Diweddariad misol - ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Ionawr 2019)
Diweddariad yr ymchwiliad
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau a rhoddwyd cosbau:
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
---|---|---|---|
Y Blaid Lafur | Methu â danfon adroddiad rhoddion chwarterol cywir; methu â danfon adroddiadau cyn y bleidlais wythnosol ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 | £12,000 a £500 cosbau ariannol amrywiol | Taliad yn ddyledus ar 17 Ionawr |
Movement for Consensus | Danfon adroddiad benthyciadau a rhoddion chwarterol; adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais; a chyfrifon blynyddol 2017 i gyd yn hwyr | £2,080 o gosb ariannol amrywiol | Taliad yn ddyledus ar 28 Ionawr |
Mr Robert Griffin | Talu am wariant ymgyrchu pan nad oedd yn berson awdurdodedig | £200 o gosb ariannol benodol | Talwyd ar 7 Rhagfyr 2018 |
Conservative and Unionist Party (uned cyfrifo High Peak) | Methu â dychwelyd rhodd nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'i dderbyn | Cosb ariannol benodol £200 a fforffedu gwerth llawn rhodd (£1,000) | Talwyd ar 7 Rhagfyr 2018 |
National Health Action Party | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | £500 o gosb ariannol amrywiol | Talwyd ar 18 Rhagfyr 2018 |
Democratiaid Rhyddfrydol | Methu â danfon cofnodion rhoddion chwarterol cywir ar amser | £200 o gosb ariannol benodol | Talwyd ar 17 Rhagfyr |
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
Mae'r gosb yr ydym wedi'i rhoi i'r Blaid Lafur am adroddiad rhoddion gwallus yw'r ddirwy fwyaf yr ydym wedi ei rhoi ar gyfer trosedd o'r fath. Fel plaid wleidyddol wedi'i chyllido'n dda, dylai allu fodloni'r gofynion cyfreithiol.
Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan fo pleidiau ac ymgyrchwyr yn methu â chydymffurfio. Mae'r gyfraith yn nodi'n glir pryd bod gofyn cyflwyno data i'r Comisiwn a sut.
Byddwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau ond ni roddwyd cosbau:
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
---|---|---|---|
Hong Kong Independence Party | Methu â darparu datganiad cyfrifon 2017 | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Farnworth and Kearsley First (plaid gofrestredig) | Danfon adroddiad rhoddion chwarterol yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Halstead Residents Association (plaid gofrestredig) | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- [email protected]
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
Crëwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.