Cyhoeddi ffigyrau rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar gyfer Ch2 2021
Cyhoeddi ffigyrau rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar gyfer Ch2 2021
Adroddodd pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu bod wedi derbyn cyfanswm o £12,608,764 mewn rhoddion ac arian cyhoeddus yn ail chwarter 2021, (Ebrill i Fehefin), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion a benthyciadau 24 plaid ac mae'n cymharu â £ 9,867,578 a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2020.
Wrth wneud sylw ar y wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Mae cyhoeddi’r data hwn yn rhoi gwybodaeth bwysig i bleidleiswyr o ran sut mae pleidiau yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu, er mwyn gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.”
Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno cofnodion rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys:
- rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai gan roddwr unigol sy’n fwy na'r trothwy adrodd pan cymerir hwy gyda’i gilydd
- rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
- rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.
Mae adroddiadau rhoddion a benthyciadau o’r chwarter hwn hefyd yn cynnwys taliadau ffyrlo sy’n cael eu cynnwys yn y categori cronfeydd cyhoeddus.
Y 24 plaid wleidyddol a adroddodd am roddion yn ail chwarter 2021, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:
Plaid |
Cyfanswm a adroddwyd |
Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) |
Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd |
Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn |
---|---|---|---|---|
Alba Party |
£33,169 |
£28,169 |
£0 |
£28,169 |
Alliance - Alliance Party of Northern Ireland |
£32,636 |
£12,500 |
£18,649 |
£31,149 |
Communist Party of Britain |
£10,000 |
£10,000 |
£0 |
£10,000 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol |
£4,446,613 |
£4,249,253 |
£181,215 |
£4,430,468 |
Y Blaid Gydweithredol |
£435,635 |
£435,635 |
£0 |
£435,635 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P |
£242,302 |
£9,041 |
£233,261 |
£242,302 |
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) |
£118,022 |
£73,646 |
£44,376 |
£118,022 |
Y Blaid Werdd (Gogledd Iwerddon) |
£11,525 |
£0 |
£11,525 |
£11,525 |
Y Blaid Lafur |
£5,095,311 |
£3,068,042 |
£1,968,547 |
£5,036,589 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
£898,601 |
£377,681 |
£456,018 |
£833,699 |
London Real Party |
£11,155 |
£11,155 |
£0 |
£11,155 |
People Before Profit Alliance |
£9,036 |
£0 |
£4,518 |
£4,518 |
Plaid Cymru |
£214,887 |
£37,500 |
£177,387 |
£214,887 |
Reform UK |
£25,000 |
£25,000 |
£0 |
£25,000 |
Renew |
£28,600 |
£28,600 |
£0 |
£28,600 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) |
£682,845 |
£282,981 |
£398,864 |
£681,845 |
SDLP (Social Democratic & Labour Party) |
£44,869 |
£0 |
£44,869 |
£44,869 |
Sinn Féin |
£96,858 |
£5,736 |
£85,122 |
£90,858 |
The Reclaim Party |
£250,000 |
£250,000 |
£0 |
£250,000 |
Traditional Unionist Voice - TUV |
£13,726 |
£0 |
£6,840 |
£6,840 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) |
£9,032 |
£9,032 |
£0 |
£9,032 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster |
£23,603 |
£0 |
£23,603 |
£23,603 |
Women's Equality Party |
£30,000 |
£30,000 |
£0 |
£30,000 |
'Yorkshire Party' |
£10,000 |
£10,000 |
£0 |
£10,000 |
Cyfanswm |
£12,773,425 |
£8,953,971 |
£3,654,793 |
£12,608,764 |
Gallai’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm a adroddir gan blaid gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a / neu roddion a adroddwyd ar gyfer y chwarter anghywir.
Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.
Methodd 12 plaid â bodloni'r dyddiad cau adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Benthyca
Adroddwyd £495,240 o fenthyciadau newydd yn ail chwarter 2021. Talwyd benthyciadau gwerth £ 22,500 yn ôl yn llawn ac mae £ 0 mewn benthyciadau wedi'u trosi'n llawn i roddion yn y chwarter hwn. R
Donees
hoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch2 2021
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.
Yn ail chwarter 2021, derbyniwyd £745,572 mewn rhoddion gan 24 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.
Math o dderbyniwr a reoleiddir |
Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd |
Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor |
Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd |
---|---|---|---|
Maer |
£354,259 |
£0 |
£354,259 |
Cymdeithas Aelodau |
£105,000 |
£0 |
£105,000 |
AS - Aelod Seneddol |
£286,313 |
£0 |
£286,313 |
Cyfansymiau |
£745,572 |
£0 |
£745,572 |
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau yn ail chwarter 2021, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.
Further info
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
- Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.
- Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
- Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.
- Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Y rhain yw: Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu ragor o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn nhrydydd chwarter 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
- Roedd 356 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod ail chwarter 2021. Roedd gofyn i 63 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 50 ohonynt gyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Y flaenorol mae gweddill y pleidiau gwleidyddol wedi cyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol. Ar yr amod nad ydynt wedi derbyn rhoddion yn y chwarter diwethaf, maent felly wedi'u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.
- Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
- Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau.
- Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
- Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.