Cyhoeddi gwariant ymgyrchwyr plaid ac ymgyrchwyr amhleidiol o £250k neu lai yn etholiad cyffredinol 2019
Summary
Heddiw mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi cofnodin gwariant etholiadol pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr amhleidiol cofrestredig a wariodd £250,000 neu lai yn ystod etholiad Cyffredinol Seneddol y DU.
Nododd 58 o’r pleidiau gwleidyddol a fu’n cystadlu yn yr etholiad cyffredinol eu bod wedi gwario llai na £250,000 yn ystod y cyfnod rheoledig rhwng 13 Rhagfyr 2018 a diwrnod yr etholiad, 12 Rhagfyr 2019. At ei gilydd, nododd y pleidiau hyn eu bod wedi gwario £389,623 ar ymgyrchu yn yr etholiad.
Quote from Louise Edwards, director of regulation
Wrth sôn am y cofnodion hyn gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Dyma’r cyhoeddiad cyntaf o wybodaeth am wariant yn ymwneud ag etholiad cyffredinol y llynedd, rhan bwysig o’r tryloywder sy’n hanfodol i’n proses ddemocrataidd. Mae'n hanfodol bod pleidleiswyr yn gallu gweld yn glir ac yn gywir sut mae arian yn cael ei wario ar ddylanwadu arnyn nhw mewn etholiadau.
“Ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, rydyn ni wedi argymell y dylid newid y gyfraith fel bod yn rhaid i bleidiau ac ymgyrchwyr roi mwy o fanylion i bleidleiswyr ynglŷn â sut maen nhw'n gwario eu harian mewn etholiadau. Mae hyn yn cyd-fynd â newidiadau eraill a argymhellir i wella tryloywder ac i fynd i’r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch pwy sydd wedi cynhyrchu a thalu am y deunydd ymgyrchu gwleidyddol a welant ar-lein.”
Y deg plaid sy'n gwario fwyaf a nododd wario o dan £250,000 yn UKPGE 2019
Party | Expenditure |
---|---|
Plaid Cydraddoldeb Menywod | £102,152 |
Advance Together | £60,875 |
Y Blaid Gydweithredol | £55,199 |
Sinn Féin | £34,684 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) | £22,017 |
Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £21,778 |
SDLP (Plaid Deomcratiaid Cymdeithasol a Llafur) | £19,612 |
Plaid Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P. | £16,064 |
Plaid Sosialaidd Prydain Fawr | £8,093 |
Plaid Cwm Cynon | £6,372 |
Mae yna 12 plaid a wariodd £250,000 neu lai ac na chyflwynodd ddatganiadau erbyn y dyddiad dyledus. Mae'r rhain yn cael eu gwerthuso yn unol â'n Polisi Gorfodi.
Cofnodion gwairant ymgeiswyr
Mae ymgeiswyr a safodd yn etholiad cyffredinol y llynedd eisoes wedi cyflwyno eu cofnodion gwariant i'r swyddog canlyniadau yn yr etholaeth y buont yn sefyll ynddi. Mae'r cofnodion a gyflwynwyd ar gael i'w gweld ar ein hofferyn treuliau ymgeiswyr.
Ymgyrchwyr amhleidiol
Yn etholiad cyffredinol 2019, roedd yna 61 o ymgyrchwyr amhleidiol cofrestredig, sef y nifer uchaf erioed. Mae'n ofynnol i ymgyrchwyr amhleidiol sy'n gwario dros derfyn penodol gofrestru a chyflwyno adroddiadau gwariant a rhoddion i ni. Nododd 34 o'r rhain eu bod wedi gwario llai na £250,000 ac mae eu cofnodion gwariant wedi'u cyhoeddi heddiw. At ei gilydd, nododd yr ymgyrchwyr amhleidiol hyn eu bod wedi gwario £2,357,315.
Rhaid i ymgyrchwyr amhleidiol hefyd roi gwybod am eu rhoddion ochr yn ochr â'u gwariant. Mae’r rhoddion dros £7,500 mewn perthynas â gweithgaredd gwleidyddol ymgyrchwyr amhleidiol hefyd wedi’u cyhoeddi heddiw.
