Cyhoeddi rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar gyfer Ch3 2021

Cyhoeddi rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar gyfer Ch3 2021

Adroddodd 25 plaid wleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu bod wedi derbyn cyfanswm o £11,462,233 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn nhrydydd chwarter 2021 (mis Gorffennaf hyd at fis Medi), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw. Mae hyn yn cymharu ag £8,974,199 a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2020.

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:

“Mae tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn bwysig i hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd. Derbyniwyd dros £11 miliwn mewn rhoddion gan bleidiau gwleidyddol yn nhrydydd chwarter y flwyddyn, ac mae’r data hyn yn galluogi pleidleiswyr i weld o ble daeth y cyllid.”

Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol, a chynnwys:

  • rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
  • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
  • rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
  • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.

Y 25 plaid wleidyddol a adroddodd am roddion yn ystod chwarter tri 2021, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:

Plaid

Cyfanswm a adroddwyd

Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus)

Arian cyhoeddus a dderbyniwyd

Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn

Plaid Alba

£20,390

£13,240

£0

£13,240

Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon

£20,082

£0

£20,082

£20,082

Plaid Gomiwnyddol Prydain

£12,000

£12,000

£0

£12,000

Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr)

£4,190,748

£3,733,826

£407,916

£4,141,741

Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon)

£15,608

£5,203

£0

£5,203

Y Blaid Gydweithredol

£322,733

£322,733

£0

£322,733

Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P

£83,409

£0

£83,409

£83,409

Y Blaid Werdd (Prydain Fawr)

£68,355

£21,576

£44,313

£65,889

Y Blaid Werdd (Gogledd Iwerddon)

£5,377

£0

£5,377

£5,377

Y Blaid Lafur

£4,001,536

£1,835,058

£2,159,628

£3,994,686

Y Democratiaid Rhyddfrydol

£1,412,324

£783,334

£601,871

£1,385,205

London Real Party

£196,773

£10,058

£0

£10,058

People Before Profit Alliance

£21,318

£5,250

£4,518

£9,768

Plaid Cymru

£109,983

£84,000

£25,983

£109,983

Reform UK

£25,000

£25,000

£0

£25,000

Plaid Werdd yr Alban

£11,485

£0

£5,133

£5,133

Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)

£303,463

£86,097

£216,366

£302,463

SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)

£61,229

£8,000

£53,229

£61,229

Sinn Féin

£85,739

£5,208

£80,531

£85,739

The Reclaim Party

£250,000

£250,000

£0

£250,000

Plaid Sosialaidd Prydain Fawr

£500,000

£500,000

£0

£500,000

Traditional Unionist Voice - TUV

£6,840

£0

£6,840

£6,840

Plaid Annibyniaeth y DU

£2,853

£2,853

£0

£2,853

Plaid Unoliaethwyr Ulster

£23,603

£0

£23,603

£23,603

Plaid Cydraddoldeb Menywod

£20,000

£20,000

£0

£20,000

Cyfanswm

£11,770,847

£7,723,435

£3,738,798

£11,462,233

Gallai’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm a adroddir gan blaid gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a / neu roddion a adroddwyd ar gyfer y chwarter anghywir.

Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.

Fe wnaeth saith plaid fethu â bodloni'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.

Yn ogystal, cafodd £132,000 o fenthyciadau newydd eu hadrodd yn nhrydydd chwarter 2021. Cafodd benthyciadau â gwerth o £12,160 eu talu’n llawn.

Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.

Yn nhrydydd chwarter 2021, derbyniodd 37 o dderbynwyr £476,302 mewn rhoddion. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.

Math o dderbyniwr a reoleiddir

Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd

Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor

Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd

Maer

£13,814

0

£13,814

Cymdeithas Aelodau

£77,729

0

£77,729

AS - Aelod Seneddol

£369,384

£15,375

£384,759

Cyfansymiau

£460,927

£15,375

£476,302

Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau yn nhrydydd chwarter 2021, gan gynnwys y prif roddwyd a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.

Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]

 

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel a hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • ddefnyddio ein harbenigedd i wneud, ac eirioli tros, newidiadau i’n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.

  1. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cydgrynhoad o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.
  2. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn y mae pleidiau yn eu hadrodd, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
  3. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Byr' a 'Cranborne' ar gael i bleidiau'r wrthblaid yn Nhŷ’r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi yn ôl eu trefn.
  4. Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Dyma'r Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu fwy o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn.
  5. Roedd 357 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod trydydd chwarter 2021. Roedd gofyn bod 65 ohonynt yn cyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a bod 50 yn cyflwyno gwybodaeth benthyca. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.
  6. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
  7. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau.
  8. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
  9. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.