Cyhoeddi data rhoddion a gwariant ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol
Cyhoeddi data rhoddion a gwariant ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi’r prif ffigurau o ran gwariant ymgeiswyr a’r rhoddion a gawsant yn ystod etholiad cyffredinol 2024 er mwyn rhoi tryloywder i bleidleiswyr ynghylch yr arian a wariwyd ac a gafwyd yn ystod yr ymgyrch.
Mae’r data yn dangos faint a wariodd ac a gafodd ymgeiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir, a ddechreuodd ar y diwrnod ar ôl iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, ac a ddaeth i ben ar y diwrnod pleidleisio, sef 4 Gorffennaf 2024.
“Mae terfynau gwariant ar waith mewn etholiadau er mwyn sicrhau chwarae teg. Cyfrifir y terfyn ar gyfer ymgeisydd ar sail y math o etholaeth – bwrdeistref neu sir – a nifer y pleidleiswyr cofrestredig yn yr etholaeth honno.
Caiff gwybodaeth am arian a wariwyd gan ymgeiswyr ac arian a chawsant yn ystod yr ymgyrch ei chyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau lleol ar ôl yr etholiad. Caiff yr wybodaeth ei rhoi wedyn i’r Comisiwn, fel bod modd cyhoeddi ffurflenni ymgeiswyr ledled y DU gyda’i gilydd mewn un man, er dibenion tryloywder a monitro cydymffurfiaeth.
Dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
“Safodd y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
“Cyn yr etholiad, aeth y Comisiwn ati i gefnogi ymgeiswyr er mwyn iddynt ddeall eu hymrwymiadau cyfreithiol a chydymffurfio â nhw, a sicrhau eu bod wedi gallu ymgyrchu’n hyderus.
“Rydym wedi gweld efelau uchel o gydymffurfiaeth gyda’r gofynion. Ein nod yw sicrhau system gyllid gwleidyddol tryloyw y gellir ymddiried ynddi. Rydym wedi adolygu’r ffurflenni ac wedi hysbysu’r heddlu lle bo gofidion dichonadwy.”
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn darparu cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr i gefnogi eu cydymffurfiaeth â’r gyfraith etholiadol. Fodd bynnag, er ei fod yn rheoleiddio’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol sy’n gymwys i bleidiau ac ymgyrchwyr, nid yw’r Comisiwn yn rheoleiddio gwariant ymgeiswyr a rhoddion, gan fod y rhain yn fater i’r heddlu.
Mis diwethaf, cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol ffurflenni gwariant pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a wariodd £250,000 neu lai yn ystod yr etholiad cyffredinol. Er mwyn cwblhau’r darlun o’r arian a wariwyd yn ystod yr ymgyrch, bydd yn cyhoeddi data yn ymwneud â phleidiau ac ymgyrchwyr a wariodd dros £250,000 yn y misoedd nesaf. Ar hyn o bryd mae’n dadansoddi’r holl ddata a gyflwynwyd a bydd yn rhannu’r prif ganfyddiadau yn yr haf.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
alluogi cynnal etholiadau a refferenda rhyd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
defnyddio ein harbenigedd dros newidiadau i’n democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Ar ôl etholiadau, mae’n rhaid i ymgeiswyr a’u hasiantiaid gyflwyno ffurflen gwariant ymgeisydd i’r Swyddog Canlyniadau yn y cyngor lleol o fewn 35 diwrnod o gyhoeddi’r canlyniad. Mae’n rhaid i’r rhain fod ar gael ar gyfer craffu cyhoeddus ar gais am gyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau ar y dyddiad pan dderbynnir y ffurflen.
Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod ymgeiswyr na wnaethant wario unrhyw arian yn cyflwyno cofnod o ddim. Ar gyfer cystadlaethau mawr, fel etholiadau cyffredinol Senedd y DU, mae Swyddogion Canlyniadau yn anfon copïau o’r ffurflenni gwariant ymgeisydd i’r Comisiwn.
Ar gyfer etholiad cyffredinol y DU 2024, cynyddwyd terfynau gwariant ymgeiswyr i £11,390 ac 8c am bob pleidleisiwr cofrestredig mewn etholaeth sir, neu 12c am bob pleidleisiwr cofrestredig mewn etholaeth bwrdeistref.
Mae’r offeryn gwariant ymgeiswyr yn caniatáu defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth am wariant ymgeiswyr yn ystod yr ymgyrch etholiadol a’i dadansoddi. Mae wedi ei lwytho ymlaen llaw â chwiliadau am ymgeiswyr a wariodd fwyaf a lleiaf, ac a dderbyniodd y mwyaf mewn rhoddion. Mae rhagor o wybodaeth am yr offeryn a’r data mae’n ei gynnwys ar ein tudalen adrodd ariannol. Nid yw’r Comisiwn yn cyhoeddi’r ffurflenni ymgeiswyr llawn gan nad oes ganddo’r grym cyfreithiol i wneud hynny.
Caiff ffigurau gwariant a rhoddion eu cyhoeddi fel y maent yn ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd.