Rydym hefyd yn cyfathrebu â chynulleidfaoedd eraill sy'n dylanwadu ar y materion rydym yn ymdrin â nhw. Er enghraifft, seneddwyr, llunwyr polisi, ac academyddion. Rydym yn eu helpu i ddeall ein ffordd o feddwl ar faterion pwysig, ac yn clywed eu barn fel y gallwn lywio ein dull ein hunain.
Mae'r mewnbwn hwn yn cyfrannu at ein ffordd o feddwl o ran polisi, ochr yn ochr â'n gwaith ymchwil gyda'r cyhoedd a grwpiau rhanddeiliaid eraill. Mae hyn yn sicrhau bod ein holl ffordd o feddwl wedi'i seilio'n gadarn ar dystiolaeth a bod modd ei graffu, ei herio ac ymddiried ynddo. O faterion yr ydym yn eu blaenoriaethu, i ymateb i bethau y mae eraill wedi’u dweud neu’n eu gwneud.
Hannah testimonial
Mae gweithio yn y tîm Cyfathrebu Digidol ac Ymgysylltu â Phleidleiswyr wedi gwella fy sgiliau ac wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn rhan o dîm sy’n ymroddedig i helpu pobl i gymryd rhan mewn etholiadau. Rwy'n gyffrous am y dyfodol ac ni allaf aros i weld sut rydym yn parhau i gysylltu â phleidleiswyr mewn ffyrdd sydd hyd yn oed yn fwy ystyrlon.