Cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr
Introduction
Gwnaeth 16 o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr roi gwybod eu bod wedi derbyn cyfanswm o £14,851,158 mewn rhoddion yn ystod ail chwarter 2019, yn ôl y ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn dros £8 miliwn yn fwy na'r swm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter blaenorol, rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2019.
Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau bob chwarter i'r Comisiwn Etholiadol. O fewn y ffurflenni hyn, mae pleidiau yn rhoi gwybod am y canlynol:
- rhoddion a dderbyniwyd uwchlaw'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai gan un rhoddwr sydd gyda'i gilydd yn adio i gyfanswm sy'n uwch na'r trothwy adrodd
- rhoddion y dylid bod wedi rhoi gwybod amdanynt yn ystod chwarteri blaenorol; a
- rhoddion nas caniateir y maent wedi'u derbyn a chamau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.
O ganlyniad i roddion nas caniateir sy'n cael eu dychwelyd a'n bod yn cael gwybod am rai rhoddion yn hwyr, gall y swm y mae plaid yn rhoi gwybod amdano mewn ffurflen chwarterol fod yn uwch na'r swm a dderbyniwyd.
Gwnaeth 16 o bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2019 ac roedd y rhain yn cynnwys:
| Plaid | Cyfanswm a gofnodwyd | Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cyllid cyhoeddus) | Cyllid cyhoeddus a dderbyniwyd | Cyfanswm a dderbyniwyd |
|---|---|---|---|---|
| Brexit Express (BE) | £8,851 | £7,971 | £0 | £7,951 |
| Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr | £11,458 | £11,458 | £0 | £11,458 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £5,428,457 | £5,344,058 | £66,898 | £5,410,957 |
| Y Blaid Gydweithredol | £444,390 | £444,390 | £0 | £444,390 |
| Y Blaid Werdd | £176,723 | £146,696 | £28,139 | £174,835 |
| Y Blaid Lafur | £5,064,718 | £2,019,236 | £2,981,572 | £5,000,808 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £1,909,186 | £1,272,267 | £603,669 | £1,875,936 |
| Plaid Cymru | £71,445 | £0 | £27,660 | £27,660 |
| Y Blaid Renew | £10,000 | £10,000 | £0 | £10,000 |
| Plaid Werdd yr Alban | £14,105 | £0 | £10,516 | £10,516 |
| Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £560,570 | £156,986 | £336,276 | £493,262 |
| Plaid Brexit | £1,049,000 | £1,039,000 | £0 | £1,039,000 |
| Y Grŵp Annibynnol am Newid | £263,120 | £263,120 | £0 | £263,120 |
| Y Blaid Radicalaidd | £6,000 | £6,000 | £0 | £6,000 |
| Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) | £36,265 | £36,265 | £0 | £36,265 |
| Plaid Cydraddoldeb Merched | £44,000 | £39,000 | £0 | £39,000 |
| Cyfanswm | £15,098,288 | £10,796,428 | £4,054,730 | £14,851,158 |
Derbyniodd saith plaid gyfanswm o fwy na £4 miliwn mewn cyllid cyhoeddus (manylion yn y tabl uchod).
Mae'r cyfansymiau a gyhoeddwyd heddiw ac sydd wedi'u nodi uchod yn cynrychioli swm y rhoddion hynny sy'n ddigon mawr i fod uwchlaw'r trothwyon adrodd. Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill gan unigolion neu gyrff gwahanol sydd islaw trothwyon adrodd i'r Comisiwn. Gan eu hystyried fel cyfanswm, gall y rhain fod yn ffynonellau sylweddol o incwm i'r pleidiau.
Methodd 18 plaid â chyflwyno adroddiad ar gyfer y chwarter hwn erbyn y dyddiad cau. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o'r materion hyn yn unol â'i Bolisi Gorfodi a bydd yn cyhoeddi unrhyw sancsiynau i'w cymhwyso yn ddiweddarach.
Benthyg
Roedd gwerth benthyciadau dyledus i bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr o 30 Mehefin 2019 yn £3,658,521, sy'n dangos cynnydd bach o £1,574 o gymharu â diwedd y chwarter blaenorol.
Meddai Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn y Comisiwn Etholiadol:
"Mae cyhoeddi data am roddion a benthyciadau pleidiau ar ein cronfa ddata ar-lein yn golygu y gall pleidleiswyr weld yn glir o ble yn union y mae'r pleidiau gwleidyddol yn cael eu cyllid. Mae hyn yn arwain at system cyllid gwleidyddol mwy tryloyw a dibynadwy ac yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth.