Y deg ymgyrchydd amhleidiol sy'n gwario fwyaf a nododd wario o dan £250,000 yn UKPGE 2019:
Ymgyrchwr amhleidiol | Gwariant |
---|---|
Working 4 UK Cyfyngedig | £189,905 |
Cymdeithas Rhwydweithiau Ynni Cyfyngedig | £157,016 |
PV Media Hub Cyfyngedig (enw'r ymgyrch: Pleidleisiwch dros gael y Dweud Olaf) | £151,550 |
MTCAE Cyfyngedig (enw'r ymgyrch: Mainstream - Yr Ymgyrch yn Erbyn Eithafiaeth) | £134,457 |
Gwyddonwyr o blaid yr UE Cyf | £124,340 |
Ymgyrchoedd Avaaz y DU | £122,558 |
Sicrhau bod Pleidleisiau o Bwys | £121,799 |
Labordy Newid Go Iawn Cyf | £120,488 |
Y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon | £107,569 |
Ymgyrch yn erbyn Corbyniaeth | £106,081 |
Rheolau gwariant cyfun ac Etholiadau Seneddol Ewropeaidd ym mis Mai 2019
Dechreuodd y cyfnod rheoledig ar gyfer etholiad cyffredinol Seneddol y DU 2019 ar 13 Rhagfyr 2018 a pharhaodd tan 12 Rhagfyr 2019. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r cofnodion gwariant a gyhoeddir heddiw hefyd gynnwys yng nghyfanswm eu gwariant sy'n ymwneud â'r Etholiadau Seneddol Ewropeaidd a gynhaliwyd ym mis Mai 2019.
O ganlyniad, bydd angen i rai pleidiau ac ymgyrchwyr a wariodd lai na £250,000 yn yr etholiad cyffredinol adrodd am gyfanswm y gwariant dros £ 250,000 ac felly mae'r dyddiad cau adrodd diweddarach ar 12 Mehefin yn berthnasol.
Mae'r ffigurau yn y datganiad hwn yn cynnwys gwariant yr etholiad cyffredinol yn unig.
Mae'r cofnodion gwariant ar gyfer Etholiadau Seneddol Ewropeaidd eisoes ar gael.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio press@electoralcommission.org.uk.
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth,
- gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad statudol ar ôl yr etholiad ar etholiad cyffredinol 2019 y DU ym mis Ebrill ac mae'n cynnwys manylion ein hargymhellion sy'n gysylltiedig ag ymgyrchoedd.
Mae'n rhaid i ymgyrchwyr amhleidiol gofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol os ydynt yn bwriadu gwario mwy na £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu dros £20,000 yn Lloegr ar weithgarwch ymgyrchu yn ystod cyfnod rheoledig.
Roedd yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd lai na £250,000 yn Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU gyflwyno eu cofnodion erbyn 12 Mawrth 2020.
Mae gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd dros £250,000 tan 12 Mehefin 2020 i gyflwyno eu cofnodion archwiliedig.
Mae dadansoddiad llawn o wariant pleidiau ar gael.
Mewn etholiadau cyffredinol heb eu trefnu, rhaid i ymgyrchwyr amhleidiol adrodd yn eu cofnodion gwariant am unrhyw roddion dros £7,500 a gawsant. Rhaid rhoi gwybod am y rhoddion hyn hefyd yn ystod y cyfnod adrodd cyn y bleidlais. Nid ydynt yn adrodd am roddion bob chwarter fel y mae pleidiau yn ei wneud. Cyhoeddwyd rhoddion i bleidiau gwleidyddol yn chwarter cyntaf 2020 yr wythnos ddiwethaf.
Mae'n ofynnol i bob plaid wleidyddol a gystadlodd yn yr etholiad cyffredinol gyflwyno cofnodion gwariant ymgyrchu i'r Comisiwn Etholiadol, yn ogystal ag ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd dros y trothwyon cofrestru. Mae'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cofnodion gwariant yn dibynnu ar faint a wariodd plaid neu ymgyrchydd.
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi'r cofnodion fel y'u cyflwynwyd gan y blaid neu'r ymgyrchydd. Lle y bo'n briodol, bydd yn ystyried unrhyw wallau neu wybodaeth anghyflawn yn unol â'i Bolisi Gorfodi.
Y dyddiad cau ar gyfer y cofnodion hyn oedd 12 Mawrth 2020, cyn i gyfyngiadau sylweddol gael eu gosod mewn perthynas â'r pandemig COVID19. Serch hynny, ystyriwn bob achos unigol lle bu rhywfaint o effaith ar allu pleidiau ac ymgyrchwyr i gyflwyno ffurflenni prydlon a chyflawn.
Roedd gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd dros £250,000 tan 12 Mehefin 2020 i gyflwyno eu cofnodion gwariant.