Ariennir etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gan Lywodraeth y DU. Bydd Gorchymyn Ffioedd a Thaliadau a fydd yn nodi faint y gallwch ei hawlio. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rhoi canllawiau ar gyfrifyddu ar gyfer yr etholiadau.
Talu credydwyr
Dylech gadw derbynebau cyn cyfnod yr etholiadau a thrwy gydol cyfnod yr etholiadau ar gyfer pob gwasanaeth/gwaith a ddarparwyd, a thalu pob credydwr cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau.
Talu ffioedd i staff
Wrth dalu'ch ffioedd i'r staff bydd angen i chi ystyried y canlynol.
Treth incwm
O dan reolau treth rhaid cwblhau rhestr wirio dechreuwr safonol, a gyhoeddir ar yr adeg penodi. Dim ond unwaith y mae'n rhaid ei chwblhau yn hytrach na'i hadolygu bob blwyddyn. Bydd angen i chi roi ffurflen P60 i'r cyflogai ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Os byddwch yn terfynu contract unrhyw aelod o'ch staff achlysurol yn dilyn yr etholiad ac yn rhoi P45 iddo/iddi, yna bydd angen i unrhyw staff achlysurol sy'n dychwelyd i weithio mewn etholiadau yn y dyfodol gwblhau rhestr wirio safonol newydd i ddechreuwyr ym mhob etholiad newydd.
Gwybodaeth amser real CThEF
Bydd pob taliad etholiad a wneir yn ddarostyngedig i system taliadau treth gwybodaeth amser real CThEF. Dylech sicrhau eich bod yn cysylltu ag adrannau cyllid ac adnoddau dynol eich awdurdod lleol cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y gallwch gydymffurfio â'r rheolau treth ar gyfer pob un o'ch cyflogeion, gan gynnwys unrhyw staff dros dro a staff contract tymor byr. Ceir canllawiau pellach gan CThEF.
Cofrestru'n awtomatig mewn pensiwn yn y gweithle
Rhaid i bob cyflogwr sydd â staff sy'n gweithio yn y DU gydymffurfio â'r gofynion o ran cofrestru'n awtomatig. Ceir canllawiau pellach gan y Rheoleiddiwr Pensiynau.