"Lle mae pleidiau yn methu â chyflwyno eu ffurflen ar amser, ac nad oes unrhyw esboniad rhesymol am fethiant o'r fath, byddwn yn cymryd camau cadarn i ddelio â hyn yn unol â'n Polisi Gorfodi."
Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn ystod Ch2 2019
Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn ystod Ch2 2019
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi rhoddion a derbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir bob mis. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi etholedig perthnasol a chymdeithasau aelodau.
Yn ystod ail chwarter 2019, derbyniwyd 268 roddion gan 79 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, yn ogystal â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.
| Math o dderbynnydd a reoleiddir | Gwerth rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd | Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor | Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd |
|---|---|---|---|
| Meiri Etholedig | £58,909 | £0 | £58,909 |
| Cymdeithasau aelodau | £173,500 | £0 | £58,909 |
| Aelodau o Senedd y DU | £2,044,207 | £142,893 | £2,187,100 |
| Cyfansymiau | £2,276,616 | £142,893 | £2,419,509 |
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o'r rhoddion y rhoddwyd gwybod amdanynt gan bleidiau Prydain Fawr yn ystod ail chwarter 2019, gan gynnwys y rhoddwyr mwyaf a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.
I gael gwybodaeth am roddion a chyllid cyhoeddus y rhoddwyd gwybod amdanynt gan bleidiau gwleidyddol a derbynwyr a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon, darllenwch ein datganiad i'r wasg.
Mae manylion llawn am roddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.
Diwedd
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
- Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod a benthyciadau i'r Comisiwn Etholiadol bob chwarter. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am yr holl roddion a benthyciadau dros £7,500 sy'n gysylltiedig â'r blaid ganolog, neu dros £1,500 os yw'n gysylltiedig â'r uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.
- Gan fod y pleidiau ond yn rhoi gwybod am roddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn, nid yw'r ffigurau yn cynnwys pob rhodd a benthyciad i bleidiau gwleidyddol. Caiff y rhoddion a'r benthyciadau o dan y trothwyon hyn eu cofnodi yn Natganiad Cyfrifon Blynyddol pleidiau gwleidyddol.
- Ystyr cyllid cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i wrthbleidiau y naill i Dŷ'r Cyffredin a'r llall i Dŷ'r Arglwyddi.
- Nodwyd ar y gofrestr bod rhai rhoddion yn dod o'r Comisiwn Etholiadol. Grantiau Datblygu Polisi yw'r rhain, a gafodd eu sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sy'n cael eu cynrychioli gan ddau aelod presennol neu fwy yn Nhŷ'r Cyffredin. Nod y grantiau yw helpu pleidiau i ddatblygu polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiad. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 filiwn bob blwyddyn at y diben hwn. Roedd yn ofynnol i adrodd am Grantiau Datblygu Polisi fel rhoddion am y tro cyntaf yn chwarter tri 2016 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
- Roedd 365 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr yn ystod chwarter dau 2019. Roedd yn ofynnol i 70 ohonynt gyflwyno adroddiad chwarterol ar roddion ac i 62 ohonynt gyflwyno gwybodaeth am fenthyg o fewn y dyddiad cau. Roedd y pleidiau gwleidyddol eraill wedi'u heithrio (oni bai eu bod wedi derbyn rhoddion) am eu bod wedi cyflwyno pedair ffurflen dim trafodion yn olynol.
- Mae'r ffigurau y rhoddwyd gwybod amdanynt ar gyfer rhoddion a benthyciadau chwarterol wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigurau ar gael ar ein gwefan.
- Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n gyfystyr â derbynnydd a reoleiddir a'i ofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
- Mae Aelodau Seneddol yn rhoi gwybod am y rhoddion y gwnaethant eu derbyn i Gofrestr o Fuddiannau Ariannol Aelodau.
- Mae Aelodau o Senedd yr Alban yn rhoi gwybod am y rhoddion y gwnaethant eu derbyn i Gofrestr o Fuddiannau Senedd yr Alban.
- Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn rhoi gwybod am eu rhoddion i ni yn uniongyrchol. Yna, rydym yn cyflwyno'r wybodaeth hon bob mis fel rhan o'n rôl yn darparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.