylech lunio dogfen yn nodi'r gwersi a ddysgwyd. Dylai'r ddogfen honno gynnwys dadansoddiad o ba arferion fu'n llwyddiannus a ble arall y gellid eu defnyddio, beth fyddech yn ei wneud eto neu'n wahanol, ac argymhellion allweddol. Dylai'r adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd gael ei ddefnyddio wedyn i lywio eich cynllun prosiect a chofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol. Dylech hefyd roi adborth i Swyddogion Canlyniadau perthnasol yn ardal yr heddlu fel rhan o'u hadolygiad o'r broses o gynnal yr etholiad yn eu hardal bleidleisio. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023